Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
Church and Chapel Services.
Church and Chapel Services. [Will the Pastors or Secretaries of Churches please send in their corrections as early as possible each week.—ED.] AMMANFORD. -1 All Saints' Church,-Holy Communion, 8 a.m.; Matins and Sermon, 11 a.m.; Even- song, 6 p.m., every Sunday except the second. Second Sunday in the month: Holy Communion, 8 a.m.; Children s Service, 10 a.m.; Choral Eucharist, II a.m.; Evensong, 6 p.m. St. David's Church.-I I a.m.. Holy Com- munion first Sunday in each month (English) 11 a.m., last Sunday in each month (Welsh). lla a.m., Matins; 6 p.m., Evensong. St. Michael's Church.-8 a.m., Holy Com- munion (first Sunday in month) 10.30 a.m., Holy Communion (first Sunday in month) 10.30 a.m., Matins; 6 p.m., Evensong. Christian Temple (W.C.) .-Morning, 10.30. Evening, 6. Preacher, Rev. D. Tegfan Davies, pastor. Gwynfryn (W.C.) .—Morning, 10.30. Evening, 6. Preacher, Rev. Stephen Thomas, Salem, Llandilo. Ebenezer (W.B.) .—Morning, 10.30. Even- ing, 6. Preacher, Rev. J. Griffiths, B.A., B.D., pastor. Bethany (C.M.) .-Momini, 10.30. Even- ing, 6. Preacher, Rev. Nantlais Williams, pastor. Talbot Road (E.C.) .-Moming, 11. Even- ing, 6. Preacher, Mr. George. TIRYDAIL. Welsh Wesleyan. Morning, 10.30 Evening, 6. Preacher, Rev. H. R. Owen, pastor. LLANDILO. Ebenezer (W.B.). Morning, 10.30. School, 2.15. Evening, 6. Preacher, Rev. I G. E. William*, pastor. Salem, New Road (C.M.).-Morning, 10.30. Eveniag, 6. Preacher, Rev. D. J. Howells, Llandovery. CROSS HANDS. Tabernacle (W.C.).-Moming, 10.30. Evening, 6. Preacher, Rev. D. Harford Evans, pastor. Tabor (W.B.).-Moming, 10.30. Even- ing, 6. Preacher, Rev. B. 0. James, pastor TYCROES. Moriah (W.C.) .-Moming. 10.30. Even ing, 6. Preacher, Rev. D. J Moses, B.A., pastor.
[No title]
-1 [Er ein bod 'yn rhoddi pob cyfleusira i ohebivyr ddatgan eu barn ar gwestiynau lIeol, nid ydyw hynny i olygu ein bod yn cydsynio d' u daliadau.GOL. I
O'R GADAIR WELLT.
O'R GADAIR WELLT. [Gan IOLO CAERFYRDDIN.J I GEORGE HERBERT, M.A. Bu, ac y mae'r, Herbertiaid yn enwog yng Nghymru a Lloegr ers biynyddoedd lawer. Tebyg mai pobl o Sir Benfro ydynt, ac yno y ceir eu hanes boreuol. Yn nheyrnasiad lor- werth y Pedwerydd, yr oedd gwr hynod yn trigiainnu yn y sir honno, o' r enw William Herbert, mab Syr Wiiham ab Thomas, o Gastell Rhag- lan, Sir Fynwy, a'i fam oedd Gwladys, rr.erch Syr Dafydd Cam, o Aberhoncdu. Yn amser y rhyfeloedd rhwng teuluoedd York a Lancaster, cymsrodd William Herbert blaid teulu Efrog, ac am ei ddewrder a ï wrhydri yn y brwydrau hynny, gwnaeth y