Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
CYMAWA GWYNEDDI
CYMAWA GWYNEDD I [GAN UK A FU YNO DRW, VR I TRTDIAU.J YN y Bermo y bu R fintai fawr ddirwestol yn trafod pynciau byw yr wyfrhnos ddiweddaf Teimlid na chynhaliodd Cymanfa Gwynedd, ynghyd ag Undeb Dirwestol Merched y Gog- tedd. erioed eu cyfarfodydd blynyddol ar adeg mwy pwysig. Un o losg-gwestiynau'r dydd yw pa bath i'w waeud a Masnach y Ddiod. Cydnebydd pawb erbynhyn y difrod a achos a. Bear Bacchus bellach gan hi a fu'n ei addoli fel duw cwbl ddidostur pan mae'r wlad yn nydd ei gofwy. Myn arweinwyr y Fyddin, y Llynges, a'r cad-ddarpariadau, mai efe yw'r prif rwystrydd, ac mai efe sy'n gyfrifol am wmbredd o anffodion y rhyfel mawr. Gwell yw galanas y Fasnach ym Mhrydain i'r Caiser na chymorth miloedd o' i filwyr dowraf. Ymgynhullodd dirwestwyr eiddgar o bob cwr o Wynedd, ac ar wedd pob mah a merch arddangosiad a-mlwg o bwysigrwydd eithr- iaOOl y cyfle. Wrth ly w cyfarfodydd y meib ion eisteddai'r Barwnig o Fryn Gwenallt, a'i briod hawddgar mewn cyffelyb safle yng nghynulliadau lluosog y merched. Nid oes derfyn ar ddyled dirwestwyr i'r ddeuddyn hyn Ers blynyddau meithion bellaeh,drwy dymestl a hindda, glynant wrth y llestr, ac arweiniant hi i gyfeiriad hafan ddiogel. 0 Fon daeth y Parchn. David Lloyd, Caergybi Prys Owen, Llangefni Richd. Morris, Llanneroh y medd John Evans, Llangoed; a'r Mri. W. C. Parry, Thos. Evans, Miss Matthews o Amlwch a. Miss Grace Thomas o Bentraeth. 0 Arfon, Llew Tegid, y Parchn. Ellis Jones, Thomas Hughes, Hywel Cefni, a Mr. J. Paul, Mrs. W R. Jones, Mrs. Vaughan Davies, a Miss Jones, Hendreforion. 0 txç-n, y Parchn. G. Parry4" H itghes, Gwyddno Williams, Mri. W. Georgo Robyns-Owen ac Ap Plenydd. 0 Fflint Db. Williams, Y.H., a John Williams, Y.H.' y Parchn. D.Gwynfryn Jones, I; C. Roberts- Morgan. O Orllewin Dinbych Huwco Penmaerii Mrs. W. M. Williams, a Mrs. Owen Owens (Llanelwy). 0 Ddwyrain Dinbych y Parchn. E. K. Jones, Wynn Davies, W. R. Jones, J. Howell, Mrs. Wynn Davies, a Mrs. Robert, Jones. 0 Faldwyn Owain Ddu y Parch. E. Evans (Llangurig), H. Williams, Mrs. Cadwaladr Jones, a Miss Maglona Rees. 0 Lerpwl y Parchn. J. Owen, 0. Lloyd Jones, a Miss Davies. Cynrychiolaeth gref o Fanchester a Birmingham. Yr oedd Meir- ion yno ar ei goreu, fel mat ofer dewis enwau. O'r 11u mawr a ddaeth ynghyd, nid yw'r enwau a gofnodir ond rhyw un yma a thraw, er profi ansawdd cyfansoddiad y Gymanfa a'r seiniau cydenwadol a ohynrychioliadol a gly.wid drwyddi. Nid bob amsser y bydd gorymdaith yn Ilwyddiant, a phan feth, meth yn druenus. Ond er nad oedd y tyvvydd yn rhy ffafriol, yr awelon yn uchel, a'r cawodydd yn freision ac yn ami, eto ymunodd llu mawr o garedigion yr achos yn wyr, gwragedd a phlant, yn fforddol- ion