Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
)IETIJDALIAI) PYA]THEG 0 ARIANDAI.
)IETIJDALIAI) PYA]THEG 0 ARIANDAI. rbyniwyd newyddion yn Trieste yehydig yn ol i'r perwyl fod pymtheg o ariandai Buenos Ayres wedi methu cyfarfod eu goiyn- IOn. Dywedir fod yr arian a ymddiriedwyd yn. Ildynt yn cyraedd rhai miliynau o bunau, ac fel y UeBH disgvryl mae y digwyddiad alaethus wedi J cyffro cyffredinol drwy y wlad. Ofnir y bydd ^*&Ws o fasrsiandwyr oeddynt hyd yma yn cael eu %if yn gyfoethog gael eu llwyr ddyfetha gan y ^ethdaliadau hyn, ae yr effeithia ar ugeiniau o ^O&chwyr eraill ymhob parth.
'ECHYTJ YMERAWDWR GERMANI.…
'ECHYTJ YMERAWDWR GERMANI. AlU rai dyddiau mae ei Fawrhydi yr Ymer- ^Wr Germani wedi mwynhau iechyd cyffredinol ai ae yr oedd ei anhwyldeb yn ei wddf yn well ddydd Snl, pan y gwaethygodd yehydig. Nid 004a anbwylder yr Ymerawdwr mor ffafriol ddydd a ag ydoedd y dyddiau blaenorol, ond yn ol y tleWYddion a dderbyniwyd ddydd Mercher, da genYtn ddeall ei fo yn well y pryd hyny. 6,
YSTORMYDD DINYSTRIOL YN INDIA.
YSTORMYDD DINYSTRIOL YN INDIA. 288 0 BERSONAU WEDI EU LLADD, A 1,466 WEDI EU HANAFU. Yrawelwycl & rhanau o India ag ystormydd dYcbrynllyd yohydig ddyddiau yn ol, drwy y hai y collodd 288 o bersonau eu bywydau, ac yr 'nafwyd 1.466-rhai yn beryglus. 0 Delhi hys- b fai* fod cawod o genllysg wedi disgyn yno, gan ^sutbur dinyBtr arswydus. Pwysai rhai o'r cen- ysg a gafwyd mewn gardd yno dros ddau bwys hiewn gair, darnau raawrion o rew a ddisgynodd ° <^au ftinyd. Dinystriwyd 2,000 o eub"dn°^meWn UQ IIe 3an y cenllysg, tra yr ys- p 1 P'a thai ymaith gan gorwynt aruthrol. an feddylir na pharhaodd yr ystorm ond am dri tnunyd, mae y canlyniadau yn dangos ei bod yn Q 0 r rhai mwyaf dinystriol a gafwyd erioed.
GOLYGFA HYNOD MEWN LLYS.
GOLYGFA HYNOD MEWN LLYS. Yn llys sirol Bury St. Edmund ddydd Mawrth, gerbron Syr Frencis Roxburgh, barnwr, dygwyd cynghaws ymlaen gan Mr. William Taylor, per- chenog y Journalist, yn erbyn y Parch. F. J. T. Jackson, proffeswr duwinyddiaeth yn Mhrifysgol Caergrawnt, pan y sylwodd y barnwr fod tyst- iolaeth yr achwynydd yn anwireddus. Ym- ddangosai Mr Jones, cyfreithiwr, dros yr achwyn- ydd, a phan ddeallodd yr hyn a ddywedodd y barnwr, cyfododd ar ei draed, a chyfarchodd y barnwr fel y canlyn :—" Mae yr hyn a ddywed yr achwynydd yn wirionedd, ac yr wyf yn protestio yn erbyn y fath sylw gan y faine fel yn anmhriodol (cymeradwyaeth). Y Barnwr Ni oddefaf i neb fy nghyfarch fel yna, a di rwyaf chwi yn y swm o t2." Mr. Jones O'r gorou. Mae eich llysoedd yn dyfod yn enwog dros yr holl wlad." Y Barnwr: Yr wyf yn eich dirwyo £2 arall am hyn yna." Dywedodd Mr. Jones na oddefai i'r barnwr ddefnyddio y fath iaith mewn perthynas i'r achwynydd heb brotestio yn erbyn hyny. (Cymeradwyaeth.) Digwyddodd lliaws o olygfeydd yn ddilynol, a gwrthododd y barnwr gais yr acbwynydd. Tan- ysgrifiodd y rhai oeddynt yn bresenol ddigon o arian i dalu dirwyon y cyfreithiwr. -0-
AI'IECFLYD^YMERAWDWR BRAZIL.
