Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
Advertising
BUY ONLY I I PRYCE WILLIAMS AND CO.'s I Oread & Confectionery. I PURITY GUARANTEED. j Note ADDRESSES— I WEST END STORES, i i AND [J CEYLON STORES, ]j cOLWYN BAY, j BLUE BELL STOKES, I RHOS.ON-SEA, AND DEVON STORES, at y OLD COLWYN. rjj I~ a 1 FRED. ROBERTS & CO. Ol House Furnishers i cb lkrid Removers b«r Cr J? "-p —— £ OUR ESTIMATE FOR tj h°Ur ^emova'» v ^novating Suites, Blinds, &c. o- upholstering Goods, AND 'o Bedding made up by us. 4 • p ^ash OR EASY PAYMENTS, 4 j pHN-Y.BR YN, ()LD COLWYN. -"Jl, JONES' MAGNO SOCKS. ||$cj CURE F0R ;$Ca> Rheumatism and Gout, '■ TESTED & PROVED. i e<l X^btediv tK i. best1 remedy and cure yet discover- j &>» n like them. Instant relief for tho Uiah f0r a r>0 Painful eases. I Or these at once. You will bo more s> free rL tae resalt. A Trial Pair (Ladles' sure Pei P°st f°r 4,6. i\v» en ordprfe ? coId aati tender feet. cUkl0a I'aniU Kg sive sizo o £ Boots or send Shapo of 8 *ith o. i running pencil round. Full parti- vacn pair. b t_r S0LK AGENT— WILLIAMS (Ph.G. Lon.), Medical Hall, HOLYHEAD. WADSWORTH'S, RHYL, § HAVE ARRANGED TO t eir TUNERS periodically into COLWYN BAY a11 Parts of North Wales, 7Yj ■ a>C Appoinkd Official Tuners to GhSHIRE EDUCATION AUTHOR. ITY. ^ARpf"NCASHIRE ASYLUMS. KINGTON EDUCATION COM- s MITTEE. TlSFACTION GUARANTEED. Wa.dsworth's, Water Street, Ph RHYL., aUGRES & BUHHOMS, JUP ^Ricultural. lement merchants, MANCHESTER HOUSE AND B WAREHOUSE, ^HBIGH ST., LLANRWST, j W»1 Furnishing Irenmongtrs, Gag, Eot& Water Snginaera. j^MUEL BOffD & SONS, • Ql^s, Builders and Contractors, Sllop & OFFICE FITTERS, Q AND elleral Repairers ot Property, ) GREENHOUSE MAKER3, fiel JVUddleton VILLA, gr&ve Road, Colwyn Bay. ^STIMATES FREE H|Du n FOR y OIE B00TS & SHOES/ t ° £ «s°?ufreign yfo-/ ^ndgQ k *Pe and Fit -.St* ifECAN QUAL/5(>LE AQHNT5 > y' in Colwyn Bay for the Celebrated "K" LOTUS and "QUEEN" BOOTS & SHOES. UNEQUALLED FOR QUALITY and PHICE. K °WIand & Co., "VNNSTAY CHAMBERS, ^WYN BA y. it4oxoxx ill M071
Advertising
AT EIN DARLLENWYR4 Anfoner pob gohebiaeth ii, GOLYGYDD CYMRElG. Swyddfa'r "Pioneer."
Y GWIRFODDOLWYR MILWROL.
Y GWIRFODDOLWYR MILWROL. Bu llawer trefniant milwrol mewn grym erioed yn y deyrnas hon, a ehodwyd glewion llawn gwladgarwch a gorcheetion yn y rhengau y naill oes ar ol y Hall. Y trefniant diweddaraf y rhoddir prawf arno yw yr un a gynlluniodd Mr Haldane. Trwyddi rhoddir cyfle i ieuenctyd y wlad fyned ditn hyfforddiant milwrol a ddyry iddynt raddau o gymhwystor i amddiffyn eu gwlad pe byddai raid. Ceir manteision lawer trwy weithrodu ar liQellau y cynllun newydd, a chan y cydnabyddir yr egwyddor wirfoddol yn- ddo ac y trefnir disgyblaeth a hyfforddiant effeithiol byddai corph, meddwl ac ysbryd y llanc- iau ymunant yn derbyn budd. Er hyn, ni bu y llwydd a ddisgwylid hyd yma ar y cynllun. Ceir nad yw y parodrwydd i ymrestru yn y catrodau o lawer yr hyn a ddymunai hyrwyddwyr y mud- iad, a theimlir pryder am ddyfodol y wlad o'r herwydd. Os try'r cynllun yn fethiant, darogenir ma.i milwriaeth orfodol fel a geir yn Ffrainc a ddilyna, ac nid dymunol hyny i'r miloedd. Y nos o'r blaen, bu y Milwriad Darbishire yn cymhell y cynllun presenol i sylw. Mewn capel Ymneillduol y traethai ei genadwri, ac at Ymneill- duwyr y cyfeiriai ei sylwadau yn benaf. Gwir y oeir lluaws o feib a fagwyd yn y capeli eisoes yn y rhengau, ond nid yw'r cyfartaledd ond bychan. Nid gwiw gwadu na ffyna rhagfarn- nid yn erbyn milwriaeth, fel y eyfryiy-ond yn erbyn yr arferion cysylltiol ag ef. Yn rhy fyn- ych bernir bywyd milwrol oddiwrth yr hyn a welir yn y Milisia, a phwy na ddywed y ceir yn y catrodau hyn gymeriadau aflan a.c arforion ysgymun? Nid oes dim gwaradwyddua mewn milwriaeth eithr y mae Ilawer o waradwydd yn ymgysylltu ag ef, eerch hyny, oddiwrth lawer achos. Ni cheir gwelliant hyd oni ddygir elfen- au newydd i weithrediad, ac nid trwy wrthed eu cymhorth a'u dylanwad y cyflawnha neb eu hunain. Bendith i ganoedd yn ein gwlad fyddai ymuno a'r Tiriogaetliwyr er puro y cylchoedd hyn, a gosod urddas newydd ar yr amcanion mewn golwg; a chredwn fed grym yn nghym- helliad y Milwriad Darbishire, ac y dylai dder- byn cefnogaeth pawb all ddylanwadu i sicrhau llwydd y cynllun newydd.
Nodion o Glip y Gop.
