Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

mm ejMEiiewu mm ejMEiiewu

HWNT AC YMA

News
Cite
Share

HWNT AC YMA (Gan "Teithiwr.") Yn ddiweddar, yn y gwanwyn diweddaf, nid oedd dim i, w glywed trwy yr holl gyinydogaeth ond swn pruddaidd, galar ao wytofain. Gwelai yr holl amaethwyr fod angen ac eisiau yn llygadrythu arnynt o bob cyfeiriad, y gwlaw parhaus, a'r oerni blin yn eglur bregethu fod prinder i ddyn ao anifail ar ein goddilweddyd. Pob arwyddion am borfa i'r da a'r defaid, y moch a'r ceffylau, wedi darfod yn llwyr, a'r newyn trwm yn yr ymyl at ein gwneyd yn gyd-wastad a'r llawr. Ond ah! pa dywyllaf yr awr, agosaf i gyd yw toriad y wawr. Erbyn heddyw mae y gan wedi newid, a'r olwyn wedi troi; cyflawnder o borfa yn mhob congl i'r anifeiliaid, cnydau toreith.og o wair, a'r hin yn bob peth ellir ddymuno i'w gludo i ddiddosrwydd; yr ydlanau yn llawnion o'r ymborth mwyaf tym- herus, a'r hwsman yn barod i daro tant a dy- wedyd:— 0 cydnabyddwn ninau Fod rhyw neillduol rwymau. 0 ddiolchgarwoh ar ein gwlad. I Dad y Trugareddau; Mae'r ymweliadau hawddgar, A gaed o'r nef a'r ddaear Yn dweyd mai teilwng iawn i Dduw Gael dynolryw'n ddiolchgar. MRS. MARY EVANS, RHIWDORTH. Gorfodir ni yr wythnos hon irondo marwolaeth y foneddiges uchod. Dioddefodd gystiuld trwm am wythnosau lawer. Ni arbedwyd na thraul na thra- fferth er dyfod o hyd i adferiad iddi, ond trodd y cyfan yn fethiant, fel y canodd hi yn iach i'r frodir yr wythnos ddiweddaf yn 62 mlwydd ood. Dydd lalun daeth tyrfa ynghyd i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion marwol, pa rai a gludwvd mown elorgerbyd i Capel Isaac, yn cael ei1 dilyn gan nifer mawr o gerbydau. Gweinyddwyd yn y ty, yn y capel. ac wrth y bedd gan ei gweinidog, y Parch. W. H. Harries, a'r Parch. J. Davies, Capel Isaac. Bydded hedd i'w llwch hyd foreu mawr agoriad y Ilyfrau. Yn dawel yn y bedd mae hi, Tan glo mewn Uetty llaith; A gwael yw gwedd y gwyneb fu Yn gwenu lawer gwaith. Ond ah! nid marw, huno mae, Yn iach, heb wae na phoen; A'i henaid fry mewn llawn fwynhad, 0 gariad Duw a'r Oen. MRS. MARY EVANS, CASTELLHOWELL, SALEM. Rhaid yw i ni; hefyd groniclo ymadawiad sydyn y foneddiges dra charedig hon. Ni chafodd hi ond oystudd cymharol fyr, ond cafodd ef yn neillduol o galed. Llewygon o'r parlys mawr fu yn achos o derfyniad ei hoedl. Ychydig ddyddiati yn ol pan yn ymresymu a hi, gallasem heb un petrusder y pryd hwnw. gymeryd prydles ar ei bywyl, gan mor iacb, cryf a heinyf yr ymddangosai, ond gostyngwyd ei) nerth ar y ffordd. Bu farw yn 65 mlwydd oed, ac yn ei hymadawiad, oollwyd cymhares ffyddlon, mam dyner ac anwyl, a chymydoges o'r parottaf a'r I mwyaf caredig yn y wIad. Yr oedd y geiriau can- lynol, a, gwnawd sylwadau arnynt ddydd ei chyn. hebrwrvsr, yn gweddi iddi i'r llythyren: "Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thy, ac ni fwytty fara seguryd. Ei phlant a godant, ac a'i galwant yn ddedwydd; ei gwr hefyd a'i oanmol hi, ilawee march a weitb- I iodd yn rymus, ond ti a ragoraist arnynt olt." Dydd Gwener cyn y diweddaf, daeth yr boll wlad allan I i dalu y gymwynaa olaf i'w gweddillion marwol. I Man fechan ei bedd oedd yn Talyllychau, pellder o tua. chwech milld-r o ffordd; a'i gorohymyn pendant I hi oedd mabwysiadu yr hen ddull. sef ei chario gydag elor ar ysgwyddau, a gwnaed hyn gyda rfrwyddineb, gan fod cannoedd lawer wedi d'od ynghyd. Dilyn- wyd y dorf hefyd gan ryw 45 o gerbydau, a theiinlai pawb eu rhwymau i dalu y gytnwynas olaf i un o Jfyddloniaid y