AI'IECFLYD^YMERAWDWR BRAZIL. llIysbysir fod Ymerawdwr Brazil yn beryglus a > gan ei fod yn dioddef oddiwrth enyniad yr enod Sidneys). Mae ei fawrhydi yn bresenol ^lilan, a gweinyddir arno gan feddygon o lUn, Naples, a Paris, ond ofnir nae gellir ei teru, yr hyn sydd yn aehosi pryder mawr i'w doul'I a,'i ddeiliaid.
TRYCHINEB YN CHINA,
TRYCHINEB YN CHINA, 3,000 O BERSONAU WEDI BODDI. jjj 6fbyniodd y Standard frysneges o Shangai l^dd Mawrth, yr hwna hysbys a fod yr afon Can- fIi: Wedi llifo dros ei glanau, a bod 3,000 o Chine- II Wedi boddi. Ar y llaw arall, hysbysa cwmni 11 euter," y rhai sydd ganddynt oruchwyliwr yn ,,O"g ong, nad oes unrhyw drychineb o'r fath digwydd.
t PAB A'R ARLYWYDD CLEVE-LAND.
t PAB A'R ARLYWYDD CLEVE- LAND. Ca^eC^reu yr wythnos ddiweddaf cyflwynodd Gibbons ddiolch fiurfiol y Pab i Arlyw- ^eve^an(3 am e* anrheg o gopi tlws o y Taleithiau Unedig ar achlysur ei JjK,.1 °ffeiriad°l yn mis Ionawr. Gan mai yn &Q 1Q yr 0e<1d y diolch, bu raid i'r Arlywydd gael 8{mef. Ordinal ei gyfieithu iddo. Dymuna ei c<da/wydd" k^dweh a llwyddiant 1 ^ri
a FFRWYDRAD DYNAMEIT.
a FFRWYDRAD DYNAMEIT. a°- BEBS0nau WEDI EU LLADD. ^°n ° Newydd, America, ddydd ^8wyddySbySant ^rwydrad dychrynllyd wedi Locust Gap, Pensylvannia, ^yQed ,flaen°roL ^mddengys fod cerbydres ^eit r^y 7 pentref, a bod swm o ddyna-1 Q1111 o'r wageni, yr hwn oherwydd rhyw anffawl a ffrwydrodd, gan ladd saith o bersonau a safent gerllaw, a dinystrio lliaws o dai. Bernir mai yr achos o'r ffrwydrad ydoedd i'r wagen a gynwysai y dynameit gael ei tharaw gan wagen arall pan yr ydoedd y peirianwyr yn ceisio arafu y cyflymdra.
Y CYNtlYRFWYR IN LLUNDAIN,
Y CYNtlYRFWYR IN LLUNDAIN, Prydnawn ddydd Sadwrn aeth Mr. Cunning- ham Graham, A.S., Mr. Conybeare: A.S., Mr. William Saunders, ac eraill i Trafalgor Square, Llundain, gyda'r bwriad o gynal cyfarfod yno, ond gorfodwyd y dorf i ymwahanu yn ddioed gan allu cryf o heddgeidwaid oeddynt yn gwylio yr ysgwar. Gwnaed ymdrechion i draddodi areith- iau, ond llwyddodd yr heddgeidwaid i chwalu y cynhyrfwyr, ond buont dan angenrhaid i gymeryd dau ddyn i'r ddalfa. Mae Mr. Graham wedi am- lygu ei fwriad i fyned i'r un lie bob ddydd Sadwrn, ond doethach ynddo fuasai ymatal, gan fod yr awdurdodau yn benderfynol o roddi atalfa ar yr arddaagosiadau terfysglyd hyn.
DIENYDDIAD YN YR IWERDDON.
DIENYDDIAD YN YR IWERDDON. Yn Ngharchar Tralee, foreu ddydd Llun, di. enyddyyd James Kirby am lpfruddio Patrick Quirk, yn Liscabone, ar yr 8fed o Dachwedd di- weddaf. Dyn tua 35 oed oedd Kirby, yr oedd yn wr priod a chanddo ddau o blant, ac yr oedd yn lied gysurus o ran ei amgylchiadau fel tenant amaethyddol. Yr oedd Quirk yn hen wr llawn pedwar ugain mlwydd oed. Tra yr cedd Berry yn ei barotoi i fyned i'r dienyddle gwnaeth ddat. ganiad difrifol ei fod ef yn hollol ddieuog o achesi marwolaeth Patrick Quirk. Cerddodd yn bwyllog i gyfarfod a'r farwolaeth.
