Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
CHRISTMAS PRESENTS. HIGH-CLISS SECOND-HAND f>17J\.NOS DAVIES'S, 30 LOW HILL, LIVER- POOL, invite inspection of the undermentioned bargains in PIANOS, featuring responsive" ness of touch, brilliancy, and balance of tone, as follows PIANO'S 28 PIANO, rosewood, panel, and ivory keys 4' r r r •, BAVIES'S, 30 LOW HILL, LIVERPOOL, invite inspection of the undermentioned bargains in PIANOS, featuring responsive- item of touch, brilliancy and balance of tone, as follows :— 1181181-PIANO, Rosewood, ivory keys, mellow tone, suitable for practise pur- poses. :ifm 124115 1-ROSEWOOD. Chippendale, treble panels and sconces, mellow tone. M9 f 15 /-RALPH ALLISON, beautiful, highly polished, burr walnut; very sweet tone and perfect touch. f42 115 /-HOPKINSON, handsome Walnut' full compass, beautiful mellow tone. £ 45/lOf-OOLLARD AND COLLARD, up- right iron grand rosewood. £58/10 I-COLLARD AND COLLARD, superb walnut, iron frame, rich tone, per- feet touch, choice piano. J59 /10 /-MONINGTON & WESTON, rich tone, full trichord, upright iron grand, in splendid condition. £ 68 /10 /-BRINSMEAD, v magnificent rose- wood de luxe piano. £ 87 /10 /-KNAUSS, Chippendale, overstrung, perfection tone and and touch; very superior piano. JM7 /10 BLUTHNER; perfection; rosewood, overstrung, faultless tone. Every instrument tuned, polished, and delivered. Motor deliveries to North Wales jwtd Lancashire Towns. BAVIES'S, VIA OLD' SWAN CAR. Hours, i) to 7. Wednesday I. Diamond Rings as Christmas Presents. •AVIES'S, 30 LOW HILL, LIVERPOOL, invite inspection to their special XMAS OFFERS, presenting utmost values in all the most Charming designs. Nothing to surpass the undermentioned in price and quality. MONEl" ALWAYS, as follows:- I j DIAMONDS and .PEARL Hand morna 3-stone Claw-set lgeb. Ring, worth » gns.; also lovely 5-stone Diamond 18ct. Olasv-aat Ring, lustrous stones, only f,2 15/ ôthers ditto at £ 3/15/- and £3/ 17 /0; also Superb Diamond and Sapphire 8-gainaai Claw-set Ring now £ 4/19/6; also Firsb-iV.ii bar 9-gainaa Claw-set 5- sfcoae Diamond Half-hoop, £ 4/19/3; also ditto at Special Bargains to •laar.—-Davies's, 30 Low-hill. "£7/19/ DIAMOND HALF-HOOP, very rich quality, White stone Diamond, close sat, heavy, ..solid. I Set. half-hoop, very lustrous gems, worth £ 1.4 also Superb S-sbona Diamond Crossover- Ring, Plat- inum Sat, £8/17 jJ ditto, £ 10/17/3; i also 3-stona Lustrous Diamond Half-hoop, Platinum Set, Ell/17116; also Rich 20 guinea Carved 5-stoneLarge Diamond 18ct. Half-hoop, intense brilliancy, only £12/10/- also very fine ISet. Stylish Diamond Half-hoop, very neat setting, only £ 9/18/—Davies's, 30 Low-hill. 319/19/ DIAMOND CROSSOVER RING, < Superb Lustrous 3-stone Large Diamond ISet. Crossover Ring, worth 930; also First-water Diamond and Platinum Clust- or Ring, £ 18/18/- also Large 30-guinea Diamond and Pearl Half-hoop, £ 19/10/ also large 35-guinea Diamond Half-hoop, £ 19/10/— also Very Fine 7-stone Diamond and Turquoise Ring, £ 22/10/ usual £ 36 also Beautiful Large Diamond Plat- inum Millegram-set Half-hoop, £ 26/10/ also large 3-stone Platinum Ring, also Gent's Single-stone Diamond, very large stone, £ 89/10/ also. 60-guinea. Large Diamond Marquise Ring, very fine quality, only £ 44/10/ also Gent's 1 arge Single Stone Diamond Claw, only £ 89/10/ 30 lOWMIi. !L..f"s, h..c'" "1,,# U L J t, It' UVEBPOOl. Established 26 years. nnnnnmmMI—BBBMHB t ^■—I—1—1—» ——MBBM——i CHRISTMAS and NEW YEAR GIFTS. THE FINEST ASSORTMENT OF EVERYTHING USEFUL FOR THE HOME ——— in Furniture, Carpets, Rugs, Blankets, Eiderdowns, Curtains and all Household Linen Goods, China, Glass, and all kinds of Hardware Goods. Hundreds of Articles of Rare and Richly-designed BRIC-A-BRAC specially suitable for presentation. 9-19, Bold-street9-i9> Bold=street \?i?  J Liverpool. Liverpool.