trefnus tua chapel Caersalem. Miss M. C. Ellis o Fanceinion a eisteddai yn y gadair, a'r Parch. Tho's. Morgan, Wvddgrug, a anerchai y plant a'r gynulleidfa mewn iaith gymwys. Oherwydd caredigrwydd pobl Lerpwl yn 19r5 yn clirio ol-ddyled y Gymanfa, cafodd y trysorydd, Mr. Wm. George, yr hyfrydwch cwbl eithriadol eleni o orffen y flwyddyn gyda phedwar gini o arian mewn Haw. Ni phetrusai ddyweyd ar yr un pryd mai prin yr oedd cyllid o rhyw ddeucant a hanner o bunnau yn deil- wng o ddirwestiaeth y Gogledd. B yddai.' ri bur hawdd gwario ychwaneg, a thrwy hynny gyflawni gwaitb rhagorol, ond cyfyngid oher- wydd prinder yr arian a fwrid i'r Drysorfa. Y fa,rn gySredin yw y byddai'n amhosibl cael ysgrifennydd amgen na'r eiddo Cymanfa Gwynedd. Gwna'r Parch. Glyn Davies e'i waith yn drwyadl, ac amryfal ddiderfyn yw'r gorehwyliona hawlir ganddo. Ceir rhyw syniad am hynny pan welir iddo ysgrife mu tair mil o lyfchyrau, ac annerch llu mawr o gyfarfodydd, yn ystod y flwyddyn. Mae'r olwg drefnus sydd ar yr holl Gymanfa, a'r ysbryd byw a dreiddia drwyddi, ynglodgan mwyaf i ynni a medr yr ysgrifennydd. T-Tyf t-VJ hefvd y w defnyddio ia'th'gyffelyb am ysgrifennydd (nid ysgrifenyddes, os gwelwch yn dda) Undeb y Chwiorydd. Tystiai Miss Pritchard fod nifer y Canghennau tros ddau gant, a'r aelodau yn ddeunaw mil-lefain heb ei faith i buro cartrefi Gwynedd. Galwai'r Parch. Wynn Davies, sylw arbennig at adrodd-' iad yr ysgrifennydd,' ac argymhellai ef i areithwyr dirwestol fel ystorfa ddigymar o ffeithiau a fiBgyrau newydd a diweddar, y gellid dibynnu'n gyfan arnynt. Credai y byddalastudlaeth ohono yn lladdfa i ambell araith ddirwestol henafol sydd wedi ei throt- Ian allan am flynyddoedd lawer. I Mair Roberts, Llaiif tchretli, yr aeth medal arian yr arholiad. Nid yn fynych y ceir presenoldeb pedwar Aelod Seneddol. Yn ychwanegol at y llyw- ydd, rhoddid derbyniad croesawgar i Mri. Ellis Davies, Haydn Jones, a Caradog Rees. Cyflawn arfaethodcl Mr. E. T. John fod gyda'r iluoedd, a chlywyd swn siom oherwydd ei absenoldeb yn y genadwri werthfawr a anfon- odd. Parodd llyt.hyr yr henafgwr, y Parch. Daniel Rowlands, sydd ar drothwy deg a phedwar ugain oed, ddiddordeb teimladwy. Eglurai ei absenoldeb trwy ei fod bellaeh yn dechreu teimlo henaint yn dod." Yn y cyswilt hwn llongyfarchwyd un arall o'r arwyr a edrychai'n hoew a heinyf-y Parch. Ishmael Evans, iar gyrraedd ohono jiwbil ei weinidogaeth. Er y siom o golli ei wyneb rhadlon, parodd gohebiaeth Puleston hefyd gynhesrwydd a gwen gyffredinol. Testyn galar blin oedd absenoldeb ysgrifennydd pybyr Cymanfa Ddirwestol Meirion, y Parch. O. Lloyd Owen. Galarai'r Gymanfa glywed am ei afiechyd, ac anfonwyd cydymdeimlad tyner a dymuniadau gweddigar ato. Bu peth son yn gyhoedduS