Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

MACHYNLLETH.

News
Cite
Share

MACHYNLLETH. Coffadivriaeth.-Mae llaweroedd o'r ardalwyr wedi marw yn ystod misoedd Mai a Mehefin, ac yn eu plith amryw sydd yn dal cysylltiad a ni fel Annibynwyr. Trist gennym gofnodi am ymadawiad y llanc ieuanc Percy Lewis, mab Mr a Mrs John Lewis, Maengwyn street, Machynlleth. Ysgolfeistr ydoedd cyn iddo ymuno 4'r fyddin, ac yn fuan wedyn gwaelodd ei iechyd. Gafaeiodd rhyw fath o dwymyn ynddo, a bu yn nychu am dymor hyd y diwedd Cludwyd ei weddillion gartref i'w claddu, a gwasanaethwyd yn ei angladd gan ei annwyl weinidog.-Dyms filwr ieuanc arall wedi syrthio ym mherson Humphreys bach, Pant- perthog. Bu yntau yn ysgolfeistr yn y gymdog- aeth hon cyn ymuno a'r fyddin. Brodor ydoedd o Ddoigellau, ac yn annwyl iawn ganlaweroedd y ffordd yma Ymddengys ei fod yn rhy wan i ddal ymarferiadau caled y fyddin, a syrthiodd ym mlodau ei ddyddiau. Hoff ydoedd o'r actios a'i weinidog.—Mae Edward John Evans, ysgrifennydd eglwys Derwenlas, hefyd yn ei fedd. Dyn ieuanc tawel, dymunol, fel blodeuyn bach tlws yn y cysgod—un o blant ysgol, capel, a chartref bach tlws y wlad ydoedd et, Er nad yn ddigon cryf i ymuno a byddin Lloegr, profodd Edward John ei fod yn fUwr da i'r lesu. Gwasanaethodd ei annwyl weinidog, y Parch Wnion Evans, yn ei arwyl. Ymgysured ei annwyl fam a'r plant yn y ffaith ei fod eto'n fyw yr ochr draw Un arall symudwyd oedd Thomas James, mab ieuanc Mr David James, Cefncoch, Glasbwll Dyma'r pedwerydd o blant y teulu annwyl hwn wedi ei gymeryd ymaith, heblaw y fam, a'n hen gyfaill wedi ei adael gydag ond un mab a merch yn fyw i'w gysuro. Da eu bod yn teimlo parch mawr at achos ein Harglwydd lesu Grist, a gwyddant am le i gysgodi yn y ddrycin —Deuwn yn awr at hun hen fam yn Israel, sef Mrs Mary Evans, gweddw y diweddar Mr Thomas Evans, a mam Mr John Evans, argraffydd, Machynlleth-preg. ethwr cymeradwy iawn-a Mr E Jenkin Evans, brawd-yng-nghytraith y Parch Price Davies, Liscard, yr hwn sydd yn gerddor gwych ac yn hoff o'r gerdd. Cafodd Kate, ei merch, y pleser mawr o fod yn gysur i'w hannwyl fam ar hyd ei hoes Terfynodd yr hen fam ei gytfa yn orfoleddus pan yn 82 oed. Yr oedd yn bres- ennol ac yn gwasanaethu yn yr angladd y Parchn Henry Williams, B A. (yr hwn ofalai am y trefniadau); Wnion Evans; Cunllo Davies (M 0); D. H. Hughes (B); a Madryn Jones (M.C).—Hefyd y mae gennym i gofnodi am ym adawiad Mrs Jones, gweddw y diweddar Mr Humphrey Jones, pregethwr cvnorthwyol parcbus a diacon gweithgar yn y Trallwm am flynyddoedd. But Mrs Jones hefvd yn ffyddlon iawn i'r achos Syniai Mr a Mrs Rowlands, Madagascar, yn uchel oboni, ac ymddengys mai yn ei thy hi y cyfarfvddasant gyntaf â'u gilydd. Gadawodd amryw blant i hiraethu am dani. Bu farw yn nhy ei mab-Birmingham House, Machynlleth. Claddwyd yn y Trallwm. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch Henry Williams, B A Machynlleth, a thraddod- wyd pregeth eoffadwriaethol y nos Sul gan- lynol yn y Trallwm gan y Parch D Morgan — Bu farw Miss Jane Ellen Jones merch Mr a Mrs Jones, Caecennach, yn ymyl Pemial, yn 48 mlwydd oed Bu farw ei thad ycbydlg flyn- yddoedd yn ol, ond y mae y fam a'r plant eraill yn aros. Cafodd augladd lluosog a pharchus, a phregethodd y Parch Owen Davies, ei hannwyl weinidog, i gapelaid o bobt. GWLADWR. PENILLION AR OL Y DIWEDDAR EDWARD JOHN I EVANS LLWYNDERWEN, DERWENLAS Edward John sy'n dawel orff wys Mewn gwell byd na' ddaear hon Os gadawodd deulu annwyl, Fe wynebodd Wynfa Ion Parod oedd i'r alwad nefol, Cafodd fyw yng ngoleu'r nef; Carodd wlad ei Arglwydd tirion- Trigfa ei gyfeillion ef. Os cadd brofi cystudd daear Cyn wynebu arall fyd, Cafodd deimlo breichiau'r lesn Yn ei gynnal ef o hyd Aeth y glyn yn oleu iddo, GweIodd hyfryd dk ei Dad I Cafodd balmwydd yn ei ddwylaw, Heblaw coron aur y wlad. 1 le'nctyd annwyl-ei gyfoedion— Byddwn ninnau fel efe Gwnawn ein goreu yn ein hamser I arddangos llwybrau'r ne; Cysur yw i'r tenlu heddyw, Pan ynghanol galar trist, Yw fod Edward John yn gyaon Wedi dilyn lesu Grist. W. D. EVANS.

Pentre Rhondda.1

CYFARFODYDD.

Advertising