Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

GWYNIONYDD YN EI FEDD!

News
Cite
Share

GWYNIONYDD YN EI FEDD! Ydyw, ydyw-y mae Gwynionydd yn ei fedd. Gwelodd y flwyddyn sydd rewydd lithro i'r gor- phenol ddyddiau olaf lluaws o'n dynion goreu, ac yn eu plith un o lewion blaenaf fagodd Cere- digion-y Parch. Benjamin Williams ('Gwynion- ydd ')—oifoiriad, henatleithydd, lienor, a bardd o raddfa pur uchel. Cwsg yn ymyl gweddillion ei briod hoff, ei fab hynaf, a'i ddwy ferch, ym mynwent fechan, dlos, y Bettws Ifan, er Rhag. 7fed, 1891. Coffadwria&th y cytiawn sydd fendigedig.' Ein teimladau ui chaniatant i yma- dawiad y dyn da hwn fyned heibio yn ddisylw. Ei gywirach nis gwelsom, a'i lewach, yn ol y fantais, nis gwyddom am dano. Pe bai yn fyw Dewi Wyn, loan Emlyn. Rhys Dyfed, loan Cunllo, Manod Wyllt, Giraldus, &c ar feddau pa rai y taflodd efe sypiall o flodau bythgofiadwy, dichon y buasai cofnodion o'i farwolaeth yn Iluosocach ac yn helaethach cyn hyn, a hithau yr Awen yn wylo yn hidl ar ol un o'i meib anwylaf. Gaowyd gwrthddrych ein sylw mewn lie o'r enw Silach, yn yplwyf, erbyn hyn nid anenwog hwnw Penbryn, ar yr 20fed o Fehetin, 1821 felly, gwelir fod y partriarch wedi cvrhaedd nod yr addewid-' do ng mlynedd a thrugain.' Ag eithrio I ychydig fisoedd yn ei foreuddydd mewn ysgol r&d yn Troedyraur, ni dderbyniodd Williams yr un gynnorthwy addysgiadol o gwbl. Dadblygodd ei alluoedd felly, fel lluaws o enwogion ein gwlad, heb gymhorth o unrhyw natur tu allan iddo ef ei hun. Er hyny i gyd, y mae efe wedi anfarwoli ei enw tra Cymru, Cymro, a Chymraeg. Heb law ei gynnyrchion toreithiog drwy ei oes i'r cyfnodolion blaenaf a phwysicaf yn yr iaith, cy- hoeddodd amrai lyfrau mewn rhyddiaeth a mydr. Yr oedd yn gyfoethog o henaflaethau. Am ei gyfrol ar Enwogion sir Aberteifi,' dywedai 'Llallawg, Y mae y llyfr hwn, yn ei gynllun, ei drefusder, a'i gywirdeb didnedd, yn rhagori o cly ddigon ar ddim ar a welsom o'r blaen.' Bu Gwynionydd am flynyddau lawer yn ysgol- feistr yn charity schools Madam Bevan, o'r hon elusen y derbyniai efe flwydd-dal hyd ei fedd. Yn y flwyddyn 1873, ordeiniwyd ef gan Esgob Thirlwall yn gurad i gynnorthwyo y Parch. H. L. Davies yug Nghenarth. Gwedi marw Mr Davie3, aeth o Genarth i Myddfai. Gwasanaeth- odd yno fel curad am rai blynyddau. Cofus gan ysgrifenydd y llinellau hyn dderbyn llythyr oddi wrtho pan yn y lie hwn. Cwynai yn enbyd yn y nodyn yma am fod teithio bob Sabbath trwy'r tywyddgerwyn—y gwynt, y gwlaw, a'r eira, dros y mynydd o Lanymddyfri i Landulas, wedi am- mharu ei iechyd drwyddo. Gadiwodd Myddfai am Llanover, lie y gwasan- aethodd am chwe mlynedd yn Eglwys y fonedd- y 11 iges enwog Gwenynnen Gwent. Tua diwedd y cyfnod hwn yn Llanover, derbyniodd ryw fath o darawiad parlysol. a dychwelodd i'w hen artref— y Wenallt, Troedyraur, at ei fab hynaf sydd fyw (Mr If or P. Williams) a'i ferch yng nghyfraith, oddi ar law pa rai y derbyniodd bob gofal, cymhorth, a thynerwch ag a oedd yn bosibl. Bu yma yn teimlw yn gymharol wanllyd am yshaid o rly ddeuddeg mis ac ar y S.Abbath diweddaf ond un y bu efe byw, cafodd darawiad parlysol arall ar ei ffordd adref o Eglwys y Bettws, a bu farw ar y LIun ym mhen yr wythnos. Talodd y cofnodydd ymweliad a'r Wenallt yn ddiweddar yn yr haf, a chafodd y fraint o weled yr hen gyfaill (o hyny teimla yn falch heddyw). Dywedir ei fod yn hollol gysurus ei artrefle. Canmolai yn uchel a di-dor y caredigrwydd, y gofal, a'r tynerwch