Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Cymanfa Sir Gaernarfon. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Cymanfa Sir Gaernarfon. I Cynhaliwyd yr uchod yn Abersoch ar y dydd- iau Iau a Gwener, Mehefin iaf a'r ail. Cyfarfu y Gynhadledd am 1.30 prynhawn Iau. Yn absen- oldeb y Cadeirydd penodedig, Mr. W. J. Parry, Y.H., Bethesda, llywyddwyd y gweithrediadau gan y cyn-Gadeirydd, y Parch. W. Ross Hughes. Dechreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan Mr. Robert Jones, Llithfaen. i. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y Gymanfa flaenorol. 2. Derbyniwyd dau gais am Gymanfa 1917, sef o Drefriw a Chaernarfon. Pasiwyd iddi fyned i Gaernarfon. 3. Dewiswyd i gyfrif y pleidleisiau-Mri. Matthew Roberts, Cricieth; D. Davies, B.A., Penygroes a W. G. Thomas, Y.H., Caernarfon. 4. Etholwyd yn swyddogion am y flwyddyn ddyfodol:—Cadeirydd Mr. Richard Roberts, Pwllheli. Trysorydd, Mr. J. R. Pritchard, Y.H., Caernarfon. Ysgrifennydd am ddwy flynedd: Parch. Thomas Lloyd, Rhosgadfan. 5. Cyflwynwyd adroddiad y Drysorfa Fedd- ygol gan y Parch. Thomas Lloyd, a phasiwyd i'w dderbyn. 6. Etholwyd y personau canlynol i fod yn Bwyllgor y Drysorfa Feddygol am y flwyddyn nesaf :—Dros Gyfundeb Arfon Parchn. J. Inan Jones, R. E. Davies ac Ellis Jones; Mri. John Jones, Y.H., Bethesda J. R. Owen, Llanberis a Lewis Jones, Caernarfon. Dros Gyfundeb Lleyn ac Eifionydd Parchn. J. M. Williams, Thomas Lloyd ac R. Edmunds Mri. E. Lloyd Jones, Chwilog J. R. Owen, Y.H., Porthmadog a Dr. Livingstone Davies, Cricieth. 7. Cyflwynwyd adroddiad y Genhadaeth Gar- trefol gan Mr. W. G. Thomas, Y.H., a'r Parch. H. Davies, Pasiwyd i'w dderbyn. Ail-etholwyd swyddogion y Pwyllgor. 8. Croesawodd y Cadeirydd y Parch. D. Thomas ar ei sefydliad yn Cardiff-road, Pwll- heli, gan ddymuno iddo bob bendith a llwydd- iant yn ei faes newydd. 9. Galwodd y Cadeirydd sylw'r Gynhadledd at y Drysorfa Gynorthwyol, a hysbysodd fod yr addewidion yn sir Gaernarfon erbyn hyn yn 11,409. Rhoddodd y Parch. D. Stanley Jones anogaeth gref ar i'r eglwysi ddal ar y cyfle pres- ennol i wneud eu goreu i sicrhau llwyddiant y Drysorfa. 10. Wedi canu emyn, darllenodd y Cadeirydd yr anerchiad ddarparwyd gan Mr. W. J. Parry i'w draddodi o'r gadair. Pasiwyd penderfyniad o ddiolchgarwch i Mr. Parry am ei anerchiad amserol; a thra'n gofidio oherwydd ei absenol- deb, yn dymuno ei adferiad buan i'w iechyd arferol. 11. Pasiwyd y penderfyniadau canlynol:- (a) Cynygiwyd gan Mr. J. R. Owen, Y.H., ac eiliwyd gan y Parch. Thomas Williams Fod y Gynhadledd hon yn llawenhau ddarfod i apel Cymdeithas Genhadol Llundain yn yr argyfwng y bu ynddo oherwydd sefyllfa anfoddhaol ei chyllid, gael ei hateb mor barod ac mor syl- weddol gan yr eglwysi yn Lloegr a Chymru, fel ag i symud pob pryder ynglyn a'r gwaith Cen- hadol ar hyn o bryd, ac i symud yr angen- rheidrwydd o roddi i fyny yr un orsaf Genhadol. Diolchwn i Dduw am iddo ddeffro sel Genhadol yn yr eglwysi mewn dyddiau mor anfanteisiol, ac am yr arwydd hwn o'u ffyddlondeb i Deyrnas Tywysog Tanguefedd ynghanol rhyfel mwyaf hanes. J (b) Cynygiwyd gan y Parch. Ellis Jones, ac eiliwyd gan Mr. Robert Jones: Fod y Gyn- hadledd hon yn dymuno amlygu ei