Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
^dgoftott am gorris,
^dgoftott am gorris, GAN Y PARCH. EVAN JONES, CAERNARFON. XV. Ni raid i neb ddyfalu llawer paham y galwyd y capel Methodistiaidd yn nhop Corns yn Bethania. Y mae ei safie ar unwaith yn dweyd ei hanes-Ile yn agos i Rehoboth, Jerusalem y Corff. Yr wyf yn cofio bod yn pregethu unwaith yn y capel bychan sydd yn awr wedi ei droi yn dai wrth dalcen y capel presenol. Ond yr oedd y capel newydd presenol ar, os nid wedi, cael ei orpben; ac yno y cefais i yr hyirydwch o gyfarfod y ddeadell feelian yn wythnosol tra lum yn Ngliorris. Ychydig oedd ei nifer-dim ond tri ar ddeg a deugain o gyflawn aelodau, ac -tiga;-n o blant. Ba rhywun—yr wyi braidd yn meddwl nipli Thomas Hughes y Rhognant hefyd ydoedd— mor garedig ag ysgrifenu eu henwau, ac enwau eu cartreii, a'u rhoddi i mi ar fy nyfodiad i'r lie, ac y mae genyf byth. Yr wyf yn cael pleser mawr i edrych arni, ac i fyned dros yr enwau bob yn un, a dilyn eu hanes hyd y gallaf o hyny hyd yn awr. Ac od oes ar rywun dinod eisiau gwneyd cym- wynas i weinidog ac i achos crefydd ar ei ddyfodiad i'r lie, gwnaed iddo lechres o'r eglwys a'r gynulleidfa fydrlo yn ffurfio maes ei wasanaeth. Yr wyf yn cofio yn dda, pan symudals i'r Dyffryn, i Mr. John Roberts, y Shop Isaf, wneyd bron yr un peth i mi. Y llwyddyn flaenorol i'm symudiad, yr oeddid wedi bod yn cymeryd census plwyf Llanen- ddwyn a plwyf Llanddwywe. Yr wyf yn tybied mai yn llaw Mr. Roberts yr oedd y gwaith. A phan ddaethum i yno, cyflwyn- odd gopi o honi i mi, ac yr oedd hono ei hunan yn fy nwyn i iwy o gydnabyddiaeth a thrigolion y Dyffryn na dim allasai unrhyw ddyn ei wneyd. Y ddau enw blaenaf ar y rhestr ydyw- "Samuel a Jane Williams, Tymawr." Dyn o Sir Gaernarfon oedd Mr. Williams, yn awr mewn graddau o oedran, yn byw mewn tyddyn o'i eiddo ei hun, wedi adeiladu ty newydd amo, yn dwyn yr enw Rugog; fel mai wrth yr enw Samuel Williams, Rugog, yr oedd yn cael ei adnabod. Yr oedd yn gymeriad bollol ar ei ben ei hun, fel W mffre Dafydd a I lowland Evans, ac mor wahanol i'r ddau hyn ag ydoedd y ddau hyn. oddiwrth en gilydd. Myn'd" oedd arwyddair Wmffre Dafydd. "Pwyll" oedd arwydd- air Rowland Evans. "TreÏn" oedd aT- wyddair Samuel Williams. Yr oodd yn naturiol drefnus a delieuig. Yr oedd yn drefnus o ran «i berson. Gwisgai yn drws- iadus, ]ieb iod yn goeg. Edrychaiyn fyfyr- gar, gyda cbyffyrddiad umlwg ar lineliaii ei wynebpryd o'r meddylgar a'r prudd. Yr oedd yn drefnus yn oi feddyliau, a dilyniad gofalus, neu