Advertising
For HOME-MADE Rr^.J jBy" I Feen micid and ReMttbt? |  [BORWIGK'Sl BL BAKING POWDER. J ?J?? Th* B—t in tha Wori& 
I GOSTEG.
I GOSTEG. OEDFA'R HEN YOHN.Da iawn a diolch. Hi ddaw yr wythnos nesaf ya IIawa gwell hynny na'i thocio a'i thorfynyglu. BOBOL, DTNA GA,MLIAD. I-Daeth y pwt hwn yma'n rhy hwyr i'w ddodi yn ei le iawn Yr oedd hi'n gasgl chwarterol Ysgol Sul Bethlehem, y Rhos (corlan Dr. Peter Price) y Saboth diweddaf; chwe chant yn bresennol; a'r offrwrn yn cyrraedd y swm digyffelyb o £4-01 GWILTM CEIRIOG.—Bu Mr. Wm. Roberts (Gwilym Ceiriog), Llangollen, farw'r wythnos ddi- weddaf; a daw ysgri f amo'r wythnos nesaf, a'i lun hefyd. Gweithiai yn Birkenhead ddeugain mlynedd yn ol, ac yraa y dechreuodd yr awen ei oglais. TN r NESAF.—Noson Delyn Cymdeithas Gymraeg Bootle Cyfarfod Misol Lerpwl; Park Road Waterloo Gair o Gaer; Grove Street; Gt. Mersey Street; Eglwysbach; Warrington; Princes Road j Chatham Street: Kensington; Miss Rosina Davies; Eisteddfod St. Helens. Bydd y rhifyn nesaf yn un wyth tudalen.
I SIACED FRAITH.
I SIACED FRAITH. GO DDA FO. Yr oedd gan Arglwydd Howard de Walden, Caatell Y Weun, lith gampus am y diweddar Owen Rhoscomyl yn y Western Mail y dydd o'r blaen. DJm'i air wrth gloi Here Vaughan, I drink to thee: the truest Welshman I ever found in Wales." IE, WIR.-Y mae Cymanfa Ddirwestol Lleyn ac Eifionydd wedi pasio i gymell y Bwrdd Addysg i osod Sobrwydd yn rhan hanfodol o gwrs plant yr ysgolion elfennol drwy'r wlad. O'R LLE Y MAE HI'N MARTV I LE Y MAE HI'N BYW.-Y mae'r Parch. J. H. Williams (Ganwy), Sy chtyn, wedi cael galwad i fugeilio eglwys M.C. Tremadog. Brodor y fo o'r Ganllwyd; ac mor eirias dros y Gymraeg nes methu diodde'i gweld dan draed ethnigion sir Fflint, ac am noidio at sodlau'r Gest, lie y caiff hi fwy o barch. MAWR YW EIOH BRAINT.—Y mae Syr Henry Jones, Glasgow i gyfarch cyfarfod ym MJ. Ffestiniog ar y 23ain o'r mis hwn, sef ar Addysg Gwerin Cymru. Gwyn fyd pobl y Blaenau mi heidiweh yno o ben ucha'r mynyddoedd, ar hyd llwybrau'r defaid drwy'r tywyllwch a'r glaw a'r eira os bydd. PLUEN YM MONET EIN MARY.- Darlithiai Mrs. Dr. Mary Davies o flaen Cymrodorion Caerdydd y nos o'r blaen; ac ebe un o feirdd y Gymdeithas._ wrth roi pluen yn ei bonet ar ddiwedd y ddarlith :— The Saxon calls her nightingale, The Scotsman calls her mavis The Welshman he unites the two, And calls her Mary Davies. DRAMODYDDION Y OLOGWYNI.