Nodion o Glip y Gop. (Gan "Wil y Gweitliiwr"). Y PARCH T. WELL JONES, PENTRAETH. Gwr ieuanc genedigol yn Newmarket yw yr uchod, a bu yma yn cymeryd rhan yn ail-agoriad capel yr Annibynwyr. Rhoddir gair uchel iddo fel pregethwr yn y cyffiniau hyn. Symudodd ei rieni er's amryw flynyddoedd i fyw i Ffynon- groew, Felly, yno y dringodd y gwr ieuanc gobeithiol hwn i sylw cyhoeddua. Dymunir iddo bob Ilwyddiant yn y dyfodol. CODWM. Wrth ddilyn ei orchwyl yn Prestatyn cafodd ein cyfaill ieuanc, Mr Edwin Ellis, p'r le hwn, godwm tost oddiar yr esgynfa nes y torodd as- gwrn, ond dan law Dr. Griffiths da genym hys- bysu ei fod yn dyfod yn mlaen yn well na'r disgwyliad. Y mae yn wr ieuanc o gymeriad uchel, ac yn bregethwr cynorthwyol yn mysg y Wesleyaid yn nghylchdaith Llanasa, a theimlir yn ddwys am ei anffawd. HYCHOD EPILGAR. Y mae gan Mr Robert Parry, Blossom Villa, Treflawnyd, hwch a ddvgodd iddo y tro cyntaf 19eg o berchyll, ac ychydig o ddyddiau yn ol dygodd iddo eilwaith 26, a'r oil yn fyw ac iach. Y peth sydd yn hynod i'w adrodd ydyw: clygoddi mam yr hwch hon iddo gynifer a 143 o berchyll, a chyn ei phedair blwydd oed cafodd ei lladd. Yn sicr, pe buasai hychod mor epilgar a'r rhai hyn ni ddylasai cig moch fod mor uchel ei bris. MOCHYN GYMAINT AG ELIPHANT. Wrth son am hychod y mao hyny yn dwyn l'n cof hanesyn am hen frawd oedd ganddo focliyn tew yn cael ei besgi- Gan ei fod mewn mwy o ddyled na'r cyffredin byddai gryn lawer yn galw yn ddyddiol gyda John Jones am arian. Ei ateb i bawb fyddai, "Mi a'i cewch mor fuan ag y byddaf wedi gwerthu y mochyn tew." Yn, gwrandaw ar ei addewidion yr oedd yr hen saer maen oedd yn gweithio iddo ar y pryd. "Jack," meddai, "bydd yn rhaid i mi gael golwg ar dy fochyn di cyn ymadael, canys yr wyt wedi ei osod yn wystl am arian i gynifer o dy ofynwyr heddyw, fd yn siwr rhaid fod ei faintioli yn fwy nag un eliphant, neu ni fydd gyrnaint a thaniaid i'r oil o honynt." "0," moddai Shon Jones, "OB na byddi gryf bydd gyfrwys." YMDRECIIFA AREDIG. Cynhaliodd dosbarth y cwn ou hymdrechfa flyn- yddol eleni mewn maes perthynol i'r Terfyn. Yr oedd yno gynulliad da o weddoedd, a rhoddn" canmoliaeth uchel i'r aredig. Er fod y cystad- louon hyn yn dal yn eu poblogrwydd eto barnai amryw o'r dosbarth amaethyddol nad ocs cymaint o frwdfrydedd ynddynt a chynt. PLAS YR HENFRYN. Saif hwn ar y llechwedd gyferbyn a'r melinau yn a "'os i waith dwfr Prestatyn. Yn yr hen amser nid ydcedd ond ty JTarm cyffredin, ond pan brynwyd y llo gan y diweddar Mr Hope gwnaed yno welliantau pwysig- wedi hyny bu boneddwr o'r enw Mr Thomson, tad-yn-nghyfraith Mr Edwin Morgan, Cae Gwyn, yn preswylio yno. Ar ol i Mr Pochin bwrcasu y lIe bu amryw a wyr adnabyddus yn cartrefu yno, yn eu plith yr Henadur M. A. Ralli. Ar hyn o bryd deallwn y bydd yno eto eymudkd tenantiaid am fod y rhai Dresenol yn ymadael, ac eraill yn dyfotl yno yn eu lie. Perchenog presenol y He ydyw Lady Mc- Laren.
-----------.--Y NHW. --
Y NHW. Wn i ar y ddaear fawr yma prun ai pobol ai petha ydi'r Nhw mae cymint o son am danynt. Es stalwm, pobol y goits fawr oedda Nhw, ond mao Nhw yn mhob man erhyn hyn ac mewn llef- ydd na fu'r goits fawr yn agos yno. Ewch i'r fan fyd fynoch chi mae Nhw yno o ch blaen, ai phawb yn son am danynt Nhw Nhw ydi'r bobol neu'r petha mwya siaradus yn y wlad, ac er na welas i neb erioed wedi eu gwelad Nhw mao Nhw mewn bod cyn wirad a'r Pader. Mae rhyw ddirgelwch trybeilig yn perthyn iddyn Nhw —wyr neb mo'u henwa na lie mae Nhw'n byw na phwy ydi eu teulu, na phle mae Nhw'n mund ar 01 tliarw, ond mae Nhw'n wybodus iawn, a fedrwch chwi siarad a neb am ddim na tydan, Nhw wedi gneud y peth yma a deyd y peth araii. Rhai garw am neud a deud ydan Nhw, gvmra fy llw (gafr! mi fu dest i mi neud penill iddyn Nhw gwaetha fi yn fy nanadd). Mae Nhw'n cael mund i bob man ddyliwn-mae Nhw mewn byd ao eglwys, a lie bynag y byddan Nhw mi fydd son am danynt. Na wir, mae na un lie na cheiff Nhw ddim mund iddo, a phapur newydd ydi hwnw, achos niae'n rhaid i bawb roi ei enw priodol yn fan hono i'r Golygydd, a chymra Nhw ddim Ilawar a deyd wrth neb bedi'r enw gawson Nhw wrth gael eu bydyddio. Mi faia Nhw wedi cael eu tynu'n dipia lawar gwaith tasa pobol yn gwybod pwy ydan Nhw, ond mac Nhw'n ddigon saff tu nol i'r enw yma, a fedra hyd yn, nod plismyn clyfar Caergybi byth eu da!. Waeth gen i tasa Nhw i gyd yn digio, rydw i am ddeud'yn blaen nad oes gynyn Nhw ddim hawl i fyw. Mae na ormod o honyn Nhw yn y byd, a thasa ma lai mi fasa ma lai o helyntf yn ddigon siwr. Ma-e Nhw rhy ffond o ddeud petha am bobol, a toes neb yn ffit i fyw os bydd.' gynyn nhw gwilydd deyd pwy ydan Nhw. Toes gan neb ond beirdd hawl i «isgo ffugenwa a bod yn rispectabl, achos mae nugenw mor bwysig i fardd ag vdii cig i fwtsiar neu flawd i bobwr, a fedar o ddim byw hebddo. Ond mi ddyk:4 pawb gael ei nabod wrth ei enw iawn, a toes yr un dewin yn gwybod bedi enw cynta nac ail y Nhw ond Nhw eu hunain. Mae'n biti ofnatsan fod cymint yn gwrando arnyn Nhw. Toes dim yn eu plesio yn fwy na hyny, a mi fasan yn altro'n go fuan tasa, pobol yn son dim am danynt. Mae Nhw mor. bethma wyddoch, a thoes dim co-el i'w roi ar eu stori Nhw. Mae Nhw'n medru palu clwydda wrth y llath, a fedra Nhw brofi dim byd. Gamp i chi gael gafael yn yr un wan—mae Nhw fel y gwynt—reit hawdd clywad eu swn ond dim posib cael crap arnynt. Llais i gyd ydan nhw, a hwnw'n llais reit ulw caa, ac anodd ei ddiodda yn amal Yn mhell y bo Nhw bod yg un.