Brenin Icrwerth ef yn Iarll cyntaf Penfro. Aeth yr enw Herbert i'r Gogledd drwy briodas Ann, ei ferch, a John, Arglwydd Powys, yr hwn oedd o linach Hawys Gadarn, unig ferch ac etifeddes Owain ab Bleddyn ab Cynfyn, brenin Powys, i'r hwn y canodd y bardd: Bleddyn ab Cynfyn bob cwys Ei hun biodd hen Bowys." Disgynyddion Iarll cyntaf Penfro oe-^cent ddynion cyfoethog a dysg- edig, a bu amryw ohonynt yn llenwi swyddau pwysig ym Mhrydain Fawr dan wahanol frenhinoedd. Bu un or teulu anrhydeddus, sef Syr Edward Herbert, yn Gyfreithiwr Cyffredinol, ar ol hynny yn Dwrnai Cyffredinol, ac yn Geidwad y Sel Fawr. Bydded hynýna yn rhagymadrodd i' n harwr a' n cydwladwr dysgedig, George Herbert, yr hwn welcdd oleuni dydd gyntaf o Gastell Trefaldwyn, yn y flwyddyn 1593. Cafodd ei addysgu ar ei aelwyd glyd hyd nes yr oedd yn ddeudeg oed gan ei fam ofalus, yr hon oedd yn foneddiges ddysgedig iawn. Danfon- wyd ef yn llanc tyner o'r athrofa'r aelwyd i'r ysgol yn Westminster, ac oddiyno i Goleg y Drindod, yng Nghaergrawnt. Pan yn chwech ar hugam oed, dewiswyd ef yn areithydd cyffredinol y coleg, a'r swydd bwysig hon a ddaliodd yn deilwng o Gymro am flynyddoedd. Yng Nghaergrawnt mieistrolodd amryw ieithoedd, a dywedir ei fod yn hyddysg yn y Ffran- caeg, Eidalaeg, a'r Yspaenaeg. Ei fwriad wrth ddysgu'r ieithoedd hyn, gan ei fod yn barchus yn llys y Brenin I ago y Cyntaf, oedd cael ei ethol yn Y sgri fenny dd Cartrefol. Buan y dyryswyd ei fwriadau ym marwolaeth y brenin, a throdd yn ol drachefn i faes llafurus diwinyddiaeth er ei urddo i'r weinidogaeth. Yn y flwyddyn 1626, gosodwyd ef yn Eglwys Gadeir- iol Lincoln, ac oddiyno bu'n beriglor yn Bemerton, gerHaw Caer Caradog (Salisbury), lie y bu arddeliad a llwyddiant ar ei weinidogaeth. Mae ei weithiau barddonol yn ddigon hysbys, yn enwedig The Temple," ei Sacred Poems and Private Ejaculations, y rhain a argraffwyd yn Llundain yn y flwyddyn 1635. Dywedir mai ei orchestwaith ydyw' r traethawd, The Priest to the Temple," yn yr hwn rhoddir rheolau pendant i' r offeiriad gwladol, er dangos sut fywyd ddylai arwain o flaen ei braidd. Cyfieithiodd lawer i' r Seisnig; mae ei gyfieithiad o waith Cornaro ar Gymedroldeb," meddir, yn odidog. Am ei allu fel lienor, gwir yw'r ffaith i Arglwydd Bacon roddi ei waith iddo i edrych drosto cyn myned i'r wasg i'w gyhoeddi, er cael ei feirniadaeth. Mae hanes bywyd dilychwin a gweithiau anfarwoJ y dyn mawr hwn yn ddigon i lanw cyfrolau. Os cwyd awydd ar rhywun i gael rhagor o hanes y Cymro pur a dysgedig, darllened Isaac Walton's Life of George Herbert, M.A." \=>. :< r _<1-
Nodion o'r Blaenau a Chaerbryn.
