Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
S M k   /?t? .4 ? jf? .'W?? GUARANTEED PURE FOOD Ask for "KEENORA" SELF-RAISING FLOUR. CUSTARD ruWDER. BAKING-POWDER. BLANOMANGEi etc., etc. Manufacturers- t" MORRIS & JONES. Utmgtmri Liverltool, Mospokerter, anal New castle-on- Tyne.
|'!TREM Ill. j
!TREM Ill. Dealla Chalon. I Cyfeiriasom yr wythnos ddiweddaf at an- ianawd y Cymro, ei dueddfryd at y dych- mygol a'r cyfrin, a'i deimladrwydd byw. Wrth wneuthur hynny, ni fwriadem— fel, yn wir, y credwn inni ddangos—fych- anu'r pwysigrwydd o wybodaeth a deall mewn diwylliant cyflawn, ac yn arbennig mown crefydd. Yr ydym yn parhau o'r 'J farn y dylid cydnabod neilltuolion y meddwl a'r galon Gymreig, ac mai mantais fydd hynny i'r apel a wneir ati. Ond mae angen hefyd am ddiwylliant deallol, onite tyf y dychymyg yn wyllt, ac fe wastreffir teim- lad heb ei droi'n rym ymarferol a defnydd- iol. Yr oedd Paul yn gystal athronydd ag o ddiwinydd pan ysgrifennodd fel hyn A hyn yr wyf yn ei weddio, ar amlhau o'ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwy. bodaeth a phob synnwyr fel y profoch y pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist wedi eich cyflawni a ffrwyth- au cyfiawnder, y rhai oedd trwy ffydd lesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw. Ac mae Syr Henry Jones yn gymaint o ddiwinydd ag o athronydd pan yn dadleu dros hawl y deall mewn crefydd. Yn yr Hibbert Journal, 1903, cyhoeddwyd dwy erthygl o eiddo'n cydwladwr galluog, y rhai a dynnodd lawer o sylw, ac a enillodd gymeradwyaeth uchel gwyr o nod-y Deon Inge yn eu plith. Ymysg pethau ereill, dadleuai Syr Henry,—Cyhyd ag y bo rhes- wm a chrefydd yn hawlio uchafiaeth dros holl diriogaeth natur dyn, fod ymgais i ymyrryd rhyngddynt yn annhegwch a'r ddau. Dywed na fu'r un oes yn gryf onid oedd Ffydd a Rheswm law yn llaw A'i gilydd, a delfrydau ymarferol dyn yn sicraf wir. ioneddau iddo hefyd. Ac ebe fo Mae rhai pethau nad yw'r byd yn mynd yn ol arnynt, ac mae hawl dyn i geisio'r gwir yn un o'r nifer. Ni ellir tampio dihewyd deallol y byd, llawer llai ei » ddiffodd, drwy unrhyw ddamc-aniaeth a ddygir ymlaen yn ddall i wasanaeth crefydd. Cyn belled a hyn, yn ddiau, ymddengys i ni fod Paul a Henry'n cofleidio'i gilydd, ac y dyry'r naill a'r Hall eu bendith ar yr ymgais i ddwyn ffrwyth aeddfed y wybodaeth ddiweddaraf i gyrraedd gwerin Cymru. Dylai hynny fod o fantais fawr i'r weinid- ogaeth. Mae gennym yn awr do o weinid- ogion diwylliedig, ac mae gennym hefyd dd o leygwyr diwylliedig, a mwy o ddynion ieuanc meddylgar ac ymofyngar am y gwir nag y myn rhai inni gredu. Heb honni dim awdurdod ar y fath fater, byddwn yn meddwl mai camp doethineb y pulpud Cymrcig ya. y dyfodol fydd arwain ei wrandawyr yn ddi- ogel trwy gyfnod y trawsnewid. G-ftyr llawer o'n gweinidogion fwy ar ryw faterion Beiblaidd nag y teimlant ei fod yn bregeth- adwy. A phan gyffyrddant ag ambell i bwnc o safbwynt diweddar, ac yn groes i'r hen syniadau eyffredin, anodd