Hide Articles List

7 articles on this Page

.CYNWYSIAD.

"CYKRHYCHIOLAETir A CHYNRHYCH-IOLWYR…

News
Cite
Share

"CYKRHYCHIOLAETir A CHYNRHYCH- IOLWYR CYMRU. Barnai Cyngor y Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig y buasai adeg dyfodiad MR. BRIGHT i Liverpool yn gyfleusdra manteisiol i alw ynghyd nifer luosog o gyfeillion diwygiad gwladol o'r Dywysogaoth a manau eraill, i ymgynghori pa beth a ellir wneud or puro 1 a diwygio cynrychiolaeth Cymru. Mae sefylIfa r, bresenol ein cynrychiolaeth yn mheli iawn o fod yn foddhaol. Prin iawn mewn llawer o siroedd y gellir dyweud fod y bobl yn cael eu cynrychioli o gwbl. Cynrychiolir, mae'n wir, y ddaear a'r anifeiliaid sydd arni, ond ni chyn- rychiolir ond yn anmherffaith iawn syniadau a theimladau y trigolion. Mae gan Gymru yn y Senedd -32 o gynrychiolwyr—:o'r rhai y mae 17 yn cynrychioli siroedd, a 15 yn cynrychioli bwrdeisdrefi. Cynrychiolir y bwrdeisdrefi oil ond pedwar gan Rydclfrydwyr. Rhaid i fwr- deisdrefi Dinbych, a Hwlffordd, ac Aberhonddu, -a Mynwy, o blegid rhywbeth oddef y gwarth o gael Toriaid i'w cynrychioli. Gwyddom mai aid o ddewisiad y bobl y maent yn y Sen- edd, ond oblegid dylanwad anheg eu huwch- afiaid arnynt. Da genym ddeall fod bwrdeis- drefi Sir Ddinbych wedi penderfynu na oddefant y gwartlirudd y maent dano yn hwy; a'u bod wedi sicrhau Cymro gwladgarol a Ehyddfrydwr trwyadl yn MR. WATKIN WILL- JAMS i ddyfod allan yn yr etholiad nesaf; ac es dihunir y teimlad Cymreig yn briodol, nid oes dadl i fod am ei ddychweliad llwyddianus. Tri Rhyddfrydwr sydd dros holl siroedd Grogledd Cymru, a thri arall dros holl siroedd y De, gan adaely gweddillo'rsiroeddi 11 oDori- aid, yrhanfwyafohonynt o'r fath gulafa mwyaf rhagfarnllyd.-Alae tri yn y Senedd dros sir Fynwy, ond nid ocs yr un o honynt yn cyn- rychioli y bobl.-Sierheir eu lleoedd iddynt trwy ddylanwad y meistri gwaith. Nid oes ond un dros sir Feirionydd, ac y mae hyny un yn ormod, gan nad ydyw mewn un modd yn cynrychioli barn a theimlad y Meirionwyr. Pe cai y Cymry bleidleisio yn ol eu cydwybod- au, heb ddylanwad y scriw, ni welid yr un Tori ar enw Cymru yn y Senedd; ac nid yn unig ni ddychwelid yr un Tori, ond mynid Rhyddfrydwyr o stamp pur wahanol i'r rhan fwyaf o'r rhai sydd yno yn bresenol-ond dan yr amgylchiadau, hwyrach y buasai yn anhawdd dychwelyd eu gwell. Mae yn anhawdd gwybod pa beth fydd dylanwad y Reform, Bill yn Nghymru. Yn y rhanau amaethyddol o'r wlad ofnir y rhydd fwy o yn llaw y tirfeddianwyr; oblegid fel theol y mae man amaethyddwyr o £ 50 i lawr yn fwy gwasaidd na'r rhai o X50 i fynu; ond disgwylir y ceir mwy na digon i wrthbwyso hyny yn y nifer luosog o grefftwyr a masnach- Wyr i ddaw i mewn yn enwedig yn y siroedd gweithfaol. Bydd o bwys mawr i droi pob peth yn y mesur Diwygiadol, hyd y byddo yn bosibl yn ffurf y blaid Rhyddfrydig. Mae y "Gymdeithafl Ddiwygiadol Gymreig" wedi ei sefydlu yn uniongyrchol i'r perwyl yma.