Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
37 articles on this Page
MARW'N HEN. ,I
MARW'N HEN. I Yr wythnos ddiweddaf, bu farw Mrs l Bridget Skelly, Monasterboiee, Co. Louth, I yn 110 mlwydd oed.
Y BARDD FILWR. I
Y BARDD FILWR. I Dydd Llun, hwyliodd y bardd hyglod Mr Alfred Noyes, o Efrog Newydd am Loegr i gymeryd i fyny wasanaeth filwrol.
DIGON 0 DDOCWYR. I
DIGON 0 DDOCWYR. I Yn ol y "Dockers' Record," dywedir fod I yna ddigon a thros ben o ddynion yn I cynnyg eu hunain i waith.
DISGYNIAD YN Y GWENITH.I
DISGYNIAD YN Y GWENITH. I Dydd lau, yn Driffield, vr oedd gwenith melino goreu Lloegr wedi disgyn 2s ar yr wythnos, a gwerthwyd ef am 56s y chwar- ter.
RHoon DEILWNG.I
RHoon DEILWNG. I Hysbysir fod Mr Joseph Duveen wedi rhoddi i Arglwydd a Lady Esher y swm o 10,000p at gynorthwyo Tiriogaethwyr Clwyfedig dinas Llundain.
MARW UN 0 -V.C.'s -DE -AFFRIG.…
MARW UN 0 V.C.'s DE AFFRIG. Adroddir fod y Milwriad C. Herbert I Mull ins, V.C., wedi marw yr wythnos ddi- weddaf. Cafodd ei V.C. am wroldeb yn Rhyfel De Affrig.
-MARW -ARCHESGOB PEACOCKE.…
MARW ARCHESGOB PEACOCKE. Dydd Gwener, yn ei anedd yn Black- rock, County Dublin, bu farw yr Arch- esgob Peacocke, yn 81 mlwydd oed. Gan- wyd ef xn Queen's County, yn fab i feddyg o Langford.
GWRTHOO CAIS Y MERCHED. I
GWRTHOO CAIS Y MERCHED. Yr wythnos ddiweddaf gwrthododd Pwyllgor Heddlu Maneeinion gymeryd un- hyw gamrau yn ol cais Undeb Cenedl- aetliol Cymdeithasau y Merched i gael ychwaneg o ferched yn yr heddlu.
YSTAD MR DAVID EDWARDS.
YSTAD MR DAVID EDWARDS. Gadawodd Mr David Edwards, Y.H., Nottingham, ystad gwerth 4,443p. Brodor o Fetliel, Arfon, ydoedd y diweddar Mr Edwards, ac wedi dl-ingo i safle a dylan- wad,neilltuol.
' ,SYR ROGER CASEMENT.
SYR ROGER CASEMENT. Dydd lau diweddaf pasiodd yr Uchel- reithwyr fod achos y cyhuddiad o deyrn- fradwriaeth yn un gwir yn erbyn Syr Roger Casement a'r milwr Bailey. Cymer y prawf le Mehefin 26ain.
.MWNWYR A PHENSIWN YR HEN…
MWNWYR A PHENSIWN YR HEN BOBL. Mae Pwyllgor Gweithiol Cyngrair y Mwnwyr wedi gofyn am gael trafodaeth ychwanegol ar gwestiwn pensiwn yr Hen BobI, gan fod cryn anesmwythyd yn ei gylch.
wy. IAR GWERTH £3 15s 3c I
wy. IAR GWERTH £3 15s 3c Dydd Mercher diweddaf, cynhaliwyd ar- werthiant er budd y Groes Goch ym mhen. tref Bethel, Sir Fon, a sylweddolwyd dros llOp ynddi, Yn fuan cyn amser dechreu yr arwerthiant darfu i iar ddodwy yn y lie, ac ar ol ei werthu a'i ail werthu, syl- weddolwyd o'r diwedd 3p 15s 3c oddiwrtho.
