Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Tne. "tW OLD POST OFFICE PLACI (ore asoftOO4 sromm) j LARGEST SELECTION LOWEST PRICES TELEPHONE 3075 ROYAL.
YsgolSul a Phulpud. Cymru.
YsgolSul a Phulpud. Cymru. LLITH I. -I PAN y mae Iwrop mown pangfeydd dirdynnol ac yn talu pennyd am fywyd balch, uchel- geisiol a di-Dduw, a'r ysbryd Prwsiaidd yn dangos iddo ymgnawdoli mown ffurfiau heblaw yr un filwrol, gwyn fyd y genedl a fedr fforddio hamdden i feddwl am y pethau nid ysgydwir." Er gwaethaf Zepps. a submarines ni thynnir o anian y Cymro ei serch at ehed iadau ysbrydol, a'i fwynhad yn plymio i'r dyfnderau lie y cred yr ymgudd pethau dwyfol. Another raid on the East Coast —" Darlith yn Crosshall Street ar yr un awr, a phob atgof am bosibilrwydd ymosodiad wedi diflannu am ennyd, yn y drafodaeth am arfou yn erbyn tywysog yr awyr," yn yr Arma- gedon fawr sydd wedi cychwyn tuhwnt i derfynau hanes ae yn ymestyn tudraw i derfynau daear. Ni ddinystria Krupp na Maxim gariad Cymro at ei Geiriog a'i Banty eelyn, a thra bo 11a wer o blant Cymru yn eoehi a'u gwaed dir Belgium, cartre'r Blu, Bird, acanialwch Asia-gwlad "geni'r laau," ui fedry Cymro gartref ddim medd w I am roddj heibio ei Eisteddfod a'i Sasiwn. Nid i ddifrfo'r Cymro y dywedir hyn, ond i jddangos lei y mae "Cymru a tbragwyddoldeb" mor adwfn yn ei nutur fgl na fedr dim roddi notice to quit iddynt oddiyno. Syniad rhagorol oedd eiddo'r gwr hwnnw a feddyliodd am gyfres o ddarlithiau ar bynciau crefydd i ddeiliaid Ysgolion Sul M.C. Lorpwl yng ngoleu a,throniaeth yr oes a beirniadaeth sgrythyrol ddiweddar. Nis gwn beth roddodd fod i'r syniad Mae'n debyg mai awydd am i'r Ysgol Sul ddod yn allu a grym eto ym mywyd Cymru, ac argyhoeddiad dwfn nad yw ei gwerth ar hyn o bryd i fyny aV traddodiad am ei gwerth yng ngorffennol bywyd ein gwlad. Y hi ddysgodd i Gymru feddwl, ac o honi y ffrydiodd allan ddiwylliant i fywyd ei gworin. Pynciau'r Ysgol fyddai testun siarad ei gweithdai a'i chwareli. C6f gennym am hen weithty crydd mown treflan dawel ar ei glannau lie y trinid pothau trym- ion y gyfraith, ac nid wyf wadi cwbl anghofio y dyrys bethau a wyntylliwyd yn s*n "lapstar. y gweithty hwnnw. Claddwyd gweddillion yr hen grydd ar ddydd cyferfod pregethu yr ardal; ac o holl odfeuon trym- flidd dau ar y gloch, dyma'r drymaf y cofiaf amdani. Mae llawer blwyddyn wedi treiglo er hynny ac er i mi ddysgu tipyn o logic cartref yn y gweithty, mae llawer o'r termau ac o'r ffurfisu y gwisgid meddyliau ynddynt, wedi mynd yn ddiystyr i mi ers llawer blwyddyn. Dadleuoni o fawn rhychau diwin. yddol cyfyngedig iawn oedd y cwbl ohonynt a deuthum i ddeall trwy gyfathrach a. meddwl a bywyd yr oes, mewn cylchoedd newydd ac o dan athrawon gwahanol, fod byd meddwl ac anawsterau cymhleth bywyd yn ymestyn tu hwnt i'r terfynau a roddid iddynt yn philosoffi gweithty'r dreflan. Tra yr oedd Cymru yn byw ar ei hadnoddau ei hun ac heb ddod i gyffyrddidd mor agos a, diwylliant cenhedloedd eraill, gwnaeth yr Ysgol Sul wasanaeth amhrisiadwy iddi y?dol .n yr hen dram." Erbyn heddyw, Mae diwylliant Cymru wedi ymeangu, a