Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

TRAGWYDDOL GOSB.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

TRAGWYDDOL GOSB. (Gan MYFYRFAB). I Rhaid deal! yn y dechreu mai datganiad mewn iaith ddynol o wirionedd am Dduw ydyw yr uchod. Mae y geiriau, felly, yn agored i gyfyngiadau ac i gyfeiliornadau. Tueddir nj i osod ein safon am weithred- iadau dwyfol yn y natur ddynol. Pan eonir am gasb cysylltir ef a phrofiad neu a hanes unigoKon neu genhedloedd. Ond, yma, rhaid ymddihatru oddiwrth y cam- esboniad sydd yn codi oddiwrth gyfateb- iaeth. Nid oes yna gyfatebiaeth gyflawn rhwng y dwyfol a'r dynol Tina mwy nag mewn cysylltiadau eraill: canys,— (a) Nid oes amherffeithrwydd yng nghy., meriad Duw. (b) Nid oes amherffeithrwydd yng ngweinyddiadau Duw. Yng ngoleuni y cyntaf, sef (a) rhaid ymryddhau oddiwrth bob syniad o ddial. Nid yw teimlad personol, fel teimlad, yn cael lie o gwbl. Nid oes gan yr Anfeidrol fuddiant mewn cymeryd ochr y naill yn erbyn y Hall. Y mae pob dyn fel ei gread- Ur yn wrthryeh ei ddiddordeb a'i gariad. Nid oes ganddo ddymuniad am golledig- aeth neu fethiant unrhyw un. Pe cashaj nn byddai yn cashau ei waith ei Hun. Byddai hynny yn amlygiad o anwybodaetb ac annoethineb yn Xuw. Yr hyn sydd yn amhosibl. (b) Mae yn canlyn nad oes amherffeith- nvydd i'w ddisgwvl yng ngweinyddiadau Duw. Mae yn amhosibl iddo weithredn yn erbyn ei gymeriad heb beidio a bod. Deuwn yn awr a'r ddwy ystyriaeth yma i weiny idu i egluro y mater dan sylw. Os nad yw Duw yn anghyfiawn, ac na all weithredu ond iiiewn cyfiawnder, y mae yn dilyn y rhaid i'w weinyddiad o'r hyn a ddeallir fel tragwyddol gosb dderbyn o'r agweddau hyn. Rhaid i'r gosb barchu cyf' iawnder Duw, a rhaid iddo wncud hynny trwy weithrediad o gyfiawnder. A yw tragwyddol gosb yn dyfod i fyny a'r telerau hyn? Credwn y gall o'i iawn ddeall. Y mae hyn yn tywed. fod yr ym. cwlrodd wedi ei Gamddeall a'i Gamesbonio. Credwn bynny yn gryf. Y mae yna gamgymeriad (1) mewn gwneud y gosb yn wrthrychol a materol. Yr unig syniad i rai hyd heddyw am dra. gwyddol gosb yw poenydiaeth dragwyddo] arycodff. Yr oedd llawer o'r puritaniaid yn ei ddarlunio mewn modd ag i wneud i'r gwaed fie-m. Yn awr, uid y corff sydd yn pechu, ac telly dysgir yma yr anghyfiawnder Dwyfol o boeni y corff yn dragwyddol am yr hyn ua wnaeth. Os yw yn mcddwl rhywbeth, tybia dial nwydwyllt ar ran yr Anfeidrol. Wedi methu cyrraedd yr enaid i'w gosbi, y mae yn arllwys digofaint ar y gwrthrych nesaf-ir y corff. Y mae yn dial yn ddi, drugaredd ar y corff. Y mae hwn yn gosb hollol aneffeithiol. Nis gall poeni y corff am dragwyddoldeh wneud i ffwrdd na dihuddo, na