Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Llythyrau at y Gol. I
Llythyrau at y Gol. I DIWYGIO'R WYDDOR. J Syr,-Diddorol iawn oedd nodiadau Bera yn ei golofn ar ddiwygio'r wydd- or, ac ni allaf na dderbyniwyf ei wahoddiad a cheisio traethu'm lien ar y pwnc. Nid yw'r wyddor yn unrhyw iaith namyn casgliad o'r holl arwydd- ion, (neu lythrennau) a arferir wrth ysgrifennu'r iaith, ac a gynrychiola ar bapur y seiniau a glywir ar dafod. Cyn y byddo'r wyddor yn berffaith a chyflawn, rhaid iddi fedru boddloni tair hawl, sef (I) na byddo un sain heb arwydd syml ar ei chyfer; (2) na byddo ond un arwydd ar gyfer pob sain, a (3) na byddo un arwydd ar gyfer mwy. nag un sain. Gall y Cymro ymffrostio bod iddo wyddor a ddaw'n nes at berffeithrwydd1 na nemor un. Eithr "nid da lie gellir gwell." Pa ddiffygion sydd iddi o'i barnu yn ol y tri phrawf a enwyd eisoes. (I) Nid arwyddion syml yw ch, dd, ff, ng, 11, ph, th. Cynygiodd Bera welliantau neilltuol, ond gwell gennyf i yr eiddoch chwi yn eich atodiad. Ni wna dewis unrhyw arwydd wrth fodd a mympwy, ond anharddu gwedd yr iaith 'a chreu gagendor ddiangen rhwng yr hen ddiwyg a'r newydd. Y mae i bob llythyren ei hanes a'i helynt, ac ni ddyiid ei chipio drwy drais allan o'i harfigylchoedd priodol. 0 ddef- nyddio'r arwydd x, gwell o lawer ei roi yn lie ch, ac nid yn lie dd; cyflawnai felly swydd nad yw'n'hollol ddieithr iddi, fel y gwybydd y neb a fyrutio olrhain ei hanes. Purion peth fyddai adfer i'r wyddor v y Mabinog- ion, a rhoi f yn lie ff (a ph). Gellid dilyn hen arfer hefyd drwy dynnu llineN gydiol drwy'r ddwy 1 (11), a gwneud o honynt felly un llythyren. Nid anodd, fel y crybwyllwch, fyddai i'n hargraffwyr ddilyn arfer ysgrifenwyr Haw, a mabwysiadu llythyrau dlos yn lie dd. A phaham na ellid yr un modd a. t yn lie th? (Beth ddywed y cysodydd ?) Gwyr seinyddwyr am arwydd syrnl a ddefnyddir mewn gweithiau gwyddon- ol yn lie ng. (2) Ceir un sain a dau arwydd ar ei chyfer, sef, ff a ph. Gellid yn hawdd hepgor yr olaf. Nis defnyddir ond pan fyddo'n dreigliad o p, ac anghyson ddigon yr ydym yn hynny, oblegid ysgrifennwTn "ei phen" ond gorffen," er mai'r(un yw hanes y sain yn y ddwy enghraifft. (3) Cynrychiola'r un arwydd y ddwy sain, megis yn y gair "myn- ydd. Credaf nad oes bellach wa- haniaeth rhwng sain y yn "dyn" a sain u yn "hun." Paham ynteu na ellid defnyddio'r llythyren u bob am- ser i gynrychioli'r sain honno, ac ysgrifennu "mynudd" yn lie "mynydd"? Diolch i Bera am ei golofn lan; enillodd iddo'i hun eisoes safle anrhyd- eddus fel athro iaith a lien ym Mhrif- ysgol werinol y "Darian. Y r eiddoch, etc., O.K. P.. I CYMANFA C-ANTI CENEDLAETHOL. Mr. Golygydd,— Ar gais Ysgrifennydd y Gymanfa Ganu Genediaethol a gynhelir yn Birkenhead Medi 7, 1917, dymunir hysbysu Pwyllgorau Cymanfaoedd Canu y gwahanol enwadau y bydd taflen y Gymanfa uchod allan o'r wasg ymhen pythefnos. Taer erfynnir ar yr holl eglwvsi i gydymffurfio a'r mudiad gwert-hfavvr hwn. Mae'n bur debyg y cynhelir amryw gynu-nfaoedd undebol Ileol yng ngwahanol rannau o'r wlad ar wahan i'r un Genedlaethol, a ehymhellir y cyfryw i ddefnyddio'r Rhaglen Genedlaethol. Felly, er mwyn cael amcan-gyfrif o nifer y rhaglenni fydd yn angenrheidiol, bydd yn fantais fawr ymhob ystyr i ysgrifenyddion pwyllgoravi y cymanfaoedd undebol i ym- ohehu yn ddioed a'r ysgrifennydd cvffredinol, sef Mr. R. Vaughan Jones, 52 Hertfoi-d Road, Bootle, Liverpool. Yr eiddoch, yn bur, I T. HOPKIN EVANS.,
INodion o Gwm Gwendraeth.
