Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

0 1 Perygl Prydain. i

News
Cite
Share

0 1 Perygl Prydain. i LtYTHYR AGORED-RHIF 4. AT YR AELO DAU C Y M R E I G [GAN MR. BERIAH GWYNFE EVANS]. 1 ANNWYL FROD YK,—" Yr ycly-S yn disgwy mewn goruehwylwyr gael un yn ffyddlon.' Dvna ddywed Hen Lyfr yr arferai rhai ohon- I och ei barchu gynt. Gosodwyd' chwi yn oruchwvhvvrdros fuddiannau Cymru, ac ar eg- wyddorion ma»v Rhyddid. Cenedlaetholdeb. a Rhyddfrydiaeth. Disgwy lid yn naturiol y buasech ffyddlon yn yr oruchwyliaeth bon. -yn ffyddlon i'r egwyddorion a brofteseeh, ac i'r addewidion diamwys a wnaethoch pan etholwyd chwi. Aethoch i mewn i etifedd- iaeth deg, etifeddiaet,h a enillwyd a, dioddef- aint ac a gwaed y tadau. Etifeddasoch hanes disglair a thraddodiadau gogoneddus. Henry Richard a ddeffrodd eich cenedl Tom Ellis a roddodd i'w gwerin a'i dyheadau lais y Blaid Gymreig, o dan arweiniad Osborne Morgan. Stuart Rendel, Alfred Thomas, Bryn- mer Jones, ac Ellis Jones Griffith, yn cael en cvnorthwyo gan ddynion fel vVm. Rathbone. D. A. Thomas, Bryn Roberts, heblaw rhai ohonoch chwi sydd yn aros hyd heddyw yn y Senedd, a ddry Uiodd rhai o rwymau caeth-- lwed Cymni a'i Gwerin. Dyna'r oruchwyl iaeth y disgwylid y buasech chwi yn ffyddlon iddi. A fit pawb ohonoch ffyddlon iddi ? Xa chamddeeller fi. Nid oes neb ar a. wn i amdano yn beio nac yn condemnio dim alnoch am eich zel dros y Rhyfel. Gallaf eich sicr- hau fod Cymru Gyfan mor selog dros y Rhyfel, dros ymrestru yn y Fyddin. dros gario'r Rhyfel ymlaen nes ennill buddugoliaeth lwyr ar y gelyn a heddwch i'r byd am genedlaethau i ddyfod, ie, ac i aberthu pob dim er sicrhau hynny, ag a eill neb ohonoch chwi fod. Nid yw cashati militariaeth yn golygu anheyrnga r- wch. Nid yw teyrngarwch yn monopoly gan y Jingo—er y ceisia efe wneud i'r byd gredu hynny. Nid yr uchaf ei gloch yn canmol y Mesur Gorfod yw'r un a wna bob amser fwva, f i ennill buddugoliaeth i Brydain. Yn y mater hwn, fel ami i fater arall, erys yr hen air yn wir, Mwyaf swn, llestri gweigion," A gweigion yw 11a wer or rhai hyn,-y dynion a r papurau sy'n gweiddi uchaf: gweigion. meddaf, o bopeth. ond gwynt, ac ymffrost, a hunanles. Nid y bobl, na'r papurau, sydd I lieddyllv ir), clochtar fwyaf dros wthio Gorfod aeth Filwrol ar y wlad, yw'r bobl a fyn arosod y telerau caletaf ar y gelyn pan wneir heddweh ag ef wedi yr enillom fuddugoliaeth. Cymer- er un ohonoch chwi eich hunain, y tybir ei fod yn pasiffist eithafol,—Mr. E. T. John. yraelod I dros Ddwyrain Dinbych. Nid oes yn eich I plith chwi oil neb wedi cael cymaint. o: I gon- demnio gan bersonaua chan Ijapurau. ie, yng Nghymru, ag a dybid eu bod yn golomau ¡ Rhyddrydiaeth, ag a gafodd Mr. John. I Cymerer drachefn Mr. Stanton, dilynydd I Henry Richard ym Merthyr, nid oes neb yn J uwch ei gloch ynglyn a, Gorfodaeth nag yw ef. na neb ohonoch (oddigerth Lloyd George) 1 wedi cael cymaint o'i frolio a'i seboni gan y f papurau Toriaidcl a'r papurau