Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

FFYNNON Y BYKGWM, GER BRECHFA

News
Cite
Share

FFYNNON Y BYKGWM, GER BRECHFA EISTEDDFOD GADEIRIOL. Cynhaliwyd yr eisteddfod uchod eleni ar y 15fed. o Mehefin. Hon ydoedd y pumed wyl flynyddol. Cafwyd hin ddiguro, a daeth torf luoeog iawn ynghyd. Llwyddiant ydyw hanes yr eisteddfod hyd. yma; beth sydd i gyfrif am hyn, nis gwyddom; cred ambell un yma ac aew yn wahanol, a meddyiiant mai rhyw un peth sydd i gyfrif am hyny; ond sicr yw mai nid un peth sydd i gyfrif am Iwydd- iant eisteddfod y Byrgwm. Gadawn i'r cyhoedd farnu drostynt eu hunain. Cadeiriwyd yn nghyfar- fod y boreu gan yr Henadur Jones-Thomas, Y.H., Llanfynydd, ac arweiniwyd gan y Parch. J. IL Davies, Abergorlech. Yn y prydnawn cadeiriwyd gan Dr. Price, Llansawel, ac arweiniwyd gan y Cynghorwr Ben. Evans, Gwastod Abbot; cyfeilydd, I Mr. D. Vaughan, A.L.C,M., L.R.A.M., Caerfyrddin. Beirniaid: Cerddoriaeth, Mr. D. Thomas, M.A., Mus. Doc., Abertawe; barddoniaeth, etc., Mr. R. Eirwyn Rees, Pencader; hosanau,. gwniadwaith, etc., Mrs. Gwynne-Hughes, Glancothi; pedolau, Mr: Joshua Jones, Esgairdawe; cadcirydd y pwyllgor, Mr. S. Jones, Tyrcae, Brechfa; trysorydd. Mr. Ben Evans, Byrgwm; ysgrifenydd, Mr. D. Thomas, Tanyrallt. Yn canlyn wele restr o'r cystadleuaethau, ynghyd ag enwau'r buddugwyr;—Adroddiad i blant dan 15 oed, "Y Bwthyn Adfeiliedig"; 1, Tom Lewis, Llain. Unawd i rai dan 15 oed: 1, Lizzie Mary Thomas, Ammanford. Dau englyn i'r "Bontbren WTifrau": D. Ehedydd Jones, Rhvdeymerau, a' D. Thomas, Llanybyther, yn gyd-fuddugol. "Brat i blentyn" (gwaith Haw): I, Mrs. Jones, Rose Cot- tage, Llanfynydd. Unawd, "Y Bachgen ffarweliodd a'i WI ad" (cyfyngedig i rai o fewn cylch 4 milidir o Ffvnnon Byrgwm): I, John Thomas, Rose Hill, Brechfa. Chwech cvnghor i ddyn ieuanc pan yn ymadael am wlad cstronol: 1, Ben. Jones, Peniel. Gwddf-glwm, wedi ei gwa ua llaw: 1 a 2, Miss Agneit Evans, Llanfynydd. Unawd soprano, "Hyd fedd hi gar yn gywir": 1, Mrs, Morgan, Llanarthney. Cyf- ieithad o'r Saesueg i'r Gymraeg: I, T. Hefin Thomas, LJydiadnenog. Adroddiad, "Y Cerbyd Modur ar Dan" (cyfyngedig): 1, Thomas Davies, .Llainole, Gwernogle. Pedwarawd, "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd": 1, J. Thomas, Bryndawe, a'i gyfeillion. Par o hosanau i wryw: 1, Miss James, Gwyddgrug. Cvfansoddi penill ar y pryd: 1, Tlios. Davies, Llainole. Unawd baritone, "Teyrn y Dydd": 1, Wm. Gealy, Porthyrhyd. Yn nesaf caf- wyd y seremoni o gadeirio y bardd. Cynygid gwobr a chadair dderw gerfiedig hardd am y bryddest oreu i "Ddyffryn Cothi." Allan o ddeg ymgeisydd dyfarnwvd eiddo Lewis, Glyn Cothi. yn orcu, sef y Parch. E. J. Herbert, Cross Hands, a chadeirwyd ef. yn 01 braint a defawd Beirdd Ynys Prydain. Corau wyth mewn nifer, "0 tyr'd yn ol": 1, J. Thomas. Bryndawe, a'i barti. Unawd tenor, "Gwlad v D<'lvn": 1, Harry Williams, Foelgastell. Her-unawd: 1. Madam Agnes Thomas, Ammanford. "Dwy bedol i geffyl trol" (cyfyngedig i rai heb enill gwobr o'r blaen: 1. Harry Lewis, Gwernogle. "Dwy eto" (agored): I, Daniel Thomas, Park-cwm. Corau Mcibion, "Dringo Plumlimon": Cor Taly- llyehau, dan arweiniad Mr. Caradog Davies. Traethawd, "A Phwy yw fy Nghymydog?" 1, Parch. M. Myddfai Thomas, Ffaldybrenin. Adroddiad, "Ymson uwchben y cryd gwag": 1, Miss Francis, Caerfyrddin. Yn nesaf cafwyd cystadleuaeth y prif ddarn corawl. Bu tynu caled am y dorch hon. am ba un y gwobr 0 £ 5, a dadun mawr (wcdi ei fframio) o'r arweinydd, gwerth JE1 Is. Y dernyn ydoedd "Yr Haf." Daeth tri cor i'r maes, ond ciniwyd y wobr gan Gor Talvllychau, dan arweiniad Mr. Caradog Davies. Ac felly y dygwyd gweithrecl- iadau y dydd i derfyn.

NODION 0 DDYFFRYN TYWI

tADOLYGIAD

Advertising

CYFARC'HIAD PRIODASOL

- NODION 0 ABERGWILI -,

--------------BRIWSION

Advertising

,MANION

|AT EIN BEIRDD

NEWYDDION CYFFREDINOL.

CARDJS LLENGAR A CHERDDGAR.

-. Y MUDION A'R BYDDARIAID.

I CASTELLNEWYDD-EMLYN

LLANSADWRN

BRYNAMMAN

FELINDRE A'R CYLCHI

YMWELIAD MISS WATKIXS A CHYMRU.

ADGOFION AM BENCADER. '

ER COF