Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Rhaid i ni erfyn ar ein cyfeiilion barddonol fod mor garedig a thalu sylw i'r rheolau canlynol o hyn allan:- 1. Defnyddier note paper, ac ysgrifener ar un tu i'r ddalen: 2. Ymdrecher dewis testynau o ddyddordeb cytfredinol, ac astudier tlysni a byrdra yn hytrach na meithder gormodol. 3. Wis gallwn ddychwelyd cyfansoddiadau annerbyniol, na barnu teilyngdod cyfteithiadau heb weled y gwreiddiol. OWEN DINORWIG,—Nid ydym yn atebol am wallau y cysodwyr yn y swyddfa, ac nid rhyfedd fod Owen mewn tymer ddrnvg wrth ddarllen ei englynion wedi eu llargunio gan y brodyr hyn. Gan fed newid cyd- sain, nen adael allan un, yn ami yn lladd cynghanedd, ni ddylai yr argraffydd gymeryd ei ryddid i wneyd y fath beth. Yn yr englynion ar ymweliad Arglwydd Salisbury, &c., darllener:- Yn llaw Nif y bo'n llyw ni," ac nid Yn law N&f y bo'n llyw ni." Hefyd yn yr ail englyn, darllener:— 0 les yw i Eglwys 16n," ac nid A lies yw i Eglwys Idn." Gyda golwg ar lythyr cyfrinachol y bardd hwn, mae ein hatebiad yn 1 Corinthiaid xiii. Y mae ei il englynion anerch yn wallua mewn cynghanedd. Nid cywir "ydyw ef, Y da fardd perffeithiaf." Buasai yn iawn fel hyn yw efe, Y da fardd perffeithiaf. Beth yw ystyr y llinell hon:— 0 dan ei glori y dyn egluraf ? Ond iddo wella y gwallau sydd yn y llinellau, cant ymddangoa. J. M.-Mae yr englyn yn dderbyniol. Danfonwch ychwaneg. CARNALAW.-Cymeradwy.
Y GWYNT.
Y GWYNT. O wynt, rhyw ffrwd o awyr wyt, Yn crwydo'n anweledig Trwy'r gwagle'n gyflym ar dy hynt, Gan grio yn arniddig 1 Dy swn cwynfanus ar dy daith, Dy waith trwy'r greadigaeth, Sydd fel yn dangos bob yn ail Rhyw sail in' o'th fodolaeth. Yr wyt fel cawr yn gwisgo nerth Yn dy ruthriadru ffyrnig; Wyt ddarlun o greulondeb erch Yn ami ar dai mynyddig Wyt wedi dymchwel hyd en sail Rhyw liaws yn dy nwydan, 1 Gan daenu distryw drostynt hwy, A'a gadael yn garneddan Y mae rhyw anwadalwch mawr Yn dy holl ysgogiadau, Daw gwyn a chysur yr un awr I'th ganlyn yn gawodau Pan wyt yn ymdaith droa yr aig, Mae'r morwyr oil mewn cyffre A llawer Hong rhwng danedd craig Ga'dd genyt ei chwilfriwio! Dy swn cyn hyn yn sirndde wen, Ambell i fwth yn Nghymru, A wnaeth i ddagrau hiraeth prudd Lwyr olchi gruddiau'r tenlu Wrth feddwl fod en bacbgen lion Yn rbywie ar y wendon, Nen dan gynddaredd creulawn hon, Yn nghladdfa ddofn yr eigion I Pan fydd yr wybren las uwchben Yn brnddaidd gan gymylau, A niwl fel yn ymdaenu dros Y byd ya afiach haenan; Y gwynt a ddaw gan wneyd yn glir Y ffordd rhwng nef a daiar, Ac iechyd welir yn mhob man O'i ol yn gwedu'n hawddgar. IoLO Goes.
