Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Atgofion Eisteddfodol
Atgofion Eisteddfodol Ym Mhontypdidd, bu yn helynt ar adeg y Cadeirio. Yr oedd Gwilym Cowlyd yn arighytuno a Dyfed a Phedrog yng nghylch pwy oedd i gael y Gadair; a mynnai gael datgan ei farn yn gyhoeddus ar y llwyfan. Nid oedd na phwyllgor na swyddog a fed- rai ei galw rhag rhuthro. i'r llwyfan, yn groes i bob rheol ac arfer; ond cyd- iodd y diweddar Farnwr Gwilym Wil- liams yn ei war, a dywedodd y buasai yn ei yoli o. dan ofal heddgeidwad os na çhydýuffurfiai a deddfau Beirdd Ynys Prydain. Gwelodd Gwilym y Bardd nad oedd Gwilym y Barmvr yn un i gellwair ag. ef; ysgydwojJd Iwch y babell oddiwrth ei draed, aeth i babell y trysorydd am ei dal; a ffwrdd ag ef yn ol tua Llanrwst gyda'r gerbydres J gvntaf a gafoddj "a bu tawelwch mawr." Wedi i'r "bardd pendant" fyn'd o'r golwg trwy borth y babell taflodd Watcyn Wyn englyn ar ei ol Cowlyd ni wnai cncilio—o'i bwlpud, Heb help i'w symudo; Ond dwrn barn gauwyd arno Pan aeth grym Gwilym o'i go'. Trychinebus fu hanes Eisteddfod Po.ntypridd-i'r pwyllgor. Bu y golled ariannol yn agos i dair mil 01 bun- iicedd Cafodd yr eisteddfodwyr ymarferol eu goresgyn gan- ddynion na wyddent nemawr ddim am y gwaith; a bu rhai ohonynt yn cicio a thuchan pan oeddent yn gorfod talu am eu byr-bwylldra. Ag eithrio. y golled ariannol, yr oedd yn un o'r eis- teddfodau goreu a gynhaliwyd erioed. Yn y cystad 1 euacthau corawl, mae yn amheus a gyrhaeddwyd y fath safle na chynt na chwedyn. Nid oes neb oedd yn wyddfodol a anghofia gystadleu- aeth gorawl y bechgyn—yn neilltubl corau Tom Stephens, William Thomas, a Tom Richards, Ymdrech y cewri ydoedd. Cor Tom Stephens a gurodd; ac aeth ef a'i gor i Chicago yn niwedd yr un flwyddyn, a churodd yno drachefn. Ym Mhontypridd y cyfarfum a Gwilym Eryri am y tro- cy taf-alr olaf. Enillodd ar yr Hir- a-tnoddaid—'Toriad y Dydd," a'r Fyfyrdraeth—"Brad Aberedw." Yn fuan wedi hynny aeth y bardd "ar goll,' ac ni chlywyd son am dano, mwyach. Bardd rhagorol, a chym- deithaswr cystal a hynny, oedd Gwilym; a bu Cymru yn dlotach o'i fyned ar ddifancoll. Yn Eisteddfod, Genedlaethol gyntaf Caerdydd pan gynhelid hi yn un o adeiladau Cwmni Rheilffordd y Taf, Gwilym enillodd ar yr englyn—"Anadl.' Dyma fe:- ■V Anadl wan, ei dolenni yw'm cadwen,- Yn fyw'm oedwir trwyddi; A'i ddyrnod, ryw ddydd, arni, Tyrr angau fwlch-trengaf fi Testyn y Gadair yn yr eisteddfod honno oedd—"Y Llong." Nid wyf yn cofio pwy oedd yn beirniadu beth bynnag am hynny "cadair wag" fu yno. Credaf mai awdl Watcyn Wyn a fernid ar y blaen. Dywedai y beirn- iaid mai dechreu yn fain a wnai, ei bod yn braffach yn ei chanol, ac yn mein- hau tua'r diwedd. Dywedai Watcyn fod pob llong felly, ac