consecutiveness, yn nod arbenig arnynt. Nodwedd ei feddwl ydoedd treidd- garweh a grym; a pban gai ei gynbyrfu i ymaflyd o ddifrif mewn pwnc, yr oedd yn nerthol ac anwrthwynebol. Traetbai ei feddyliai mewn geiriau detholedig, brawdd- egau wedi eu caboli yn dda, a chyda tbeimlad dwys ac angerddol. Yr oedd cael Samuel Williams, fel Rowland Evans, i ddarllen penod, a'i hesbonio, mewn cyfarfod gweddi, cystal gan y rbai a ddeuant ynghyd a phregeth. Ac at y pethau hyn oil, yr oedd yn wr o gyngor ar bob achos. Wedi darllen llawer, myfyrio llawer, a cliael 11awer matbo brofiad ar lawer math o ddyn, gyda chymer- iad gloyw a difrycheulyd, yr oedd yn frenin mewn ardal, ac yn teyrnasu gyda'r saint, a chai lywodraetbu yn Bethania faint a fynai. Edrychai pawb i fynu ato. Gwrandawent arno fel eu tad, ymddiriedent ynddo fel eu brawd, ac edmygent ef a'u holl galon. Tir 1-1 Beulah i weinidog oedd Bethania yn nyddiau y proffwyd Samuel; a bu arnaf biraetb gan wai th ar oi ol. Nid wyf yn cono i mi byth fod yn Bethania ar ol ymadael; ond y mae yr enwau ar y rhestr bon yn gysegredig iawn gan fy nghalon. Gwelais rai o honynt yn oithafion y Gforilewm pell; ac y mae rlian rawr o bonynfc erbyn byn nad oes gobaith eu cyfarfod oto ond yn nhragwyddoldeb—yr hWIl nid yw yn mheil.
TAITII I EISTEDDFOD CORRIS,…
TAITII I EISTEDDFOD CORRIS, 1857. Ar ddydd Sadwrn, yn mis Mecli, ddeunaw- mlynedd-ar-bugain i leni, cynbelid Eistedd- fod fecban yn N ghorris, yn Nghapel y Metbodistiaid. Yr oeddwn i a fy mrawd, a chyfaill ini, wedi meddwl a threfnu i fyned yno. Yr oeddym ein tri yn ymgeiswyr ar amryw o'r testynau yn yr Eisteddfod. Codais yn foreu iawn y diwrnod hwnw, ac aethum i'r ydlan i orphen toi y mwdwl haidd; yr oedd yn foreu iuslyd, a'r llwydrew ar y brwyn. Yn fuan dyma'r cyfaill Edward Jones heibio, yn ol ei addewid, yn myned i'r Eisteddfod. Yr hen greadur ffyddion-y mae wedi treuho llawer blwyddyn yn Mhatagonia, ac yn fyw yno eto, am a glywais. "Beth 'wyt ti wneyd fan yna," meddai, "ty'd odd'na mewn munyd gael ini fyned i Gorris." I lawr a. fi oddiar yr ysgol ar frys ac i'r ty. I Gwnaethom ein hunain yn barod, ac ar ol j cael brecwest, i ffwrdd a ni ein tri. Cerddem' dros Fwlchsiglen, heibio i Faesygamfa, ac ar 11 1 YZO" draws mynyddoedd Gartbemiog a'r Hendre- ddu. Yr oedd ein taith yn hir a tlirafaelus, drwy gymoedd a tbros fryniau; ond ychydig a deimlem oddiwrtbi y pryd hwnw, dri hogyn llawen ac ysgafndroed. 