ANGHYDWELEDIAD YN NGLOFA-CELYNEN,…
ANGHYDWELEDIAD YN NGLOFA- CELYNEN, ABERDAR.. ,nA Hysbysir fod anghydwelediad pwysig we^g. allan yn nglofa Celynen, Aberdar, ynglfn a't wyr dros y dynion, a dywedir ei fod achlysuro gan ychydig bersonau ydynt yn aw i greu drwgdeimlad rhwng dosbarth o ddynioQ ar hyd y blynyddoedd wedi oytuuo yn heddy gilydd yn y gwaith, Hyderwn y llwyddir i leS yr ysbryd anfoddog presenol oyn iddo achosi mwed,
GWEITHIAU ALCAN CYDWELI. N
GWEITHIAU ALCAN CYDWELI. N Drwg genym ddeall fod gweithiau alcan Oydw .p ynparhauyngauedig, ao ugeiniau o deuluoedcu dioddef yn erwin mewn canlyniad, gan fod y fa a gasglwyd er eu cynorthwyo wedi ei dihys yn llwyr. Disgwylir, pa fodd bynag, y gwaith gael ei ail gychwyn y mis nesaf, &°ArrietS, arolygwr newydd wedi ei benodi, sef Cadben Pontymeistr. Taer erfynir am at gynorthwyo y gweithwyr hyd hyny.
Y FASNACH LO YN~NEHEUDIB
Y FASNACH LO YN~NEHEUDIB Yn ystod yr wythnos ddiweddaf, anfonwya 'aru c dunelli o lo ager gyda llongau o GaerdydC> brisiau yn amrywio o 9a. 3c. i 8s. Ychydig 0 Vg y a allforir yn awr mewn cymhariaeth, 01 J ty wydd oer yn prysur fyned heibio, a'r aiw»w j/ dU10 mewn canlyniad yn llai.
--PIGION O'R Y/ASG GYHREIG.
PIGION O'R Y/ASG GYHREIG. [GAN VEBITAS.] Y DIWEDDAR MATHEW ARNOLD. ("R. D. R." yn yr Herald Cymraeg, Ebrill 24ain.) Fel meddyliwr gwiiioneddol, fel un a gyfoethog- odd ei gyd-ddynion a thrysorau llenyddol, y mae Mathew Arnold, yn ol barn rhai o'r gwyr hyny sydd yn medru profi yr ysbrydion, wedi enill iddo ei hun safle arhosol ymysg yr awdwyr a elwir rai prydiau yn glasuroJ, ac ar adegau eraill yn "anfarwol." Ysgrifenodd lawer, ao yr cedd y cyfan a ddeuai oddi- wrtho yn dwyn argrafi meddyliwr cryf ac annibyno), ac ysgolhaig o'r radd flaenaf. Enillodd enwogrwydd mewn dau gyfeiriad, sef fel bardd a beirniad. Yr oedd yn fardd gwirioneddol. Y mae yn wir nad yd- oedd yn boblogaidd yn ystyr gyffredin y gair. Rhaid with fesur o wr-teithiad maddyliol cyn y gellir teimlo swyn a pbrydferthwch ei feddyliau. Yr un pryd nid ydyw yn dywyll ao anelwig ei syniadau. Cashai bob tywyllwoh caddugawl mewn iaith a meddwl. Ei arwyddair mewn rhyddiaeth a ohan ydoedd-sweetness and light. Ao fe geir hyn yn ei ddarnau barddonol. Y mae melusder a goleuni wedi eu cydblethu ynddynt. Ond diohon ei fod yn fwy o feiiniad nag o fardd. Cydnabyddid ef er's llawer blwyddyn yr awdurdod uchaf, braidd, ar egwyddoiion gwir farddoniaeth yn eu perthynas 4 llenyddiaeth. Gwnaeth ei ddarlithiau ar Efryd- iaeth Llenyddiaeth Geltaidd" wasanaeth