[No title]
Siaradodd amryw o aelodau Pwyllgor Llyfrgell Rydd Caerdydd yn erbyn caniatau i wr a anfon- wy<l i Gaerdydd gan Syr John Williams, gopio y rhestr o'r llyfrau Cymraeg sydd yn Llyfrgell. Pasiwyd drwy fwyafrif i ganiatau y cais.
Llith Die Jones.
Llith Die Jones. DIRGELEDIGAETHAU Y BUDGET. DARGANFYDDIAD PWYSIG. Wel, ynihobol i, mae genym rywbeth pwysig iawn i ddweyd yr wythnos yma. Fel y gwydd- ocfii mae yr holl wlad ar hyn o bryd yn edrych yn mlaen at ddyfodiad y peth rhyfedd hwnw a elwir gan y Sais yn "Budget," ac er fed y wlad yn pryderu gymaint yn ei gylch y dyddiau hyn, mi faea yn dda gan la.wer pe tasa. yna ddim fath beth a Budget mewn bod. Wel, rwan, beth ydi Budget yn Gjmraeg—"ewd" medda un geir- iadur, "coden," medda un arall, "bwlgan" neu "ysgrepan," ebai Geiriadur Dr. Richards. Wn i ddim pa un ohonyn nhw sydd yn iawn, and mi wn mai rhywbeth ydi Budget y bydd Cang- hellydd y Trysorl^e yn mynd Ihefo fo i'r Senedd pan fydd o eisio rhoi treth ar bobol, a rhyw unwaith yn y flwyddyn y by dda. nhw yn cania- tau i'r Budget fyned i'r Senedd, a ma hyny yn unwaith rhy ami g'an rai pobol. Mae yr holl wlad yn ddsgwyl yn bryderus am gynwysiad y Budget eleni. Dyna yw testyn y scwrs ar yr heolydd, yn y tai, yn y cyfarfodydd cyhoeddus, yn y cihwaTel, ao yn y eiop. Arn y tro cyntaf yn ein hanes Cymro o Sir Gaernarfon, sof Mis- tar Lloyd George, fydd yn gyfrifol am ddwad a'r Budget i mewn eleni. Ond mae ganddo waith go anhawdd, aCihos IillW'n rhaid iddo ffein- dio tua 16,OOO,OOOp mewn trethi tuag" at dalu dyledion y deyrnas yma. "Le mae o yn myn'd i gael y fath swm anferth?" ydi'r gofyniad cyffredin y dyddiau hyn. Wrth gwrs, mae gwa- hanol farnau ar y petha y dylid rhoi treth arn- ynt- Mae gan Mari ofn garw iddo ro-i treth ychwanegol ar ei chwpanad o de. Tydi Lloyd George ddim am esmwytho meddwl neb trwy ddweyd pa beth mae o yn myn'd i dretihu. Na, mae o wedi cadw y secret; yn hollol iddo ei hun. Ond mae eich hen gyfaill, Die Jones, wedi bod yn edryc-h yn fanwl i mewn i betha y dyddiau diweddaf a mae yn dda gen i ddweyd ym mod i wedi dairganfod dirgeledigaethau y Budget o'r diwedd, ond, wrth gwrs, mae hyn yn hollol gyf- rinachol i ddarIlenwyr fy llithoedd. Fel y gwyddoch nad oes modd g%vneyd Budget na dim arall heb dipyn o a-tnghorioii, a mi ddywedodd Mistar Lloyd George pan pi ymgeisydd adeg yr etholiad yn sir Gaernarfon y byddai yn dda ganddo bob amseir dderbyn cynghorion ar un- rhyw beth g'an ei gydwladwyr. Wei, mae ei gydwladwr, Mistar Die Jones, wedi gweled rhai o'r cynghorion ysgrifcnwyd ato ar y Budget, a tydw i ddim yn meddwl y medra i wneyd dim byd gwell yr wythnos hon na oh'yhoeddi rhai ohonynt, ond, wrtih gwrs, tydw i ddim am gy- meryd fy llw fod Lloyd Georg'e wedi derbyn y llythyrau i gyd. Dyma ycihydig ohonynt:—. Llandudno. Anwyl Misrtar Lloyd George,—Mi rydw i wedi deall bod chi yn methu dirnad lie i gael pres i dalu dyled y deyrnas yma. We], mi rydw i am dreio eich cynorthwyo chi. Fel y gwyddoch mi rydw i yn Rhyddfrydwyr i'r earn, a mi rydw i yn oofio yr adeg pan oedd wiw son am Doriaeth yn Llandudno, ond erbyn heddyw, Mistar George, mae yn ddrwg glen i ddweyd wxthych fod y blaid Doriaidd yn enill tir yn gyflym yn ein tref- Ma nhw wedi agor clwb mawr yn Mostyn-street, a nu rydw i wedi clywed fod y clwb yn llawn o bobol bron bob nos. Fe ddaeth Mistar Arthur Hughes, gwrthwynebydd Mistar William Jones, i lawr o Llundain y noson 0 o'r blaen i draddodi anerchiad yn y clwb nc- wydd, a mi rydw i wedi clywed fod ei sylwadau wedi cael y fath effaith ar rai o'r dynion ieuano nes eu troi nhw yn Geidwadwyr. Da chi, rhowch klreth drom ar y clybiau yma yn eioh Budget neu wn i ddim beth ddaw ohono ni.- Yr eiddoch yn y ffynd, UN O'R HEN STOC. O.Y.—Ar ol ysgrifenu yr uchod mi rydw i newydd giofio bod ni, y Rihyddfrydwyr, wedi agor clwb, folly well i ohi beidio rhoi treth I ar glybiau, a mi dreiai feddwl am rywbcth arall i ohi yn ystod yr wythnos nesaf. Llandudno Junction. Anwyl Mistar George.—Mi rydych yn cofio pan fuoch yn y Junction yma rai blynyddoedd yn ol sylwi fod genym bump o gapeli yn ein pan fuoch yn y Junction yma rai blynyddoedd yn 01 sylwi fod genym bump o gapeli yn ein hardal, a mae yn debyg bod Mrs George wedi dweydi wrthych bod hitha wedi bod yn agor un aral! yma. Mae yna Eg'lwys Loegr wedi cael ei hade:ladu ynra er's pan fuocfh chi yn ymweled a ni o'r blaen, Mistar George. Mac yma ddyfais newydd spon a elwir yn "whist drive" (mi wel- well dipyn o'r hancs yn Llith Dio Jones yn y "Pioneer" yr wythnos ddiweddaf). Chwareu cardiau bydda nhw yn y whist diive. Wel, Mistar George, mae yr awdurdod genyoh i was- tadhau petha yn eich Budge-t trwy roi treth fawr ar y whist drive yma- Gwnewch eich goreu er mwvn eich hen GYFAILL O'R JUNCTION. Colwyn Bay. Anwyl Sy,r,-Yn y lie cyntaf dowch i mi ddweyd wrthych mai geneth o Gymraes ydw i, reit good-looking wyddoch, Mistar Georg'e. Mi rydw i jn tynu at ddeg ar hugain oed, ao wedi dwad i feddwl bod y:i amser i mi briodi, ond tydw i ddim wedi oyfarfod a'r young man eto. Mae yna lawer o fcrched yn yr un sefyllfa a fi yn Colwyn Bay. Wn i ddim a fuo chi yn ColwJn Bay yma ericed, Mistar George, ond mae o yn He reit ncis yn mhob modd- A mae yn eithaf gwir fod yma lot o ddynion ieuanc y bnswn i yn licio mynd am dro hefo nhw yn I dwad yma am (holidays yn yr haf, ond yr an- hawodra ydi fod yna, gtyn gymaint o fcrched Baesneg yn dwad yma am cu. holidays hefyd, a ma nhw yn gwisgo jn smart iawn, Mistar George, fel nad oes gynom ni, fe.rched Cymraeg Colwyn Bay, ddim chance o gwbl hefo nhw. Ma nhw yn cipio pob dyn ieuanc oddiarnom ni, ac am y rheswrrs yma mi feddyliais y buaswn yn ysgifenu gair bach i oSvn i chwi droio gwella petha trwy drethu y merched diartli yma yn o lew o drwm, er mwyn i ferched yr Hen Wlad gael chance hefo'r visitors. Mi rydw i yn deall y byddwch yn dechreu trethu pobol cyn yr haf + ) nesaf, fel y bydd hyny mewn pryd, os gwnewch gyd we led a chaia un sydd yn oflu cael ei gadael yn hen feroh.