0 adeg hapus wedi myn'd ers taim—a'r adgof am dani yn llawen ac yn budd! Cyrhaeddasom yn brydlon i Gorris dechreuai yr Eisteddfod am ddau o'r gloch. Nid wyf yn cofio yn mha le y cawsom damaid o fwyd, os cawsom beth o gwbl ar ol cyrhaedd yno. Pa fodd bynag, eyfeiriasom tua'r capel mewn pryd; a thra yn aros gydag amryw ereill am ychydig cyn myned i fewn, gwelem Ricbard Davies, Fron., Llanbrynmair, yn dyfod. Yr oeddym yn ei adwaon ef o'r blaen, wedi ei weled yn cael ei urddo yn Eisteddfod Dinas Mawddwy, oddeutu dwy flynedd cyn hyny. Yr oedd Mynyddog1 y pryd hwD. yn llano icuanc, gwladaidd yr olwg arno ond yn adoniol ei siarad, a thalentog ei ddull. Yr oedd rbyw neillduolrwydd o'i gwmpas ymgasglai y bobl ato yn naturiol. Ond ychydig ieddyliai neb y diwrnod hwnw fod y fa-tll enwogrwydd cenedlaethol yn ei aros. Nid wyf yn gwybod ei fod yn ymgeisydd ar ddim ond yn dyfod i'r cyfarfod o ran pleser. Aethom i fewn i'r Capel, ac eisteddasom bob fod yn mhell oddiwrtb y drws ar yr oclir aswy. Teimlem ynlled gys-utus, yn barod i wrandaw beirniad- aetbau, ac mewn^tipyn bach o bryder yn disgwyl bod yn enillwyr. I dywyddid yr Eisteddfod gan Mr. Hughes, iVon. wen, tad y Processor Hughes, a gynyg- iai eleni am Aelodaetb Seneddol dros ran o Arfon. Yr oedd yr hen Hughes yn llywydd cymeradwy iawn gyda'i wyneb llawen a'i barabl ffraetli. Cyn decbreu ar waith y cyfarfod, galwod i. yr ysgrifenjald, neu rywun, ar y beirid a'r llenorion o dipyn o cnwogrwydd i ddyfod i iyny ar y llwyfan, oodd liyd yn hyn bron yn wag. Gwelaf yn awr yn fy meddwl Iwyfanaid llawn o enwogion. y divtrnod liwrnv. Mae y rban fwyaf o honynt erbyn heddyw wedi myned i ffordd yr boll ddaear I)acw Evan Price (Xeuan Alchen), y pregethwr a'r bardd ieuanc gobeithiol; y siriol ei wyneb Robert Pughe (Blodeuyn M, Helygog; y cyfeillgar a difvr Howell Rowlands (Vulcan); yr ben gyfaill doniol James H. Rov/lands (Asaph Glan Dyfi), yntau y pryd hyny yn ei flodeu, wedi dyfod o'r Owmafon, am dro i'r Dinas i edrycb am ei dad a'i fain; John Jones (Eos Bradwen), y cerddor ieuanc talentog Rich- ard .Davies (Mynyddog), cbwareus ei lygad a cbyrliog ei wallt; G. Griffiths (Gutyn Ebrill), yn ddyn ieuanc pert, lion ei olwg, a pharod ei ateb; y Parch. Josiah Jones, Machynlleth, a'r Parch. Ebenezer Jones, Gorris a diau fod yno amryw ereill nad wyf yn awr yn eu cofio. Ajierchid y cyfarfod. ar y dechreu gan y beirdd ac yn eu plith darilenai Mynyddog y penillion hyny o'i wLtiti-I Wei Evan, tyr'd i lawr Yn He llosgi canwyll, Mae'th dad er's haner awr Yn trin yn erchyll." Yr oedd gandclo hefyd rai llinellau yn cael eu darllen y tro hwnw, nad ydynt gyda'r I penillion hyn