anmhris- iadwy. Gogoneddodd athrylith anghofiedig y Celt yn ngolwg cenedloedd y byd, Ac er mai "melusder a goleuni" oedd y geiriau a geisiai argraff u ar fedd- wl ei oes, eto fe ddywedodd liaws o bethau celyd am ei gymmrodyr-y Saeson. Fel apostol diwylliant teimlai angenrheidrwydd i gyfeirio at ddiystyrwch John Bull o'r pethau hyny sydd yn puro y chwaetb, yn eangu y fare, ac yn darostwng syniadau ynysig a bostfawr. Efe a roddes fod ao ystyr i'r term poblog. aidd hwnw—" Philistiaeth," a chyr.;hwysai ef gyda grym at ddosbarth mawi o'r Saeson sydd yn byw yn gyfangwbl gyda'r materol, ac yn elynion marwol i bob oynydd a dadblygiad meddyliol. Y mae y gair uchod, bellaoh, yn hysbys i lawer o ddarllenwyr Cymreig drwy ysgrifau miniog y Siluriad," yr hwn ynddo ei hun sydd yn profi yr hyn a ddywedwyd ar y dechreu-iod dylanwad Matthew Arnold eisioes yn dirgel dreiddio llenyddiaeth Gymreig y dydd. MR. SPURGEON A'R BEDYDDWYR. (Y Qenedl, Ebrill 25ain.) Megis y gwyr y darllenydd, torwyd ar dangnsfedd heddychol y Bedyddwyr gan wrthdystiadau celyd a phenagored Mr. Spurgeon yn erbyn yr hyn bethau a elwir ganddo yn heresiau yn mhwlpudau y Oynull- eidfaolwyr. Calfin oryf o'r hen ysgol yw Mr. Spur- geoD, ac fel yr heneiddia, y mae ceidwadaeth ei ysbryd yn dwyshau ac yn ymweithio fwy-fwy i'r golwg. Nid oes undyn a gar ryddid p, sonol i ddeongli Gair Duw, ac yn ei hawlio, yn fwy nag ef; ond er ei holl wrthdystiadau, metha llu mawr o'i edmygwyr, yn yr enwad a thu allan iddo, a deall ymadroddion ei enau a'i ysgrifeniadau yn yr am. gylchiad presenol, ond ar y dybiaeth ei fod yn an- foddlawn caniatau i eraill yr hyn a fyn iddo ei hun. Ei ddadl ef yw fod uniongrededd yn pallu o fysg yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr. Os yw pregethu efeng- ylaidd yn darfod o'n plith, amryfusedd cadarn yw gwadu a chelu y ffaitb, ond tystia bagad o weinidog- ion blaenaf y ddau enwad-gwyr llawn mor effro a meddylgar ag yntau, a dweyd y lleiaf, a gwyr yr un mor angerddol awyddus am burdeb athrawiaeth a llwyddiant Teyrnas Crist, fod ei gyhuddiadau yn gyfeiliornus. Gwir fod ymwerthiad cadarn ac ym. adawiad prysur oddiwath Galfiniaeth, fel ffurf hyn- afol o athrawiaeth ymhlith gweinidogion a lleygwyr meddylgar y ddau enwad, ond eu honiad yw nad Cristionogaeth yw Calflniaeth-nid felly y dysgasant Grist. Ymddengys mai y ffaith yw, nad oes awydd yn nysgawdwyr blaenaf y ddau .enwad am gael eu hadnabod fel pleidwyr ffurfiau cyfyng athrawiaethau neillduol. Fod iaith, dull, ao. hyd yn nod faterion gregethu