fydd iddynt egluro'u hunain yn llawn mewn pregetb, ac felly byddant agored i gael eu camddeaU a'u camfarnu. Gwaith cynnil iawn yw ceisio symud ysbryd dyn o hen babell ei gredo i un newydd, gan nad faint gwell a fo'r newydd na'r hen. Nid hawdd gan ddyn ymado o'i hen gartref. Yn sicr, nid drwy ddirmygu syniadau y gellir dwyn meddwl a chalon allan ohonynt. Medd yliau'r galori" yw meddyliau cred. Clyw- som am bregethwr yn darllen testun neilltuol o'r Beibl, ac mai ei syniad eyntaf arno ydoedd, "'Does neb yn ei sens yn credu fod peth fel yna'n wirionedd." Beth bynnag am hynny, ni feiddiasai "neb yn ei sens sarhau cynulleidfa A'r fath sylw. Mae hen wr mewn caban ger llaw i'r ty hwn, yn wyliedydd yr hwyr dros yr heol a adgyweirir. Y noson o'r blaen, daeth bechgyn direidt. o'r tu cefn, gan ysgwyd ei gaban. Cynhyr- fodd y dyn, a dicred ydoedd fel y credem y bwriasai'r tan oedd yn ei gynhesu ar bennau ei boenwyr pe gallasai. Nid yw ysbryd, chwaith, yn hoffi cael ei hyrddio allan o'i hen gaban, pa mor fregus bynnag y gall fod. Pan oedd Paul yn gorfoleddu mewn gobaith o'i symud i'w w dy nid o waith llaw," gofalodd am ddywedyd, Yn yr hyn nid ym yn chwennych ein diosg." Ac mae'r babell sydd am ysbryd crefyddol yn llawn anos ei symud na'r un a fo am ei gorff, canys mae hi'n rhan o'i fywyd. Ni enillir dynion o'u hen gredoau drwy eu llibindio. Diffyg cofio hyn, a deall y natur ddynol, yw un o'r prif achOsion fod llawer o ddynion dysgedig yn diystyru gweinid- ogaeth yr Efengyl, a hyd yn oed yr Ysgol Sabothol. Yn sicr ddigon, nid drwy notice to quit gan Syr Oracl y ceir gan y saint i ymado a hen gabanau eu cred, eithr drwy arfer addfwynder, amynedd, a doethineb i'w hargyhoeddi. Gydag ysbryd ac agwedd felly, dylai'r Ysgol Sabothol Gymreig fod eto'n fagwrfa'f cedyrn. Ni ddysgir crefydd i'r bobl, yn efteithiol, heb ei hysbryd. Bydd gwaith o'r fath ag yr amcennir ato gan y mudiad diwinyddol tan sylw, gydag ysbryd parchedig a defosiynol, yn rhodd- amhrisiad wy i'r Ysgol Sabothol Gymreig, ac i grefydd Cymru.
Advertising
ASK FOR SIMMS" SAUCE Delicious I and Appetising. I David Jones and Co. Ltd. I LIVERPOOL, MANCHESTER and SWANSEA. Wholesale Agents.
Advertising
BEATY  IJSfL t<& r A-? f L T D, I ? ? CELEBRATED I,    ARE SHOWING A Fine Selection of OVERCOATS Excellent in Every Particular AT MOST MODERATE PRICES Concession to Ex-Service Men. 276 in the ;6 discount Allowed on all purchases to men demobilised during last 4 months 137 to 43 London Road, ¡ I Open p.m., Wednesdays until I 1 Ú.m.. Saturdays until 8 p.m. 28 & 30 Church Street, I Open until 6-30., p.m., Saturdays Ipro. IXJIYBEUPOOZS. I I ?!" ?-. n j Phone 3925 Bank. Phone 580 Bootle WmfiRSfriTIIS&SO^ MAKERS OF SMART SLOTHES 29 South John St., Liverpool, AND '349 Stanley Road, Sootle, Military Uniforms. Lounge Suit. Naval Uniforms. Ovorcoats. Costumes. Ladies' Coats A- yw'ch Llygaid yn eicb blino ? pothau n troi'n aiwlog ac anolyrig ? Dyna arwydd a rhybudd llethiod y llygad, g & iljlech ga el eu hedryeh rhag blasn ats g gwasthyga WD.a. 1J hoageulso- Gall-wa ni, .