dylan- wadau nowyddion wedi dod i fewn i'w bywyd. Bu newid mawr ar bethau ym mywyd y. genedl, ac y mae wedi cordded rhagddi i feddiannu meysydd ym myd meddwl na wyddai llawer o'r tadau hyd vn ood eu henw- au. A yw'r Eglwys yng Nghymru, yn ei Phulpud a'i Hysgol Sul, wedi gallu cadw i fyny a'r deffroad mawr sydd wedi digwydd yn y tir ? Cyfvngwn yr ysgrif hon i'r Yago], ac yn ein hysgrif nesaf ceisiwn ddangos ei Phulpud fel yr ymddengys i ddosbarth sydd yn mynd ar gynnydd yn ein plith. Nid ein hamcan yw difrlo y naill na'r llall, ond yn hytrach ou dangos fel y gwelir hwy gan un sydd a pharch dwfn ganddo iddynt, ac yn gredwr mawr yn ou cyfle a'u posibilrwydd. Byddaf yn mynychu'r Ysgol yn gyson gwn yn dda am y types o ddosbarthiadau a geir ynddi, a dywedaf yn onest. ond mewn tymer dda,eu bod yn waeth na diwerth i mi. Nid wyf yn beio neb am lynu wrth syniadau henafol ac am ddefnyddio termau nad ydynt Orioed wedi cymeryd hamdden i ddeall eu hystyr; ond condemniaf yn ddiarbed yr' ysbryd hwnnw sydd ar led yu ein hysgolion i sarpu ac amharchu syniadau dyn sydd wedi ymgydnabyddu a. meddwl diweddaraf yr oes, ym mvd gwyddoniaoth, athroniaeth a beirn- iadaeth Ysgrvthyrol. Os mai lie i ail-adrodd syniadau a chredoau diwinvddol henafol, nad ydvnt vn apf lio at rai darllengar a me idvlgar, yw'r Ysgol Sul, mae hoddvw yn cyfllawni ei chenhadaeth ond os mai sefvdliad yw sydd yn barod i groesawu pob agwedd ar wirion- eddau bvwyd. svdd vn cael eu datguddio gan Dduw afeir lefaru "mown I lawar ihodd, a He y caiff dyn gvfle teg i gvfnewid maddvliau, boed hwy uniongred neu anuniongred -both bvnnag yw ystyr y geiriau hvn-vna mae'n rhaid cydnabod ei bod yn fethiant mawr. Meldyliau wedi eu cadwyno gan syniadau a fu unwaith mewn bri, ond sydd heddvw yn ddivstyr i lawer, yw y rhai a goflftidir yno. Mae profiad dyn o'r cwbl o fywyd y daw i gyffyrddiad ag of yn amgenach j esboniad iddo na'r llawlyfrau esboniadol y | treulir ychydig funudau i'w darllen cyn mynd j i'r Ysgol. Cyfranoga llawer o'r llawlyfrau j hyn o'r culni mocldyliol hwnnw sydd yn rhwystr i lwyddiant ac effeithiolrwydd yr Ysgol Sul. Mae'n hen bryd i'w deiliaid a'i harweinwyr gredu mai cyfaill gwirionedd yw beirniadaeth, ac mai chwilio am ragor o oleuni yw ei swyddogaeth. Nid yng nghyfeiriad beirniadaeth oleuedig a gonest y mae perygl mawr ffydd, ond yn hytrach mown dogmat- I iaeth, sydd yn elyn anghymodlawn i bob ym- chwiliad am wirionedd. A yw Ysgol Sul Cymru am fod yn y dd.uymaeth apostolaidd trwy gadw'n fyw yr ysbryd hwnnw, yn ei hymddygiad at wirionedd, sydd yn nodwedd- iadol o'r Eglwys Babaidd ? Mae'n amser rhoddi cyfte i rai loewi ychydig ar syniadau yr Ysgol am y Bibl a'i ddatgudd- iad. Ofer iddi ddysgu fod pob adnod, ohono yn eiriau uniongyrchol oddiwrth Dduw, a bod ewestiyno cyw rdeb unrhyw frawddeg ohono yn gyfystyr ag ameu cywirdeb Duw. Mae'n rhaid iddi gydnabod yr elfen ddynol ynddo, a chrodu mai nid o'r nef y daeth adnodau fel Ecsodus iv, 24-26. Gwelir cynnydd yn ei ddatguddiad, mae i adrannau ohono werth gwahanol, ac y mae modd i gyfryngau dynol ysbrydoledig wneud camgymeriadau mewn