yn ei lyfr, fel y canlyn :— Mi fetia' ddarn o' nghroen Mai fi fydd leia' mhoen Tua boreu dranoeth." Yr oedd myn'd odiaeth ar ei anerchiad. Darilenai of gyda'r donioklob neiUduol hwnw oedd yn unig eidd.o iddo of. Nid llawer o ganu oedd yn y cyfarfod— ddim yn debyg fel y mae yn bresenol mewn eyfarodydd o'r fath. Trefnwyd fod Asaph Glan Dyfi, a Mynyddog, yn feirniaid. ar hyuy o ddatganu ag oedd yno. Y goreu am gan un^wd, "Ey anwyl fam fy hunan," oedd rbyw Mills, o Eachynlleth, os wyf yn cofio yn iawn. Canai cor o'r Brithdir y don "Cymru Fydd," y geiriau gan Glasynys, neu ei frawd, nid wyf yn sicr pa un o'r ddau. Yr oedd yno wobr am gyfansoddi Aqthem ar y geiriau hyny, "Pa fodd y cwympodd y cedyrn?" Y beirniad ar hono oedd leuan Gwyllt. Yr oedd fy mrawd yn ymgeisydd ar yr anthem; anfonasai ddwy i'r gystadleu- aeth, a chafodd ganmoliaeth uchel iddynt. Yr oeddwn inau heiyd 'wedi rhyfygu anfon rhywbeth ar lun anthem i fewn; ond prin y llwyddais i fyned yn ddigon pell yn mlaen i gydio yn nghynffon y gystadleuaeth. Yr oedd y Gwyllt yn ei rhoddi dipyn yn drwm arnaf a chefais ddannod ei feirniadaeth lawer gwaith ar ol hyny. Bernid y farddoniaeth gan y Parch. R. Parry (Gwalchmai); ond yr oedd yntau, fel Ieuan Gwyllt, yn absenol o'r Eisteddfod. Cynygid gwobr am y bryddest oreu ar "loan yn Ynys Patmos;" a'r buddugwr ami oedd y Parch. R. Mawddwv Jones. Yr oedd efe yr amser hwnw ar fyned, os nad wedi myned i Goleg y Bala. Mawr lawenhai y cyfeillion o'r Dinas yn ei lwyddiant. Erbyn heddyw y mae yntau tu draw i'r mynyddoedd creigiog, yn eithafion America. Enillodd Owen Aran ar dri englyn i'r "Chwarelwr." Un gwych oedd Owen am englynion. A oes dim modd cael gafael ar yr englynion hyn tybed ? Holfwn eu gweled yn y NEGESYDD. Ymgeisiai Tafolog ar y "Chwarelwr" y tro hwnw. Dechreuai un o'i englynion ef fel hyn:— Y ty llawr gJâs a'r t6 llwyr glyd,—am hwn Tra mynych y sieryd." Maddened y bardd enwog i mi am gymeryd fy hyfdra i ddweyd cymaint a hyna o hanes boreu ei oes he b ofyn ei ganiatad. Yr oedd yr hogyn. hwn hefyd yn mhlith yr ymgeiswyr ar j tri engiyn; yn 'nghydag ar benilb'on "Orist yn Gethsemane." Nid wyf yn cofio yn bresenol pwy oedd y buddugwr ar y penillion hyny. Ond o bob cystadleuaeth yn y cyfarfod hwnw, yr un ag y teimlwn i fwyaf o ddydd- ordeb yn ei chylch oedd ffughanes "Y Teulu Trallodus." Yr oedd yr hen ltrynd Edward Jones, a minau, yn ymgeiswyr ar y testyn hwn; ac wedi llafurio yn ddyfal ac egniol arno. Y beirniad oedd y Parch. Josiah Jones, Machynlleth; a darllenodd feirniadaeth