Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

ufpub armage. ^S-^II'TiwWiii!'"'Ii'lVnlf

News
Cite
Share

ufpub armage. ^S-^I 'TiwWiii! 'I i'lV nlf PREGETH GAN DR. T. DE WITT TALMAGE. Y TAIR CROES. A phan ddaethant i'r lie a elwir Calfaria, yno y croeslioeliasant Ef, a'r drwg weithredwyr, un ar yllawddehau, a'r Hall ar yr ,,sivy. "-Luc XXIII, 23. Golygfa diwrnod y croeshoeliad—Croes y Haw ddehau—GelyniaetL y groes dde at yr un ganol— Anghrediniaeth ydioddefydd Dyfnder ei gwymp Croes y llaw ellwitlj-Un edifeiriol-Uii grediniol -Un ganol—Croes yn dwyn afalau cariad—Un y dioddefaint mwyaf— Un ddirprwyol ydoedd-Y Goron Swisaidd—Croes i ymaflyd ynddi. (ParhadJ. Croes ddirprwyol ydoedd. Dioddefodd y groes dde drosti ei hun; ond y groes ganol drosot ti. Pan yr oedd brenin yn marw, ie waeddodd dyn ieuanc: "Gyrwch fy ngwaed i i'w wythienau, fel na byddo marw." Agorwyd gwythienau y dyn ieuanc a throsglwyddwyd y gwaed; fel y bu.'r brenin fyw, ond bu farw y dyn ieuanc. Gwelodd Crist y ddynoliaeth yn marw. Grwaeddodd: "Gollyngwch fy ngwaed i'w gwythienau, fel na byddont feirw." Mae fy Haw i yn rhydd yn awr, canys drylliwyd un Crist. Mae fy nhalcen yn ddiboen yn awr, canys archollwyd un Crist. Mae fy enaid yn dianc, canys Crist a rwymwyd. Enill- af y nefoedd, oherwydd darfu i Crist drosof fi ddioddef holl ddycmrynfeydd uffern. Pan yr oedd y Swissiaid am lawer o flynyddau yn ymladd a'u gelynion gwelsant y gelynion hyn yn sefyll yn llu cadarn trefnus, ac ni wyddent pa fodd i dori drwy y l'hengau; ond rhuthrodd un o'u gwroniaid allan gerbron ei gatrawd, a gwaeddodd: u Ciliwch y ffordd i Ryddid! Treiddiodd y gelyn eu harfau i'w galon, ond pan oeddynt yn ei ladd ef, wrth gwrs torwyd y rhengau, a thrwy yr adwy yna yn y l'hong'au yr aeth y Swissiaid i fuddugoliaeth. ^welodd Crist boll alluoedd y tywyllwcb. yn ymosod ar ddynion. Gwaeddodd allan: Cliriwck y ffordd am brynedigaeth y byd." Tarawyd Ef gan holl arfau digofaint liffernol, ond fel y tarawsant Ef arweiniwyd y byd i ryddid. At y groes ganol yma, fy ngwrandawyr niarwol, edrychwch, fel y byddo byw eich eneidiau. Dangosais y groes dde i chwi fel y gallech weled peth mor ofnadwy ydyw "bod yn anglirediniol. Dangosais y groes cliwith i chwi fel y gwelech pa beth yw edifarhau. Yn awr yr wyf yn dangos i chwi y groes ganol fel y gwelech pa beth & "Wnaeth Crist i achub eich eneidiau. Mae beircld wedi canu eu mawl iddi, cerflunwyr 'Wedi ceisio ei hanfarwoli mewn mynor, ac y ^ae merthyron wedi glynu wrthi yn y •ttiainau, a Christionogion wedi marw yn da Wei yn eu gwelyau gan bwyso eu pen arni. -t>ydded i'n heneidiau yr awr hon ei chofleidio gyda serchowgrwydd gorlawn. Cymer afael yn y groes yna, o bechadur! Fe dry pob peth arall yn siomiant. Heb afael cryf ar liona chwi drengwch. Ehoddweh eich llaw ar hona a byddwch ddiogel, er i'r byd lithro dan eich traed. Ffydd yn yr Hwn a groeshoeliwyd arni a'ch ceidw byth. 0! na allwn argraphu yn annileadwy ar eich eneidiau y tair croes, ac os yn eich munudau effro na wnewch dalu Sylw, yna y bydd i chwi yn eich breuddwyd heno weled ar y bryn tu ol i Jerusalem, y tair golygfa-y groes dde, yn dangos anghrediniaeth, ac yn marw heb Grist—y groes chwith, yn dangos maddeuant—pan y mae y groes ganolog yn tywallt ar 11 eich enaid ffrwd o oleuni nefol fel y mae yn dweyd Drwy y clwyfau hyn yr wyf yn ymbil am dy galon. Cerais di a chariad tragwyddol. Afonydd nis diffoddant, llifogydd nis gall ei foddi Tra yr ydych yn syllu fe ddifana y groes ude allan o olwg, ac wed'yn aiff y chwith Ymaith. Ni bydd dim yn aros ond y groes ganol, a bydd hyd yn nod hono yn eyfnewid yn eich breuddwyd nes myn'd yn orsedd; a bydd gwyneb gwywedig Calfaria yn myned yn wridog o llawenydd; ac yn lie gwerinos aflywodraethus wrth droed y groes bydd tyrfa yn penlinio. Ac fe fyddwch chwi a luillau yn eu plith. Duw a ganiatao hyny.

ABERGYNOLWYN.

--------_-.. Y PARCH. EVAN…

LLWYNGWRIL.

CARNO.

Family Notices

CYFLWYNIAD ANRHEG I MR. HUMPHREYS-OWEN,…

AT DDIRWESTWYR CORRIS AC ABERLLEFENI.

j——'— ABERYSTWYTH.

[No title]

CORRIS.

PIGION.

AE GEWYDS.

Y MARfJHNADOEDD.

Advertising