Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

L in cyn Loucyn

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

L in cyn Loucyn Bhyw fynd i tyny'n barhaus ydyw hanes Mr. Lloyd Geogre ac er i'r wlad fynd i lewyg bron pan gollwyd Arglwydd Kitchener, ac ofni y. byddai ar ben amom, ymddengys fel petal'r Daily -Lies Nve,ai dywedyd y gwir am unwaith yn eulioes pan ddadleuent fo d eisiau Ll.G. a'i egni dihafal i gryfhau'r rheidiau rhyfel, canys byth er pan aeth yn Ysgrifen- nydd y Swyddfa hormo, y mae tro er gwell ar bob a.dran o'r Annagedon. A gwir diarnwys ac yn ei bryd ydyw'r gair a ddywedodd wrth y gohebydd o'r America y cyhoeddid ei interfiw ag ef ddiwedd yr wythnos ddiweddaf. sef am y bobl o'r gwledydd meddal-galon sydd yn mwmian am heddwch rhy gynnar. Na, rhaid ei hymladd i'r pen bellaeh, a rhoddi'r fath yggegfa ac ysigtod i'r Almaen nad uniono hi byth i glwcian mor geiliogaidddros Ewrop mwy. Dyna gnewyHun ei atebion i'r Yencyn aewyddiaduro 1. Yn yr Abermaw, Hydref^ 3-5, y cynhelir OyJBaoafa Ddirwestol Gwynedd eleni, dan lywyddiaeth Syr J. Herbert Roberts, a'r rhain i gymryd rhan -LlewTegid, y Parch. H.Rees (Dolgellau), 0. Lloyd Jones, M.A.B.D., J. Owen ac 0. L. Roberts (Lerpwl], T. Morgan (Wyddgrug), W. O. Evans (Porthmadog), y Prifaihro Prys, M.A., D. Gwynfryn Jones, W. R. Owen, B.A. (Abergele), J. P. Brookes (Penmachno), G. P. Hughes (Morfa Nefyn), H. H. Williams (Cefn Bychan), Wynn Davies (Rhos),W. R..Roberts (Drenewydd), Mr. Rhys Jones (Abermaw), Dr. Jones Evans (Pwllheli), Miss Ellis, M.A., a Mrs. O. R. Williams (Man- chester), Mr. Rees Jones (Moss Bank), Mri. Haydn Jones, Ellis Davies, a G. C. Rees, A.S., Miss Williams (Llundain), Mrs. Robert Jonep (Rhos), Ceridwen Peris, Miss G. Thomas (Pentraeth), Mr. W. Hughes (Gwrecsam), Mrs. Vaughan Davies (Caernarfon), Mrs. C. Jones (Meifod), ac ysgrifennydd y Gymanfa-y Parch. J. Glyn Davies, Rossett, Mr. Wm. George (trys.), y Parchn. O. Lloyd Owen, R. Prys Owen (Llangefni), J. Rhydderch (Pwll- heli), O. T. Davies (Llanfyllin), G. Howel (Rhos), Mrs. Morris (Llannerch y medd), E. T. John, A.S., y Parch. J. Puleston Jones, M.A., y Proff. Levi (Aberystwyth), Surgeon Gen. Evatt, C.B., Miss Edith Thomas (Criccieth), etc. Y Parch. T. Hughes (Felinheli) sydd i agor y drafodaeth ar Gwaharddiad a Chenedl- ttetholiad. Mawr lwydd i'ch cyfarfodydd, a gresyn na chawsai dyn fod yno i ddweyd wrth y wlad pa arddeliad a bendith a gafwyd. 