Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
ICOLEG BALA-BANGOR.
News
Cite
Share
COLEG BALA-BANGOR. At Olygydd y Tyst. SYR,—Gwelwch yn dda ganiatau gwneud yn hysbys y cynhelir arholiad ymgeiswyr ym ddod i'r Coleg hwn eleni ar y dyddiau Medi 12fed hyd y Isfed. Danfoned y neb sydd am gynnyg ataf fi am Form i'w llanw cyn diwedd Awst. Yr eiddoch, &c., I Coleg Bala-Bangor. T. REES. Gorffennaf 5ed, 1916.
I DIOLCH.I
News
Cite
Share
I DIOLCH. I At Olygydd y Tyst. SYR,—Dymunaf ofod fechan o'r TYST i gyd- nabod gyda'r diolchgarwch mwyaf cynnes y personau, eglwysi a chymdeithasau fu mor gar- edig ag anfon gair o gydymdeimlad a mi yn fy nhrallod blin o golli fy annwyl briod, yr hon a hunodd yn yr Arglwydd nos Iau, Mehefin iaf. Nid oes gennyf ond cyflwyno iddynt fy niolch- garwch mwyaf didwyll. Bu eu geiriau caredig yn help mawr i mi ddal yn fy mhrofedigaeth chwerw. Derbynied pawb a anfonasant air o gydym- deimlad a mi fy niolchgarwch mwyaf cywir, a'm gwerthfawrogiad o'u dymuniadau da. Yr eiddoch yn hiraethus, I Abergwynfi. JOHN WITIIAMS,
I GWEINIDOG GWYLIAU (HO LI…
News
Cite
Share
I GWEINIDOG GWYLIAU (HO LI DA Y II PASTOR). I At Olygydd Y Tyst. SVR,-Peth newydd hollol, mi gredaf, ynglyn a'r eglwysi Cymreig ydyw cael gweinidog gwyliau (holiday pastor)-hynny ydyw, cael gwasanaeth gweinidog am ychydig wythnosau tra y bydd ef a'i deulu yn treulio eu gwyliau yn yr ardal. Ychydig fisoedd yn ol meddyliodd swyddogion yr eglwys yn Soar, Nefyn, am y mater, gan fod yr eglwys heb weinidog sefydlog ar hyn o bryd ac wedi ymgynghori a'r frawdoliaeth, pender- fynasant roddi'r syniad mewn gweithrediad. Anfonwyd at y gweinidog enwog ac adnabyddus, y Parch. Owen Jones, Nantffrancon (gynt o Mountain Ash), i ofyn iddo ddod i dreulio mis neu ddau o wyliau yn ymdrochle poblogaidd Nefyn, ac i ymgymeryd a bugeilio yr eglwys yn ystod yr amser. Wedi peth ymdrech i rwydd- hau'r ffordd, derbyniodd yr alwad unfrydol,' ac addawodd ddod am fis. Siriolodd yr eglwys drwyddi pan ddeallwyd fod Mr. Jones a'i briod hawddgar a gweithgar yn trefnu i dclod i Nefyn ar y iofed o Fai. Cafwyd pregethau grymus ac argyhoeddiadol ar y Sabothau, a chynull- iadau Iluosog yn y cyfarfodydd wythnosol—y cyfarfod gweddi a'r gyfeillach-a theimlai pawb fod presenoldeb yr Ysbryd Glan yn amlwg yn ein plith. Pan oedd Mr. Jones yn weinidog ym Mhenlan, Pwllheli, cyn myned i Mpuntain Ash, bu yn Nefyn am rai nosweithiau yn traddodi cyfres o bregethau diwygiadol, ac yr oedd yr argraff a wnaed ar feddyliau'r gwrandawyr yr adeg honno yn creu awydd cryf yn yr ardal am gael preg- ethau cyffelyb eto. Felly trefnwyd i gael pedair pregeth yn ystod y drydedd wythnos ym Mai, a mawr oedd y son a'r siarad yn ystod y dydd- iau dilynol am y gwleddoedd a gafwyd a'r hyf- rydwch a deimlid wrth wrando ar yr hen