I—«B»~1,1" ! MARWOLAETH SYDYN…
—«B»~ 1,1" MARWOLAETH SYDYN BONEDDWR 0 GONWY YN LLUNDAIN. Darfu i Mr. William Thomas, manager y National Provincial Bank, Conwy, syrthio i lawr yn farw yn Fleet Street, Llundain, nos Wener. Buasai yn y Probate Court yn ystod y dydd, yn dyst mewn achos o ewyllys o gymydogaeth Bangor. Yr oedd Mr. H. Lloyd Jones, cofrestr. ydd y llys sirol, Bangor, yr hwn hefyd oedd yn dyst yn yr un achos, yn cerdded y tu ol i Mr. Thomas pan y cwympodd. Efe oedd trysorydd bwrdeisiol tref Conwy, ac yn fawr ei barch drwy y wlad. Tua pedair blyneedd yn ol penodwyd ef yn ynad heddwch dros Sir Gaernarfon. ♦- —
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL GWRECSAM,…
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL GWRECSAM, 1888. Do. genyrn ddeallfod rhagolygon am Eistedd- fod 'araUerchog eleni. Mae Tywysog Cymru wedi rhoddi atebiad ei fod yn bwriadu bod yn bresenol, os caniata amgylchiadau iddo. Dylai y pwyllgor geisio sicrhau presenoldeb rhai o brif ddynion yr oes hefyd, er mwyn sicrhau llwyddiant arianol yr Eisteddfod. Nid oes eisiau i ni enwi neb, gwyr y pwyllgor pwy a fyddai yn debygol o dynu y bobl ynghyd. Da genym ddeall fod parotoi prysur gan y corau; dywedir fod Caernarfon, Birken- head, Abercarn, a Dowlais, am y brif wobr Tanygrisiau, Gyrn Castle, Brymbo, Croesoswallt, Acrfair, Talysarn, Dolgellau, a Chaergybi, am yr ail. Bydd amryw yn ymgeisio ar y darnau i leisiau gwrywaidd. Ond mae yn sicr mai un o'r at-dyniadau penaf fydd cystadleuaeth corau y plant. Mae corau Bwlchgwyn, Caer, Nantwich, Croesoswallt, Ffestiniog, Gwreceam, Chirk, &c., yn prysur arfogi. Mae hon yn rhwym o wneyd lies i'r corau ieuainc, ac yn symbyliad yn yr iawn gyfeiriad rhoddir £ 20 o wobr. Mae cystadleu- aetb yr offerynau pres yn sicr o fod tuhwnt i'r cyffredin fe ddylai y Cymry wneyd eu goreu yn hyn i rwystro y Saeson fyn'd a'r wobr. Y swm a danysgrifiwyd hyd yn hyn yw ^823 ond mae amryw foneddigion y gallwn ddisgwyl cefnogaeth i'r Eisteddfod ganddynt heb ateb. Addawodd Arglwydd Penrhyn £ 25. Tebygol yw, a bydd sicrwydd yn fuan, y rhoddir gwobrwyon am hollti Ilechau. Cynhelir yr orsedd boreu Mawrth a Gwener, a bydd taflen yr arholiadau i'w chael gan yr ysgrifenydd ymhen y pymthegnos. Mae amser anfon y cyfansoddiadau wedi ei ohirio o'r laf o Fehefin i'r 21ain o'r mis hwnw,a'r diwmod olaf i anfon cynyrchion yn yr adran gelfyddydol (art section) yw yr 21ain o Orphenaf. "7/.
iMogSUiott Cgffrclmtol.