— O'r Oorlan i'r Gad oedd enw'r ddrama, gwaith rhywun o'r ardal, a actid gan Gwmni Ogwen yn Methesda Fawr yn Arfon nos Fercher yr wythnos ddiweddaf. Bu'r cwm- ni hwn draw ac yma'n actio'r Ferch o GeJn Ydfa. DYNA NAID !—Y mae'r Parch. Robt. Evans, rheithor Cerrig y Drudion, wedi cydsynio i dderbyn bywoliaeth Brymbo. Dyna naid fawr o arogl grug Hirjfethog i arogJ saim llychllyd Bryn y Baw. GWYR SYDD I'W OAPIO.-Mae'r rhain i'w hanrhydeddu a gradd Prifysgol Cymru, yn ol a basiwyd mewn cyfarfyddiad o lys y Brif Ysgol yng Nghaer ddydd Iau diweddaf Mr, Henry Jenner, am ei was- anaeth i Gernyw a'i lien Mr. R. W. Jones, am wasanaeth i addysg eilradd y Parch. D. H. Williams, M.A., am ei waith dros addysg ym Morgannwg Canon Fisher, am ei waith fel lienor hynafiaepol; Proff. Sayce, am ei Assyriaeth Mr. H. Stuart Jones, am ei glasuroldeb fel ysgolhaig Syr iR. Armstrong Jones, fel bendithiwr meddygol ei gydoeswyr parth anhwylderau'r meddwl; Miss E. Phillips Hughes, amei hymroddiad i addysg a lies iechydol y bobl; a'r Parch. J. Morgan Jones, Caerdydd, am ei waith- fel lienor, pregethwr, a thros addysg. TALWR DA.—Y mae ambell estron yn talu'n ol yn hael am gael gwladychu yng Nghymru dlos; a dyma'r diweddar Syr John Leigh, sir Amwythig, a Beach House, Llandudno, wedi g,adael Y,5,500 i ysbytai Llandudno a Chaernarfon. BREGEDD MA WR BA NGOR.—G&ed cpeg etholiad seneddol gan efrydwyr Coleg Bangor yr wythnos ddiweddaf, a hwyl a byb anghyffredin. Dyma ffrwyth y fotio ar 01 yr areithio a'r tanbelennu, y canfasio a'r hcclo Miss M. Parseley, ymgeisydd y merched, ar ben y pdl a 176 o bleidleisiau Philip Williams, Llafur, 120; J. A. Roberts, Rhvddfrydwr, 35 ac A. Russell Jones, Bolshefic, 29 CYMRODORION 'BERTEIFI.-Y mae Cymry iawn a rhywiog tre Aberteifi wedi codi Cymdeithas Cymrodorion yno i gadw'r tan Cymreig rhag diffodd, ac i gadw'r lleill rhag mvnd yn fwy toeslyd ac anodd eu codi. Dyfnallt o Gaerfyrddin sydd i agor y tymor cyntaf y mis nesaf, a'r rhain yw'r swyddogion :—Llywydd, yr Henadur E Ceredig Evans, Y.H. trys., Mr. O. Beynon Evans, Y.H. bardd y Gymdeithas, Bryn- ach; ysg., Mri. E. Walter Rees (Gwallter Dyft, Ceidwad Cledd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain),, a W. T. Richards. Y mae yna ddeunydd da yn y dre a'r ardaloedd, a digonedd o draddodiadau llenyddol ac arall i'w cynnull rhag difancoll. o
1,' f*. 0 Big; Y Lleifiad.