Nodion o'r Blaenau a Chaerbryn. Da gennym weled Priv. Johnny Will iams, Welsli Guards, wedi dod adre am dro, ac yn disgwyl yn iach a hapus. Dymirnwn pob llwyddiant iddo eto pan yn myned yn oL Blin ? ? # d fod Pr i v. Blin gennym g!yved fad Priv. Esaiah J. Evans, R.W.F., mab Mr. a Mrs. Wm. Evans, Brvncellan, wedi cae! ei glwyfo ym Mesoootan^ia, a zobeithiwn nad yw wedi cal llawer. Nos Sadwrn diweddaf, cynhaliodd Bethel, Blaenau, ei leisteddfod flyn- yddol, a chafwyd cystadleuaeth dda yno, a'r lie yn llawn. Y cadeirydd cedd Mr. D. Davies, C.S., Cilrhedyn. Beirniad y gerddoriaeth oedd Mr. R. J. Hughes, F.T.S.C., Glanaman; a'r amrywiaeth. Mr. J. R. Morgan (Blaenfab), Caerbryn. Gwobrwywyd fel a ganlyn:-Wythawd: Blaenau Friends (Mr. L. Divies, Blaenau). Unawd soprano: Miss L. M. Davies, Saron. Unawd contralto: Miss M. H. Will iams, Llandebie. Unawd bass: I Rhannwyd y wobr rhwng Mri. Jonah Williams, Bettws, a Ben Davies, Gorslas. Unawd i ferched dan 15 oed: Annie Childs, Penygroes. Unawd i fechgyn dan 15 oed: Hy. J. Griffiths, Caerbryn. Unawd i blant dan 12 oed: laf, Dorris Miles; 2ii, Lily Miles, Blaenau. Unawd ar y berdoneg: Alice Davies, Blaenau. Adroddiad agored Mr. Coedfab Davies, Gorslas. Adroddiad dan 16 oed: Ivor Howell Hughes, Hendre. Adroddiad dan 12 oed laf, Dylis Rees, Bettws; 2il, Lottie Rees, Penybanc. Penillion ar Goleuni": Rhannwyd y wobr rhwng Mri. George Griffiths, Cwmcoch, a B. H. Jones (Mab-yr-Awen), Peny- groes. Araith, Dylanwad yr Eis- teddfod ar Gymru Mr. David Main- waring, Penygroes. Y trysorydd oedd Mr. J. R. Thomas, Lanl ash Farm; a' r ysgrifennydd, Mr. J. Davies, Lletty'r- ywen, Blaenau. Yr oedd yr elw yn myned tuag at y ddyled sydd ar yr ysgoldy.
| CYNGERDD BUDDUGWYR I' ABERYSTWYTH.
CYNGERDD BUDDUGWYR ABERYSTWYTH. At Olygydd Cronic l Dyffryn Aman. Syr,—Bydded hysbys i'r Tri Llanc a'r holl bobloedd nad yw y gwaith ynglyn a' r gyngerdd uchod wedi ei hollol gwblhau. Byddwch amyneddgar tan hynny. YSGRIFENNYDD. I
PENILLION CROESAWI
PENILLION CROESAWI Bombr. Evan Thomas, Brolon, Hen- dre, ar ei walith yn cael tro adref o faes y gad. Croeso filwaiith, gyfaill annwyl, I ddod 'nol o'r ffwrnes dan, A rhoi tro i th gartref annwyl I dy hoffaf Walia lan. Perchftist Dduw pan oeddit yma, Milwr fuost trwy dy oes Yn y fyddin ardderchoca 0 dan faner Crist a'i Groes. Perchwn ninnau dithau heno Gyda pharch sydd fwy na' r lie; Mab o' n hardal wedi brwydro Dros egwyddor wen y ne. Clywsom di cyn hyn yn canu Hen alawon mwyn dy wlad; Clywsom i ti wedi hynny Yml,add drosti yn y gad. Serch at gyrddau canu Cymru, Serch at hen fynyddau'th wlad, Serch at grefydd, serch at lesu, Fu'n dy gymhell di i'r gad. Gwyninu dy gymeriad disglair Hawlia i ti dyner gainc; (J mae canu th glod yn bleser, Dewr wynebodd uffern Ffrainc. Nid oedd ysbryd ymladd ynnot, Nid wyt hoff o ryfel, chwaith; Ond aeth ysbryd Arthur trwot Pan ddaeth perygl ¡'n traeth. Cofiaast am dy Lydia annwyl, Cofiaist am dy dad a'th fam; A dywedaiist y gwnaet farw Cyn ca un o rheiny gam. Gwylied Duw y nefoedd dithau Tra yn nychrinfeydd y ffos; Boed Ei ad len dado] drosot, Nes i'r dydd orchfygu'r nos. Bydd ein hymbil ninnau'n gyson Am i'r Pen Rhyfelwr mawr Orffen yr alanast greulon, A chael heddwch fel y wawr. Hen d re. R. RHYDFAB REES. I Hendre.