ffug.Rydd- I trydol, og a gafodd ef. Eithr pa un o'r ddau hyn, y Pasiffist John neu'r Jingo Stanton, i dybiwch chwi, a wnaeth, ac sydd yn gwheud. ) ac a wna eto tra pery y Rhyfel, fwyaf i ennill buddugoliaeth -t Btydam ? Ped amlygai Adran Mr. Lloyd George gyfrinach y Minister of Munitions oil, gwelai'r byd fod gwasanaeth I ?e?oMo? Mr. E. T. John i achos Prydain, a'r cymortfo a ddyry iddi ennill buddugoliaeth ¡ hvyr arjy gelyn. yn fwy na.g eiddo dwsin o Stantons Pe mynnai Mr. John i'w lef gael eiglywod yn yr heolydd, fel y myn ei feirniaid, gwelai'r byd y camgymeriad dybryd a wna wrth foli'r militariwr a chondemnio'r pasiffist. Oddiwrth ymgomia-ix a gefais gydag ef o dro i dro, ymron er dechreu'r Rhyfel, gvm-y myn- nai Mr. E. T, John osod telerau llawer calet- ach ar y Caiser pan ddaw heddweh, nag yr I hoSai YDa'lY Mail a'r Times a'u fcaddolwyr 'I yn y wiad byth,wneud. Dwfn dwfr tawel" medd yr hen ddihareb. A phe gwypai'r Rhyddfrydwyr arwynebol, yn bersonau a ¡ pha'purau. beth yw gwir ddaliadaai a gwaith Mr. E. T. John ynglyn ?,r Rhyfel, buan yr elai j Jingos uchel eu eloch i'r cysgcd. '?Rh,,g camfarnu ohonoch ef na minnau. gan mai oes fidrv-t,tl\ bus yw hon, dywedaf yma nad wyf n 1 t'-dvehu cyfrinach ynglyn â Mr. John, ¡I nad wyf yn dweyd dim na wyddoch chwi, neu a ddyiech wyhod, amdimo. a'i wasanaeth ac na wyr efe fod yn fy mryd i hysbysu I Cymru o'r ffeithiau hyn. Gwn pe y gwyddai, y gwaharddasai i mi wneud. Dyna pa-ham y I gwnaf heb ofyn iddo). Pa beth a'ch cymhelloed ? Gofynna. eich cyfeillion goreu Pa beth I a'ch cymhellodd i anghofio holl ddysgeidiaeth I eich oes, ac i gefnogi Mesur Gorfodaeth Filwrol i Gymru. Nid oes ond tri ohonoch y medraf gofio ar hyn o bryd a roddodd eglurhad o gwbl ar y dirgelwch. Y cyntaf yw Syr Ifor Herbert. Yr oedd ei gefnogaeth ef yn berffaith onest, chwarae teg iddo. Milwr yw efe wrth ei aJwedigaeth. Mae swn y saethll ar faes y gad mor swynol i'w glustiau ef ag oedd tannau telyn Cymru i'w nain, Gwenynen Gwent yn Llanofer. Mae'n gredwr cryf mewn disgybl- aeth filwrol. I wyr efe ddim am ddaliadau cydwybodol Ymneilltuwyr Cymru. Ei gvvyn ef yn erbyn y Llywodraeth oedd, nid eu bod yn dvyn y Mesur Gorfod i mewn, ond na, fuasai yn gorfodi rhagor ohonom i fod yn filwyr. Mynnai ef ddal pawb a ddiangodd o rwyd Gorfodaeth, ie, hyd yn oed y pysgod ieuainc-v bechgynnos a ddaeth, neu a ddaw eto (ar ol Awst 1915) yn ddeunaw oed. Myn. nai ef ddathlu deunawfed dydd pen blwydd pob bachgen drwy ei orfodi i fod yn filwr. Yr ail yw Syr Herbert Roberts, cadeirvdd y Blaid Gymreig, mab i'r tangnefeddwr John Roberts, o goffAdwriaeth annwyl. Nid am ei fod yn caru Gorfodaeth, medd Syr Herbert, y mae efe yn cefnogi'r Mesur Gorfod, eithr am ei fod yn chwennych diogelu einioes Mr. Asquith fel Prif Weinidog- Casha Syr Herbert Orfodaeth a chas cvfiawn, medd efe. Nid wyf yn sicr a fydd Syr Herbert yn pre- gethu weithiau,—os ydyw, awgrymaf iddo fel testyn pregeth, Rhuf. iii, 8 Gwnawn ddrwg, fel