rhai pethau yng nghyfnod yr H.D. yn gystal, ag mewn cyfnodau eraill. Pryd y daw y proffwyd i'w le yn yr Ysgol Sul, ac y cleddir y syniad amclano fel rhyw freak yn byw rhwng nef a daear, a llygaid clairvoyant ganddo i weld rhyw ddigwyddiadau pell, yn hytrach nag enaid ysbrydoledig i weld egwyddorion tragwyddol ? Rhyw Old Moore parchus, yn byw ers stalwm yng Nghanan, yw y proffwyd i lawer o hyd. Bwgan mawr i'r Ysgol Sul yw'r anghenfil hwnnw a elwir yn feirniadaeth. a heddyw mae arogl Germanaidd arno yn ei wneud yn fwy o ysgymunbeth. A gollodd yr haul ei oleuni pan ddarganfu seryddwyr frychau arno ? A gyll y Gair ei werth pan ddengys beirniadaeth gamgymeriadau yn ei text, yn ei hanes, neu yn ei wyddoniaeth ? A gyll Crist ei ogoniant pan ddaw dyn i weld mwy o ogon- iant yn y byd a grewyd, ganddo a tfcrWyddo, trwy ei wybodaeth eangach o natur a'r dat- blygiadau yn ei bywyd, neu trwy ei efrydiaeth o ddyn a'i enaid intwr a'i gwestiynau dyrys ? Ai rhyfyg ar ran dyn yw edrych ar Grist mown golouni nowydd, ar gyfrif fod byd Crist yn mynd yn fwy iddo fel y daw i ddeall mwy arno, yn arbenng ar ei binaclau uchaf mown dyn ac mewn cymdeithas ddynol ? A raid amherchi Charles Derwin or diogelu barddoniaeth dlos a damhegion prydferth y gweledydd Hebreig ym mhenodau cyntaf Genesis, sydd yn ceisio datguddio Creawdr yn hytrach na threfn creadigaeth ? Pa hyd y rhaid i chwedloniaeth Hebreig fod yn fwy o hanes na'r Mabinogion, ac y trinir dameg yr Iddew cref- yddol yn wahanol i alegoriau Morgan Llwyd neu John Bunyan ? Na ato Duw i mi geisio bychanu dim ar Paul ac loan dug y ddau fi yn nes at Dduw. Ond credaf, or hynny, mai'r goleuni mewnol wyf wedi ei gael trwy gymundeb ysbrydol a Duw yn fy mhrofiad fy hun, a thrwy fy nghyffyrddiadau a'r Dwyfol yn fy ngwahanol ymdrechion mewn bywyd, yw ffynhonnell y datguddiad uchaf sydd gennyf o Dduw. Mae'r Beibl yn ysbrydoledig i mi, nid am ei fod wedi ei ganoni gan unrhyw adran o'r eglwys, ond am yr un rheswm ag i Coleridge gynt- because the Bible knows me. Fel y dywed un o weinidogion mwyaf duwiolfryd Lloegr The sense that the Bible knows me, and the sense of God in the book, and its power to lead to Jesus, are its eternal guarantees-in a word its Inspiration." Ni wna yr un feirniad aeth na'r un athroniaeth nag un o'r gwyddor- au, na'r celfau, ddistewi'r lief ddwyfol sydd yn llefaru yn y Gair, i'r enaid sydd yn ymchwil am Dduw ac am oleuni ar bethau mawr bywyd. Pan gred deiliaid yr Ysgol Sul y pethau hyn, llifa iddi ac o honi fywyd newydd Daw'r Gair i olygu mwy iddynt, a daw'r Crist a ddatguddir ynddo yn fwy o rym yn eu byvvvd. Hvderaf yn fawr i Ddarlithiau Crosshall Street fod yn foddion i eangu cydymdeimlad deiliaid ein Hysgolion a gwahanol agweddau'r datguddiadau a rydd Duw ohono'i Hun, ac i ddangos iddynt y eyflawnder cyfoeth sydd yn yr OraclaaDwyfol, ac na raid i'r Gair na'r Iesu ofni goleuni newydd o unrhyw gyfeiriad, gan mai yr un yw y gwir oleuni sydd yn goleuo pob dyn, er i faes ei efrydiaeth ac i gylch ei fywyd amrywio'n fawr, ac i'w brofiad o Dduw gvfranogi o'r amrywiaeth hwnnw. Daw bechgyn Cymru yn ol