Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

o Big y ..Lleifiad.

DAU TU'R AfON.

News
Cite
Share

DAU TU'R AfON. CYMDEITHAS CYMBTT FYDD UP. PARLIA- MENT STREET.—Nos Wener ddiweddaf, dar- lithiai Mr. J. Smeath Thomas yn un o ystefyll y Gymdeitbas ar Berthynas Gwyddoniaeth a'r Rhyfel. Fel y gwyddis, darlithydd ar Fferylliaeth yn y Brifysgol yw Mr. Thomas, a gWyr lawer cyfrinach ynglyn a chynyrchu'r high explosive shells, er na wiw iddo eu dweyd. Y mae'r rhyfel hwn yn gymaint o ryfel gwy- ddoniaeth a dim, ac y mae ami i broblem ddyflys wedi ei dadrys ym myd gwyddoniaeth er dechreu'r rhyfel. Gwyddoniaeth yn y diwedd a dyr drwy rengau y gelyn yn Ffrainc. Mr. R. H. Jones a lywyddai, gan dalu teyrnged uchel i Mr. Thomas. Siaradwyd ymhellach gan Mri. J. E. Owens, James Nicholas. David Owen a J. R. Morris. PRINCES ROAI).-Nos Fawrtli yr wythnos ddiweddaf, cawaom ddarlith ardderchog gan y Parch. H. Harris Hughes, B.A.,B.D., ar Ddechreuad Mynachaeth. Cywirodd y syniad cyffredin mai yn yr Eglwys Babaidd y dech. reuodd Mynachaeth. Yr oedd yn yr Eglwys Roegaidd, a chrefyddau llawer hyn na Christ- nogaeth. Dilynodd ei ddatblygiad gan sylwi ar lawer o ddrwg a da a ddeilliodd trwyddo. Cynyrchodd lawer o ddiwinyddion, cenhadon, a diwygwyr, a daeth a'r Eglwys yn fyw trwy wyll y Canol Oesoedd. Effeithiodd yn fawr ar Brotestaniaeth, ac y mae ei 61 yn drwm ar emynyddiaeth Cymru. Siaradwyd ymhell. ach gan Mri. J. Smeath Thomas a J. Freeman Williams ac yn lle'r diolch ffurfiol ac oer, aeth pawb allan tan ganmol yn gynnes am y wledd. CYMDEITHAS LLEN A CHERDJO CHATHAM STREET. Yr oedd pawb oedd yn bresennol mewn cyfarfod ynglyn a'r Gymdeithas uchod nos Fawrth, Ionawr 25, yn unfryd unfam fod y y papur a ddarllenwyd gan Mr. R. E. Jones, Beaumont Street, ar Edmund Prys, Arch. ddiacon Meirionydd, yn un o bethau goreu r tymor. Cafwyd gwledd ddanteithiol, Gwnaed sylwadau gan y gweinidog ac amryw o'r brodyr. Cadeirydd y cyfarfod ydoedd Mr. E. Lloyd Richards, a'r tri, sef gwrthrych y testyn, y darlithydd, a'r cadeirydd, yn hannyw o Sir Feirionydd. Y mae gwedd lewychus ar y Gymdeithas er cymaint y galwadau sydd ar y bechgyn ieuainc i'r gad. SERPENTINE EOAD, EGREMONT.—Nos Wener ddiweddaf, cynhaliwyd cyfarfod cys- tadleuol dan nawdd y Gymdeithas Lenyddol. Enillwyd y gwobi'wyon gan y rhaiii Pedwarawd, parti y Parch. R. W. Davies her-unawd, Mr. torwertli Williams adrodd. Mrs. J. E. Davies. Misses Charlotte Roberts a Jennie Parry. Adroddiad i rai dan 16: Hywel M. Jones. Cauu'r don Pen lan, i rai dan 16 Olwen Roberts, Gwynoth M. Jones, a Gladys Hughes. Llawysgrif Trefor Will- iams. Cyfieitlxu i'r Saesneg Mr. Aneurin A. Rees. Barddoniaeth Mr. T. Parry Will- iams. Yr oedd llu o ymgeiswyr yn yr holl gystadleuaethau, a chaed cyfarfod hwyliog a llwyddianllus. Beirniaid Cerddoriaeth, Mri. Tom Roberts a J. E. Davies amrywiaeth, y Parch. R. W. Davies a Miss Profit. Llywydd- wyd vn ddeheig gan Mr. W. Madoc Joi-ics.