BWYD GERMANI. )
BWYD GERMANI. ) Mynegir y bydd cynhaeaf y wlad nid yn tlnj" 3m rhoddi v unig yn rhoddi y 400,000 tunnell adgadw- ol angenrheidiol, ond y eeir 102,000 tun- nell yn rhagor dros ben, y rhai a ddef- nyddir yn ddioed i ychwanegu at fara beunyddiol y rhai yr oedd bara yn brif fwyd iddynt.
ARIAN GWOBRWY. I
ARIAN GWOBRWY. Dywedodd Due Devonshire mai polisi v Morlys ydoedd rhanu yr Arian Gwobrwy Llyngesol mor deg ag sy'n bosibl. Y cyf answm mewn Haw gan y Paymaster General Mai lOfed ydoedd 4,420,372p. Yr oedd yna ychwaneg mewn Haw gan lysoedd India a Threfedigaethol. i
PLE AM HEDDWCH. I
PLE AM HEDDWCH. I Hysbysir o Washington fod Senator Lewis, yr arweinydd democrataidd yn y Senedd wedi dwevd ei fod am gynnyg pen- derfyniad yn awgrymu fod yr ArJywydd .Wilson yn gofyn am gadoediad, tra byddo hwrdd cymod, yn cael ei wneud i fvnv o ^vnrychiolvdd i bob cenedl oedd yn ym- Jadd,' ynghyda chynrychiolydd o'r Unol Daleithiau yn ceisio ffurfio telerau hedd- Jivc-h..
Y RHYFEL YN DWEYD ARI YSPAEN.
Y RHYFEL YN DWEYD AR I YSPAEN. Ysgrifena Senor Luis Olariaga yn yr I "Iniparcial," Madrid, fod pohl Yspaen wedi caol eu taro'n ddifriiol gan y rhyfel, y rhan drymaf fel prynwyr a defnyddwyr, ac yn rhanol fel cynyrchwyr. Cymer 14 o diriogaethau, a dengys nad oes ond rhan o Asturias, a rhan o Catalonia, a rlwn o Biscay* wedi teimlo effaith er gwell. Mae pob rhan arall wedi dioddef yn ddifrifol..
GWEITHWYR -NORWAY. I
GWEITHWYR NORWAY. I Mae cyflogwyr y gweithwyr yn Chris. tiania wedi datgan cload allan y gweith- wyr. Bydd yn effeithio ar 77,000 ohonynt. Mae'r Llywodra-eth wedi bod yn trafod y sefyllfa.
ESGUSAWD DDONIOL. I
ESGUSAWD DDONIOL. I Pan gyhuddwyd dyn ieuanc eengl ym Maneeinion o beidio rhoddi ei hunan i fyny dan Ddeddf Gwasanaeth Filwrol, dywed- odd fel esgusawd ei fod yn y carc-har pan alwyd ei "group" i fyny.
CARCHARU GWRTHWYNEBWYR I CYDWYBODOL.__
CARCHARU GWRTHWYNEBWYR I CYDWYBODOL. Fel canlyniad i Lys Milwrol yn Derby, rhoddwyd 56 niwrnod o garohar i saith o wrthwynebwyr cydwybodol o Long Eaton ac Ilkeston, y rhai withodasant ufuddhau i'r gorchymynion.
00LYGWYR LLAFUROL MEWNI CYNHADLEDD.
00LYGWYR LLAFUROL MEWN I CYNHADLEDD. Cynhaliwyd cynhadledd o olygwyr new- yddiadurol rhyngwladwriaethol Llafurol America yn Cincinatti yr wythnos ddi- weddaf. Deallir mai hon ydyw yr un fwyaf o'i bath gynhaliwyd erioed i drafod materion llafurol.
IHAWLIA'R GYDWYBOD. I
HAWLIA'R GYDWYBOD. I Anfonodd Cyngor Cenedlaethol yr Eg- Iwysi Rhyddion lythyr at y Prif Weinidog yn gofyn am i apelwyr ar dir cydwybod gael chwareu teg. Ai-wyddwyd gan y Parchn J. H. Shakespeare (Llywydd), F. B. Meyer, a J. Scott Lidgett (ysgrifenwyr mygedol).
