Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
[No title]
Ymddengys ddarfod i Ymreolwyr Bwr- deisdrefi Caerfyrddin, sef y bobl hyny sydd yn cylioeddi yn mhob man y dylai materion Cymreig gael eu penderfynu mewn Senedd Gymreig, ac na ddylai yr un Sais gael caniatad i gymeryd unrhyw rau yn y cyf- .ryw, ymddengys yn ol y newyddion di- weddaraf a'n cyrhaeddodd o Lanelli ddoe, ddarfod i fagad o honynt fyned i fyny i Lundain, prif ddinas y Sais, i ddymuno ar ryw Ellmyn, neu Sacson, o'r enw Schnadhorst, i geisio cyfanu y rhwyg sydd yn bodoli yn y rhengoedd Ymreolawl yn Llanelli a Chaerfyrddin Rhaid eu bod mewn cyfyngder mawr cyn y buasent byth yn ymostwng i ymofyn gwasanaeth gwr o fath Schnadhorst. Pa le mae arweinwyr y Blaid Gymreig ?
NEWYDDION MARCHNADOL
NEWYDDION MARCHNADOL YD.—Dim cyfnewidiad o bwys. YATEiNYiN. Gostwng wnaeth pris yr ymenyn yn marchnad Cork yr wythnos hon. Fel yr hysbysasom yr wythnos ddi- weddaf yr oedd pris y Seconds yn 125 swllt yr 112 pwys dydd Mercher wythnos i ddoe, heddyw (dydd lau), ei bris, yn ol y telegram dderbyniasom am 12 o'r gloch, yw 117 swllt yr 112 pwys, sef tua swllt a ctlmai y pwys, Thirds, 103, Fourths, 86. ClG.—Marwaidd iawn drwy y deyrnas.
Advertising
ADVERTISEMENTS. POISON for KILLING PtA-TS.-Tho-Lisaiicts have been killed by using SANFORD'S POISON, Hundreds of Farmers that have used it say it is the best Poison known, as they find a lot of Rats dead by using it. Post free, Is. 2d., 2s., 3s. box, of SANFOllD and SON, Sandy, Beds. Send stamps and try it. Sold by Chemists. Also MICE POISON for dressing corn stacks. QMALL FARM of 10 to 30 acres of land M WANTED to Buy or on long LEASE in the neigh- bourhood of Lampeter. Apply :—J. Robinson, Esq,, care of Manager, Welsh Press," Lampeter. ..o- FOR SALE "EXCELLENT FOUR WHEEL DOG-CART. Apply:—Mr. J. Jordan Jones, Auctioneer, Rhydygof, Lampeter. fUVIAIL BEDW: Gyda'r Pout wedi eu pacio yn U ofalus, Swllt. Hefyd, BASGEDI, a phethau cymhwys i orchuddio olwynion cerbydau. Mrs. Charles, 36, John Street, Edgware Road, London, W. TpOR SALE.—A Six-year-old Welsh Mountain Pony, with Trap and Harness complete. Apply:-D. Jones, Tivy Coal Yard, Lampeter. Y DYFODOL CYFARFODYDD, FFEIRIA0, &c. -+:>0- Chwef. 8fed, Parch. W. Rees, Llecbryd, yn dar- lithio yn Ysgoldy y Bwrdd, Crugybar, am 7 yn yr hwyr, ar Lyfr Datguddiad. 10fed a'r lleg, Cyfarfod Chwarterol An- nibynwyr Cyfundeb Gorllewinol Caer- fyrddin yn Whitland. Chwefror lOfed, Ymdrechfa Aredig yn Mottygido, Llanarth. Chwefror 27ain, Arwerthfa Good, yn y Feinog- Ganol, gan Mr. Thomas Jones, Arwertliwr.
AT EIN DERBYNWYR A'N DOSBARTHWYR.