0- Y mae'n ofnus fod Sarah Jones, gwreigan ganol oed o Stryt y Capel, Treffynnon, wedi boddi yn y Dyfrdwy, canys ddydd Mawrth aeth i lawr tua'r afon i helcocos; ddydd Iau, cafwyd peth o'i dillad a'i chydaid cocos, ger y Maes Glas, ond dim golwg o'i chorff hyd yma druan. ~e* Hysbysir fod F. McManus a D. Blythin, Morfa Bach, Rhyl, wedi eu lladd yn y rhyfel, a Hanld J. Ellis a Lance-Corp. Griff Evans— dau arall o fechgyn y dref-wedi eu clwyio. -0- A daeth gair i- Gorwen fod Capt. R. M. Rose-Lloyd, aer ystad y Rhagatt, wedi cael ei ladd yn y brwydro yn Nwyrain Affrica, Medi 18fed. Q 1- I Yng Nphaernarfon, ddydd Sadwrn di- weddaf, dirwywyd yr Anrhyd. F. G. Wynn, Glyn Llifon, i cfdwybunt yr un am weithio chwech o ddynion ar fferrn y Plas ahwythau'n absenolion o'r Army Reserve heb ganiatad (leave). Dywedoddyrynadoneubodo'rfam fod yno drosedd difrifol wedi ei gyflawni,- esgeulustod dybryd ac nid o anwybodaeth i gyd," oedd eu geiriau wrth ddyfamu'r ddirwy a chaniatau costau'r tystion. Y mae gwir GymryTreffynnoll wedi dod at ei gilydd ac ymffurfio'n Gymdeithas o Gymro- 219"ion. Cefnogir hi gan y ficer-y Parcn. E. Lorimer Thomas, Proffeswr y Gymraeg yng Ngholeg Llanbedr gynt; cadeirydd, Mr. J. M. Edwards, M.A., prifathro'r Yfgol Sir, brawd Syr 0. M. Edwards yr ysgrifenyddion yw'r Parch. J. E. Davies a Mr. Gwespyr J-mes a'r trys rydd, Dr. C. E. Morris. Lie cyn ysg a diddorol ei bobl a'i bethau yw Treffynn m, ac eithafion fel offeiriaid y Babaeth yn taro'i benelin yn erbyn Rd. Jones yr Hen Flaenor, Sy'n sythwr mor gryf dros Ddwr y Bywyd rhagor Dwr Gwenffrewi. Y mae gennyf Lyfr Emynau Gymraeg y Catholigion yn y ddese yma, ac a ddyfynnaf rai o'i deleidion yr wythnos nesaf, wrth adrodd hanes oedfa gyda'r Tad Bernard Vaughan, y bu raid eu hoedi yr wythnos hon o ddiffyg hamdden i'w nyddu a lie i'w rhoddi. Treuliodd Mr. J. D. Williams, golygydd y Daily Leader, Abertawe, rai misoedd yn Ffrainc, ac aMethoddei brofiad am a welodd ac a deimlodd yn gyfres o ysgrifau byw i'w bapur. Y mae'n flaenor yn un o eglwysi'r dref, ac yn prisio'i brofiad, meddai eI, yn filwaith mwy na phob aur ac arian. < Y Sul cyn y diweddaf, bu'r Parch. J. Ossian Davies farw. Yr oedd wedi ymneilltuo o'r fugeiliaeth Annibynnol Seisnig ers cryn dair blynedd ar ddeg, ac yn gystuddiol ar eu hyd, fwy neu lai. Llanelli, Abertawe, Bourne- mouth a Llundain fu meysydd ei lafur; a phrin y ceid yr un cennad mwy hyawdl na llawngch o'r gwefr Cymreig hwnnw sydd mor hoff gan Saeson ei glywed rhagor arddull gleiog a dieples y gwýr o'u cenedl hwy eu hunain. Brawd iddo ydyw'r Parch. T. Eynon DavIes, Llundam, a r ddau o Geredigion. Y mae'r Ail Lifft. Ieuan Vaughan, mab hynaf y Parch. D. Hoskins, M.A., Caemarfon, wedi ei glwyfo yn Ffrainc, ond nid yn dost, o drugaredd. Enw tlws yw Ieuan Vaughan- Fyohan