- A.M. MRS. THOS. EVANS.Dchdd Mercher di- weddaf, ym mynwent Longmoor Lane, cleddid gweddillioii annwyl brioci Mi-, Thos. Evans, Highfield Road mereh y diweddar I Mr. Owen Jones, adeiladydd, Maghull; wedi ei magu yn eglwys M.C, Walton Park, ond a ymunodd ag egl WYSFedYd diOl Balliol Road ar ei phriodas bum mlvnedd yn ol. Gwraig ieuanc ddymunol a phur, ac wedi harddu ei phroffes a gwneud ei rhan gydag Achos Duw ¡ vn y ddwy gorlan. Gweinyddwyd yn yr || angladd gan Bed* Hir, yn cael ei gynorthwyo 1 gan y Parch. E. J. Evans. Mr. P. Lloyd Jones a drefnai'r angladd, a dyma'r prif alar- wyr :—Mr. T. Evans (priod), Mr. Richard Jones, Mr. a Mrs. 0. J. Williams, Miss Jennie Wilde, Mr. Richie Jones, Mr. a Mrs. J. C. Roberts, Harry ac Arnold Wild, Mrs. New- bould, Mrs. Cole, Mr. D. J. Jones, Mr. Tecwyn Jones a Miss Jones, Hughie Owen, Mr. J. T. Evans, Robt. Owen, Robt. Williams (Muriel Street), Mr. Sam Hewitt, Mr. John Hughes, Mr. Will Williams, Mr. John Evans (brawd) Mri. William Thomas, Robert Owen, Henry Roberts, John Morris, swyddogion Balliol Road Dr. A. Thomas, Mr. G. Jones, Robert Jones, Robert Williams, Hugh Rob- erts, John Evans, Sergt. Hugh Owen (Alder- shot), Mrs. Ada Williams, Mrs. Calam, Mrs. Charcock, Mrs. White, Mrs. E. Davies, y Parch. R. R. Hughes, B.A. j Ymadawiady Parch. Wm. Owen. I Nos Fereher, Ionawr 26ain, daeth llu o aelodau Webster Road, a rhai o'r eglwysi cylchynol, ynghyd i ganu'n iaeh ac i ddymuno yn dda iddo ef a Mrs. Owen ar eu hymadawiad o'r ddinasaniywlad. Mr. John Jones, May. field, a lywyddai'r cyfarfod a rhoes drem ar yr achos o'i gychwyniad hyd yn awr, gan ddan.gos y camre breision cynnydd a gweith- garwch yr eglwys yn ystod yr ugain mlynedd bron y bu Mr. Owen yn ein plith. Talodd wrogaeth uchel i Mr. Owen fel gwr cadarn, doeth, a threfnydd mcdrus a llwyddiannus ar hyd y blynyddoedd ac fel arwydd o leimladau da yr aelodau, galwodd ar Mr. Owen Hughes, Salisbury Road, swyddog hynaf yr eglwys, i gyflwyno oriawr a chadwyn aur i Mr. Owen, a Silver Bag i Mrs. Owen, fel arwydd o werthfawrogiad o'u gwasanaeth a'u Uafur. Cydnabu Mr. Owen y rhoddion gyda diolchgarwch drosto ef a'i briod, Yr oedd tua dwsin o weinidogion y cylch yn bre-,ennol, a disgynnodd i ran chwech ohonynt annerch y cyfarfod yn y drefn ganlynol: y Parchn. D. Jones, W. Henry, D. Adams, B.A., R. Aethwy Jones, M.A., H. Harris Hughes, B.A., B.D., a John Owen. Baich yr holl areithiau oedd ein bod yn colli dyn da, doeth, a chyd- wybodol, un fu yn y cylch yma yn pregethu calon yr Efengyl ar hyd y blynyddoedd, yn fawr ei barch ymysg ei frodyr yn y weinidog. aeth, yn barchus a hoffus gan yr enwadau eraill, yn fawr ei ofal am y plant a'r bobl ieuainc, yn pryderu llawer yn eu cylch, a'i lafur wedi bod yn amlwg gyda gwaith y Cyfarfod Misol yn ei holl adrannau, ac y byddis yn y cylch hwnnw yn teimlo chwith- tod ar ei ol. Datganodd yr holl siaradwyr eu colled yn ei ymadawiad ac yn dymuno pob llwydd a beuditb arno yn ei gylch newydd yn y Gyffin, gerllaw Conwy. Canodd Miss Phyllis Davies Arglwydd, arwain drwy'r anialwch, yn hynod effeithiol; y Parch. O. J. Owen, M.A., a gymrodd y gwasanaeth dechreuol, a'r Parch. W. M. Jones ar y diwedd yn erfyn bendith y Nefoedd ar y cyfarfod, ac ar yr eglwys yn y eyfwng presennol. Cyfeiriwyd hefyd fwy nag unwaith at y gwaith mawr a gyflawnwyd gan Mrs. Owen, yn