I TRAUL HYSBYSU CYNILDEB.I
TRAUL HYSBYSU CYNILDEB. Dywedodd Mr M'Kenna fod 233p 13s wedi cael eu gwario am argraffu hysbysleni yn ymwneud a chynildeb, ac fod eost,au eu rhoddi i fyny yn 105p, yr oil yn gwneud 338p 18s. Ni chostiodd y lie i'w dodi yr un ddimai gan fod y dineswyr gwladgarol yn rhoddi v He yn rhad. I
AWGRYMI AD HYNOD.
AWGRYMI AD HYNOD. Yng Nghyngor Trefol Glasgow, cynnyg. iodd un o'r aelodau Llafur fod pwyllgor arbennig yn cael ei godi i ediych i mewn i'r priodoldeb o gael un neu ddau o leoedd He y cawsai y dbieswyr eu cyflenwi gyda bwyd pur wedi ei goginio yn barod at was- anaeth gartref, a hynny am brisiau rhe-'j Bymol.
ICURRO'R CANCR.
I CURRO'R CANCR. Dywedodd Dr Robert Bell na welodd eto achos i lawfeddygiaeth allu tynu y cancr yn llwyr, drwy fynd yn ol i natur yn unig y mae gwella 1. caner. Drwy fwyta'n f briodol a chyfaddasn meddyginiaeth y gellir dinistrio'r gell a lladd yr afiechyd. Mae liynny wedi ei brofi lawer gwaith yn yr vsbyty.
!YMGYRCH WLEIDYDDOL.I
YMGYRCH WLEIDYDDOL. Dywedir fod yna fwriad ar droed yn ystod Gwyliau'r Sulgwyn i aelodau'r Weinyddiaeth, yn cynnwys Mr Asquith a Mr Bonar Law, i fynd amgylch y wlad i draddodi anerchiadau i oleuo'r cyhoedd ar ddigwyddiadau'r dydd, ac yn amddiffyn y Llvwodraeth ar ei gwaith gyda'r rhyfel.
|SIWGWR 0 JAMAICA.I
SIWGWR 0 JAMAICA. Dywedir fod cynyrchwyr siwgwr I Jamaica wedi cychwyn mudiad gyda'r bwriad o sicrhau fod Lloegr yn cael y Hacnoriaeth gyda siwgwr yr India Orllew- inol. AiiietnL--yfi-iiii- fod Jamaica yn alluoy; i diosfoiio 100,000 o dunnelli yn flvnyddol. Alae pwyllgor dylanwadol wedi i apwyntio i ddelio gyda'r mater.
j RHWYSTRO NEWYDDIADURON.…
RHWYSTRO NEWYDDIADURON. 1 Mae y rhifyn diweddaf o'r "Nation Tcheque," gyhoeddir yn Paris, yn datgan fod Llvwodraeth Awstria yn ddiweddar wedi gorchymyn atal cyfres o newyddiad- uron Czech oblegid iddynt. wrthod cy- hoeddi eithyglau roddwyd gan y Press Bureau yn Vienna. Mae newyddiaduron Radicalaidd, Sosialaidd, Catholicidd, ac ei-aill yn dod dan y gorchymyn hwn. {
CYFLOG ARGLWYDD KITCHENER.__I
CYFLOG ARGLWYDD KITCHENER. I Hysbysir y bydd trajjadaeth ddydd Mer- cher yn y Senedd ar gyflog Arglwydd Kit chener fel Ysgrifennydd Rhyfel, ac y cyn- nygir ei ostwng Y rhai enwir i gymeryd ochr feirniadol arno ydyntMr Churchill, Syr A. Markham^ Syr Ivor Herbert, a Mr Ellis Griffith. Sibrydir fod Arglwvdd Kitchener yn bwriadu cymeryd taith i'r Cyfandir yn fuan j ymweled a'r byddin- oedd Cyngreiiiol.
IMARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. Caernarfon, Mai 27.- Y mcnyn, Is 2c y pwys; wyau, 10 i 11 am Is; ffowIs, 4s 6c i 5s 6c y cwpl; pytatws, 6s yr 112 pwys. Pwllheli. Mai 24.-Ymenyn, Is; wyau, 10s yr 120; biff, 10c i Is 3c; pore, Is i Is 4c; my ton, lie i Is 4c; perchyl], 35 s i 40s; I mocli tewion, 8c y pwys. I
ACHOS TRIST 0 FON.I
ACHOS TRIST 0 FON. » I CYHUDDO TAD 0 SAETHU Ell FAB. El DAFLU I'R FRAWDLYS. Dydd Ian, yn heddlys Caergybi, dygwyd John Elias, amaethwr, 78 mlwydd oed, o Tyddyn Bach, Llanfaethlu, gerbron ar y cyhuddiad o fod wedi lladd yn wirfoddcl ei fab, John Elias, 46 mlwydd oed, yr hwn a, drigai gydag ef, ar ddydd Sadwrn, y 13eg cyfisol; drwy ei saethu gyda gwn. Ymddangosai Mr Thornton Jones, Bangor, dros yr heddlu, a Mr Gordon Roberts, Caergybi, dros y cyhuddedig. Dywedodd Hugh Owen, Tvnrhos, Llan- faethlu, llythyrgludydd, 11 a welodd y mab yn cario gwn erioed, ond y gwelodd y cy- huddedig gydag un yn amI. Rhoddwyd yr un dystiolaeth gan Ed- ward Owen, Tyddynywaen, Llanfaethlu, a'i fod yn bresennol pan ganfyddwyd y corff. Yn ateb iddo dywedodd y cyhudd- edig i'w fab gael ei saethu yn ddamweiniol, pryd yr atebodd y tyst: "Dim cythraul o beryg; chwi saethodd ef." Gwadai y ey- huddedig. Dywedodd Gwilym Owen, cashier cangen y London City and Midland Bank, i'r cy- huddedig alw gydag ef ar y lOfed neu yr 11 eg cyfisol yn gofyn faint oedd ganddo yn ei gyfrif, fod rhywun wedi cymeryd agor- iad y bocs yn cynnwys ei lyfr, yr hwn hefyd oedd ar goll. Yr hyn oedd yn weddill jdoedd 20p. Dywedodd Cathevine Pierce, Abergele, fod y cyhuddedig e-isiau iddi hi a'i fab briodi, gan -no, fyddai efe yno yn hir. Diwraod wedi y gyflafan derbyniodd bell, ebr oddivvrth y cyhuddedig, "Mac fy mab wedi marw, felly nid oes eich angen yn awr." Cafwyd tystiolaethau gan Preifat Owen Hughes, Ann Jones, Tanrallt, yr Heddwas Francis, ac amryw eraill. Dywedodd yr Arolygydd Prothero iddo ofyn i'r cyhudd- edig ar ddydd y gyflafan a oedd ganddo "cartridges" yn ei logell, a dangosodd bump, y rhai oeddynt yr un peth a'r un oedd yn y gwn. Pan gymerwyd ef i'r ddalfa yr oedd ganddo ellyn a phethau eraill arno. Nid oedd angen ellyn ar y cyhuddedig. Darllenodd y tyst nqdyn ganfyddwyd ganddo yn y ty yn llawysgrif y trancedig, o'r hwn y mac a ganlyn yn rhn :Pan ddaeth Catharine Pierce gyntaf yma i aros yr oedd fy nhad mor benderfynol a dieflig, fel y ceisiodd werthu ei stoc i'r pwrpas o'i chadw hi i ffwixld." Ail-adrodd Mary Jane Williams y stori o'r cyffesiad honedig wnaed gan y cy- huddedig iddo saethu ei fab. Gwnaeth Mr Gordon Roberts, fel am- ddiffvniad, syhv o'r ffaith fod rheithwyr v crwner, wedi ehwe awr o ymchwiliad, wedi canfod uad oedd ddigon o dystiolaeth i brofi sut y gwnaed yr hyn fu'n achos o'r farwolaeth. Pan y cyhuddwyd ef yn ffurfiol, ateb- odd: "Nid wyf yn gwyboii, dim am dano, ond yr hyn a ddywetlais." Ar ol gwrando yr achos am naw awr, cyflwynwyd y cyhuddedig i sefyll ei brawf ym Mrawdlys nesaf Mon. -♦♦♦"
CYFARFOD YSGOL M.C. CAERNARFON.