TYRED. ARGLWYDD IESU. I
TYRED. ARGLWYDD IESU. I lesu gwyn y tragwyddoldeb Clywcdd loan ei leferydd, C!} wodd ymdaith anfeidroldeb Ar y sancleiddiolaf F ynydd; Daeth ei lais o' r ucherlderau Ato i w alltudiaeth arw, A Ilefaicdd am foreuau DuwJod yn ei gaddfug chwerw; Gwynodd Patmos fel boreuddydd Haf yn swn ei eiriau seinber, Plannodd obaith yng ngaeafddydd Bywyd yr apostol tyner; 'Rwyf yn dyfod," meddai'r Dwyfol, "Dyfod tua'r nos i'w gwynnu"; le'n wir, atebai'r dynol- "Tyred l red, Arglwydd lesu Dvna hiraeth yr apostol, Dyna weddi yr eglwysi; Dyna gri y gwan a'r llethol, Dyna adnod fawr daioni; Ni allasai gloywach gweddi I galonau yn y ddrycin, Pan mae'r beilchion yn ein gwaedu Ac yn darrsang plant y werin. Gyda Rhufain oedd y cleddyf. Eiddo Rhufain oedd y carchar; Ac yng ngoleu nerth milwriaeth, Eiddo Rhufain oedd y ddaear. Nid odd modd i goncro Rhufain Ond trwy gael y Crist i'w chalon; lesu'r biau'r tanllyd ddwyrain All troi r nos yn deml angylion. Lief yr Oen o hyd all ddatod Erch gadwynau' r annuwiolion; Cyffyrddiadau tyner Duwdod ion; Ddaw i feddau a gobeithion. Caeth oedd loan hoff ym Mhatmos, Caethach Nero a Domitian; Trvmach, chwerwach oedd eu hirnos Nag oedd nos alltudiaeth loan. Pe rhyddheid yr ymherawdwr 0 garchardy oer ei hunan, Nj chai Eglwys y Gwaredwr Waedu'i bron yng ngofid loan. Tvred. tyred. Arplwydd lesu," Y doedd gweddi fawr v cyfnod; Tyred i waredu Rhufain 0 garcharau twyll a phechod." Nid yw' r weddi wedi tewi Ar wefusau unrhyw oes; Clywir hi o hyd yn torri 0 galonau plant y Groes. Clywyd hi ar hyd yr oesau, Clywir hi o hyd, o hyd,— Tyred, lesu'r diwygiadau, Tyred i ryddhau y byd." Y mae eisiau gwell goleuni Ar yr enaid yn ei friw; Y mae eisiau tlysach lili, Y mae eisiau mwy o Dduw. Tyr'd a'r wawr i nos ddynoliaeth, Tyr'd i losgi'r niwl i ffwrdd; Y mae eisiau casglu' r oesau At Dy fendigedig fwrdd. Gyda Thi, O Geidwad dwyfol, Mae y waredigaeth hael; Ti yw Tad pob bendith nefoI- Gyda Thi mae' r gwin I' w gael. Eiddo Haw y croeshoeliedig Ydyw baner wen bob oes; Eiddot Ti yw' r cysegredig 0 Aberthwr mawr y Groes. Tyr'd a thegwch dy Fehefin I aeafddydd bywyd byd; Tyr'd a chan i fron y werin Sydd yn wylo'u drwm o hyd. Am gyfiawnder lief y bobloedd, Am wirionedd wyla r wlad; Gyda Thi, O Grist y nefoedd, Mae y rhyddid a 'r iachad. Tyr'd a'th lanw bendigedig, Tor i mewn i eisiau'r oes; Rho Dy Ysbryd eneiniedig; Datod rwymau ing a loes. Trwm o hyd ar war yr egwan Ydyw croesau bywyd byd; Y mae r lleng meddyliau aflan Y n ein gwaedu n erch o hyd. Mor aflonydd yw ein moroedd, Chwerwon yw'r tymhestloedd nawr Caled ydyw byw blynyddoedd Dan orthrymwyr caled, mawr. Tyred, lesu, i galonau Y gorthrymwyr celyd hyn; Golch eu henaid ym moreuau Aberth Dy Galfaria Fryn. Deuaist, do, yn ogoneddus, Glasa'r anial ar Dy ol; Tyred do'n orfoleddus, Pryd try' r ddaear ddu yn ddôI? Gamant. AP CRENIG. I Garnant.
TYCROES.
