Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Jl&go'fton ctm oorri-,51

News
Cite
Share

Jl&go'fton ctm oorri-,51 GAN Y PARCH. EVAN JONES, CAERNARFON. XIV. Adeg adeiladu Capeli yng Nghorris oedd yr adeg y daethym i yno. Yn 1866- flwyddyn cyn fy nyfodiad—yroedd y W esley- aid wedi symud o Carmel, yr hwn a safai ar yr oehr arall i'r afon, i gapel hardd ac eang Siloh, bron yn ymyl Rehoboth. Yr oedd yr Annibynwyr yn prysur fyned ati i adeiladu Salem. Ac, i beidio bod yn ol, yr oedd yn rhaid i'r Methodistiaid hwythau ymysgwyd am gapel newydd. Nid oedd dim drwg yn hyn ac eto gall- asai ymddangos, a chael ei esbonio, fel arddangosiad o rywboth heb fod yn dda- rhywbeth tebyg iawn i eiddigedd a chyd- ymgais enwadol. Ac nid wyf yn hollol sicr nad oedd cyfiyrddiad o rywbeth felly ynddo o'i ddechreu. Rywbryd oddeutu 1860, adeiladwyd eglwys newydd yno, gan y diweddar Ardalydd Londonderry—peth newydd iawn yn Nghorris. Yr oedd yr offeiriad, y diweddar Ganon Evans, am yr hwn y bydd genyf achos i grybwyll eto, yn ddiau yn un o'r pregethwyr goreu yn yr Eglwys Scfydledig, ac yn un o'r eglwyswyr mwyaf selog yng Nghymru, er fod ei deulu yn Fethodistiaid. Tynai la-wer i'w wrando, ac yr oedd lie lluaws o'r rhai hyny yn rhwym o fod yn wag yn y Oapeli. Nid wyf yn tybied i hyn effeithio ar y Wesleyaid yn fwy nag ar eraill. Ond, os gwir yr hyn a ddywed y Parch. Griffith Ellis, yn Hanes Methodistiaeth Corns, sef ddarfod i'r Llanwyr mwyaf selog ymwasgu at Wesley- aid yn lied fuan ar ol eu dyfodiad cyntaf i'r gymydogaeth, yr hyn a fu yn fantais neilldu- 01 i'w cynydd;" ni fuasai yn annaturiol, ar ol cael eglwys yng Nghorris, i rai o'r Llan- wyr hyny, neu eu hiliogaeth, ddychwelyd i'w hen gorlan. Modd bynag am hyn, y Wesleyaid deimlodd gyntaf, ac y maent yn hwylio ati i godi capel newydd, a hwnw o fewn ergyd careg i Reho both, a hwnw yn un mawr a golygus—mwy, mi dybiaf, na'r ail Rehoboth. Yr oedd yr Annibynwyr wedi symud (J Achor, yn ymyl Rhiwgwreiddyn, i Beny- graig, yn ymyl Corris. Fel yr oedd y lie yn cynyddu, a'r achos yu cryfhau, nid oedd dim yn fwy naturiol nag iddynt hwythau awyddu am gapel mwy teilwng o'r achos ac o'r enwad. Ac yr wyf yn cofio yn dda am y llawenydd gyda'r hwn y dywedai y diweddar Mr. David Morgan, o Fachynlleth,—brawd i'r ddiweddar Mrs. Hugh Morgan, o Fachyn- lleth, a mam i'r diweddar Archddiacon Morgan, o'r Rhyl, ac i Mr. Edward Morgan, Archwiliwr Cyfrifon Undebau Gogledd Cymru—wrthyf fel yr oedd wedi bod yn prynu tir i adeiladu capel newydd i'r Anni- bynwyr yng Nghorris. Llawer gwaith y bum yn coisio yn daer ganddo adael i'r cyfeillion gael ei adeiladu ar ochr yr heol, ac nid yn y cefn; ond yr oedd yn hollol ddioruchwyliaeth ar y mater hwn ei gynllun ef 0 gapel oedd Capel y Graig yn Machyn- lleth—wedi ei adeiladu, nid yn front yr heol, ond mewn distawrwydd o'r neilldu. Da genyf er hyny, fod y cyfeillion erbyn hyn, wedi sicrhau yr holl dir o hono hyd yr heol. Ond, fel y dywedais, yr oedd yn hollol natur- iol i'r Annibynwyr symud i Ie mwy cyfleus, a chodi adeilad gwell nag oedd gan yr un enwad arall. Nid wyf yn dweyd mai hyn oedd achos, nac hyd yn nod achlysur, ail-wneyd Rehob- oth. Yr oedd yno lwyr-eisiou capel newydd. Ond yr wyf yn credu fod a fyno y ry, ii-racl- iadau blaenorol ag adnewyddiad Rehoboth, m a'r penderfyniad y daethpwyd iddo o'i wneyd yn gapel hardd—harddach na'r lleill; ac, mor bell ag y mae rhyw arlliw o wirionedd yn myned, gellir dweyd fod y syuiudiadau b-,n- -o ddechreu codi yr Eglwys newydd hyd ^ei orpheniad—yn ymddangos fel rhyw fath 0 gydymgais enwadol, ac felly 0 r drwg. Ond nid drwg i gyd. Dygodd codi yr Eghvyg a threfniadau eglwysig newydd i'r Cefais y fraint o glywed .a .y doniau goreu a feddai y "Wesleyaid—ac yn •eu mysg Dr. Win. Davies, gwr o ddoniau anarferol-yn Siloh. Ac wrth agor Salem, y clywais Dr. Herber Evans gyntaf erioed. Yr oedd y cydymgais hwn hefyd yn sicrhau mwy o ymdrech i godi capeli gwell. Ac er fod y dyledion yn fawr ar y pryd, erbyn heddyw yr wyf yn credu eu bod wedi eu llwyr symud. Modd bynag am hyn, penderfynodd yr Eglwys a'r gynulleidfa yn Rehoboth gael Oapel newydd, a'i gael yn hardd. Caed cynlluniau gan yr archadeiladydd medrus o Borthmadog, Mr. Owen Morris Roberts, adeiladwyd ef gan Mr. William Jones, ac y mae yn un o'r capelau harddaf yn sir Feirionydd. Yr wyf yn cofio yn dda y pryder oedd yn y meddwl wrth feddwl am fyned i yn agos ddwy fil o bunau o draul. Pender- fynwyd cael Parchedig tra chymeradwy o'r Abermaw—Mr. David Davies, yno ryw nos- waith i bregethu, ac i osod yr achos ger- bron ar ol y bregeth. Cofus genyf am yr hen dad W mffre Dafydd, ar ol addaw can punt ei hunan, yn arwain Mr. Davies, o amgylch y capel fel bachgen i gasglu addewidion, ac yn cael gan bawb addaw yn helaet-h yn ol eu moddion. Ni fu dim trafferth cael arian. Yr oedd y gynulleidfa drwyddi yn arianog, ac yn barod i gyfranu. Talwyd am y Rehoboth diweddaf yn llawer cynt na'r ail Rehoboth, yr hyn a ddengys, nid fod gwell calonau gan y Methodistiaid diweddar na'r rhai cynt, ond fod eu hamgylchiadau yn well. Ac y mae hyny yn destyn llawenydd a diolchgarwch digymysg.

( MACHYNLLETH

YSGOL SIROL GANOLRADDOL TOWYN.

TRO YN NGHYMYDOGAETH WRECSAM.

GWYNFYNYDD.

DOLGELLAU.

LLANBRYNMAIR.