CYFARFOD YSGOL M.C. CAER- NARFON. Cynhaliwyd yr uchod yn Castle Square ddydd SuI, dan lywyddiaeth Mr R. W. Ellis, Llanrug. Dechreuwyd cyfarfod y cvni-ychiolwyr gan Mr John Thomas, Llanrug.—Enwyd y Parchn R. Thomas, B.A., Bontnewydd; James Jones, Croesv- waen; a D. J. Lewis, B.A., Waenfawr, i fod yn arholwr; Mri R. 0. Williams, Llan. rug, a, John Owen, Siloli, yn drysorydd; Mri A. J. Williams, Glanymor; Hugh Jonfes, Engedi; ac R. Lloyd Jones, Beulah, yn ai-weinvdd cerddorol y Gymanfa.—Pen- dei-fynwyd .Gael llais yr ysgolion ar y priodoldeb o newid dyddiad y Gymanfa o ddydd lau i ddydd Sadwrn. Oherwydd llesgedd iechyd, cyflwynodd Mr W. T. Williams (ysgrifennydd) ei ymddiswydd- iad; penderfynwyd gohirio hyn hyd y Cyfarfod Ysgol nesaf, gan hyderu y bydd i iechyd Mr Williams gryfhau yn y cyf- amser.—Dechreuwyd y cyfarfod cyhoeddus gan Mr T. Rees. Mater: "Hanes cyfiii- soddiad yr Hen Destanient. Cafwvd agoriad rhagorol gan y Prif Athro E. P. Evans, B.A.. a chaed sylwadan pellaeh gan Capten R, Jones, Mr G. T. Griffith, Pontrhythallt: a'r Parch R. T. Williams, B.A.
CAN .YR EOS.
CAN YR EOS. Mae'r eos i'w ohlywed ger Clatter, pen- tref ger y Drefnewydd, ac ymgynhulla torf favvr bob nos i'r lie i'w chlywed. Darfu iddi dalu ymvreliad a Sir Drefaldwyn y Ilyncdd hefyd. sef ynghyrt) vdogaeth Hoch- dre.
Advertising
11anet s opular Cafe. I BRIDGE STREET, CARNARVON Y LLE MWYAF CYFLEUS A CHYSURUS AM BRYD 0 FWYD GWI RIONEDDOL DDA. Tyrfa Fawr 0 Gefnogwyr, a phob un a gair uchel am y lie. t Defnyddir y Te Byd.Enwog Gold Medal yn unig. Pob Math o Ddanteithion Uwch. raddol am Brisiau Cymedrol. PERCHENOGION I I LAKE & Co., Ltd., Carnarvon. |
CYMANFA PLANT LLAN-L-__._.…
CYMANFA PLANT LLAN- L- LL'  Yn Salem y cynhaliwyd y Gymanfa I ddydd Sadwm, Mai 27ain. Am ddau or gloch llywyddwyd gan Mr R. J. Roberts, Salem, a Mr J. R. Roberts, Penchwarel, yn arweinydd. Dechreuwyd gan y Parch 0. H. Davies, B.A. A ganlyn ydyw Bafle y plant: Dosbarth y Wyddor.—Dosbarth cyntaf: Catherine Eurwea Jones, Meredvdd Philip Jones, Maggie Jones, Megan Dulyn Hughes, Nebo; Maggie Mary Jones, Pen- chwarel; Helena Williams, William John Williams, Griffith Hughes. Gwilym Ro- berts. Ceinwen Williams, Richard Arfon Jones, Jane Griffith, Salem; Jane Wyn Williams, Ceinwen Morris, Eiriona, Mair Jones, Saron. Yi- ail ddosbarth: Janet M. Rowlands, Robert A. Hughes, Nebo I Catherine W. Hughes, Eirlys Lloyd, Salem; Annie Mary Morris, Bj-ynaeran Laura Pugh Jones, Bobbie Owen. Saron; Henry Roberts, Ellis Eifion. Dosbarth Rhagbarotoawl. Dosbarth cyntaf: Robert E. Roberts, Olwen Ro- berts, Willie Hughes, Robert A. Jones, Nebo; Gwenfair Williams, Maggie Nebo; Gwenfair Williams, Salem; Maggie Jones, Bethel Ail ddosbarth: Mair K Jones, Nebo; Morfudd Morris, Gwyneth Thomas, Salcm; M. Olwen Evans, Mabel Williams, Saron; Jennie Williams, Nell Jones, Bethel. Trydydd dosbarth: Florie Hughes, Griffith R. Jones, Katie Roberts, Wm. Ll. Jones, Nebo; Lliwen Morris, Pen- chwarel; Myfanwy Owens, Mary E. Ro- berts, Bethel; W. Morgan Owen, J .Henry Williams, Saron. Safon I.