Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
I I Ffestiniog a'r Cylcrtoedd.…
News
Cite
Share
Ffestiniog a'r Cylcrtoedd. Y Parch. Phylip Jones.-Mae'r gwr da uchod wedi yrnneilltuo o wasanaeth yr K.A.M C. ers misoodd, ac wedi sefydlu yn y Penrhyn. Llawenydd gennym weled ei iechyd wedi ei adfer mor dda. Y mae'n awr yn abl i bregethu. a bydd at wasanaeth yr eglwysi. Gwr siriol a ffyddlawo yw efe, ac yn bregethwie rhagorol yn y ddwy iaith. Et gyfeiriad bellach fydd Penrhyndeudraeth, North Wales.' Yn Ganmlwydd Oed.—Y flwyddyn hon bydd Annibyniaeth ym mhlwyf Ftestiniog yn cyrraedd ei ohanfed flwyddyn. Sefydlwyd eglwys Annibynnol gyntaf yma yn y flwyddyo 1817, cyfansoddedig o saith o aelodau. Erbyn hyn y mae y saith hyuny wedi cynyddu yu saith eglwys. Pregethwyd yn yr ardal gan Morgan Llwyd a Hugh Owen, Bronyclydwr, ae eraill. Yr oedd hynny yn yr eilfed ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif. Oad ni sefydlwyd eglwys yma hyd yr adeg a nodwyd. Bethania yw y fam eglwys. Yng nghwrs amser sefydlwyd Saron (Bethel erbyn hyn), Carrael, Salem, Jerusalem, Bryn- bowydd a Hyfrydfa. Mae i'r Enwad hanes anrhydeddus yn Ffestiniog, a gwnaeth ei ran i wneud y dref a'r plwyf yr hyn ydyw haddyw Bwrxedir eyonal cyfarfodydd yn ystud mis Hydref i ddathlu yr amgylchiad diddorol. Cymanfa Ganu y Plait t.-Cyn bali wyd hon ddiwedd mis Mai, a chaed Cymanfa ragorot. Blaenorid y ddau gyfarfod gan orymdaifch fawr- eddog drwy heolydd y dref. Synnid pawb gan 'd piwb 4c, liosowgrwydd y dorf yn wyneb fod cymaint wadi ymado oherwydd y dirwasgiad masnachol a'r rhyfel. Yr unig dant pruddaidd ydoedd absenoldeb y dynion ieuaiuo. Cynhelid y cvf- arfodydd yn Jerusalem, ac arweiniwyd yn fedrus iawn gan Mr. Richard M. Jones, Bethaaia. Yr oedd 61 Ilafur mawr ar yr holl gyflawniadau, ac y mae arweinwyr y Gobeith lnoedd yn haeddu clod am en gwaith a'u llafurus gariad. Bu i nifer dda ennill tyst. ysgrifau y Tonic Sol-ffa. Y Fasnach Lechi.-Parhati yn dra isel v mae'r fasnach hon o hyd. Mae nifer y gwaith- wyr yn y gwahanol chwarelan wedi 'l!eih&u o 4,000 i 800. Felly tuag un sy'n gweithio heddyw am bob pedwar ddeuddeg mlynedd yn ol. Ond parheir i hyderu y tyr gwawr ar fyd y chwarelwr pan derfyno aflwydd y rhyfel. Mae pob arwyddion y bydd adeiladu mawr ar dai trwy y deyrnas pan gyhoeddir heddwch, a bydd galw prysur am ddefnyddiau toi i adgyweirio y galanastra yn Belgium a Ffrainc A gynted y try y Oanw, bydd cannoedd o blant Ffestiniog yn prysuro eu camrau i fro ea genedigaetb. Mae gan yr hen fvnyddoedd garw swyn ddiollwng i'r rhai fagwyd wrth eu traed lirysied y dydd. M.