am genedl- aetholi neu brynnu y Fasnach gan y Wladwr- iaeth, a dichon fwy o siarad yn finteiøedd ac wrth fwrdd y te ond ni thybid fod yr adeg wedi dod i ddwyn unrhyw benderfyniad ffurfiol ar y mater gerbron y Gymanfa. Trwy glust-ymwranclo, cwbl hawdd casglu mai bychan oedd yr awydd i setlo cwestiwn y ddiod yng Nghymru ar y llinellau hyn. 0 ganlyniad, teimlid mai afraid oedd profi barn y Gynhadledd. Gwyddid fod rhai o'r arweinwyr yn gogwyddo, neu o'r hyn lleief yn barod i ddadleu o blaid, cadwmedciwl agor- ed, ac yn wir i gredu nad oedd yr un pris yn ormod i'w dalu po ceid ymwared a'r felltith. Ond ofn a feddiannai'r.lliaws mai nid pwreas er dinistrio a fyddai, ond yn hytrach er elwa ac mai'r camsyniad uniongyrehol fyddai parchuso, cryfhau, ac efallai fytholi'r Fasnach Rhoddes y Parch. Thos. Hughes y cwestiwn gerbron mewn anerchiad teg a gochelgar. Ber fu'r drafodaeth. Un peth ellid ei fynegi'n ddibetrus, mai arwyddair digamsyniol y Gymanfa ydoedd y pwyslais adnewyddol a roddid ar hawl Cyrnrn i benderfynu tynged y Fasnach drosti ei hun. Dyma'r sain a glywid bron ymhob anerchiad. Pa beth bynnag a wneid yn y wlad tuhwnt i'r Goror, fod Cyirmt yn aeddfed i fesur Dewisiad Lleol. Teimlid tod angen llawer mwy o oleuni argyhoeddiad cyn y gellicl meddwl am adael yr hen iwybrau. Mown gwahanol gyfarfodydd gwrandawyd ar auerchiadau byw a chyrhaeddgar gan Prifathro Prys, y Proff. Levi, a'r Aelodau Sen- eddol. Nid yn fuan ychwaith yr a brawddeg au effeithiclMiss Edith Thomas, Criccieth, yn anghof. Anerchiad edy ei 61 oedd eiddo Mr. Wm. George, ar Sut i fanteisio ar Wersi'r Rhyfel ynglyn a Dirweit. Cyhuddai'r Fasnach o fod yn elyn pennaf effeithiolrwydd cenedl- aethol, a mynnai fod yn rhaid cael deddf Seneddoli atal ei rhwysg. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd yn y cylch nos Fercher. Bu Mrs. Vaughan Davies a'r Parch. Wynn Davies yn Nolgellau, y Parch. Gwynfryn Jones yn Nhowyn, Ellis Davies, A.S., a'r Parch. John Owen, Anfield, a Mrs. Robert Jones yn Aber- dy.fi,' a chaed rhai cynulliadau lluosog a chyf- arfodydd grymus ac argyhoeddiadol. Siriol- wyd y Gymanfa gan unawdau meistrolgar gan Mrs. Wynn Davies a Mrs. Edwin Jones. Nid gwiw rhoddi'r ysgrifell o'r Haw heb ddatgan, gyda boddhad, firiau mawl yrholl dditidiriaid i gyfeillion y Bermo am eu darpariaethau cyf- lawn a'u caredigrwydd mawr. Bydd yn llonder ysbryd i'r Parchn. Edwin Jones, Afon- wy Williams, a Gwynoro Davies, Mri. T. Martin Williams, Y.H., Rhys Jones, a Rees Jones, ddeall eu fod wedi cael rhan flaenllaw yn nhrefniadau un o'r CJymanfaoedd mwyaf llwyddiannus a gynhaliwyd yn nhalaeth Gwynedd. o
, 6 fl, , '0'< I I I- 11…
