Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

O'r Gogledd.

News
Cite
Share

O'r Gogledd. GAN GASNODYN. Mae hi yn oer arthr yma, a'r eita a'r rhevv ym mhob man. Ac y mae'r gwynt yn ddigon i dorri calon dyn— onid yw'n medru'r ffordd at fer yr esgyrn, hynny sy gennym o fer hefyd. A dyma bris y glo a'r liefritH yn enbyd 0 ucbel a ydych yn meddwi mai mi!- iiwnyddion ydym, deudwch? Gwelais hanes un o Undebau Tlod- ion y dalaith yn cynnyg plant "allan i'w magu," a,thai o seithswllt yr wythnos am hynny; a eill ryw un wneuthur hynny am y pris ytia.1 Ofn i'r bobl a gyi-ner blentyn ar yr eg- wyddor o gael seithswllt am ei fagu fynd i drin y creadur bach fel teclyn i wneuthur arian o hono sydd arnaf i. Ac os yw plentyn yn golygu rhyw 15s. yr wythnos o g'ost yn y tlotv pam y cynhygir seithswllt o'r tu allan ? A yw hi'n rhatach allan? Sut felly? Diau y gofelir am le da i'r plentyn, onid e fe andwyir enaid bach am byth. Chwi giywsoch am y Parch. Gwyn- oro Davies? Fe aeth ef a dau neu dri ereill tua phen Cader Idris y dydd o'r blaen,—cychwyn o'r Abermaw a chyrraedd y godre'n ol yn Nolgellau. Ond dywedyd bach iawn vw hynyna; bu'n gyfyng ddiangof ar y parti, yn yr eirlaw, y rhew a'r niwi—a'r colli'r ffordd yn y caddug tew! Yr oedd y criw ar lesmeirio gan ludded paD. ddaeth i Ddolgellau. Antur arwroJ yn troi'n fethiant oedd hon. Gresyn. Rhowch fy niolch i Sam yr Ha'ier am ei ateb mwyn' a'i ysbryd hynaws; hen ffrynd gwych yw ef, pwy bynnag ydyw, a byddwn yn fwy o ffrynds byth mwy, Trist gan bawb fydd deall mai claf iawn oedd priod hoff a dau o blant bach cin cymrawd Bera ddechreu'r wythnos—sut bynnag y maent heddyw. Gobeithio'r goreu, a Duw'n dwr a tharian i'r teulu hoft". Pwy a ddywedodd wrth Ddyfnallt fod Y Gen hi hen ar farw? N a choeli s i fawn Fe'i gwelais hi ddoe, beth bynnag, yn edrych yn wymp ei gwala. Wrth gwrs, ni wn i fwriadau dyfodol Eifionydd; un doniol yw ef. Mae Arifog y bardd yn aelod o Gyngor Tref Pwllheli. A baid bus- nes o'r math yna a Iladd awen Arifog? Ond bydd raid wrth Faer newydd ryw dro. Bachgen o hen ardal Celyn Jones yw ef, a Llithfaea oedd yr ardal honno. Ond ym mhle mae Celyn rwan? Pam na fyn Ap Hefin ei gwmni? Yr oedd y Parch. H. W. Jones, B.A., B.D., Caer, yn annerch pobl Ebenezer, Trefriw, y nos o'r blaen ar y testun campus — "Y. Beibl a'i Waith." Mae Pwyllgor Deddf Y Cribddeilio yng Nghricieth am gyfarfod bob yn ail mis, ac am gyhoeddi pamffledi ar y Ddeddf er mwyn y bob!. A- oes son yn y Ddeddf hon am grogpris-tai llety glannau'r mor? Onid oes, tyt a hi a'i phwyllgorau deufis. Ond y mae pres yn handi-medde nhw. Mae C'wmni Drama Ogwen, Beth- esda, Arfon, yn brysur iawn; "0'1' Gorlan i'r Gad" yw enw ei ddrama newydd, a llawer o fynd ami, meddir., Dyma fi yn clywed heddyw farw Meurig Wyn, Llanrug, Arfon, ac yntau nemor dros 25 oed. Llanc addawol oedd ef, ond I Yr oedd bias da ar Yr Hen Hanes yn Saron, Dyffryn Clwyd yr wythnos diwaethaf. A dawr cnwd da o hyn eto. Onid oedd yr hau o ddifrif ? Mae R. J- Williams, Y SW., U. H., Bangor, yn Faefy. ddinas hotuio eto- am y scithfed tro.. Un garw yw ef, a phoblogaidd iawn. Anodd taro ar ei well. Dymunwh yn dda iddo, a hir oes yn ei swydd anrhydeddus. Cafodd "hogiau drwg" Penrhyn Deudraeth, Meirion, lawer o le yn y wasg" ddechreulr wythnos, ar gorn .rhyw ganu, cwrw a chwffio—neu ym- osod. Ond nid oes gennyf i ddim stumog i fynd ar ol yr h,elynt.. Gresyn garw i hanes o'r fath lychwino enw'r fro dawel honno. Heddwch bellach. Dywedir nad yw amser da'r Fas- nach Lechi nepcll. Ond os oes gen- nych waith- cyson lle'r ydych, glynwch wrtho. Ac y mae rhyw 20 o ddynion yn gweithio* bellach yn hen chwarel sets Moel y Gest, Eifionydd. Da yw hynny yntau, a