Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

:SYR OWEN THOMAS.t

News
Cite
Share

SYR OWEN THOMAS. t "Beth a wneir i'r gwr y mae y Brenin I yn ewyllysio ei anz-liydeddu?" gofynai j Ahasferus gynt i'w Brif Weinidog yn Susan y breahinllys. Gofynir yr un cwestiwn ddwywaith y flwyddyn, sef ar f y Calan ac ar ei ddydd penblwydd, gan ¡ l Freniu Prydain i'w Brif Weinidog yntau. Ehoddir teitlau ac urddau gan 1 I y Brenin i hwn a'r 11 all ar adegau eraill, eithr arall yw yr anrhydedd hwnw I. I ac arall yr un a roddir ar yr adegau a nodwyd. Eleni mae rliestr tcit.l,,iu ,)- Can cliwech. wythnos yn ddiweddar. I Gellir cyfrif am hyny o bosibl am newid o'r Brenin y Prif \Veinidog oedd yn ei gyfarwyddo yn y mater bythefnos cyn adeg arferol, cyboeddi'r rhestr. Prin y 1 gellid disgwyl i Mr. Lloyd George iab- wysiadu rhestr Mr. Asquith yn ei chryn- swth, hyd yn oed pe hono yn barod gan y Cyn-Brif Weinidog cyn ymneilltuo ohono o'i gadair. Medda'r rhestr newydd, ddyddordeb mwy na'r cyffredin i Gymru am y ffaith mai dyma. y tro cyntal erioed i Gyrnro gael yr hawl i nodi y personau y dylai y 13renin eu hanrhydeddu. Ni ellir I beio Mr. Lloyd George am fod yn rhy hael i'w gydwladwyr. I Esfcynwyd anrhydedd y Brenin i bedwar Cymro y tro hwn. Dyddorol y\v sylwi fod y pedwar yn Ymneilltu- i w)-t-dau Fethodist a dau Aiiibynwr, a bod pob un o'r pedwar yn Gymro j Cvmreig, yn medru ac yn hoffi siarad yr hen iaith. Cynrychiolant hefyd bidair sir, tair yn y Gogledd, A-Ion, I Arfoo, a Dinbych; ac un yn y De,— Ceredigion. Os na ellir beio y Prif Weinidog am anrhydeddu nifer gor- modol o'i gydwladwyr, ni ellir ychwaith ei gyhuddo o osod anrhydedd rhy uchel ar unrhyw un ohonynt. "C.B." (Com- i panion of the Bath—(Cydymaith y Baddon) yn unig a gafodd y ddau Fethodist, Mr. Alfred T. Davies, Ysgrif- enydd Bwrdd Addysg Cymru, Llundain, a Mr. J. T. Davies, Ysgrifenydd Cyfrin- achol y Prif Weinidog. Eu gwneud yn "Farchogion" a, gafodd y ddau arall, Dr. Armstrong Jones, a'r Cadfridog! Owen Thomas. Mab i'r diweddar Barch. Thomas Jones, Eisteddfa, gweinidog yr Anibynwyr yn Penmorfa a Thremadog, yw y Marchog ddoctor, j I ac adwaenir ef fel un o awdurdodau ] meddygol blaenaf y byd ar glefydau yr ymenydd. Ysgolfeistr oedd Mr. J. T. Davies cyn cael ei benodi yn Ysgrifen- ydd i Mr. Lloyd George. Cyfreithiwr yn Lerpwl, yn bartner yn ffirm Mr. tfe-rbeit Lewis ydoedd Mr. Alfred T. Davies cyn cael ei benodi yn Ysgrif- enydd Swyddfa Addysg Cymru. Gwelir felly fod hen gysylltiad rhwng pob un o'r pedwar a Mr. Lloyd George,—Dr. I Armstrong Jones yn hen gymydog; Mr. J. T. Davies yn Ysgrifenydd iddo; Mr. Alfred T. Davies yn bartner mewn busnes gyda Mr. Herbert Lewis, cyfaill rnynwesol a, ffyddlonaf y Prif Weinidog, J yr hwn hefyd a. sicrhaodd benodi ad Mr. j Alfred Davies i'w swydd yn Llundain; a'r Ladfridog Owen Thomas yn wr a alwyd gan Mr. Lloyd George ei hun i ffurfio Byddin Cymru. Nid oes Far- wnig, chwaethach teitl uwch, ymhlith teitlau Cymru eleni. Nid oes neb a warafuna i un o'r pedwar yr anrhydedd a osodwyd arno gan y Brenin. Teilynga pob un ohonynt yr anrhydedd a gafodd—a mwy. Tebyg I yw y dymuna-sai Mr. Lloyd George gynwys mwy o Gymry na'r pedwarawd hyn yn y rhestr, ac o bosibl rhoi teitlau uwch i rai ohonynt, ond ei fod yn cael ei rwystro gan ystyriaetliau eraill, gan yr ofn, efallai, y cyhuddasid ef p ffairio