fanol a buddiol. Yr wyf yn cofio rbai pethau o honi hyd heddyw. Dygwyddais fod yn oreu, ac Edward Jones, yn ail. Yr oeddwn yn falch iawn wrth gwrs, ac yn teimlo yn llawen hefyd ei fod yntau yn ail. Galwyd ar y buddugwr yn mlaen; ond yr oeddwn yn rhy swil i fyned i dderbyn y wobr. Yna galwyd ar yr ail; cododd yntau yn union- gyrehol, ac aeth i fyny i'r esgynlawr; a chyn dyfod i lawr dywedodd fod y goreu yn bresenol yn y cyfarfod; "Dacw fo," meddai gan gyfeirio a'i fys tuag ataf. Bellach yr oedd yn rhaid anturio yn mlaen, ac aethum i fyny wedi caledu erbyn hyn yn ddigon dihidio. Dywedodd y beirniad nad oodd raid imi ddim cywilyddio i arddel fy nghyfan- soddiad, a cherddais yn ol i fy lie yn dra chalonog. Yn nghy:far:fod y nos darilenai y Parch. Ebenezer J ones, ei feirniadaeth. ar y traethod- au ar "Gynildeb. Cvfyngid y gystadleu- aeth bon i rai dan ddeunaw oed. Yr oedd genyf draethawd i fewn ar y testyn hwn eto, a dygyvyddodd fod yn oreu. Erbyn hyn yr oeddwn yn llawen ac yn meddwl cryn dipyn o honof fy hun ar ol enill ddwy waith yn yr un Eisteddfod. Aeth yn bur hwyr cyn i'r cyfarfod derfynu —i rywle yn ngbymydogaeth y 11.aw o'r glocb. Ar ol myned alian gwelem ei bod yn gwlawio yn drwm ac yn noswaith dywyll. Sut yr aem adref oedd y pwnc yn awr. Ofer meddwl am ddychwelyd yn ol ar y fath noson ddu ar hyd yr un ifordd ddisathr, igamogam, fryniog a phantiog, ag y daetliom yn y boreu. Yr oedd yn nos Sadwrn, yn hwyr, yn dywyil, ac yn wlyb ond penderfynai y tri llanc fyned adref ryw ffordd neu gilydd. Modd bynag, pasiwyd i'w cherdded hi o gwmpas ar hyd y ffordd fawr dros fwlch y Llyn Bach, heibio i Cross Foxes, a thros Fwlch Oor- ddrws. Yr oedd yn daith gwmpasog, ond dim help ar y fath noswaith dywyll. Cyn cychwyn i'r ymdaith nosawl tuag adref, digwyddodd ein bod yn cael bwyd. vn yr un ty a Vulcan, Aaaph Glan Dvfi, Gutyn Ebrill, ac ereill; ac y mae yn gofus genyf fod yno lawer o feaethebion doniol cyd- rhyngddynt, a'r deheuig Gutyn yn arweinydd. Er ei bod wedi myned mor hwyr, arosasom yn y lie yn hwy o lawer nag a fuasai raid o Er ei bod wedi myned mor hwyr, arosasom yn y lie yn hwy o lawer nag a, fuasai raid o herwydd y gyfeillach araboddus. Yn Uodus yr oedd Vulcan yntau yn penderfynu myned adref i'r Brithdir y noswaith hono, ac felly cawsom ei gwmni difyrus ef am ran fawr o'r daith. Yr wyf yn cofio yn burion pan oeddym ar ben bwlch y Llyn Bach. Yr oedd yn gwlawio ychydig, ac yn noswaith dawel, farw, lwyd-dywyll, hawdd i wel'd yspiyd. Gwelem y Llyn a'i wyneb llymry, yn ei ddystawrwydd