AT EIN DERBYNWYR A'N DOSBARTHWYR. Diolch i chwi un ac oil am bob cynorthwy dderbyn- iasom oddiwrthych 1 gychwyn ye BRYTHON CYM REIG ar ei yrfa, Os dygwydd iddo fod yu hwy ar ei daith na'r amser arferol, neu na'r amser cldylai fod, gadawer i ni gael Post Card, gyda chyfeiriad llawn y derbyn- ydd wedi ei ysgrifenu yn eglur. Ar ol ei ddarllen, bydded i'n cyfeillion roddi amlen ddimai am dano a'i ddanfon rhag ei flaen at ryw gyfaill neu gyfeilles ly arall. Bydd yn dderbyniol iawn gan Frythoniaid yr Hen Wlad sydd yn gorfod byw yn rhai o dtefydd mawr Lloegr, neu mewn parthau eraill o'r byd. Gwasanaetha yn ami fel "Llythyr o gartref a phob newydd ynddo i'r mab neu'r ferch sydd yn byw yn mhell oddiwrth eu rhieni a'u cyfeillion cyntefig Y mae genym eisoes rai derbynwyr yn mhob parth o Geredigion, ac hefyd mewn rhanau helaeth o Benfro a Chaerfyrddin. Rhagor yn eisiau eto. Gweler y telerau ar y wyneb-ddaleh.
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. Derbyniasom luaws o ysgrifau meithionyr wyth- hon. Ni fedrwn gael lie i'r ddegfed ran o honynt. Daeth amryw dienw i law, ond y tan fu eu tynged yn ddiymdroi. Gwastraff ar amser ac arian yr ysgrifenwyr yJoecld eu gyru yma. Bydded i bob Gohebydd gofio am (1) Ysgrifenu yn fyr, (2) yn eglur, (3) ac ar un tu i'r ddalen. Heblaw hyny cofier am amgau yr enw priodol bob amser.
AT EIN DARLLENWYR.
AT EIN DARLLENWYR. Peidier anfon arian mewn llythyrau. Derbyn- iasom lythyr y dydd o'r blaen a Dau Swllt ynddo, a gorfu i ni dalu Wyth Ceiniog am dano. Mae gan awdurdodau y Post reolau a threfniadau, ac un o'r eyfryw ydyw gwrthod cludo arian bathol (coin) mewn llythyrau. Mae Stamps i'w cael yn awr gan bob llythyr gludwr ac yr ydym yn ber- ffaith foddlawll derbyn gwertb ychydig sylltau o'r cyfryw yn lie tal. Danfoner rhai Dimai hyd y gellir.
--------_-----_.--_-------_---_-CYjSTGHOII…
CYjSTGHOII SIROL CEREDIGION YR oeddem wedi bwriadu cyhoeddi yr wythnos hon y gyntaf o ddwy neu dair o erthyglau fwriadem ysgrifenu ar Gynghor Sirol Ceredigiou, ond lluddiwyd ni gan or- brysurdeb gyda gorchwylion eraill, a gor- lawnder o faterion oeddent yn gwasgu ar ein gofod. Os bydd modd yn y byd ym- drechwn ddechreu yr wythnos nesaf. Y cyfan ddyweclwn wrth ein darllenwyr yr wythnos hon yw am iddynt fod yn bwyllog cyn dewis neb i'w cynrychioli yn y Cynghor am y tair blynedd nesaf. Bydded iddynt holi beth oedd yr addewidion. rodd- wyd gan y rhai fu yn eu gwasanaethu am y tair blynedd diweddaf a pha nifer o honynt gytiawiiAvyd. Cofier fod "PLAID YR ADDEWIDION" yn parhau i ofyn iddynt am eu dychwelyd i'r Cynghor am dair blynedd eto. Mae yn wir nad yw pob aelod unigol o'r Blaid hon sydd yn awr yn y Cynghor am gael ei ail ethol, ond mae y Blaid am rywrai cyffelyb i'r rhai sydd yno yn awr. Peidier a bod yn rhy barod i gredu yn eu haddewidion.
[No title]
i — Mewn colofn arall, dan y penawd Llan- bedr," geilw goliebydd sylw at anrhydedd osodwyd ar un o frodorion Llanbedr yn Llundain yr wythnos ddiweddaf, sef ein cydwladwr dysgedig a gwladgarol Walter D. Jeremy, Ysw., M.A. Dymunwn o waelod calon longyfarch Mr. Jeremy, a gwyddom ein bod yn cyhoeddi dymuniad pawb sydd yn ei adnabod wrth ddatgan ein gobaith y bydd iddo a'i briod gael hir oes a a hir iechyd yn y Brifddinas. Llawenydd i bobl Llanbedr fydd gweled Trysorydd Gray's Inn yn eistedd ar y fainc yn Llys Chwarterol Ceredigion, yn y dref lie y cafodd ei eni a'i fagu. Mae Mr Jeremy yn lienor gwych, ac yn hanesydd rhagorol.