¡¡;yda'n hofi$rgwyidonol, dt:hnyd wrthych ,a oes araoch angea gwydraa; as os g Mly, eichoyfienwi i'r rhai a barai fwyaf g ("j les i ckwi. Galwoh heddyw— E Aachcr SONS at Eyeetaht Specialist. S 73 J &!ydlwyd 1848.LVnpOOL ? "!???m!)fm)M!))!<!W!!mt)!?? HARTLEY & GO., Liverpool 12 MOSS STREET. SBALES BY AUOTION EVERY JUBISDAY AND FRIDAY AT ONE, SATURDAY NIGHT AT SEVEN VALUABLE HOUSEHOLD FURNITURE OF ALL DESCRIPTIONS. MAGNIFICENT NEW AND SECOND-HAND PIANOFORTES, LARGE VARIETY I Op BEDSTEADS BEDDING. &(,. EVERY NECESSITY FOS HOUSEKEEPING AfTBND THESE SALES AND SAVE AT LEAST lOjjPRR CENT. A MAGNIFICENT SELECTION OF SUPERIOR FURNITURE IS ALWAYS KEPT IN BTOOR AND ANYTHING MAY BE PURCHASED BY PRIVATE TREATY. GOODS STORED. Oa view 8.30 a.m.to Ct.30 p.m.; Saturday 1 p.m. Uophone 1793 Royal. CONSIGNMENTS ( EITHER LARGE Oil SMALL) Of ANY DESCRIPTION INVITET) FOR 57HESS I JALBS. BESP RESULT GAURANTEED. FO iD New pattern Round Brass Fronts, also Silencers for Ford Cars and Radiators for Heavy Commercial Vehicles.}] Particulars and Prices apply to JAMES CHEW 49 CO. LTD., 58-GOIPARADISE TREET,_LIVIERPOOL. in, LIVERPOOL The 'to "JóA"T[SD. 21)Y fj i e ¡¡;i" I Dun, MOUNT PLIS48AMT. About i ming. walk £ rom;Ljme St. & Central Stat. A Fir3t Class Taraperaaje Hotel. Moderate Charges Tele. Shaffco-tbixry EL > to I, Liverpool." Phone, ASK FOB. Idris Table Waters Tn Syphons and Bottles. SODA WATER. POTASH WATER. SELTZER WATER. LEMONADE. DRY GINGER ALE, etc., etc. IDRIS & CO., Ltd.. Northumberland St., LIVERPOOL. Specialities in Ladies' and Gentlemen's NECKWEAR, MOTOR WRAPS, RUGS, DRESSING GOWNS, UMBRELLAS. D.H. GRANT (Proprietor, F. H WOLFE), HOSIER, GLOVER & OUTFITTER, 6 Lime St., Quadrant, and 8 Manchester St., LIVERPOOL.
- TREM I .I- - 1
TREM I I Mudiad Diwinyddol Newydd. YN union wedi inni bostio'n Drych di- weddaf, yn cynnwys sylwadau ar berthynas Colegau Cenedlaethol Cymru a diwinydd- iaeth a chrefydd, derbyniasom gylchlythyr oddi wrth Glerc Urdd y Graddedigion, ac yn caniatau inni wneuthur defnydd cyhoedd ohono. Diolchwn am y caniatad a da gennym am gynnwys y cylchlythyr. Gwelwn fod yr hyn a elwir yn Adran Ddi- winyddol yr Urdd wedi ei ffurfio er mis Gorffennaf diweddaf. Yn wyneb y ffaith fod adrannau cyffelyb wedi eu cychwyn mewn canghennau ereill, naturiol a phriodol oedd i Ddiwinyddiaeth hefyd gael ei changen hithau. Hysbysir fod nifer y graddedigion mewn Diwinyddiaeth yn 88, a bod nifer mawr o raddedigion mewn Celf a Gwyddor a fu'n efrydu'r pwnc hwn mewn colegau yng Nghymru a thu allan iddi." Mae 20 mlynedd er pan sefydlwyd cwra y B.D. yn y Brifysgol. Ac ebe'r cylchlythyr :— F'el y gwyddys, newidiodd safbwynt ac osgo diwinyddion gryn lawer yn ystod y 30 mlynedd diweddaf; ond hyd yn hyn ychydig a wnaed yng Nghym- ru i arwain meddwl y genedl i'r goleu ac i ddwyn i afael y werin ffrwyth aedd- fed y wybodaeth ddiweddaraf. Gwnaeth