Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
S ?"? ARE OVERCOATS oSSKE BEXA Tf|i\lr THE FINEST "?? OVERMAIS I THE CELEBRATED IN THE TAILORS, PROVINCES, LONDON ROAD & QA 80/ CHURCH ST., 30/- to 80/- Liverpool. To Measure Same Price, I OVE THAT L I OVERCOATS PLEASr ? LLUm WM. GRIFFITHS, SONS I 29 South John St., Liverpool, AND 349 Stanley Road, Bootle, MAKERS OF SMART CLOTHES FOR Civilians, Officers and Ladies. Raincoats ready to wear and to order, inter- lined oilsilk to waist or throughout, making the garment thoroughly rainproof, in Greys and Fawns of all shades. Prices from SS/- lapwards. State Breast measure and length 1 required when ordering. A yw'ch Llygaid yn eich blino ? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anal wig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech ga el eu hedrych rhag blaen; eu gwaethygu wna'u hasgeulao. Gailwn ni, fyda'n hoffer gwyddonol, ddweyd wrthych 08 oes arnoch angen gwydrau ac B8 Mly, eich cyflenwi a'r rkai a barai fwyaf o lea i chwi. Galwch heddyw- Archer SONS F-Yoolght Specialists. 73 LORD STREBTi Sefydl wyd 1848. LIVERPOOL- | MORRIS EVANS9 Household Oil IS STILL titesd of all other remedies FOR Hheumatism, Sciatica, Lumbago, and WouildSg of all kinds. In bottles 1/3 2/9 Grocers tt Chemists, or direct for above prices from MORRIS EVANS & Co., THH MANUFACTORY, V,USTINIOG, Ni WALES, M LIVERPOOL, The SHAFTESBURY," MOUNT PLEASANT, ibstif d miss. walk f, raind at. a 0. i lfirst-<jl»ss Xenperanoe Hotel. Moderate ih Pots. I fttikfUibary Hotel, L'peel." Plume I ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles, 410DA WATER. POTASH iWATERt SELTZER WATEa LEMONADE, DRY QINQER ALE, Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland 1St.. LIVERPOOL D. GRIFFITHS D SON HI BrecK 8.4,. and 9 Moss St., L'pool.l' Pianos & .Organ. by all the leading makers, i From 81-per month. fmnoiM—tttx Aafield 3771 ROYALi KEEP SMILING We have a few Motor Cycles left, and as we do no know when we shall get any more we advise you to purchase now. Samples of what we have in stock are MOTO RxvE, 4 h.p. Twin £ 37^10 0 RUDGE-MULTI, 3i h.p. £ 42 10 0 R YDEK, z-stroke, z-speed J22 19 6 RUDGE MULTI, 1917 pattern. £58 15 o MOTOSACOCHE, 4-stroke £10 o o And many others all at pre-war price. "RUDGES," BOLD STREET, LIVERPOOL ROBERTS a EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64 KirKdale Rd., Liverpool Telephones [2193 Reyal.