I Nodion o'r Groes Wen a'r…
News
Cite
Share
Nodion o'r Groes Wen a'r Cylch. Cwrdd Blynyddol.—Cynhaliwyd yr uchod ar y Sul a r Llun cyntaf yn Awst, a'r etholedigiou eleni oedd y Parchn. Phillip Jones (MO) Pontypridd Edwin Jones, Rbydfelen Jenkio Jones, B.A, Glandwr; a D. J Lewis, B A., Tumble Methodd yr olaf, er pob yvadrech, a throi i fyny, a ilanwyd y bwlch ar y funud olaf gan y Parch. D. W. Edwards, B.A., Penmain Cafwyd odfeuon yagubol, cynulliadau aoferth ac arwyddion sicr o ewyllys da Preswylydd y berth. Beddfaen y Diweddar Barch J. D. Williams Cariwyd barn y mudiad a nodwyd o'r diwedd i fuddugoliaeth. Drwy garedigrwydd eithr- iadol Syr Owen M. Edwards, ymdrech gwein- idog y lie, cefnogaethy Cymdeithasau Cymraeff teyrngarwch y Tabernacl, Penybont, a hael frydedd personau unigol y dygwjd hyn oddi- amgylch  blant mwyaf talentog v ?M!?ygnyy1d^ d Du oedd efe, ac fel hyn yr englynodd Gwydderig o'i ol.- Athrylith o'i threialon—ehedodd At ei Hawdwr tirion; O'i faes aeth, tra enfys Ion Ar ei uchel ymdrechion. Gwyl De a Chwrdd y Gobeithlit.-Cawd adeg dda gyda'r ddau yn Nantgarw dranoeth i'r wyl bregethu. Gwnaeth y chwiorydd eu gwaith fel arfer wrth y byrddau, a phrofodd ffrwvth ymdrechion Mr W. O. Williams (gynt o Yoye- ybwl) gyda'r plant yn gredyd mawr iddo ef a hwythau. Arhoed bendith. COFNODYDD.
Arholiad 1917. ! ArhoHad…
News
Cite
Share
Arholiad 1917. ArhoHad 1917. Pleser i mi yw cael cyfle i hysbysu y Cymro aiddgar o'r Barry mai un rhan o saith o bapurau Dosbarth IV a ysgrifennwyd yn yr iaith Saesueg; ond teg yw addef fod y papurau Saesneg oil, fel y galiesid disgwyl yng ngoieu cyil ?ust»rauV oes, yn bur ddifrychau o ran iaith ac yn nodedig o ddestl us a chryno. Gwnaed y nodiad am y Gymraeg or mwyn symbylu'r efrydwyr ieuainc i ddal maptais ar y bri presennol sydd ar yr hen iaith yn y tir, gan fod ei chlasuron heddyw yn cael eu cyhoeddi yn hynod o rad, ao ni raid ychwanegu fod ei phrit glasur yn eu dwylaw oil. JOHN DAVIES, Arholwr.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GENr, PRIODI, A MARW. PRIODASAU. DAVIES-JONES— Dydd Mercher, Awst laf, yng nghapel y Priordy, Caerfyrddin, gan y Parch. T. Lloyd Jones, B.A., B.D., Pencader, Mr. David Davies, mining engineer, mab Mr. a Mril. D. Davies, Coegnant House, Maesteg, a Miss Katie Jones, merch iouengat Mr a Mrs J. L. Jones, Albion House, Pencader. Gwasanaethwyd ar y briodferch gan Miss Polly Jones, ei chwaer, a Miss Dilys Davies, chwaer y priodfab, ac ar y priodfab gan ei frawd, Sergeant Davies. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei thad. Ymhlith y gwihoddedigion yr '< oedd Dr. a Mrs. J. Bowen Jones, Caerdydd, brawd a chwaer-yng-nghyfraith y briodferch. Wedi mwynhau y wledd briodasol yn yr Ivy Bush, Caer- fyrddin, aeth y par iellanc ymaith i Gaerdydd ac Ilfracombe i dreulio eu mis rael. Perthyna y ddau deulu parohus i eglwysi Annibynnol-y naill yn-y Tabernacl, Pencader, a'r Hall yn Soar, Maesteg. Yr oedd y briodferch yn organyddes ym Mhencader. Derbyniodd y ddenddyn ieuanc lawer o anrhegioil gwerthfawr. Pob bendith a'u dilyno. MARWOLAETHAU. CASSAM.