Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

DYDDIADUR.

----- - PULPUDAU'R SABOTH…

LIythyr Lerpwl.

News
Cite
Share

LIythyr Lerpwl. [Y llungan lc^ens, Bangor.] Gwarchodwr ein Hen Ganeuon. Garedigion Hon a chan, a pliawb sy hoff o hen ganu'r Cymry, gadewch i mi'ch intro- diwsio ar ddechreu'm llythyr heddyw i Dr. J. Lloyd Williams, y gwr sydd i annerch y Gymdeithas Genedlaethol yn Colquitt Street nos yfory (nos Wener) ar Ein Hen Ganeuon Gwerin Y mae'r Doctor yu un o r twr disglair a selog sy wedi ymddiofrydu i acliub ein hen alawon cyn eu myned yn angho' ac ar ddifancoll, ac ereill amlwg gyda'r Gym- deithas newydd yw'r Prifathro Reichel, Ban- gor, Mary Davies (o Luridain), Ivor Will- iams, Llew Tegid, ac yn y blaen. Bydd Mr. Harry Evans yn y gadair a chvnorthwyir y Dr. gan rai o bigion lleisiau'r ddinas. Hy- deraf ych gwelir yno'n Uu,—ac mewn pryd, da chwi, yn lie bra.thu i fewn pan fo'r Dr. ar ganol dweyd rhai o'i bethau goreu. Rhwng y Gymdeithas Genedlaethol, Cymrodorion y Brifysgol, a Chymde'thas- au'r Cymru fydd, 'does dre'n y byd a wna fwy na Lerpwl i gadw fflam y Genedl rhag diffod. -»• Traflwnc Lerpwl. Clywais ddweyd fod hanner can mil o bunnau ( £ 50,000) yn cael eu gwario bob wyth- nos yn Lerpwl am y diodydd meddwol. Llymeitiwr o'r helaethaf a fu Dicky Sam erioed. Pa'r faint o Gymry ? Tair mil, ebe Cyfrin, sy o Gymry ym Man- ceinion, ond 'does neb yn unfarn am rifedi Cymry Lerpwl. Can mil, ebe un nag oes, ddim ond trigain, ebe'r ail. Ond a'ch helpo ebe un o weinidogion y ddinas vn y Cvfarfod Misol diweddaf, 'does mo'r deng mil ar hugain, pe cvfrifech o neillben y ddinas i'r llall." Parodd y sylw i wen anghrediniol ymdaenu tros wedd ei wrandawvr ond pwy ohonynt a fedr brofi'n amgenach ? -<" Fflangell Emlyn. Yng Ngherddor Ebrill, dywed Mr. D. Emlyn Evans bethau go lvmion am fudiad Yscoloriaethau Eleazar Roberts, sef I-Mai yn araf a chrintach y cyfrenny Cymry'r wlad at amcan mor dra theil- wng. 2— Mai gresyn fod y pwyllgor chwannoced i fan-gweryla, yn lie dirwyn y mudiad i ben. A thoes gan Gymry Lerpwl ddim He i ym- ffrostio, cans oer a didaro a fuont hwvthau i brisio llafur a chydnabod aberth Mr. Roberts ar hyd ei oes, nid ar ran Sol-ffa yn unig, ond ar ran pob d'icni i Gvmru. Y mae'r hvnafgwr yn gvrru ar ei burned flwydd a phedwar ngainac o'i oed, yn cadw'n iraidd a sfionc rvfeddol. Deil i garu'r ser, ac i syllu ar ou troadau drwv ei glamp telescop yn ei Bre,s- wylfa, Hoylake ond nid ar ser yn unig y syll efe, eithr ar y ddaear a phob rhyw hel- ynt mewn Byd ac Eglwvs; ac ar hyn o bryd, a chogyfer a'r Tmethodydd nesaf, y mae'n plethu fflangell o fan reffynnau i chwipio hyswyr rhyfel allan o Eglwys Dduw. Nerth i'w benelin. -9- Cofiant O. R. Owen. Y mae cofiant y diweddar Barch. O. R. Owen, Park Road, eisys yn nwylo'r argraff- wyi-, ac i'w gyhoeddi'n gvfrol hanner coron o Swyddfa'r Brython. Y cofiant yn waith y Parch. O. L. Roberts, y Tabernacl, sy bellach wedi cwblhau ei ddegfed llyfr, sef fel y canlyn :-Yr Oriel Anibvnol (1893), Llawlvfr Hanes Paul (1894), Nodiadau Her- ber (1897), Y Dyn Ieuanc (1902), Colofn Alun (1902), Goleuni yn vr Hwvr (Herber, 1902), Owen Thomas (1903), Gofiont James, Nefyn (1906), Lloffion Grawnwin (1906), O. R. Owen (1909). Y mae rhestr y tanvsgrifwyr at y gvfrol ddiweddaf yn cvrraedd eisys agos i fil o rifedi ao i'w chau Mehefin y 15fed. Chwidredd yr Het. Y mae Chwidredd yr Het-sef y merry- widows gantal-mawr sy wedi dod i'r ffasiwn gan y inerelied-yii peri poen a blinder yng nghapeli Lerpwl, cystal ag yn ei chyng- herddau a'i theatrau. Mewn un addoldv, clywaf i'r saint anfon dirprwyaeth at y swvdd- ogion