I Nodion o Gwm Gwendraeth. Blin gennym orfod hysbysu marw Wm. Thomas, Tynycwm, Pontyberem, nos Fawrth diweddaf o effaith damwain, yng Nghlafdy Llanelli. Claddwyd ei weddill- ion yn Mynwent Eglwys Capel Ifan y dydd Gwener canlynol. Cydymdeimlir a'r weddvv a'r ddau blentyn yn eu hawr dywyll. Dymunwn longyfarch eynx-ychiolydd Llangyndeyrn a'r cylch ar y C'yiigor Sir, sef y Parch. R. H. Jones, ar ei ddyrch- afiad i fod yn Is-Gadeirydd Cyngor Sir Myrddin. Mae Mr. Jones yn haeddu'r dyrchanad, gan ei fod wedi gwasanaethu'r cyhoedd yn ffyddlon am fiynyddau lawer. Dydd Ian diweddaf bu farw George Rees, Grove Hill, Pontyberem, ar ol afiechyd' hir, wedi cyrraedd yr oedran o 45 mlwydd. Cydymdeimlir yn fawr a'r weddw a'r plant. Mae'r baehgen hynaf yn y fyddin, ac y mae ar hyn o bryd mewn ysbyty yn India. Yr Eisteddfod. Mae disgwyl mawr am Eisteddfod flyn- yddol Bancffosfelen, a gynhelir ym Mehefin. Mae yno raglen ardderchog, gwobrau sylweddol, a beirniaid o fri. Swn paratoi sydd drwy'r cylch i gyd. Gwili fydd yn cloriannu'r beirdd, ac y mae ar- wyddion y bydd nifer fawr o gystadleuwyr ar destun y gadair. Bydded i'r beirdd gofio danfon eu c-ynhyrchion i'r beirniad, Gwili, Caerdydd, erbyn Mai 19eg. "MALLTEG."
Eisteddfod Penygroes. ! -!
Eisteddfod Penygroes. Dymunwn gydnabod derbyniad v cyfan- soddia&u canlynol ar gyfer Eisteddfod y Morwyr a'r Milwyr y Sadwrn nesaf:— Pedwar penill wyth llinell: George y Gwr; Limmil; Un yn dechreu; Tybic-fab; Llinos Cledfwlch; lfor y Cwm; Arwr yr Encilion; Hiraeth Enaid; Bardd y Nos; Bugail y Mynydd; Shaci'r Crydd; Ar y Maes; Chwech Heol; Gwilym; Ehedydd Cynnar; Llygad y Dydd. Englyn: Dafydd Caerbrvn; Wilberforce; Hwyr y dydd; Ehedydd -y bore; Maesy- bont; Perorydd Gibelltyn; Giwrnfab; Nantfin; Private; O! wel, te wir; 60 miles a minute; Hitchwr partin y ffos; Un o'r hen awelon; Bach bach yn examino'r stan- llyd; Gwlithyn; Min vr Hwyr. Pryddest—Testun, "Torri'r blwch en- naint" Brig yr hwyr; Un gar ei berarogl; Hedd y bannau; Ar y ffordd i Bethania; Hedd y oyfddydd; Cyfaill Mab y 8aer; Bardd y Pentre; Egwan Ebinyn; Arddel- wr yr Hardd Ddelw. Essay: One competitor, Historian. IRLW'YN.