frem l-Mr. Ed. Lloyd, Y.H.I
frem l-Mr. Ed. Lloyd, Y.H. I Yjar ddiamheuol, un o'r teuluoedd mwyaf nodedig ymysg Cymry Lerpwl fu teulu'r diweddar Mr. Edward Lloyd, ac mor unol a chymhlethedig mewn dihewyd ac amcan- ion fel yr oedd yn amhosibl cyffwrdd un heb gyffwrdd y ewbl, na symud un heb fylchu'r cyfan. Hysbys i'r cyhoedd gryfed eu serch at ei gilydd, eu diddordeb yn ei gilydd, a'u cytgord a'i gilydd yn y rhan a gymerent mewn bywyd dinesig a chrefyddol. Buont fel teulu yn allu defnyddiol iawn yn Lerpwl, yn enwedig ynglyn a phob mudiad Cymreig. Ond mae'r teulu'n dechreu cael ei chwalu. Un o'r digwyddiadau mwyaf prudd-dyner fu i'r tad ddilyn y mab rhagorol mor fuan, gan adael y weddw a'r fam i alaru'n hallt am y ddau. Beth bynnag oedd ac a wnaeth Mr. Edward Lloyd, amlwg i bawb ddarfod i'w briod ardderchog fod o'r cymorth mwyaf iddo ar hyd eu pererindod priodasol maith, nid yn unig yngtyn a'u masnach lwyddiannus eithr hefyd ymhob cyleh o ddefnyddioldeb cyhoedd. Ni fu erioed ddau fywyd yn ymblethu'n fwy naturiol ac effeithiol i'w gilydd. Yr oedd Mr. Lloyd yn un o'r enghreifftiau goreu o'r Cymry a ddaeth i Lerpwl yn ddynion ieuanc, ac a gadwodd eu gwahanfod Cymreig yn ei burdeb hyd y diwedd. Acenion neilltuol Maldwyn oedd yn tincian yn glir ar ei wefusau, a llwyddodd ef a'i briod i drosglwyddo'r unrhyw i dafod- au eu plant. Dyna gamp y mae rhai ohon- om yn gofidio'n hamherffeithrwydd ynddo. Llwyddodd yn y byd, a daliodd yn grefydd- ol-nid yn unig mewn proffes barchus, eithr mewn duwiolfrydedd syml. A phar.- haodd yn Ymneilltuwr Cymreig, cadarn a ffyddlon. Bu gwneuthur felly'n ormod o orchest i ami un. Ond fe lwyddodd ef i orchfygu pob dylanwad a fynasai ei dynnu allan o'i grefyddolder, ei Ymneilltuaeth, a'i Gymreigiaeth. Golyga hyn ei gryfder, ac nid ei wendid. Deellai werth bod yn Gymro ac Ymneilltuwr. Gwyddai paham y parhaodd felly. Gwir fod ei gydymdeim- lad yn ehangach na'i sect neu ei enwad, ac. na'i genedl. Dylai cydymdeimlad pawb ohonom fod felly. Ond, wedi'r cyfan, dylai fod gan bob un hefyd ymlyniad arbennig wrth ei bobl ei hun," yn genedlaethol a chrefyddol, yn gystal a theuluaidd. Dywed William Clarke mai'r hyn a ddyfnhaodd deimlad cenedlaethol Mazzini i frwdfrydedd crefyddol oedd ei astudiaeth o waith y bardd Dante. Credaf mai i'r gwrthwyneb, yn hytrach, y bu yn natblygiad y mwyafrif o Gymry rhagoraf Lerpwl, a Mr. Edward Lloyd yn eu plith, sef ddarfod i'w genedl- aetholdeb dyfu o'i grefydd. Ac os na chafodd ei ysbrydoli trwy ddarllen rhyw awdur nodedig, fe gafodd trwy ddarllen ei Feibl, a thrwy ddarllen crefydd fel y gwelai hi yn hanes a bywyd goreu ei wlad a'i genedl. Gwyddai beth oedd egwyddorion rhyddid gwladol a chrefyddol, a pha bethau oedd ddamweiniol a hanfodol mewn crefydd. Priodolid i Mr. Edward Lloyd naturioldeb siriol. Gall tueddfryd a thymer naturiol ddywedyd ar ymddangosiad ac ymddygiad crefyddol dyn, ond diau fod ffydd a phrofiad ysbrydol c yn cyweirio calon i lawenydd. Bu Mr. Lloyd yn dioddef yn hir oddiwrth afiechyd poenus, ond yn oddefgardros ben. Gallodd fwrw heibio rai syniadau crefydd- ol a gyfrifid gynt yn wirioneddau diamheuol, ond gwnaeth hynny am y credai iddo gael goleuni newydd, a bod yr hyn oedd han- fodol i Gristnogaeth yn aros drwy bob cyfnewid. Dyma un arall o'r cymeriadau disglair—un a rodiodd drigain mlynedd trwy heolydd Lerpwl, gan herio'i holl dem- tasiynau, troi ymysg pob dosborth o bob], eto'n gorffen ei oes ddefnyddiol a'i gymeriad cyn wynned a'i amdo Esiampl gwerth i'w dilyn. Clywsom ddarfod iddo erchi tynnu ymaith lenni duon galar angladd oddiar y pulpud yn union wedi angladd Mr. Thomas Arthur-y gallent hwy alaru heb hynny. Dyna un a wyddai beth oedd gwir alar. Erbyn heddyw fe yr beth yw gwir lawenydd-digymysg a chyflawn. Gwyn ei fyd
Trem II—Dwyrain a Gorllewin.