6 fl,   '0'<  I I I- 11 p V F,11 o ri I Cenhsdon y Su! Nesal. I Y METHODISTIAID CALFINAIDD Moss SIDE-IO.80 a 8.30, Wm. Griffith, DisgwvJfa PEN'DLKTd^f—10.30 R. Llovd, 6, Heywood St.-10.30, ,6 R. William Victosia Park—10.30, J. H. Hughes 6. R Lloyd, Bala Fajijtwokth—10.30 a 0, Leigh—10.30 a 6, Warrington—10.30 a 6, J'S Roberts, Bolton EARLESTOWN-IOA5 a 5.30. ASHTON-tjnder-LYNE—] 0.45-3 6.30, Egi.wvs Undefql Ecclbs— 11 a 6.30, YR ANNIBYNWYR Choriton Road—10.30, M. Llewelyn. 6.15. W. G. Jones BOOTH Stueet—10.30, W G Joues. 6.15, M. Llewelyn Queen's ROAD-10.30 a 6.15, Cvfarfofl Gweddi Ld. Dtjnoan Street—10.30 a 6.is, J Morris Hollinwood—10.30 a 6.15, Ll. Williams, Llandudno Y WESLEAID. DEWF SANT-IO.30, D R Rogers. 6. G Tibhott HOREB—10 30, J S Williams, G, J Felix SEION—10.30, G Tibbott, 6, D. R. Rocers BEUMU-2.30, J M Williams, 6.30, J S Williams Beulah—2.30, J T Ellis, 6, J M Williams, CaTJFARIA—-10.30 J or Ellii, 6, J M Williattis, WEASTE-IO.30, J. Felix, 6.30, Y BEDYDDWYR' UP. Medlock ST. -10.30 R Williams, 6. J. H. Hughes Longsiuht—10.30 a 6.30, J S Jones, 2, W Thomas RoBiN's LANE. Sutton—10.30 a 5.30, MELYS GOFIO JENKINS.—Darlith y diweddar David Jenkins gacdgan Mr. T. Hopkyn Evans, Mus.Bao., yn y Gymdeithas Genedlaeth* 1 nos Wener. Y Parch. J. H. Hughes,llywydd y Gymdeithas, oedd y cadeir ydd, ac yn ei anerchiad sylwodd fod rhywbeth pruddglwyfus priodol a tharawiadol i glywed darlith ar y testyn uchod, am fod D.J. yn darlithio ar Emlyn Evans flwyddyn yn ol yn yr un lie. Arhosai y nos honno gyda'r liywydd, a gwelodd mai gwanllyd ei gorff oedd er fo d ei ysb ryd yn ho ew a b y w. Adro ddo dd ami stori ddifyr ar yr aelwyd am Emlyn Evans. Mae Jenkins yn awr ymhlith amryw a gollasom er pan gychwynwyd y tymor d'weddaf. Ym mis Rhagfyr, machludodd haul einioes Syr John Rhys, un o blant Bry- cheiniog, ac ysgolhaig Celtaidd a'i glod trwy'r byd. Un o feibion mwyaf llednais, caredig, a boneddigaidd Cymru oedd J. H. Thomas (Arlunydd Penygam), gohebydd y Graphic, a fu'n crwydro y gwledydd. a Chymru, yn ei chelf, ei llenyddiaeth, a'i Heisteddfod, yn agos at ei galon. Mae llu o enwogion eraill a'u tariannau tolciog yn gorffwys ar y mur. A beth am y Cymry ieuainc fu farw ar faes y gwaed ? Cafodd rhai o'n bechgyn mwyaf talentog feddau ym maes y gwaed mewn gwledydd estronol. Clywsant lais cyfiawnder yn galw, a rhoisant eu bywyd dros ryddid a hedd. Croesawai Mr. Hopkyn Evans i ddweyd gair am D. Jenkins, a gerddodd Iwybrau y rhai teilwng jondrechodd wella a dyrchafu ein cenedl a'n gwlad. Gwron nid anghofir oedd, a hiraethir am ei lais. v Y mae'r byd yn fwy na'r beddrod, Dyn yn fwy na'i oes Ni cha gwaith y gweithiwr ddarfod Gyda'i loes. Yr oedd darlith ragorol Mr. Evans ar linell fel hyn Dywedocld am y cyfnod pan ym. ddangosodd D. Jenkins, fod ein byd cerdd hyd ddechreu'r 19fed ganrif yn a,fluniaidd a gwag a thywyll, ond