Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
— Mewu Llaw.—Moriah, Ystrad MVllach-Ben Williams—Abertridwr—Bryn Seion, Gilfach Goch —Annibynnwr—Brongoch Orci--Maenclochog-- Cyfarfodydd Chwarterol Cyfundeb MOll a Chyf- undeb Maldwyn-Saron, Maesteg-Colofn yr Eglwys (J. Rhydderch)-Coleg Caerfyr(ldiii- Llaudeilo a'o Cylch—Marwolaethau—Cvfarfod- ydd, &c.
ACHOSION I GANU Y NOS.* i
News
Cite
Share
ACHOSION I GANU Y NOS.* GAN Y PARCH. 0. L. ROBERTS, LERPWL. f I. Os oes rhywbeth yn llanw ein meddyliau J a'n calonnau yn fwy na'i gilydd y dydd- iau hyn, y rhyfel a'i helynt ydyw hwnnw. Y mae'r cwestiwn hwn gyda ni yn bar- haus ac ar lawer cyfrif, cwestiwn digysur a thywyll ddigon ydyw. Y mae'r cwestiwn j a ddaeth i'r proffwyd Bsaiah yn adeg un o'r rhyfeloedd trymaf yn hanes Israel yn dyfod i ninnau yn y rhyfel presennol, sef, Y gwyliedydd, beth am y nos ? Mewn geiriau eraill, Y gwyliedydd, pa faint o'r
[No title]
News
Cite
Share
Sylwedd anerchiad a draddodwyd o gadair adran Lerpwl o'r Lancashire Union yn Ashton- in-Makerfield, Medi 2lain, 1916.
APEL NEWYDD.j :1
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
APEL NEWYDD. I. Gwelir fod ein gofod yn dra phriu oher- wydd goriod oliouom gwtogi a chynilo ein papur. I Erfyniwn gan hynny ar i bob golvebiaeth a newyddiou gael eu cyileu mor fyr a chryno ag y bo modd, Mae'r adroddiadau meithion o gyfarfodydd ofdeinio, sefydlu, ac ymadawiad gweinidogion yn hollol afresymol, a byddent oil ar eu henni11 heb ddweyd fod pob siaradwr wedi mynegi fod yn dda ganddo fod yno,' &c. Ac nid yw manion am wyliau te, cyfarfodydd pregethu, priodasau, angladdau, &c., o fudd na diddordeb cyffredinol. Mesur byr yw'r unig un ferlrwn dderbyn am gryn dro. 2. Nac ysgrifenner y ddavi tn i'r ddalen. I'r fasged yr a popeth o'r fath, oblegid ni allwn ail-vsgrifennu'r ysgrif, ac ni feiddiwn orfodi ein cysodwyr i gwympo oddiwrth ras. 3. Nid ydym yii cadw cyfieithydd, felly ofer yw anfon gohebiaeth Saesneg i ni, gan ofyn i ni ei chyfieithu, &c. 4. Ni allwn ycliwaitli ufuddhau i'r cyfeillion sy ii anfon atom—yn Saesneg, fel rheol—i wneud crybwylliad am y peth yma next arall yn eu lie hwy. Nid oes gennym hamdden nac awydd i fod yn glerc i neb. Parod ydym i dderbyn pob awgrym a chymorth caredig, ac nid at hynny y cyfeiriwn, eithr at y cais digywilydd i ni ysgrifennu eu neges a'u cais er niwyn eu barbed hwy. Ysgrifenned pob un ei ohebiaeth ei hun, ac yna caiff ymddangos, os yn gymeradwy. 5. Anfoner pob advertisement, enwadol a chyff- redinol, i'r Swyddfa ac nid i ni. 6. Anfoner newyddion a gohebiaethau lleol hefyd i'r Swyddfa, ond pob llythyr at y Gol- ygydd neu ysgrif fo'n trafod unrhyw fater, i ni i'n cyfeiriad personol, sef-I 7 GLYNRHONOD A STREET, CAERDYDD. Y GOLYGYDD.