na ddylesid ei gondemnio am wneud ei awdl yr un fath a'r llong. Yn yr eisteddfod fath a'r 1 1 0 ,n g lioinno y daeth Cor Bangor, dan ar- weiniad Dr. Rogers, ar ei ruthrgyrch gyntaf i'r De, a chipio- y llawryf oddi- ar gantorion y De yn ddigon disere- moni. Gan tfy mod eisoes yng Nghaer- dydd, dichon y byddai cystal i mi ddod ar draws yr ail Eisteddfod Genedlaeth- ol a fu yno-, ugain mlynedd yn pi. Lie anffodus i'r Beirdd yw Caerdydd wedi bod—dw7y, "gadair wag." ( "Glad- stone" oedd testyn y Gadair y tro diw- eddaf y bu y brifwyl yno. Bu amryw droion doniol mewn cysylltiad A'r- eis- teddfod hon. Mae strikes wedi dyfod yn bethau dyddiol wedi hynny. Caf- wyd dwy strike yng Nghaerdydd. Fel y gwydd^'s, mae yn arferiad i'r beirdd a gymerant ran yn yr orymdaith a gweithrediadau yr Orsedd gael "tocyn rhydd" i'r eisteddfod. Gomeddai y pwyllgor y fraint arferol. Wedi i'r beirdd ymwisgo, yn eu gogoniant, trodd pob un ei gefn ar bared coed y Babell, a phenodwyd Creidiol, Rheith- ior y Faenor, i fynd i ymresymu a'r pwyllgor. Beth bynnag a ddywedir am y beirdd, fe gafodd y wlad wybod y pryd hwnnw nad oeddynt yn rhai i gellwair a hwy. Yr oedd pawb o un fryd yn benderfynol o fynnu eu hawl- iau. Yr oeddym i ennill y fuddugol- iaeth, neu ynte i'r eisteddfod fod heb orymdaith na Gorsedd; ond daeth y strike i ben mewn ychydig funudau, a ninnau yn barod i waeddi, fel glowyr y cyfnod hwnnw-" O Creidiol ag e. "-(Brynfab yn "Y Geninen" am Hydref. )
Uhybudd Drwy'r Wasg.
Uhybudd Drwy'r Wasg. Dymuna Bwrdd lechyd Cymru eto alw sylw cyflogwyr ac eraill at y ffaitn fod swm y cyflog hyd at, yr hwn y mae personau sydd heb fod yn weithwyr a dwylo, yn rhwym i yswiriant iechyd gorfodol wedi ei godi o ^160 i £'250 > yn y flwyddyn. Gan hynny mae yn ofynnol ar gyflogwyr, o Awst 15, 1919, dalu cyf- 1 raniadau at yswiriant iechyd ar iran gweithwyr (sydd HEB FOD YN WEITHWYR A DWYLO) a gyflogir ganddynt o dan gytundeb gwasanaeth pan fyddo graddeg y cyflog (yn cyn- nwys unrhyw "bonus" rheolaidd etc. J yn uwch na ^160, ond heb fod yn uwch na C250 yn y flwyddyn. Gall gweithiwr heb fod yn weithiwr a dwylo y byddo graddeg ei gyflog dros 1.;160 ond heb fod dros 4,250 yn y tlwyddyn4 cyn Rhagfyr 31, 1919, ac ar amodau ijeilltuol, wneud cais am Dystysgrif Rhyddhad (Certificate of Exemption), ac os caniateir y Dystys- grif honno, cyfraniadau y cyflogydd yn unig (3c. yn yr wythnos) fydd' yn daladwy. Gan y bydd yr amser, o fewn yr hwn y gellir anfon ceisiadau yn dyfod i ben yn fuan, dylai rhai fwriadant wneud ceisiadau eu hanfon heb ragor o oediad. Gellir cael' ffurflenni i wneud cais am Ryddhad 0 dan y Ddeddf [Form XI (f) (Wales)] oddiwrth Fwrdd lechyd Cymru, Neu- add y Dinas, Caerdydd.
I.A! DYMA EICH ARWYDDION?