—Prynhawn Sadwrn, Mehefln 23ain, yn 10, Alma-street, Tynewydd, Treherbert, y chwaer annwyl Mrs. Sarah Cassa.m, priod Mr. David Cassam, yr hynaf o ddiaconiaid eglwys Ebenezer, Ty- newydd. Yr un eiliad ymron, bu farw hefyd eu' mab-yng-nghyfraith, aunwyl briod Rebeccah, eu merch. Tarawyd ef yn glaf pan wrth ei waith yag Nglofa Blaeuyewm. Cludwyd ef gan ei gyd- weithwyr i'w gartref yn Miskin-street, ac yu union wedi croesi y trothwy i'r ty, ehedodd ei ysbryd i'r byd tragwyddol. Y dydd hu canlynol ymgasglodd tyrfa fawr o bobl ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddynt, a gosodwyd gweddillion marwol y ddau i orwedd yn ymyl eu gilydd yng Nghladdfa Gy- hoeddus Treorci. Gwasanaethwyd yn yr angladd yn y tai gan y Parch. J. C. Jones, Ebenezer, Ty- newydd ac ar lan y beddau gan y Parch. J. C. Jones, W. Evans (B.), Blaenycwm; T. Lewis, Emmanuel; D. Williams (M-C), Horeb; E. G. Davies, Abertridwr; a T. Jo es, Pwll, Llanelli. Dyma ymweliad cyntaf angeu a'r teulu caredig yn Alma-street, ac ym marwolaeth Mrs. Casspm coll- wyd un o ragorolion y ddaear-mam yn Israel a brenhines yn y teulu. Yr oedd y dyrfa fawr welwyd yn yr angladd yn warogaeth barchus ardal boblog i gymeriad da. Yr oedd iddi air da gan bawb. Anodd cael ei charedicach. Dymunai'n dda i bawb, a gwnai ei goreu i bob un. Bu'n aelod ffyddlon a gweithgar o eglwys Ebenezer am flynyddoedd lawer. Yr oedd Hwyddiant yr achos bob amser yn agos at ei chalon. Meddiannai feddwl cryf ao ysbrydol. a phrofiad crefyddol uchel. Diddorol ac adeiladol oedd ei chymdeithas. Yr oedd ei pharoh i bethau a phersonau cysegredig yn hanner-addoliad. Ganwyd i Mr. a Mrs. Cassam un ar ddeg o blant. Gydag un eithriad, sef Margaret, yr hon sydd yn Awstralia ers blynyddoedd, yr oeddynt oil yn bresennol yn angladd en mam. Yn ei theulu, llanwai Mrs. Cassam eiriau Lemuel frenin am y wraig rinweddol. Mae graen ei gofal, ei diwydrwydd a'i doethineb arno. Hynod yw ei gwr hi yn y pyrth.' 'Ei phlant a godant ac a'i galwant yn ddedwydd,' ac y mae ei gweithredoedd hi arnynt yn ei chanmol yn y pyrth. Y mae Tom, yr hynaf o'r plant, yn overman yng Nglofa Seng- hennydd, yn ddiacon gofalus yn eglwys Abertridwr, ac yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy yn holl eglwysi y cylch Y mae David John, yr ail o'r plant, yn arolygydd llwyddianniis iawn dan Gwmni Yswiriant yn Nhreherbert, ac yn gyd-ddiacon a'i dad yn eglwys Ebenezer. Y mae'r trydydd, sef William Henry, yn weinidog da i Iesu Grist, ac yn barchus iawn ymhlith pobl ei ofal yn eglwysi Hen Gapel, Llanybri, a Bethesda, sir Gaerfyrddin, ac y mae'r lleill oil mewn bywyd a buchedd yn dystion i nerth a dylanwad dyrchafol aelwyd grefyddol. Yr Arglwydd fyddo yn nodded a chysur i'n. brawd annwyl ym mhrydnawnddydd ei fywyd, a chaffed y plant oil broli o ddiddanwch yr Hwn ddiddanu fel mam.
[No title]
News
Cite
Share
SYCHTYN. WYDDGRUG.—Gwasanaethwyd yng nghyfarfodydd pregethu yr eglwys uchod, Awst 6ed a'r 7fed, gan y Parchn. Peter Price, B.A..ID. D., Rhos, a J. Howell, Poncian.