1, f*. 0 Big; Y Lleifiad. SRAIDD TN GYNNAR.—Ar gais a deisyJiad swyddogol cyfeillion Eglwys Rydd y Cymry y dodasom yr eglwysi hynny gyda rhai'r Annibyn- wyr yng ngholofn y Cyhoeddiadau. Cwynir o rai cyfeiriadau y buom yn rhy frysiog, ac y dylasem aros nes y bo Undeb yr Ailnibynwyr wedi trafod eu derbyniad. Daw'r pwnc gerbron yr Undeb yn gynnar ddechreu'r flwyddyn, a gosodir yr eglwysi yn y golofn fel cynt nes y bo'r mater wedi ei bender- fynu'n flurfiol. ESIAMPL BETHLEHEM.—Y mae eglwys Bethlehem, Douglas Rd., wedi codi hanner cant 0 bunnau yng nghyfiog eu bugail, y Parch. G. Wynne Griffith, B.A., B.D. Dyna batrwm i eglwysi craill; mwy crintach a di-symud. PATRiVM T. D. OWEN.-Pan osodwyd y peth gerei fron, anfonodd T. D.,Owcn, Ysw.,New Brighton, bapur ugain punt i bwyllgor Eisteddfod yr Had, Birkenhead, i brynu llyfrau gogyfer a'r dosbarth- iadau Cymraeg a gynhelir dan nawdd yr Eisteddfod. Drwy haelioni'r gwladgarwr diledrith hwn, gellir bellach estyn y llawlyfr yn rhad rodd i bob llanc a lodes a ddaw i'r dosbarthiadau. A dyna bat- rwm i Gymry goludog y Glannau. Yn Neheudir Ffrainc y mae Mr. Owen yn bwrw'r gaeaf, a Chymru —Beddgelert yn enwedig—i'w gweld yn dlysach byth o'r fan honno nag hyd yn oed oddi yma. YN DEILWNG 0 BOB GAIR.—Y mae yn Nysg- edydd y mis hwn lun da o'r ddiweddar Mrs. Robt. Davies, Eversley Street, ac ysgrif deilwng o'i gras- usau ami gan y Parch. J. L. Williams, M.A., B.Sc., Aberystwyth. Cafodd ynddi hi gymeriad digon da i fentro dweyd y cwbl heb ofni mynd dros glawdd y gwir. rMDDrNOLIAD.-Ac yn yr un rhifyn y mae gan y Parch. D. Adams, B.A., ysgrif ar Yr rm- gnawdoliad, sy'n bartoad da at ddwyn pawb a'i darlleno i iawn gywair gogyfer a'r Nadolig, canys nid g-wyl i seigio'n lwth mo'r wyl honno, ond i fyfyrio'n ddwys-Iawen ar y Geni digyffelyb hwnnw. 'Rwy'n hoffi'r gair "ymddynoliad" a geir yma, ac nid wy'n cofio gweld y ffurf hwn o'r blaen. Da iawn. Ychydig ydyw nifer y rhai fedr fathu gair newydd cywir ac ystwyth a phersain yr un pryd. Mae'n ddigon hawdd bathu clygyrnach heglog ac amhersain. ENCOR I ROBT. YONES.-Noo Sul ddiweddaf, ail ddewiswyd Mr. R. Jones, 47 Keble Road, yn godwr y gan eglwys M.C. Stanley Rd. am y pum mlynedd nesaf. Y Parch. W."Henry, Port Talbot (Waterloo gynt), a bregethai yno, fore a- hwyr; a hynny gyda bias diamheuol. CODTI WRYCHYN A CHLEP AR r DRWS. —Digwyddedd peth doniol iawn yn Eisteddfod St. Helens ddydd Sadwrn diweddaf, sef palff o ddyn eras ei lais yn codi'n y seti cefn, i wrthdystio yn erbyn dyfarniad beirniaid canu'r unawd ar y crwth. She has been plucked in the prelim because she is English and not Welsh and I want her to be allowed to play before the audience. Wrth gwrs-, ni chafodd hi ddim, a ffwrdd