Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

I Y WERS SABOTHOL.t Y WERS…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

I Y WERS SABOTHOL.t Y WERS SABOTHOL i I Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL Y X Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., X ? TreSynnon. A{ y <$><»-t-c> HYDREF 2gaill, Y Fordaith.-Actau xxvii. 13-26. Y TESTYN EURAIDD. Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo; ac Efe a'i dwg i ben,'—Salm. xxxvii. 5. j RHAGARWEINIOL. GAN fod Paul wedi apelio at Cesar, rhaid ydoedd ei ddanfon i Rufain. Yn y beunod hon cawn hanes y fordaith. Yr oedd. yn garcharor, oud yn ol swyddogion Rhufain-Lysias, Ffelix a Ffestus—nid oedd yn euog o unrhyw ddrwg. Y mae hyd yn oed Agrippa yn ei ystyried yn ddieuog. Yr oedd. yna nifer o garcharorion eraill gydag ef yn myned i Rufain i ymddangos gerbron Cesar. Rhoddwvd Paul a'r carchar- orion, eraill dan ofal un Julius, canwriad o fyddin Augustus. Hwyliasant mewn llong o Adram- yttium, yn Asia, yr hon oedd ar fedr hwylio i dalaith Asia. Aeth dau gyfaill i Paul gydag ef, sef Luc ac Aristarchus, Macedoniad o Thes- salonica. Drnnoeth wedi gadael Cesarea, cyr- haeddasant Sidon. Wedi gadael Sidon, cyfar- fyddasant a gwyntoedd gwrthwynebus, a bu'n rhaid iddynt rwyfo o dan Cyprus, a'i ham- gylchu ar yr ochr ogleddol, a dyfod i Myra, dinas yn Asia Leiaf. Ym Myra cawsant long o Alexandria yn hwylio i'r Eidal gyda llwyth o wenith. Mordaith arw a gawsant o'r cychwyn. Yr oedd y llong yn yrnladd a'r gwyntoedd yn y Mor Adriaidd, yr hwn a orwedd rhwng tir Groeg, yr Eidal ac Affrica. Deallasant eu bod yn agoshau at y tir, ac yna, rhag i'r llong daraw yn sydyn wrth y tir, a myned yn ddarnau, tafl- asant allan yr angorau i'w dal hi hyd nes iddi ddyfod yn ddydd. O'r diwedd cawn i'r llong fyned yn ddrylliau wrth ynys Melita, neu Malta. ESBONIADOI,. Adnod 13.'—A phan chwythodd y deheuwynt yn araf, hwynt-hwy yn tybied cael eu meddwl, gan godi hwyliau, a foriasant heibio yn agos i Creta.' Cyf. Diw., 'A phan ehwythodd y deheu- wynt yn dyner, gan dybied gael ohonynt eu hamcan, hwy a godasant angor, ac a hwyliasant ar hyd Creta, yn agos i'r lan.' Yr oedd Paul wedi cynghori iddynt aros yn y Porthladdoedd Prydferth, ond yr oedd llywydd y Hong ac eraill yn barnu ei fod yn lie anghyfleus i aeafu, ac yn pleidio i aeafu yn Phenice, yr hwn a elwir Sutro yn bresennol. Felly, pan chwythodd y deheu- wynt, yr hwn oedd ffafriol iddynt forio i Phenice, codasant yr angor, gan dybied y gallasent gyr- raedd eu hamcan. A foriasant heibio yn agos i Creta. Golygir eu bod wedi morio ymlaen gydag ochr yr ynys yn agos i'w glannau. Creta, Nen Crete, yr hon a elwir yn awr Candia. Adnod 14. Ond cyn nemor cyfododd yn eu herbyn hi wynt tymhestlog, yr hwn a elwir Euroclydon.' Cyf. Diw., Ond cyn nemor o amser rhuthrotld i lawr oddiyno wynt tym- hestlog, yr hwn a elwir Euracwilo.' Yn fuan wedi cychwyn daeth yn erbyn y Hong ruthr- wynt o fynyddoedd Creta. Gelwir ef Euracwilo, yn arwyddo gogledd-ddwyrain. Dywedir fod cyfnewidiad sydyn yn y gwynt o dde i ogledd yn ddigwyddiad cyffredin yn y parthau