Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

TREGARON

News
Cite
Share

TREGARON Y CYNGHOR SIPOL.-Nid yw yr hen aelod yn foddlon cael ei ail ddewis, ac nid oes neb yn fwy teilwng na'r Hall i lanw ei Ie. Mae'r larll Lis- burne yn gomedd cynyg eto. Mae aelod Strata Florida yn foddlon, a gallai yr etholwyr wneud gwaeth gwaith na'i ail ddewis. Iddo ef ac Aeron- ian mae Undeb Caron yn ddyledus am iawnderau ag sydd yn tynu dwr o ddanedd^Undeb Llanbedr. Gyda Haw, clywsom nad yw Aeronian yn ymgeis- ydd eto. Clywsom nad ydyw y Parchedig o Blaen- penal yn chwenych parhad o'i swydd. Bu Mr. Owen yn cithaf ffyddlon, a gall Blaenpenal ddewis ei anffyddionach o lawer. Nid yw hen aelod Llan- geitho yn foddlon cymeryd ei ail gynyg. Wel, wel, dyma hi yn galeh! Pa le y mae gwres 1889 ? I gwblhau y rhestr. nid yw aelod Ysbytty ar y maes. Mae yr aelod dros Nantcwnlle (Mr. Jones) am gilio oherwydd ei iechyd ac yn bendifaddeu y mae aelod diwyd, dwfn, a gweithgar Llanddewi wedi dewis y Bwrdd Ysgol o fiaen y Cynghor. Fel hyn nid oes argoel y bydd dros un o'r wyth a gynrychiolai Undeb Caron yn y Cynghor nesaf. Ac o'r tu arall. y tebyg yw y bydd eu soddau gael eu llenwi gan Sparbils deunaw yn y ddysen. P. CYMDEITHAS Y CEL PREN.-Diehon na.d yw pawb o'ch darllenwyr lluosog yn gydnabyddus a'r ffaith fod cymdeithas yn dwyn yr enw nchod wedi ei sefydlu yn Nhrcgaron; ond ymddengys yn ddigon tebyg fod hyny yn wir. Gwyddoch, Mr Gol., fod cymdeithasau cytfelyb yn sefydliadau cyffredin iawn yn ein gwlad flynyddauyn ol, ond nid oes cymaint o son am danynt bellach er's tro. Cynyrchodd gweithrediadau'r cymdeithasau hyn gyffroadau mawrion mewn llawer ardal, ac erys eu canlyniadau yn alulwg hyd y dydd hwn. Gan nad beth oedd amcanion y gymdeithas hon ar ei chychwyniad, gallaswn feddwl inai ei hunig nod yn bresenol ydyw gweinyddu cosb gyhoeddus ar ddosbarth neillduol o droseddwyr y tir, sef y personau a geir yn euog o gyfeillach anweddus ac anghyfreithlawn dyweder gwr a ddolir yn dal cyfeillach a merch ieuanc neu wraig- dyn nxalJ, neu ddyn ieuanc yn godinebu a gwraig ei gymydog. Drwg genyf orfod dwyn tystiolaeth, a hyny yn hollol groes i'r graen, fod pechodau o'r natur yma yn cynyddu yn ddirfawr yn yr ardal hon mewn nifer a haerllugrwydd. Dealler fod sefyllfa foesol ein gwyr ieuainc a'n gwyryfon cyfuwch yn y gymydogaeth hon ag unrhyw ardal yn Nghymru. Ond y mae yma bersonau mewn cyflawn oed yn byw yn yr aflendid mwyaf fedl ant ddychymygu am dano. Nos Fercher, y 3ydd cyfisol, bu Mr. William Jones, o Birmingham, yn traddodi ei ddarlith ar "Yr hyn a welais ac a glywais yn Pompeii, Naples, a Rhufain," yn nghapel Bwlchygwynt, Tregaron. Yn ychwanegol at y ddarlith, arddangosai Mr. Jones wawl-aiiuniau o'r- golygfeydd mwyaf dydd- orol a welodd ar ei daith drwy yr Eidal. Yr oedd y cyfarfod drwyddo yn un o'r cyfarfodydd mwyaf dyddorol ag a gafwyd yn y cyfeiriad yma er's llawer o flynyddan yn y lie hwn, a chasglodd torf luosog yn nghyd i fwynhau hanes y daith a golyg- feydd ramantus a chynhyrfus ardaloedd Pompeii, Naples, a Rhufain. Yr oedd sylwadau Mr. Jones yn dangos yn eglur ei fod yn feddianol ar feddwl annibynol a chraffus. a'i fod wedi chwilio allan am brif ryfeddodau'r dinasoedd hynafol. Deallwn fod Mr. Jones yn bwriadu talu ym woliad a llawer o ardaloedd ei wlad enedigol, er rhoddi mantais i'w gydgenedl i fwynhau y wledd feddyliol hon. Tros- glwyddwyd yr elw oddiwrth y ddarlith tuag at chwyddo Cronfa Cofgolofn y diweddar Henry Richard, A.S. Yn yr un cyfarfod dangosid delw (sketch model) o'r Gofgolofn fwriadedig, yr hon sydd wedi ei han- fon i'r Pwyllgor gan Mr. J. Milo Griffith, Cerf- lunydd, Lundain. Dealler nad yw y gwaith o wneud y gofgolofn wedi ei osod i neb eto ond y mae y pwyllgor wedi anfon gwahoddiad i lawer o Sculptors adnabyddus i ddanfon eu cynlluniau a'u prisiau i fewn, er mwyn dewis yr hwn a fernir yn fwyaf cymhwys a rhesymol ei bris, i gyflawni y gwaith.—Berwynog.

TALSARN

ABERAERON

LLANON

ABERTEIFI

STRATA FLORIDA

YSTRADMEURIG

LLANBEDR

LLANARTH

GLANAU AERON

ET LLANGEITHO

.. bywyd amaetiiwr.