wedi cyfnewid Hawer er dyddiau y Diwyg- iad Methodistaidd sydd wir, ond nid cymaint o lawer a'r oyfnewidiadau a gymerodd le y pryd hwnw o'i gymharu ag iaith, arddull, a mater amserau y Puritaniaid, ac i lawr oddiyno i'r Canol Oesau, Y mae pob oes yn meddu ar ei ffurfiau neillduol, yn oodi o dwf yr amserau, ac ofnir nad yw Mr. Spur- geon yn cadw hyn mewn cof. CYMDEITHASFA MACHYNLLETH. (Y Goleuad, Ebrill 26ain.) Ni a hyderwn a. bydd y Cyfundeb heb sylwi ar y gwersi difnfol sydd yn cael eu dysgu gan yr achos anfiodus o anghydwelediad yn Nghriccieth. Yn dra phriodol, fe farnwyd yn ddoeth peidio cyhoeddi yr adroddiad gofalus a gyflwynwyd i'r Gymdeithasfa ond hyderwn na bydd i hyny guddio o olwg y wlad yr hyn a ddylai gael ei ddysgu gan achosion poenus o'r fath hyn. Nid yw o un pwrpas codi y lien ar y gorphenol ond mor bell ag y bydd i hyny godi yr eglwysi i wyliadwriaeth a gweddi. Onid ydym yn rhy barod yn fynych mewn pethau dibwys i geisio em ffordd ein hunain, ac ■-& na fydd i ni gael hyny, i chwerwi at ein gilydd, (i yr achos? Yr ydym \vT°d hadau °hwerwedd a dyfodd yn anghyd- gbj:icoieth i>w cael mewn rhai egiwysi eraill ymhhuh swyddogion ac aelodau a byddai yn dda ilr Cyfundeb gymeryd rhybudd difrifol oddiwrth yr achosion sydd yn tori allan i sylw cyhoeddus ac ymdrechu darostwng pob peth a all fod yn tueddu yn y cyfeiriad hwn. Da fyddai cymeryd achlysur ar ddigwyddiadau o'r fath hyn i ddysgu yr aelodau a'r swyddogion fod caru eu gilydd a chydweithio, yn gymaint o rwymedigaeth arnynt ag ydyw cyfranu at gynal yr achos, neu fynychu y moddion. Nid hael- ioni ydyw y prawf goreu o gariad, oblegid fe geir llawer o bobl llawn o ysbryd anhydrin a chwerw yn gyfranwyr gwych. Ond pan y ceir eglwys yn cyd- weithio yn unol ni bydd y cyfraniadau byth ar ol. Hwyrach y dylai yr agwedd hon ar gariad gael mwy o le yn ein cymhellion i weithredoedd da. Nifer y cymunwyr yn ncsbarth Trefaldwyn Uchaf yw 2,908; gwrandawyr, 1),476.. Trwy gymharu yr yatadegau diweddaf a. r adroddiad bedair blynedd yn ol, ceir fod nifer y pragethwyr aaith 3n llai nag yr oeddynt yr arnser hyny, y gweinidogion ddau yn llai, ond y bugeiliaid yr un nifer. Mae y blaenoriaid bedwar yn llai, sef un am bob 22 o aelodau. Y mae lleihad c GO yn nifer y oymunwyr yn ystod y tair blynedd diweddaf, sef 20 yn y flwyddyn ar gyfartaledd Oy. merodd cynydd le mewn 15 o eglwysi, a lleihad mewn 22, felly nid oes yr un o'r eglwysi wedi aros yr un nifer. Y mae cyfartaledd blynyddol y oynvdd yn 10, a'r lleihad yn 30.
Y LOCAL GOVERNMENT BILL.