wir- ioneddau yn cael eu traddodi gyda'r fath hwyl ac ynni. Yn ystod rhai o nosweithiau yr wythnos cyn- haliai Mr. Jones gyfarfod arbennig i baratoi plant yr eglwys ar gyfer cael eu derbyn yn gyf- lawn aelodau, ac ar y Saboth cyntaf ym mis Mehefin cafodd yr eglwys yr hyfrydwch mawr o weled cliwech o'r bechgyn a'r genethod ieuane yn ymuno a Byddin yr Oen. Ar ddiwedd y mis teimlai Mr. a Mrs. Jones eu bod wedi cael adgyfnerthiad iechyd yn ystod eu harosiad yn yr awyr bur a thyner a fwyn- heir yn y rhan hon o'r wlad, ac, heb amheu- aeth o gwbl, mwynhaodd yr eglwys yn ddirfawr y gwasanaeth gwerthfawr a benditliiol a gafwyd yn ystod y mis. Ein gweddi ydyw ar i Mr. a Mrs. Jones gael lawer iawn o tlynyddoedd eto i gario ymlaen yr un gwaith rhagorol. Nefyn. I O. WILLIAMS.
ICYFARFODYDD CHWARTEROL
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
I CYFARFODYDD CHWARTEROL I CYFUNDEB ARFON. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Saron, Llanwnda, Mai iyeg a'r x8fed. Cyfarfu'r Gynhadledd bore yr ail ddydd dan lywyddiaeth Mr. Isaac Edwards, Caernarfon. Dechreuwyd gan y Parch. Llewelyn Williams. Wedi darllen a chadarnhau'r cofnodion— i. Derbyniwyd cyfraniadau'r eglwys. 2. Penderfynwyd cynnal y Cyfarfod nesaf yn Horeb, Dwygyfylchi, Gorffennaf neg a'r ufed. 3. Darllenwyd atebiad y Swyddfa Rhyfel i gwyn y Cyfarfod Chwarter ynglyn a'r caplan- iaid, &c., yr hon sy'n rhannol wedi ei symud. Hysbysodd yr Ysgrifennydd fod y llythyr tros- glwyddiad y pasiwyd ei alw yn ol wedi ei ddych- welyd. 4. Cyfiwyllodd y Parch. James Jones adrodd- iad Mr. D. J. Williams, M.A., ac yntau fel arhol- wyr yliigeiswyr am y weinidogaeth. Ar eu tyst- iolaeth ftafriol hwy a'r eglwysi y bu yn pregethu ynddynt, derbyniwyd Mr. Llewelvn Caradog Hughes fel pregethwr ac aelod rheolaidd o'r Cyfarfod Chwarter. 5. Pasiwyd i'r Ysgrifennydd anfon at gyn- hullwyr y gwahauol ls-bwyllgorau ryw fis cyn y Cyfarfod Chwarter y disgwylir adroddiad gan- ddynt yn y Gynhadledd. 6. Croesawodd y Cadeirydd y brodyr canlynol oedd yn bresennol o Gyfundeb Lleyn ac Eifion- ydd :—Parchn. J. Williams, Penygroes Thos. Lloyd, Rhosgadfan a J. Walters, Gosen. 7. Pasiwyd i addaw £ 5 i eglwys Bethania, Bethesda, am gasglu £ 21. 8. Pasiwyd i gefnogi cais Nantpadarn am fenthyg £ 200 o'r Gronfa. 9. Pasiwyd ein bod yn annog y Gymdeithas Genhadol i anfon yr Adroddiad blynyddol i'r eglwysi mor fuan ag y gellir, a'n bod hefyd yn annog yr eglwysi i wneud y casgliad Cenhadol mor fuan ag y bo'n bosibl ar ol derbyn yr Adroddiad. 10. Ar gynygiad Mr. W. G. Thomas, Y.H., yn cael ei eilio gan y Parch. Llewelyn Williams, pasiwyd wrthdystiad cryf yn erbyn y bwriad o symud y Cadfridog Owen Thomas o'r Fyddin Gymreig. 