Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
CYFUNDEB CYMREIG rYNWY.I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYFUNDEB CYMREIG rYNWY. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod nos Fawrth a dydd Mercher, Medi 26ain a'r 27ain, yng nghapel Golle Crug, Abertileri. Pregethwyd nos Fawrth gan y Parch. J. R. Pritchard, B.A., Casnewydd. Bore'r ail ddydd am 10.30 cynhaliwyd y Gyn- hadledd o dan lywyddiaeth Mr. T. E. Thomas, Blaeiiaion, y cadeirydd presennol. Dechreuwyd y cyfarfocl yn y dull arferol. Wedi darllen a chadarnhau'r cofnodion, penderfynwvd— i. l,od -v eyfarfod nesaf i'iN, gylli:iil Ym Aletli- lehem, Blaenaf on. 2. Pod y Parchn. E. B. Powell, Maesycwmwr, a Rhys D. Jenkins, Rhymni, i bregethu ar y pYllciau-y blaellaf ar bwnc y Gynhadledd, a Mr. Jenkins ar fater ddewisir gan eglwys Beth- lehem. 3. Dewiswyd y Parch. J. R. Pritchard i ddar- llen papur yn y Gynhadledd nesaf ar fater o'i ddewisiad ei huu. 4. Apwyntiwyd Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Cyfundeb i'n cynrychioli fel Cyfundeb yng nghyf- arfod blynyddol Cymanfa Ddirwestol y Deheudir a gynhelir ym Merthyr ddechreu mis Hydref. 5. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Alfred Pritchard, pregethwr ieuanc godwyd yn Sardis, Vnysddu, yr hwn sydd yn bresennol yn y Fyddin, a cheisiwyd gan yr Ysgrifennydd i yrru gair ato yn datgan teimlad da y frawdoliaeth tuagato. Y mae Mr. Pritchard yn frawd ieuanc rhagorol a phregethwr gobeithiol. 6. Mewn atebiad i gais ddoeth oddiwrth Gym- deithas yr laith Gymraeg drwy law ei hysgrif- ennydd brwdfrydig, penodwyd y Parch. Fred Jones, B.A., B.D., Rhymni, a Mr. B. T.Williams, ysgolfeistr, Abertileri, i gynrychioli'r Cyfundeb mewn cynhadledd a gynhelir o dan nawdd y Gymdeithas ym Mhontypridd prynhawn dydd Sadwrn, Hydref 2iain. 7.^Cymeradwywyd y penderfyniad canlynol; Fod y cyfarfod hwn o Bwyllgor Gweithiol Coleg Aberhonddu yn dymuno apelio at Gyfar- fodydd Chwarterol y gwahanol Gyfnndebau i fod ar eu gwyliadwriaeth yugly 11 a'r cynygiad i sefydlu Cadeiriau mewn Diwinyddiaeth yn y Colegaii Cenedlaethol, ac i ymdrechu creu sYl1- iadau iach ynglyn a'r mater.' 8. Pasiwyd pleidlais yn llongA-farcii y Parch. T. J. Hughes, Maesycwmwr, ar ei waith yn cyrraedd pen ei 80 mlwydd oed. Y mae Mr. Ilughes wedi bod yn wasallaethgar iawn yng Xghyfundeb Cymreig Mynwy, i'r hwn y bu yn ysgrlfellnydcl am lawer o flynyddoedd, ac hefyd mewn cylchoedd eraill yn yr Enwad. Fel y inae'11 hysbys i lawer, y mae wedi ymddeol o'i ofal eglwysig ers rhai biynyddoedd, ond y mac yn parhau i bregethu llawer eto ar y Sabothau. ac yn dal 3-n hoyw iawn ag ystyried y pedwar ugain mlynedd sydd yn pwyso arno. Bu ei gartref clyd ef a'i ddiweddar briod ragorol yn llety'r fforddolion i dyrfa luosog yn ystod y tymor maith y buont yn byw yn ddedwydd gyda'u gilydd yn Cefncrib Villa, Maesycwmwr, ac nid oedd byth brinder ar en croesaw. Yr oedd Mrs. Hughes yn ferch i'r diweddar weinidog adnab- yddus iawn gynt, ac i lawer eto, y Parch. Herbert Daniel, Cefncrib—a dyna sydd yn esbonio enw'r Villa. Caffed ein haiiinvj-l frawd heulwen deg hyd y diwedd, a chartref yn y nef pan ddel pen y daith. 9. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r cyf- eillion canlynol:—Teulu'r diweddar Barchu. J. Ossian Davies a J. Tertius Phillips a'r Parch. J. Morgan Jones yn wyneb marwolaeth sydyn ei annwyl briod ac a theulu y diweddar Mr. Thomas Jones, un o ddiaconiaid rhagorol yr eglwys yn Abertileri, yr hwn a fu farw'n sydyn yn ymyl dyddiau'r Cwrdd Chwarter. Rhoddwyd derbyniad calonnog i'r Parch. D. Hendy Davies, B.A., fel aelod newydd o'r Cyf- undeb ar ei waith yn cymryd gofal hen eglwys enwog a chref Rehoboth, Brynmawr. Cafwyd yn ystod y Gynhadledd anerchiad grvnius gan y Parch. Jacob Jones, Cadeirydd yr Undeb, ar ran y Drysorfa Gynorthwyol' ac addawodd roddi pob cymorth fedrai i'r mudiad yn y Cyfundeb. Y mae'r cynllun i fynd at y gwaith wedi ei lunio, ac y mae'r Gynhadledd wedi derbyn cyunyg Mr. Jones, ac i'w wahodd atom i annerch cyfarfodydd mewn gwahanol fannau yn ein plith. Gan nad oedd amser i'w gael yn y Gynhadledd, ceisiwyd gan Mr. D. Davies, Emporium, Ebbw Vale, i ddarllen ei bapur ar Ffynonellau cysur crefyddol mewn adeg fel yr un bresennol' yng nghyfarfod y prynhawn. Cafwyd papur gwir werthfawr gan Mr. Davies, ac ar ei ol pregetli- wyd ar Demtiad Crist gan y Parch. D. W. Edwards, B.A., Penmaiu. Y11 yr hwyr pregethwyd gan y Parchn. E. B. Powell, Maesycwmwr, a L. T. Jones, New Tre- degar-yr olaf ar fater ddewiswyd gan yr eglwys. Yn ystod y cyfarfod diolchwyd yn galonnog am y papur i Mr. Davies, ac hefyd i Mri. Edwards a Jones am eu pregethau cyfoethog ar y pynciau. Cafwyd cynulliadau Iluosog, a chroesaw mawr gall yr eglwys. R. E. PEREGRINE, Ysg.
CYFUNDEB CYMREIG PENFRO.I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYFUNDEB CYMREIG PENFRO. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol diweddaf y Cyfundeb uchod yn Gideon, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Medi 26ain a'r 27ain. Cynhadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf, dan lywyddiaeth y Parch. J. Evans, gweinidog parchus y lie. Yr oedd yn bresennol y Parchn. J. J. Jones, B.A., Bryn Seion R. Williams, Maenclochog D. Lewis, Ford; E. A. Jenkins, Moriah; J. G. James, Rhosycaerau D. H. Jones, Berea; H. T. Jacob, Abergwaun; J. Bennett, Goodwick; E. J. Lloyd, Llandudoch D. Williams, Maen- clochog; J. Abel, B.A., Tyddewi; J. C. Rees, D.D., Brynberian J. H. Evans, Trefdraeth a T. E. Jones, Trewyddel. Dechreuwyd trwy weddi gaii y Parch. E. J. Lloyd. Wedi darllen a chadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol, penderfynwyd— I. Fod y eviariod nesaf i fod yng Nglandwr, yn ol y gylchres. 2. Fod y Parch. J. Evans, Gideon, i bregethu yng Nglandwr ar fater o'i ddewisiad ei hun. 3. Derbyniwyd yn y modd mwyaf calonnog a brwdfrydig y Parch. T. E. Jones, Trewyddel, 1*11 mysg fel aelod o'r Cyfundeb, gan ddymuno iddo lawer o lwyddiant a hyfrydwch yn ei faes newydd a phwysig. 4. Gokiriwyd y mater o sefydlu Cadeiriau mewn Diwinyddiaeth yn y Colegau Cenedlaethol hyd y cyfarfod nesaf yng Nglandwr. 5. Gadawyd trefnu ar gyfer ymweled a'r eglwysi yn y Cyfundeb sydd heb symud ynglyn a'r Drysorfa Gynorthwyol hyd nes ceir gwybod pa eglwysi fydd y Prifathro T. Rees, M.A., yn ymweled a hwynt. Ar ol gorffen a'r trefniadau arferol, agorwyd ymddiddan gan y Parch. H. T. Jacob yn ei ffordd ddiddorol ac effeithiol arferol ar fater gwir amserol, sef Difrawder presenuol yr Eglwys.' Siaradodd yn effeithiol ac argyhoedd- iadol iawn ar ei achosion, ei nodweddion, a'i ddylanwad difaol, ynghyda'r moddion raid arfer i'w symud er galluogi'r Eghvys i gyilawni ei chenhadaeth yn fwy effeithiol, fel y byddo i'w pllyrth eto'u fuati gael eu llenwi a sain can a moliant. Cymerwyd rhan yn yr ymddiddan gan