IMaesteg a'r Cylch.
I Maesteg a'r Cylch. Cynhaliodd Eglwys Canaan (A.) ei chyfarfod blynyddol Sul a Llun, Ebrill 29ain a'r 30ain. Pregethodd y Parchn. T. Esger James, Capel Mair, Aberteifi, a, D. J. Davies, B.A., Capel AIs, Llanelli. Oaed pregethu grymus, a,c odfeuon dan yr enein- iad. Cynhaliodd Zion (B. Saesneg) ei chyfar- fodydd blynyddol Sul a nos Llun, Ebrill 29ain a'r 30ain, pan gafwyd gwasanaeth gwerthfawr y Parch. T. M. Richards, Rhymni. Cafwyd bias a hyfrydwch wrth wrando arno. Cynhaliodd Seion (A.), Caerau, ei chyf- arfod hanner bIynyddoI SuI a nos Llun, Ebrill 29ain a 30ain, pryd y' gwasanaeth- wyd gan y Parch. Ben Davies, Pant-teg. Y mae ei. enwi ef dd igon o wystl i ni gael gyfarfodydd da. Yr wythnos ddiweddaf daeth y newydd trist i Nantyffyllon fod Capten Oscar D. Morris, B.A., Glen View, wedi ei ladd yn Ffrainc. Bachgen a gend gan bawb oedd Oscar, a chydymdeimlir yn ddwys a'i ddau f?'a sydd eto ar faes y ryfel a.'r holl berthnasau yn eu profedigaeth. I BRYN. u
I--Y RHWD. I
Y RHWD. Tra segurdod fod di-fudd,—daw y rhwd j I roi yn ddirybudd Ei liw coch o'i ddwylaw cudd, Daena ofid anufudd. Y DRYW.
Advertising
I The Welalmuui's Favourite. MASON Sauce yw Aa good as its Name. DON'T FAlL TO GET IT. nuumoes. Ik. Pow St., Caniit. 1 ■mm m-y••m mwmiiiwiimwwh^IIIIIW Printed and Published for the Pro prietors; The Tarian Publishing Co.. Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands., at their Printing Works, 19 Cardiff St.. Aberdare, in the County of Glamorgan
I Glyn Nedd. ,)I
Glyn Nedd. Cynlialiwyd cyfarfodydd hanner-blynydd-, ol Capel-y-Glyn Sul a Llun, Ebrili 29ain a'r 30ain, pryd y pregethwvd gan y Parchii. Ben Evans, Barry, a W. Thomas, Llanboidv. Dydd Mawrth, Mai laf, claddwyd ym Mynwent Ebenezer, Pontneddfechan, Mrs. Ann Rowlands, Heol Poruneddfechan, yn 59 mlwydd oed. Bd farw yn dra di- symwth. Gadawodd detilu Iluosog a pharchus ar ei hoi. Dydd Mercher, ym Mynwent yr Addoldy. claddwyd Mr. David Thomas, mab hynaf Mr. John Thomas, Oak Villa, ar ol llawer bhvyddyn o flin afiechyd. Mae cydyin- deimlad mawr a'r hen dad sydd ymhell dros y pedwar ugain oed, yn ei alar.