iMogSUiott Cgffrclmtol. TTATJ A BWLGAPJA.—Arwyddir cytundeb masnachol yn fuan rhwng y ddwy wlad uchod, yrhwn a gredir fydd yn fanteisiol i'r ddwy, acyn fold/on amddiffyniad iddynt yn eu trafnidiaeth a gwledydd eraill. CREULONDEB AT Gi.-Adroddir am weithred ddychrynllyd o greulondeb o Skibbereen. Cafodd ci dyn o'r enw Walsh ei wlychu a paraffin neu petroleum gan ryw greuloniaid, ac yna ei roi ar dan. Gadawyd y creadur anffodus yn rhydd yn y cyflwr y^ha, gan redeg yn wyllt mewn pelen o dan nes y llosgwyd ef i farwolaeth. Y FASNACH HAIARN.-Marwaidd iawn ydoedd y fasnach mewn baiarn yn ystod yr wythnos, ac ychydig a weithid. Dylai y fasnach yn Cleve- land fod yn dra bywiog, gan fod swm mawr o haiarn yn cael ei anfon oddiyno i wledydd tramor yn barhaus, ac y mae y cyfartakdd am y mis pre- senol yn bedair mil o dunelli y dydd, ond y mae y prisiau 3c. y dunell yn Ilai nag oeddynt. Pris- iau rheiliau yw £ 8 12s. 6c., a bariau cyffredin £4 12s. 6c. y dunell. HYRDDWYNT DINYSTKIOL YN FIJI.— 5T mae yr agerlong Southern Cross," o Fiji, yn dwyn manylion am hyrddwynt dinystriol a ddigwydd- odd yn Taviana a'r cyffiniau. Ar yr 16eg cynfisol yr oedd y dymestl yn enbyd iawn, a gwnaeth ni- weidiau echrys i eiddo yn Loma Loma, prif dref Taviani, Cafodd 50 o dai y brodorion eu dinystrio, a'r llong "Queenie," perthynol i gwmni eiwgr lleol, ei hysgubo i'r lan. Y mae y planig- feydd siwgr wedi eu dinystrio. Cafodd coedydd banana, hefyd eu chwythu i'r llawr. Y TYWYSOG BISMARC AR SEFYLLFA EWROP.- Y mae un o brif newyddiaduron yr Almaen yn deall fod y Tywysog Bismarc, wrth ymddiddan a thramorwr o fri, Karl Scharz, wedi datgan ei farn na chyffroir heddwch Ewrop yn bresenol. Yr oedd yn sicr na byddai i'r Czar ganiatau i'r cyn- wrf Sclavaidd effeithio ar wladlywiaeth dramorol Rwsia. Yr oedd y cynwrf yn nghylch Boulanger yn bwnc dibwys i'r Almaen. Dywedodd y Ty- wysog nad oedd dim a wnelai a'r ertbyglau cyff- rous diweddar yn y wasg. DAMWAIN ANGEUOL GERLLAW ABERHONDDU.— Tra yr ydoedd Mr. Thomas Williams, Llwyn- celyn, yn dychwelyd gyda'i wraig o un o Eglwysi Aberhonddu mewn cerbyd, ddydd Sul, dymchwel- odd y cerbyd, a bu farw Mr. Williams bron yn uniongyrchol o'r niweidiau a dderbyniodd. An- afwyd Mrs. Williams hefyd yn ddifrifol, ac olnir na fydd iddi wella. Cynhaliwyd trengholiad ar y corff, pan y dychwelwyd rheithfarn o Farwol. aeth ddamweiniol." Yr oedd Mr. Williams yn un o warcheidwaid y tlodion, yn aelod o Fwrdd y Prif-ffyrdd, ac yn un a fawr berchid gan bawb. DoolAU BARRY.—Yr wythnos ddiweddaf pen- odwyd Mr. Richard Evans, is-arolygwr rheil- ffordd y Rhymney, yn brif arolygwr dociau Barry, allan o 83 o ymgeiswyr. HAELIONI ARDALYDD BUTE.-Mae Ardalydd. Bute wedi cytranu y swm o £30 tuag at drysorfa Cymdeithas Cymmrodorion Caerdydd. Ar. ddengys ei arglwyddiaeth bob amser lawer o baelioni ynglyn & phob symudiad Cymreig. ARIANDY CYNILO CAERDYDD.—Bydd o ddydd. ordeb i'n darllenwyr oeddynt wedi ym- ddiried eu haiian yn yr ariandy uchod, yr hwn oherwydd anonestrwydd yr arolygwr, a fethodd gyfarfod ei ofynion rai misoedd yn ol, ddeall fod gobaith y telir i bawb 20s. y bunt, gan y dywedir fod y Llywodraetb, ar ol yr ymchwiliad a wnaed yn ddiweddar, wedi penderfynu erlyn y cyfar. wyddwyr a'r arolygwyr, a galw arnynt i wneyd fyny y golled. BWRDD GWARCHEIDWAID MERTHSR A'U SWYDDOGION.