Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

,Hwnt ac Ynia.

News
Cite
Share

Hwnt ac Ynia. Fel hyn yr ysgrifenna Gwr y Drych yn y "Brython" ynglyn ag anrhydeddu Mr. Lloyd George yn y Brif Ddinas:Dan at-ngylchiadau cyffredin ni ddisgwyliasai neb i Mr. Lloyd George, ar y fath achlysur, dflwyn i fewn i'w araith unrhyw fater politicaidd neu Seneddol. Ond yr oedd y rhyfel presennol yn cyfreith- loiii iddo wneuthur datganiad cyffre- dinol arno. Hynny a wnaeth, ond, i waetha'r modd, nid oedd wedi traddodi'r araith oedd ym mhen Golygydd y "Daily News" ei hun. Hawdd yw beirniadu Mr. Lloyd George, canys y mae'n gymaint o weithiwr, ac yn cyflawni gwaith na chafwyd neb arall a fedrai ei wneuthur mor effeithiol. Un o'r pethau mwyaf iselwael yn y 'Daily News' yw priodoli cymhellydd (motive) hunanol i Mr. Lloyd George. Rhinwedd yn- ddo, ac amod i'w lwydd, yw ei hunan- hyder, ac ni fu diwygiwr erioed heb hynny. Ond pe daliai ei erlidwyr eu llwydd eu hunain megys y daliodd Mr. Lloyd George ei lwydd anghy- ffrediri ef—mor ddifalch a dirodres- da iawn fyddai hynny. Mae gwasg Ffrainc, a'r gwledydd Cynghreiriol ereill, yn, un corawd o glod i'r Cymro enwog. Iechyd iddo!" Un o'r pethau goreu a ddarllenasom eto ar y "Gwrthwynebwr Cydwybod- ol" ydyw ysgrif y Parch. E. K. Jones, Cefnmawr, yn y "Deyrnas" am Ebrill. Mae nerth yr ysgrif yn ei thegwch a'i chymedrolder. Dyma damaid gwerth ei ddarllen o honi: — "Daw cyfrol ar gyfrol allan yn y, man i adrodd hanes oedfeuon y carcharau. Melys fydd darllen hanes yr oedfa hynod honno ar brynhawn Saboth yn Wormood Scrubs Dan bre- gethodd gwr ieuanc dieithr i fil o gynulleidfa, ac wyth gant a hanner ohonynt yn Wrthwynebwyr Cyd- wybodol. Dewisodd yn destun y weledigaeth yn Daniel x., a thraeth- odd yn hyawd1 a dwys ar fethiant llywodraethau y ddaear, ac ar Grist a'i gariad mawr fel unig obaith dynol- iaeth. 'Alltudiai hwn bob casineb; parai i dywallt gwred beidio. Rhodd- ai derfyn ar ryfeloedd, a chanai glychau gwawr Brawdoliaeth dyn.' Nid aeth ymhellach cyn i Amen" ddwys ac unol godi o 850 o galonnau. Digwyddiad cyffrous a rhamantus yd- oedd, a saif ar ei ben ei hun." Nid oes amheuaeth na addurnir eto feddau y rhai cvfiawn hyri.

IO'r Wlad.I

I Gweithredoedd nid Geiriau.…

'OGRAETH.I

Bedd Enoch Williams, J Adulam,…

Advertising