[No title]
Dydd Sadwrn diweddaf'bu farw, yn 75 mlwydd oed, Mr W. Beresford-cyn-farnwr Llys Sirol Cylchdaith Rhif 31, yn Tenby, lie yr oedd wedi myned dydd Llun gyda'i briod i aros ychydig ddyddiau gyda'i mab, y Barnwr Cecil Beresford.
[No title]
Nos Fa wrth anerchwyd cyfarfod o 10,000 o bobl yn Exeter gan Arglwydd Sulisbury. Siaradodd am Flwydd-dfd i bobl oedranus, y pwnc Gwyddelig, gwelliantau tirol, &c.
[No title]
Yr wythnos ddiweddaf darfu i dri o ladron Llundain lwyddo i ladrata oriawr ein cydwladwr parchus Mr Stephen Evans, Y.H., Neuadd-Llansilio, pan oedd yn croesi yr lieol. Daliwyddrwy, pa fodd bynag, gan yr headgeidwaid.
Family Notices
GEN .EDI G AETH AU -<> EVANs-lonawl' 27ain priod y Parch. J. P. Evans, Ficer Llanfihangel-y-Creuddyn, ar fab. MASSEy-Ionawr 30ain,-priod:Mr. G. Massey, Cam- brian Cottages, Aberystwyth, ar ferch. MAN LEY—Boreu dydd Sadwrn diweddaf, lonawr 30ain, yn mhreswylfod ei mam, The Green, Llailoii, priod y Parch. H. Jones Manley, Curate ill char ye, Llangian, sir Gaernarf on ,|ar ferch, cyntafanedig. PRIODASAU HUGHES—RICHARDS—Ionawr^ 26;iin, yn St. Paul, addoldy Cymreig y Wesleyaid, Aberystwyth, gan y Parch Lewis Williams, Mr;Edwin Hughes, Powell Street, a Miss Catherine Anne Richards, Great Darkgate Street, Aberystwyth. MARW OLAETHAU HAMMOND—Ionawr Slain, yn 38 mlwydd oed, Margaret, priod Mr. J. Hammond, William Street, Aberystwyth. JAMEs-lonawr 29ain, yn 6 mlwydd oed, Jane, merch Mr. J. James, Coal Merchant, Glyndwr, Bow Street. JONEs-lonawr 30ain, ynGõm lwydd oed. Mr. B. Jones, Dolycoed House, Llanwrtyd Wells. MORGAN—Ionawr 30ain, yn 68 mlwydd oed, Mr. W. Morgan, Tanyquarrel, Gorsfach, Abrys- twyth. PAlmY-lonawr 29ain, yn 9'5 mlwydd oed, y Parch T. Parry, Ficer, Walthamstow, unig frawd y diweddar Mr J. Parry, Glanpaith. PURNELL-Chwefror laf, Mary Ellen, merch Mr. J. Purnell, Windmill Court, Aberystwyth. RrcHAHDs-lonawr 3lain, Hugh, mab Mr. T. Richards, Pwllhobi, Llanbadarnfawr. THOMAs-lonawr 31ain, yn Pantbach, Penrhiw- Uan. ger Llandyssul, Mr. Evan Thomas, yn 72 mlwydd oed.