yn Gymraeg, ond a drowyd yn Vaughan gan fod gyddfau'r Saeson yn rhy gul i'r ch ddod trwodd.' Y mae'r Lifft. Neville Ayrton-Astbury, Groffvenor House, Llaneugrain (Northop, rhag na wyddoch) wedi ei ladd yn Ffrainc. Daeth drosodd o Canada i ymuno. Un arall a laddwyd ydyw Rifleman D. Caradog Will- iams, mab 23ain oed ysgolfeistr Llansilin, Bef y Llan y gorwedd llwch Huw Morus, bardd Pont y Meibion, ynddo. Y mae'r Parch. J. L. Mostyn Owen, mab ysgolfeistr Cameddi, Bethesda, wedi cael galwad i fugeilio im o eglwysi M.C. mwyaf sir Gaerfyrddin-set Pmt y Ffynnoii. Dechreu ag argoe] iddo. Y Yiaae Mr. G. Cornelius Roberts wedi cyd- synio i aros yn ei swydd fol rnaer Pwllheli am fiwyddyn arall. Nid pawb sy'n cael encor mot gryf. Rhyw goron, fwy neulai, ydyw pris petrisen a brynir mewn siop, ond fe gostiodd bedair punt i Sais o Wallasey yng Nghaergwrle ddydd Mercher diweddaf, sef am iddo saethu un ar gae un o ffermydd Kinnerton, a hithau'n adeg anghyfreithlon i hynny. Y mae Lady Trevor wedi llwyddo i hel £ 600 at gael uniforms i Gatrawd Wirfoddol Dwyrain Sir Ddinbych. Arglwydd Howard de Walden ei hun yn cyfrannu canpunt, a Lady Trevor a'i gwr yn rhoi X300. Dyma raglen nesaf Cymdeithas Cymry'r Porth a'r Cylch, sef Porth Cwin Rhondda, a diolchwn am raglenni cyfielyb o fannau eraill :—Llywydd, Syr Wm. James Thomas cadeirydd, Mr. J. Hunton Jones is-gadeir- ydd, Mr. R. W. Jones, L.T.S.C., cyn-gadeir- ydd, y Parch. J. Edwards trysorydd, Mr. Owen Owen ysg., D. Teifigar Davies a J. Pryse Williams. Hyd. 13-Cwrdd Croeso anerchiadau croesawu; unawdau llais ac offeryn adroddiadau canu gan Gor y Madrigaliaid, tan arweiniad Mr. Joseph Bowen. Hyd. 27Cwrdd Plant ij unawdau llais ac offeryn adroddiadau canu gan G6r Plant y Cymer, tan arweiniad Mr. Stanley Williams (buddugol yn Eisteddfed Genedl- aethol Aberystwyth). Tach. I O-Noson gydag Enwogion Cymru Papurau byrion (1) Gwleidydd, Henry Richard, Mr. John Owen; (2) Gwladgarwr, Emrys ap Iwan, Mr. S. D. Lloyd (3) Cerddor, Dr. Joseph Parry, Mr. J. Crawnon Jones, L.T.S.C. (4) Crefyddwr, Yr Esgob Wm. Morgan. Mr. J. Miles Thomas. Tach 24—Darlith, Y Gadair Wichlyd, Mr. J. H. Jones, Lerpwl (Gol. y Brython). Rhag. 8-Noson gyda Llenorion Cymru heddyw cymerir Elfed, Gwynn Jones, ac Eifion Wyn darllenir a siaredir ar ddetholion o'u gwaith gan bwy bynnag o'r gynulleidfa a fynno. Llawlyfrau Elfed, Caniadau," a'i gynyrchion yn yr Eisteddfod Genedlaethol Gwynn Jones, Y Mor Canol- dir a'r Aifft," Brethyn Cartref," Cofiant Emrys ap Iwan," "Cofiant Thomas Gee Eifion Wyn, Telynegion Maes a M6r." Ionawr 5, 1917-Papur, Dafydd ap Gwilym, Mr. D. Charles Morgan, Ynyshir. Ion. 19— Darlith, Cynddelw, Pedr Hir. Chwef. 