rai brodyr eraill. Creodd yr ymdriniaeth ar y mater awyrgylch fu o fantais fawr i'r cyfar- fodydd nodedig oedd i ddilyn. Terfynwyd drwy weddi gan yr Ysgrifemivdd. Y MODDION CYHOEDDUS. Am 6 yn yr hwyr dechreuwyd trwv ddarllen a gweddio gan y Parch. J. Bennett, Goodwick. a phregethwyd gan y Parchn. E. A. Jenkins, ac R. Williams, Maenclochog. Am 10 bore Mercher dechreuwyd gan y Parch. J. G. James, Rhosycaerau, a phregethwyd gan y Parchn. D. H. Jones, Berea, a J. J. Jones, B.A., Bryn Seion. Yr oedd y blaenaf yn preg- ethu ar fater rhoddedig iddo gan y Gynhadledd, sef Y peryglon y mae'r rhyfel yn. achlysur ohonynt.' Cafwyd ganddo bregeth odidog, yn cael ei thraddodi gyda rhwyddineb a dylanwad mawr, a diolchwyd iddo yn frwdfrydig am dani. Am 2 o'r gloch cynhaliwyd cyfarfod i ddathlu canmlwyddiant yr enwog John Williams fel cen- hadwr. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. D. Lewis, Ford ac yn absenoldeb y cadeirydd apwyntiedig, llywyddwyd gan yr N? ? Ysgrifennydd. Ar ol ychydig eiriau gan Y llywydd, traddodwyd araith lâll, flodeuog a diddorol iawn gan y Parch. E. J. Lloyd ar John Williams, a'i waith gorchestol fel cen- hadwr,' yr hpn a werthfawrogid vn fawr gan y gyuulleiclia. Ar ei ol ef anerchwyd y cyfarfod gan Mrs. Thomas, gweddw y cenhadwr adnab- ycldus y Parch. Morris Thomas. Adrodd ffrwyth ei phrofiad ynglyn a'r gwaith Ceuhadol yn India a wnai Mrs. Thomas, mewn ffordd syml a di- ddorol iawn, yr hyn a fwynheid yn fawr gau y gwrandawyr. Bydded i ddylamvad y cyfarfod nodedig hWll brofi'n ddeffroad i ysbryd Cenhadol holl eglwysi'r cylch. Ar ddiwedd y cyfarfod hwn pasiwyd y penderfyniad a ganlyn Ein bod fel cynulleidfa mewn cyfarfod i ddathlu canmlwyddiant John Williams, Erromanga, a gyiihaliwvd yn Gideon, Penfro, ar Medi 27ain. 1916, ac yn gysylltiedig a Chyfarfod Chwarterol Anuibynwyr Cymreig y sir, yn dymuno datgan ein cvdymdeimlad dwysaf a mam a chwiorydd, ac a gweddill teulu'r diweddar Barch. D. Rhys Phillips, y ceuhadwr ieuanc, yr hwn a gymer- wyd ymaith mor ddisyfyd cyn mvned ohono allan i Madagascar i faes a llafur ei ewythr adnabyddus ac aunwyl, y Parch. D. M. Rees. Dymunwn iddynt lawer o gysuron yr Efengyl yn wyneb dirgelwch Rhagluniaeth, siomedig- aeth lem, a galar calon. Cedwir cor011 cvlia wil- der mor ddiogel a sicr i'n brawd ieuanc hoff a phe treuliai ei oes yn y Maes Cellhadol." Bartl wr cyfiawn yw yr Arglwydd." Am 6 yn yr hwyr dechreuwyd gan y Parch. T. E. Jones, Trewyddel, a phregethwyd gan y Parchn. J. Abel, B.A., a H. T. Jacob. Trodd y tywydd allan yn wlyb ac annymunol yr ail ddydd. Cafwyd, er hynnv, gynulleidfa- oedd da a phregethu grymus, yn cael ei werth- fawrogi'11 fawr, ac arwyddion o ffafr y Nef ar yr holl gyflawniadau. Yr oedd y paratoadau ar gyfer y Cwrdd Chwarter gan ein hannwyl frawd medrus, y Parch. J. Evans, a phobl ei ofal yn bopeth ellid ei ddymimo. Aethant i gryn draul i loywi a harddu'r capel, fel yr oedd yn edrych yn nodedig o hardd a dymunol. Er mai praidd bychan ydynt, cliriwyd holl draul yr adgyweirio erbyn dydd yr uchel-wyl. Buont hefyd yn garedig iawn i'r gweinidogion, trwy i oli, trwv anfon cerbydau i'w hoi a'u hebrwrug i Goodwick. Darparwyd lluniaeth ganddynt mewn helaeth- rwydd ar gyfer yr ymwelwyr, yr hwn oedd yn cael ei weini gyda phob sirioldeb. Diolchwyd iddynt yn gynnes am eu llafurus gariad. Gad- awed yr Arglwydd Ei fendith ar yr holl weith- rediadau. D WILLIAMS, Ysg.