yn ormodol ei wlad a'i genedl ei hun pe y dilynasai gymhelliad ei gnlon yn lie synwyr ei ben. Tra yn llongyfarch y pedwar, ag un ohonynt yn fwyaf neillduol, y Cadfridog j Syr Owen Thomas, y mae a wnelom yn I benaf ar hyn o bryd. Nid oes Gymro j arall, oddigerth Mr. Lloyd George ei I hun, wedi bod gymaint yn llygaid nac mor ddwfn yn serch ei gyd-genedl y j misoedd diweddaf ag a fu, ac ydyw eto, y Cadfndog Owen Thomas. Nid oes angen ail adrodd ystori y cam dybryd a gafodd efe oddiar ddwylaw yr awdur- dcdau milwrol. Ni ellir edryeh ar v teitl a roddwyd iddo yn awr ond yn uni fel eli i'r clwyf a gafodd efe. Mor bell ag y mae y teitl ynddo ei hun yn gydna- byddiaeth swyddogol ddarfod iddo gael cam, ac haeddu ohono anrhydedd yn lie I y gwarth a osodwyd arno, bydd Cymru benbaladr yn cyd-lawenhau ag ef. Eithr nid digon hyn i Owen Thomas ei hun, ac yn sicr rhy fach ydyv; o lawer o iawn i Gymru am y sarhad swyddogol di-alw-am-dano a daflwyd ar holl genedl y Cymryr drwy anghyfiawnder gwarth Kinmel. Synwn weled newyddiadur o safle a thraddodiadau y "Manchester Guardian" yn dweyd mai doeth a fyddai i Gymru adael pethau fel y maent gan fod cymeriad y Cadfridog ei hun wedi cael ei rrlirio. Eithr nid felly. Da. ¡ fyddai i Gymru a Chymry gadw mewn cof nad yw hyd yn oed y "Manchester j Guardian," er ffvddloned ei ymlyniaeth I wrth Pyddfrj'di. eib Lloegr, ericed wedi JU—1 — Li_— deall anianawd Cenedl y Cymry, nac erioed wedi bod mewn cydymdeimlad trwyadl ag Ymneilltuaeth Cynu'u. Digon yw adgofla un ffaith hollol nod. weddiadol. Yin mrwydr fawr olaf Dadgysylltiad cyn dyfod ohoni i'r esgor- eddfa, rhwystr ac nid cymorth a fu y "Manchester Guardian" i ymdrechion Cymru gyian. Mae cymeriad holl genedl y Cymry yn gyplysedig yng Dgw-ajth Kinmel; ac nid oes unrhyw anrhydedd personol a delir hyd yn oed gan y Brenin i'r Cadfridog Owen Thomas yn ddigon o iawn i Gymru am y cam a'r sarhad a gafodd hi. Dylai Owen Thomas ei hun gael dau beth eto cyn y geill ei gyfeillion a'i gyd- wladwyr gymeradwyo ei waith yn derbyn anrhydedd Marchog. Dylai I gad gan y Llywodraeth i ddwyn yr holl gostau yr aeth efe iddynt wrth ghrio • ei gymeriad. Dylai gael gan y Swyddfa I Ryfel i dynu yn ol yn gyhoeddus yn J Nhy y Cyffredin yr ensymadau brwnt a. daflwyd arno yno llynedd gan Mr. Tenant a Mr. Forster. Dyna'r lleiaf a fedr cyfiawnder a chenedl ddisgwyl. Dylai Cymru gael dau beth arail cyn y geill hi, yn gyson a'i hanrhydedd, adael i'r helynt orffwys yn y bedd lie mynai swyddogaeth Seisnig ei gladdu. Dylai fynu gweled cyhoeddi yr holl dystiolaethau a roddwyd yn Llys yr Ymchwiliad. Dylai fynu gweled cospi y swyddogion uchel, Arglwydd French a Syr John Cowans, a fuont yn ol Ad- roddiad y Llys Ymchwiliad, yn gyd- gyfranog yn y camwri a wnaed. Da y gwnaeth Mr. Ellis Davies i godi'r cwestiwn yn Nhy'r Cyffredin I ddydd Mercher diweddaf. Gwell y gwnaeth wrth roi rhybudd y cyfyd efe y 'I pwnc eto ddvdd Mawrth rlesaf oherwydd natur anfexldhaol yr atefe a roddwyd ar ran y Swyddfa Rhyfel i'r hyn a ofynai efe. Ceir gweled dydd Mawrth ai I corsen yn cael ei hysgwyd gan wynt I ffafraeth neu ofn y Llywodraeth, ynte I derwen gadarn ddiysgog yn amddiffvn Cymru a'i hawliau yw yr hyn a elwir yn Blaid Gymreig yn y Senedd. "Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hvrynt. ———— ————

Y BLAID GYMREIG.

NODIADAU.I

I DIWEDDARAF.