bennaf ynglyn a. Changen Chwiorydd y Genhadaeth Dramor, ao mewn cylchoedd erdill yn ogystal. Cafwyd gair gan Mr. Owen ar y diwedd, yn dweyd y credai iddo gael ei arwain yma, i'r cylch pwysig hwn, agos i ugain mlynedd yn ol, a'i fod yr un mor sicr ei fod yn cael ei alw oddiyma yn awr i ran arall o'r winllan. Tyst- iodd ei fod yn ddigon amherffaith ac annheil- wng yn ami, ond iddo wneud ei oreu, yn arbennig gyda'r plant, ac yn y pulpud gofal- odd am bregethu Crist a chyhoeddi'r Efengyl yn ei symlrwydd bob amser. Teimlid mai buddiol fuasai clywed un neu ddau o aelodau yr eglwys yn cael rban yn y eyfarfod,-amryw ohonynt wedi bod yn cydweithio ar hyd y blynyddoedd gyda Mr. Owen yn y gwahanol gylchoedd ond ym- ddiriedwyd y gwaith yn gyfangwbl bron i'r urdd weinidogaethol. Gofalodd Gwilym Mathafarn am gyfle ar y diwedd i ddatgan ei deimlad a'i ddymuniad ar eu rhan yn y tri englyn godidog hyn 0 Gonwy, daeth y gennad,—ahawddoedd Ufuddhau i'r alwad Arbennig fu derbyniad Yr annwyl le o'r Hen Wlad. Eu rhodiad cymeradwy—erfynnir Ar finion y Llugwy A gyr Ion, o'u hanfon hwy, Ddau gennad hedd i Gonwy. Duw roddo lawnder iddynt,—a'i aden Fo'n daenedig -drostynt,- Gwen nefol i'w hwyrol hynt Yn ymdaenu am danynt. WEBSTER ROAD.—Prynhawn dydd Sad- wrn diweddaf, fel canlyniad llwyddiant eithr- iadol Sale of Work y plant ar ran y milwyr, gwahoddwyd nifer helaeth o'r milwyr clwyf. edig i ddod atom am ychydig oriau, i gael eu diddori mewn cyngerdd i-hagorol yn gyn+af,alu digoni wrth y byrddau wedi hynny. Daeth tua 30 ynghyd, a mawr fwynhawyd eu cWInni fel y darfu iddynt hwythau werthfawrogi ein darpariadau ninnau ar eu rhan. Y Parcb. Wm. Owen a lywyddai, ac estynnodd groeso cynnes iddynt a chymrwj-d rhan ymhdlacb gan Miss Phyllis Davies, Alice Parry, Mrio 0. R. Hughes, T. C. Davies, R.Vaughan Jones a J. W. Roberts (Arvon Hope) yn ei hwyliau goreu, fel arfer. Canodd y Cor Plant, dan arweiniad Mr. R. J. Jones hefyd, a rhoddoed Miss Peggy Owen ddetholiad ar y piau. Canodd mi o'r milwyr hefyd, a chawsom adroddiad gan un arall. Gofalwyd am felys- ion a ffrwythau a sigarets iddynt, a'r plant yn cael pleser yn eu rhannu iddynt, ac wedi gweled heddyw ffrwyth eu Uafur dros y milwyr gan mai hwy gychwynnodd y mudiad, iddang- os eu hawydd i wneud eu rhan i'r dewrion hyn am eu help i ymlid y gelyn ymhellacb oddiwrthvm, a Y PREIFAT, RHYS ROB" EBTS.—Dyina, lun y Preif- at Rhys Roberts, » laddwyd drwy ddamwain. yn Ffrainc, ac y cyhoedd- wyd y manylion anidanoo ef a'i gymeriad glan yn., Y BRYTHOK diweddaf. Mab Mr. a Mrs. Wan Roberts, fferm, y Bwlch. Beddgelert, ydoedd, aelod o eglwys M.C. Stan- en Road, Bootle. Prin y cafodd llanc erioed glod- usach gair gan ei swydd- ogion. -1 LAIRD STREET.—Chwefror 1, yn y Gym- deithas Lenyddol, caed papurau ar Howtl Harris a Daniel Rowlands gan Mri. Willie Jones ac R. Edwin Roberts y ddau wedi paratoi'n dda. Gresyn fod cyn lleied yn gwrando ar hanes cycawyniad Methodistiaetbe Caed sylwadau pellach gan Mri. Emanuel Evans, W. Jones (Alderley Avenue), John Evans, Hugh Jones, Richard Hughes, 'a'r gweinidog. Llywyddwyd yn ddeheigiawn gan Mr. D. Charles Evai-is.-R.J.CT. GREAT MERSEY STREET.