Siloh, Pontardulais.
News
Cite
Share
Siloh, Pontardulais. Givyl Flynyddol.—Cynhaliwyd cyfarfodydd blynyddol yr eglwys uchod Sui a Llun, Medi 24am a'r 25ain. Gwasanaethwyd gan y Parch Ben Evans, Barry. Cafwyd pregethau nerthol, a chyfarfodydd nad anghofir. Y Plant.—Yn ddiweddar cyflwynwyd tyst- ysgrifau i'r plant llwyddiannus yn arholiad Maes Llafur yr Ysgol Sal. Mawr yw ein dyled i'r athrawesau medrus Mrs W. R Lloyd, Mrs T. Richards, Mrs E. Davies, a'r brawd 0. J. Owen. Mae paratoadau eisoes wedi eu gwneud ar gyfer y dyfodol, a disgwylir y bydd nifer yr ymgeiswyr yn lluosog. Y Bobl Icuaine.-Mae pobl ieuainc yr eglwys uchod, ar waethaf yr amgylchiadau, yn llawn gwaith. Mae niter ohonynt yn rhedeg eisteddfodau yn llwyddiannus er talu am adgyweirio yr hen gape). Mae y cwmni dramodol hefyd, dan arweiniad eu gweinidog llafurus, y Parch W. R. Lloyd, yn dechreu paratoi ar gyfer dysgu drama arall y gaeaf yma. Buont y llynedd mewn amryw leoedd yn oynorthwyo y gwan a'r milwyr a'r morwyr.
[No title]
News
Cite
Share
TREOES.—Y Parchn Gwilym Rees, B.A., Merthyr, a H. Seiriol Williams, Pontairdawe, fu yn gweinyddu yng nghyfarfodydd blynyddol yr eglwys uchod eleni. Yr oedd y ddau frawd yma ar eu goreu, a chafwyd amser rhagorol ymhob ystyr. -j (
POB OCHR PR HEOL.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
pethau. Ond o ddodi'r adran i mewn, ai teg bwrw amheuaeth wedyn ar bawb soniai am ei gydwybod, wys ? Hawdd fuasai i'r Uywodraetli fod wedi dweyd yu blaen ar y dechreu nad oedd amgylchiadau'r deyrnas yn caniatau gwneud darbodaetli ar gyfer neb 11a dim—Cwacer na Phabydd na neb arall. Ei bod, er yn meddu pob parch i gydwybod fel y eyfryw, yn gweld ein perygl yn rhy fawr i ni 'allu cydnabod dim yn y cyfwnglhwn ond rdyIedswydd semi pob dyn i ddod ymlaen ac achub y deyrnas ac i ddiogelu iawnderau pobl led-led y byd. Yn y gwaith o wneud darbodaeth gyfreithiol ar gyfer cydwybod i gychwyn, a gadael penderfynu tynged cydwybod wedyn i ddynion digon digyd- wybod—dyna lie mae'r drwg mawr. Mil gwell fyddai diddymu'r ddarbodaeth, a galw'r adran hon yn ol, na phoenydio cydwybod fel y gwneir ymhob cyfeiriad, a thynnn anfri nas dileir byth ar hanes Prydain-ynglyn a'r rhyfel hwn. GWYLFA.