—Yr eiddoch yn gjwir, SHAN. Llanrwst. Mistar Lloyd George Ba&Jyst air o gyng- hor gan hen wreigan o Llanrwst i ofyn i chi fod mor garedig a rhoi treth drom ar y bel droed. Wyddoch chi be, Mistar George, fedra i yn fy myw g*adw yr hogia yma mewn esgidia. Gpn gynted a bydda nhw yn gorphen ciniaw bob dydd Sadwrn ffwrdd a nhw i gicio pel i fyny ao i lawr y cae, a phan ddo nhw adref fydd eu heEgidia ddim ffit i fyned i'r capel ddydd Sul, a dyna, lie bydda nihw yn aros adref trwy'r dydd yn darllen am football tra bjdd John yn treio trwaio dipyn ar yr esgidiau gael iddynt fyned i'r ysgol neu at eu g'vvaifch boreu dydd Llun. Bendith fyddo ar eich pen, Mistar George, os gwnewch chwi drethu y bel droed.- Gyda chofion, yr eiddoch MARGED IIUWS. Nid ydi gofod yn caniatau i mi gyhoeddi ych- waneg o lythyrau yr wythnos yma, ond fe allai y bydd yr uchod yn ddigon i didanp" teimlad y wlad ar y peth rhyfedd hwnw a elwir yn Budget. DIC JONES.
Emynyddiaeth Gymreig.
Emynyddiaeth Gymreig. SYLWADAU GWYCH GAN OFFEIRIAD. Mewn anerchiad rhagorol ar "Emynyddiaeth Gymreig," dywedai y Parch T. C. Phillips, ficer Skiwen, fod hymnau yn bodoli yn yr Eglwys Gristionogol yn fore iawn. Ni fuasai beirdd oedd yn barhaus yn canu clodydd dynion yn byw heb ddefnyddio yr awen i ganu mawl i Dduw'r Nefoedd. Darfu i'r gallu Rhufeinig gau safn yr awen Gymreig i fesur mawr, ac fel y dywed- odd Gwallter Mechan, nid oedd y Mynachod yn poeni eu penau yn nghylch barddoniaeth Gym- reig. Y mae lie i ofni i emynau "Yr en. Eghvys Lan Brydeinig" fyned ar goll, megis y I collwyd yr Alawon Derwyddol Efallai na chawsent erioed eu hysgrifenu, ond eu tros- glwyddo i lawr o law i law. Fe geir cyfeiriad at emynau yn y Sanscrit tri chant o flynyddau cyn Crist. Arferai y paganiaid fath o emynau, y rhai a genid i'r pethau a alwent dduwiau. Dy- wedir fod ein "Iesu Cu" a'i ddisgyblion yn canu emyn ar achlysur y Swper Sanctaidd. Sonir yn yr Epistol at yr Ephesiaid am ganu SaJmau, I hymnau, ac odlau. Gwelir wrth hyn fod hymn- au yn yr Eglwys yn foreu iawn. Sonia Taliesin tua'r chweched ganrif am hymnau, hefyd Llawdden yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Hwyrach mai Dafydd Ddu o Hiraddug ydoedd yr emyn-fardd Cymreig cyntaf, ac mai ei emynau ef oedd y rhai cyntaf wedi y rhai boreuol. Efe hefyd gyfieithiodd y "To Deum" i'r Gymraeg tua'r 14eg ganrif. Ar ol hyn daeth lluaws o emyn-felrdd i'r golwg megis Cad, W. Myddle- ton, Edward Kyffin, Edmwnt Prys, Sion Tudor, Simwnt Fychan, Archddiaoon Edmwnt Prys, Rowlant Fychan. Gwedi hyn, cawn "Ganwyll y Cymry," gan yr enwog Fioer Pritchard, os gellid gaJw ei goleu yn oleu einynol. Cyfan- soddwyd rhai emynau ardderchog gan Howell Harris, a Rowlands, Llangeithio, ond caniedydd pereiddiaf Cvmru oedd Pantycelyn. Psiodol y dywedodd Howell Harris, "Wil bia y canu." Efallai mai nid gormod dweyd i emynyddiaeth Gymreig daflu dylanwad i fesur ar Salmyddiaeth y Cyfandir, yn yr oesoedd canol. ANHEBGORION EMYN. Cynwysa emyn dri peth o leiaf, sef mawl, awen, a chan. Mae y wir emynyddiaeth yn or- lawn o fawl. Eglurid y gair hymnau gan Awstin Fawr fel hyn :-Mawl, mawl i Dduw, a mawl i Dduw ar gan. Fe nodweddir Emynydd- iaeth Gymreig gan wreiddiolder. Mae y Cymry wedi efelychu eraill mewn llawer o bethau, ond nid ydyw'r genedl wedi efelychu neb yn ei hemynyddiaeth. Gesyd Emynyddiaeth Gymreig nodwedd feddyliol y genedl. Hefydt y mae yn fynegiant o nodwedd driniadol y genedl. Fel rheol, ceir fod emynwyr Cymreig yn cyfansoddi yn y cywair lleddf, a. hyny hwyrach am fod y genedl wedi ei darostwng, ac am yr arferiad o ganu mewn angladdau. Hefyd y mae Emyn- yddiaeth Gymreig yn gosod allan sefyllfa ac an- sawdd ddaearyddol ein gwlad. Mj'nych y defn- yddir y gaii, bryniau gan yr emynwyr Cjrmreig, megls "Bryniau Canaan," "Dros y bryniau," "0 Fryniau CaersaIem." Mae y termau hyn I yn ddesgrifiad o'r amgylchfyd Cymreig, a gwlad y bryniau.^ Rhaid i'r Cymro gael bryniau yn y nefoedd i fod yn iawn—"0 Fryniau Caersalem ceir gweled." Hefyd mae'r emynwyr Cymreig yn gwneud mynych ddefnyddiad o'r gair afon- ydd. Y rhsswm am hyn yw yr arferid bywi ar lanau afonydd. Nodaf ychydig engreifftiau :— Ar Ian Iorddonen ddofn," Afon angeu rhaid trwyddi." Hefyd draa'r hen emyn pob- logaidd a genir mor ami mewn angladdau, ac a gyfansoddwyd gan Dafydd Williams, Llan- deiio Fach. Gesyd hwn allan amgylchfyd yr emynwr. Tebyg rnai ar lan afon Llychwr, pan w edi myned allan o'i dy o swn ei wraig anymun- 01, y cyfansoddodd "Yn y dyfroedd mawr a'r tonau." Mae y gair "taith" mewn arferiad tra mynych gan em emynwyr. "Ar fy nhaith yr wyf ^8 dyddiau." Yma ceir cyfeiriad hwyrach at yr hen Gymry yn teithio yn finteioedd o bob cwr oGymru tua Llangeithio i ddcrbvn y Cymun Bendigaid oddi ar allor yr Hen feghvys Lan Brydeinig. Cychwynai minteioedd mawrion o wahanol barthau o Gymru ar nos Sadwrn a theithient trwy y nos, a chyfarfyddent wrth ''Sf°n &er^aw Llangeithio, yr hon a elwid -btyn^ y Cymunwyr," a gorymdeithient wrth y mi.oedd tua Llangeithio ar Sul v Cymun." Uallai ami un ddweyd, "Ar fy nhaith vr wvf era dyddiau. Fel hyn cawn fod ein onivnwvr wedi cj frodeddu nexllduolion eu gwlad a'u cened! tnv-y eu hemynau. Gellir dweyd fod awenvdd- laeth yr emyn Gymreig yn llawn tan.
