Hide Articles List

6 articles on this Page

CYNNRYCHIOLWYR RHYDDFRYDIG…

News
Cite
Share

CYNNRYCHIOLWYR RHYDDFRYDIG LIVERPOOL. Mae Liverpool wedi bod bob amser yn un o ragfuriau cryfaf Toriaeth. Bu yma lawer ymdrechfa galed, a gwell peidio dwyn eto i oleuni y llwgrwobrwyo a fu yma mewn blyn- yddau a aethant heibio. Yn ol yr Ysgrif Ddiwygiadol newydd, y mae un cynnrychiol- ydd yn ychwanegol yn cael ei roddi i Liver- pool a chan nas gall neb bleidleisio dros fwy na dau o'r tri y mae y Rhyddfrydwyr yn sicr o un. Mae y trydydd yn gystal a bod yn gyn- nrychiolydd y llairif. Ond y mae y Rhydd- frydwyr wedi penderfynu gwneud cynnyg am ddau. Mae yma dipyn o ofn yn mysg uchel- Doryaid fod Mr. Graves yn dirywio yn ei ffydd boliticaidd, o leiaf fod ei ysbryd yn dechreu ymlygru mewn gogwyddiad mwy nag sydd dda ganddynt at egwyddorion Rhyddfrydig, os nad at y blaid Ryddfrydig. Liberal Conserva- tive, beth bynag yw y creadur deuryw hwnw, y mae Mr. Graves fel Mr. Horsfall, yn dewis galw ei hun. Anffawd fawr y Ceidwadwyr Rhyddfrydol hyn ydyw eu bod bob amser ar raniad y Ty i'w cael yn pleidleisio gyda'r Toriaid uchaf. Ond oeri y mae y Toriaid at Mr. Graves ac ni ryfeddem ddim ei weled, a hyny yn fuan, yn fwy yn ffafr y Rhyddfryd- wyr nag yn ffafr y Toriaid, a hwythau yn fwy yn ei ffafr yntau. Nid oes ynom lawer o hyder y daw Mr. Horsfall lawer o'r man lie y mae, er ei fod yn foneddwr parchus gan bawb, a pharod i gynnorthwyo pob achos da. Mae Cymdeithas Ryddfrydig Liverpool wedi sefydlu ar ddau foneddwr anrhydeddus i sefyll yn yr etholiad nesaf, os ceir ganddynt gyd- synio. Ar y cyntaf, yr oedd llygaid y Gym- deithas ar Mr. Robertson Gladstone (brawd yr Anrhydeddus W. E. Gladstone), a Mr. William Rathbone. Anfonodd Mr. Gladstone yn ol i ddiolch iddynt am gynnyg y fath anrhydedd iddo, ond nad oedd un ystyriaeth ar y ddaear a allasai ei gymmhell ef i fyned i'r senedd, er mor uchel y prisiai farn a chymmeradwyaeth ei gyd-drefwyr. Ac yn eu cynghor, ddydd Sadwrn diweddaf, enwyd Mr. Vernon Har- court i gal ei wahodd i sefyll gyda Mr. Rath- bone yn yr etholiad nesaf. Mae W. Rathbone yn enw adnabyddus arbob aelwyd bron yn Liverpool, ac y mae ynddo swyn pa bryd bynag y dywedir ef. Hen dy- wysog yn mysg diwygwyr ei oes oedd William Rathbone, y tad. Bu yn gadfridog yn holl frwydrau rhyddid yn y dref am yr hanner can mlynedd diweddaf, ac yr oedd rhai o'r brwydr- au yn boethion iawn ond erioed ni welwyd yr hen William Rathbone yn troi ei gefn yn nydd y frwydr. Yr oedd ynddo y cydym- deimlad puraf a phob achos elusengar a dyn- garol; ac y mae y mab nid yn unig yn etifeddu enw ei dad, ond hefyd yn etifeddu ei" ysbryd.' Mae ei natur yn ffieiddio pob peth hunanol ac iselwael; ac yn ychwanegol at ei olygiadau Rhyddfrydig, -y mae yn Uawn o'r teimladau mwyaf caruaidd. Achwynir ar rai o Rydd- frydwyr Liverpool eu bod yn falch ac uchel- frydig, fel y mae