—Mary E. Jones, Xebo; Bessie Owen, S'aron; Annie Roberts, Mabel Wil- liams, Bethel; Marian Williams, Salem; Lydia Roberts, Brynaerau Katie Roberts, Nebo; Megan E. Jones, Saron; Math. V. Evans, Brynaerau; Mary G. Williams, Saron; Kate E. Jones, Henry Hughes, Nebo; Gwladys Jones, J. Lloyd Evans, Ellis Roberts, Megan Evans, Bethel; Ceiidwen Roberts, Nebo. Safon II.-I, Glenys Roberts, Salem; 2, Alwyn Morris, eto; Gwilym E. Williams, Bethel; 3, J. Aled Owen, Salem; Willie Griffith, Brynaerau; 4. Tommy Roberts, PenchwaieL; 5, Dilys Jones, Salem; Jen- nie M. Lewis, Brynaerau; 6, Harriet Thomas, Salem; Jennie Jones, Bethel; 7, T. Wyn Williams, Saron; 8, Gwyrifab Ro- berts, Salem; Ma.ir G. Jones, Brynaerau; m. T. Griffith Bethel; W. Goronwy" Griffith, eto; ^Robert Owen. Saron; Cassey Jones, Bethel; Matty Williams] Jane Williams, Eluned Williams, Salem; Griffith Roberts, Penchwarel: Mary K. Williams, Everett Jones, Brynaerau; R. Glyn Williams, John R. Pritehard, Saron. Safon III .-Do,,sbai,tli (-"iitif: Emvr R. Morris, Eric Owen, O. Alwyn Williams, Olwen M. Williams, Megan M. Owen, Salem; Maggie Williams, Annie J. NVil- liams, Saron; Matilda Jones, Mary Jones, Nebo; H. E. Jones, Katie M. Jones, R. John Roberts, Annio Ll. Jones, Bethel. Ail ddosbarth: Katie A. Williams, Salem; Ceinwen M. Williams, Saron Katie Jonea. Nebo; Lizzie M. Williams, Penchwarel. Trydydd dosbarth: Phoebe Roberts, Bessie Rowlands. Mary E. Roberts, Salem; Llew. William.'?, Gwilym OweB, Saron; Eleanor Jones, John O. Thomas, Nebo; Annie Jones, Thomas O. Williams, Annie M. Thomas, Owen E. Griffith, Bethel. Safon IV. John Jones, Brynaerau; Lodwig Rowlands, Salem; Katie Thomas, Bessie Evans, Bethel; Llew. Roberts, Brynaerau; D. Griffith, Gwladys WTilliams, Salem; Morgan L. Williams, Saron. Safon V. Laura Pritehard, Nebo; Meinwen JOUPS, Salem Josuah Williams, Brynaerau; John Roberts, Penchwarel. Safon VI.-l, R. J. Roberts, Salem; 2, M. E. JoMs, Katie Jones, Bethel; J. Parry Powell, Besie Roberts, Saron; Mag- gie Roberts, Nebo. Safon Vil.-I, Owen Thomas, Salem; 2 ,M. E. Williams, eto; Maggie Roberts, Penchwarel; 3, Dilys Jones, Brynaerau 4, Annie Roberts, Brynaerau; 5, Ellen Roberts, Saron. Safon VII 1.