Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

ABERSOCH. I , I

News
Cite
Share

ABERSOCH. CYPARFOD YMADAWOL,. I Nos Lun, Gorffennaf 30am, cynhaliwyd cyfar- fod i ddymuno'n dda i'r Parch. J. Mostyn ar ei ymadawiad i fyncd yn weinidog ar eglwys Coffa, Porthmadog. Yr oedd cynhulliad rhagorol wedi dod ynghyd, a chynrychiolaeth o'r gwa- hanol enwadau. Llywydd y cyfarfod oedd y Parch. Hugh Davics, Abererch, yr hwn sydd bellach fel anhepgor i lywyddu cyfarfodydd o'r fath. Nid oes berygl bod yn brin o awelon iach a hwyliog pan y bydd ef yn arwain! gyda'i ffraethineb a'i bronad helaeth, a'i ddoethineb ryfeddol, ni chawn byth ein siomi. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. H. D. Lloyd, B.A., B.D. (M.C.). Yna cafwyd gair gan y Llywydd, yn cyfeirio at sjanudiadau gweinid- ogion y blynyddoedd fu yng nghylch y Cyfun- deb, a bod Mr. Mostyn ymhlith yr ychydig sydd wedi newid eu heglwysi heb newid eu Cyfundebl Galwai sylw hefyd at ei ffyddlondeb fel aelod o Ddosbarth Gweinidogion Lleyn, a'i wasanaeth gwerthfawr ymhlith ei frodyr. Rhoddodd iddo deyrnged uchel, a dymuxxodd yn dda iddo yn ei faes newydd, ar ran y Cyfarfod Cliwarterol, fel cyn-ysgrifennydd am flynyddoedd. Cyfeiriodd Mr. James Hughes, Bwlchtocyn (ysgrifennydd yr eglwys), at y golled i'r Dos- barth Darllen yno. Wedi cael dosbarthiadau llwyddiannus ryfeddol yn ystod gweinidogaeth Mr. Mostyn, a mawr oedd eu syniad am dano fel athro doeth a galluog. SylwoddMr. William Williams, blaenor, Aber- soch, nad oedd angeu canu clodydd eu gwein- idog, am fod llwyddiant ei waith yn tystio mwy na dim arall i'w werth. Cyfeiriodd at y nodwedd o brydlondeb a ffyddlondeb oedd yn amlwg yn Mr. Mostyn, a chredai mai un wedi ei anfon atynt ydoedd mewn ateb i weddiau taerion yr eglwysi. Cafwyd gair gan y Parch. R. H. Roberts, B.D., ficer plwyf Llanengan. Yr oedd ei adna- byddiaeth ef o Mr. Mostyn ynglyn a materion cyhoeddus. Cyfeiriodd at ei wasanaeth gwerth- fawr fel ysgrifennydd y Neuadd Gyhoeddus, a rhoddodd dystiolaeth uchel iddo fel dyn cysegr- edig a gwir ddefnyddiol. Cyfeiriodd y Parch. H. D. Lloyd (M.C.) at y cyfeillgarwch a'r cydweithrediad hapus fu rhwng Mr. Mostyn ac yntau yn ystod ei weinidogaeth. Cafodd ef yn gyfaill didwy 11, a bydd chwithdod mawr ganddo ei golli. Cyfeiriai at yr hofider cyffredinol oedd ganddynt ohono, a Uawenliai wrth feddwl am y gwaith da a gyflawnodd. Dymunai am i Dduw arwain yr eglwys i sicrhau olynydd o'r un ysbryd ag ef. Mr. R. S. Williams, Bwlchtocyn, a ddywedodd eu bod fel eglwysi yn cael colled anghyffredin fawr. Yr oedd Mr. Mostyn yn rhoi urddas ar ei swydd. Yr oedd yn athro rhagorol i'r plant a'r ieuanc a'r hen. Yr oedd ei bregethau yn gyfoethog, a'r hyn roddai fwyaf o nerth ynddo, iddo ef, oedd y profiad crefyddol uchel a dreiddiai drwy ei bregethau. Er ei fod yn mynd, nis gallai gymryd y cyf an gydag ef gadawai ar ei ol ddy- lanwadau pregethaxx glan, grymus, a chymeriad gwerth ei efelychu. Teimlai Mr. Williams fod eglwys Bwlchtocyn yn colli teulu oedd yn ael- odau gwasanaethgar