-------- Y Fasnach Wlan.
Y Fasnach Wlan. Synied lied isel a ddeHd am ragolygoa y fas- nach wlan er ys tro; ond y mae un Mr Camp- bell, sydd yn gadeirydd cwmni mawr o ddadfor- wyr gwlan Awstralia, mewn anerchiad a dra- ddododd yn Llundain, yn meddu ffydd gref y cwyd yr haul lawer yn uwch i'r nen yn mhen ychydig. Os y gellir dibynu ar ddeddf cyflen- wad a gofyn, yna, medd Mr Campbell, mae y pris yn rhwym o godi. Er y flwyddyn 1895 mae nifer y defaid yn holl wledydd y byd wedi dir- fawr leihau; mwy o bwyeau yn y cnu a bar fod y cytlenwad yn y marchnadoedd wedi ei gadw i fyny. Eto rhaid fod cynydd y boblogaeth yn ystod y tair blyncdd ar ddeg hyn wedi bod yn fawr iawn. Dywed yr un gwr y daw'r byd i roddi uwch gwerth ar wlan. Pood mai felly y bo, medd pob perchen deadell.
[No title]
Cynhaliwyd cynhadledd genedlaethol ar dreth- iant tir yn Llundain, ddydd Llun, pan y mab- I wysiadwyd penderfyniad yn gylw ar y L'ywodr- I aeth i roi cychwyn i'r d'wygli.d vn y i.? i! tj eleni. Mr Hemmerde, A.S., gynygiodd hyn. )
-----------Caneuon i Blant
Caneuon i Blant YR AFONIG. (Hawlysgrif). O! mor brydferth yw'r Afonig, Rhwng y brwyn yn rhedeg sydd, Mae mor brysur nad yw'n unig Dan wg nos a thrymder dydd. 'Miaen yr a, n ddifraw, Er bob rhwystr ddaw; Difyr ddyfal ganu Wna am for sydd draw. 0! mor swynol yw'r Afonig Neges ganddi'n wir y sydd Draw o'r mynydd, tawel, unig, 'R hwn nis can, y nos na'r dydd. Beth yw'r neges hon? Pwy arllwysa'i fron? Yr Afonig gcisia wneud Ar ei gyrfa Ion. O! mor ddisglaer yw'r Afonig t Drych y Nef i fyd yw hi, Ynddi'r haul a wel ei dlysni A rhydd gusan iddi hi. 'Mlaen yr a'n ddifraw, Er bob rhwystr ddaw; Difyr ddyfal ganu Wna am for sydd draw. Carwn fad Iel yr Afonig Ar fy ngyrfa drwy y byd; Oil yn siriol, oil yn ddiwyd- Adlewyrchu'r da o hyd; Haul y Bywyd arnai'n gwenu Mewn boddhad o ganol ne', Minau ato'n ddyddiol dynu: Mor o ga-riad yw Efe! Abergele. PEDR ALAW.
Defaid yn Ddiofyn.
Defaid yn Ddiofyn. Testyn cyffredin mewn cynulliadau amaethydd- ol yw cyflwr difywyd marchnad y defaid, ac fel yr agosha tymor yr wyn daw yn gwestiwn o bwye a. dyddordeb. Pan fo'r gwartheg yn gwerthu yn lied dda bydd nmrchnad y defaid yn arafu, felly hefyd yn y gwrthwyneb. Oeir y rheswm am y dirwasgiad preeenol mewn rhan yn y ffaith fod y cyflenwad o mutton y Ilynedd oddeutu tri y cant yn fwy nag yn 1907. Ar y llaw arall, oeir fod yr ystadegau gyhooddwyd yn Mehefin di- weddaf yndangos lleihad yn nifer gwartheg y deyruas, ac eithrio buchod a heffrod. Y ffaith yw, rnae'r cyflenwad o biff wedi lleihau i fesur helaethach nag y cynyddodd y cyflenwad o mut- ton, felly nid yw hyn ond yn dangos fod prisiau y farchnad fel bo'r cyflenwad. Ar ol blwyddyn dda gyda'r defaid yn 1907 naturiol oedd i'r rhyw- ogaeth wlanog gael mwy o sylw, ac i fri y da corn- iog leihau gwedi blynyddoedd o siom. Wedi'r oil, yr elfen lywodraethol yn ein marchnadoedd yw'r cyflenwad trainor; a chydag adnoddau gwledydd bras fel Argentina diau y cedwir pris y cig yn y wlad hon i lawr. Yn ansawdd y cig yn uuig y gall amaethwyr Prydain ddisgwyl rhagori.
PENMACHNO AIR CWM.
PENMACHNO AIR CWM. TALU YMWELIAD.—Dydd Mercher, talwyd ymweliad a'r ysgolion gan Dr. Travis, swyddog meddygol, ao archwiliwyd y plant. Y DIWAlTIl.- Ataliwyd amryw o'r gweith- wyr yn y chwarel yr wytmios ddiwedda.f, a'r hyn sy'n ddigalon ydyw iod nifer y diwaith yn cyn- yddu. DEWIS BLAENOR—Yr oedd Capel Rhydy- meirch yn sefyll mewn angen am fiacnor, a nos Sul diweddaf dewiswyd Mr R. M. Jones, Dyf- nant. EIN CANTOR. Mae y ccrddor Mr D. Price Davics, Llythyrdv, wcdi ymrwymo i roddi ei wasanae-th mewn lleg o leoedd. CYMDEITHAS RIIYDYMEIRCH. Nos Wener, cynhaliwyd jr uchod, dan lyw-yddiaeth Mr W- Jones, Dyfnant, a Mr G. S. Jones, Ddol, yn arwain. Awd trwy y rhagkn ganlynol:— Ton gyiiulleidfaol. Anerdhiad gan y Llywydd. Ysgrifenu emyn: 1, John L. Jones; 2, T. O. Thomas. Darlien y traethawd buddugol ar y testyn "Y Nadolig," gan R. D. Evans. Darlien rhan o'r Ysgrvthyr: 1, Rees Jones Roborts. Dau benill, "Dymuniad am galon lan:" 1 a 2, E. E. Edwards. Unawd, "Arglwydd, arwain trw'y'r aniahveh," O. M. Jones. Cyfansoddi dadl: Cydradd oreu, J. J. Jones a T. O. Tho- mas. Parti dan arweiniad R. R. Jones. Taith- lythyr ar Cwm i Rhiwhach: 1, O. M. Jones; cydradd ail, J. L. Jones a R. D. Evans. rTnem!!En
Y MAES CHWAREU.