yr ysbryd yn ymsymud ynddo. Tuag amser Ambrose Lloyd ac Owain Alaw y daeth ychydig drefn ar bethau, a chymerodd datblygiad mawr le yn ystod y ganrif ddi- weddaf. Ganwyd Jenkins yn Nhrecastell, Brycheiniog, yng nghysgod bryniau a chreig- iau ac yno, yn ol ei ddymuniad ei hun, y claddwyd ei gorff. Yr oedd yn ddyn bach twt, a chyfansoddiad cadarn. Efe enillodd yr A.C. gyntaf yng Nghymru, ac edrychid ar, enillwyr cyntaf y radd megis pe byddent dduwiau. Hanner addolid Jenkins, ac yn fuan ffurfiodd gor, a daeth hefyd yn ddatgan- wrda ond teimlodd mai'r anrhydedd ponnaf a gafodd y pryd hwnnw oedd beirniadu mewn cwrdd cystadleuol. Bu hynny'n ddechreu ychydig addysg yn yr ysol leol a Llan- ymddyfri,ond trobwynt ei yrfagerddoroloedd ei fynediad i Aberystwyth i gael addysg tan ofal Joseph Parry; a phan aeth yr olaf am radd o Mus.Doc., aeth. D. Jenkins yr un pryd am y Mus.Bac. Bod yn gyfansoddwr oedd ei brif amcan, a nod ei uclielgais. Nid edrychai ar chwarae offerynau yn cyfateb i fod yn gyfansoddwr, oblegid nid oedd yr oes y pryd hwnnw yn ystyried y piano yn ddim ond tegan merch, a'r organ yn foes llawn o bysIs, a'r crythor yn ddyn tan ddylanwad Belsebyb. Teimlodd Jenkins hyd ei fedd y golled o beidio a bod yn feistr ar yr offerynau, oblegid mantais i bob cerddor yw medru offerynau cerdd, ac yn enwedig i gyfansoddwr. Ynglyn a'i waith fel cyfansoddwr, sylwodd y darlithydd iddo gyfanosddi mwy na neb yn ei genhedlaeth na chenedlaethau blaenorol. Cantata, Arch y C, t/famod, o edd ei waith mawr cyntaf, ac yr oedd ganddo feddwl mawr ohoni. Yng nghyfnod olaf ei oes y cyfansodd- odd ei gampweitbiati, niegis Yr Y stonn, a. AIor Tibenas, a Golygfa ym mywyd Moses, ond ni pherfformiwyd yr olaf eto. Prif nodweddion ei weithiau yw nerth, gwrhydri, bywyd a mawrhydi. Yr oedd yn lioff or tyner a'r teimladwy, ond creadigaethau mawrion ac ehang a chryf oedd yn ei symud ef. Swyno a denu wnai Parry, ond synnu a dychrynnu wnai Jenkins. Gwnaeth lawer o waith fel lienor a chydolygydd y Cerddor a phob am- ser ceisiai hyi-wyddo achos ei wlad, a chodi chwaeth ei genedl. Anodd amgyffred gy- maint a wnaeth gyda cherddoriaeth y cysegr efe lanwodd le Ieuan Gwyllt. Arweiniodd fwy o Gymanfaoedd Canu na neb arall. Pwysodd y darlithydd liaws o'i gyfansodd- iada-Li gyda.chl,r.an beirniad. Diolchwyd i'r darlithydd gan y Mri. John Evans (Cynogfab) a J. G. Jones, y ddau'n mynegi eu profiad a'u clod a'u liedmygedd mewn cysylltiad a David Jenkins. Un o ddywediadau diarffordd y darlithydd wrth ateb oedd,ei fod wedi teimlo anniolchgarwch ein cenedl i'w chymwynaswyr goreu, pan yn Eisteddfod Aberystwyth. Ni soniodd y Pwyllgor Cerddorol yno yr un gair coffa am D. Jenkins, ac ni wnaed crybwylliad o gwbl ar Iwyfan yr Eisteddfod y llafuriodd gymaint erddi. MAWL A CHAN.