- PHNRHIWLLAN
PHNRHIWLLAN CYMANEA YSGOLION.—Fel yr awgrymwyd yn flaenorol yn Y" BKYTJIOX. cynhaliwyd cymanfa Ysgolion Sul Eglwysig, yn Ysgoldy Genediaethol Aberbanc, ar y 2oain cynfisol, sef dydd gwyl Troad St. Paul, ordeiniedig gan yr Eglwys. Yr oedd pedair o ysgolion i dd'od yn nghyd, sef Llan. dyfriog, Llangunllo, Henllan, a Llanfair-Orllwyn- Y pwnc dosranedig i'r ysgolion oedd yr"16eg a'r 17eg benod o'r Efengyl yn ol St. loan. Dechreu- wyd y gwasanaeth am 10.30 y boreu, drwy i Mr Jones, Llangunllo intonio y Litani. Anhapus iawn oedd y cordiau" yn fynych yn yr atebion, ac yn profi na chafwyd yr un rehearsal i lanhau peth o'r rhwd oddiar y Festival ddiweddaf yn Nghastellnewydd-Emlyn. Modd bynag, awd trwyddo. Hyderwn ei fod wedi cael argraff ddwfn ar feddyliau pawb ar a oedd yn bresenol ac yn feddianol ar y mymryn lleiaf o chwaeth at ganiad- aeth y cysegr. »Vedi canu emyn, gahvyd arysgol Llangunllo i adrodd ei rhan o'r pwnc—a pharodd hyn i raiysbio a sibrwd, pa le yr oedd ysgol Llan- Y, dyfriog, am mai bil oecld i fod [yn Fgyntaf, ac ar ol annyw atebion, yr un mwyaf boddhaol, neu oJeiaf yr agosaf i'r gwir, yn ol ein tyb ni ac er ein gofid, oedd fod yr anwydwst wedi gafaelyd yn nghyfan- soddiadau rhan helaeth o'r ysgolheigion. Ai tybed eu bod, oddiwrth y dwymyn, wedi teimlo y fath wendid, neu yn hytrach, fod yna oerfel- garwch cyffrcdinol yn bodoli tufewn i furiau yr eglwys newydd ? Holwyd ysgol Llangunllo gan Mr Jones, curad Llandyssul. Yr oedd yr atebion yn barod, a chanasant yr anthem Daionus yw yr Arglwydd," gan Hywel Idloes. Arweiniwyd gan y Parch Mr Jones. Dengys Mr Jones lafur di-ail gyda'i ysgol, nid yn gymaint yn y dadganiad o'r anthem, ond y budd a'r lies a weinydda efe er mwyn ei ddoiliaid. Garw nad efelychyd mwy o hono. Yn nesaf galwyd ar ysgol Henllan. Holwyd gan Mr Williams, Llangeler, ac aethant trwy eu gwaith yn feistrolgar. Canasant yr anthem "Mawryw yr Arglwydd yn Seion," gan Hywel Idloes,ac arweiniwyd gan'Mr John Jones. Hon, yn ddiameu, yw yr ysgol gryfaf a ymgynulla i'r gymanfa hon, ac y mae ynddi nerth i wneuthur gwaith. Y nesaf, a'r olaf, oedd ysgol Llanfair- Orllwyn. Holwyd gan Mr Williams, Llangeler, a dangosent eu bod yn gyfarwydd yn y pwnc. Can- asant yr anthem Gorphenwyd," gan Canychawd- fardd, dan arweiniad James Davies. Wedi canu emyn, rhoddwyd y fendith arferol. Yn sicr i chwi, siomedig iawn oedd gorfod ymadael heb gael yr un anerchiad, chwaethach ychydig gynghorion, neu unrhyw fath o symbyliad dros enau yr un o'r saith offeiriad oedd yn bresenol. Gwir mai Mr Griffiths, Llangranog, oedd wedi ei apwyntio i roddi anercliiad, ond ei fod wedi methu presenoli ei hun. Ai tybed na theimlai yr un o honynt awydd i awgryinu rhywbeth ? Ai gormod fyddai dysgwyl oddiwrthynt i gynal eyf arfod,pregethu yn yr hwyr ? Gwn y byddai yr ysgclion yn barod i gyd-ymddwyn a'r draul, os mae hyny sydd yn eu lluddias rhag cyd-ymffurfio a dymuniadau y mwy- afrif o'r aelodau perthynol i'r gwahanol ysgolion. Terfynwyd gwaith y gymanfa mewn byr amser. Sibrydir, gyda chrechwen, fod yna ysgyfarnog eisiau ei blingo," ys dywed pobl, ac mai hyny fu'n achos o'r brys i derfynu. Fodd bynag, sicrheir ei mynediad i loches pur gyfleus i'w dal. Gobeithiwn am well llewyrch ar y gymanfa y flwyddyn nesaf. Beth pe gofynem am gael gwasanaeth corawl a dwy bregeth yn yr hwyr yn derfyn ar waith y dydd ? Y CYNGIIOK STKOL.