—Y mae;n syn pa fodd y darfu gohebydd mor graff a manwl, wrth gofnodi ein cyrddau nos S dwrn a'r Saboth, adael enw Pedr Hir allan o fysg y rhai a gymrai ran yn narlith Dr. Peter Price. Sicr mai anghofio a wnaeth, oblegid y mae's Petr yma, fel Petr yr Apostol gynt, yn rhy fawr a da i'w anwybyddu. Yn wir, y mae ev bresenoldeb,ar wahan i'r hyn a ddywed, yn dwvn heulwen i unrhyw gyfarfod, ac felly yr oedd y waith hon. Ac yrnhltth y pethau da am y ddarlith, dywedodd ei bod "mor gyf- oethog o feddyliau fel y caem waith i gnoi cii arni am amser hir." Yr oedd y gynulleidfa hardd nos Sadwrn, ac yn neilltuol nos Saboth, -pob cwr o'r capel wedi ei lenwi-yn proff poblogrwydd y Dr. yn y ddinas. Bydded bondith ar ei weinidogaeth gref a chyfoethog. KNOWSLEY ROAD.-Yn ,adroddiad cynge erdd y lie uchod yr wythnos ddiweddaf, gwel- ais gyda gofid fy mod wedi gadael allan enw un a wnaethai fwy o wasanaeth na neb oedd yno, sef y cyfeilydd, Miss A. Griffiths (Alawes Menai), organydd Peel Road (M.C.). Nid yn imig y mae'n gallu trin yr offeryn yn dda, ond y mae ganddi allu neilltuol i fod o help i'r cantorion. Yr wyf yn sicr y maddeua Miss Griffiths i mi am fy amryfusedd. TEML GWALIA, EDGE LANE.—Nos Fawrth cyn y ddiweddaf, dan lywyddiaeth y Parch. David Jones, aed trwy'r rhaglen gan lynol Can, Thora, Br. Ieuan Jones adrodd The inventor's wife, Chw. R. J. Ellis oan, Bedd y Bugail, Br. J. E. Pritchard (Euros y Delyn); deuawd, Y Llaethferch a'r Bugail,; Chw. Jenny Jones a'r Br. M. Eddie Evans, adrodd Y Milwr Prydeinig, Br. J. M. Evans Darllen brawddeg heb ei hatalnodi (sef That that is is that that is not is not is it), beirniad, A. Phillips: neb yn oreu. Can, Cartref, Chw. Winnie Davies adrodd, Ystori, gan y Chw. Phillips can, 0', Niwl i'r Nef, Br. leuan Jones.-M.E.E. COFIWR BEDDGELERT.—Yn y BRYTHON diweddaf, gwelais gyferiad at lyfr y mae fyr nghyfaill Mr. M. W. Humphreys, Garston, & ei ddwyn allan. Mab y mynydd ydyw ef, wedi ei eni a'i fagu ynghanol prydferthwch a. thlysni mynyddoedd Eryri; ac er iddo ddod i dref y Saeson, a hynny ers llawer blwyddyn bellach, nid ydyw gwlad ei enedigaeth wedi. mynd yn ddiystyr ganddo ymfalchla yn ei mynyddoedd, ac yn ei haberoedd disglair. Ac y mae'r cerddor yn clywed rhyw gerddor- iaeth yn awn yr afonig fach. Mae ei Gymraeg yn loew, a serch at ei wlad yn angerddol. Hoff ganddo ganeuon Cymru, a hen emynau Pantycelyn ac Ann Griffiths. Fel cerddor, yr wyf yn ei adnabod fwyaf, a hynny ers tua 25 mlynedd. Codwr canu ydyw Mr. Hum- phreys yng nghapel M.C. Garston a gallwn ddweyd yn ddibetrus ei fod yn y rheng flaenaf. Cof da sydd genhym am ei lais treiddgar, gan roi ystyr i'r hen emynau cysegredig. Y mae wedi gwneud gwasanaeth amhrisiadwv i ganiadaeth y cysegr. Da gennym ei lorw gyfarch ar ei waith yn dwyn allan ei gofionbore oes, a diau gennym y bydd yn llyfr diddorol. Gobeithio y rhydd Cymry Lerpwl a'r cyffiniau dderbyniad calonnog iddo.-—EVAN WILLIAKS, Caer. Pawb sydd am wydrau, neu am gael iawn. edrych ei lygaid gan wyr mwyaf cyfarwydd a phrofiadol Lerpwl, ymofynner ag Archer a'i Feibion, 73 Lord Street, Lerpwl. Gwel hys- bysiad, tudal. 1.

[No title]