y del daioni." Bydd ei broffes a'i ymarwedd iad felly yn gyson a'i gilvdd. Eithr ni all Syr Herbert fod heb wybod mai Ermwyngyrru Mr. Asquith allan y gwthiwyd y Mesur Gorfod ary Cabinet ac yn y Cabinet. Nid peth newydd yw y syniad am Fesur Gorfod. Hoff gynllun Axglwydd North- cliffe yw ers misoedd la wer. Nid cyfrinach ydyw bellach fod cynllwyn ar droed ers mis- oedd maith i yrru Mr. Asquith allan o'r Cabinet, ac i osod arall yn ei le fel Prif Weinidog. I Bradychu Rhyddfrydiaeth. Mynnai'r Militarwyr a'r Gorfcdwyr symud Mr. Asquith o'r ffordd. Dyna oedd un o'r amcanion mewn golwg pan, trwy ymosodiad oddiallan a brad oddimewn, y diorseddwyd y Weinyddiaeth Ryddfrydol a etholwvd gan y wlad, ac y gosodwyd y Weinyddiaeth Gymysg- ryw brestnnol yn ei He. Ac y mae'r un persona u ag a wnaeth hynny yn pa-rhau i geisio pennau Mr. Asquith, Syr Edward Grey, Arglwydd Kitchener, a Mr. McKenna, yn ogystal ag eraill o'r Cabinet Dad ydynt ufudd i orchmynion Arglwydd Northcliffe. Rhan banfodol o'r bradgynllun hwn oedd gwthio'r Mesur Gorfod ar y Cabinet a thrwy'r Senedd. Dichon mai ffeithiau newydd i lawer yn y wlad a ddarllennant y Llythyr Agored hwn yw'r pethau hyn ac eraill am y sefyllfa yn y Senedd. Ond nid newydd ydynt i chwi, Syr Herbert. Am y Cabinet y myn Syr Herbert eu cadw'n fyw ar draul gwadu egwyddorion oes, ceir. o leiaf, wyth o'r Toriaid mwyaf eithafol, a ant fel rheol bob amser gyda 'i gilydd o blaid egwyddorion hanfodol Toriaeth. Nid cyfrin- ach yw fod Mr. Asquith ei hun wedi ymladd yn y Cabinet yn erbyn Gorfodaeth, a chydag ef yr oedd Mr. McKenna (yr hwn sydd gyfrifol amgyllid ydeyrnas) a Mr. Runciman (yrhwn sydd gyfrifol am fasnach y deyrnas), a Syr John Simon, yr Ysgrifennydd Cartrefol. Iddynt hwy., yn bennaf, y rhaid diolch fod y Mesur Gorfod mor gyfyngedig ag ydyw. Eithr na thybied neb y bodlona ArgIwydd Northcliffe,a'i gynghreiriaid yn y Cabinet; ar y mesur cyfyngedig presennol. Gwthio eto ymhellach a wnant. Wedi cael troedfedd, mynnant, os medrant, ga-el 11athen gyfan. Yr unig ddiogelwch fuasai gwrt.hod rhoi modfedd iddynt. Nid yw'r dydd ymhell, Syr Herbert, pan elwir ar Ryddfrydiaeth ac Ymneilltuaeth Prydain i dalu'n ddrud am ddechreu ildio i ofynion haerllug Arglwydd Northcliffe a'i giwed. Y Mwyafrif yn y Senedd. Gwn y gwna pleidwyr y Mesnr lawer o faint y mwyafrif o blaid y Mesur yn ¡"¡Îly'r Cyffifcdin. Nid wyf am fychanu maint y mwyafrif hwnnw Nid trwy anwybyddu perygl y mae ei osgoi. Ond dylid edrych ar rywbeth heblaw nifer pleidwyr y Mesur Gorfod. Dylid edrych pwy oedd y pleidwyr. Cyn codi helynt Gorfodaeth rhifo i cefnogwyr y Weinyddiaeth Ryddfrydol yn y Senedd 383. Pan rannwyd y Tv ar ail ddarlleniad Mesur Gorfod, pa nifer o'r 383 hyn bleidleisiodd drosto ? Dim ond 184. I Gwnaed gweddill y "mwyafrif gorlethol i fyny o Doriaid, y rhai.pe medrent.a fynnent I ormesu eto fel cynt ar holl werin y wlad. Mr. Fills Jones Griffith a'i I gydwybod, I Y trydydd ohonoch sydd wedi gwneud ei safbwynt yn