—Yn gymaint a bod etholiad y Cynghor Sirol yn ymyl, a bodllawer o addewidion yn ystor er yr etholiad diweddaf, debygwn y gwnant addaw eto, sef gwneuthur revised edition o'r blaenorol. Y pwnc agosaf i bocedau pob etholwr ydyw y dreth Sirol. A wnewch chwi, Mr Gol., ein hysbysu ni, pobl an- wybodus y parth yma, Pa faint ysgafnach ydyw y dreth Sirol yn awr nag o'r blaen ? gan maidyna ddysgwyliem. Hefyd, os na threthwn ormod ar eich hewyllys da, 0 ba le y ceir arian i dalu cyflogau y Water Bailiffs ? Mecldyliasoin y byddai yr afonydd, erbyn hyn, yn rhydd i ni i'w chwipio. Gan ddiolch i chwi rhag blaen.— YMDBECIIEA AREDIG DOSBARTII ABERBANC.— Cynhaliwyd yr ymdrechfa hon eleni dydd Mercher, y 27ain o Ionawr, mewn cae perthynol i Mr Evan Jones, Penlan, Llandyssul, pryd yr oedd 22 yn cystadlu. Dosbasth I.-Prif gampwyr, gwobr- wywyd fel y canlyn :—1 Daniel Evans, Maes- llanllwni, C wpan Arian, rhodd y llywydd, Syr M. O. M. Lloyd, Bar., Bronwydd 2, William Jones, Rhosgwenllian, Llanwenog, 20s. -1 3, John Davies, Derwengrocs, Llanpumsaint, 10s. Dosbarth II.— Cam])wyr—1, Eyan Rees, Pengelli, Medal Arian rhodd Dr Davies 2, David James, Bronwydd, 15s. 3, Tom Jones, Blaenant, 7s. 6c. Dosbarth HI-—Cyffredinol—1, Richard Davies, Blaen- gwenllan, Bronze Medal a 15s. 2, John Jones Parcnwca, 15s. 3, Benjamin Davies, Waun- wthan, 10s. 4, Samuel Davies, Gilfachronw, 7s, 6c. 5, Daniel Lewis, Cwmgyfeile, 5s. Dos- barth IV.-Dan 18 oed—Rhanwyd ywobr, sef il, rhwng Evan Jones, Penrallt-fachnog, John Griffiths, Blaencerdin-fach. Rhoddwyd gwobr- wyon am y par ceffylau goreu—blaenaf, John Evans, Penrallt-fachnog ail, Daniel Rees, Pen- gelli trydydd, John Davies, Derwengroes. Hefyd am yr Harness goreu-1, Daniel Evans. Maes 2, Daniel Lewis, Cwmgyfeile. Hefyd rhoddwyd gwobrwyon pellacli fel y canlyn—Am y par hosanau goreu, gwaith 11 aw, Elizabeth Jones, Maesgwyn gwaith peiriant eto—1, Evan Thomas, Llwynbedw; 2, Catherine Rees, Cross-lane. Wintell oreu—John Jones, Ysgoldy. Ysgabell fedw orou-joliii Jones, Persondy. Ffon gollen oreu—John Phillips, Blaenwaun. Ystol oreu— John Rees, Llwyngwern. Llwya lledwad oreu— William Jones, Brynmaen. Cyhoeddodd Dr Davies ar y diwodd y buasai ya ymclrechfa nesaf yn cymeryd lie bhvyddyn i'r diwrnod hwnw, sef y dydd Mercher olaf yn Ionawr, os byddai y tywydd yn caniatau. Boed felly yw dymuniad.
TALYBONT
TALYBONT Cynhaliwyd cyfarfod gan etholwyr Rhyddfrydig :1 y rhanbarth uchod, yn yr Ysgoldy Frytanaidd, ar y 27ain cynfisol, er ethol cynrychiolydd i'r Cyngor Sirol. Penodwyd yr Henadur J. T. Morgan, Maesnewydd, i gymeryd y gadair, yr hwn, ar ol darllen y rhybudd a roddwyd i alw y cyfarfod (ac ethol pump o bersonau i fyned i'r cyfarfod Rhydd- frydig a gynhelir yn Pontrhydfendigaid)a anog- odd yr etholwyr i gynyg rhyw bersonau i'w cyn- rychioli ar y Cynghor am y tair blynedd dyfodol. Rhoddwyd Mr Edward Jones, Elger, aniaethwr, a Mr David Owen Edwards, Felinfach, amaethwr a tlirethgasglydd, o flaen y cyfarfod, a defnyddiwyd y tugel, pryd y cafodd Mr Jones 30 o bleidleisiau, a Mr Edwards 24. Yna penderfynodd y cyfarfod roddi pob cynorthwy er dychwelyd Mr Jones yn ngwyneb unrhyw wrthwynebydd a ddeuai i'w gyf- arfod. Ar ol pasio pleidlais o ddiolchgarwch i'r cadeirydd, ymadawyd. Ond nid yw y diwedd eto, canys y mae eisoes rybuddion argraffedig ar y parwydydd yn galw yr "etholwyr" i gyfarfod o'r un natur, yn yr un lie, ar y Ged o'r mis hwn.