- Amcanion y Gymdeithas yn ol y rheolau ydyw Lledaenu hyd y byddo yn bosibl egwyddor- lon y blaid ddiwygiadol—gofalu am y gwahanol gofrestriadau-a thrwy bob moddion cyfreith- *on a phriodol i sicrhau dychweliad ymgeiswyr Rhyddfrydig yn yr etholiadau dyfodol." gofalu am y gofrestr ydyw y gwaith cyntaf.— ylid edrych yn fanwl fod enw pob un ar y m?e §an<ido hawl i bleidleisio. Ni Jn helaethiad y bleidlais yn ateb dim heb iawU c°frostriad. Byddai yn fuddiol sefydlu cymdeithasau, neu gangen cym- Cyra^uaU' 1X011 drefydd a phentrefydd mewn a gjdymuno y llwyddwn! ac vn efFro^m i^llas fe fydd rhyw rai bob amser wneud g°fekl fod y yi ei onKih\nliw?n,'uS' y dylM s'ly<"1' ar yn hollol i'r lypgyflwyno gyaal k I ^Cd- 1 ac i 5 cyftroir yr ardaloedd; Ond J!™ niewn sefydlu cymdeithasau. ion DriodoV mapVii61 ydyw/ cael y dyn- Vdvw rnpl1 8 7 • °^adau.—Peth hawdd cael dwgG1SWy^ °nd Peth anWd amWh fi c>:mllwys'—maent yn an- danynt Til medd^ir nes i chwilio am aaynt. Vn o bnf gamsyniadau y blaid Ryddfrydig ydyw ymranu am eu hymgeis- wyr, a'r Toriaid wrth fod yn un yn dychwelyd eu dynion rhyngddynt. Dylai y Rhyddfryd- wyr Cymreig ddeall eu gilydd yn berffaith yn hyn. Os ymranwn, gwanychwn, a'n gwrth- wynebwyr a ffyna.-Ond cael dynion cymwys gellir disgwyl y saif yr etholwyr drostynt. Dylai pob ymgeisydd yn Nghymru fod yn Rhyddfrydwr trwyadl. Ni enillir dim wrth gael rhyw rai anmhwys ac anmhenodol eu syniadau. Nis gellir dychwelyd Rhyddfrydwr o un math ond ar waethaf y tirfeddianwyr a'u stiwardiaid.—Rhaid parotoi i ddysgwyl eu gwrthwynebiad hwy i bob ymgeisydd Rhydd- frydig,-ofer rhoddi ffordd i Ryddfrydwr yn unig mewn enw, gan ddisgwyl cefnogaeth mawrion y wlad, oblegid ni cheir ef; ae nis gallent ond gwneyd eu gwaethaf i ymgeiswyr trwyadl. Ond bydd cael dyn trwyadl yn help i gael gan yr etholwyr ddyfod allan yn selog drostynt. Nis gellir gyru y Cymry yn selog nes peryglu eu hamgylchiadau heb eu hargy- hoeddi fod y dynion sydd yn gofyn eu pleidlais yn werth dyoddef drostynt os bydd raid; ac fe fydd rhaid hefyd cyn y bydd yr ymdrech drosodd. Os yn bosibl, dylid cael Cymry i gynrychioli Cymru. Nid ydym am fagu rhagfarn rhwng cenedl a chenedl; ond y mae y teimlad cen- edlaethol yn gryf iawn yn Nghymru, a dylem gymcryd mantais arno yn ein hetholiadau. Ni ddywedwn na phleidleisiwn dros Rydd- frydwr trwyadl am ei fod yn Sais-yn wir byddai yn dda genym, a byddai yn anrhydedd i ni gael Saeson fel Edward Miall neu Samuel Morley i'n cynrychioli; boneddigion sydd yn deall Cymru yn well, ac yn cydymdeimlo a'r genedl yn fwy ddengwaith