daw tamaid, gobeith- lo, i lawer o hyn. Ond y mae digon o ddwylo segur yn y wlad-a hithau ¡mar oer! fel na chymhellaf neb i ado'i waith a'i wlad ei hun i "ddwad yma." I Mae llawer iawn o siarad yn y dal- aith o hyd parth Cadair Cymraeg Aberystwyth. Myn rhai na ddeillia budd yn y byd o'r drafodaeth. Ni hoffwn i dywedyd hynny; i beth arall y. mae siarad gonest dda? Cadw'r galon yn unplyg a phur yn y drin yw'r gamp. Cofier hynny. Pwy sy'n Gweithio gwaith, y Gadair honno rwan, tybed? A adewir yr hen Cym- raeg yn ddi athro am y term? Go- beithio y rhydd y Prif Athro Davies "fynd" yn y mater; y mae ei galon ef yo Gymraes tan gamp erioed. Llwydd iddo. Mae'r Cyrarol T. H. Parry, A;S., yn graddol wella o'r clwyfau a gafodd ar faes y gad yn y Dwyrain, ac yn go- beithio y bydd yn medru annerch ei etholwyr cyn bo hir bellach. Iechyd iddo'n hir eto. Arglwydd Clwyd, mi welaf, a fydd Trysorydd newydd Coleg y Bala. A geir gostyngiad ym mhris y glo ar ol y datguddiadau a wnaed yn y' Senedd yr wythnos o'r blaen? Pe gwypai'r Llywodraeth mor oer yw hi ar lu mawr o honom heddyw, I If-C godai fwy ar y pris," ebe rhai. Dywedir i rif efrydwyr Aberys- twyth godi i fil eleni, ac mai hwn yw'r rhif mwyaf a fu yno- etioed. At hynny, fe ddywedir mai Cymru a Chymraeg piau hi gan y rhan fwyaf o'r mil hyn. Be nesaf, tybed ? Bu'r Parch. Caleb Williams, Pen- maenmawr, yn weinidog yn Horeb a Thabernacl (A.), y'lle hwnriw am 43 mlynedd, a chafodd gan gini o rodd gan y ddwy eglwys a enwais i gofio hvnny y dydd o'r blaen, Gwas da. Beth yw'r gwahaniaeth rhvvr.9 ocsiwn a chasgliad Llun y Diolch am y Cynheaf? Myn rhai had oes yna ddim gwahaniaeth rhyngddynt! Mae rhyw bobl yn son am eu tlodi, ond yn codi ym mhris yr ocsiwn ac ym mhris y /casgliad hwnnw yntau os bydd eu henwau'n debyg o fynd yn hysbys. Doniol. Hen wr diddan, a Lloyd Georgeiad i'r earn, oedd y diweddar Mr. J. D. Jones, Abermaw. Teimlir yn chwith hebddo mewn capel ac ar heol. 78 oed oedd. YmddiSwyddodd y Parch. R. Eames, Talwrn, Sir Fon, o fod yn weinidog (A.) yno. Bu far'r hen bererin Enos Morley, Vicarage Hill, Rhostyllen wrth weith- io ei w'aith ar y ffordd fawr. Syrthiodd "i lawr yn sydyn, a hunodd. Bu ocsiwn ar dir peirthynol i'r Cad- fridog Lloyd rhwng y \^raeti a Llan gollen, a chaed jprisiau uchel— i7Qp. yr erw am dir amaeth. Ni chlywais i Fera fynd ar gyful yr ocsiwn a nodais rwan. Aeth milwr o Wrecsham i siop deil- iwr yng Nghroes Oswallt i brynu par o hosannau, a chododd y gwerthwr, 9s. 6c. arno am y cyfryw., /Mae'r achos bellach gerbron Pwyllgor Gor- elwa'r dref y trig y teiliwr ynddi. Ymddiswyddodd y Parch. T. H. Williams, Llanfair tal haearn) er mwyn mynd ilr Brif Ysgol i Fangor am gwrs pellach o addysg. Dyna dda. Y Parch. John Pritchard, Llanberis, yw Ysgrifennydd newydd Sasiw-n M.C. y Gogledd. Gobeithio na bydd yn rhy brysur ei le newydd i len- y dda. t Dynar', Capt. -Conway Trevor Ellis, M.C., Nerpwl, wedi mynd ag Eirlys, unig ferch Dr. a Mrs. Lloyd Wil- liams, Bangor, yn wraig iddo'i hun. A phwy y sydd heb ddymuno'n dda iawn i'r dclau annwyl? j Mr. Nefytr Davies, Bwlchbryn, Penrhyn Deudraeth yw arolygydd newydd ystad Syr Osmond Williams, Castell Deudraeth. Anodd taro ar ei well. —:— | Cyhuddwyd amaethwr Castell, ¡ Pentir 0 ddifetha cae o geirch drwy adael i'w wartheg fynd i'r ceirch a'i fathru. Taflwvd yr achos allan. | fathru. '1'aflwvd yr acho,s allan. Dywedir y myn y Parch. W. J. Jones, B. A. Rhyl, .Trefforest gynt, dderbyn yr alwad a gafodd o Clapham Junction, Llundain. Llwydd iddo. ( Gadawer imi longyfarch y Parch. ? John Owen, M.A., Caernarfon, fel Llywydd newydd Sasiwn yr M. C. am y flwvddvn. Da iawn. I '======■ I

I Cyfres y Beirdd. I

Advertising

[No title]