Advertising
j Ysgrifenna » 1: Miss MARIE NOVELLO, t Y Pianydd Cymneig Enwog, 1 J am Biano Bell: U Y r wyf yn ei gael yn hynod am gryf- 1 .f der a pharhad yn eitht iadol am, ateb i'r teimlad. t. Y r wyf ers amser maith wedi edmygu nodwedion rhag- ? | orol y tf Bell." J Darllener hefyd a ddywed t Mr. WATKIN MILLS, Y Basswn Seisnig Enwog, I [ u Mae'n un o'r ofFerynnau godidocaf a welais yn :( unrhyw !e mae iqdo'r don lydan, gyfoethog, I f lawn, sy'n hanfodol gydag unawdau," t 1 Ai ni charech alw gyda ni a rboi prawf lIt arno drosoch eich hunain? t ¡ Yr ydym yn gwerthu Pianoi ac Organnau Bell, a I i naill ai yn rhoi lwc dda" hael pan delir lawr neu yn j 1 trefnu telerau i ateb eich cyfledstra chwi. MERTHIR FURKtSHtNC Co ] j 44 High Street, Mefthyf. !I ] T 44 High Stpeetg Meipthyp. I  );: ?, T. t* < —— V ———— T t —————  —————. ————  ——  u T ——    ?  ;?
[No title]
Bu Mr. A. J. Balfour, Ysgrifennydd Tramor Prydain, yn annerch Ty'r Cynrych- iolwyr yn Washington dydd Sadwrn di- weddaf, a chafodd dderbyniad brwdfrydig. Rhoddir cryn bwys ar yr amgylchiad hwn mewn rhai cyfeiriadau, a gobeithir y bydd yn gam tuag at dorri i lawr hen arferion ceidwadol Seneddau. Paham na ellid cyn- nyg at sylweddoli proffwydoliaeth Tenny- son a chael "Senedd Cenhedloedd ac Un- deb Byd?" .1.
IBrynaman.
I Brynaman. Yr wythnos hon eto daw hanes am farw un o heii- frodorion yr ardal, sef Richard Jones, Chapel Street, yn 75 mlwydd oed. Richard Joes y Puddler" y gelwid ef. Gwr didramgwydd a fu efe ar hyd ei oes. Hoff bysgota, a physgotwr heb ei ail yd- oedd. Bu n ddiacon yng Ngibea am flyn- yddoedd. Dydd Mercher, Mai 2il, cladd- wyd ej? ?-edddlon ym Mynwent yi- eghvys wyd ei weddillon ym Mynwent yr eglwys hon, pryd y gwasanaethwyd gan v Parchn. W. D. Thomas, Gibea; John Llewelyn,. Bethania; J. Lee Davies, Siloam; S. '\Vj}- liams, Pontardawe. Gedy i alaru ar ei 01 weddw oedranus a naw o blant. Llongyfnrchwn blant Ysgol Sul Siloam ar eu llwyddiant yn ennill gwobrau blaenaf y Gymanfa yn yr arholiad diwedd- af. Y wobr flaonaf i Miss Edna Morgan, meixih Mr a Mrs. Tom Morgan, Rose Cot- tage. Yr ail wobr i Miss Elizabeth Aim Lewis, merch Mr. a Mrs. Evan Lewis, Glyn Road; a'r trydydd wobr i Miss M. A. Davies, merch Mr. a Mrs. William Davies, Glyn Road Rhwydd hynt iddynt i ennill eto. Nos Lun, Ebrili 30, cynhaliwyd cwrdd croesawu Stoker Ja-ck Johns, H.M.S., yn y Capel Saesneg, dan lywyddiaeth Mr. David Kliis Evans, Park Street, a chyfiwynodd hefyd y rhodd o ddwy bunt ar ran pwyll- gor y mudiad. Cawd cwrdd rhagorol, a phob un yn dymuno yn dda i'r morwr Jac Johns. Eto, cynhalinvyd cwrdd cyffelyb yn Ebeneder nos Fawrth, Mai 1, dan lyw- yddiaeth Mr. Tom Peregrine, Neuadd Road, i Gunner Arthur Jones, H.M.S., mab Mr. Tom Jones, Glyn Road, a fe gawd cwrdd blasus. Diolchir yn gynncs gantorion ac adroddwyr y lie am eu gwas- anaeth gwerthfawr yn y cyfarfodvdd hvn. Gwelwyd hefyd Gunner Fred Harries, A.L.C.M., H.M.S., gartref yr wythnos hon am dro, ac mae vntau yn edrych yn gampus, ar ol misoedd caled rywle ym Mor y Gogledd. k
ICWRS Y RHYFEL.