a fo allan gan gau'r drws yn glep ar ei ol. Pe buasai'r delffyn poeth wedi aros, cawsai wybod mai Sais bach o'r enw Hart oedd yr enillydd. MEWN DIFRI'N AWR, BETH rw BREUDD- WYDT—QzioAA Guild leuenctid Liseard Rd., Sea- combe, agoriad llygaid llydan iawn nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf gan ddarlith y Parch. E. Llew- elyn Williams, B.A., gweinidog yr eglwys, ar Freudd- wydion. Aeth at ei bwnc ar hyd llwybr glas a gwelltog iawn, gan ddangos sut y daw breuddwyd, beth a bair y breuddwyd, ac yn y blaen, nes oedd y dyrfa wrth ei bodd. Mr. J. Owen oedd yn y gadair, a diolchwyd yn gynnes am y wledd.-Bu, amryw o'r beirdd, onid do, Mr. Williams ?yn ceisio deffinio breuddwyd. Ebe Meiriadog :— Gwib orweddog yw Breuddwyd—rhaith ddi- ffrwyth Rhith effro feddylfryd A ffug gasglion corff cysglyd, Yn amgau mewn siom i gyd. Acnid annhebygsyniad Alafon yntau :— Try'r enaid i'w daith tra'r hunom,—a dyg I Greadigaeth atom Ond hanes ei hynt ynom Yw agor sel y gair siom. Ys gwn i a soniodd Mr. Williams am freuddwyd dyn byw," chwedl pobl y wlad? "Goreu breuddwyd a welir liw dydd," ebe un o'r hen ddiarhebion Cym- raeg, ac mae'n debyg mai honno a barodd i'r diwedd- ar lolo Caernarfon alw'i gyfrol yn Breuddwydion y Dyrld. ELF ED, crN IDDO HTVrLIO.-Dyma ddau gyfle i glywed y Parch. H. Elfed Lewis, M.A., cyn iddo hwylio ar ei daith bell i Madagascar. Y mae i gadw cyfarfod pregethu ym Martins Lane, Liscard, y Saboth nesaf ac i bregethu nos dran- noeth (nos Lun) yng nghapel Saesneg Hunter's' Lane, Wavertree. Y mae Elfed yn Uawu tuhwnt o drysorau Efengyl a Ilenyddiaeth bob ameer; Syn,llaTGaf fyth Pan ??chwelo 7n7s mor ddiddorol bawb :y'n caru'r Deymas nad yw o'r byd hwn. PARTOIATEB I SrR JOHN MORRIS JONES. -Darlithiai Dr. Gweno gfryn Erans gerbron Cym- deithas Genedlaethol Gymreig Lerpwl nos Wener ddiweddaf ar Aneurin a Tbaliesin. Cyfeiriodd at y gwahaniaeth barn rhyngddo i Syr John Morris Jones ar bwnc oedran y farddoniaeth dan sylw; a dymunodd ar gynrychiolwyr y wasg oedd yno beidio a chofnodi ei sylwadau, gan fod yn ei fryd, pan orffenno'i ymchwiliad, gyhoeddi cyfrol ateb i Tahesin Syr John. Y Parch. D. Adams, B.A., oedd yn y gadair; cyfeiriodd at waith y darlithydd yn ennill yn Eisteddfod Lerpwl (1884) am gasgliad o ddiarhebion Cymraeg, ac at ei waith eithriadol o werthfawr fel copiydd hen lawysgrifau. Gof- ynnedd gwestiwn hefyd i'r darlithydd, sef Beth oedd ei farn am y drafodaeth ddiweddar parth lolo Morgannwg fel ffugiwr ac awdur y cywyddau a briodolid i Ddafydd ab Gwilym > A'r ateb ydoedd, fod amryw lawysgrifau eto sydd heb gael 1 eu chwilio ac nes y gwneid hynny, mai cadw pob barn heb ei datgan oedd oreu.