o'r rhyfel a llawer ohonynt wedi ymgydnabyddu a, Mahometaniaid crefyddol. Newidir Hawer ar eu syniadau am grefyddau eraill. Dawllawer ohonynt i glywed am y tro cyntaf am y K6ran a Ilvirav crefyddol eraill a elwir yn bagan- aidd. Gwelanty Beibl mown goleuni newydd newidir llawer ar y syniadau a ddysgwyd iddynt gydag anfSaeledigrwydd yn Ysgol Sul Cymru; bydd datguddiadau Duw yn ym- estyn tuhwnt i eiddo un llyfr yn eu golwg. Rhaid i'r Ysgol Sul, os am fod o werth iddynt, ymbaratoi ar eu cyfer, a throi ei hwyneb i gyfeiriad y wawr yn hytrach na byw yng ngoleuni canhwyllau brwyn y bu yn dda wrthynt unwaith. Meddwl agored, ysbryd defosiynol, a pharch i bob ymgais onest i ddeall Duw a dyn a'r cread—rhaid i'r Ysgol Sul wrthynt, os am fod o'r gwasanaeth uchaf i grefydd. DISGYBL
Ar ddaint v Gribin. I
Ar ddaint v Gribin. I Y MAET Caplan Llewelyn Lloyd, oedd gyda'r Fyddin Gymreig yn Ffrainc, wedi dychwelyd adref yn gwla'i iechyd. Yr oodd (of yn efeng- ylydd poblogaidd cynt; ond bydd rhyw flas newydd ar y genadwri o hyn ymlaen, oher- wydd yr hyn a welodd ac a brofodd ar odre'r Armagedon. Mawr yw s6n y bechgyn am Oodfa'r Efail, sef a gawsant gydag o y dydd o'r blasn yn swn yr ergydion, a'u bywydau magis yn hongian rhwng deufyd. -o Caed John Davies, Pant glas, yn farw dan drwch o luwchion eira ger y Bylchau, ar ffordd Pentre foelas, a'i gorbyd a'i ferlen gerllaw. Yr oodd yn bymtheg a thrigain oed, ac yn ffarmwr ac arolygydd y ffyrdd. Y mae Syr Watcyn Wyn wedi rhoddi byw- oliaeth Llandysilio, Llangollen, i'r Parch. W. Aeron Davies, ficer Rhosesmor. Enw tlws yw Aeron, a gobeithio fed yr un flas ar ei bregethau. ■ Cafodd Mr. J. Rowlands, postfoistr Cricietb, goflaid o anrhegion gwerthfawr gan bobl y dre wrth ymadael i fod yn bostfeistr Hodnosford, swydd Stafford; a'r Archddiacon Lloyd Jones, Syr Ellis Nanney'r Gwynfryn, ac eraill yn rhoi geirda eithriadol iddo am ei gwrteisrwydd gwastadol wrth bawb, yn lle'r tursio cwta a deddfol yma a geir gan lawer o sych-swyddogiony Llywodraeth. Eligoreu'r galon yw tipyn o arwyddion fod pobl yn gwerthfawogi'eh gwasanaeth. Dyma un o Itoff destynau'r Parch. Evan Roes (Dyfed) Er gorwedd ohonoch ymysg y crochannau, byddwch fel esgyll colomenod wedi eu gwisgo ag arian, a'u hadenydd ag aur melyn." Dyna le i fardd ledu esgyll ei Awen. Mr. Edward Jones, Maes mawr-Ilywydd Cymdeithasfa'r Gogledd-oadd blaenor y ddirprwyaeth a aeth dros Gymdeithas Ddir- westol Maldwyn at brif gwnstabl y Sir i erfyn arfto estyn y cwtogiad ar oriau agor y tafarnau i'r holl sir, canys dim ond yn y Drenewydd y mao'r ewtogi mewn grym. Addawodd y Pen Pliemon edrych i fawn i'r peth. + Dyma'r gwyr sydd wedi eckel eu hethol yn Bwyllgor T-ileithiol Mon, Arfon, a Meirion dan gynllun y Cadfridog Owen Thomas, i gadw chwarae teg i'r mtlwyr Cymreig ifon-V Parch. J. Williams, Brynsiencyn ac E. H. Griffith, rheithor Llangadwaladr, a Dr. Thomas, Amlwch. Arfon Dr. Wynne Griffith, Pwllheli; Mri. W. George, Cricieth, ac Issard Davies, Caernarfon. Meirion: Syr Osmond Williams, yr Henadur Wm. Owen a Dr. J. Jones, Dolgellau. Yng Nghaemprfon y cynhaliwyd y