Marwolaeth Mr. Spurgeon.
edig, a safodd ati fel y dur hyd y diwedd. An- fonodd ei fam lythyr ato ar ol clywed am hvn, a dywedai ei bod wedi gweddio llavver drosto, ond na weduiodd erioed am iddo fod yn Fedyddiwr, anfonodcl yntau yn ol fod hyn yn debyg iawn i Dduw, yr hwn a wna yn dra rhagnrol tu- hwnt," &c. Pe gallai byd atal angau buasai Spurgeon yn fyw heddy w, ond ewyllys ei Dad oedd ei gymeryd o ben Pisgah poblogrwvdd. Y mae wedi marw, ond Ilefara eto ie, llefara hyd ddiwedd amser. Pwy a geir i Ianw ei le nis gwyddom Duw a w yr. zn Yn mhrif erthygl Y Celt am yr wythnos hon ceir a ganlyn :— Z, Yn ychwanegol at weinidogaethu a thori bara y bywyd i gynifer o bobl yr oedd gan Mr Spurgeon genhadau fyrdd cynhaliai Gartref i blant amcldifaict ac arolygai Atlirofa i barotoi dynion ienainc ar gyfer gwaith y weinidogaeth. At hyn yr oedd yn cylioeddi ei bregethau a llyfrau eraill, yn nghydag arolygu esboniad campus ar y Salmau gol- ygai hefyd gyhoeddiad misol, heblaw y byddai yn darlithio a phregethu yn fynych yma a thraw lfynyddoedd ynl ol. Dywedid mai ei lafur mawr oddicartref wrth ddar- lithio a pliregethu-ddechreuodd anmharu ei iechyd. Prin y bydclai hyn o gipdrem ar fywyd Mr Spurgeon o un gwerth heb i ni ddyweyd ein bod yn cwbl anghytuno a Mr Spurgeon ar bwnc Ymreolaeth. Aeth ere yn erbyn Mr Gladstone a'i -holl rym ond methu a wnaeth yn hyn. Rhaid son hefyd am yr anghydwelediad fu rhwng ei enwad a Mr Spurgeon ar bynciau athrawiaethol. Calfin tyn oedd efe, a pharodd hyny iddo gondemnio yn ddiarbed ac mewn iaith finiog waith ei frodyr yn gwyro oddiwrth y gred hono. Aeth mor bell nes gadael Undeb y Bedyddwyr a galw ei wrthwyneb- wyrwrth yr enw byd-adnabyddus (chwedl y beirdd) y Down Graders Nid ydym yn meddwl fod Mr Spurgeon ei hun "yn iach" ar bob pwnc a ystyrir yn hanfodol gan Fedyddwyr Cymreig. Nid oedd Mr Spurgeon yn gwrthod gadael i unrhyw bro- fIeswr crefydd gymuno gydag ef, ac os oedd efe ei hun yn gadael llinell uniongred- aeth" pa fodd y gallai ddysgwyl i eraill gadw ati ? Bellach wedi iddo groesi ffin derfynol rhwng dadleuon amser a gwynfyd tragwyddol, dichon mai peidio son rhagor am y gwahaniaethau hyn sydd oreu ond yn unig cofnodi y ffaith iddynt gymeryd lie. Wrth droi at y bwlch sydd wecli ei wneud yn ei eglwys yn Llundain ac yn muriau Seion drwy'r wlad yn marwolaeth Mr Spurgeon, tueddwn i ddigaloni. Ond bydded i ni droi nid at y ddaear ond at Dduw. a gweddiwn am iddo Ef anfon gweithwyr i'w gynliauaf.