Y LOCAL GOVERNMENT BILL. (Y Tyst, Ebrill 27ain). Yr oedd araith Mr. Chamberlain yn ffafriol iawn i'r Mesur. Yr unig beth y teimlai wrthwynebiad oryf iddo ydyw y ddarpariaeth gyda golwg ar yr heddgeidwaid, ac aeth mor tell a hysbysu ei fwriad i bleidleisio Y11 erbyn y Weinyddiaeth ar y mater os na rydd Sordd. Ond gofalodd hefyd i hysbysu na wnelai ddim a beryglai fodolaeth y Weinyddiaeth ynglyn a'r Mesur. Yr oedd ei ganmoliaeth o'r Weinyddiaeth yn syrffedlyd, ac yn ddigon i godi cyfog ar y rhai a wyddant ei hanes. Anogai pleid- wyr sobrwydd i dderbyn y ddarpariaeth ar drwy- ddedau yn galonog fel un ffafriol i'w hachos. Nid rhan o'r ddarpariaeth, ond yr oil o honi a gymerad- wyid ganddo. Cymerai hyn i fewn y ddarbodaeth am iawn pan atelir trwydded. Ymddengys fod amrywiaeth barn ymhlith awdurdodau uchel ynghylch yr hawl i adnewyddiad trwydded os na bydd oyhuddiad yn erbyn y ty y perthyna iddo. Dadleua rhai fod hawl gyfreithiol gan berchenog y drwydded i'w hadnewyddiad, ond dadleua eraill yn llawn mor gryfed i'r gwrthwyneb. Bydd nifer o'r Encilwyr yn myned yn erbyn y Weinyddiaeth heddyw, a nifer eraill yfory, ac felly o hyd, ond gofelir na bydd perygl iddi fod mewn lleiafrif o gwbl. Gwneir hyn oil i ymddangos yn annibynol ac an- mhleidgar, ond gwyr y rhai sydd tu ol i'r lleni am yr ystryw, ac nid yw pob un o honynt yn hollol fud. Yn wir, y mae ymddygiad yr Encilwyr, pan gofir pwy yw llawer o honynt, yn ddigon i beri i ddyn golli ei hyder yn llwyr mewn dyn. Cydnebydd ambell i Dori yn ddigon gonest mai cas ganddo y Mesur, ond pleidia y Weinyddiaeth rhag i Gladstone ddyfod yn ol i swydd. (Y Gwyliedydd, Ebrill 25ain.) Gan fod y cwestiwn hwn o anhraethol bwys, a bod y Weinyddiaeth yn arddacgos y fath frys i'w wthio trwy y Senedd, teimlwn ei bod yn ddyledswydd arnom i alw sylw yn ein hysgrif bresenol at y mesur hwn o gyfeiriad y trethdalwyr, a dangos mor wrthun o ddyfeuddrwg yr ymddengys i'r cyfeiriad hwn hefyd. Wrth edrych ar ddarpariadau y mesur o'r cyfeiriad hwn nis gallwn amgen na chanfod fod athrylith benaf galluoedd y tywyllwoh wedi bod ar waith yn eu meddwl a'u cynllunio, oblegid nid ydyw yr oil ond ymgais i sefydlu y fasnach feddwol ar seiliau diogel er ei galluogi i wneyd y gwaith o suddo dynion, gyrff ae eneidiau, i fedd ac uffern y medd- wyn. Yn yr ystyriaeth o hyn nis gallwn adael i'r cyfleustra hwn fyned heibio heb alw sylw pellach y trethdalwyr et eu dyledswydd yn yr argyfwng pres- enol trwy wneyd eu llais yn nglyw yn y Senedd. (Owalia, Ebrill 25ain.) Ni bydd neb yn cael mwy o foddhad na nyni wrth ganfod pob ymgais er llesoli y bobl a gwneuthur daioni. Bydd yn dda genym weled dynion yn edmygu ao yn cefnogi daioni, ymha gysylltiad neu ymha ffurf bynag y ceir ef. Ar y tir yna y byddwn yn arfer dymuno Duw yn rhwydd i'r blaid hono sydd wedi bod er's blypyddau yn gweithio yn ddiwyd o blaid achos dirwest. Y mae eu hamcan yn un tra chanmoladwy, ac