cyfarfod lle'r etholwyd y gwyr uchod, ac yr oedd yn gyfarfod brwd'ac yn argoeli'n dda. Gwir y clywyd peth o swn Satan y Sect yno am ych- ydig funudau, ond wedi eglurhad yr yegrif- ennydd But na chawsai clerigwyr yr Eglwys Wladol rybudd blaen llaw fel y cawsai'r capeli, rhwymwyd y Satan draed a dwylo ac a'i bwriwyd bendramwnwgl i'r dyfnder. Ond y mae gan yr ellyll esgyll i ddringo, a gwyliwch ef. Y mae ambell Gymro'n ddigon dirmygus o fach i chwilio'r Testament Newydd i. edrych pa en wad oedd y Crist Ei Hun, 0 diar mi! Mewn cyfarfod o Eglwysi Rhyddion y Rhyl, dan lywyddiaeth y Parch. H. Evans (Cynfor), protestiwyd yn erbyn gwaith Cyngor y dref honno'n apelio at y Bwrdd Llywodr- aethol am iddo lacio'r cyfyngu ar oriau i dafarnau. Yn hytrach, ebe'r cyfarfod. estyn. ner y gwaharddiad dros y wlad i gyd, fel y bo pob tref ac ardal ar yr un tir. -4>- Synnwn ddim nad Ilys trybini' fyddai'r darnodiad goreu ohono, cany s trybin llyd ddigon yw y rhai sydd yn mynd o flaen ei faine," abe Dr. Gwylfa Roberts wrth ofyn yn yTyst pa air Cymratg ollid ei gael am tribunal. Y Peilin, ebe gohebydd. gwreiddiol yn Ffetan y Gol. ar tudal. 2. Pan geisid gollyngdod i Mr. Llew. Owain' Gol. Y Genedl a'r cyd-bapurau, rhag gorfod mynd i'r Fyddin, gofynnodd Prif Gwnstabl Caernarfon i Mr. J. Jones, cyfarwyddwr y Cwmni, tybed a ddioddefai'r wlad pe cy- hoeddai'r Cwmni dri phapur bob wythnos yn lie pump. 'Dwn i ddim." ebe Mr. Jones, ond nid yw hanner dwsin o bapurau'n ormod gan rai pobl eu prynnu, yn enwedig os yn disgwyl gweld eu henwau ynddynt." <?weM eu henwau-'does dim ond operation lem yr Ail Enedigaoth a all wella neb o'r clwy cyffredinol yna. Dwrdio hyd y progetlinu Dwrdio hyd y pregethau yn oedfa ddwbl y City Temple nosWyl Ddewi wnauno oheb- yddion Seren Cymru, ond yn canmol y canu i'r ucholion. Hwyrach fod y gyhebydd fel Eos Prydain y Codwr Canu yn y ddrama honno, yn meddwl mwy am y Sol/fa nag am Salvation. ■o- Dwys iawn oodd y seremoni a fu yn Eglwys Llanbeblig, Caernarfon, y dydd o'r blaen, sof dadorchuddio ffenestr dlos oi Hun a'i lliwiau yn goffa am y diweddar Lifft. Morys Wynne- Jones, mab ficer hawddgar y dref, a laddwyd yn y rhyfel fis Hydref, 1914. -0- 1 Yr oodd un o gyn-olygyddion papurau Caernarfonwedi troi at yr EgIWY-fi ddiwedd ei oes, ac a wrandawai'r Ficer yn Llanbeblig ambell dro ac os heb yr un geiniog yn ei logell, ysgrifennai, Diolch yn fawr í chwi am eich progeth ragorol," ac a'i taflai i'r blwch casglu pan ddeuai hwnnw heibio. Dyna'i oftrwm o. ■o- Pasio i ddal i gadw sejndorf i genu ar y Sul wnaeth Cyngor y Rhyl, or gwaethaf protest amryw o'r aelodau a lysenwid yn sych- Biwritaniaid ac yn y blaen am eu sel Sabothol. Y mae'r ymdderu yma am grefydd a chadw'r Sul yn peri mwy o grasineb ysbryd ac o lye. nafedd edliwus na phwnc yn y byd. Yng Nghyngor Lleyn, dywedwyd pethau hoilltion enbyd am waith perchen ryw dyddyn yn gadael i hen wraig fyw mewn bwthyn mor dyllog ei d6 a llaith ei furiau. Ar sachciu y eysgai'r druan oodrannus, ac a losgai'r gwellt o'r rhai hynny er mwyn cael llygedyn o olau a gwres yn y twlc tywyll. Y mae cut cwn y perchennog yn barlwr o le rhagor yr hoewal warthus. 