ellyliaidd-beryglus yn gorwedd ar ymyl ein ffordd, a'r graig dalsyth ar lwyfan y llech- wedd serth yr ochr draw fel yn pregethu rhybuddion i'r estron-deithwyr i ochelyd y llynclyn llechwraidd. Pan ar gyfer y Llyn dechreuasom gynghaneddu bob yn ail; a chyni pen ychydig o funydau ymrithiodd yr englyn canlynol fel drych- iolaeth haner nos ger ein bron,— Y Llyn Bach allan y bydd-yn aros Yn oeraidd a llonydd A minau yn y mynyda Uwch ei ben yn edrych bydd." Wel, yn siwr," meddai Vulcan, dydi o ddim cen saled englyn a chysidro mai gwaith munyd ydio." Gwelir fod yr englyn yn wallus, ond gadawyd ef yn hollol fel y daeth i fodolaeth ar y pryd. Ar ol ein difyru yn fawr ar y daith gyda'i gwmniaeth fywiog ac addysgiadol, gadawodd Vulcan ni yn ymyl Cross Foxes, i fyned i'w gartref yn Nolygwartheg. Erbyn hyn, teimlem fod blinder wedi ein goddiweddyd, ac edrychem yn mlaen drwy wyll y nos ar Fwlch Oerddrws, eto gyda'r digalondid arwynebol hwnw a weddai i fechgyn ieuainc cryfion, iach, dihidio am ddim. Ond o gam i gam daethom drwy yr Oerddrws. Wrth droed y Bwlch trodd yntau Edward Jones, oddiwrthym i fyned i'w orphwysfa dawel, a dywedem ein "Nos da" wrtho yn swn carolau plygain y ceiliogod. A chyn hir iawn wed'yn cyrhaeddodd y gweddill o honom i'n cartref-hwyr ei weled, ac JIll" lusgasom i'n gorweddfa yn llesg a dystaw, a hi yn dyddhau i'r dydd cyntaf o'r wythnos. Yn iach yr amser gynt." ADGOF.
MACHYNLLETH
MACHYNLLETH Y mae nifer yr ysgolheigion yn yr Ysgol Ganolraddol yn awr, yn 53. CYNGHOR DOSBARTH TREFOL.—Cynhal- iwyd y cynghor hwn iofed cyfisol. Presenol, Arglwydd H. Vane Tempest (cadeirydd), Mri. E. Gillart, J. Pugh, R. Gillart, R. Rees, E. Rees, J. Thomas, J. Lewis, G. W. Griffiths, J. Edmunds, R. Owen, W. M. Jones, J. Richards, a J. M. Breeze, gyda Mri. David Humphreys, a John Jones. PRIFYSGOL CYMRU.—Mr. Richard Rees, a ddymunodd alw sylw y gynghor cyn myned yn mlaen gyda'u gwaith at y ffaith fod lleoliad Prif Ysgol Cymru yn cael sylw cyffredinol, a llawer o drefydd yn awyddus am iddi wneud ei chartref ynddynt, ond ystyriai fod gan dref Machynlleth hawliau uwch nag unrhyw dref arall yn Nghymru, o herwydd ei sefyllfa ganolog rhwng y Gogledd a'r De. Pe penderfynid ar y dref hon fel man ei harosiad, byddai yn enill mawr iddi am fod incwm blynyddol y Brif Ysgol, tua 3000p. Cynyg-iai fod cais yn cael ei wneud at Fwrdd y Llywodraethwyr yn gosod hawliau dref henafol hon i sefydliad y Brif Y sgol yn eu plith. Pleidiwyd y cynygiad yn wresog gan Mri. W. M. Jones, E. Rees, a J. Pugh, a phasiwyd yn unfrydol gyda gadael y mater yn nghofal y Cadeirydd, Mri. R. Rees, R. Gillart, a'r Clerc. Y GWAITH DWFR.