TYCROES. Cymdeithas y C-Vmrodorion.- Cynhaliwyd cyfarfod gan y Gym- deithas uchod yn y lie arferol, nos Wener, Chwefror 2, dan lywyddiaeth y Parch. D. S. Davies, pryd yr oedd yn dda gennym weldein Ilywydd yn bresennol, wedii bod mor wael ei iechyd. Dechreawyd y cyfarfod am 6.30, y tro hwn, am fod cyngerdd i'r milwyr yn dechreu am 8 o'r gloch i ddangos ein cydymdeimlad a gwrolion ein gwlad, y rhai sydd yn dychwelyd am dro i'w cartrefi o faes y frwydyr. Darlithrwyd gan y Parch. D. Eurof Walters, M.A., LL.D., Abertawe, ar y testun, Trem yn Nol." Bu llawer ohonom yn ceisio meddwl uwch ben y testun; Trem yn Nol, ar beth neu ar ba le; ond nid hir y cad wyd ni me\vn peirusder wedi Bonwr Wallter ddechreu. Yn wir, yr oedd yn amlwg yn fuan iawn fod y clorf luosog ddaeth ynghyd yn deall ac yn mwynhau y ddarlith i'r eithaf. Nid oes angen am i mi ddweyd dim o hanes y ddarlith ond hyn: os bydd i'r Bonwr Wallter ddod i roi y ddarlith hon yn rhywle o hyd cyfleustra i chwi, ewch yno i'w wrando. Chwi gewch wledd ardderchog. Cwn iddo dalfyrru lawer pen, am fod yr amser yn fyr; er hyn, yr ydym yn diiolch iddo am wneud mor dda mewn amser mor fyr. Ceisiwyd gennyf ddiolch i'r Parch. W. Edwards (curad), am ei fod wedi rhoddi fyny yr ysgoldy, a chadw ei ddosbarth yn y festri am y tro. Diolch yn fawr i'r Bonwr Edwards. Hefyd i gadeirydd a phwyllgor y gyngerdd am fod mor amyneddgar a chaniatau i ni rhyw ddeng munud dros yr amser. Diolch yn fawr i chwi oil. Ond y mae ambell un anwar i gael o hyd. Defnyddied y llanc hwnnw fu' n curo' r ffenestr ei synwyr cyffredin y tro nesaf. Buasai yn well iddo eistedd i lawr wrth y tan yn y ty d'deng munud yn hw y, na dangos ei ysgafnder yn y fan hon. Gair i gall. B. C. REES.
Advertising
Dalier Sylw! GWNEIR YN Y Swyddfa £ £ on, A'r Gangen Swyddfa yn CPQSS a.d..s, BOB MATH 0 Argraffwaith Yn y modd mwyaf testlus a chywir, a hyny mewn byr amser, gyda'r Peirianau a'r Llythyrenau mwyaf diweddaraf. Yn cynwys- YSTADEGAU YR EGLWYSI, CARDIAU CYFARFODYDD DIWYLLIADOU. HYSBYSLENI (mawr a bach), CARDIAU PRIODASOL, VISITING CARDS, CARDIAU MARWNADOL, CARDIAU CYNGHERDDAU, LLYFRAU CYFRIFON, ANTHEMAU, RHAN-GANAU, RHAGLENI CYMANFAOEDD (yn y ddau Nodiant), &c. Caitf bob Archeb ein sylw dyladwy, a chwblheir y gwaith a ymddiriedir i ni yn fuan, a' u danfoniad yn brydlon. Cyfeirier bob Archebion i'r GORUCHWYLIWR, Amman Valley Chronicle, Cyf. Argraffwyr, &c., Ammanford a Cross Hands. Yon Can Rely On ^^5 I Yon Can Rely On ]Q:s Ba(}'n: Remedy, in either Sex. for all Acquired or Constitwtforaf Discharges from Urinary Organs, Gravel, Pains in the back and kindred complaints. OverSO Years' Success. Of aHCfaemists, 4/6 per box, or sent direct, post free, for Sixty Penny Stamps by the Proprietors The Lincoln and Midland Counties Drug Co., Ltd. LincolL Clarke's B41 Pills (Free from Mercury) I I
Advertising