Trem II—Dwyrain a Gor- llewin. Ami a cholledus u'n methiannau cyd- nabyddedig ym Mesapotamia a Gallipoli, a gwelwyd fod y Twrc yn gryfach nag y tybid ei fod. Chwerw i'r wlad hon fu'r gorchfygiad yn Kut, ac i'r Cadfridog Towns- hend a'i fyddin ddewr orfod ymostwng. Ond ar ol Townshend daeth y Cadfridog Maude, gan gymryd Kut, ac yn union wedi hynny Bagdad. Ymddengys fel petai un arall o freuddwydion disglair y Caiser wedi ei ddifetha, canys yr oedd ei fryd ers talm ar sicrhau ymdaith fuddugol y ffordd hon, ac ymgadarnhau yn Bagdad. Diau y'bydd Bagdad yn ennill pwysig i'r Cynghreiriaid. Effaith ein methiant cyntaf fu dylanwad anffafriol ar feddwl y Dwyreinwyr. Yn awr gwelant fod Prydain yn parhau yn ei gallu milwrol. Mae arddongosiad o allu ynddo ei hun yn rhwym o daro dychymyg y cen- hedloedd Dwyreiniol y tuhwnt ac o amgylch Bagdad. Mae hon yn hen ddinas, a Ilawer iawn o hanes a thraddodiadau rhamantus iddi. Bu'n ganolbwynt ymgyrohoedd rhyfel, rhwysg ymherodrol, a hygoeledd crefyddol am filoedd o flynyddoedd. Mae ei had- eiladau a'i chreiriau henafol a chysegredig yn lluosog. Ar hyn o bryd, ymddengys rhagolygon Tyrci'n bur gymylog, ac i'w grym yn Bagdad gael ei orchfygu'n rhwydd- ach nag y disgwylid. Eglur yw nad allal braich Germani estyn cyn belled a glannau'r Tigris, a phrin y gellir credu ddarfod iddi fforddio gosod pen milwrol o'i heiddo ar y Tyrciaid, gan mor rwydd y cilient o ffordd y Cadfridog Maude. Ac yn awr mae gan y Twrc i wynebu galluoedd o amryw gyfeir- iadau-y Prydeiniaid yn Bagdad a'r Aifft, a'r Rwsiaid yn Armenia. Nid yw'r Tyro- iaid, ar hyn o bryd, yn dal eu tir mewn unrhyw bwynt mewn brwydr, ac ymddengys fel petai eu hymerodraeth yn gwegian i'w chwymp ymhob cwr ohoni. Fel hyn, yn y Dwyrain, ceir argoelion calonnog, o ran ein perthynas a'r Twrc beth bynnag. Yn Ffrainc, mae'r Prydeiniaid wedi ennill peth tir, ond y Ffrancod wedi colli ychydig. Ond nid yw'r symudiad mawr eyffredinol a fygythid rhwng y gwrthluoedd wedi cychwyn o ddifrif. Mae'n ddiamheuol y bydd taro Syrnig a phenderfynol cyn hir. A fydd i hynny derfynu,fel droeon o'r blaen, mewn i'r gelyn a'r Cynghreiriaid ymgloi am gyfnod arall mewn ffosydd, anodd dyfalu. Ni fu'r difrod drwy y suddlongau gymaint yn ddiweddar agydoedd rai wyth- nosau'n ol, neu, ynteu, ni chyhoeddir hynny. Ceir, yn ddiau, resymau cryfach nag erioecl dros gredu fod Germani'n teimlo y rhaid iddi grynhoi ei holl nerth i ymgyrch bender- fynol ddigyffelyb, doed a ddelo, ar dir a mor. Hawdd credu'r syniad y ceir yn fuaa ruthr llyngesol arall o Germani. A phan ddigwydd hynny, ceir prawf o rym pob matk arr ddwrn i daro sydd yn ei meddiant— llongau ar y m6r a thano, yn gystal A'r Zeppelins. Nid yw'r saib oddiwrth ym- weliadau'r Zepps å'n Hynys yn golyguto gwbl fod y gelyn yn eu bwrw heibio, nac ym adeiladu llai ohonynt. Yn paratoi y mae, ymhob peth, ymhob modd, yn ddyfal iawn hefyd, a deil ar ei gyfle cyntaf i ymosod. Mae agwedd America, o'r diwedd, yn rhee- wm newydd dros i'r gelyn wneuthur ei orou ar fyrder.