a dderbyniasai oddi ar ddwylaw y mab a'r ferch yng nghyfraith. O'r tu arall, hawdd ydoedd adnabod y dolurid ei deim- ladau yn erwin yn herwydd ymddygiadau 'annoeth, anfoesol, ac anllad,' rhyw ddosbarth o bobl oeddynt yn cynhyrfu y gymmydogaeth hono o dan y ffug reswm o amddiffyn crefydd yn y dyadiau hyny. Ychydig feddyliodd yr ymwelydd wrth ysgwyd llaw ag ef y tro diweddaf hwn, na chawsai weled ei wyneb ef mwy yn y cnawd. Bu i Mr a Mrs Williams saith o blant-pump o feshgyn a dwy o ferched tri o ba rai, sef David Pryse Williams, y mab hynaf, yr hwn oedd fasnachydd yn Lloegr, a'r ddwy ferch, Margaret yn 22ain oed, a Susanna yn ddeg oed, a fuont feirw o flaen eu mam a'u tad, ag ydynt, fel y crybwyllwyd, yn gorphwys yn ymyl eu rhieni yn y Bettws. Yn ol, ym myd y galar, y mae pedwar mab, sef Mr Ifor P. Williams, a nodwyd eis<>es y Parch. Hywel R. Williams, ficer Lledrod, Ceredigion Llewellyn M. Williams, Rheithor Dowlais, a Tegid A neurin Williams, yw'r ienengaf, yr hwn sydd offeiriad yn Quebec, Canada. Bu farw Susanna o fewn i dri mis ar ol cladde- digaeth Margaret. Effithiodd yr ergydion hyn miwn modd drylliedig iawn ar deimladau y tad a'r fam. Cawn y tad yn cwyno, yn galaru, yn hiraethu, yn gweddio, ac yn prophwydo ar yn ail fel hyn Pwy all ddiruad fy nhrallol-a. dwysder Dystaw fy myfyrdoc ? Mor aethus, boenus mae'n bod, Fy mriw i a fy mriod. Gwyr Naf, ond 'chydig yw'r nifer—o bobl Wyddant bwys fy mhrudd-der Er hyny, traethu'r hanner—nis gallaf, Dechreuaf, arafaf, mae'n llwyr ofer. Mewn alaeth drom yn wylo-ochenaid A'i chynwrf sy'n tystio Er cur, ymdrechu ryw dro, I'whattal, cyfyd eto. Mal eigion ar ol croni-daw alaeth Mal diluw'n ymdori, A chan ryw wyllt drochioni, A mawr rym fy mriwio i. Yn y modd trwm yw fy myd-mae hiraeth Fel mor yn derfysglyd Och alaeth, ail-ddychwelyd Mae hiraeth-hiraeth o hyd Bob tro ag y deffrowyf-yn y nos, Daw yn ei nerth drostwyf Rhyw adeg ammheu'r ydwyf, Ynof fy hun, a'i fi wyf ? Wyf yn hynod fy anhunedd,—rhodio Rhyw grwydriadau rhyfedd 11 O'm golwg, ffudd ymgeledd- Yn wlyb wyf gan niwl y bedd 0 f'anwyliaid fy nheulu, Yn ei faint yn gyfan fi. Heb un boen yn byw'n y byd, Oeddwn yn fy nedwyddyd, Mewn helynt ddymunolaf, A'm bywyd o hyd yn haf; Ond er hyn, mae'n drywanol, Ni ddaw yn awr ddoe yn ol Yn lie haf, ganaf a gwynt Garw ac uchel gorwynt, A thymmestlog lifogydd, A'u swn yn fy nghuro sydd. Er troi ymaith, er tramwy, Ni chaf weled Marged mwy Na gweled (balm i'r galon), Swynol wedd Susanna Ion Os af i'r Bettws Ifan Y wladaidd a'r lwydaidd lan, Yn flin, ni chaf yn flas, Am y daith un gymdeithas O'r golwg ger eu gilydd,-rnaeiit yno Yn tawel huno yn y fynwent lonydd J A daw yn fuan y dydd Af finnau'ii gyd-dri-,fanydd. I 0: ffydd, ffydd, gyr, gyr, ar ftú Y caddug tew sy'n euddio Fy nheimlad, rhyw fan amlwg, A heulwen der o'm blaen dwg. o Y brophwydoliaeth a wirioneddolwyd. Cyd- drigfanydd ydyw a hwynt er ys mis bellach. Ar ol hir nychdod o dan grafangau y darfodedigaeth, bu farw ei briod yng Nghenarth,—oeddem yn yr angladd. Hon oedd yr unig waith, hyd yn hyn, y talsom ymweliad a'r wladaidd a'r lwydaidd lan '—y Bettws. Cofus genym ddarllen yr erjglyn canlynul arfedd-faen y ddwy ferch 0 0 fy nwy ferch dyfnaf ol-ellwyl-fy oes A fu eu dwy noswyl Rhoi'r drem olaf, araf wyl, Ar wyne fy rhai aiiwyl Dynes hynaws ac addfwyn iawn ydoedd Mrs Williams—genedigol, os iiad ydyw ein cof yn ein twyllo, o sir Benfro. Temtir ni yn y fan hon i gofnodi yr hyn a ddywedasai wrfchym