CWRS Y RHYFEL. (Parhadotudalenl.) heddyw na Germani ar y tir. Ond mewn cyffelyb fodd trawsffurfiwyd cawrfil Germani i lun morfil, a heddyw drwy ei suddlongau mae Ger- mani yn bygwth trechu Prydain ar y mor. Canys, fel ag y dywedwyd yn yr ysgrifau hyn wythnosau lawer yn ol, os ca Germani y trechaf arnom ar y mor ni waeth pa fuddugoliaeth a enilla ein Byddin ar y tir, canys collir yn y rhyfel a wnawn. Y cwestiwn mawr i'w benderfynu yn y rhedegfa rhwng suddlongau Germani a Byddin Prydain yw-Pa un o'r ddau all gyrraedd y nod gyntaf? Nod sudd- longau Germani yw newynu Prydain ,cyn y gorchfygir Germani ar y tir. Nod Byddin Prydain yw gorchfygu Germani ar y tir, a'i gorfodi i ildio a gwaeddi am heddwch, cyn y bydd i'w suddlongau hi greu newyn ym 1 Mhrydain. Ymddibynna ffawd a diwedd y rhyfel ar pa un o'r ddau nod hyn a gyrhaeddir yn gytnaf. Yr ail redegfa yw eiddo suddlongau Germani yn erbyn adeiladu llongau i Brydain. Mae tair wffordd i gael y trechaf nr suddlongau Germani, sef i. Gorchfygu Germani ar y tir cyn y cieIo newyn i Brydain. 2. Dal, neu ddinystrio, suddlongau'r gelyn ar y mor. 3. Sicrhau digon o longau newydd o hyd i lenwi lie a gwneud gwaith y llongau a suddir gan y gelyn. Yr ydys yn awr yn ceisio o ddifrif ,enill buddugoliaeth drwy bob un o'r tair ffordd. Yn yr aif a'r trydydd o'r dulliau hyn y mae Unol Daleithiau yr America bellach yn rhoi cymorth amhrisiadwy. Lliosogodd eisoes nifer y llongau cyflym i hela llofruddion y mor; mae wrthi a'i holl egni yn adeila4u llongau i lenwi lie y rhai a suddir gan y gelyn. Ac wrth wneud yr ail o'r ddau beth hyn mae yn torri ar draws arfer yr oes, gan ei bod (a) Yn adeiladu nifer mawr o longau bach, (b) Yn adeiladu llongau coed vn lie haearn. Drwy (a) sicrheir y bydd y golled yn llai, yn ogymaint ag y gofynnir ,cymaint o ymdrech i suddo llong fechan ag a fydd i'r gelvn suddo Hong fawr. elly llongau yn cario llwyth o ryw dair mil o dunelli yr un fydd, fel rheol, y llongau a adeiledir gan yr America. Drwy (b) sicrheir dau beth tra phwysig, sef: — i. Gellir eu hadeiladu yn fwy ,cyflym. Bydd nifer mawr o longau yn cael eu hadeiladu o'r un maintioli, ac o'r un patrwn a mesuriad, fel y bo unrhyw ran a fwriedid ar gyfer un- rhyw un allan o, dyweder, gant o longau yn y dosparth hwnnw, yr un mor addas ac yn ffitio yr un mor gywir i bob un o'r llongau eraill fo'n cael eu hadeiladu gan nad pa le bynnag yr adeiladir hwynt. 2. Bydd yn fwy ana'idd sincio'r llongau coed nag ydyw i sincio Hong haearn. Amcan cyntaf a phennaf y llongau coed newydd hyn a adeiledir yn America fydd cludo bwyd i Brydain ac felly cadw'r newyn ymhell. Rhedegfa felly yw hon rhwng- y dinystrydd yn Germani a'r adeiladydd yn America. A all Germani ddin- ystrio llongau ar y mor yn gyflymach nag y medr America adeiladu llongau i gymeryd eu lie? Dyna'r cwestiwn i'w benderfynu yn y rhedegfa