-Prynhawn a hwyr y Sadwrn, yng nghapel Moss Side, cynhaliodd y Methodistiai4 Calfinaidd, cylch y Cyfarfod Misol, eu Cymanfa Ganu. Arferai cyfarfod y prynhawn fod yn baratoad at gyfarfod yr hwyr, ond ers rhai blynyddoedd saif yn gyfar- fod tra rhagorol ynddo ei hun, ac felly y tro hwn. Daeth cvnulleidfa luosog ynghyd, ac I yn yr hwyr llannwyd y capel. Arweiniwyd y canu gan Mr. T. Hopkyn Evans, Mus.Bac., ac yr oedd ei aJlu i ddenu a'i awdurdod i hawlio, yn cydatebi awydd y gynulleidfa i'w fodloni, nes yroeddgwresogrwydd ac ufudd-dodparod y naill a'r llall yn nodwedd amlwg yn y Gymanfa hon. Hofyd, yr oedd y cydsymud- iad yn llawer gwell nag arfer, a gwyr pawb y rheswm pam yr oedd IIeisiau'r merched lawer cryfach na'r meibion. Taflodd yr arweinydd ei holl ynni i'r gwaith, ac nid yn ofer, oblegid yr oedd y ganiadaeth yn rhagorol, a rhai o'r emynau a'r tonau yn fendigedig. Nid oedd y llyfr gymaint ag arfer, a dichon i hynny fod yn foddion i ddysgu ei gynnwys yn deilwng. Tybia rhai fod popelh Cymanfa Ganu yn dibynnu ar yr arweinydd, ond rhaid cofio fod detholiad da o donau ac emynau yn llawn pwysicach i gael Cymanfa dda nac hyd yn oed arweinydd a cherddorion, yn yr ystyr o gyfar- fod crefyddol y cysegr. Canwyd y cyfan y waith hon, ac yr ydys yn dra dyledus i'r Pwyllgor am y detholiad. Er mwyn cerddor- ion y wlad wele'r tonau a ganwyd y prynhawn: Winchester Old, Gweddio (D. J. de Lloyd), Eisenach (T. J. Price), Pass it on (E. M. Powell, ysg. y Pwyllgor Cerddorol), Gwylfa (D. Lloyd Evans), Dowston Castle, ac Am yr Ysgol Rad Sabothol (Hopkyn Evans) ac yn yr hwyr, canwyd y 1, 4, 5, 6, 7, ynghyda Gwilym (T. Price), Urbs Aurea, (Proff. Rd. Morris), Llangoedmor, Innocence, a Giceddi yr Arglwydd (Dr. Parry), hefyd canwyd yr anthem, Teymamedd y ddaear, yn y ddau gyfarfo d. Llywyddwyd y nawn a'r hwyr gan Mr. Owen Williams. GWAITH TEIL WN G. —^Cynh alio dd An- nibynwyr Cymreig Hollinwood gyngerdd yn ysgoldy y capel Saesneg. Gwasanaethwyd gan Gor y Milwyr Cymreig, Heaton Park, a diau mai hwn oedd eu cyngerdd olaf cyn eu symudiad. Y Preifat Gwilym Williams yn arwain, a'r ganiadaeth a'r adroddiadau yn neilltuol dda. Ar ddiwedd y cwrdd, rhoed gwledd i'r milwyr gan y chwiorydd Cymreig. Y cadeirydd oedd John Williams, Ysw., Moston, ac arweiniwyd gan y Capten Griff. i"v.foston, ae arN?e?naed e w o il2 i gynorthwyo y milwyr a'r morwyr deillion trwy'r rhyfel.
Advertising
