Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

--HELAETHIAD Y < TYST.'

News
Cite
Share

HELAETHIAD Y < TYST.' Nid oes angen galw sylw eiu darllenwyr at helaethiad y TYST-mae y fltaith o flaen eu llygaid yn y rhifyn hwn. Mae wedi bod yn gryn lawer o lafur a thraul ychwan- egol i ni; ond y mae y gefnogaeth gref ydym wedi gael, a'r gymmeradwyaeth uchel sydd wedi bod i'n gwasan- aeth hyd yma yn ddigon o warantiad genym na adewir ni yn golledwyr yn yr hyn a wnaethom. Cychwynwyd y TYST yn hollol oddiar amcanion cy- hoeddus i wasanaethu ein henwad a'n cenedl. Wrth reswm nid oeddym yn barod i fod yn golledwyr; ond nid elw oedd yr amcan cychwynol; ond cael papur o nodwedd uchel i wasanaethu egwyddorion rhyddfrydig mewn gwladyddiaeth; a meithrin ysbryd boneddigaidd a diragfarn mewn crefydd.-Pa mor bell yr ydym wedi gwneyd hyny hyd yma, gadawn i'n darllenwyr farnu. Ni byddai yn weddus i ni ganmol ein hunain, ym- ffrostio yn wir nid yw fuddiol." Mae pob dyn o chwaeth yn ffieiddio hunanganmoliaeth. Nid ydym wedi udganu o'n blaen o'r dechreuad, ac nid ydym am wneyd. hyny yn awr—ond caiff yr HANER CAN' rhifyn sydd wedi ym- ddangos leiaru drosom, ac yr ydym yn foddlawn sefyll neu syrthio wrth eu tystiolaeth hwy. Y cwbl ddywedwn ydyw y gwnawn ein goreu rhag llaw fel yr ydym wedi gwneyd hyd yma; a hwyrach, gyda phrofiad, ein bod wedi dysgu rhywbeth, fel y gellir disgwyl i ni wneyd yn well o hyn allan. Bydd pawb sydd wedi bod a Haw mewn gwneyd y TYST i fyny hyd yma, gydag ef yn y dyfodol; ac yr ydym, oblegid y bydd genym ychwaneg o le, wedi sicr- hau gwasanaeth nifer o lenorion galluog, nad ydynt wedi bod yn gohebu i ni hyd yma. Bydd genym fwy o le o hyn allan i newyddion Cymreig; er nad ydym am i neb o'n gohebwyr gymeryd mantais ar hyn i'n beichio a hanesion meithion-digon o amrywiaeth sydd yn fwyaf cymeradwy mewn newyddiadur. Ond yr ydym am roddi y rhan fwyaf o'r lie ychwanegol sydd genym i hanesion gwladol, cartrefol a thramor. Ychydig iawn o bobl sydd yn cymeryd dyddordeb mewn man gwerylon personol. Mae gormod o lawer o'r fath bethau wedi bod yn ein llenyddiaeth Gymreig. Mae pawb wedi blino amynt, ond gwehilion y bobl; ac nid ar gyfer y rhai hyny y bwriadwyd y TYST, ond ar gyfer y rhai sydd wedi llwyr ddiflasu ar y fath bethau. Yr ydym, hyd y gallem, wedi cadw pob sothach o'r fath allan; ac yr ydym yn penderfynu bod yn llawn mor ofalus, ac yn fwy gofalus rhag gollwng dim o'r fath i mewn. Mae cwestiynau pwysig iawn, yn wladol a chym- deithasol, yn cynhyrfu y byd yn y dyddiau hyn; ac addysgu ac addfedu meddyliau eu darllenwyr yn y materion hyny ydyw" prif orchwyl newyddiaduron. Erfyniwn am help a chydweithrediad ein holl ohebwyr ffyddlon i wneyd y TYST y peth y teimlai pawb ddylai newyddiadur fod. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i'n dosparthwyr, y rhai a'u harchebion ychwanegol a'n cynorthwyasant i ddyfod i benderfyniad i wneyd yr helaethiad. Byddwn yn disgwyl clywed yn fuan oddiwrth y rhai nad ydynt wedi anfon atom hyd yma. Anfoner yr archebion oil i Mr. Arthur Rowlands, 19, Chapel Walks, South Castle Street, Liverpool. Mae y cyfarwyddwyr wedi cymeryd yr argraph-wasg yn eu llaw eu hunain, ac wedi sicrhau gwasanaeth Mr Rowlands, i arolygu y swyddfa. Byddwn yn sefyll yn yr un berthynas a'r TYST ag o'r blaen; ond gyda chyn- orthwy ychwanegol, yr ydym yn hyderu y gallwn ni ei droi allan yn fwy effeithiol. Derbynied ein holl gefnogwyr ein diolchgarweh mwy- af diffuant. Mae eu gwasanaeth wedi bod yn hyf- rydwch i ni, a gobeithio fod ein gwasanaeth ninnau wedi bod felly iddynt hwythau. Y GOLYGWYR. O.Y.—Er mwyn cael hanes y Gynnadledd ddydd Mercher, a chyfarfod MR. BRIGHT yn yr hwyr, ynglyn a'r Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig, gwyddom y goddefir i ni fod ddiwrnod yn ddiweddarach yr wythnos hon eto.

Advertising

IAT EIN GOHEBWYR.

GLANIAD Y PARCH. D. PRICE,…

CYMANFA Y METHODISTIAID CALFINAIDD…

GWERTHFAWR L WYTHY LLONG GENHADOL.

YR IAITH GYMRAEG.

ENGLYN I'R PRYF COPYN.

Y GYMDEITHAS DDIWYGIADOl GYMREIG.

Y GYNHADLEDD.

Advertising

GOLLYNGIAD Y SENEDD.