hollol glir ar gwestiwn Gorfod- aeth yw rhagflaenydd Syr Herbert yn y god. air, Mr. Ellis Jones-Griffith. Mae Haw-er wedi beirnia,du yr aelod dros Sir Fon. Ond rhaid cvdnabod ei fod ef, yn dra gwahanol i Syr Herbert, ac ami un arall o'r Aelodau Cymreig, yn hollol gyson ag ef ei hun. Nid yw Mr. Ellis Jones Griffith erioed wedi ceisio celu ei j grediniaeth mewn militariaeth. Yr oedd vn ddwfn yng nghyfrinach Arglwydd Rosebery a Mr. Asquith adeg Rhyfel De Affrica, ac yr oeddynt hwy, fel y *vr pawb, mor selog dros j y Rhyfel hwnnw ag ydoedd Mr. Chamberlain I ei hun. Ymherodraethwr fu Mr. Ellis J. I Griffith erioed. Os wyf y-i cofio yn iawn ynglyn a mater Rhyfel De Affrica yr aeth y j aelod dros Sir Fon gynta,f yn gyhoeddus yn groes ei farn i Mr. Lloyd George. Ond—a gresvn y ..haid dwyn yr ond i fewn—mell- tithiodd Mr. Ellis Jones Griffith ei afehos drwv i ddwvd fel rheswm dros ei ymlyniad wrth Orfodaeth nad oedd yn malio dim am. dri ddodiadau ei Blaid." Sicr gennyf mai yn ei ffrwst, ac heb ystyried, y dywedodd hyn. Canys ymffrostiai gynt yn nhraddodiadau ei Blaid Egwyddorion mewn gwaith yw tra- ddodiadau Rhyddfrydiaeth. Ymhlith y tra- ddodiadau hyn ceir Rhyddid Gwerin, Cyfyngu I breintiauy Fasnaeh Feddwol, Diwygio Deddf- au'rTir, a'r cvffelyb. A fy-i yr fiolod dros Fori j i ni gredu nad yw mwyach yn malio dim. am I y pethau hyn ? I draddodiadau'r Blaid y mae'nddyledus am ei sedd yn y Senedd. Na Ellis J. Amhosibl i chwi anghofio tra- j ddodiadau eich plaid ) Yr Athrodwr Dienw. I Eithr pa beth 8. ddywecUr am yr athl'odwr I dienw yn eich plith ? Y gwr yn eich mysg, yr hwn, o dan gochl ffugenw, a ysgrifenna wythnos ar ol wythnos i'r Wasg Seisnig fwyaf Jingoaidd, gan ddylorni uid yn unig ei gyd- aelodau, ond hefyd weithwyr Cymru Darlunia yr olaf "yn ffoi yn finteioedd íei, cwningod ofnua o siroedd amaethyddol Cymru i'r glofeydd, rhag cael eu galw i'r Fyddin o dan gynllun Arglwydd Derby. Gwvddai mai celwydd noeth ac athrod di- gywitydd ar weitbwyr Cymru, oedd yr haeriad Dangoswyd hynny iddo drwy ffeithiau diym- wad a ffigyrau y gwahoddid ef i'w profi. Eto ni wnaeth ymddiheurad. Yn lie hynny, gwnaeth ymosodiad bustlaidd ar Mr. Llewelyn Williams, I un o'r ychydig iawn yn eich plith a lynodd wrth ei egwyddorion, a'r unig un ohonoch, hyd v gwn, heb law Mr. E. T. John, a aeth i ymresymu wyneb yn wyneb a'r Gymdeithas Ryddfrydol a'i hetholodd ef i'r Senedd. Mynnai'r aelod dienw i'w wlad gredu fod Llewelyn Williams wedi cael ei chwipio gan ei etholwyr ei hun yng Nghaerfyrddin a Llanelli a darfod iddynt wahardd iddo bleidleisio mwy yn erbyn y Llywodraeth. Lledaenwyd yr ystori anwireddus drwy holl bapurau dyddiol Lloegr, a chodwyd yr hanes i'r papurau Cymraeg. Ond wele, anwiredd ydoedd Y gwir yw, ddarfod i Llewelyn Williams wynebu ei bwyllgor yng Nghaerfyrddin ac yn Llanelli, ac wedi ymresymu ohono a hwynt am yn agos i ddwy awr o amser, argyhoeddodd lawer o'r Jingos, cadarnhaodd ffydd yr am- heus, ad eiladodd ar dir sicr y sawl oedd yn wan eu ffydd neu yneloffirhwngdaufeddwi. Drwy hyn gwnaeth ddau wasanaeth pwysig 1. Dangosodd fod angen goleuo'r wlad, a'i bod yn barod pan gaffai oleuni i rodio'r llwybr union. 