ACHOSION I GANU Y NOS.* i
News
Cite
Share
gloch ar y nos ydyw ? Pa mor hir y mae y rhyfel yma yn myned i bara ? Pryd y bydd hi drosodd ? Pryd y tyr y wawr drachefn ? Pa fodd y mae pethau yn mvnd ymlaen gyda'n milwyr a'n morwyr? A ydym yn mynd i ennill y fuddugol- iaeth ? A ydym yn parhau i fod mor wrol a gobeithiol ag erioed ? Dyma'r fath gwestiynau yr ydym yn eu gofyn i'n gilydd ac i ni ein liunain bob dydd. Yn Llyfr Job disgrifir yr Arglwydd yn rhoddi i'w bobl achosion i ganu y nos. A ydyw yn rhoddi achosion i ni ganu yn y nos dywyll yr ydym yn ei chanol heddyw ? Pan yn siarad yn y Gymanfa Ganu Genedlaethol ynglyn a'r Eisteddfod yn Aberystwyth y dydd o'r blaen, ymgy- merodd ein cydwladwr enwog, y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, Ysgrifen- nvdd Rhyfel, ag amddiffyn y genedl Gym- reig am ei gwaith yn cynnal Cymanfa Ganu ar amser rhyfel, a gwnaeth hynny, wrth gwrs, yn ei ffordd ddihafal ei hun. Ymysg pethau eraill, meddai Paham na ddylem ni beidio canu yn ystod v rhyfel presennol ? Paham na ddylem ni beidio eaiin yn sefyllfa bresennol y rhyfel ? Y mae popeth yn ateb y dylem ddal i ganu. Nid yw llenni Prydain wedi eu tvnnu i lawr eto, ac nid ydynt yn debyg o gael eu tynnu i lawr. Nid yw anrhydedd Prydain wedi marw eto, nid yw ei gallu wedi ei dorri, ac nid yw ei delfryd wedi ei gyflawni eto. Nid yw ei gelynion wedi chwalu yr un o'i delfrydau. Y mae yn fwy heddyw nag y bu erioed.' Os ydyw y geiriau hyn yn wir am Brydain Pawr— ac yn sicr yr ydym oil yn credu eu bod felly-pa mor annhraethol fwy cywir fyddent pe eu cymhwysid at Deyrnas yr Efengyl ? Yr ydym nid yn unig yn ddeil- iaid Prydain, ond hefyd yn ddeiliaid proff- esedig o Deyrnas Crist, ac fel y cyfryw y mae gennym ni rywbeth a wnelom a'r rhyfel presennol; a chyda phwyslais y dymunwn ofyn, Oni ddylem ni alhi canu yn y rhyfel hwn ? Wrth ofyn y fath gwestiwn, nid wyf mewn un modd am geisio bychanu'r rhyfel yrt ei hofnadwy- aeth a'i dychrynfeydd fel y mae a wnelo hi a'r ffydd Gristionogol, ac fel y mae'n arweddu ar fywyd a chymeriad yr Eglwys Gristionogol. Gwn fod llawer 0 bo bl dda yn cymryd golwg bruddglwyfus iawn ar y cwestiwn hwn. Dylanwad uniongyrchol y rhyfel ar lawer yn eu perthynas a'r Efengyl yw eu bod yn colli eu ffydd yn lan ynddi. Ceir llawer fel pe wedi dyfod i'r casgliad fod Cristionogaeth fel gallu moesol ac ysbrydol wedi ei chware allan, ac fod gwaith a llafur yr Eglwys Grist- ionogol i gyd yn ofer. Ar y wyneb, ymddengys llawer i'w ddweyd dros gym- ryd y safle hon. Pan y meddylia un am y difrod ofnadwy sydd yn cymryd lie ar faes y gwaed, y gweitliredoedd o greulon- deb dieflig a arferir yn enw gwareiddiad a diwylliant, temtir un i ddweyd, Y fath fliloreg wedi'r cwbl yclyw ein Cristionog- aeth Eto, tra y mae llawer yn parhau i lynu wrth Gristionogaeth fel delfryd, y maent fel pe wedi colli pob ffydd ynddi fel trefn ymarferol i gyfarfod y byd yn ei drueni heddyw. Dywed y cyfeillion hyn wrthym yn barhaus, tra y gall Cristionogaeth fel delfryd feddu rhagoriaethau, y mae Crist- ionogaeth fel y'i' chynrychiolir gan yr eglwysi heddyw wedi llwyr