11. Dewiswyd Mr. Isaac Edwards, Caernar- fon, yn gynrychiolydd ar Bwyllgor y Gronfa yn lie Mr. W. G. Owen, Y.H., Llanrwst, yr hwn sydd wedi ei benodi'n Ysgrifennydd y Gronfa dros y Gogledd. Pasiwyd i longyfarch Mr. Owen ar ei benodiad. 12. Pasiwyd Ein bod fel Enwad o Ynineill- tuwyr ac Anghydffurfwyr a gafodd ei fodolaeth mewn ymdrech i fod yn ffyddlon i arweiniad cydwybod yn holl gysylltiadau bywyd, yn gwrth- dystio yn erbyn pob creulondeb a ddanghosir at y rhai sydd yn rnetliu ar dir cydwybod ufudd- hau i'r Ddeddf Orfodol.' 13. Pasiwyd pleidlais o gj-dymdeimlad a'r Parchn. Lewis Williams, Bontnewydd (colli ei briod), W. Keinion Thomas (colli ei fam), ac a theuluoedd y ddiweddar Mrs. Williams, Glan- yrafon, Llanfaglan, a'r diweddar Peter Roberts, Bethesda, yn en profedigaeth. 14. Hysbysodd y Parch. W. Keinion Thomas fod y Cartref i ddynion yn y Rhyl wedi ei gau am gyfnod, ac fod ein tanysgrifiad blynyddol o'r Drysorfa Feddygol wedi ei anfon yn ol. 15. l'erfynwyd drwy weddi gan y Parch. J. M. Williams, Penygroes. Pregethwyd nos Fercher ac am 2 a 6 dydd Iau gan y Parchn. H. Jones, Trefriw; W. C. Williams, Llanrwst; Llewelyn Williams, Lian-, dudno Ellis Jones, Bangor; J. Albert Morgan, Ebenezer a D. Stanley Jones, Caernarfon. Cafwyd amser hyfryd a chroesaw mawr gan y Parch. Edward Owen, B.A., a phobl ei ofal. Diolchwyd iddynt gm eu derbyniad siriol a'-m darpariaethau helaeth. HENRY JONES, Ysgv
-Y SEFYLLFA.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y SEFYLLFA. At Olygydd y Tyst. SVR,-Goddefwch i ni ar fyr eiriau wneud yn hysbys i'r eglwysi y safle ar hyn o bryd. 1. Yr oedd cyfanswm yr addewidion mewn 1 law erbyn yr Undeb tua £ 21,300, yr hyn oedd yn gynnydd sylweddol iawn ar yr hyn oedd flwyddyn yn ol. 2. Yr oedd £ 7,320 o'r arian wedi eu talu i'r Trysorydd Cyffredinol. Tua £ 3,000 oedd mewn llaw flwyddyn yn ol. 3. Deellid fod yna nifer o eglwysi wedi dechreu isymud adeg yr Undeb, ond heb orffen fel ag i allu. anfon rhestr o addewidion i law. Yn wyneb hyn penderfynwyd- 1. Gohirio cau cyfrifon y flwyddyn hon hyd ddiwedd Awst, er mwyn rhoi cyfle i'r eglwysi ydynt heb orffen casglu i ddod i mewn i gyfrif y flwyddyn hon, ac er mWYli rhoi cyfle i eraill ddod i mewn cyn cau y cyfrif. 2. Apelio at Bwyllgorau Cyfundebol a'u swyddogion, yn ogystal ag at bob eglwys, i wneud eu goreu ymhlaid y symuniad yn awr, gan y credir y gall y misoedd nesaf hyn fod mor fanteisiol mewn rhai mannau ag unrhyw adeg. A wna'r cyfeillion ymhob Cyfundeb gymryd yr awgrym, a gweithredu yn el cl ? Er ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y inisoedd diweddaf, y niae eto dir lawer i'w feddianuu, gan fod rhai o'r Cyfundebau heb eu cyffwrdd yn effeithiol. Ymafled caredigion y Drysorfa yn y gwaith o ddifrif, oblegid felly y daw'r macn i'r nmr. Yr eiddoch yn frawdol, W. JAMES, Arolygydd. T. DAVIES, Trysorydd. W. Ross HUGHES, Ysgrifeimydd. Mehefin 29ain, igi6.