0 chwith y bydd hi ar y ddau yn y Byd Ne.^af. mae'n fwy na thebyg. Os oes un ohonoch chwi dadau yn doehreu llymeitian a chware a'ch glasiad cyntaf, cofiwch englyn Elfyn i'r rneddwyn Tro-t y plant ar y plwy—yn wir drist;, Ac ar, drwyth ofu&clwy Y gwiiodydd llygradwy Y gwaria'u tad eu gwrid hwy. Os nad yw'r 11 moll olaf yna'n' ddigon i bod it droi'r gwydryn a'i wyneb yn isaf, nid wyt ti ddim yn deilwng i fod yn dad. Dyna i ti, y n dy wyreb. Pasiodd Cwmni Tramffyrdd Llandudno, drwy bleidlais o 343 yn erbyn 253, ymhlaid gofyn i Gyngor y dref honno am gael rhedeg y ceir ar Ddydd yr Arglwydd neu am ran ohono o leiaf. Dydd yr Arglwydd, wir Dydd Mamon a Bacchus yn hytrach. Faint feddylioch chwi a holiodd Cymry Llun da in ddydd Gwyl Ddewi diweddaf at gysuron y Fyddin Gymreig ? Dros bum mil a hanner o bunnau. Drwy hudoliaeth gwisg a gwen y merched y caed y dreth. Nid oes yr un cybydd yn Llundain a fedr ddal llygad bach y chwiorydd hynny-un yn enwedig. Y mae'r awdurdodau gwladol a milwrol a'u holl egni'n ceiuo perswadio amaethwyr Sir Fflint i gy flog j merched ond. dal yn gyndyn y mae Ilawer o'r ffermwyr, a digon hawdd dweyd ar eu gwep mai Twt! ydyw eu syniad am y lodesi. Yn Ninbych, ddydd lau diweddaf, hysbys- wyd fod cyfanswm tewyth y casgliadau o'r ocsiwn ddiweddar or budd Trysorfa Amaeth- yddoly Groes Gochyn cyrraedd £ 1,210 18 6, a'r trouliau'n ddim ond £3 11 10. Dyna'r goreu o'r un yn y Gogledd. Y mae trigolion Colwyn Bay, Lan a Chapel, wrthi'n hel arian at godi rhywbeth yn goffa am y diweddar Ganon Hugh Roberts, fleer y lie am dair blynedd ar hugain, a gwr hawddgar gan bawb, oblegid ei fwyneidd-dra doethineb. Er mwyn cynilo, y mae Carchar Rhuthin j'w gau am beth amser, a'r gwasanaethyddion i'w symud i garcharau eraill. Yr unig ga.rchar agored wedyn yng Ngogledd Cymru fydd carchar Caernarfon. Aath cryn haid i sbio ar y briodas khaki a welidyng Nghapel Caersalem, Llanfairfechan, ddydd Mercher diweddaf, sef y Lifft. Val Baker, 12th R. W.F., Llanfairfechan, a Miss Dilys Eamod, Plas Villa, o'r un llan. Y Parch- edigion Mordaf Pierce, Dolgellau, a W. E. Williams, Llanfairfechan, vn eweinvddu. v Y mfee'r Capt. Tom Parry, A.S., wedipen- derfynu gwrthod ei bedwar cant o bunnau o gyflog fel Soneddwr, ac felly gau safnau'r bobl barod i edliw. Gartref yn yr Wyddgrug y mae bellach, ac 61 elwyfau a chaledi Gallipoli yn amlwg ar ei gorff ctu-iedig. Siopwr trwstan i'w ryfeddu oadd yr hybarch John Jones, Talsarn a phan oedd ei briod allan, ac y daeth rhyw wreigan i ofyn am geiniogwerth o dap, dywedodd y prageth- wr wrthi na wyddai o sut y gwerthid y peth, ac am iddi gymryd yn ol ei chydwybod. Cymrodd hithau un 11ath ar bymtheg. Ac wrth ddarHen hanes y Treibunalau yma led y wlad, gallesid tybio mai india rubber yw deu- nydd cydwybod llawer un, gan fel y tynnir hi ol a blaen wrth ateb y croesholwr. Y mae Martha L. Griffiths, y wraig oed rannus a gnfwyd wedi ei niweidio'n enbyd yn ei th £ yn yr Wyddgrug rai misoedd yn ol, wedi marw yng Ngwallgofdy Dinbych a llys y trengholiad a fu ar ei chorff wedi dwyn