dorri i lawr. Mor fynych y dywedir wrthym na allwn byth ddisgwyl gweled y dynion ieuainc sydd yn y rhyfel heddyw, ar eu dychwel- iad adref, yn cymryd unrhyw ddiddordeb yn yr eglwysi. Os gwir hyn, y mae'r dyfodol i'r eglwysi yn dywyll fel y fagddu —mor ddiobaith, yn wir, fel inai v peth goreu allwn wneud heddyw yelyw can i fyny ein holl eglwysi, a chyhoeddi'n agored fod ein holl weithgarwch crefyddol, nid yn unig yn ddifudd, ond yn wastraff perffaith ar eiddo a llafur Ond a yw hyn oil, mewn gwirionedd, yn gywir ? A ydyw'r rhyfel presennol yn wadiad o wirionedd Cristionogaeth ? A ydyw Corsica wedi gorchfygu Galilea ? Ai methiant hollol ydyw ein holl waith Gristionogol ? I'r fath ofyniadau a'r rhai hyn nis gall fod ond un ateb, ac nis gellir rhoddi'r ateb hwnnw'n well nag yng ngeiriau'r Apostol Paul yn ei lythyr at Timotheus Y mae cadarn sail Duw yn sefyll neu, a rhoddi yr un gwirionedd yng ngeiriau awdur yr Epistol at yr Hebreaid lesti Grist, yr un ddoe, heddyw, ac yn dragywydd.' Ac os y caniateir i mi yn y fan hon i wneud cyffes bersonol, mi lioffwn ddweyd nad oes dim eto wedi cymryd lie yn ystod cyfnod maith y rhyfel (ac mi hyderaf nad wyf wedi bod yn ddall i'w thrueni ofn- adwy) ag sydd wedi peri i mi golli fy ffydd i'r graddau lleiaf yn yr Efengyl fel unig drefn Duw i waredu'r byd o'i bechod a'i drueni. Nid wyf fy hunan wedi gweld yr un rheswm dros roddi fyny bregethu yr Efengyl ac ymhellach na hynny, nid wyf mewn un modd wedi colli fy ffydd yng ngwerth a phwysigrwydd y gwaith gerrir ymlaen gan yr eglwysi Cristionogol heddyw. Credaf fod cenadwri'r Efengyl mor gywir i anghenion y byd heddyw ar amser rhyfel ag y bu erioed, hyd yn oed ar yr amser o'r heddwch mwyaf. A chredaf hefyd mae'r eglwysi Cristionogol fel y maent heddyw, er eu holl ffaeleddau a'u gwendidau, ydyw'r galluoedd moesol ac ysbrydol cryfaf er daioni yn y byd. Nid yw'r llenni ar ein heglwysi wedi eu tynnu i lawr eto, ac nid ydynt yn debyg o gael ychwaith. Gall yr Eglwys liecldyw gyf- arch ei gelynion, gan ddywedyd Hammer away, ye hostile bands Your hammers break, God's anvil stands.' Y mae'r sylfaen gadarn a osododd Duw yn sefyll, a dylai'r ystyriaeth honno ynddi ei hun fod yn ysbrydiaeth i ni yn yr amser- oedd enbyd yr ydys yn byw ynddynt. Dywed Paul yn ei Epistol at y Rhufein- iaid mai'r unig reswm paham na chyflawn- wyd addewidion Duw i'r hen genedl Idd- ewig ydoedd eu diffyg ffydd, a dadleua nad oedd eu hangrediniaeth hwy vn gwneud ffydd Duw yn ofer Na ato Duw eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog yn fwy cywir, fel y dar- llenir y geiriau gan Dr. Way Does their unfaith argue that God will not keep faith ? Never! It must be laid down as an axiom that God is ever true, though it involve the conclusion that the instincts of all humanity are false.' Y fath ydoedd ffydd ddisigl yr Apostol, a'r fath raid fod ein ffydd ninnau yn yr Efengyl heddyw, os ydym am ddal yn gryf ac yn wrol yn y nos hon o dywyllwch yr ydym yn ei chanol. I'r rhai sydd yn credu ynddo, y mae'r Arglwydd o hyd yn rhoddi achos- ion i ganu y nos. Meddylier beth ydyw rhai o'r cyfryw,