I. A! DYMA EICH ARWYDDION? I Rhybudd Natur 0 Anhwylder Marwol yr Arennau. Y11 y bore wrth ddeffro y mae cur yn eich pen ac y mae eich genau yn syeh ac anghvrines. Cewch deimlo cnoi y cryd- cymalau mewn amryw rannau o," r corff, traed chwyddedig, a phocedan dan y llygaid. Y mae gennych dddlur cefn am- bell waith fel pe byddai ar dorri, gweith- reda eich .corff yn afreolaidd, y mae gwaew yn y bledren, yr ydych yn flin a cliflas. Acliosir yr arwyddion hyn gan am- bureddau gwenwynig yn y gwaed, y rhai y dylai'r arentianu, pan font yn iacli, en trosglwyddo o'r corff yn y fhirf o urigt sur. Nid yw eich arennau yn gweitbredu yn, briodol; y mae arnynt angen en glanhau a'u cyffroi. Ni ellir gwneud hyn gyda meddyginiaeth sydd yn i-heoleiddi.or ymysgaroedd. Ffurfia Pelenau De Witt at yr Arennau a'r Bledren drwyth gwrtb- wenwynig yn y cylla sydd yn rhedeg trwy yr arennau a'r bledren, a krawf ei bresen- oldeb trwy wawr las yn y dwfr sydd yn cychwyn draehefn ddwyn. Ylllaith y gwen- wynan fu yn cloi eich cyfansoddiad. Pro- fodd miloedd o bobl dros yr holl fyd drostynt eu hujiain yr ansoddau iacliaol rhyfeddol a pharhaus a berthyn i fielen- au De Witt at yr Arennau a'r Bledren. Gwerthir Peleni De Witt at yr Arennau a'r Bledren mewn blychau gwynion, ar- graffedig mewn glas ac aur. Gcllwclx eu cael oddiwrth Boots ac ymhob Siop Ffer- yllydd o'r dosbarth blaenaf am 2/9 y blwch neu 5/- am flwch dan a banner cy- maini>—arbediad mawiv Os cewch ryw anhawster i gaffael Pelenau De Witt at yr Arennau a'r Bledren, gyrrwch eich ar- ian yn uniongyrchol i E. C. De Witt (Dept. 168M), 44/45 Rathbone Place, London, W.1, a chwi a gyflenwir gyda'r troad, yn ddidraul; neu os carech eu profi i ddechreu, heb eu prynu, crybwyll- wch enw eich fferyllydd- a chewch flwch prawf rhad, wedi ei Japio yn blaen, gyda throad y post.
,fountain Ash.
fountain Ash. Eglwys Noddfa, M.C.—Y Parch. W. E. Prytherch, Abertawe, a fu'n bre- gethu yng nghyfarfodydd blynyddol yr eglwys uchod nos Lun a dydd Mawrth, Tach. 10, 11. Cafwyd cyfarfodydd Ilwyddiannus, a'r pregethwr fel arfer yn llawn goleuni a Aerth. Un o rodd- ion pennaf y Goruchaf i Gymru ydyw Mr. Prytherch. Ynddo ceir gloywder y gweledydd a glewder y proffwyd, ac mae wedi ei eni yn f-reiniol. Mae eis- Mae eisoes wedi pregethu am 57 o flyn- yddoedd, a phery o hyd yn feistr 'cyn- ulleidfa. Nid oes na chilfach na chongl na chwmwd yng Nghymru nas clywodd ei hiis rywbryd. Gresyn na bai'n bosib i wron fel hwn gael dechreu eto yn ugain oed. Teimlem wrth ei wran- lo, "How can his glory fade 1" Lly- wyddwyd gan bugail parchus Noddfa, sef y Parch. ,G. H. Jones, B.A.