rhai brodyr eu rhan, ond ychydig o gyd- symud a fu. Aros y naill wrth y Hall y buom i raddau cynllunio, ond nid cymaint o gyflawni ag a ddymunasid. Ac eto yr oedd amlach a chryfach rhes- ymau dros hynny nag a dybiai y rhai a'u beimiadai o'r herwydd. Teimla'r pwyllgor ddyfod o'r amser pan ddylid cychwyn o ddifrif ar waith, i'r hwn y mae dau amcan arbennig Y naill yw cyfansoddi a chyhoeddi llyfrau diwinyddol, megis Geiriadur safonol, yn ogystaf a chyfieithu'r Ysgrythur o newydd, Y Hall yw hyrwyddo ymchwiliadau i feysydd newyddion. Tuag at gyrraedd y ddau amcan hyn, rhaid wrth gyd-ddeall a chyd-weithio dylid hefyd rannu'r maes, a gwybod pa adran ohono y mae pawb yn fwyaf cyfarwydd ag ef. Bwr- ledir cychwyn gyda'r rhai a gymerodd radd y B.D., neu'r D.D., a'r gwyr sy'n aelodau o'r Adran yn rhinwedd swydd. Yna disgwylir trefnu i gael cyd-weith- rediad ereill y gellir yn rhesymol ddisgwyl cymorth ganddynt yn y gwaith neu a hoffant ymuno a ni. Credwn y bydd y dyfyniadau uchod yn ddiddorol i'n darllenwyr. Credwn hefyd mai da fydd gan Gymru grefyddol ddeall fodyr Adran hon yn cael ei sefydlu ynglyn â Phrif Ysgol Cymru. Gwelir ar unwaith fod wyneb yr Adran ar ddigon o waith i'r mwyaf eiddgar ac anturus. Geir- iadur (diwinyddol) safonol Cyfieith- iad newydd o'r Ysgrythur Dyna ddwy orchest a gymer lawer blwyddyn i'w cwbl- hau. Gwir ddarfod i'r blynyddoedd di- weddaf bartoi llawer o ddefnyddiau at y gwaith, a chymhwyso llawer ar ddynion ar ei gyler. Yn wir, mae'n syn na fuasai gennym cyn hyn gyfieithiad Cymraeg newydd o'r Beibl. Nid ydym yn anghofio ddarfod i amryw wyr dysgedig gyfieithu rhannau ohono, megis y diweddar Barchn. John Ogwen Jones, Owen Williams (W.), ac ereill. Mae agos bob esboniwr diweddar o lyfrau neilltuol o'r Beibl yn cyfieithu hefyd. Ac mae'r argraffiad o'r Beibl Cym- raeg o Rydychen, 1908, yn cynnwys gwell- iannau tybiedig y Cyf. Diw. Seisnig. Ond er hyn oil, fe hoffai'r Cymro gael cyfieithiad Cymraeg newydd a llawn, ac mae gan Gymru hawl iddo. Ac mae hefyd le i Eiriadur Diwiriyddol Safonol. Breintiwyd ein cenedl yn y gorffennol a chyfrolau Beiblaidd a diwinyddol gwerthfawr. Mawr fu gwasanaeth Geiriadur Charles. Bvddai'n derfyn ar bob ymryson i lawer iawn o'i ddarllenwyr. Y Beibl, y Geiriadur, a'r LIyfr Emynau-dyna gestyll ami i grefyddwr cadarn a adwaenem gynt, a chymaint ag y gallasai'r mwyafrif ffordd- io'u cael. Adwaenem un hen gyfaill hoff, yn nyddiau ein mebyd, yr hwn, pan godai dadl go gyndyn mewn Ysgol Sabothol, a fynnai setlo pethau drwy ddywedyd Fel hyn y mae Creadur Charles yn deyd." Cafodd y Wesleaid hefyd Eiriadur ardderchog gan y diweddar Ddr, William Davies. Ar enwadau ereill yr un modd. Buont o werth amhrisiadwy yn eu dydd. Gan nad faint o gamsynio, oedd ynddynt, aeff roisant feddwl gwerin Cymru i geisio deall Gair Duw, a thrwy hynny ddeffro ynddynt newyn am bob gwybodaeth. Ac nid ydynt eto, ar lawer o faterion pwysig, wedi mynd yn ddi-fudd. Maent yn llyfrau byw i lawer.
! TREMg II.