ryw nos Galan tra yn adrodd rhai o helyntion ei bywyd wrth y tan yn Glandwr, Cenarth. el,' meddai, gyda gweu ar ei gwyneb, priodais ar y cyntaf gyda theiliwr,—wedi hyny, bum yn briod iysgol- feistr, ac yn awr, fel y gwelwch, uSeir ad yw fy ngwr.' DJarllenydd, adroddir hyn er mwyn gosod allan yr hyn eill gallu, dyfal-barhad, a phender- fynolrwydd wneyd canys ni fu iddi hi, ciod i'w henw, yr un priod ond ei hauwy] Gwynionydd el bun. Gadawodd Gwynionydd adgofion melus ar ei ol ym mhob man—a Iluosog ydynt y cymmydog- aethau hyny y dygodd Rhagluniaeh ef i gyffyrdd- iad a hwynt, cyn ac wedi iddo esgyn i'r offeiriad- aeth ond cyn hyny yu benaf, canys yr oedd ysgolion y charity y llafuriasai efe dani yn sym- mudadwy-symmudid y meistriaid fel rheol, bob tair blynedd. Nid eiiaid hosan,' ys dywedodd y Parch. Thomas Aubrey am Die Aberdaron, oedd gan GWYIJionydd-hyd a ditu ond hyd nage, yn ol darluniad yr hen bobl, yr oedd efe yn ddyn rmmd-nodwedd arbenig a braidd yn ddyeithriad y self-tanyht. Byw oedd ei awen, a chartrefol, uid yn y lleddf yn unig, fel y dyfynwyd, ond ym mhob cywair — darluniadol iawn ydoedd ar bryd- iau. Er enghraiffr, dyfynwn yma un o lawer 01 englyniun i'r bardd enwog Ifan Tomos Rhys, y crydd, o Lanarth — Yn y bwthyn dan bwytho, —ei awen Rywiog oedd ynllifo Dan waith yn cyfiym deithio, A r byntrwydd ar yr un tro. Cawn ef yn humorous i'w ryfeddu ar droion, braidd yn ymylu ar y comic. Er dangos hyn dyfynwn ddau o bennillion o'i gan ddarluniadol o Han Pantyllwydrew: Rhyw yswain bach, gwerth l!ai na chant 11 Oedd Ifan Pantyllwydrew Mewn tref na gwlad, ar dir na dw'r, Ni welid gwr mor llyfndew. Chwareuai'i fraich, a siglai'i glun, Am dano'i hiin meddyliai; Gwynt Eden ydoedd lon'd ei frest Ac ar ei gest edrychai. Yr oedd efe yn deheu am wybodaeth o'i febyd, ac fel Abraham gynt, elai ym mlaen yn ei holl egni, gan gwbl gredu y buasai yr Arglwydd yn coroni ei lafur di-ildio a llwyddiant—ac felly y bu. Ynddo ef hefydyr oedd i'r eisteddfod gefnogydd aiddgar, ennillodd ynddi wobrau lawer. Eglwyswr selog erioed ydoedd, a Cheidwadwr i'r eirn-o natur hollol ryddfrydig a di- dramgwydd i bawb. Yr oedd ei ochelgarwch gymmaint fel uas gallesid gweled Gwynionydd yn ei fawredd penaf a'i werth heb gymdeithasu yn bersonol ag ef. Pan gofynid am ei farn ar un- rhyw destyn pleidiol (crefyddd a gwladwriaethol), ei ateb parod bob amser ydoedd, 'Nid wyf yn gwybod digon i siarad ar y pwnc.' Gwyn fyd na bii y miloedd cegrythiaid hyny ydynt yn bragwthan nes byddaru ein gwlad gyda'u hollwybodolrwydd cyn gofyn o honynt erioed iddynt ei hunain 'a ydyw y pethau hyn felly,' yn dyfod o hyd i ryw gyfran o'r gras mawr hwn a flodeuai mor amlwu ym mywyd gwrthddrych ein hysgrif. Gweithiodd yn hir, gweithiodd yn galed, gweirhiodd yn llwyddiannus, ac y mae wedi myned oddi wrth ei waith at ei wobr. Aeth i mewn i lawenydd ei Arglwydd. Huned hellach yn y Bettws ond wrth ei adael yno, gadewch i ni gael taflu ar ei fedd yntau rai o'r dyrnaid blodau a daflodd efe ei hun ar fedd y diweddar Barch. J. R. Griffiths, Periglor, Llangeler Wei heddyw drwy ddwyf il haeddiant,—eistedd, Mne'r Cri-tion diffuant Ar ei sedd, yn ddilwgr sant, A'i gan yng nglwad gogoniant. EMLYNYDD. Abergorlech Board School, Ionawr 18fed, 1892.

SHON GORPH MEWN GWEWYR YM…

DARKEST WALES.

GORC HESTION YR OES.

MARWOLAETH Y DUC O CLARENCE.

BWRDD YSGOL LLANEGWAD A BRECHFA.

4 DIRAGrFARN.' j ---"7

PAN FO'R HAUL YN MACHLUDO.

CRAIG Y DAREN.

[No title]