2- Eisteddfod i Blant. Chwef. 16—Noson Alawon a Chanu Penhillion, dan arweiniad Mr. E. T. Lloyd. Mawrth 1—Dathlu Gwyl Ddewi. Yr oedd Cyngor Tref Pwllheli wedi anfon protest gref i'r Swyddfa Rhyfel yn erbyn y chwalu dybryd o annheg oedd ar y Fyddin Gymreig i lenwi'r bylchau ymhob catrawd Seisnig ac arall drwy'r Fyddin a daeth ateb- iad oddiwrth Mr. Lloyd George ei hun ddydd Mercher diweddaf, i ddweyd fod v peth dan ystynaeth ac yr unionid y cam maes o law. Gobeithio'n wir y gwne,ir, canys chwith -chwat fu gair y Llywodraeth i'r Cymry hyd yma, ag a chwaraeodd y ffon ddwybig bob tro, yn ol fel y chwythai gwynt yr amgylchiadau. A ninnau'n ddigynnyg yn dioddef pob dim mor llyweth. Y roae Gilbert, mab Mr. S. T. Harries, cyn is-brif gwnstabl Sir Gaem&rion, Da%. -)r, wedi ei ladd yn Ffrainc, yn 27ainoed, ac ynperthyn i 'r Cheshire- Capt. Painton Jones, Trallwng, ac un o deulu liysbys a fyddai arfer a byw ym Mhlas Bronarth, Meifod. Lance-Corp. C. Hamer, Welsh Guards, Llanfyllin, wedi ei glwyfo'n dost, a'r Preifat Wm. Edwards, Church View, Llamyllin, ar goll,dau air cas o aroWYF a drwg eu hargoel. E g-Ft.- galar pryd na ch wsg pryder. + Yng nghwrdd chwarter Annibynwyr Sir Gaernarfon, yng N- aernarfon ddydd Iau ddweddaf, darllenid llythyr oddiwrth Gym- deithas Genhadol Llundain yn sylwi mai Cymrc a gychwynnodd y gwaiMi yn yr Ynys bell abarbaraiddhonno a chan y byddid yn dathlu'r canmlwyddiant gyda hyn, fod yn eu bryd anfon cynrychiolydd o Gymru i'r dathliad os dygid ei draul gan eglwysi Cymru. Bwriwyd y peth i ystyriaeth y Pwyllgor Cen- hadol. Os bo ganddo lygad go graff a chlust go fain, fe ddylai fod yn hwnnw rywbeth go fyw i'w ddywedyd pan ddychwelo, onite arno ef y bydd y bai ac nid ar y deunydd. Ni ddiffyg arf ar was gwych," ebe'r hen air sydd yn eithaf adnod am bob reporter gwerth ei halen. Bu Syr John French ar ymweliad a rhaj o drefi Gwynedd ddydd Iau diweddaf, sef Llandudno, Colwyn Bay, Conwy a Phenardd- lag, yn insbectio tipyn ar ein milwyr, a llawer o wreng a bonedd yn hel o'i gwmpas i rythu glust a genau ar y g*r a fu yn y fath bair o bryder drosom yn y rhyfel cyn dod adref a rhoi'r cyfrwy yn nwylo'i ddilynydd, Syr Douglas Haig. f Yn Llanidloee, ddydd Iau diweddaf, bwr- iwyd Margaret Davies, Pant Gwyn, Llangurig —mam i wyth o blant- i sefyll ei phrawf yn Llys Chwarter Sir Drefaldwyn ar gyhuddiad o ddwyn dafad gwerth gini, eiddo Edward Davies, Clochfaen. Tystid iddi hel y ddafad i adeilad a'i chadw yno dros nos, ac iddi hi a'i bachgen pymtheg oed ei lladd bore drannoeth. Cafodd yr heddwas hi yn ei pharlwr