TREMg II. Gwaith Mawr. Yr ydym, meddwn eto, yn falch o'r mud- iad diwinyddol newydd, ac o'r Ilu o ddynion diwylliedig a fedd ein cenedl heddyw i'w hyrwyddo. Mae'r gangen ddiwinyddol yn dwf naturiol o gyff y Brif Ysgol, yn gymaint a'i bod eisoes yn graddio efrydwyr a B.D. Ac mae hi hefyd, er yn bur gyrinil hyd yn hyn, yn anrhydeddu'r diwinydd a D.D. Saif y Brif Ysgol dros gyflawn ddiwylliant y genedl, ac mae'r gangen ddiwinyddol mor bwysig a dim, a dywedyd y lleiaf, yn y diwylliant hwnnw. A da gennym weld nad yw cylch y gweithwyr y bwriedir eu gwahawdd i gydweithio i fod yn gyfyng. Mae gennym heddyw nifer o ddynion heb unrhyw radd na theitl coleg, ond ydynt er hynny wedi treulio'u hoes i efrydu'r Ysgrythur a phynciau mawrion cred,— dynion o alluoedd uchraddol a diwylliant uchel. Mae rhai o'r rhain yn deall cystal a neb pa fodd i droi'r goleu hen a diweddar ar y Beibl, ac yn meddu'r craffter a genfydd beth sy dywod neu graig yn sylfeini'n ffydd. Nid yw gradd yn profi popeth. Nid yw arholiad bob amser yn gallu dal y prif beth- athrylith. Dywedai Mr. Chesterton dro'n ol ei fod yn hollol ddwl ar linell dyddiadau. Acebe Dr. Rashdall, yn ei Philo8ophy and Religion Sometimes even distinguished classical scholars—a Macaulay, a Matthew Arnold, a T. S. Evans,—were wholly incapable of understanding very simple mathemat- ical arguments. Mae'n gysur i rai ohonom fod rhyw gl6er (niche) wag hyd yn oed ym mhennau cewri Ond nid annhebig ddarfod i ddiffyg o ryw allu-a hwnnw heb fod o'r ansawdd uchaf- beri codwm i ami un mewn arholiad. Ond os bydd athrylith ymhen y dyn, fe ddaw i'r golwg cyn hir wedi'r cyfan. Ac fe ddaeth mewn lliaws o fyfyrwyr na fuont ddisglair o gwbl mewn coleg. O'r tu arall, gwelwyd rhai a raddiodd yn rhwydd mewn arholiad yn fethiant mewn gwaith. Ond fe sonnir yn y eylchlytliyr am ddwyn i afael y werin ffrwyth aeddfed y wybodaeth ddiweddaraf." Wrth gwrs, fe ddylai "geir- iadur aafonol" foct yn aeddfed ffrwyth cynhaeaf diwylliant. Dylai'r gwaith fod yn llawer mwy trylwyr na'r modd y cyfan- soddir ac y cesglir ein llyfrau emynau. Gellir newid llyfr emynau'n rhwyddach, ac nid yw'r athrawiaethau mor benodol ynddo ef ag mewn geiriadur diwinyddol. Gellid casglu y bwriedir y Geiriadur i fod yn un cenedl- aethol, ao felly i gynnwys daliadau neill- tuol pob enwad a sect, neu, ynteu, fod y pethau neilltuol hynny, nad ellir cytuno arnynt, i'w gadael allan. Os y dyb- iaeth gyntaf sy gywir, diau y gofelir fod pob sect yn cael cyfle i osod ei chredo neu ei daliadau ei hun ger bron. Temtir dyn i ddyfalu mewn sawl cyfrol y eyhoeddir y Geiriadur ? Ond ymholiad go ddibwys yw hynny ar hyn o bryd. Os bwriedir gwaith dyhysbyddol, diau y cymer amser maith, ac amryw gyfrolau. Ond mae'r dynion sy'n ei hwynebu wedi meddwl eu tasg, ac yn deall beth a olyga. Mae rhai ohonynt eisoes wedi cyfoethogi Hen eu cenedl a chyfrolau pwysig. Pe cymerai ugain mlynedd iddynt gwblhau eu harfaeth, nid yw ddiwrnod yn rhy fuan i ddechreu partoi ar ei chyfer. Ni all y bydd i unrhyw waith da a wneir fynd yn ofer yn y pen draw. Mae ar werin Cymru angen pob gwybodaeth aeddfed y gellir ei chael ar bynciau mawrion eu crefydd. Byddai gwaith fel hwn yn debig o adfywio meddwl y genedl ym mhynciau ei Bethel a'i Hysgol Sabothol. Gwnaeth y tadau eu goreu yn ol eu manteis- ion ac yn eu hamser hwy i oleuo'r bobl. Dylai eu dilynwyr, mwy eu manteision addysg, wneuthur. eu goreu hwythau yn awr. Mae gwell mantais i sgrifennu Cym- raeg da heddyw nag ydoedd gynt ac felly gellir disgwyl nid yn unig wybodaeth up-to- date," eithr hefyd y wybodaeth honno wedi ei chyfleu yn y ddiwyg oreu.