LADIES BLANC liARD PILLS Ase nnrlv»lM fos aU Irrogusiniti* to. the"e ftPord rUe and aevor fail to soleviste ull I,- -dorinot ?be!y<ope?Md< J??BS?fov?i, PH Oosfeis, B'tt?AppE. # HLAftCHARD'S »n the best of %U Pill 'Qr Womea sold lID faoxaj, l/li by Boon* Branebss, yayloy, Br;knoh* and An Ma??WStS. or t'C*t 'T", hbn Pfl0k, ttma LESI.Ifi t Cb?mMt.? ?''ttNa Laue. :.9B<?- GERAINT AC EMID A Chaniadau Eraill OAN Machreth. Cynhwysiad DARNAU CYNGANEDDOL.-Geraint at Enid.-Y Celt.-Telynau Duw.—Y C61 Asgellog, -Miri enwi'r ffyrdd ym Mangor.- I'r Athro J. Morris Jones, M.A., ar ol darllen ei Ganiadau.-Dychwefiad Arthur." Elia Wyn o Wyrfai.-Dr. John Thomas.— Herber.—Yng Ngorsedd Eisteddfod y Rhyl —Gorseddu Dyfed yn Archdderwydd.— Telyn Cymru.—Peroriaeth.—Yr Ehedydd -CAn yr Angylion.—Y Parch. William. Nicholeon.-Nae Oeds.-Edifeirweh.- —Wrth fynd i orfiwys.—Ar ol Noawaith Dymhestlog.—Gwynt Garw.—Y Tri Llano. -Yr Wybren Hwyrol.—Dau Weinidog.— Alawon Cymru.—Y Gwynfryn.—Ci y BugaiL-Ewyllya Adda i'w Blant. DYRIAU.—Taith ao Oedfa. Derwen Arthur.—Crwydro Bum.—Y Delyn Friw.— Wyt Ti'n Coflo.-MoDiudd.-Hwian erdd —Can y Forwynig.-Palmwydd a Helyg.— Cyfaill y Tlawd wyt Ti.—Emvn Priodaa. OYFIEIPHIADAU AC EFELYCHIAD. A U.—Herv^ Riel.—Y mae Gwrid at ruddiau'r Rhosyn.—Mae'r Ffrwd yn ilifo'c gref, fy mÙn.-Y Bardd a'r Baban.-T Nefol Gan. Ychydig gopiau yn weddill. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS AI FEIBION, Swyddfa'r Brythoa," Lerpwi, Ar werth gan y Llyfrwertbwyr. Llian Pris 2/# I R»faUiS; I 05ERT ROBERTS AGMVl. 33 Nothertield Road Souih tim. !?rope.-zy so LsjS is various psrso mi owa. Mortfftfee akrangel. 'Wtesttais* m. 205 Established 1884. 'Phone 1140:ftootit fS41 WOOSNAM ROBERTS. F.A.I., Estate Agent, Bootie Estote Off ice, Personal, Practical, Prompt, and Reliable Management of all Classes of Real Estate, 52 STANLEY ROAD, BOOTLS ( £ doors from Bedford Road) Telegrams WOOSNAM. BOOTLB, Telsphoss No: 7404, J. LEWIS JONES, WStAT f & VALUHh õO Victoria St,, Liverpool P?op«f%S?s oarofully tainaged. Reatt t «on*l!y «oliee«ed. Powhasw nad « Mor^agss srr§:fjf asd Imaiifssin. t!(4t,d. THOMAS JONI8* MSTATS AQSKTS v ALUJíHS. v it x -t' k A, LT ntlënLnHHt. if Lord Street* LiTerposl t«>espb-5«g No. -16B B&rA. Fropenles Bought sad Sold. Mongtgfe «r»ef«d. Yftlu&ilous mstds. Rants colleet-se fan. U1 AisiJisdj. Stephen Roberts & SOI SMTATS AG9NTS 7ALUSMI 137 Everten Road, Liverpool Properties ssrefally mansged. Keits pit soasily Collected. Purchattsc uod hit! a^ot|«ted. Mortgages anaDlad and Is <orsnce» s^eotsd, Henry Jones, ESTATE AGENT, VALUER & PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool twn Bajtk 4.1.. 0. JONES WILLIAMS, F.I.I., BSTATB AGENT & VALUER. 