—Hysbysodd y Glerc ei fod wedi ymohebu a Mri. Kirby a'i Fab, yn gofyn eu telerau am gario allan y gwaith dwfr Mewn atebiad hysbysodd Mri. Kirby, mai eu telerau fel peirianwyr, fyddai 5 y cant, ar y treuliau gyda chostau teithio yr hyn na byddai dros 4op. Yr oedd Mr. C. Kirby, yn bresenol. Mewn attebiad i'r Cadeirydd, dywedodd mai y cvnllun goreu, ag eithrio Llyncae, oedd un Esgaireira Yr oedd y Cyngor yn gofyn a allai ef gario allan y cvnllun dan 5,38 2p. Dywedodd y gallai gostyngiad fod yn ngosodiad y pibellau dwfr ond ystyriai y byddai yn resyn tori i lawr gostau cynllun yr argae. Barnai fod i,400p am wneud yr argae yn bris isel. Yr oedd eto ansicrwydd am natur y sylfaen. Da fyddai gwneud ymchwiliad i hyn. Byddai pibellau pum' modfedd yn ddigon. Yna ymneillduodd Mr. Kirby, Awgrymodd y Clerc, am i Mr. Kirby,ail-ymweled ag Esgaireira, i weled a allai leihau yr amcangyfrif. Dywedodd Mr. E. Jones, y byddai costau y dwfr, a'r garthffosydd, yn 7,5cop, ar cwestiwn yn awr yw, a oeddynt fel tref yn barod i ymgyniervd a hyn. Yr oedd efoblaid cvnllun trwyadl a cl^awn, ar delerau rhesymol. Siaradwyd yn yr un cyfeiriad gan eraill, a phasiwyd ar gynygiad Mr. J. Pugh, fod Mri Kirby, yn cael eu penodi ynbeirianwyr y gwaith dwfr, i ymweled ag Esgaireira, a dwyn cynllun diwygicdig cs gallant erbyn y Cyngor nesaf.
DERWENLAS.
DERWENLAS. Cymerodd etholiad y Bwrdd Ysgol le dydd Sadwrn fel y canlyn :—J. Griffiiths (ieu), Der- wenlas, 69; J. Jones, Glanmerin, 59; L. Lewis, Troedyrhiw, 56; Cadben Richards, Machynlleth, 52 Parch. Wnion Evans, Mach- ynlleth, 46; a J. Rees, Black Lion Inn, 42. Y pump blaenaf a etholwyd. Gweithredodd Mr. D. Evans fel swyddog dychweliadol; a Mr. D. Morgan yn swyddog llywyddol.
BWRDD YSGOL TALYLLYN.
BWRDD YSGOL TALYLLYN. Nes Lun, Medi 23ain. Presenol, Mr. Rhys Owen, yn gadair; Meistri Richard Williams, J. P. Jones, a D. Ifor Jones, clerc. Mewn atebiad i lythyr oddiwrth Miss J. Roberts, hyspyswyd fod y Bwrdd eisoes wedi hyspysebu am un i lanw ei lie yn Ysgol Corris. Darllenwyd Adroddiadau y llywod- raeth am yr Arholiad ar Drawing yn Ysgolion Tynyberth, ac Aberllefenni. Fair oedd y tir gyrhaeddwyd gan y ddwy Ysgol. Trefn- wyd i wneyd rhyw fan welliantau wrth Ysgolion Corris, a Tynyberth. Pender- fynwyd sefydlu Ysgol nos eleni eto yn y tair Ysgol. Awyddai y Bwrdd yn fawr weled ieuengctyd yr ardalyn gwneyd defnydd priodol o'r manteision hyn.
CYMANF A DDIRWESTOL MEIRION.
