Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

ABERAFON.

News
Cite
Share

ABERAFON. Nos Fawrth diweddaf cawsom wledd adloniadol ac adeiladol gan aelodau Band of Hope a Chymdeithas jJdirweetol Eglwys St. Mair. Yr oedd yr Ysgoldy Genedlaethol eang wedi ei orlenwi, a phawb, a phawb ar en heithaf yn ceiBio cymeryd i mewn yr hyn a ar- IwywYd iddynt. Yn gyntaf cawsom raglen difyr a Dielus iawn gan y plant, yn gynwysedig o adroddiadau, ymddiddanion, canerion, a dan ddarn gan Fife Band y Band of Hope. Nid ydym yn cofio clywed band o fifes mor felue-yr harmony mor dda. Diau genyf bod Bod lied uchel o flaen hwn a'r byn sydd yn gefnogol ynglyn ag ef, yw mai hogyn ieaanc iawn, Master Thomas, Clarence Street sydd yn eu harwain. Go on fecbgyn. Yr oedd y basso Siencyn yn ei hwyl, a'r boys bach yn canu y corws iddo, fel y mor. Favourite y w Tom gan bobl y dref, ya dywed un o'r merched ieuainc. Gobeithio na ddigia Mrs. Siencyn wrth y ladies ieuainc. Yr oedd yr ail ran yn gynwyaedig o ddrama fechan, sef Drunk and Disorderly." Dramatic Persona:—ynad heddwcb, Mr. T. M. Jones; hen fainwr, Syr John Barleycorn; cwnseleiiaid, Mri. Key a Griffiths clerc, ■«Ir. J. Jones cwnstabl, Mr. G. Jones cyhuddwr, Mr. Morris y carcbaror, Mr. J'r. Key. Cyflawnodd pob un ei ran yn rhagorol, ac yn neillduol silence in court. Mae ax bawb o honom ddyled fawr i Mr. Lewis Jones am ei lafur didor gyda'r plant, a tbrefnu y fath wledd ddan- teithiol i ni-gobeithio y ca gefnogaeth yn ei waith. Cymerwyd y gadair gan ein Ficer parchns, a llanwodd i foddlonrwydd. Terfynwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol, ac aeth pawb gartref wedi eu llwyr foddloni. Prydnawn Gwener diweddaf, claddwyd un o gyfeill- ion Shon Gorff yn ol trefn yr hen Eglwys. Bu y Parchus fcgail yn hynod hynaws a charedig i ddarllen a chynghori tipyn arno pan yn fyw; ond wedi marw o'r brawd, ni wnai y bugail gymaint a darllen penod a ftweddio wrth godi y corff yn y ty, er talu punt y mis iddo gan yr eglwys am hyny; a'r rheswm am wrthod hyn ydoedd ei fod wedi dymuno cael ei gladdu yn ol trefn yr hen Eglwya. Dyma engraifft arall o Gnstion- ogaeth y dyn duwiol hwn. Byddaf fi yn meddwl mai dynion plantos a difetal ofnatsan yw pobl dda y Tabernacl, os y goddefant i ddyn fel hwn i sarnio teimladau y galarwyr yn ddibaid.-Shon Siams. Noa Sul diweddaf, ar ddiwedd y gwasanaeth Cymraeg, anihegwyd Miss G. M. Richards, yr Olganydd, a Bibi a Church Service hardd ar yr achlyBur o'i hymadawiad a'r lie. Fel y dywedodd lir. William Williams wrth gyflwyno yr anrheg mai Did tal am lafur mewn un modd ydoedd, eithr yn oytracd rhyw fath o gydnabyddiaeth am y parod- rwydd a'r ufudl-dod anghydmharol ag oedd wedi ei amlygu er cychwyniad yr achos Oymraeg. Mae Miss Richards wedi cymerydrhan ymarferolyn ngychwyn- iad achos Eglwys Genhadol y Sandfield, ac hefyd yr achos Cymreig, ac y mae yn awr wedi ymadael Ar ardal; ond dymuniad pawb yma yw ei gweled hi yn dychwelyd eto, ac yr ydym yn credu mai felly y bydd. Peth mawr yw gweled y plant yn oymeryd than, yn y gwaith pwysig. Mae Afonwyson yn credu mewn codi y t6 ieuainc i'r gwaith, ac felly y mae gyda'r mab yn y Mardy. Yr ydym yn deall fad Taliesin yn allu gyda'r Eglwys yn y Rhondda Fach, felly mae gyda'i chwaor yma hefyd. Y bobl ieuainc am dani. Yr Arglwydd a'u bendithio, yw gweddi y cezi.

RHUTHYN.

RHYL.

MAENTWROG.

TALSARNAU.

Advertising

PENYGARNDDU.

DOWLAIS.

MANORDEIFI (UPPER SCHOOL.)

iJflarctmaticictiti.

HENDY GWYN AR DAF.