2. Dangosodd nad oes gan Aelod Seneddol ddim i'w ofni wrth fod yn onest. Nid gormod dweyd na wnaeth Lloyd George erioed wrhydri gwrell pan yn wynebu etholwyr Cymru nag a wnaeth Llewelyn Williams yng Nghaerfyrddin a Llanelli pan yn wynebn ac yn trechu ysbryd drwg Gorfodaeth. Paham, na wnowch chwithau oil yr un modd ? Gwn, pedewisech hynny, y caffaiaml un ohonoch ei Gymdeithas Ryddfrydol, fel efe ei hun, yn ddigon parod i aberthu egwyddorion oes er mwyn cefnogi'r Llywodraeth. Gwn hefyd pe gwnaech chwi, fel y gwnaeth E. T. John a Llewelyn Williams, fagu gwrolddeb i wynebu eich etholwyr, ac ymresymu a. hwynt, fel y gwnaeth Lloyd George adeg Rhyfel De Affrica -y llwyddeeh chwi, fel y gwnaeth yntau, i'w perswadio fod y dyn a safo at ei egwyddorion yn ddyn y dylid ei barchu a' i gefnogi. Collasoch gyfie nodedig i ddyrchafu ethol- aethau Cymru yng ngwydd y byd, fel rhai y mae eu hegwyddorion yn sylfaenetlig ar y graig. ac na chymerant eu troi gan bob awel dysgeidiaeth a chwyth o fryn Toriaeth. I Paham yr Ofnwch ? Paham yr ofnwch sefyll dros y gwir ? Canys y gwir a saif, ie, yn erbyn y yd I Ai ofni yrjoeddech gael eich galw'n Pro-Germans ? Oni ddifenwyd Lloyd George yn Pro-Boer- a chyda llawer mwy o achos nag a roddec-h chwi drwy wrthwynebu Gorfodaeth ? Gel- wir rhai ohonoch vn Little Navyites, gan anghofio o'ch cyhuddwyr mai Mr. Lloyd George, yr hwn a addolir gan hob Gorfodwr heddyw, yw y Little Navyite ainlyeaf yn eich plith. Peth cyfleus iawn yn y bydpoliticaidd yw cof byr. Ddwy flynedd i'r His yma, onit.e, y gwiiaeth Mr. Lloyd George ei araith Little Navy hanesyddol ? Nid oes yr un ohonoch a aeth nac a a mor bell i gyfeiriad y Little Navy ag a aeth efe. Y mae gennyf amryw bethau eraill y dy- munwn eich sylw ystyriol iddynt ynglyn a'r Fyddin yr addewidion a wnaed i feehgyn Cymru ac a dorrwyd yr vmgais systematic a wnaed, ac a wneir eto, i Seisnigeiddio ac i Philisteiddio Byddin Cvmru y ffeithiau cywilyddus ynglyn a chaplaniaeth Byddin Cymru; y modd gwarthus yr ym.ddygir at Hhvyr Cymru mewn ysbytai yn Lloegr pan geisiant. am wasanaeth gweinidog o Gymro. A oes yr un ohonoch, oddigerth y Mri. Ellis Davies ac E. T. John, wedi rhoi hanner awr o'ch amser i ystyried a cheisio symud achos y cwynion hyn ? Nodaf hwynt yr wythnos nesaf pan yn ysgrifennu at Arglwydd Kitchener.—Yr eiddoch yn gywir, BERIAH GWYNFE EVANS. O.Y. Ysgrifenna amryw ohebwvr ataf i ofyn cyngor ynghylch beth oreu i feehgyn ieuainc Cymru, perthynasau neu gydnabod i'm gohebwyr, i'w wneud, yn wyneb y ffaith fod y Mesur Gorfod yn ddeddf. Atebais lu ohonynt yn gyfrinachol. Dywedaf yma yru.n I peth wrth &a?6 o'r cyfryw. Y peth goreu yw i bob bachgen o fewn yr oed milwrol c?'?o yn ddioed. Gall wedi hynny?osmyn. apelio I am gael rhyddhad neu oediad.

Advertising