17 Boundary Place, Moss Si Liverpool. got. 188S. Toleiphone 1 567 B-ove, Tslsphoss 8586 Ba nk JONES fiTkUGHES, XSfifX OFFICS, 13 Wbltecbapel, Liverpool FREEHOLD LAND FOR SALE, Advances Made. R. E. HUGtiEb, Sstate Agent, Surveyor & Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—S< Whmd. Has Hooses to Let and for Sale in various part. of the Town and oat districts. Also Land to bt Sold fOr Building urosm. Advances made te Builders. Estates laid ont. RentøGollooied, 1i'1 Property carefully managed. ARGRABTIAD NEWYDD A HELAETH EDIG It laim Gymraeg: El HORQRAFF Atl CHYSTRAWEN. Gan y Parch. D.Tecwyn Evans, B.A. Ar werth gan yr holl Lyfrwerfchwyj PRIS 1/6. Nia gellir ei gael oddiwrth yr AwdwJ. Lie nad oos Llyfrwerthwyr anfoner at y Cyhoeddwyr— HUGH EVANS & SONS, Swyddfa'r "Brython," Lerpwi. Tole phone-A n deld, 309 155 KENSINGTON. LIVERPOOL. R. W. EVANS, FUNEK.1L DIRECTOR, All Orders personally attended to throughout. I P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR 364 Stanley Road, L'pooi, TCLEPRONE-261 BOOTLE. TELEPRONE-575 ANFIELD. J T JONES, f unertd Undertaker < EVERTON, 4Ldu5h5rK.c«%. EVERTON and 55 Breek Rea LIVERPOOL. Funerals personally arranged to all paris- Why go to Town ? When the BOOT I.( E Shorthand & Typewriting A C A D 1 M Y 4 TRINITY ROAD, give pupils a practical business training in Shorthand, Typewriting, and General Office Routine equal to any City School. No Failures. Day and Evening Classes. Apply Principal. BARGAINS.-Underwoods, Remingtons, JD Yosts, Smith, Premier, Barlocks, Em. pires, Oiiver, Blieks, Royal Standard, from £ new condition, See the REX JE23 worth for 12 guineas. -LONGMORJC, 41b North John Street, Liverpool, Sole Agency Carona Portable Typewriters. C00K& T0WNSHEND Special Value this week. Boys' Oilskin Coats, 8/6 to 12/6 Boys' Sylkoyly Coats, 314/6 to 21/6 Splendid Selection of Boys' Sports Suits, Rugby Suits. 12/6 to 15/6 15/6 to 21/6 Boys' Covert Coats, 12/6 to 21/- Gentlemen's Business Suits to measure, 50/ 55/- and 63/- Byrom St. & Dale St., LIVERPOOL. For Bath<,LavatonM,Cto<ett,Bra<tHtti)?t F L?td Pipes, etc., apply 10- JAMES CREW 49 CO., Plumbers' Merchants & Brassfonnders, Tel. No. 58 & 60PARADISE STREET, Bank 3402. LIVERPOOL, Manufacturers of Copper OyUnders, Boilers, and Gaa,Washing,Bollers. DIM TALU YMLAEI LLAW. ARIAN YN FENTHYG. (yn ddiataw bach), mewn symiau bach neu tow- (heb fod llai na £ 10) AB ADDAWEB Y BENTHYCIWR 111 HU 8EFYDLWYD ERS *6 MLYNEDD. ac yn awr yn rhol CSC,QW YN FENTHYG BOB BLWTDDTI Am daiien a thelerau ymofynner a George Payne a'i Feib., 3 Crescent Road, Rhyl, a 16 School Lane, Liverpool, PAINLESS DENTISTRY. J. P. (Son ol the late J. Lamplough, for many years in the Dental Profession at Mold and Holywell). Dental Surgery, 235 EDGE LANE, LIVERPOOL. Hours-10 a.m. to 8-30 p.m. Consultation free. Tel. 245 Anfield. BARDDON1AETH GQRONWY OWEN. Chweched Argraftiad. Gyda BywgrafKad gan Pedrog a Llyfrbryf. Amlen, Is. Swyddfa'r "Brython," Lerpwl. For Bedsteads -0 and Bedding. W. WHITTLE SON & STOTT, LTD., o 1(6, 118 0 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. 0 ø 0 Tolephone,12137 Royal.