i gwyno eu bod yn methu gweld na pliregetliwv yn y pulpud na dim ond un o bob pedwar o'r blaenoriaid yn y Set Fawr ac yn dymuno ar yr awdurdodau gorucliel drefnu fod gwisgedyddion y merry widows yn eistedd i gyd gyda'u gilydd yr un ochr i'r capel, modd y caffai pobl ereill, a mwy yn eu pennau a llai arnynt, gael gweld a chlywed a mwynhau. Pan ddaeth y chignon bondi- grybwyll i'r ffasiwn ddeugain mlynedd a mwy yn ol, cof gennyf fel y'i dirmygodd Gwilym Cowlyd gyda'r englyn gwawd a gan- lyn :— Scwrffil ar wegil liogeri-yw Chignon, Sy'n wallt gan bob hurten Argoel pall ar wegil pen; Yn swp hyli, ar siap pellen," Pwy o'ch plith chwithau, Feirdd Pendant Lerpwl, a n^dd gerdd a digon o duchan ynddi i wawdio'r Hot Fawr, a'i chwidredd a'i chantal, allan o'n capeli ac o'n cyngherddau ? Yr Haul a'r Ysgol Sul. Dyma'r arolygwyr yn dechreu cwyno'n barod fod y tywydd braf yn niweidio'r Ysgol Sul, ac fod llygedyn o haul brynhawn Saboth yn ddigon i ddenu cannoedd o'i deiliaid llac i dorheulo yn y parciau. Ahai os felly fis Ebrill, ymh'le, ddvnion mwyn, y byddis erbyn Gorffennaf ac AwstRhyw ffasiwn a phla. y"r picio am holidays yma, ar rheitiaf wrthynt gaiff leia' ohonynt a phe rhoech iaith calon miloedd o'n haelodau eglwysig heddyw mewn geiriau, fel hyn y darllennai: Rhowch yr Ysgol Sul, y Cyfarfod Gweddi, a'r Seiat, heibio am yr ha, yn union fel 'rydych yn gwneud a'r Cymdeithasau Llenyddol a Diwylliadol. Ac o ran hynny ddaw iddi, chwi allech ganu marwnad Oedfa'r Bore bryd mynnoch. Ni welais mo'ni mor deneu a llwydaidd a heddyw yn fy nydd ac rwy'n hanner cant. Bedyddio'r Nyth. Ffasiwn dda ac sy ar gynnydd ymysc Cymry Lerpwl-sef ymysc y ffodusion sy n gorchfygu'r byd ac yn gallu fforddio t^ a lawnt a llidiart—ydyw bedyddio'u preswyl ag enw Cymraeg, yn eu cofio a'u cydio wrth yr hen ardal yng Nghymru, neu ynte rywle anwyl gan y gwr neu ynte gan ei wreigen. Dyma un o flaenoriaid adeiladol a chefnog y North End yn galw'i dy yn V otty-nad oes dlysach enw ar' breswyl, ac sy gymaint amgenach ar dy Cymro na'r Dulce Domum a'r Buena Vista a wisg ambell dyddyn ar ei lidiart er mwyn dangos dysc a Die bhon Dafyddiaeth ei drigiannydd. Wele rai tlws- enwau y sylwais arnynt yn fy mynd a m dod ddau tu'r afon :— Cvnlais, Ystrad. Trevlys, Bryn Tawel, Cemlyn, Taldrwsl, Pengwern, Glasnevin, Eilian, Madryn. Moresg, Hafodunos, Ber- wyn, Rhianva, Ardwyn, Vaynol, ac yn y blaen. Ac i chwi sy'n hwylio priodi a chwilio am nyth, wele dusw-dewis o enwau ag arnynt hvfryd-arogl yr Hen Wlad Nyth y Dryw, Cil y Bine, Lletty'r Fwyalch, Craig yr Helbul (a ddewisodd un o nofel- yddion Lloegr ar ei hafod yn y Bermo, uwch ben y mor), Yn y Cysgod, Gyda'r Gwellt, Y Noddfa, Tyddyn Esmor, Tua r Wawr, Godre'r Wig, Bron y Ddol, I Aros Ne, Wrth Angor, Ael y Dre, Tan y Dail, Y Wern, 'Raelwyd, Tvddyn Siriol, Llys Aeron, Myvyrian, Y Bedol, Y Fron Las, Voelas, Botwm ar Frest y BettWs, a myrdd ereill y gellid eu dethol. Seraff y Borth. Ddydd Sadwrn nesaf, bydd y Parch. Thos. Chas. Williams, M.A., Porthaethwy, yn hwylio yn y Mauritania am y Gorllewin ac fel hyn y mae ei gyhoeddiadau Bydd vn Nosbarth New York a Vermont Mai 4—10 Utica, 11 yng Nghyf. Dosbarth Remsen, 12, 13 agor capel Scranton, Pa., 15 16 erys yn y Dalaith honno hyd Mai 27 yna yng Nghymanfa New York a Vermont 2H-30. O hynny 'miaen trefnir ei gyhoedd- iadau gan y Parch. David Edwards, Lake Crystal. Meliefin 15 27 cynhehr y Pan Presbyterian Council yn ninas New York; ac y mae Mr. Williams wedi ei awdurdodi gan y Presbyterian Church of England i siarad ar Calvin and Liberty. ØO-K, r8rL a.

[No title]

Advertising

Family Notices

Advertising

Advertising