[No title]
- - -' -"""'."'''''''"'''"'.'''''''Ù";"",-,'';C'…
-Ù"C' -t; Tarian Facn y Flant. GAN lOAN Y RHINGYLL. F'annwyl Ffrindiau,-Faint ohon- och chwi, ysgwn i, sydd wedi dweyd wrthych chwi eich hunain, pan fydd- och yn pasio dyn mawr, tew, trwni ar y stryd—"Dyna ddyn cryf!" Ac yna, fe basiodd rhyw ddyn bychan, teneu, ysgafn, a dyma. chw-ithau yn dweyd wedi hynny, "Dyna ddyn bach gwan Yr ydych chwi blant, fel yr oeddwn innau 'ers talwm, yn credu fod ptjb dyn mawr yn ddyn cryf, iach, a bod pcb dyn bychan yn ddyn gwan, afiach. Ond os hohvch chi ychydig bach, mi gewch wybod nad yw pob dyn mawr yn ddyn cryf, iach, ac nad yw pol),dyn bychan yn wan ac afiach. Yn ami iawn, dynjon afiach ydyw dyn- ion mawr, tew. Yr oeddwn i yn siarad ag un o'r fath prynhawn ddoe, ac am fod yr hyn a ddywedodd yn enghraifft dda o'r hyn a ddywedais i wrthych pan oeddwn yn siarad am "Gog a Magog," mi ddodaf i lawr, i chwi gael cyfle i'w ddarllen, yr hyn a ddywedodd wrthyf. "U n o'r pethau rhyieddaf yn fy hanes i ydyw hwn, fy mod i ar ol pawb yn gwneud pob peth. Bron na fuaswn yn dweyd fy mod o leiaf dri mis ar ol pawb yn gwneud popeth. Ac nid fy mai i ydyw, ychwaith. Wedi cael fy nysgu i fod yr ydwyf, ie, wedi bod hefyd ar hyd fy mywyd. Yr oeddwn yn hwy na phawb arall o'm hoed yn dod o'm pais. Euthum i'r ysgol—yn fy mhais Cefais groeso mawr ynddi, bum yn destun difyrrwch i'r plant am wythnosau. Ond wedi gwasanaethu dros dclwy flynedd fel prentis mewn pais, cefais fy hun yn hi nit ii,rii'iJii«ni 1111 ii iiiwirnTirniii'iiMfi^iiiiiiiiiii ( Standard I—'mewn trowsus.' A dvma sut y digwvddodd. Mrs. Jones, wraig oedd \yn byw yn y ty nesaf, "rhowch Johnny bnch mewn trow sus; mae e'n rhv fawr i vvisgo pais, Vna croesholwyd finnau gan fy mam. "Johnny, ■ ebe hi, "ydi Twin Sjirab- Jones mewn trowsus?" "Ydi, mam, ers blwyddyn." "O'r, pcth bach!" ebe hithay. "Ydi Wil Ty'n Cefn, Huw Mary Roberts, a Dei Twll Cwm mewn trowsus?' Ydynt, mam, ebc finnau, "ers dros ddwy flynedd." 1 "O'r pethau bach!" medda mam, "hwyrach y cei dithau un y flwyddyn nesaf." i-kc itit "cfais drowsus .1 hefyd, ar ddiwrnod byth gofiadwy yn yr haf. Y rhwystr nesai oedd gwasgod. "'Tychv i ddim yn leicio gwasgod, mae hi'n rhy henaidd i blant bach, oedd esgus fy mam. Ac mewn rhyw siort o 'jersey,' neu 'flouse,' neu juniper I)flrll hyd y cyrhaeddais Standard Yr a wnaeth i'r plant I'y ngalw, yn "Jecsey" yn lIe "J ohnny. Rhyw- dair blynydd ar ol pa u b arall o'm hoed, deuais innau alian o'r ty un Sul mewn gwasgod. Pan gyrhaeddais yr Ysgol Sul, dyma rhyw si fel ton y mor trwy'r lle- "Ñfae Johnny bach wedi cael gwas- god Ond yr hyn a'm poenodd fwyaf oedd y 'top-coat. Cymerwch Gor- ffennaf;, fel dngraifft. Pan oedd pawb aralh yn neidio, chwarae a champio oddi amgylch a:u' 'top-coat' yn y ty, I yr oeddwn i druan yn llusgo fy nliraed ac yn chwysu a thuchan dan got fawr, drom, laes. Ni cliawswn, ei thynnu tan ddechreu Awst, ond ar y diwrnod cyntaf o, Fedi, fe'm gwelid eilwaith ynddi. Dyrna wnaeth i'r plant ofyn imi, "a oeddwn yn cysgu vnddi ? Fyddwn i yn bwyta ynddi? Fyddwn i yn ymolehi vnddi?" 'Roedd vr hen got honno wedi mynd yn boeri i'm hen aid -,t(- vri fli-nder i'ni cn-,LW(l. Euthum Ft- Ysgol Ganolraddol, a threuliais bedair blynedd ynddi mewn trowsus ben glin a chot ucha I. Euthum yn atlii-o, i ysgol, a dysgais blant talach na mi fy hun mewn trow- sus pen glin. Bum YL10 yn un ilafii mawr, tew am dros flwyddyn mewn trowsus pen glin, hyd y gelwid fi gan y plant oil "y 'teacher' mewn trowsus pen glin." Ond un noson dyma ffrind- iau fy mam ati i osod i lawr y gyfraith. 