Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Atgofion Eisteddfodol

News
Cite
Share

Atgofion Eisteddfodol Ym Mhontypdidd, bu yn helynt ar adeg y Cadeirio. Yr oedd Gwilym Cowlyd yn arighytuno a Dyfed a Phedrog yng nghylch pwy oedd i gael y Gadair; a mynnai gael datgan ei farn yn gyhoeddus ar y llwyfan. Nid oedd na phwyllgor na swyddog a fed- rai ei galw rhag rhuthro. i'r llwyfan, yn groes i bob rheol ac arfer; ond cyd- iodd y diweddar Farnwr Gwilym Wil- liams yn ei war, a dywedodd y buasai yn ei yoli o. dan ofal heddgeidwad os na çhydýuffurfiai a deddfau Beirdd Ynys Prydain. Gwelodd Gwilym y Bardd nad oedd Gwilym y Barmvr yn un i gellwair ag. ef; ysgydwojJd Iwch y babell oddiwrth ei draed, aeth i babell y trysorydd am ei dal; a ffwrdd ag ef yn ol tua Llanrwst gyda'r gerbydres J gvntaf a gafoddj "a bu tawelwch mawr." Wedi i'r "bardd pendant" fyn'd o'r golwg trwy borth y babell taflodd Watcyn Wyn englyn ar ei ol Cowlyd ni wnai cncilio—o'i bwlpud, Heb help i'w symudo; Ond dwrn barn gauwyd arno Pan aeth grym Gwilym o'i go'. Trychinebus fu hanes Eisteddfod Po.ntypridd-i'r pwyllgor. Bu y golled ariannol yn agos i dair mil 01 bun- iicedd Cafodd yr eisteddfodwyr ymarferol eu goresgyn gan- ddynion na wyddent nemawr ddim am y gwaith; a bu rhai ohonynt yn cicio a thuchan pan oeddent yn gorfod talu am eu byr-bwylldra. Ag eithrio. y golled ariannol, yr oedd yn un o'r eis- teddfodau goreu a gynhaliwyd erioed. Yn y cystad 1 euacthau corawl, mae yn amheus a gyrhaeddwyd y fath safle na chynt na chwedyn. Nid oes neb oedd yn wyddfodol a anghofia gystadleu- aeth gorawl y bechgyn—yn neilltubl corau Tom Stephens, William Thomas, a Tom Richards, Ymdrech y cewri ydoedd. Cor Tom Stephens a gurodd; ac aeth ef a'i gor i Chicago yn niwedd yr un flwyddyn, a churodd yno drachefn. Ym Mhontypridd y cyfarfum a Gwilym Eryri am y tro- cy taf-alr olaf. Enillodd ar yr Hir- a-tnoddaid—'Toriad y Dydd," a'r Fyfyrdraeth—"Brad Aberedw." Yn fuan wedi hynny aeth y bardd "ar goll,' ac ni chlywyd son am dano, mwyach. Bardd rhagorol, a chym- deithaswr cystal a hynny, oedd Gwilym; a bu Cymru yn dlotach o'i fyned ar ddifancoll. Yn Eisteddfod, Genedlaethol gyntaf Caerdydd pan gynhelid hi yn un o adeiladau Cwmni Rheilffordd y Taf, Gwilym enillodd ar yr englyn—"Anadl.' Dyma fe:- ■V Anadl wan, ei dolenni yw'm cadwen,- Yn fyw'm oedwir trwyddi; A'i ddyrnod, ryw ddydd, arni, Tyrr angau fwlch-trengaf fi Testyn y Gadair yn yr eisteddfod honno oedd—"Y Llong." Nid wyf yn cofio pwy oedd yn beirniadu beth bynnag am hynny "cadair wag" fu yno. Credaf mai awdl Watcyn Wyn a fernid ar y blaen. Dywedai y beirn- iaid mai dechreu yn fain a wnai, ei bod yn braffach yn ei chanol, ac yn mein- hau tua'r diwedd. Dywedai Watcyn fod pob llong felly, ac na ddylesid ei gondemnio am wneud ei awdl yr un fath a'r llong. Yn yr eisteddfod fath a'r 1 1 0 ,n g lioinno y daeth Cor Bangor, dan ar- weiniad Dr. Rogers, ar ei ruthrgyrch gyntaf i'r De, a chipio- y llawryf oddi- ar gantorion y De yn ddigon disere- moni. Gan tfy mod eisoes yng Nghaer- dydd, dichon y byddai cystal i mi ddod ar draws yr ail Eisteddfod Genedlaeth- ol a fu yno-, ugain mlynedd yn pi. Lie anffodus i'r Beirdd yw Caerdydd wedi bod—dw7y, "gadair wag." ( "Glad- stone" oedd testyn y Gadair y tro diw- eddaf y bu y brifwyl yno. Bu amryw droion doniol mewn cysylltiad A'r- eis- teddfod hon. Mae strikes wedi dyfod yn bethau dyddiol wedi hynny. Caf- wyd dwy strike yng Nghaerdydd. Fel y gwydd^'s, mae yn arferiad i'r beirdd a gymerant ran yn yr orymdaith a gweithrediadau yr Orsedd gael "tocyn rhydd" i'r eisteddfod. Gomeddai y pwyllgor y fraint arferol. Wedi i'r beirdd ymwisgo, yn eu gogoniant, trodd pob un ei gefn ar bared coed y Babell, a phenodwyd Creidiol, Rheith- ior y Faenor, i fynd i ymresymu a'r pwyllgor. Beth bynnag a ddywedir am y beirdd, fe gafodd y wlad wybod y pryd hwnnw nad oeddynt yn rhai i gellwair a hwy. Yr oedd pawb o un fryd yn benderfynol o fynnu eu hawl- iau. Yr oeddym i ennill y fuddugol- iaeth, neu ynte i'r eisteddfod fod heb orymdaith na Gorsedd; ond daeth y strike i ben mewn ychydig funudau, a ninnau yn barod i waeddi, fel glowyr y cyfnod hwnnw-" O Creidiol ag e. "-(Brynfab yn "Y Geninen" am Hydref. )

Uhybudd Drwy'r Wasg.

I.A! DYMA EICH ARWYDDION?

,fountain Ash.

[No title]

- - -' -"""'."'''''''"'''"'.'''''''Ù";"",-,'';C'…

Undeb y Cymdeithasau I.Cymraeg,

IACHUB PLENTYN RHAC IPNEUMONIA.

I.'I j .. Newyddion. : '.…

[No title]

-__-___-_...'-_.-.0...--.,-:=-IJYDDIADUR…