ded. fryd Llofruddiaeth Wirfoddol" yn erbyn John Bellis, y glower a lotyai gyda hi ac sydd yng ngharchar yn aros ei brawf. Nid oea dim ar y ddaoar mor anodd ei olchi a gwaed. .0- Cymro genedigol o gyffiniau Llandudno yw'r Gwir Anrhydeddus W. M. Hughes, Prif Weinidog Australia sy drosodd yma ac yn cael clap a chroeso lie bynnag y sioryd. Nid 068 ganddo rhyw lawer o Gymraeg, ebe fo ond y mae'n cadw hynny sydd ganddo'n ofalus. Y mae wedi derbyn gwahoddiad gan Gyrnrodorion Llundain i gyd-giniawa a hwy ym mwyty'r Trocadero, Nos Lun, Ebrill y lOfed, a Mr. Lloyd George wedi addo llyw. yddu. Y mae i'w groesawu yng Nghaerdydd hefyd a chyn dychwolyd i wlad bell ei fabwysiad, y mae am fynnu, ebe fo, caelpicio i weld bedd ei f&m ym mynwent Llansant- ffraid Glan Conwy. A pheth cryfach na charreg fedd ei fam am dynnu dyn ati o eithafoedd y ddaear ? Ac wedi dod at y garreg o Awstralia, dyma'i deimlad yn ddiau Yn wir, mi garwn orwedd, Er dy fwyn, yng nghwrr dy fedd. •< «- Gair yn cyrraedd fod Capt. James Bate- man, R.F.A. mab hynaf Mr. a Mra; Jones- Bateman, Eyarth a'r Pentre Mawr, Aber- gele, wedi marw o'i glwyfau yn Ffrainc. Major Edward Jerman yntau, sef o Fryn Celyn, Rhyd y clafdy, ger Pwllheli, wedi marw yn Fflanders. Y mae'r Parch. W. Gabriel Evans, curad Dinbych, wedi cael ei benodi'n un o ficeriaid corawl Llanelwy, yn ol £ 147 yn y flwyddyn. Caed Mr. Knowles, gwr yr Albert Hotel, Madoc Street, Llandudno, wedi ymgrogi yn ei gegin bore dydd Gwener diweddaf. Yr oedd yn bodair a deugain oed, a newydd ddod i gadw'r Albert o westy'r Harp, Conwy. Ei briod a'i gwelodd gyntaf, druan, a hi'n dod i lawr o'r llofft y peth cyntaf y bore.  Y mae pwnc y gydwybod yma yn rhoddi cyfle i lawer pwyth ac atbwyth yn y llysoedd a mannau eraill. Er enghraifft, dyma un o bwythi miniog y Parch. G. H. Havard, M.A., B.D., wrth gyfarch cyfarfod y Groes Goch yn y Rhyl nos lau ddiweddaf :— Yr wyf yn deall dyn a chanddo wrthwyn- ebiad cydwybodol gwirioneddol; ond nid wyf yn deall y dyn sydd newydd ddarganfod ei gydwybod yn ystod yr wythnosau diweddaf, pan ddaeth galw arno i ymladd." Dyma i chwi englyn ar Gydwybod, gwaith Lewis Jones, Llandaulas.- Ni oddef ei thangnefedd—i undyn Heb uniondeb buchedd Deil ei barn, hyd ael y JxJdd, I ariannu gwirionedd. Y mae rhywbeth pur dda yn yr "ariannu gwirionedd. yna, onid oes ? A dyma ddi hateb neu ddwy yn dangos ei dwy ochr- Gwell cydwybod nag Awen ond Cydwybod ci at y cosyn. g A yw crafiad y cyferbyniad yn eglur i chwi ? Os nag ydyw, gofynnwch i gymydog go gyfarwydd. ?..  ? ? .? Tipyn o helynt ac anhawster sydd o hvd gyd a'r milwyrCymrc ig a chael llythyru adref: o'r rhyfel yn Gymraeg. Yr oedd caniatad i hynny o Ffrainc, etc., wedi ei gael yn fuan ar ol dechreu'r rhyfel ac fel fifrwyth gofyn cwestiwn yn y Senodd y dydd o'r blaen, y mae rhyddid wedi ei gael bellach i filwyr yr Aifft a M6r y Canolclir yr un fath. Gresyn fod, dirmyg y Saeson, aeMioJig ar eu hanwybod- aeth o bob iaith ond yr oiddynt eu hunain, yn eu gwneud mor draws a drwgdybus. -<?