'Roedd yn rhaid i Johnny bach gael trowsus llaes. 'Doedd dim posibl t Johny bach fod yn athro da mewn trowsus pen glin. Mi fuasai'r plant yn rhoddi llawer rriwv o bwvs ar athro mewn trowsus llaes nag ar athro mewn trowsus pen glin. Felly y cef- ais i drowsus llaes, ac 1 ffrindiau fy mam yr wyf i ddiolch amdano. Oni bai am danynt hwyr buaswn wedi priodi mewn pais a 'jumper,' neu drowsus pen glin a 'thop'-coat. Dyna stcri y dyn ddywedodd yr hanes wrthyf ddoe. I ba un mae e'n clebyg, ai Gog ynte .Magog? Y mae wedi ei fagu mewn "hot-house," ac yn awr mae'n wan ac afiach. Der- byniwch y wers a bregetha.—A'r eidd- och yn bur, J. ELLIS WILLIAMS. ¡
Undeb y Cymdeithasau I.Cymraeg,
Undeb y Cymdeithasau Cymraeg, I ADRAN DWYRAIN DYFED. Gwelais gais gan Arthen yn y "Darian" dro yn ol ar i Orchwy, Ti'l\tyn neu Fyfyr Hefin, ICy tri wyr liyiil," roi gair o hanes yr Adran. Pleser yw mynegi ei bod yn dechreu ymysgwyd eto, ac os y cysgodd mai nid ar aelodau yr Undeb yr oedd y bai. Nid yw'r Gymraeg yn ddigon marw y ffordd hon i Gymry ddeffro, a chodi a brwydro. Ithaid i Gymro gael golwg ar ei elyn o f-laen el. lygad bob dmser. Mewn pryd y mae gwylio er hyuny. Beth bynnag, nos lau, Tachwedd Ged, y gwelwyd Orchwy o Lan^lli a Myfyr o Bumheol yn eyf- eirio eu camre i I Trimsaran, ac yno drwyddynt hwy ac ereill y plan- nwyd y planhigyn cyntaf hwn. Llywydd- wyd y, cyfarfod gan y Parch. J. M. Lloyd, M.C., gweinidog newydcl y labernacl, lie cynhefid y .cyfarfod. Siaradodd y "dd in frawd," a ddilynwyd hwy gan y Parch. J. T. Rees (Curad Llenddyri), Mri. T. E. Davies, M. D. Lloyd, NNTixi. Evans, J. Morris. i e Etholwyd y swyddogion caniyn- ol: Lly" wydd y Gymdeithas, y Parch. Mr. Uych, Tabernacle; cadeirydd y pwyllgor, Mr.T. E. Davies; ysgrifennvdd, Mr. M. D. Lloyd, Co-operative Stores; trysorydd, Mr. J. Owen, jGelli Fflat. Disgwyliwn i'r planhigyn hwn dyfu yn bren cryf a Chvmru a Chymraeg yn cael nodded o dan ei ganghenau. Y Sadwrn dilynoli y daith P-N,fiii.Ilt 1 Rehoboth, ger Haw Trimsaran. Bendith i'r Gymdeithas newydd a'r "Adran" a fu ei ymweliad. Traethai ar "Batrwn Bywyd," lie y gwasanaethai yn effeithiol iawn y Sul dilynol.Myfyr Hefin, Ysg. pro. tern.)
IACHUB PLENTYN RHAC IPNEUMONIA.
I ACHUB PLENTYN RHAC PNEUMONIA. Dolur Cyddfol Llym oedd yn mynd yn beryglus wedi ei welialn union gan Veno's Lightning, Cough Cure. *■ Dywed Mrs, Cooper, 47 Oscar Street, St. John's, Deptford, Loncloii, S:E. "Mae Veno's yn ardderchog. Y gaeaf diweddaf cafodd un o'm bechgyn bychain ymosodiad llym o ddolur gyddfol oedd yn agos iawn i fod yn Pneumonia, ond gwell- a(- yi- oedd yr  7 f vi,-i,ii hawyd ef gan Veno's, ac yr oedd yn fuan yn holliach eto. Y mae fy mhlant i i gyd yn cael Veno's, hyd yn oed y baban, pryd bynnag y caf hwynt yn peswch, ac yr wyf wedi ei gymeryd fy hun gyd a chanlyn- J iadau rhagorol. i Veno's Lightning Cough Cujre yw prif feddyginiaeth y byd at Beswch ac Anwyd, Doluriau'r Ysgyfaint, Y Fogfa, Bronceitns, Ffi-oenlif Crygni, Anadlu Anodd, ac lnlfflwellsal. Cymeradwyif yn arbennig a" y Pas a doluriau gyddfoi eraill mewn plant. Prisoedd Is. 3c. a 3s;—v maiiit 3s. yw'r rhataf. Oddiwrth Eferyllwyr a Gwertliwy)- Cyffyrkiu ymhob I man. Pwyswch ar gael Veno's a gwrth- odwch efelychiadau.