Y MAES CHWAREU. Lanerch hollas, cartref mwyniant, Ydyw ef i dyrfa fawr Sydd heb wybod beth yw siomiant A'ibiceM.i.uaeyHa.wr; Na, ni feiddia cwmwl drygfyd Dduo eu ifurfafen wen; Nid oes ond disgleirdeb bywyd | Heddyw'n taenu uwch eu pen. Diniweidrwydd ydyw nodwedd Eu chwareuon denol, iach, Nid oes dim yn groes i rinwedd Yn eu geiriaduron bach; O mae swyn yn eu gwreiddioldeDi Dacw hwy, fel eirias dan, Yn ymloni yn eu gllv-vn-eb- Woithiau dig ac welthiau can. Dyna anhebgorion clnvareu, Myn'd a dod, heb rif o'r bron, Acen orchfygedig weithiau, Yna buddugoliaeth ion; Maes i seibiant plant y gwersi Ydyw ef, mae'n eglur hyn, Cysegredig yw medd teithi Eu boreuol foreu gwyn. Eu harwyddair hwy yw chwareu 1 Yn eu maes cynhefin cun, Pawb a'u chwaeth, a'u tueddiadau, Gynryehiolir bron bob un; Yr wyf finau'n hoeir synied 0 "faes chwareu"—dyna'r pam— Ah! drwv adgof clir rwy'n gwc-lcd Swynion mebyd gyda mam. TOAN AP 10AN. BMW—aw——
DAMWAIN ANGEUOL YN BETHESDA.
DAMWAIN ANGEUOL YN BETHESDA. Dydd Llun, digwyddodd damwain dost yn th. esda. N Tra yr oedd dau ddyn yn cludo care°- favvr ar-wagen. diigynodo gan Jadd W. G Jones CefngwJvn. yn y fan, a chafodd Robert Thomaa ei jmafu'n dost. Gwr priod, 38 oed, oodd Jones,
Y CROCIILEFESAU ETO.
Y CROCIILEFESAU ETO. Nos Lun, traddododd Mr McKenna araeth vn Blaenafon. Cyfeiriodd at weithredoedd Ty'r Ar- glwyddi, gan haeru fod y gair diweddaf ar bob pwnc i ddod oddiwrth y bob!. Yn y frwydr agoshaol gyda'r Arglwyddi, elai y Llywodraeth at y wlad gyda sicrwydd am"fuddugoliaeth. .^Iiosodd merch'fvj y bleidlais gyffro rryawr, & throwyd nifer o honynt allan o'r oyfarfod.
Advertising
< Fill in this Form and send it to Advertisement Manager, I PIONEER" OFFICE, CONWAY ROAD, COLWYN BAY. < The charge for all kinds of SMALL ADVERTISEMENTS, SITUATIONS VACANT f and WANTED, &c., in the PIONEER is 18 Words Three Insertions, a/- v P (which must be Prepaid). Name and Address must be paid for. 2 p Please insert above Advertisement times, for which I enclose P.O ) P or Stamps value .■ i V Name 3 t Address I
----::-----=--;---=-...:.:.....------._---I…
-=-=- Addysg yn Penmschno. (At Olygydd y "Pioneer.") Syr,—Ymgymerodd y Parch Thomas John James ag' amddiffyn yr anmhosibl. Ac o dan yr amgylchiad y mae wedi gweithredu yn ddoeth t>ef tewi. Ond oofied fy nghyfaill, Mr James, nad oes gan yr hwn sydd yn Uuchio oeryg hawl i gWYllO os efe a glwyfir. Y mae oalon Mr Jan-ves yn iawn. Efallai y syna y darllenydd ei fod ef a minau yn cyd- weled mewn Uuaws o bethau. Y mae ef dros ddysgu y Beibl yn yr ysgol ddyddiol. Felly finau. Y mae cf dros hawlio "Beibl agored" yn yr ysgolion. Felly finau. Y mae ef o blaid hyfl'orddi'r plant yn egwyddorion sylfaenol ore- fydd Crist. Felly finau. A'r hyn fuaswn yn fawr ddvmuno yw i Mr James arfer ei ddylanwad gfjda'i gyfeillion yn y Pwyllgor Addysg erdwyn y breintiau annhraethol hyn oddiamgyloh fel y byddo Beibl Duw yn ago-red yn mhob ysgol drwy'r sir, ac fel y byddo gwirioneddau mawr y gie-fydd Gri&tionogol jn oael eu dysgu yn mhob I ysgol. Na cham-ddealler fi. Nid wyf o blaid hyd yn nod i'r Beibl ei hun gael ei ddysgu, os bydd rliieni y plant yn wrthwynebol i hyny. Ond pa symwyr sydd i adael dyrnaid o ddynion yn Nghaernarfon-a rhai o honynt yn Undodiaid (tybed a yw Mr James mor an wybod us yn eu cyloh ag y myn i ni g'redu ?) i benderfynu pa system o addysg gref^ddol y mae'n rhaid ei dysgu yn Peninaohno? Mae pawb yn y plwyf hwn yn credu ac yn derbyn egwyddorion syl- faenol orefydd. Dj wed rhai pobl yn y plwyf fy mod yn anghyson yn y peth hwn. Dywedant mai cyn- llun y Cyngiior Sir oedd mewn grym yn yr hen ysgnI er's dwy flynedd. Yr w,yf yn ymddangos i'r cyfryw yn anghyson, oherwydd dyfnder eu ihanwybodaetli. Cynllun Beiblaidd Esgobaeth Bangor sydd wedi bod yn yr hen ysgol erioed, ao a'r cynllun hwn y cytunodd y Parch T. J. James ac eraill ddwy flynedd yn ol. Yn sicr, syr, nid y presenol yw'r amser i fod yn ddifater .)n nghylch athrawiaethau crefydd. Y mae ton o anffyddiaeth yn ysgubo dros wyneb Cymru. Y mae difaterwch-os nad gwaeth-yn nghyldh "Y ffydd a rodded unwaith i'r saint" fel cancr yn ysu ieuenctid Cymru. Y mae ys- g'rif ddewr Dr. Morris, Treorca, yn y "Geninen" am Ionawr, yn haeddu syhv oenedlaethol. Gwrandawer arno ef:—"A oes addysg grefyddol yn cael ei gyfranu o gwbl &r fwyafrif aelwydydd erefyddol Cymru ? A geisir "egwyddori y plant," a oes yna ymgais i'w gwreiddio yn y Gair a r Gwirionedd." "Edlychod acnid oewii ydyw cynyroh yr eg'lwysi gan mwyaf. GaB nad oes ganddynt wreiddyn, nis gall y bobl ieu- ainc hyny ddal awel d sgeidiaeth chwaithach corwynt y ddysg newydd ddaw heibio." "Yn #gwyneb sefyllfa bresenol pethau tybiwn y dylid gwneud mwy o ymdreoh nag erioed i wreiddio ein plant yn egwyddorion crefydd." Dyna iaifch dyn cryf. Ymrockled y V* eeley g^-da'i "Hyfforddydd:" ymrodded y Calfin gyda'i "Hyfforddwr:" ao ymroddod yr Eglwyswr gyda'i "Gatecism." (Paiham y mae'n rhaid son am yr olaf bob am- ser fel pe buasai lyfr o lyn annwn V Nis gall fod yn llygrodig iawn yn ngolwg y Methodist- iaid, a hvrythsu wedi ei gupio bron air am air i'w "Hyfforddwr"). Hawlied Cristionogion Cymru fod Beibl agored yn mhob ysgol drwy'r wlad: a myner rhyddid yn nabob un o honynt i wreiddio ein plant yn egwyddorion crefydd. Er mwyn dyfodol Cymru, ac er mwyn dyfodol crefydd, unwn yn yr un peth hwn. Mae digon o bynciau eraill i ni ymrafaolio yn eu cylch,- Yr eiddoch, etc. B. JONES. Rheithordy Penmachno.