hon. Egfuro'r Sefyllfa Filwrol. I Gwelir felly fod cwestiwn y sudd- longau yn rhan hanfodol o holl gwestiwn Cwrs y Rhyfel, ac yn rhwym o ddylanwadu yn fawr ar y sefyllfa fiiwrol ar y tir. Os edrychir ar y map gwelir fod Germani, drwy oresgyn Belgium, wedi meddiannu glan y mor agosaf i Brydain, ag eithrio glan mor Gogledd Ffrainc. Ceisiodd, er yn ofer, ddwy flynedd yn ol, gyrraedd Calais, a meddiannu arfodir Gogledd Ffrainc hefyd. Petae wedi llwyddo i wneud hynny buasai wedi peryglu bodolaeth holl Fyddin Prydain yn Ffrainc drwy beryglu ffon ei chynhaliaeth o Bryd- ain, yn gymaint ag na allem yrru nac adgyflenwad nac ade-vfnerthion i'r Fyddin yn Ffrainc pe bae Germani yn dalmeddiant o ddrws y Sianel rhwng Dover a Chalais. Mae hanner nerth suddlongau Ger- mani yn dibynnu ar eu bod yn cael dinas noddfa ym mhorthladdoedd Bel- gium mor agos i Brydain. Pe y collai Germani feddiant o lan y mor yn Bel- gium dyblid a threblid anawsterau ei suddlongau, gan nad oes iddynt noddfa arall nes myned i'r gogledd o Holand ac i gyffiniau Denmarc, a, buasai yn llawer rhwyddach cadw gwyliadwriaeth arnynt yno. Esbonia hyn paham y mae'r Ger- maniaid yn dal eu tir mor gyndyn, ac yn aberthu ei milwyr wrth yr ugeiniau o filoedd yng N gogledd Ffrainc. Drwy ddal Byddin Prydain rhag gwthio vmlaen yngogledd Ffrainc y medr Germani gadw meddiant o lann y mor yn Belgium. Pe y gwthid y Germaniaid ymhellach yn ol yngogledd Ffrainc, rhaid fuasai iddynt gilio yn ol o holl lan y mor yn Belgium 0 Antwerp hyd Ostend. I A.B.C.D. Prydain yn Ffrainc. Os edrychir ar y map, lie mae'r brwydro yn Ffrainc, gwelir ei fod yn ymarferol yn ddarn ysgwar o wlad, a thref bwysig ar bob un o'r pedair congl. Y trefi hyn yw Arras a Bapaume ar ochr orllewinol yr ysgwar, a Cambrai a Douai ar yr ochr ddwyreiniol. Gwelir fod y pedair tref yn dechreu gyda'r llythyrennau A. B. C. a D. yn eu tro. A dyna A. B. C. y sefyllfa fiiwrol i Brydain yn Ffrainc. Mae A. a B. (Arras a Bapaume) wedi eu hennill gan Fyddin Prydain. Mae C. a D. (Cambrai a Douai) yn aros ym meddiant Germani, "ond Byddin Prydain yn agoshau atynt o ddydd i ddyd-d, a'r Germaniaid yn aberthu o ddydd i ddydd fwy o fywydau i'\v cadw. Oherwydd natur y tir, trefn y rheil- ffyrdd a'r ffyrdd, a chysylltiadau han- fodol y Fyddin, byddai colli Douai yn golygu colli Cambrai, a byddai colli Cambrai yn golygu gorfodi Bvddin Germani i gilio yn ol hyd lannau yr Afon Meuse, ac felly i golli meddiant o lan y mor yn Belgium. A cholli medrant glan y mor yn Belgium, fel yr eglurwyd uchod, yn torri yn yr hanner nerth suddlongau Germani, ac mewn canlyniad yn lleihau i'r hanner berygl Prydain oddiwrth newyn. Cadwed y darllenydd felly ei lygaid y dyddiau nesaf ar ddigwyddiadau y rhyfel yn C. a D. yn A. B. C. Prydain yn Ffrainc. Yn Cambrai a Douai y penderfynir llanw neu wacau cwp- wrdd bwyd pob teulu ym Mhrydaih.