dosbarth. Yn y ty, yn y fjan, ao wrth y bedd, gweinyddwyd gan y rarohn. J. D. Evans (T.C.), Esgernant; Stephen Thomas (A.), Siloh; Thomas Thomas (A.), Godneammman, Aber- dar; John Davies (A.), Capel Isaac; John Alban Davies (E.), Talyflyohau, a John Jenkin Jones (E), St. loan, Maesteilo. Cysured y nef ei phriod hoff, y meibion, a'r merched, a'r boll berthynasau yn. y dydd blin hwn; a honed ein ohwaer mewn bedd hyd Foreu mawr y oodi. Pwy all fod heb golli dagrau, Wrth wel'd Uu mewn gaJar dwye; Pwy all fod heb gollidagrau, Mam a chymhar tan y gwys. Berthynasau, ymwrolwcb, Syliwoh draw tuhwnt i'r bedd; Mewn dedwyddyd mae'eh anwylvd Gyda'r dorf yn ngwlad yr bedd. ) DAMWAIN. Dydd Mawrth diweddaf, fel yr oedd dau foneddwr ieuanc e gymydogaeth Tyoroes, Llanedi, yn gyru ar ddau fodur ar y goriwaered ger Pentrefelin, dwy filldir tu allan i dref Llandeilo ar ffordd Caerfyr- ddin, yn anffbdus torodd pairiant un o bonynt yn,, dipiau man, a thraflwyd y maroogwr i'r ffordd fawr yn ddidrugarodd, fel y derbynjodd niweidiau trym- ion. Cludwyd ef i westty y Lietty, a galwyd ar unwaith am wasanaeth y meddyw medrus, Dr. W. A. Lloyd, Llandeilo, yr hwn ar unwaith a arddan- gosod y cywreinrwydd mwyaf drwy rwymo yr archollion a thywallt iddynt olew a gwin, a'i ym- geleddu yn y modd goret4 gan ei gymeryd yn y diwedd yn ei fodur-gerbyd i?r dref gyfagos. Hyderwn fod y Uanc erbyn hyn wedi cyrhaedd ei gynefinol iechyd. YSBEILIAD. Yn Eglwys St. loan, Maest-vilo, cawo flwoh ar y bwrdd. yn yr hwn y gosodlr yr offryma*; at wahanol achosion perthynol i'r aohoa goreu yn y He. Ych- ydig ddyUdiau yn ol yr oedd ein parchus ficer, y Paroh. J. Jenkin Jones, wedi cymeryd yr oil o'i gynwys, yr hyn oedd yn 8wm hynod foddhaol. Yna gosodwyd y blwcb yn ei le fel arferol, er derbyn o roddion caredigion yr achoe fel synt; ond yn ddi- symwth collwyd golwg ar y trysor a'r ychydig oedd ynddo y tro hwn. Yn awr, teimlem yn dra diolch. gar am i'r sawl gymerodd ei fpnthyg ei ddychwelyd yn dawel. Nid yw yr awdurdodau yn gofyn yr un tal am ei fenthyg; yn unig dychweler ef i'w le. Nid vdvm yn hoffi cnoniclo unrhyw ysbeiliad heb son dim am gysegr-ysbeiliad. Dyebweler y colledig ar frys. MRS. THOMAS, 67. HEOL-Y-PRIOR, CAERFYRDDIN. Pan gyrhaeddodd y newydd trietv annymunol, y Uanereh hon, am farwolaeth a chladdedifaeth y foneddiges ganodig uchod, nis gallasem un ao oU,, lai na theimlo i'r byw. Acth ein meddwl yn ol ar aden wyllt dychymyg am yr amser y bu yma yn aros ar amryw gyfnodau pan yn dilyn el galwedig- aeth gyda y boneddigesau yn yr ystafell drwsio. Yr oedd y prydiau hyny mor llawen a'r gog, ao nid oedd berygl i'r pruddglwyf ddyfod yn agos i neb fuasai yn ei chwmni difyr. Llawen oedd teulu Llwyncelyn pan dderbynient y newydd am ddyfod- iad Miss Elizabeth Owens, Pendderi, canvs felly yr adnbyddid hi y pryd hwnw. Cydymdeimlwn a'i phriod a'r rhai bychain yn y dydd tywyll. Mae ein gobaith yn gryf ei bod hi wedi dianc ar bob gofid, ao wedi cyrhaedd y wlad well. Dywedwn fel y dywedwyd o'r blaen:- Er rhoi hon i'w hir hunedd-fam anwyl, Yn mynwes y dyfnfedd; Diau wedy'n y daw adwedd, I'w chael i baroh uwchlaw bedd. Huned yn dawel yn mynwent Ebenezer^ • Abergwili, hyd y boreu pan y bloeddia yr angel, 'Feirw, dewch i'r farn."

CAPEL HENDflE A'R CYLCH

PLWMP

SALEM, LLANDEILO

, AT EIN GONEBWYR.

Advertising

i ^ LLANGELER

BEULAH

Y COLOFN-FANDOOL.

.,(" THE THRIFTY HOUSEWIFE…

[No title]

"TWMLETS" COMPETITION., ----

-'__---__---__-LLANDOVERY…

LAMPETER TOWN COUNCIL. --

[No title]