0 Bell ac Agos.
0 Bell ac Agos. Y SAETHU MEWN FFAIR. Yn Mrawdlys Sir Ddinbych, ddydd Mawrtb, cyhuddwyd tri dyn o'r enw Cook o saethu deunaw o bersonau yn ffair Coedpoeth. Parhaodd yr achos trwy'r dydd, ac fe'i gohiriwyd hyd tranoeth. DIGIO WRTH YR A.S. Dywcdir fod Rhyddfrydwyr Sir Drefaldwyn wedi cynhyrfu oherwydd araeth a draddododd Mr J. D. Rees, yr A.S. dros y bwrdeisdrefi. Gelwir cyfarfod o'r blaid i drafod ei achos, a disgwylir y bydd dadblygiad dyddorol i'r helynt. DEUFIS I SWYDDOG ELUSEN. Yn Mrawdlys Rhuthyn, ddydd Mawrth, an- fonwyd Edward Williams, 52 oed, swyddog elusen, Gwrecsam, i garchar am ddeufis am ffugio llyfr- au'r Undeb. MARW MR W. C. YALE JONES-PARRY. Yn Rhyl, bu farw Mr William Corbet Yale Jones-Parry, Madryn, Sir Gaernarfon, a Plas- yu-IaJ, Sir Ddinbych, yn ei 84 mlwydd. Hanai o deulu enwog; yr oedd yn gefnder i Syr Love Jones-Parry, cyn-A.S. dros Fwrdeisdrefi Arfon, yn ynad a dirprwy-raglaw dros Sir Ddinbych am 40 mlynedd, ac yn ynad yn Meirionydd a Sir Gaernarfon hefyd. Bargyfreithiwr oedd wrth ei alwedigaeth. Gedy dri mab ao un ferch. ;cio 0 DDIRWY AM YMOSODIAD. Dyna'r ddirwy roed ar Albert Pritchard, glo- fasnachwr, am ymosod ar William Morris, ffermwr, Rhiwabon, yn Mrawdlys Sir Ddinbych, ddydd Mawrth. BYWYD MEWN VAN. Yn Ngwrecsam, ddydd Llun, cyhuddwyd Johni Bond o dori deddfau y Gorphoraeth. Preswyl- iai ef ei wraig, a'u dau bientyn mewn van, oedd mewn buarth, lie oeid ystablau a chytiau moch. Archwyd iddo chwilio am dy-fielaethach o fewa 21 diwrnod. COSB HOGIAU DRWG. Yn Ngwrecsam' ddydd Llun, cyhuddwyd Geo, Pierce (12 oed), George Keenan (13 oed), a Tom. Keenan (9 oed), o dori i adeiladau a lladrata am- ryw daclau oddi yno. Archwyd anfon y ddau hynaf i ysgol hyfforddiadol, a'r ieuengaf i gael profi bias y wialen fedw chwe' gwaith. LLOSGIAD NAW YN MANCEINION. Torodd tan allan mewn Hetty yn Manceinion, ddydd Llun, a choiiodd naw o ddynion eu byw- ydau trwy losgiad. Yr oedd y rhan fwyaf o'il llettywyr yn cysgu ar y pryd, a diangfa gyfyngi gafodd lluaws. MR BALFOUR A'R SENEDD. Anfonodd Mr Balfour y llythyr canlynol at e gefnogwyr Syr,—Cyferfydd y Senedd Chwefror 16eg, a chan y dygir m-ateriau o'r pwys mwyaf ger- bron y Ty, hyderaf y tsy& yn bosibl i chwi fod yn eich lie y dyddiad tlwnw. Y Sabboth bu farw Mrs Georgina Naylor, Leighton Hall, Trallwm, yn 90 mlwydd oed. Yr oedd yn ferch i'r diweddar Mr John Edwards, Ness Strange, Amwythig, trwy yr hyn yr oedd hi yn gallu olrhain ei hachyddiaeth o dywysogion brenhinol Powys. Priododd hi y diweddar Mr John Taylor, y bancwr o Lerpwl, a phrynasant ystad Leighton gan ymddiriedolwvr Mr Panton Corbett. cofiadur diweddaf Trallwm, ar yr hon y codwyd y palas gwych presenol. Cafodd eg- lwys Leighton ei hadeiladu, hofyd, ganddynt hwy, am gost o 22,000p. Etifedd ystadau Leighton a Brynllywarch ydyw Mr Muray Naylor, mab i drydydd mab Mrs Naylor.
"FELLY'N UNION."
"FELLY'N UNION." O'r llu adwaenwn yn y byd Arferant "eiriau Ilanw," Mae un o honynt bron o hyd Yn haeddu cael fy sylw; Ac fel difyrwch wedi nos Ea ati i wneud penillion I un arferai'r frawddeg dloa Fy nhestyn—"Felly'n union." Pe cwrddech ef ar foreu Llun, Ar ol cael Sul o orphwvs, Bydd rhyw ddiddanwch wrtho 'nglyn, A'i gwmni yn baradwys; Hyfrydwch fydd ei glywed ef Wrth gwrdd a hen gyfeillion, Yn cloi ymddiddan gyda'i lef Bob amser-" Felly'n union." Pe soniech wrtho am yr hin- "Mae'n braf, neu oer, neu stormus"- Fe fyddai'r frawddeg ar ei fin Yn chwareu'n orfoleddus; Nid yw wahaniaeth ganddo chwaith Beth ydyw yr helyntion, Bydd ef yn sicr iawn drwy'i daith O'i fyrdwn-"Felly'n union." Pwy warafuna iddo gael Ei goffa yn frwdfrydig, Llaweroedd heddyw sydd yn hael Eu parch i'r sant caredig; Mae geiriau dyn fel diliau mel Yn felus, ac yn fwynion,, Ac un o eiriau'n oes a ddel 'Rwy'n aiwr fydd-"Felly'n union." IOAN AP IOAN.