gwneud iawn am bechod yr enaid. Rhaid i bob enaid vstyriol ym- wrthod a'r syniad o dragwyddol gosb sydd yn gynnwysedig mewn uffern wrthrvchol a materol. (2) Camgymeriad arall yw gwneud y gosb yn un dyfodol yn unig. Gwir fod iddo agweddau dyfodol. Ond anghofir ei fod yn bresennol hefyd. Os oes lie i gosb -3 phwy a wad-onid heddyw yw yr alwad gyntaf? Ai y flwyddyn nesaf y mae y fam yn ceryddu ei phlentyn am anufudd-dod heddyw ? A allwn feddwl am dani yn rhoi holl bwys ei meddwl i ddy feisio rhyw gynUun i gosbi ei phlentyn yn y dyfodol ? Pa, fodd y buasai gwybodaeth o hyn yn effeithio ar y plentyn? Oni chaledai mewn drygioni. gan gredu nad oedd i osgoi y gosb, a chan gredu hefyd fod y cerydd yn rhywbeth- mwy na galwad y Weithred ? A allwn feddwl am y Duw da yn eistedd 1 fyfyrio ar rhyw gynllun a bwriad dinis- triol am weithred, neu waith oedd yn ddrwg, ond nid yn anadferadwy ? Ai I crewr gelyniaeth a dinistr yw Efe? Ffordd Duw yw Cosbi Pob Pechod fel y Daw, nid ei gadw yn un goelcerth o lid, a hynny Bydd gyfiawn. (3) Yn dilyn daw y camgymeriad o ang_ hofio mai lies dyn sydd gan y Duw mawr mewn golwg. Nid yw yn ewyllysio bod neb yn golledig. Ie, ond gellid meddwl fel arall oddiwrth addysg Uchel Galfiniaeth yr oes o'r blaen. Oblegid dysgent fod Duw wedi ethgl yn derfvnol cyn creu—fod rhai yn dyfod i'r byd wedi eu damnio, ac eaaill yn dyfod wedi eu liethol. A dyna a roes le i'r rbigwm)- "r,.tholedig cyn fy ngcui, Etholedig wedi meddwi. Mae addysg fe-I yna yn sen i ddealltwriaeth dyn heb son ei fod yn athrod ar gymcriad a gv'flith yr Anfeidrol. Os yw yn wir. tybia fod Dv*.v yn rhai fel g^r--thrych- au ei ddig i wrthweithio a gwrthgvfatebu i'w gariad at eraill a greodd wrtli ei fodd. Pa fodd y gallai Duw da greu dau fath o ddynion ? Nid dynion tuaasi y math gyntaf, yn wir, otid- Cythreuliaid a Duw yn Dad iddynt. I Yr wyf yn datgan y mater yn glii- a gonest er mwyn i ni ddeall Ile yr ydym. Os mai un neu arall or ystyriaethau yna sydd yn cyfleu y meddwl am dragwjddol gosb, yna yr wyf yn ymwrthod ag ef a'm holl nerth, yn (a) Ar dir rheswm. (b) Ar dir cyfiawnder. (c) Ar dir cariad a thosturi. I A raid i ni oblegid hyn yrnwrthod a I ffydd mewn tragwyddol gosb ? Nid wyf yn tybied. Ond fe dderbynai o dair o agweddau. Rhaid iddo fod yn egwydd, orol; rhaid iddo ateb o ran lie ac amser i'r gofyniad; rhaid iddo fod yn addysgol. 1. Amddiffyn egrvyddor nid ymosod ar wrthrychau y mae dwyfol gosb. Am fod lladrad yn cymylu ar gyfiawndcr ac yn ei bervglu y rhoddir y lleidr yn y carchar. Canlyniad o hynny yw cosb. Cerydd i'r troseddwr yn gosb am y trosedd. Y Had- rad gosbir nid y lleidr. 