nis gall neb sydd wedi sylwi ar yr aflwydd a'r annhrefn, y peahod a'r trueni, a ddilyna anghymedroldeb wneyd llai na dymuno yn dda iddynt. Er's dros ugain mlynedd bellacb, y mae hyrwyddwyr dirwest wedi bod yn gwthio eu cais ymlaen yn y Senedd dros gael mesur i alluogi y trethdalwyrymhob ardal i roddi eu ploidlais dros ueu yn erbyn gosodiad trwyddedau i dafarnwyr. Dyna, yn wir, oeddgcnewyllyn y Permissive Bill, a'r mesur Local Option wedi hyny, sef rhoddi yn ngallu y trethdalwyr i benderfynu ynghylch gosod- iad neu adnewyddiad trwyddedau, fel y byddai y cwestiwn o leihad neu ychwanegiad tafarndai o fewn awdurdod yr etholwyr. Dyna a hawliai y dirwest- wyr, ao yr oeddyn yn barod i dalu y draul a chlywsom rai awdurdodau dirwestol yn myned mor bell ag i ddweyd yr arbedid cymaint drwy leihau trosedd a thlodi ag a brynasai holl dafarndai y wlad. A thra yr oedd pleidwyr y mesur hwn yn ddi- eithriad yn bleidwyr i Mr. Gladstone, ac yntau wedi bod mewn awdurdod am flynyddau wrth ei gefn, ni ddarfu efe erioed son am ddwyn y mesur ymlaen fel mesur Llywodraethol, a sicrhau ei holl ddilynwyr i basio y ddeddf. Paham ? Pa beth oedd y rheswm na ddygodd efe y mesur ymlaen, yr hwn yr oedd hell bleidwyr dirwest yn dyheu am dano? Ai am ei fod yn metha oydweled a gofynion y dirwestwyr ? Nage, prin y gellir oredu hyny; er fod tadau Mr. Glad- stone wedi gwneyd eu cyfoeth yn hollol drwy fasnachu mewn rum, ac mewn caethion. Ond nid yw ef i'w feio am hyny. Y mae wedi bod yn ofalus bob amser i beidio digio y tafarnwyr, er yn hollol barod i edliw i'r Ceidwadwyr eu bod yn gyfaillion i'r tafarnwyr. "Beer and Bible" ydoedd yr hyn a ddywedai efe yn gellweirus am y blaid Geidwadol. Y mae hefyd wedi cael llawer o gefnogaeth arianol i'w achos oddiwrth Syr Michael Bass, Mr. Whit- bread, ac eraill, y rhai sydd ymhlith darllawyr mwyaf y deyrnas. Wrth gwrs, gwnaeth addewidion lawer i'r dirwestwyr—ond nid byth son am y cyf- lawniad. Un tro, tra yn gwneyd addewid iddynt ychydig flynyddau yn ol, awgrymodd y dygid y mesur ymlaen mor fuan ag y cawsid rhyw gynllun boddhaol pa sut i estyn iawn i'r tafarnwyr a gollent eu trwyddedau. YR YSGOLION ELFENOL. (Y Gweithiwr, Ebrill 26ain.) Y camsyniad mawr oedd gosod y Mesur Addysg yn Haw swyddogion heb wybodaeth ac heb brofiad. Ni ellict iisgwyl oddiwrth y cyfryw ond machine- peiriant mawr. Trefnir y peiriant nid gan y prif lywydd—ychydig wyr efe fel rheol am adeiladu poiriant-ond gan y swyddogion parhaus, y rhai a dybiant eu bod yn gwybod er nad oes yr un o bosibl wedi bod ericed y tufewn i ysgol elfenol. Y ffaith yw, eu bod mor anwybodus braidd a'r mwyaf- rif o'r arolygwyr a &nt oddiamgylch unwaith y flwyddyn i edrych sut mae y peiriant wedi gweithio -yn anwybodus, feddyliwn, o bob peth sydd tuallan i weithiad y peiriant. Cynlluniwyd y peiriant gyda'r bwriad i droi allan y plant oil ar ben eu tymor yn hyddysg yn y tair R. Defnyddir ef i