Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Colofn y Mamau a'r Merched.

News
Cite
Share

Colofn y Mamau a'r Merched. Anfoner defnyddiau i'r Golofn hon iofaJ f. Marged Puw, Swyddfa'r Darian, ac od oes gan fam neu ferch gwestiwn y carai ei ofyn, gofynned a gwna Marged ei goreu i ateb.] MAGU'R BABAN YN GYMRO. GAN MEGFAN. Annwyl Famau y "Darian, "—Bum yn hir iawn yn cyflawni fy addewid i ddweyd sut i fagu'r baban o -ddwy flwydd oed nes ei fod yn blentyn pum mlwydd yn Gymro bach pur. Ond dyma fi o'r diwedd wrth y gwaith, ac hyderaf y gwnaf yn hwylus ac effeithiol. Mae'r cyfnod hwn—2-5—- yn un pwysig iawn i fam Gymreig sydd am gadw ei phlentyn i siarad yn Gymraeg, yn enwedig yn nhrefydd poblogaidd Morgannwg a Mynwy. Daw yr un bach yn awr i ddechreu chwarae a phlant eraill tu allan i dy ei fam, a phan fydd yn dair a phedair oed clywir ef yn ami yn defnyddio Ilawer gair a brawddeg Saesneg. Yn union deg, heb yn wybod bron, bydd yn medru siarad yr iaith fain, a hynny, cofier, pan na siaredir yr un gair ond y Gymraeg ar yr aelwyd. Dywedir gan lawer mae y cyfnod nesaf o'r 5-12, pan a'r plentyn i'r ysgol, yw yr amser y rhaid bod yn ofalus o'r iaith, ond fy mhrofiad personol yw mai o'r dwy i'r pump yw'r adeg bwysicaf. Cofier, er hynny, fod gwahanol ardaloedd yn gwneud gwahaniaeth mawr, ond yn y rhan o Forgannwg lie 'rwyf yn byw mae iaith yr heol yn hollol Seisnig- aidd-ni chlywir byth air o Gymraeg gan y plant wrth chwarae, a hynny yn un o bentrefi enwocaf ac henaf Mor- gannwg Os felly bydd y fam (fel y rhan fwyaf o famau) yn caniatau i'w phlentyn chwarae a phlant ereill, Mae'r Elfen Estronol yn dod i fewn, a rhaid i'r fam fod ar ei gwyliadwriaeth. Mae yn naturiol i'r plant i gymysgu a phlant eraill o'r un oed, a mam annoeth iawn yw hi sydd yn amddifadu ei phlentyn o gwmpeini hyd yn oed rai na siaradant yr un iaith ag ef. A rhyfedd mor rhwydd a ihawdd mae'r Cymro bach yn ddysgu'r ,ddwy iaith! Heb fod yn hir bydd yn medru newid o'r naill i'r Ilall heb drafferth, tra bydd y Sais bach ond yn medru ar ryw air neu ddau o'r 'Gymraeg. Ond rhaid gochelyd yn ,awr rhag i'r Saesneg yrru'r Gymraeg o'r neilltu. Gallwn roddi llawer engraifft am gartrefi yn y gym- dogaeth lie ni siaredir ond y Gymraeg ar yr aelwyd gyda'r plant, ond y plant yn ateb yn Saesneg. Mae lorwerth yn fachgen bach pump oed. Ni chlywodd ef ei rieni erioed yn siarad yr un gair ag ef ond yn y Gymraeg—'roedd yntau yn Gymro bach da hyd nes y daeth yn ddigon hen i' fynd allan i chwarae a nhlant eraill, ac erbyn heddyw does ganddo bron yr un gair o iaith ei fam. Mae yn siarad Saesneg 'i gyd, ond er hynny Cymraeg siaredir 'ag ef ar yr aelwyd. Pe na fyddai yn beth mor ddifrifol byddaiyvn gwrieud i ni chwerthin wrth glywed ymgom .rhwng lorwerth a'i fam, a'r trueni yw -fodcynifer o honynt "n ein gwlad-y fam yn siarad yn Gymraeg a'r plentyn yn Ateb yn saesneg --y ddau yn medru deall y ddwy iaith, ond yn daJ i siarad yr uri er yn wahan- ol. Nawr, p'le mae'r bai P. Ar y fam, wrth gwrs! Cofiwch fod gennyf brofiad, ac nid wyf yn dweyd nac yn beio heb wybod. Mam fach gyffredin wyf, ac nid wyf yn honni fy mod wedi gwneud rhywbeth mawr wrth godi fy ,mhlant yn Gymry mewn cymdogaeth ac amgylchoedd sydd yn anffafriol i hynny, ond yr wyf yn gwybod digon i allu dweyd heb ofn mai bai y fam yw os y megir y plentyn yn Sais uniaith ar aelwyd Gymraeg. Nid wedi i'r plentyn fynd yn Sais y rhaid dechreu. Mae rhaid bod ar ein goreu i atal y drwg yn y dechreu. Cofiwch nad wyf am fagu'r plentyn i fyny heb iddo fedru siarad y ddwy iaith. Na, yn wir, 'rwyf am i'r plentyn qyn ei fod yn bum mlwydd i fedru y dwy-v, naill cystal a'r Hall, ac fe wnaiff yn hawdd. Ond 'gochelwch -rhag boddloni i'r tSaesneg ddod i'r aelwyd. (I barhau.)

* Cartrefi Dyffryn Nedd.I…

IO'r Gogledd. I1

Cellan, Ceredigion.

Advertising