YN LLANDRINDOD. I 'I
News
Cite
Share
som wneid hynny ynjhollol1 ar yr un llinellau a phregethu goreu Cymru. Y Parch. Dr. Dixon, olynydd Mr. Spurgeon, oedd prif bregethwr y gyfres, a. phregethai yn odidog-yn efengylaidd, syrnl, gwresog, diddorol, a bachai ei wirioneddau yng nghalon a chof a chydwybod ei gyiiull- eidfa gyda'r egturebau mwyaf tarawiadol a chwaethus a glywsom. nemawr erioed. Yn sicr, mae Dr. Dixon yn un o efengyl- wyr mwyaf ei oes, a dywedwn hyn er nas gallwn gytuno a'i olygiadau a'i ragfarnau cryfion ar fwy nag un pnviie. Clywsom ef-Ibum waith, a theimlem yn iachaeh a chrvfach a mwy argyhoeddedig o nerth yr Efengyl, a'i digonolrwydd dwyfol ar gyfer pob galw ac angen ysbrydol a chym- deithasol, ar ddiwedd pob oedfa. IJavverf- haem hefyd i weled a gwrando'r Canon Talbot Rice, Abertawe, yn cymryd rhan amlwg yn y cyrddau, a siaradai yn efengyl- aidd a difrifol ac agos.' Y brodyr blaen- llaw Cymrei oedd y Parchn. Keri Evans, R. B. Jones, Ynyshir, a W. W. Lewis, Abertawe, a phregethent oil yn wych. er yn fyrach na'u harfer gyffredin. Cawsant oil gynulleidfaoedd lluosog i'w gwrando, ac yr oedd eneiniad amlwg ar rai o'r odfeuon, er na tharawyd o gwbl y nodvn mawr a glywsom ar rai adegau yn uchel- wyliau Cymru. Ni tharawodd hyd yn oed Dr. Dixon hwnnw, er iddo unwaith neu ddwy fod yn ei ymyl. Symledd a dwyster ymarferol yr Efengyl a bwysleisid yn hytrach nag arddunedd a gogoniant ei gwirioneddau mawr. Ond rhaid fod angen mawr am hyn cyn y buasai cynifer yn dod i Landrindod am bum niwrnod ar eu traul eu hunain i'w fwynlrau, a'i droi vn faeth a nerth i'w cymeriadau. Nis gallem lai na chywilyddio wrth feddwl fod yr enwadau yn rhoi i fyny eu Hundeb a'u Cymanfa Gyffredinol a'u Sasiwn, er eu dirfawr golled yn ddiau ar yr adeg bres- ennol, tra'r oedd cyfeillion y Confensiwn yn mentro i'w gynnal fel arfer, ac yn llwyddo yn eu hymdrech. A oes llai o set yn yr enwadau nag y sydd vmnlith y brodyr da hyn sy'n pwysleisio un agwedd bendant ar grefydd ? Neu a ydynt mewii gwirionedd yn ffurfio enwad o fewn yr enwadau, ac fod cryn lawer o'r sel yn codi o hyn, er, bid siwr, yn hollol anymwybodol iddynt eu hunain ? Hawdd fyddai codi cwestiynau anorffeu, ond nid hollol ddi- fudd, i'r cyfeiriad hwn, a chredwn yn onest fod lie i feirniadaeth deg a charedig ynglyn a rhai agweddau i'r Confensiwn, eithr byddai yr un mor hawdd camesbonio'r feirniadaeth a throi i wag ddadlu, fel yr ymataliwn rhag crybwyll rhai petliau a gynhygient eu hunain i'n meddwl. Caw- som gymaint o hyfrydwch ac adeiladaeth yn yr odfeuon fel na fynrtem er dim ddweyd gair y gellid ei wyrdroi i anfan- tais mudiad sydd o ran ei fwriad a'i amcan yn ddiamheuol dda. Yr un pryd, mawr hyderwn y bydd i gyfeillion ac arweinwyr y Confensiwn, dan fendith y Meistr, i lwyddo i'w gadw rhag hyd yn oed rhith camesboniad a gwrthwynebiad. caiiiesboniad a gwrthwvnebiad. Yr wythnos ddiweddaf cyfeiriasom yn helaeth at y Gynhadledd Addysg genedl- aethol gynhaliwyd yn Llandrindod y dydd- iau o flaen y Confensiwn, ac nis gallem 3-1 na theimlo fod Llandnndod y dyddiau hyn yn ganolfan pwerau sy'n gwau hanes Cymru am genedlaethau i ddyfod.