MATRIMONY! Wanted by a young man of good position and character a SITUATION AS SON-IN-LAW. I THE YOUNG LADY will be expected to select the Furniture from the same Firm from whom the young man's parents obtained their excellent goods many years ago. BEVAN & Co., Limited, Wales' Largest Furnishers. offinglikk n m IFOY& Wm I FURNITURE! IMMENSE SELECTION! EVERYTHING FOR FURNISHING! LOWEST POSSIBLE PRICES! FREE DELIVERY! 280, Oxford Street, & The Arcade, I Swansea. Cwmbach Buildings, Llanelly; Cardiff, Newport, &c. -1
Forthcoming Events. I
Forthcoming Events. I [All forthcoming events which are adver- tised in the Chronicle, or for which printing is done at our works in Quay Street, Amman- ford, will be included in the following list.] Feb. 13.-Congregationa.1 Vestry, Peny- groes: Lecture by Rev. D. J. Lewis. Tumble. Feb. 15.-Bryn Seion, Glanamman: Grand Miscellaneous Concert. Feb. 17.-Hermon, Brynamman: Lecture by Rev. T. E. Nicholas, Llangybi. Feb. 21.-Public Hail, Gwaun-cae-gurwen: Grand Miscellaneous Concert. Feb. 22 & 24.—Church Room, Amman- ford: Performances of Cantata by United Band of Hope Choir. Feb. 24.—Bethel Newydd, Cwmamman: Lecture by Rev. J. Lee Davie3, Bryn- amman. Mar. 8.-Palace Theatre, Ammanford: Annual Concert of the Ammanford Ladies' Choir. Mar. 8.-Carmel. Gwaun-cae-gurwen: Grand Organ Recital. Mar. 10. Bryn Seion, Glanamman: Grand Chair Eisteddfod. Mar. 17 .-Caers:tlem, Drefach: Grand Com- petitive Meeting. Mar. 22 & 25.—St. Margaret' s Church, Cwmllynfell: Grand Organ Recitals. Mar. 31.-B2-hania, Glanamman: Grand Eisteddfod. Mar. 31.—Public Hall, Tumble: Grand Competitive Concert. April 4.-Palace Theatre, Ammanford: Grand Performance of Handel's "Messiah" by Ebenezer Baptist Choral Society.
[No title]
T alodd ein Prif Weinidog ymwellad a'i hen gartref genedigol yn Llan- ystumdwy, yr wythnos* ddiweddaf, ac fe gyfarfyddodd a llawer o'i hen gyfeillion boreu oes, a chafodd ym- ddiddan hapus gyda hwynt. Yr oedd pawb yn falch o'i weled, a chafodd groesaw cynnes gan yr oil o'r plwyf- olion.
Advertising
LADXES I BLANCHARD'S PILLS Are unrivalled for all Irregularities, &c., they speedily afford relief and never fail to alleviate all suffering. They supersede Pennyroyal. Pil Cochia, Bitter Apple, &e. are the Beat of all Pills for Women." fold in boxes, 1, li, by BOOTS Branches. TAYLOR'S VBVG Ca Branches, and all ,hemi-t.. or post free, same price, from LESWE MARTIN. LTD. CHEMISTS. 34. DALSTON LANE. LONDON free Sample and valuable Booklet post free, Id. Stamp. 4
AT EIN GOHEBWYR AC ERAiLL.
AT EIN GOHEBWYR AC ERAiLL. Ysgrifan, Barddoniaeth, Nodion, Hanesion, a Gohebiaethau i'w hanfon cyn GYNTED YN YR WYTHNOS ag y byddo modd i'r GOLYGYDD, CRONICL DYFFRYN AMAN," AMANFORD. I
Nodion o Benygroes.I * ————
Nodion o Benygroes. I ———— Teiriilaf y dylaswn innau, fel Iolo Caerfyrddin, ddiolch o galon i'r Prifardd Gwili am ei eiriau caredig a chalonogol i mi fel tipyn o ohebvdd. Yr ceddwn yn flin iawn pan ddeallais ei fod yn gadael y swydd o fod yn Olygydd Cymraeg y Cronicl. Pan fyddai galw, yr oedd, bob amser, yn barod i roddi cynoi.hwy; drwy hynny, ni fu'm erioed yn ofni y fasged." Caraf ef yn fawr, a phe buasai'n digwydd bod yn perthyn i' r rhyw deg, Jbuaswn wedi ei hysbysu o fy nheimlad yn hir cyn hyn. Dymunaf bob llwydd- iant iddo yn ei gylch newydd yng I Nghaerdydd. y