—Diolchwyd i'r darlithydd gan Mr. Hugh Lloyd a'r Parch. O. Eilian Owen, yr hwn a dalodd. wrogaeth arbennig i briod Dr. Gwenogfryn, yr hon, er yn Saesnes, a fu'n I gyrrorth a symbyliad digyffelyb iddo ddal vmlaen a'i waith gorchestol. Diolchwyd i Mr. Adams am lywyddu gan y darlithydd a Dr. Rd. Humphreys. MODRWYO MAGGIE.-Priodid Miss M. E. ) Rogers, Meirion, Park Rd. North, B'head (Aber- dccn Street cyn hynny), i Mr. Thos. Roberts, 47 Parkfield Avenue, yng nghapel Laird^Street, ddydd Mercher diweddaf. Y Parch. H. M. Pugh, gwein- I idog yr eglwys, yn gweinyddu, a thyrfa fawr wedi dod yno i weld y ddau'n ymdoddi'n un wrth allor serch dihalog, y rhain yn eu mysg :—Mr. a Mrs. Thos. Jones (modryb ac ewythr y briodferch), Mrs. Roberts (mam), Mr. Robert Roberts (brawd), Mr. a Mrs. J. Maddocks ac Emlyn Maddccks, Mi-sa S. M. Rogers (cbwaer), Mr. Ed. Evans (ewythr), Misses M. S. a W. Davies, Mr. a Mrs. E. Davies, Mrs. P. Parry a Miss C. Parry, Mrs. J. Davi s, Mrs. R. Evans, Misses M. Lewis, E. Quine, K. Fisher, L., M., a J. Harvey, J. A. Jones, W. Edwards, Wel, Maggie bach, yr wy'n dy adnabod ers blyn- yddoedd, ac yn ddigon hy a chartrefol i ddwedyd hyn amdanat, a hynny'n hollol ddiragrith: dy fod yn eneth werth dy gael; yn ddeallus dy ben a glan dy galon heb ddim lol na balchterna chynset yn y byd o'th gwmpas yn fedrus dy waith fel athrawes yn yr ysgol ddydd yn ddigon Cymreig dy ysbryd i lwyr Gymreigio'r llanc fiodus a'th rwydodd A rheffynnau cariad a da y gwyddost na fedri di byth fod yn ddedwyddach dy aelwyd nag y dymunai Shonyn a'th holl gydnabod iti fod. Aur ac arian nid oes gennyf, Maggie, eithr yr hyn sy gennyf, dyma fo, sef a ddymunodd loan Arfon i bAr arall tebyg ichwi :— 1 Dwy galon gyda'u gilydd-a. uawyd Mewn annwyl lawenydd Rhyw gysur difesur fydd Dan awe l y byd newydd. Eu hoes fo'n hiroes o hedd,-a gwyaeb Duw'n gwenu'n eu hannedd A'u llwyr sail oil ar sylwedd A bery byth heibio'r bedd.
DAU TU'R AFON.
DAU TU'R AFON. BETHLEHEM, DOUGLAS ROAD.-Trodd y cyngerdd a gynhaliwyd yma nos Sadwm, y 29am cynfisol, yn llwyddiant mawr ymhob ystyr. Her-Gyngerdd ydoedd, a'r gwobrwyon yn rhai eithriadol o hael a theilwng. Ymgeisiodd 18 am yr Adroddiad, a chanmolai Mr. J. H. Jones (Y Brytho r) hwy am eu hadrodd da a'u dewisiad o ddamau o safon uchel. Cafodd bedwar i'r Ilwyfan, a rhannwyd y £ 1/11/6 rhwng Miss Evans, Hertford Road, Bootle, a Mr. O. Williams (un o ddisgynyddion Eos Mon). Yr oedd yr ymgeiswyr ar y canu yn lluosocach fyth, a Mr. G. W. Hughes a feirniadai'n ofalus a theg a goleuedig. Trefnwyd i bedwar ymhob cystadleu- aeth ddod i'r Ilwyfan. Enillwyd Her Unawd i feibion, £ 1 j 11 /6, gan Mr. Griff. Owen-ef, gyda llaw, yn un o'i Bethlehemiaid. Her Unawd y merched—rhannwyd rhwng Miss Dorys L. Allsop a