anmhoblogrwydd eu cymmer- iadau personol yn anfantais i'w golygiadau gwleidyddol. Ond nid oes dim o hyny i nlwrio yn erbyn llwyddiant Mr. Rathbone. Mae Mr. Hartecourt, er nad ydyw ond dyn cydmarol ieuangc, wedi rhoddi pronon eglur o'i alluoedd, a'i gymmhwysderau at achosion cyhoeddus y wladwriaeth. Safodd yn wrol o blaid Gogledd America trwy holl flynyddoedd y rhyfel, ac ysgrifenodd liaws o lythyrau galluog ar y mater i'r Times. Nis gwyddom pa faint o help fydd hyny iddo yn mysg ethol- wyr Liverpool; ond yr ydym yn sicr y buasai hyny bum mlynedd yn ol yn anfantais fawr iddo. Ond y mae buddugoliaeth o'r Gogledd wedi newid pethau yn rhyfeddol. Nid oes dim mor llwyddiannus a Hwyddiant, Bu yn siarad yn yr Amphitheatre nos Fercher, ac yn yn y brecwest boreu ddydd Iau; a'r bwriad iddo fod yn ymgeisydd am 'gynnrychiolaeth Liverpool barodd ei roddi i siarad, ac nid' trefniad blaenorol y pwyllgor. Tynodd sylw ac ennillodd gymmeradwyaeth mawr yn y ddau gyfarfod. Bydd ei fod yn ddyn dieithr yn anfantais iddo, yn enwedig yn Liverpool. Pe cawsid rhyw un yn y dref i sefyll gyda Mr. Rathbone, hyny fuasai oreu ond dyma y ddau y mae Cynghor y Rhyddfrydwyr yn y dref wedi cytuno arnynt. Nid y pwngc bellach ydyw ai dyma y ddau oreu a allesid gael- cymmerwn hyny yn ganiataol. Mae y rhai wyddai fwyaf am danynt wedi eu dewis. Nis gall pob dyn gael ei hoff-ddyn ei hun; ac os awn ni i ddechreu taeru am y dyn cymhwysaf fe lithra y Toriaid eu dynion i mewn rhyngom. Mae buddugoliaethau y Toriaid yn y dref hon bob amser i'w priodoli i'w hundeb. Ni chlywyd erioed am ymraniadau yn eu cyng- horau. Y mae yr amcan yn rhy agos at eu calon i oddef i ymrysonau am y man bethau i ddyfod i mewn. Byddai yn dda i'r Rhydd- frydwyr i gymmeryd addysg oddiwrthynt. I'w plith hwy y mae cynhcnau ac ymrysonau yn dyfod. Maent fel pe yn ymhyfrydu mewn tynu yn groes. Yn eu heiddigedd a'u man ragfarnau, maent yn colli golwg ar yr amcan mawr, ac y mae yr ychydig yn drysu amcan- ion y llawer trwy gymmeryd tramgwydd lie nad oedd achos. Wedi i gyngor Cymdeithas syrthio ar unrhyw un, dyledswydd pawb sydd yn caru llwyddiant y blaid hono ydyw cefnogi y dyn, ac nid taeru a dadleu ai ni allesid cael ei well. Nid ydym yn dyweyd nad allesid sefydlu ar gystal dau, a gwell hwyrach, na'r rhai a nodwyd; ond dyna y rhai a nodwyd, ac ni bydd siarad am neb arall yn awr yn ddim ond taflu rhwystr i'r ffordd. Yr ydym yn rhoddi pwys mawr ar i'r Rhyddfrydwyr fod yn unol. Dyna yr unig ffordd y llwyddwn. Cymmered y Cymry yn Liverpool hyn yn ddifrifol at eu meddwl, a chymmered y Cymry yn Nghymru sylw o hyn hefyd. Ein hym- raniadau sydd wedi gwanychu ein cenedl ni, ac y mae ein cynrychiolaeth wedi dyoddef mwy oddiwrth hyny nag oddiwrth dclim arall. Cyfrifer hyn yn mysg y pethau a fu, a rhag- llaw myner pob peth o newydd.

Advertising

CYNWYSIAD. I

--THE CHURCH IN WALES.

Y CYFARFOD MAWR.

NEWYDDION ETHOLIADOL.