ddwyn y plentyn olaf hyd y fan hono, tra y cedwir pawb sydd yn meddu ar y gallu i fyned ymhellach yn ol i fod yn gwmni i hwnw. Anghofir dameg y talentau, ac felly ni ddeuir byth o hyd i'r plant disglaer. Nid ydynt i'w cael, mae'r peiriant wedi eu llethn. Yr ydym yn hollol gydymdeimlo a'r athrawon yn eu gwrthwynebiad i'r cynllun a ddy- nodir wrth Payment by Results. Ond beth gawn ni yn ei le ? Allwn ni ddim cymeryd i fyny system Payment without Results Rhaid cael rhyw gynllun i sicrhau na byddo arian y trethdalwyr yn myned yn wastraff. Gosoded yr athrawon eu penau ynghyd fel ag i esgor ar ryw gynllun, a dyna cychwynent dipyn o gynwrf. Ni cheir gwrandawiad nad faint fyddo'r ysgrechain. Nid llanw poteli meddyliol ii ffeithiau gwybodaeth ddylai fod prif waith athraw, ond ceisio dadblygu'r galluoedd a'r cyneddfau meddyliol. Mae eisiau i'r rhai syda yn trefnu'r peiriant i wybod y gwahaniaeth rhwng instruction ac education. Fe all athraw wneuthur yr holl waith i'r plentyn tra fyddo gydag ef ond gwnelai well gwaith pe dysgai ef i rwyfo ei gwch ei hun. Diben addysg," meddai Channing, yw, nid yn gymaint i roddi rhyw gyfran o wybodaetb, ag i ddeffroi'r cyneddfau, a rhoddi i'rysgolor ddefnydd ei feddwl ei hunan, ao y [mae un llyfr wedi ei ddysgu gan ddyn a wyr y ffordd i sicrhau y tri amcan yma, yn werth mwy na llyfrgelloedd yn y modd y dar- llenir hwy yn y cyffredin. Nid yw mor angen- rheidiol fod llawer yn cael ei ddysgu yn amser ieuenctyd, a bod yr ychydig hyny yn cael ei ddysgu yn athronyddol, yn ddwfn, yn fywiol." Deuir felly i ragor na gwybodaeth, deuir i ddoethineb ym- godir uwchlaw Philistiaeth, i feddiant o gwrtaeth, y peth y gosodai Matthew Arnold gymaint pwys arno. Nid yw gwybodaeth yn ddim heb allu i'w defnyddio. Mae gan lawer un ysgol (ladder) heb allu i'w hesgyn ao mae gan liwer un wybodaeth heb feddiant o'r synwyr cyffredin i'w defnyddio.
ENGLYN
ENGLYN 0 waith hen wr 80 mlwydd oed, yr hwn sydd yn awr yn gorwedd ar ei wely cystndd yn hospital workhouse Croeeoswallt. Cyfansoddwyd ef ganddo yn hollol ddifyfyr tra yr oedd y Chaplain yn darllen iddo, Ebrill 17eg, 1888. Gorweddaf ac yfaf mewn cur-oer ofid, Arafa fy natur; Mewn trwm glwy', pwy ond Duw pur, A'm cu Iesu yw'm cysur ? J. M.
MAI.
MAI. Dyrcha, Awen, hwylia gerdd I groeBawu'r dduwies l&n: Mae holl gangan'r goedwig werdd. Heddyw, yn delynan man, Anian sydd yn fOr o fawl; Engyl swynir gan y clod; A gadawant wlad y gwawl; Mae Mni eto wedi d'od I Teyrn y flwyddyn ydyw Mai; I ni daw a rhoddion fyrdd;- Ei anrbegion y'nt ddidrai; Taena aur ar hyd ein ifyrdd. Lluchia berlau yn ddiri' Hyd y dddl fel marmor m&n; Gwieg y goedwig fawr a. bri, Lleinw'r wlad a nefol gin I Wele ddydd gorseddiad hon; < Rhoi'r coronau ar ei phen; Unwn gyda'r dyrfa Ion Yn y fanllef rwyga'r nen. Dyna'r diffyg, anwyl Fai, Beri i fy meddwl glwy'- A hwn yw dy unig fai- Na wnaet aros llawer mwy. Calan Mai, 1888. CARNALAW.