ar ganol y blingo. Addefodd y wreigan y trosedd, ac mai'r hyn a barodd iddi ei gyflawni ydoedd gweld ei phlant yn darnlwgu, ac mai dim ond un crystyn sych oedd yn y tf. Mawr o beth yw gweld Newyn gwyn ei ddannedd yn sgyrn- ygu ar y Ddeddf hir ei hewin. Dyna benderiyniadau da a basiwyd yn Nhalaith Ail y Wesleaid, a gynhaliwyd yn ( Llanfairfechan yr wythnos ddiweddaf 1—1 I-Dros gadw'r Fyddin Gymreig gyda'i gilydd, ac nid ei thaenu ymysg y catrodau Seisnig ac arall, nes Hwyr ddifetha'r undod cenedlaethol. 2-Dros lwyr waharddiad y Fasnach Feddwol yn ystod y rhyfel ac am chwe mis wedyn, gael inni weld yr olygfa iendigedig honno—gwlad ddi-dafarn 3—Dros gael Ysgolion Sul pob enwad yng Nghymru i lafurio yn yr un maes llafur. Campus A'r tro nesaf, pasiwch fod pob Uyfr a benodir yn faes llafur i gael myned drwyddo, ac nid neidio ohono cyn hanner ei orflen, i rhyw lyfr arall am fod y fiwyddyn ar ben. Nid llyfr i sbonio'n arwynebol hyd-ddo fel Sioncyn y Gwair mo'r Beibl, ac y mae'n hen bryd cae [ Beibl Paragraffol, yn lie un wedi ei hollti' 1 adwdau,gan beri'r fath ymdroi diderfyn mewn dosbarthiadau wrth dreulio prynlaawn cyfan i ofyn rhyw hen gwestiwn ffol a brig- Iwyd fel hwn :— A oes rhyw gysylltiad (cysylltiad, wir !) rhwng yr adnod hon a'r adnod o'r blaen ? O diar mi 1& t Collodd Dirwest a Themlyddiaeth y De un un o'i cholofnau cadarnaf ym marwolaeth y Parch. J. Tertius Phillips, a gleddid ddydd Llun yr wythnos ddiweddaf ym Mhenarth, yn ddeunaw a deugain oed. Efe oedd cynrychiol- ydd yr United Kingdom Alliance yn y Deheu- ,dir; a chan ei fod yn wr hardd ei bryd, hyawdl ei dafod, aphert apharod ei ateb i bob baglwr a godai o blaid y Brag, yr oedd yn llwyddiannus iawn yn ei Genhadaeth. Yn Sgrethrog y'i ganed, a chyda'r Annibynwyr y gweinidogaethai. I Y mae'r Faner yn ail gyhoeddi'r un pennill ar ddeg dwys tuhwnt aganodd y Prifardd Elfyn, Llan Ffestiniog, ddeng mlynedd yn ol, wrth glywed ei ddau fab yn canu Yn y dyfroedd mawr a'r tonnauj" yn eu gwelyau, ar y d6n Ebenezer. Dyma ddwy yn enghraifft o weddill yr tin ar ddeg :— <II" Adgof am dynerwch oriau Sydd yn gwarchae f'enaid prudd Nid yw'r byd yn gallu darllen Cenadwri laith fy ngrudd. Baich ei ofid nid ei chwalu, Rhoddi ato wneir o hyd Calon glwyfus, ei beirniadu Nid ei thrwsio wna y byd Y mae awen y prifardd yn llawer sioncach na'i gorff y misoedd hyn. Os oes ambell gylchgrawn a phapur Cym- raeg yn marw yng nghlem y rhyfel, da gweld ambell un arall yn cael ei eni yn ei le a bach y nyth cylchgronol ydyw Y Deyrnas, organ newydd Pasiffistiaid Cymru. Yn Swyddfa Mr. Evan Thomas, Bangor-argraffydd Llyfrfa'r Wesleaid—y'i