—Yn nghyfarfod diweddaf y bwrdd uchod, a gynhaliwyd ddydd Sadwrn, penderfyn- wyd peidio caniatau blwydd-daliadau i unrhyw swyddog yn ngwasanaeth yr undeb pan yn an- alluog i gyflawni ei ddyledswyddau, er fod deddf seneddol wedi ei phasio yn rhoddi hawl i warch- eidwaid ganiatau blwydd-daliadau. Y rheswm a roddid ydoeddey dylai pob swyddog ddarparu o' gyflog ar gyfer henaint ac afiechyd. LLADRAD BEIDDGAR YN LLYNLLEIFIAD.—Nos Sadwrn, cyflawnwyd un o'r Iladradau mwyaf beiddgar a gyhoeddwyd erioed. Llwyddodd lladron i dori i mewn i dy Superintendent Wil. liams, penaeth dectectives Llynlleifiad, ac un o'r swyddogion craffaf yn y deyrnas, tra yr oedd Mr. Williams a'i deulu yn y ty, a lladratasant bob peth gwerthfawr ag a allent gludo. Mae y di- gwyddiad wedi achosi syndod yn y ddinas, ac er pob ymchwiliad nid yw y Hadron wedi eu dar- ganfod. RHXBUDD I YMFUDWYR CTBIRBTJ-.—Derhyniodd Morien lythyr oddiwrth y Cadfridog Jones, Philadelphia, yn yr hwn yr anogai pawb a fwriadent ymfudo o Gymru i'r America i beidio gwneyd hyny ar unrhyw gyfrif os na feddent arian i'w cynal ar ol cyraedd yno. Dywed y boneddwr yn mhellach fod miloedd o'r American- iaid yn methu cael gwaith, ac mai ffolineb o'r mwyaf yw i ymfudwyr o Gymru fyned yno heb unrhyw ragolwg am foddion cynhaliaeth. Mae Mr. Jones drwy ei lythyr yn gwneyd cymwynas a'i gydwladwyr. MR. GLADSTONE A MR. PARNELL.-Y dydd o'r blaen, bu y ddau wr enwog uchod yn cydginiawa a'u gilydd, a hyny am y tro cyntaf erioed. Yr hwn a roddai y wledd oedd Mr. Armitstead, yr hwn unwaith fu yn cynrychioli Dundee fel aelod Rhyddfrydol. Yr oedd y cwmni yn cael ei wneyd i fyny o chwech o niter, sef Mr. Armit. stead, Mr. Gladstone, Mr. Parnell, Mr. Herbert Gladstone, Mr. John Morley, a Mr. J. E. Ellis, aelod dros Ranbarth Rushcliffe. Buas&i yn ddyddorol gwybod beth oedd gan y parti dan sylw digon tebyg i bynciau y dydd gael rhan o'u hamser. Mae y cydgyfarfyddiad yn dra arwydd- ocaol, ac yn dra thebyg o achosi cryn lawer o siarad ymysg y Toriaid a'r Undebwyr. DARLLEN Y BEIBL MEWN YSGOLION DYDDIOL. —Fel y gwyddis mae lliaws o Fyrdlau Ysgol yn Nghymru yn wrthwynebol i ddarlleniad o'r Ys. grythyrau yn yr ysgolion dan eu gofal, ond da genym ddeall nad yw y nifer mor lliosog yn awr ag ydoedd. Yr wythnos ddiw3ddaf cynhaliwyd ,Yt cyfarfod yn Nghaerdydd i ranu gwobrwyon i'r ys- golheigion llwyddianus yn yr arholiad ysgrythyr- ol a gynhaliwyd ychydig amser yn ol dan nawdd Bwrdd Ysgol y dref. Yr oedd Mr. John Cory wedi cyfranu £ 50, a chafwyd cyflfelyb swm gan Gymdeithas y Traethodau CrefyddoL Wedi i'r gweithrediadan gael eu dechreu drwy weddi, caf. wyd anerchiad gan Mr. Lewis Williams, eadeir- ydd y bwrdd, yr hwn a hysbysodd na dderbyn- iwyd gymaint ag un gwrthwynebiad oddiwrth rieni i'w plant dderbyn addysg grefyddol. Rhan- wyd y gwobrwyon gan Ddeon Llandaf, gan yr hwn y cafwyd araith feistrolgar, a datganai ei foddhad wrth weled cymaint wedi enill llyfrau a thystysgrifau am eu gwybodaetn Ysgrythyrol. Hyderwn na fydd yn fuan gymaint ag un Bwrdd Ysgol yn Nghymru yn gwrthwynebu i addysg Ysgrythyrol gael ei gyfranu yn eu hysgolion.