hyn. Adnod 15.1 phan gipiwyd y llong, ac heb allu gwrthwynebu y gwynt, ni a ymroisoni, ac a ddygwyd gyda'r gwynt.' Cyf. Diw., 'A phan ddaliwyd y llong, a hithau heb allu cyfarfod y gwynt, ni a ymollyngasom iddo, ac a yrrwyd.' Pan ddaliwyd y llong gan ruthr y gwynt fel nad oedd y morwyr yn gallu ei llywodraethu, gollyngasant hi i fyned fel y chwythai'r gwynt. Gyrrwyd hwy gan y gwynt. Adnod 16. .1c wedi i ni redeg gor-is ynys fechan a elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bad.' Cyf. Diw., 'A chan redeg gor-is ynys fechan a elwir Cauda, yr oeddym yn alluog, trwy anhawster, i ddiogelu'r bad.' Redeg gor-is. Sef gyda neu dan lannau'r ynys. Cauda, neu Clauda, ynys fechan tua 20 milltir i'r de o Creta a elwir yn bresennol Gozzo. I ddiogelu y bad. Y bad perthynol i'r llong, gan mor anhydriu ydoedd gan y storm ac wedi ymlenwi a. dwfr. Adnod 17.—' Yr hwii a godasant i fyny, ac a wnaethant gynorthwyon, gan wregysu y llong oddi dani a hwy yn ofni rhag syrthio ar sugn- draeth, wedi gostwng yr hwyl, a ddygwyd felly.' Cyf. Diw., 'Ac wedi iddynt ei godi i fyny, h\\y a arferasant gynorthwyon, gan wregysu'r llong o dani a chan ofni cael eu bwrw ar Syrtis. hwy a ostyngasant yr lnvyl, ac felly a 3rrrwyd.' Cod- asant y bad trwy anhawster ar fwrdcl y llong, fel y buasai'n hylaw os dryllid y llong. Cadani- I hasant y llong trwy ei gwregysu a rhaffau cryf- ion. A chan ofni cael eu bwrw ar Syrtis. Syrtis y gelwir y traethau pervglus ar laiiiiali Affrica, rhwng Tripoli a Berea. Yr oedd gwynt gogledd- ddwyrain yn chwythu tua'r parthau hyn, felly ofnent. Hwya ostyngasant yr hwyl. Ken daclau y llong (lowering the gear). Felly a yrrwyd. Yn y stad hon y dygwyd hwy ymlaen. Adnod 18.—'A ni yn flin iawn ariiom gan y dymestl, drannoeth hwy a ysgafnhasant y llong.' Cyf. Diw., 'A ni yn 3rmdrecliii yn ddirfawr yn erbyn y dymestl, drannoeth hwy a ddechreuas- ant daflu y llwyth dros y bwrdd.' Yr oeddynt yn cael eu lluchio a'u taflu yn erwin gan y dymestl. Penderfynodd y morwyr drannoeth daflu rhan o'r llwyth dros y bwrdd er ysgafn- hau y llong. .(Inod j:g.Ar trydydd dydd bwrias»>m d'ii. dwylaw ein hunain daclau y llong allan.' Cyf. Diw., 'A'r trydydd dydd hwy a fwriasant allan a'u dwylaw eu hunain daclau y llong.' Y trydydd dydd ar ol gwregysu'r llong, bwriwyd taclau y llong i'r mor, sef popeth a allesid eu hepgor. Hyn yn profi mawredd y cyfyngder yr oeddynt ynddo. Adnod 20.—' A phan nad oedclna haul na ser yn ymddangos dros lawer o ddyddiau, a thymestl nid bychan yn pwyso arnom, pob gobaith y byddem cadwedig a ddygwyd oddiarnom o hynny allan.' Cyf. Diw., 'A phan nad oedd na haul na ser yn tywynnu arnom a ddyg- wyd ymaith erbyn hyn.' Gorchuddid y ffurf- afen gan gymylau trwchus y dymestl. Nid oedd haul 11a ser i'w gweled, felly ni wyddent i ba gyfeiriad yr oeddynt yn myned. Yr oedd y dymestl yn pwyso arnynt o bob cyfeiriad. Coll- ( asant eu gobaith y buasent ddihangol. Credent nad oedd ond dinistr o'u blaen. Adnod 21.