Cyngor, Nos Fawrth, yn Ysgol y Cyngor, cy?haiiwyd cyfarfod croesawol i Priv. Enoch Hendy, yr hwn sydd wedi dod adref am dro, ar ol cael ei glwyfo yn Ffrainc. Y Parch. G. Thomas, Thornhill, oedd yn y gadair, a Mr. D. W. Hugh es, Gorslas, wrth y ber- deneg. Cafwyd araith gan y cadeirydd i ddechreu, wedyn aethpwyd yn y blaen fel hyn:— Ton gan y Seindorf Arian; deuawd, Fanny Rees a ï ffrind; can, Mrs. E. Edwards, Heol Waterloo; can, Mr. W. Rees, Cwm- nant; can, Miss Jennie Jones, Post Office (ad-alwyd); adroddiad, Miss S. J. Hilton, California; can, Miss R. A. Jones, Bryn Awe!; can, Mrs. E. Edwards (ad-alwyd); can, Mr. W. Rees, Cwmnant; pedwarawd offerynol gan fechgyn y Seindorf, sef Mri. D. Morris, E. Griffiths, H. Williams, a J. Davies; can, Miss R. A. Jones, Bryn Awel; adroddiad, Elwyn Pugh (al-alwyd); can, Miss Jennie Jones, Post Office; penillion, Rhydfab." Cyflwynwyd y rhodd ariannol i Priv. Hendy gan Mrs. G. Thomas, Thornhill, a diolchodd yntau mewn geiriau pwrpasol am y caredig- rwydd a' r croeso a dderbyniasai. Ter- fyp.wyd y cyfarfod hapus drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." Cawsom gyfarfod croesawol arall, yn yr un lie, nos Wener, i Sergt. Fred Morgan, Heol Waterloo, ar ei ym- weliad a'r hen ardal o Salonica. Llan- wyd y gadair, y tro hwn, gan Mr. D. Williams, arweinvdd y Seindorf, a gwnaeth Mr. D. W. Hughes, Gorslas, gyfeilydd rhagorol. Ar ol cael ychydig eiriau gan y cadeirydd, canwyd God save the King gan y gynulIeidfa. Mr. Harry John, Caerbryn, yn arwain. Wedyn cafwyd y rhaglen gan,lynol:- Ton gan y Seindorf Arian; can, Miss S. H. Thomas, Ffynnongoch; ad- roddiad, Elwyn Rees, Capei Hendre (ad-alwyd); can, Miss Dorothy Parry; unawd ar y crwth, Mr. Tommy Davies, A.C.V. (ad-alwyd); can, Mrs. J. Davies, Plasgwyn Terrace; penillion, Rhydfab can, Mr. H. John, Caerbryn; pedwarawd gan y bechgyn canlynol o'r Seindorf:—Mri. D. Morris, E. Griffiths, H. Williams, a J. Davies; can, Miss Dorothy Parry; canu penillion, Mr. Tom Rees, Caer- bryn (ad-alwyd); can, Mrs. J. Davies, Plasgwyn Terrace; adroddiad, D. J. Roberts; can, Miss S. H. Thomas; can, Mr. Harry John (ad-alwyd). Ar ran y pwyllgor, cyflwynodd Miss S. H. Thomas, F fynnongoch, y rhodd arferol i Sergt. Morgan, a diolchodd yntau yn garedig am dano. Cafwyd ychydig eiriau cyn terfynu gan Mri. T. Morgan, M.E., Bryncwar; a D. J. Lake, Gorsddu. Gorffenwyd, fel arfer, drwy ganu yr Anthem Genedl- aethol. » Gwelsom yn bresennol yn y cyngerdd uchod y gwron ieuanc, Priv. Albert Will lams, Welsh Guards. Da germym weled ei fod yn gwella o'r clwyfau gafodd yn Ffrainc, yehydig fisoedd yn of. Prynhawn dydd Mawrth cyn y di- weddaf, taenwyd y newydd trist drwy'r lie am farwolaeth Morgan Roberts, mab y diweddar Mr. a Mrs. T. Roberts, Pantyblodau Terrace. Cafodd gystuddhir a phoenus. Bu farw ym mlodau ei ddyddiau; nid oedd ond un- ar-bymtheg oed. Plentyn amddifad oedd efe: croesodd ei rieni annwyl o'i flaen, i fro y tawel hedd," gan adael pump o blant ar oL Ymhen ysbaid wedi claddu ei dad, aeth Morgan i gartrefu at ei frawd hynaf, Tom, lie y cafodd bob gofal a thyner- wch hyd yr awr olaf. Daeth torf ynghyd, prynhawn Sadwrn diweddaf, i dalu'r gymwynas olaf iddo. Rhodd- wyd ei ran farwol i orfHvyi yng nghladdfa Capel Penygroes (A.). Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. Berian James, B.A., a R. Thomas (M.C.). L_ '.¿ ]- L:2.i Ciliaist di, liu annwyl, yma,ith ara l l fyd, T uag araB fyd, Pan oedd gaeaf ar ei ymdaith Drwy yr henfro glyd; Ar y fynwent yn yr eira, Gwelw oedd ein gwedd, Pan adse:niai'r emyn o!a' Uwch dy gynnar fedd. Gwel aist gladdu'th hoff rieni Pan yn dechreu byw,— Yn dy faboed swn galaru Dorrodd ar dy glyw; Dioddefaist hir afiechyd, Gyda'i gur a'i loes; Gwyddost beth oedd siomiant bywyd Pan yng ngwanwyn oes. Fe fu rhywrai' n dy gysgodi Rhag yr arw hin; Fe fu rhywrai iti'n gvveini Yn y dyddiau bIin." Duw o'r nef fo yn diiddanu Y rhai annwyI hyn Sy'n galaru wedi'th golli Dan gysgodau' r glyi. Pan ddaw gwawr yr Atgyfodiad Tua'r fynwent lom, Ti gei fynd Ù pur drigfannau Lie na ddaw 'run som. Hyd nes tyr y bore hwnnw— Bore'r codi' n iach, Dan y tyweirch, o bob twrw, Huna Morgan bach. WIL HOPCYN.
Advertising
IF YOU SUFFER from Cold in the Head, Nasal Catarrh, Influenza, or Hay Fever, you should use" NOSTROLINE." Smear it in your nostrils and sniff it up. It goes right in where the microbes lurk and clears your head instantly, destroys the germs, soothes and heals. Quicker and safer than taking drugs. Suitable for all ages and con- ditions. Should be at hand in every home. Simply wonderful for both prevention and cure. Of most chemists, 1/3 and 3/- (triple size) or by post, 1/5 and 3/3, from pro- prietors, Harold E. Matthews & Co., Chemists, Clifton, Bristol. -'L. _l-
ER COF
ER COF Am Mr. GwiIym Rees, M.E., Blaenau, yr hwn a fu farw Ionawr 24, 1917. Unplyg oruchwyliwr ydoedd, Gwneud cyfiawnder oedd ei nod; Tad tyneraf, priod ffyddlon, A thrwy'r wlad mor fawr ei glod. Cymwynaswr mwya' r ardal- Noddwr eisteddfodau'r fro; Chwith yw meddwl fod ein cyfaill Yn ei dawel wely gro. Huned Gwilym ei hun olaf Ar y bryndir ger y donn; Heddwch iddo wedi ',r brwydro Yw dymuniad dwfn ein bron. Er ei guddio yn y gweryd Gyda pharch a galar mawr, Erys glan rinweddau' i fywyd I ddisgleirio fel y wawr. EDMYGYDD.
ICANMLWYDDIANT OWEN IDAFYDD.
CANMLWYDDIANT OWEN DAFYDD. Migeisiar blethu canig fer 0 glod i Owen Dafydd, Yr hwn oedd fardd o uchei radd, A pharchus hen felinydd. A dyma'n gwaith ni heddyw'r dydd, Ei ddathlu ar ben canmlwydd. Ac er fod camrif wedi mynd Oddiar pan farw'r gwron, Ei enw'n perarogli sydd, Ac annwyl gan ein calon, Am sefyll dros mawr Dduwdod Crist Yng ngwyneb brad gelynion. Rhown iddo'n parch fel Cymry glan Am wneud yr hyn a all odd, Trwy rhoddi ffrwyth ei awen her Mewn can a 'i anfarwolodd; A boed i'w ysbryd syrthio'n drwm Ar ieuenotyd yr ardaloedd. Wel, huna bellach, gyfaill cu, Ac na ddoed neb gythryblus; Mae man dy Iwch yn annwyl iawn Gan genedl sy' n dy garu. Ti wnest ddiwrnod da o waith Yn onest dros yr lesu. JOSEPH WATERS (Glantywi). Rhydaman.
Advertising
Danfonir y Cronicl yn wythnosol trwy y Llythyrdy i unrhyw gyfeiriad am 3/3 yr hanef blwyddyn, neu 6/6 y flwyddyn, blaendal.