na'r rhan fwyaf o'r Cymry sydd yn y Senedd yn awr. Ond eithriadau ydyw y boneddigion yna; ac nid bob dydd y ceir eu cyffclyb. Gellid disgwyl fod Cymro yn deall Cymru yn well na Sais; ac yn cydymdeimlo. yn fwy ag anghenion y wlad. Yr ydym yn gonedl neilldnol-yn byw mewn gwlad neillduol—yn siarad iaith neill- duol-a chenym ein neillduolion cenhedlaethol, fel nas gall ond Cymro ein cynrychioli yn deg. Mae amgylchiadau wedi bod yn Senedd Pryd- ain ac yr oedd yn resyn na buasai yno ryw un yn deall Cymru i siarad drosom.—Pan y cyfododd Mr. Gathorne Hardy yn ddiweddar yn y Ty i ddyweyd fod capeli Cymru yn cael eu codi, nid trwy gyfraniadau y bobl, ond gan berchenogion y gweithfiioedd, ac weithiau gan adeiladwyr anturiaethus, or mwyn gwneyd arian; nid oedd yno gymaint ag un i agor ei enau yn erbyn y fath gamdystiolaeth. Ni bydd cynrychiolaeth Cymru yn foddhaol ychwaith heb ddychwelyd Ymneillduwyr i'w cynrychioli. Nid wyf am orfaelu cynrychiolaeth Cymru i Ymneillduwyr. Mae genym eglwyswyr rhyddfrydig, y mac yma rai o honynt heddyw y gobeithiwn eu gweled yn y Sonedd newydd dros ryw ran o Gymru ac ni bydd ein llawenydd ar eu llwyddiant yn llai oblegid mai eglwyswyr ydynt, ond nid gormod i Ymneillduwyr Cymru gael hefyd rai o honynt hwy eu hunain i'w cynrychioli.- Mae yn agos i 600,000 o boblogaeth Cymru mewn cysylltiad uniongyrchol ag Ymneilldu- aeth, hob gyfrif y plant sydd dan addysg eu hysgolion Sabbothol, ac eto nid oes cymaint ag un YmneiUduwr dros Gymru yn y Senedd. Cynrychiolir ni gan ddynion heb ddeall iaith y bobl, ac heb ddim cydymdeimlad rhyngddynt a chrefydd y bobl. Bydd yn rhaid i etholwyr Cymru wneud aberth, ac mewn rhai amgylch- iadau yn ddiamheu beryglu eu hamgylchiadau, wrth bleidleisio yn ol eu cydwybodau; ond nid yw yn rhesymol disgwyl iddynt wneud hyny ond dros ddynion yn cynrychioli eu hegwydclorion yn drwyadl, yn deall eu hiaith, ac yn meddu y cydymdeimlad llawnaf a'u crefydd. Nid yw y mesur Diwygiadol newydd yn rhoddi i Gymru ond un eisteddle ychwan- egol; ac y mae yn llawen genym fod Rhydd- frydwyr Merthyr wedi sefydlu ar un i ,sefyll etholiad yno fydd yn gynrychiolydd Cymreig mewn gwirionedd. Mae Mr Henry Richard y dyn ag y mae ei eisiau dros Gymru yn y Senedd. Mae yn Rhyddfrydwr trwyadl, yn Gymro gwladgarol, ac yn Ymneillduwr eg- wyddorol. Disgwyliwn y dychwelir ef yn anrhydeddus. Byddai yn gywilydd i'r un Ymneillduwr lai na'i gefnogi. Caiff ef oreu pob Annibynwr, ni a wyddom; ac nis gall yr un Methodist lai na rhoddi ei holl ddylanwad i sicrhau dychweliad llwyddianus mab eu hy- barch Efengylwr Ebenezer Richards, Tre- garon.

CYNDDAREDD YR ORANGEMEN.

SEIAT FAWR SASSIWN LERPWL.

ERLYNIAD Y CYN-LYWYDD EYRH.

DYCHWELIAD Y FYDDIN.

RHAGOR 0 ARIAN I DYWYSOG CYMRU.