I.'I j .. Newyddion. : '.…
Newyddion. > 1 ? Tredegar.—Ychydi.g- wytUnosau yn 01 dywedodd Tramp y DARIAN nad oedd ?anddoamseri oly?y DARIAN yn absenoJdeh y Go!, am ei fod wedi addaw mynd i helpu Ap Nc)ah i gwnnu tatws. Tebyg fod y gorehwyl hwnnw arbon. 0. h b oherwydd gwelais« yr wythnos hon fod y Tramp yng N'ghaerffdi yn trefnu pethau yno. Ond pIe mao Ap Noah. Nid oes neb wedi ei wcled ar ben cloo mawr [1'1 "rO(le.gal' oddiar 'hynny. Gwell i'r Tramp ddweyd pa Ie y 111ae,gan mai yn ei gwmpeini ef ar y cae tato y ?wehvyd ef ddiweddaf. Ma<.? Al) pi, le v m?ie? I Ja t)eth'¡t ddaetll 0'1' trl1an, 'Rol cwnnutatoynyc'ac Yng nghwmni Tramp y DARIAN. Nos Fercherv y 12-ed, cyflwymvyd tyst-eb i Mr. D. Hughes, gynt postfeistr Trede- gar, yn awr o'r Porth, Cwm Rhondda, Mr. Tom Jackson/ D.C., yn y gadair. Mr. Sam Davies, accountant, oedd. yr ysgrifennydd. Cafodd Mr. Llewellyn yr anrhydedd o gyflwyno i Mr. Hughes^ a Mrs. T. L. Roberts i Mrs. Hughes wallet yn llawn Bradbury's r un, ac oriawr i arddwrn i'r llalL Y niat1 yr vma, yn drwm, felly gadawaf hi ar hynyna. y tro Achlysurol. .Mynyddcerrig, Hydref 31 daearwyd gweddiilion Mr. David Thonias, Bryn- i deri. ac efe yn 06 inlwydd" oed, ym Myn- went jjlangeier. Roedd yr ymadawedig wedi gwasanaetim fel fHvyddng yn Swyddfa'r Pearl am bymtheg mlynedd, ac yn fawrei hareh gan ei uwch-swyddogion. Nodded Dtiw fyddo dros ei. weddw a/j' ptant.. Llonder i'r ardal ydyw bod Mrs. Enoch Rees, Coedcae, ar llhad ar ol bod dan Jaw meddygon yn Ysbyty Abertawe. on A-ii 'is )vtv (Jahyyd trethdalwyv 'Plwyf Llanddarog ynghyd i Festri Porthyrhyd j ymdrin I Iynghyleh eael treth-gasglydd i'r plwyf. Trodd y mwyafrif o blaid yr hen gynllnn, sef pob un i gasglu yn ei dro. YnN"ebo (A.) traddodwyd darlith odidog ar Ben Bowen ?an y ?weinidog, y I j"'al'eli D.Rhyddcrch, 13.A: Teimlem pe caws;)i v deI?'H a dorrwyd yn gyn?ar bar- b;|u i ganu, -y h\.ldai yn brifardd y d, I;t I)v Yn Ys?oidy Handdaro?, bu cvvrdd CI'QCSO filwyr y He, He yn Mynyd<ieerri?? 1m cyfarfod i anrhegu Mr. Mvan Thomas,. Brynderi, a amddif'adwyd o'i ddwy fraich' ar facs y gad. Cafwyd canu ac adrodd o radd ncbel gan 6renon y gymdogäeth.¡ Tros?lwyddwyd rhodd iddo, ar i' y Tumble a Mynyddcerrig, gan y cadeirydd, sef ]»w is; yn cvnnwys 83p. fs,, a dioichodd yntan yn gynnes. Hefyd rhannodd ardal Mynyddeerrig ei tkry.sorfa yn gydradd r)iwn? y milwvr. Cadeirydd, Mr, (?