2. Mae y gweinyddiad yn fewnol a phre- Bennol. Camgymeaiad yw meddwl y gwe-lir y gosb—yr hyn a welir yw y can- lyniad ohono,—ei ffrwyth. "Nid hwn a bechodd am ei eni ef yn ddall." Ond os yn fewnol y mae yn un gwirioneddol a phreseanol. Wrtli roddi y bys yn tan fe geir poen nid yfory ond yn awr. Ond nid yw gweithrediadaii Duw yn gvffredin mor uniongj-rchol. Oni welir hcddyw ganlyniadau pechod—yn yr ewylIy- gwendid i ii-eitlit-edu. Plioi fewn i bechod unwaith, haws gwneud ar ol liynnv-clyn-i y gosb. Dyn trwy wneud cam ag ef ei hun yn oollt llywodraeth ar ei alluoedd. 3. Mae amcan cosb yn addysg, ac nid damnedigaeth. Onid oes damnedigaeth? 0 oes. Ond 'y mae y ddamnedigaeth yn rhan o'r addysg. Ystyr wirioneddol damnedigaeth yw I Condemniad, nid Collfarniad. I ) Pa fodd y gall Duw da roi dyn fynv ? "Pa fodd y'th roddaf i fyny, Ephraim?" Cosbi dyn er mwyn ci gadw ac nid er mwyn ei goshi. Mae pechod yn dwyn ci gosb—y mae yn rhaid i'r gosb fod gymaint a'r pechod, a rhaid er mwyn hynny i'r gosb fyned tu draw dirnadaeth dyn. Dyna ystyr tragwyddol gosb, ac nid byth. li-el yr un dyn y pendraw i ganlyniadau ei bechod. Yii vi-iiaferol y mae yn dra. gwyddol. Ond fe wel Duw. Ac fellv yn wirioneddol fe ddaw i ben. Y mae dwy ddadl yn erbyn cosb ddi- derfyn (a) Nid trwy estyn cosb mae. ei wnend yn effeithiol. Dyna un o ddargan- fyddiadau ein llysoedd harn-dynion yn dyfod allan o garchar ymhen 20 mlynedd ac yn troi ar unwaith i'w hen Iwybrau. Cosbi i achub y mae Duw. Ac felly nid trwy barhad diderfyn y deuwn i afael a'r meddwl. Y mae tragwyddol gosb hefyd vn an- nheg trwy beidio dal ar y gwahaniaeth rhwng dynion. Pawb a bechasant. A yw pawb i gael eu damnio am byth ? Os mai rhai. paham, gan i bawb beehu? Nid eiddo ni yw pwyso pechodau. Y mae y pechod lleiaf mor bell ag y gwyddom yn erbyn Duw yn haeddu cosb. Ond sut felly v casff Crist ei ddeiliaid os condemnir pawb ? Ac os na chondemnir pawb, lie mae y cyfiawnder? Fe aiff rhai i'r nefoedd yn un llygeidiog, arall yn berchen un fraich—yn gymhar- iaethol. Bydd cosb y ddaear yma yn gweithio yno. Ac yn ol dyfnder y teim- lad o cuogrwydd y bydd maint y waredig. aeth unwaith yng Nghrist—ynddo am byth. Ond nid ynddo yn bc-rfFaitb,- ynddo i dyfu; i wella, i ymlanhau byth. Fe fydd rhagor rhwng seren a seren yno. Fe fydd nod y bwystfil mwv neu lai ar bob un bytli. Clwyf wedi mendio. ond y nod .r-a. Y prawf o'r gosb JllO. Dyna y rhybudd—dyna yr Efengyl. I

I DAMWAIN ANGEUOL YN LERPWL.…

CYFFEAD MERCH.I

Advertising

DYDD MAWRTH.I

DYDD MERCHER.

I DYDD IAU. I

BYD LLAFUR.

Y WAREDIGAETH MEWN CYN-NYRCHIANT.

Y CYFLOG-BETH FYDD?

BETH SYDD RAID El GAEL

MORWRIAETH A PHRISIAU BWYD.

[No title]