Mrs. Cowan. Deuawd agored, cipiwyd y wobr gan Mr. Griff Owen a Miss Jones o Waterloo. Arweinid gan y Parch. G. W. Griffith, B.A., B.D. (y gweinidog), a thrin- iwyd yr offeryn gan Miss Edith Darbyshire, L.R.A.M. Yr oedd gofal y cyfarfod yri nwylo medrus Mri. Sam Evans (Arweinydd canu'r eglwys), W. J. Roberts (Organydd), a R J. Pritchard, a chariwyd y cwbl allan i'r dim. Bu'r chwiorydd hefyd yn dra phrysur yn trefnu ymborth i'r dieithriaid. Tybiem fod Gwr Y Brytbon yn mwynhau ei gwpaned, achos fe ddaeth ar ei union o Lanfairfechan. Diolch am ei feirniadaeth. Credwn mewn beimiadaeth er mwyn addysg i'r cystadleuwyr. Cyn cau'r mwdwl teg dweyd mai'r hyn a gododd y' cyngerdd I mor sydyn oedd i frawd hael o'r eglwys herian y rhoddai ef £10 at y gwobnvyon os gallem ni godi'r cyngerdd. Derbyniwyd ei her, ac estynnodd yntau ei ddegpunt fel dyn. 1 CROESAWU'R BECHGYN.—Rhag. i, yn eglwys We leaidd Spellow Lane, cafwyd cyfarfod a gwledd i groesawu'r bechgyn o'r fyddin. Cynhulliad rhag- orol, 0 dan lywyddiaeth y Parch. Hugh Evans (Cynfor). Croesawyd y bechgyn yn gynnes ar ran yr eglwys gan y llywydd, a chyfeiriwod he'yd I yn ddoeth a phriodol gan Mr. Ellis Owen at y brodyr a gwympodd yn y rhyfel-sylwodd' ar ragoriaethau eu cymeriad. Darparodd y chwiorydd wledd 2 ardderchog. Cyn cyfranogi o'r danteithioa, ae ar ol hynny, cafwyd cyngerdd amrywiaethol. Cyaver- wyd rhan gan Misses Annie Owen, Crosby Naacy Evans, Jennie Roberts, II. Davies, a Mri. Arthur Jones, R. T. Jones, W. Griffith, Wm. Roberts a Leslie Hanlon. Cyfeiliwyd gan Mr. Albert Fletcher. Diolchwyd amy croeso i'r bechgyn gan dri ohonynt,- Mri. A. Wyn Davies, W. O. Jones a Ted Edwards. Cyfarfod rhagorol. Cymdeithas Lenyddol Spellow Lane. Yn y cyforfod agoriadol cafwyd anercbiadi ar Emrys gan y Parch. Hugh Evans (Cynjor). Ya yr ail gyfarfod cafwyd dadl Mantais ynteu mn- fantais i grefyddfu'r rhyfel? Mantais, Mr. Erastas Evans anfantais, Mr. Ellis Owen. Yn y cyfarfedl diweddaf papurau-Edith Cavell, Miss Elsie EvzM Ann Griffithg, Miss Naney Evans. -:0:- 0 SIR FON.-Dyna bluen yng nghap Mr. H. B. Jones, Pengam, oedd ei apwyntio allan o nifer enfawr yn ysgrifennydd Bwrdd Cerddorol Prif Ysgol Cymru. Ef yn fab i lythyrgludydd o'r Gaer- wen, ac er wedi codi'n uchel, heb golli yn ei bea. Athro ydoedd yn Llundain, bu yn y rhyfel, ac ym- ddyrchafodd yn Lifftenant. Cymer ddiddordeb mawr yn yr hen Alawon Cymreig, a phan ar ym- weliad a'i hen fro daeth a pheiriant perthynol i Doctor Mary Davies gydag ef i gymryd i mew. yr hen alawon o enau ambell batriarch cofus a golygta darawiadol oedd gweld un hen frawd cystuddiol yn ei wely, ac oddiyno'n canu i'r peiriaat. Cwympodd dyn ieuanc o'r enw Donegan, ar ei ffordd i'r Iwerddon, o'r tren yn