printir, a dwy geiniog ydyw ei bris a phris go fawr, am rifyn deu- ddeg tudal. demy quarto. Ond yn un peth, y mae'n lan rhag hysbysiadau ar fath yn y byd ac amheuthun a hyfryd hynny. Felly y dylai pobpapur a chylchgrawn fod, pe gellid byw heb y parddu gwrthnaws hwnnw. Clyw- som mai y Parch. P. H. Griffiths, Llundain, yw'r Golygydd, ac y mae yna feddyliau tebyg iawn i'w feddyliau ef yn y rhagdraeth. Dyma enwau'r gwyr sydd yn addo ysgrif- ennu i'r Deyrnas :-y Parchn. H. Cernyw Williams, D.D., J. Puleston Jones, M.A., J. M. Jones, M.A. (Merthyr), D. Stanley Jones, D. Gwynfryn Jones, P. H. Griffiths, D. Wyre Lewis, M.A., Ll. G. Williams (Barri), y Prit- athro Rees, M.A., E. Tegla Davies, D. F. Roberts, B.A.,B.D., y Proff. J. M. Jones, M.A. (Bala-Bangor), H. H. Hughes, B.A., (Bangor), C. Jones (Gwrecsam), J. H. Howard, J. Hughes, B.A.,B.D. (Bangor), W. J. Nichol- son, J. Tywi Jones- (Glais), J. T. Rhys (Aber- tawe), E. K. Jones, W. Keinion Thomas E. Keri Evans, M.A., T. Llynfi Davies, M.A. (Abertawe), J. Vernon Lewis, B.A.,B.D., J. Lewis (Blaen y Coed), Eluned (Caerdydd), Mr. E. W. Davies, A.S., yr Athro T. Gwynn Jones, yr Athro T. H. Parry Williams, M.A., D.Litt., Mr. D. Thomas (Tal y sarn). •v- Y mae yma ysgrifau rhagorol ac mown ys-bryd teg, gan znwyaf. Ungref ei hymres. ymiad yw ysgrif y Parch. J. Puleston Jones, M.A., ar Eilun Gwladgarwck, ac yn gofyn cryn feddwl ol a blaen i lunio atebiad iddi. Ond raaid dweyd hyn, fod toreth a ddywedir yma yn eithaf gwir bob amser, ac nad yw'r rhyfel yn ei wneudnagwirnac anwir. Cysurus ydyw fod gan ddyn weledigaeth glir ar bwnc mor ddyrys rhaid inni addef nad oes gennym mo hynny, ac nid yw hynny o ddarllen ar y naill ochr na'r Hall yn gloywi fawr ar yr wybren ond pan ddywed y Gol. ar tudal. 1 mai rhyfel yw'r ffurf amlycaf yn awr ar elyn- iaeth y byd yn erbyn teymas Dduw, rhaid iddo gofio na chawsai gyfle i gyhoeddi'r cylch- grawn hwn i ddywedyd hynny onibai am ddewrder ein bechgyn yn troi i ryfel a chadw'r Germaniaid draw o'n glannau. Bu'r Lifft. Graham Evans, mab Mrs. Evans, Bryn M6r, Abergele, a'r diweddar Barch. D. W. Evans, ficer Llanrhaeadr, farw yn un o ysbytai Lerpwl o glefyd a gafodd yn Ffrainc. Y mae iddo ddau frawd yn y Fyddin, un -'1 .1 '11' ononynt Deiiaen yn garcnaror yn u-ermam. A lladdwyd Private Leonard' Maelor Jones, Dinbych, oedd mewn swyddfa cyfreithiwr yng Nghroesoswallt cyn ymuno. Yr oedd swyddogion tloty Bangor a Biw- maris arfer a chael ymenyn areu brechtan, a'r inmates marjarin bellach, marjarin 7c. y pwys sydd i fod ar frechtanpawb fel ei gilydd.

YSIAULI-L Y BtlRDD

0 LANNAU TAF. I

Advertising