-1, Eluned Roberts, Bryn- aerau 2, Sydney Evans, Penchwarel; Sydney Jones, Brynaerau; 3, Maggie Jones, eto; 4, Johnnie Thomas, Salem. Safon IX.-l, O. J. Williams, Brynaer- au; 2, O. Wyn Owen, Salem; 3, G. E. Jones Brynaerau; 4, Jane M. Jones, Nebo. Arholiadau Ysgrifenedig.—Dan 17 oed: 1, Mary Jones, Brynaerau; 2, Nesta Wil- liams, Salem; 3, O. Llew. Rowlands, Salem; 4, Nell Griffith, Bethel. Dan 21 oed: 1, Laura J. Griffith, Nebo; 2, Nell Jones, Salem; 3, Gwladys Williams, Salem. Dan 35 oed: 1. Annie Jones, Bethel, ac Euronwy Roberts, Salem; 2. Maggie Owen, Bethel, ac Annie Williams, Salem. Cystadleuaethau Cerddorol.-Unowd, dan 10 oed: 1, Mary Jones ac Annie Roberts, Bethel. Dan 16 oed: 1, Jennie Rlod^en- Saron; 2, Myfi Griffith, Bethel, ac Annie 0. Thomas, Salem; 3, Nell Griffith, Bryn. aerau. Deuawd, dan 18 oed: 1, N'efl Grif- i fiths a'i chyfeilles ac Annie K. Jones a'i chyfeilles 2, Jennie P. Parry a'i chyfeilles Llywyddwyd cyfarfod yr hwyr gan Mr T. W. Williams, arweiniwyd gan Mr T. H. Griffith, Nebo. Beirniaid yr arholiadau ysgrifenedig oeddynt—Parchn T. Lloyd, Capel Coch, Llanberis, a Caleb Williams, B.A., Bwlan. Y Wyddor: Mri J. G. Jones, Penchwarel, ac R. Williams, Nebo. Safon I.: Mri Pryce G. Williams, Saron. a Samuel Williams, Brynaerau. Safon II.: Mri Ellis R. Griffith, Salem, a. Hugh M. Jones, Bethel. Safon III.: Mri Roland Jones, Bethel, a J. P. Thomas, Nebo. Beirniad cerddorol: Mr J. W. Griffith, G. and L.T.S.C.. Bethel; arweinydd y canu, Mr Evan E. Morris, Llanllyfni; yfeilwyr, Miss Myfi B. Pritehard, Salem, a Mr Amwei W. Owen, Salem. Yr ysgrif- I ennydd canolog i'r pwyllgor ydoedd Mr j AY. Henry Williams; trysorydd, Mr Hugh Thomas, Salem; a Mr Tudor Roberts, Salem, yn ysgrifennydd. Talwyd y diolch- iadau gan Mri Griffith R. Williams, Saron, ac H. M. Jones, Bethel. Dangos- wyd cydymdeimlad a Mrs Jane Ann Wil- liams trwy i'r gynalleidfa godi ar eu traed. Cafwyd canu rhagorol o'r dechreu i'r diwedd, a'r plant wrth eu bodd. ■<»►
I- _-__-_DOLGELLAU,
DOLGELLAU, Adref yn Wael. Mae vr Isgapten Edward Roberts, Llefenni House, adref yn wael o Ffrainc. Hefyd Preifat Wynne Williams, y mae yntau ad ref yn ceisio aJgyfnerthiad ar ol cael ei glwyfo yn ddifrifol yn Ffrainc. Boed i'r ddau gael gwellhad. S pl
Family Notices
GENI. PRIODI. MARW. MARW. Davies—Mai 22aim Mr Morgan Davies, Glasfryn, Llan Ffestiniog, yn 60 mlwydd oed. Williams—Mai 23aiu. Mr Robert Lewis Williams, 5, Bethsaida Terrace, Bout, newydd, yn 17 mlwydd oed. Pierce—Mai 28ain, Mr David Pierce, Glan- dwr. Caeniarfon, yn 79 mlwydd oed.
Advertising
IJ. FLETCHER. LTD.. I MEMORIAL WORKS, CARNARVON a BANGOR. | Argraffwyd a chyhoeddwyd gan Gvvmni y Dinesydd Cymreig, Cyf., yu 16, Palace Street, Caeruaifon.