gwerthfawr- ogiad o waith y Bwrdd Llywodraethol yn cyf- yngu oriau yfed ac yn wyneb y lies sydd wedi deilliaw o hyn, yn erfyn yn daer ar Lywodr- aeth ei Fawrhydi, er mwyn clarbodaeth genedl- aethol yn gystal a daioni moesol y genedl, i gymryd mesurau effeithiol yn ddiymdroi er sicr- hau lleihad parhaol gwneuthuriad diodydd medd- wol a'r cyfleusterau i'w hyfed.' (c) Cynygiwyd gan Mr. D. R. O. Prytherch, M.A., ac eiliwyd gan y Parch. J. R. Evans Fod y Gynhadledd hon, tra'n argyhoeddedig tnai un o'r prif wersi a ddysgwyd drwy'r rhyfel hwn ydyw'r angen am addysg mwy trylwyr, ac yn arbennig addysg o nodwedd fwy celfydd- ydol (technical), yn sylwi gyda gofid ar waith rhai Awdurdodau Addysg yn cymryd yr argyf- wng presennol yn rheswm dros ostwng safon effeithiolrwydd yn yr Ysgolion Elfennol, ac yn cwtogi neu'n rhoddi i fyny'r cyfleusterau i addysg gelfyddydol a ffurfiau eraill o addysg uwchraddol o fewn cylch eu hawdurdod. Tra'n cydnabod yr angen eithriadol am gynildeb doeth, y mae'r Gynhadledc1 hon yn gryf o'r farn fod unrhyw gynildeb a olyga aberthu effeithiolrwydcl addysg yn annoeth ac yn peryglu buddiannau uchaf y Wladwriaeth, ac y dylai'r arian a werrir ar addysg fod yn ddigonol i sicrhau addysg gymwys a phriodol i gyfarfod a'r amgylchiadau newydd y byddwn ynclclynt wedi i'r rhyfel fynd trosodd.' (d) Cynygiwyd gan y Parch. R. Edwards, ac eiliwyd gan y Parch. Owen Jones Pod y Gyn- hadledd hon, tra heb amlygu barn ar y safle a gymerir gan y gwrthraynebwyr cydwybodol yn yr argyfwng presennol, yn dymuno datgan ei hanghymeradwyaeth o bob creulondeb a arfer- wyd tuag atynt, ac yn llawenhau, gan fod y Llywodraeth yn parhau i gydnabod cydwybod, ei bod o'r diwedd yn cymryd mesuran sydd yn debyg o atal rhagllaw pob camdriniaeth oher- wydd cydwybod.' 12. Gwnaed coffad gan y Cadeirydd o'r brodyr ffyddlon canlynol a gymerwyd 37maith gan angeu yn ystod y flwyddyn :-Alri. Hugh Jones, Drws- ycoed Griffith Roberts, Llanbedrog William Timothy, John Davies a William Evans, Porth- madog John Jeffries, Bwlchytocyn; R. E. Jones, Cwmyglo; W. F. Jones, Llanddulas; Peter Roberts, Bethesda ac E. R. Owen, Bryngwyn. 13. Ar gynygiad y Cadeirydd, yn cael ei eilio gan Mr. Lewis Davies, Porthmadog, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarweh i'r eglwys yn Aber- soch am y derbyniad anrhydeddus a roddodd i'r Gymanfa. 14. Wedi i'r Parch. John Mostyn wneud yn hysbys y trefniadau lleol, terfynwyd drwy weddi gan y Cadeirydd. Y MODDION CYHOIvDDUS. I Am 8.30 bore Gwener cynhaliwyd seiat dan lywyddiaeth y Parch. W. Ross Hughes. Pregethwyd yn y gwahanol odfeuon nos Iau a dydd Gwener gan y Parchn. J. J. Williams, Treforris P. Price, B.A., D.D., Rhos D. Stanley Jones, Caernarfon; ac H. Elvet Lewis, M.A., Llundain. Yr oedd trefniadau wedi eu gwneud i gynnal yr odfeuon ar y maes, ond bu'r tywydd yn anffafriol. Caed cynulliadau lluosog ac ar- ddeliad amlwg ar yr holl wasanaeth. Dyma'r tro cyntaf i Gymanfa Bregethu'r sir gael ei chynnal yn Abersoch, ac yr oedd 80 mlynedd er pan y'i cynhaliwyd ym Mwlch- ytocyn. Diau y bydd ymweliad y Gymanfa a'r gymclogaeth yn galondid mawr i Mr. Mostyn a phobl ei ofal.  HENRY JONES, )  I THOMAS HO YD, J SGN'

Cymanfa Sir Gaerfyrddin. I

Advertising