Advertising
-II Muait. MR BRYAN WARHURSlJ A.R.C.M., Orf—'st and Choirmaster of SL Thomas' Church, Rhyl also Choirmaster of St. Paul's Church, Colwyn Bay, VISITS OLD COLWYN AND COLWYN BAT (TUESDAYS AND FRIDAYS). Prepares Pupils for the Associated Board of the Roy< Academy of Music, the Royal College of Music, and the Trinity College of Music, London. ORGAN, PIANOFORTE, SINGING. 11AEMONY, THEORY, Etc. LATEST MUSICAL SUCCESSES: Address: Haydn House, Brighton Road, RHY1* 22317p MR F. GURNEY BARNETT, L.R.A.M. A.R.C.M. (Teaching Singing). (Teaching Pianoforte). Conductor of the Colwyn Bay Philharmonic Society, GIVES LESSONS in VOICE PRODUCTION, SOLO SINGING, PIANOFORTE and ORGAN PLAYING. THEORY, HARMONY, etc. Candidates prepared for all recognised Examination&-Addre.w:- NORMANHURST, LLANERCH ROAD, COLWYN BAY. t *$*? t ITCr peter Edwards, reus. Bac. •; (Pedr Rlaw). Professor of Music and Singing, Adjudicator and Conductor, ABERGELE. < PUPILS VISITED IN VARIOUS CENTRES. < LATEST COMPOS.lTIONS- i Awn i Chwareu yn yr Eira (" In the Snow ") 1 —for Children's Choirs-S.S.A. OW Test Piece at National Eisteddfod, Colwyn Bay, < < 1910 Ready Sol-fa, 2d.; O. N., 4d < Anthem :"FyEaaid,BendithiayrArgIwydd' < ("Bless the Lord"). Most suitable for Com- petitions. Highly praised by D. Jenkins, H. Evans, Dan Price, < Christmas Anthem "Ar y Ddaear Tangnef- A edd ('* Peace on Earth "), So.-fa, 2d.; U.N., 4d. A good Competitive Piece (in the Press). « ] All Published by The Welsh Publishing Co. Y Ltd., Carnarvon. JSend to the Composer for a List of hia < other Music. $ A-_ COLWYN BAY GOLF CLUB SPORTING 9-HOLE COURSE, SITUATE ABOVE PWLLYCROCHAN WOOD. COMFORTABLE CLUB HOUSE. LUNOilBONS AND ItEiTREiiiUl fiNH PROVIDED. GOLFING REQUISITES STOCKED. Steward and Professional L. GREEN. SUBSCRIPTIONS. Per Ajmuxx6 Honorary Membcn El 1* and £ 0 1f1e. RMident M«ub«r»— Ladies LO lfig 04 Gentlemen El 10s 04 Country Meaab«J»— Ladies 0 10. 94 Gentlemen 0 161 04 Visitors, 2s per Day; Is Half-Day; 5s per Week, DOUGLAS M. PEACOCK, lion. Sec., CotahilL SeofiejcLroad. HIGH-CLASS ROLLER SKATING QUEEN'S RINK, RHYL. WINTER SESSION. OPEN TO THE PUBLIC. SESSIONS. EVERY MORNING: 10.30. EVERY AFTERNOON (except Wednesday) < 2.30. EVENINGS, WEDNESDAY, THURSDAY, FRIDAY, 7.30. SATURDAY—MORNING: 10.30. AFTERNOON (Ladies only), 2.M.. EVENING: 7 to 10. Band in attendance every Evening. Admission, including Hire of Skates, Ladiee 9cl Gentlemen, Is. Admission only, Sixpence. J. SAILINGS. CUNARD LINE ROYAL MAIL. STEAMERS. LARGEST AND FASTEST VESSELS IN THJI WORLD. From LIVERPOOL (Via Queestown). TO NEW YORK. TO BOSTON. Mauretania,Sat.,Feb. 13 j Ivernia, Tues., Feb. 29 Lucania, Sat., Feb. 20 I Saxonia, Tues., Mar. 9 CANADA FAST ROUTE; SPECIAL RATES. For further particulars apply to Local Agents; or to THE CUNARD STEAMSHIP COM- PANY, LTD.. Liverpool. COMFORT forWOMCM CROSSING TH* ATLANTIC ( On Canadian Pacific "Empress" Steamers.' FINEST AND FASTEST TO CANADA) ONLY FOUR DAYS* OPEN SEA. 'Vpeci&l Care tilkon ef Woman knd CMMM tyj -CI&N-ADIA-N.- PAC I fl C Emigrants met at- Liverpool by Canadian Pacific a Officials. Steamers in connection with Canadian Pacific trains to all parts of Canada. For PampMeta and all Information apply- Canadian Pacific Railway, 24, James Street, Liverpool; 92, Cross Street, Manchester; 62, 65* Charing Cross, London; or local agents every- where. AMERICAN STOVES. and Cure your Smoky Chimneys. Pgave Half your Coals and Cure your Smoky Chimneys. Send far CATALOGUE (free) of Stoves to bura Coal, Coke, Wood, Oil. tec. Farmers' Boilers, Bath Geysers and (free) of Stoves to bura Coal, Coke, Wood, Oil. Gas. tec. Farmers' Boilers, Bath Geysers and Hot Water Apparatus. Kentioa the Pioneer WM. PQORE & ca. American Steve Stores. 52, ^UBEN VICTORIA ST., LONDON, E.G A BOOK FOR LADIES.,v The information contained in thil book ought to b# known by every married woman, and it will not haral the unmarried to read. No book is written which goefl so thoroughly into matters relating to married women. Some may think too much is told such can scarcely be the case, for knowledge is power and the means of taining happinesa. The book can be had in enveiüpe. from Dr. T. R. Allinson, 153 Roem. 4, Spanish-place, Manchester-square. London, W.. in return for a postal erder for Is 2d. 22606p j— TO LADIES — Irregularities, Suppressions, etc., removed by an entirely new and absolutely certain method without medicine. No pills, mixtures, or nauseous drugs to take. No useless injections. The greatest discovery of Modern Medical Science. Guaranteed harmless. It is positive safe, certain, and speedy. Does not interfere with household duties. Every case guaranteed. Do not experiment with useless remedies. Send at once a stamped addressed envelope for full particulars, and testimonials guaranteed Genuine under a penalty of £ 1,000. Mrs W. C. Brookes, ARDGOWAN BD., HITHER GREEN, LONDON. (ESTABLISHED OVER 16 YEARS). mmmsmsmmmmmmmsmm mam ^^PERFECT W For Indigestion, Anaemia, Liver Complaint, V f Biliousness, JOHNSON'S CHINESE PILLS. 1 I 1/1} per box, arc the best. For Blood Poison, I I Inflammation, Varicose Veins, Erysipelas, Bad J m Legs, JOHNSON'S XX OILS. 1/1}. Z/S.ia a M cure. A4vic«fr«c. JOHNSON Bm.iy/J| Sp«(i<fu><,Vrint Hill.'Cnwtj<Ba|W