yno. Cyfeiriodd yn dyner at gystudd Mrs. Edwards, main Mrs. Mostyn, ac at ei ffyddlondeb a'i gallu ynglyn a'r eglwys. Y Parch. R. M. Edmunds, Llanbedrog, a mynegodd ei fod yn colli un o'i gyfeillion mwya fynwesol trwy ymadawiad Mr. Mostyn. Yn meddu ar adnabyddiaeth blynyddoedd, ac wedi ei gael yn gyfaill annwyl, caredig a dyrchafol iawn. Canmolai yr eglwysi am yr arddangosiad o barch mawr tuagat eu gweinidog. Tuedd llawer eglwys yw rhoi'r anrhydedd i ambell ymwelydd achlysurol, a gadael eu gweinidog cyson a ffyddlon heb fawr anrhydedd na chalon- did. Yr oedd yr ymwelydd achlysurol mewn perygl o gael cam yn y cylch yma, am fod yr eglwys yn credu nad oedd neb tebyg i'w gwein- idog hwy. Cyfeiriodd hefyd at Mrs. Mostyn, yr hon roddai bob gallu o'i heiddo i gynorthwyo ei phriod yn ei gyfrifoldeb mawr a phwysig. Teimlai fod gwasanaeth cysegredig, personol- iaeth annwyl a ffyddlondeb didor wedi llwyddo i gynhyrchu unoliaeth gref yn yr eglwysi. Bydd arhosiad byr Mr. Mostyn yn aros am flynydd- oedd mewn dylanwadau da. Cafwyd gair gan Mr. Abel Williams, C.S., yr hwn roddodd air uchel i Mr. Mostyn fel dyn, gweinidog, ac ardalwr. Cyfeiriodd yn dda at ei ysbryd eang a Christionogol. Credai Mr. Salmon Evans, Lerpwl, mai ar y grisiau i fyny y mae Mr. Mostyn, ac nad oedd l Y symudiad hwn ond grisyn i symud eto i safle uweh. Talodd Mr. Richard Jones, Sarn, deyrnged i waith eu gweinidog. Meddyliai mai hon oedd un o'r colledion mwyaf y gallai'r -eglwys gael, ond credai yr arweiniai'r golofn eto yn ddiogel, ond ymddiried iddi. Nid oedd yr eglwysi am i'w gweinidog syniud yn swn geiriau yn unig. Cyflwyuwyd iddo god- aid o aur ar ran eglwys BwlchtoeYllgan Mrs. Kirkby, Mbr Awelon, ac un arall ar ran eglwys Abersocli-gan Miss Polly Jones a Miss Lydia Parry. Cydnabyddodd Mr. Mostyn y rhoddion yn ddiolchgar. Cyfeiriodd at amser ei arliosiad fel amser ag y profodd garedigrwydd a chyd- ymdeixnlad nad a byth yn angof ganddo. Diolchodd i'r swyddogion am eu cynhorthwy mawr, ac i'r eglwysi oil. Dywedai ei fod yn myned o'r cylch yn gyfoethocach ei bronad ysbrydol. Cyfeiriodd at ffyddlondeb yr eglwysi i foddion yr wythnos ac at eu ffyddlondeb yn anfon y plant i'r cyfarfodydd arbennig drefnwyd iddynt. Diolchai i'r enwadau am eu sirioldeb ac am en derbyniad caredig ohono yn eu pul- pudau. Byddai'r cylch yn annwyl ganddo byth, a dymunai am i'r eglwysi oedd yn adael ar ol i gael arweiniad, amddiffyn a thangnefedd Duw. Anfonodd aniryw frodyr yn y weinidogaeth air yn dymuuo'11 dda i Mr. Mostyn ac yn gondio oherwydd eu hanallu i fod yn bresennol. Yr oedd y cyfarfod trwyddo yn llaw 11 teimlad. Arwyddion o hiraeth ar Yo wYlleban, ond pawb yn dymuno nodded y nefoedd dros Mr. Mostyn a'r teulti yng nghylch newydd eu gwasanaeth. Gwnaed llawer sylw yn dangos rhan Mrs. Mostyn yn llwyddiant gweinidogaeth ei phriod, ac at Glanfor Tudwall ac Enid Wendon, y plant. Diweddwyd gan y Cadeirydd. R.M.E.

IWELSH LICENSING AUTHORITIES.…

CAPI.ANIAID RHYFEL : CYFLOG…

ICYFUNDEB DWYREINIOL CAERFYRDDIN..

DIOLCHGARM^CH..

YR HEN GAPEL A'R DDRAMA.