\vdym Jones, ariannvdd 'Giofa Dynant Newydd; arweinydd, Mr. Morgan, ysgolfeistr; ■ cyfeihvvr 'Mr. Emry.s Harrii^ A.L.C.M., Drefadi,a Miss Owen, Mynyddeerrig.— Dolaufrvn. I Y RHEILFFYRDD. Ymddengys y bydd cytnewidiad mawr yn rheoleiddiad y RheillL rdd yn i'uan.. Mae'r Llywodraeth yn barod i ganiatan gosod i fyuy fwrdd inn-dig o bump o ov- v.chwylwyr cyfl'redinol y Cwmnioedd, iTI chynrychiolydd. o Undeb Cenedlaethol Gwyr y Rheilffyrdd, a dan gyurychiolydd o Gymdeithas tlncdig y Peiriahwyr a'r Tanwyr, Bydd gan y Bwrdd allu i ddelio ag amodau gweithio yn ogystal ag oi-.iiii a chyflog. Trefnir Bwrdd arall o ddeu- ddeg i gymeryd mewn llaw faterion y metha'r Bwrdd hwn benderfyn.11 arnynt.
[No title]
Cymru: Ysgrif a ddarllenir gyd a bias gan ddeifiaid yr Ysgol Sul yw eiddo T. H. Lewis (Tybiefab) yn rhifyn Tachwedd o'r Cymru. "Ar Lan. Iorddonen. Ddofn" yw'r testyn, a rhydd hanesi gorchestion bechgyn Cymru yn y rhyfel fawr yng nghymdogaeth yr hen afon gysegiedig. Aarocldir yr hanes a disgrifir yn swynol a hollol ddiymdreeh leoedd y mae eu henwau'n hen adnabyddus. Darlun thvs o W. T. Samuel a geir gan Jfano. Mae pob tudaleh o'r Cymru'yn. goetli a da.
-__-___-_...'-_.-.0...--.,-:=-IJYDDIADUR…
'0. -:=- IJYDDIADUR EISTEDDFOPAU, etc. Trealaw.—Tach. 29. Abertawe, Albert -fall.-Tacli. Bryncoch, Saron.-Rhag.' 6. Llanarthney.—Rhag. 6, 1919. 'IyloI'sto\vn-Perfl'ormio Dramodau. Rhag 8—18. Treharris, Tabernacl.—-Rhag. 11. Abercynon.—Rhag. 11. Port Talbot, Riding School.—Rhag. 13. Llangennech.-—Rhag. 20. Pisca, Cilffriw.—Rhag. 25. Blaenau Ffestiniog.—Rhag. 25. Bodringallt, Ystrad, Rhondda.—Hbag. 2->. 25 Treforus, Tabernacl.—.Rhag. 26 a 27. Libanus, Graig Berthlwyd.—Rhag. 2(1. divi? 9?Ci 191 9. Abertridwr.—Rhag. 26, 1919. Pen bont-ar-Ogwv.—Rhag. 26. Ynysddu.— Rhag. 26, 1919. Pentreibach Hall.—-Ionawr 1, 1920. Cilfynydd.-toziaii-i- 1, 1920. Llansamlet.—Ion. 24, .1920. 1 Abercwmboi.-—Mawrth 1, 1920. Llanerehymedd, Mon.—Lluii a Mawrth- gwyn, 1920. C'(-,fl.leitltiti flands.-Mai 2S, 1920 Llynlleehowain, ger Gor^as.—Meh. 19. 1920. Baneffosfelcll.-Mehefin 19, 1920. Pontargothi.-—Gorff. 24, 1920. Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Barn -Awst 2, 3, 4, 5, 6 a 7, 1920. Aberaeron-Awst 11, 1920. Aberystwyth, Cystadleuaet.h Drama.—r Awst, 1920. Printed and Published for the Pro prietors, The Tarian Pubiirffiing ( Ltd., by W. Pugh and J. L.' RowlatHiH. at their PrÍIltir, \V orks. 19 Cardiff t Aberdsre, in the' County of Glantorgam.