Trem lll-Berw'r Werddon
Trem lll-Berw'r Werddon A gelynion dyn fydd tylwyth ei dy ei hun." A'r un peth sy wir am wlad. Relynt anffodus a chas i'r eithaf yw eiddo'r Werddon. Pan mae'r Ymherodraeth Brydeinig ya wynebu, gellid meddwl, y symudiad pwysie- af oil yn ei hargyfwng ofnadwy, dyma'r gelyn yn cael y mwynhad o ddeall fod anghydfod difrifol yn ein Senedd, a mwyafrif mawr cynrychiolwyr yr Ynys Werdd— yr Ynys y gobeithiodd y Caiser gael ynddi gynghrair bradwrus--yn cerdded allan o'r Senedd, gan gau dwrn ar y Llywodraetfc, a bwrw geiriau dirmyg at y Prif Weinidog. Ychwanegir, hefyd, fod llawer o Ryddfryd- wyr yn cymeradwyo'r arddangosiad hwa. Gresyn na allesid setlo'r mater cyn hyn, » diau y gallesid onibai am ystyfnigrwydd rhagfarnllyd rhywrai. Anodd credu fod calon y Prif Weinidog yn y safle a gymerai ar y mater, a dylid cofio nas gall, yn y swydd y mae ynddi, lefaru'n gwbl annibynnol. Dylasai'r anghydwelediad- gael ei bender- fynu-o leiaf dros amser y rhyfel-pan fa Mr. Lloyd George, dro'n ol, yn cynnyg at hynny. Mae'r peryglon a gyfyd o'r sefyllfa. fel y mae yn ddifrifol. Difrifol, yn ddiav, fyddai i chwyldroad arall dorri allan yn y Werddon a difrifol hefyd, ar hyn o bryd, fydda' i'r LlyVodraeth hon eto gael ei dymchwel. Yr hyn a bair bryder i 00. gwlatgar yw'r ffaith bur sicr nad yw Mr. John Redmond ei hun ond cymedrol ei wrthwynebiad i'r Llywodraeth, mewn oym- hariaeth i gorff mawr Cenedlaetholwyr y Werddon. Dangosodd arweinydd y Blaid Wyddelig ar ddechreu'r rhyfel, at adeg y chwyldroad yn y Werddon, ysbryd teymgar a theg; ond fe'm sicrheir ni gan rai cyfarwydd a hwy fod y teimlad ymhlith y Gwyddelod yn gyffred- inol yn fygythiol, ac ar gynnydd yn ei rym. Ond y pechadur mwyaf o bawb yn yr achos o'r sefyllfa bresennol ar bethau yn y Werdd- on yw'r hwn a ddysgodd Oreinwyr Belfast i ymarfogi ar gyfer gwrthwynebu y Llyw- odraeth Brydeinig ac mae hwnnw heddyw'* Weinidog y Goron
Advertising
I ———————————————————— DONEGAL TWEED CO. LIVERPOOL'S  FOREMOST T 1A TT HD C The Name DONEGAL TWEED CO. is a guarantee of I QUALITY and the PRICES are always moderate. Overcoats 30/- to 70/- —— NO EXTRA CHARGES. —— rrr: 21 LORD ST., LIVERPOOL niruiv* W' NuiMuir Monager JOHN JONES. Also 95. 10, 165 Grange Rd., B'head o ro am byth at 226 High Street, Bangor, ym 23 Hope Street, Wrexham, W?speci??e In L?di?' Tallor-Made ° ??!?.i?t?Ih.I?Mngddo?m. Costumes to order from 501. throughout