CYMANF A DDIRWESTOL MEIRION. Cynhaliwyd Cymanfa Ddirwestol Meirion yn Harlech, nos Fercher a dydd Iau. Bu y cyfarfod cyntaf yn nghapel y Bedyddwyr, nos Fercher, dan lywyddiaeth y Parch. D. Davies (Dewi Eden), Harlech. Traddodwyd anerch- iadau i'r plant gan Mr. Griffith Williams, Minffordd Parch. John Roberts, Corris a'r cadeirydd. Boreu Iau, cynhaliodd Cymdeithas Ddirwestol Merched Meirionydd eu cyfarfod- ydd blynyddol yn nghapel yr Annibynwyr, Mrs Dr. Jones (Harlech) yn y gadair. Pasiwyd nifer o benderfyniadau yn ymwneyd yn arbenig gyda dyledswyddau dirwestwyr i ddarparu moddion i wrthwneyd dylanwad y tafarnau. Yr un adeg, yn nghapel y Bedyddwyr, cynhal- iwyd cyfarfodygymanfa. Darllenodd yysgrifen- ydd ei adroddiad, yn cyfeirio at sefyllfa yr achos dirwestol y sir, ac yn cwyno oherwydd y gefnog- aeth wael a roddir i'r achos gan y dosbarth canol yn y trefydd a'r pentrefi. Nid oedd ond un drwydded wedi ei difodi yn ystod y flwyddyn, ond ar yr ochr arall ni chaniatawyd un drwydded newydd. Ond ofnid fod ymyfed yn mynd ar gynydd ymysg dynion a merched ieuanc. Gwnaed llawer o ddaioni mewn rhai lleoedd, ac yr oedd Corris ar y blaen. Mabwysiadwyd yr adroddiad ar gynygiad Mr. W. Roberts, Maentwrog, yn eael ei gefnogi gan y Parch. J. Roberts, Corris. Ar gynygiad y Parch. R. y Jones, Abermaw, yn cael ei eilio gan Mr. O. Hughes, Dinmel, a'i gefnogi Mr. E. L. Rowlands, pasiwyd penderfyniad yn galw sylw ein pobl ieuanc at yr arferion yn nglyn a chlybiau arbenig— cicio y bel droed, golf, &c., a'r temtasiynau oedd yn nglyn a hwy i yfed y diodydd meddwol. Bu dadl frwd ar gynygiad y rhoddwyd rhybudd am dano gan Mr. T. M. Williams, Abermaw, sef nad oes yr un person i gael ei ofyn i gymeryd rhan ar bwyllgor y gymdeithas, nac yn y gynhad- ledd, os nad oedd yn llwyrymwrthodwr, ond pasiwyd ef. Pasiwyd hefyd ar argymhelliad y Parchn. T. R. Jones, y Bala, D. Roberts, Rhiw, a Mr. E. D. Jones, Ysgol Sirol Abermaw, benderfyniad yn galw ar yr eglwysi i roddi cefnogaeth i ystafelloedd darllen, ac i roddi eu gwyneb yn erbyn arferion is-raddol yr oes. Galwyd hefyd, mewn penderfyniad arall, ar holl gyfeillion dirwest i wneyd yr hyn oil oedd yn eu gallu i geisio perswadio eu cyd-ddynion i roddi goreu i'r ddiod feddwol, a d'od yn llwyrymwrthodwyr. Yn y prydnawn llywydd- wyd gan Mr. J. Maethlon James, Towyn, a phasiwyd penderfyniadau yn pwyso ar yr eglwysi i ddysgu y plant i lwyrymwrthod a thybaco a'r ddiod feddwol yn galw ar Mr. Herbert Lewis, A.S., i ddwyn i mewn ei fesur i wella deddf Cau ar y Sul ac i gynwys ynddi adran i gau yn gynar ar nos Sadwrn, a .1 y chau'r holl dafarndai ar ddiwrnod etholiad; ac yn gwrthwynebu codi trysorfa i dalu iawn i'r tafarnwyr, rrwy godi y doll ar y trwyddedau a adnewyddir. Cymerwyd rhan yn y gweithred. iadau gan Mrs. Wynne Williams, Dolgellau; Mrs. Morgan, Ffestiniog Parchn. W. R. Jones (Llanfrothen), W. Pari Huws, R. H. Huws, William Jones, Trawsfynydd John Williams, B.A., Dolgellau; John Roberts Corris T. M. Williams, Abermaw; J. Hughes, Ffestiniog R. Owen, Corris W. Owen, Abermaw Plenydd a D. R. Daniel ar ran Cyngrair y Deyrnas Gyfunol a Cheridwen Peris ar ran Cymdeithas Ddirwestol Gwynedd. Yn yr hwyr, bu Dr. Edward Jones yn llywyddu ar gyfarfod cyhoeddus llwyddianus iawn,