- Y rose un o Gymry Llundain wedi sgrifeinnu hanes y Royal Welsh Fusiliers yn gyfro) ddiddorol a hardd ei lluniau; ac yn awr, y mae'r Major-Gen. G. Paton yn hwylio ,ti i ysgrifennu un gyffolyb am gatrawd h&n a hyglod y South Wales Borderers. Sefydlwyd y ddwy gatrawd yr un flwyddyn-1689, a, bu'r ddwy a'u rhan low ym mrwydrau mwyaf gwaedlyd y Cyfandir a'r byd, o hynny hyd hoddyw. Y mae hanes y Borderera yn dal yr ysbyty hwnnw yn Rorke's Drift, Deheudir Affrica, yn 1880, dan gawod o bioellau {assegais) y Zulus cryfion a mileinig, yn un o'r pethau glewaf yn hanes y Fyddin Brydeinig. Dyna'r pryd y codai'r Zulus gyrff eu brodyr oodd rhyngddynt. a'r Borderers ac a'u taflent yn eu crynswth i ddorbyn bleen bidog v Cymry, gael iddynt fotlat a'u codi at y rheng nesaf a ruthrai arnynt. Y mao Henry Matthews, alias Percy Clarkes, a llu o rith-enwau oraill, wedi cael ei fwrw I sefyll ci brawf ym Mrawdlys Stafford ar amryw gyhuddiadau hyllion o gael arian o ffermwyr y wlad draw ac yma drwy ymrithio ei fod yn gynrychiolydd y Llywodraeth gyda golwg ar fesur tir a'i drethu ac yn y blaen. Dyma'r dyn hefyd a weithiai ac a bregethai mor danbaid a ohodog gyda'r Y.M.C.A. yng Nghinmel nos y dechreu. odd y Cadfridog Owen Thomas, graff ei. ffroen foesol, ddrwg-amou mai Pbarisaad cegrwth ydoedd, ac a gaeodd el big yn y fan. Bu Syr J. Herbert Roberts, A.S., yn treulic egwyl yn Norfolck, lie y mae ei fab yn graddol hybu o waeledd erch y pneumonia. Dis- gwylir y bydd y mab yn dd.igoa cryf yn fuan j, gael ei symud adref i Fryngwenallt. ❖ Yr oodd un o lanciau Trefriw neu'r ardaf gyfagos yn gryf iawn ei gydwybod gerbron y Treibiwnal ddydd lau diweddaf yn erbyn rhyfel; ond wrth gael ei groesholi, addefodd y trwstan iddo fod mown ymladdfa lewye ei grys a llanc arall ar Bont Trefriw, ac iddo. wneud ei ortu i amddiffyn A gam. Ond curfa a gafodd ar y bont, ac yn y llys hefyd, nor, gorfod ystwytho i'r alwad, "yn ddrych o dristweh i edrych drosto."
Advertising
fir EVERY WOMAN flaooLD send a stamps for our 39 page mustmw Book. CODtaiDingvaluable information how all h"guladtim. ud SuppreaaioM may be entirely avoided or removed by simple means. Recommended t7 Zdgt phyu;f e&aw&, the only Safe, Sure ud 8enume Bemedy. Ne??r f?it Thousands of Testimonials. Established 1862. Mr. PAUL BLANCHARD BelatMrtiiflmiM. Dalstoo Laoe. LONDON PAINLESS DENTISTRY. J. P. LAM.FLOUGH'S (Son of the late'J. lamplough, for many years in the Denial Profession at Mold and Holywell). Dental Surgery, 235 EDGE LANE, LIVERPOOL. Hoars—10 a.m. to 8-30 p.m. Consultation free. Tel. 245 Anfield. FRANCIS & HOLLAND, Sight Testing Opticians, AFRICAN HOUSE, 6 WATER STREET LIVERPOOL. (Close to the Town Hall). Balls" Wedding Rings. Guinea Gold Wedding Rings from 7/6 to MI-. Half dozen Bent Electro-plated Spoons given to each purchaser of a Ring. BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 33 LONDON ROAD, LIVERPOOL Finger Size Card post free. ,Close on Wednesdays at 1 o'clock. Yn awr yn Barod. COflANT THOMAS GEE, — GAN — THOMAS GWYNN JONES. Cyanwysa y cyfrol 650 o dudalenau yagbj. ag amryw ddarluniau. # Pris wedi ei rwymo mown Ilian hard#, 6/- Cyhoeddedig gan GEE a'i FAB. Cyf.. Dinbyck