—'Ac wedi bod hir ddirwest, yna y safodd Paul yn eu canol hwy, ac a ddywedodd, Ha wyr, chwi a ddylasech wrandaw arnaf ii, a bod heb ymadaw o Creta, ac ennill y sarhad yma a'r golled.' Cyf. Diw., 'Ac wedi iddynt fod yn hir heb ymborth a ehael y niwed a'r golled hon.' Yr oedd eu pryder mor fawr fel nad oedd awydd am fwyd. Safodd Paul yn eu canol hwy. Er mai carcharor ydoedd, y mae'n amlwg fod ganddo ddylauwad mawr ar bawb yn y llong. Safodd yn eu canol,. a dywedodd y dylasent fod wedi gwrando ar ei gyngor i beidio ymadael o Creta, a chael y sarhad yma i'w personau a cholled i'rn meddiannau. Diau mai nid mewn ysbryd i ddannod iddynt y cyfeiria at hyn, ond er mwyn galw eu sylw at yr hyn oedd am ddywedyd wrthynt. Adnod 22. Ac yr awron yr wyf yn eich cynghori chwi i fod yn gysurus canys ni bydd colled am einiocs un ohonoch, ond am y llong yn unig.' Ac yr awron yr wyf yn eich cynghori. Geilw atnynt i fod yn galonnog er eu bod mewn enbydrwydd mawr. Sicrha hwy na byddai colled am einioes neb y llong a'r llwyth yn unig a gollid. Adnod 23.—' Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr Hwn a'm piau, a'r Hwn yr ] wyf yn Ei addoli.' Canys safodd yn fy ymyl y i,tos ciiiget Duw. Rhydd iddynt ei reswm dros fod mor sicr fod ei genadwri yn wir. Yr oedd angel Duw wedi sefyll yn ei ymyl a'i hys- bysu. Cennad oddiwrth Dduw oedd yr angel. Yr Hwn a'm piall. Sef Duw. Cydnabyddai Paul mai eiddo Duw ydoedd, ac mai Ei wasanaethu Ef ydoedd ei amcan pennaf mewn bywyd. Adnod 24. Gan ddywedyd, Nac ofna, Paul; rhaid i ti sefyll gerbron Cesar ac wele, rhoddes j Duw i ti y rhai oil sydd yn morio gycla thi.' Nac ofna, Paul rhaid i ti sefyll gerbron Cesar. Dyma'r genadwri a gafodd Paul gan yr angel. Nid oedd i golli ei einioes yn y fordaith hon. Yr oedd i ymddangos yn Rhufain gerbron Cesar. Ymhellach, yr oedd y rhai oedd yn morio gydag ef i gael eu cadw. Yr oedd Paul wedi gweddio nid yn unig drosto ei hun, ond hefyd dros y rhai oedd yn y llong. Caniata Duw ei ddy- muniad iddo. Adnod 25.—'Am hynny, ha wyr, cymerwch gysur canys yr wyf fi yii credu i Dduw, mai felly y bycld, yn ol y modd y dj-wedwyd i mi.' Am hynny, ha vyr, cymerwch gysur. Geilw arnynt i yuigalonogi. Yr oedd y genadwri oddiwrth Dduw, ac yr oedd yn credu y cawsai ei chyf- lawni, sef na chollid bywyd. neb. Yr oedd ffydd Paul yn ddiysgog Y11 Nuw, er maint y peryglon a'r auawsterau. Adnod 26.—'Ond mae yn rhaid ein bwrw ni i ryw ynys.' Ond y mae yn rhaid ein bwrw, 6-c. Er y byildent ddiogel, yr oedd yn rhaid iddynt ddioddef llawer. Barna rhai i Paul gael gweled- igaeth o'r hyn oil a gymerai le hyd yr adeg y bwridhwynt oil ar ryw ynys. GOKYNIADAU AR Y NVLRS. i. Paliain. yr oedd Paul yn myned i Rufain ? 2. Pa le yr oedd Creta ? Pa le yr oedd y Porthladdoedd Prydferth ? 3. Rhoddwch ddarluniad o'r fordaith i Creta. K ;|4- I ba le yr oeddynt yn bwriadu hwylio pan yn gadael y Porthladdoedd Prydferth ? Beth oedd cyngor Paul ? 5. Pa beth a'n cyfarfyddodd. yn sydyn ? I ba ynys y gyrrwyd hwy yn agos ? 6. Pa fodd y caclarnhawyd y llong ? Pa beth oedd cyngor Paul iddynt ? 8. Pa fodd yr oedd yn gallu eu sicrhau v gallent j^niddibynnu ar ei gyngor ? 9. Beth oedd i ddyfod o'r Hong a'r llwyth ?

Salem, Lianymddyfri.

Ein H en wad yn Llanelli.

Advertising