Y MEDDYG.
Y MEDDYG. Meddyg, er codwm Adda,—a ofyn Yr aflach gorph yma; Mewn iDg blin mae'n angeu'i bla,— Dyn y bedd adnabydda. Ioi<o Goes-
'CARWN WELED CARNALA W."
'CARWN WELED CARNALA W." (C<^yn oherwydd ei hir ddistawrwydd.) P'le mae "Carn ?" Galwn arno,-heliwn lwyth 0 lawn lythyr iddo; Ond heb un ateb eto O'i gndd hir I-a ddigiodd o ? Ond er hyn nid yw'r anian-awenol Yn ddihoenus hepian; Mae'n hysbys yn Ilys Y LLAN,-a cheidw Yno ei enw a'i ddawn Lilian, 'Ond paham ? Dywed pa hyd—y torir Dy ddystawrwydd hwyrfyrd ? Mae y gan yma i gyd Ar osteg ei thristyd,- Yn oer ochain, ofni'r achos-'herwydd Dy hir, hir ymaros A edy di ni dan nos 0 ddu ing heb ymddangos ? Gwelaf Y LLAN a'r Golofn,—yno ceir Carn a minau'n eofn, Ein denoedd yn dra diofn— Pa'm mae'm bryd o hyd mewn ofn ? Gyr air o bill i'n goror bellacb,-gair Wna'n gwedd yn siriolach, lë, gair a'n dwg hwyrach Yn well i'n lle-yn hoUol iach. Ebrill 27ain, 1888. pBtfyB0<
!DYFODIAD Y GWANWYN.
DYFODIAD Y GWANWYN. Wedi Ganaf du, gwywol, Wele 'nawr daw haul yn ol I'w antertb, a than nerth Naf Daw a dyddiau dedwyddaf- Ceir adfywiad yn fnan 0 nen glir y Gwanwyn glan. Enyn nwyf trwy anian oil, A dwg wych degwch digoll I'w gwyneb, a'i theg wenau Lenwa hwyl i lawenhau. Ar y wawr gan gor y wig, Ac o r maes, y ceir miwsig. 0 pa ga garol siriola.ch Na'r d6n o big yr edn bach Sy' feluslais fawl-oalef- Mawl i'n Hior yn ymyl nef Mawl yw gwaith bronfraith ar bren Mewn newydd emyn awen, A'r mwyalch yn falch a fydd A 01 gan ax hyd y gweanydd. Clywch y g0g er ei gogan, Cwcw! ewew bywiog gan Gawn o'r twyn a'r Ilawn gerllaw- Yn fynych 'rwy'n clustfeiniaw! Wele wenol i anedd Ei hen nyth yn d'oct mewn hedd,— Dychwelodd,hwyliodd eilwaith Yn ol, a thes lywia'i thaith, A" Twi I twi I" eto yw tôn Adlais ei nod hyfrydlon. Yr oen ieuanc ymbrancia Yn ei hwyl ail plentyn ha', A'i nrddedig gerdd hudawl Yw Me I me yn c'lymu mawl. Anian mewn ad-drwsiad draw k I Wanwyn sy'n dihunaw, 1 Ahoender Dwyfol fendith Lifa'i lawr ail gloewaf wlith. Wele adeg y biodau, A'u Hon wedd i'n llawenhan, Acenaint y teg Wanwyn A ddyry nrdd i'r rhai hyn, A'i law fras o ras a rydd Urdd eilwaith ar ir ddolydd- Ar laswellt daear lesiol Eglur iawn gwelir ei ol, A cheir prawf uwch ar y pren O'i ddelw ar y ddalen. Bywyd gawn trwy'r byd o'i gwr Oradau ein Creawdwr- Oes; mae urddas y Mawrdduw, Ac hmon deg Gwanwyn Duw Ai fryn a d61: Addolwn, Am Ei rad, y Duw mawr hwn e