...- -_ - Y Drysorfa Gynorthwyol.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Mrs. E. Edmunds I o o Mr. Samuel Evans. 1 o o Mr. Joseph Griffiths a'i deulu i o o Mr. Hopkin Evans 012 6 Mr. Griffith M. Evans 012 6 Mr. Hugh Butler o 10 o Mr. John T. Davies o 10 o Mr. Benj amin Harries o 10 o Mr. John Jones, Coronation-street o-To o Mr. Thomas Thomas 1 5 o Symiau llai 1 4 o LLANWRIN, MALDWYN. Mr. Edward Hughes, Y.H., Mathafarn 500 Mr. David Lewis, Hendreseifron. 5 o o Mr. Richard Evans, Esgirhir 2 o o Mr. David Edwards, Maescariau. i 11 6 Mr. David Humphreys, Llanwrin i o o Symiau llai o 9 6 CEIDIO (LLEYN AC EIFIONYDD). Miss J. Williams, Felyn Fadryn. 3 o o Mr. a Mrs. Williams, Madryn Isaf.. 2 10 o Mr. a Mrs. Williams, Tyddynbach.. 1 5 0 Mrs. Jones, Madryn Isaf 1 5 o Mr. a Mrs. Williams, Meillionen. 1 5 o Mr. a Mrs. Owen, Tynewydd. i i o Mrs. Jones, Ffridd i o o Mr. a Mrs. Thomas, Glandwr o 12 6 Miss Annie Roberts, Mount 010 o MAYER-STREET, HANIUY. I Parch. W. Williams. I 5 0 Cynghorwr E. Hughes. i o o Mr. J. Williams. o 2 6 ALBION PARK, CHESTER. Mr. T. J. Jones, Garden Lane 3 o o Mr. D. R. Evans, Chester House. 300 Mr. Rosser, Saltney o 10 o Symiau llai. o 4 o (Mae £ 64/15/0 o'r eglwys hon wedi ymddangos o'r blaell.-W. J.) PENRHYNSIDE, ARFON. Mr. a Mrs. W. R. Williams 5 o o Parch, a Mrs. W. Phillips 2 10 o Mr. a Mrs. Edward Pugh i i o Mr. Emrys Phillips. i i o Mr. John Jones o 10 o BRYN SEION, CWMBACH. Parch. R. H. Davies. 5 o o Cynghorwr T. Lloyd 2 10 o Mr. William James. 2 2 o Mr. D. W. Wilcox. 2 o o Mr. James Jones 2 o o Mr. Ed ward Evans. 1 10 o Miss Lizzie Gwen James i 1 o Mr. Tom Rees I o o Mr. John Hughes 1 o o Mr. Joshua Davies I o o Mr. Joshua Davies (ieu.) I o o Mr. John C. Evans 10 o Mr. Thomas Evan Williams i o o Mr. Thomas Thomas, Rose Row. 1 o o Mr; Richard Price, Tirbach 1 o o Mr. Richard Lewis. I o o Mr. John Williams, Greenfield-terrace 1 00 Cynghorwr D. Davies. 1 o o Mr. D. Edmund Williams o 10 o Mr. Jacob James o 10 o Mr. W. O. Griffith o 10 o Mr. Edmund Williams o 5 o