y plygain, ryw Salk llath a hanner o Rosneigr. Ni wyddis sut y bu'r digwydd, ond tystiodd un milwr a ddarllenai ar y pryd iddo ei weled yn agor y drws, ac yn ymlithro a l lan i'r t allan i'r tywylhvch. Yng NghymdeithasBro Goronv y mawr fwynhawyd darlith y Parch. Lewis Edwards (W.), Llangefni, ar Robert Owen y Sosialydd o'r Drefncwydd. A chaed dwy ddarlith arall yn y Sir, Drych Atgofy Prif-fardd Pedrog a Chadair Wicblyd Gol. 7' Brytbon. Yng nghyfarfod croesawu'r mil- wyr a'r morwyr yng Nghaergybi pwy lithrodd i fewn mor ddistaw ond yr aelod dros y Sir—Syr Owen Thomas a dyna syn yr edrychai am! i wyneb' Bu raid cael anerchiad ganddo, a thystiodd i'w benderfyniad i psegri-, hynny sy'n ol o'i fywyd i wasanaethu'r rhai a wnaeth gymaint o wasanaeth dros eu gwlad. Tarawyd trigolion ardaJ Comaes a pharlys myd pan glybuwyd fod Mrs. Hughes, Tre'r gof ucha, wedi marw mor frawychus o sydyn. Ya siriol ac iach i bob ymddangosiad ar fore Llua, a chan ymgomio'n ddymunol a rhai ar y ffordd, cad cyn yr hwyr a'i henaid wedi ymadael Prynhawa y Llun hwnnw partoai ei hun gogyfer a mynd i arwyl Miss Thomas y Neuadd (chwaer yr A.S.), pan y'i tarawyd hi'n angeuol gJ2f. Mam ofalus ac aelod nodedip., amei set gyda'r Wesleaid yn Nhregela. I wyI bregethu Brynhyfryd, Caergybi, corlan y Parch. Hawen Rees, gwahoddwyi deufab o'r Sir,-y Parchn. J. Hughes, Jerusalem, BI. Ffestiniog, a W. T. Griffith, B.A., B.D., Treorci Da cael ei hanrhydeddu adre. Dyna henafwraif siriol ydyw Mrs. M. Hughes, Chapel St., Beaumaris, a ddathlai ei phen bJwydd yn 96 oed y dydd o'r. blaen.-Llygad Agored, -—■ A
0 ER COF
0 ER COF Serchog ac Hiraethus Gof am GEIFFITH C. OWEN, Queen's Road (annwyl briod y ddiweddar Kate Owen), yr hwn a hunodd yn yr lesu ddydd Saboth, Rhagfyr 8fed, 1918. "Da was da o fiyddlon."
OVfARfOl^ CYST DlElOL
OVfARfOl^ CYST DlElOL Capel Anfield Road, v CRWEFRf R 1 1 eg, 1920. TESTYNATJ AGORED. Traethawd. Gwobr, £ 1/10/ Englyn. Gwobr, 5/ Cyfieithu Emyn. Gwobr, 7/6. Cystadleuaeth Gorawl. Gwobr, 95. Cystadleuaeth C6r Plant. Gwobr, E2. Parti o Blant. Gwobr, 15/ Unawd Soprano neu Tenor. Gwobr, 10/6. Unawd Contralto neu Baritone. Gwobr, 10/6. Adroddiad. Gwobr, £ 1/1 jO. Cyfieithu o Saesneg i Gymraeg. Gwobr, 7/6. Drawing (Black and White). Gwobrau, 10/6; 5/ Anfonir Rhestr o'r Testynau ond anfoa Stamped addressed Envelope i- JOHN, R. MORRIS, I Lothair Road, Anfield.
Advertising
WA NT!- D. COOK-General, Welsh.—1st Jan. Small house, Aigburth. Family, two. £ 35 j £ 40. Good situation. Reference indispensable, by letter. -C OLR)ING, 11 Victoria St., Liverpool. WANTED.—REGULAR SUPPLY of WELSH WILD RABBITS. State quantity and Price. Remittances daily or weekly. -19 Sandon Street, Waterloo, nr. Liverpool.