Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
,MYNYDD CYNFFIG.
MYNYDD CYNFFIG. Saif y lie tna phum milldir i'r gorllewin o hen dref Penybont-ar-Ogwy, chwech ir deheu o Maesteg, a dwy i'r dwyrainohen fwrdeisdref Cynffig, neu yn briodol Cefn-y-ffigen. Y mae gwely glo Deheudir Cymru (South Wales Coal Bed) yn terfynu yn y rhan ddeheuol o dan y lie hwn. Gwelir ryw ddeu- gain milldir o ffordd o ddrysau y tai yma, a hyny y golygfeydd mwyaf hyfryd. Diwellir y trigolion a bara beunyddiol trwy eu llafur yn ngweithfeydd glo a gedwir gan C. R. M. Talbot, Ysw., A.S., Castell, a thiroedd yr hwn a welir i bob cyfeiriad oddi yma. Ar y tiroedd hyn y gwelir yr ysgyfarnogod, a'r cwn- ingod yn lluoedd yn ymbrancio fel wyn bach mis Mai; a'r phesants, &c., fel ieir dofion o amgylch ogylch yIle. Y mae poblegaeth y lie tua 2,000. Y mae yma ysgoldy hardd, a chapelau helaeth gyda phob enwad, &c. Ond rhyfedd mor farwaidd ydyw hi gydag addysg yn y lie. Os bydd merch neu fach- gen yn gallu adrodd darn yn rywfodd undonog, gan lygra geiriau yn y modd mwyaf gwrthun, bydd y rhai a ddylai wybod yn well yn eu canmol, trwy ddyweyd Ffamws y mblant i,) &c. Ond erbyn yr a y plant i fanau eraill, y maent o dan orfod i deimlo eu colled. Bu yma, o brydi bryd, amryw gynnygion i sefydlu cyfarfodydd er gwella a phuro ieuenetyd y lie, mewn canu, adrodd, darllen, &c., ond i raddau yn ofer gan ddiffyg cefnogaeth. Ffurfiwyd yma tua blwyddyn yn ol gyfarfodydd a elwir y Darlleniadau Ceiniog-eyfarfodydd sydd wedi gwneud annhraeth- ol dda i ieuenetyd y Saeson a'r Cymry, os byddai eu detholiad yn hapus, a'u trefniad yn dda. Ond rhodd- odd y cyfeillion i fyny gyda'r noson gyntaf, er y credent, wrth gwrs, y byddai y cyfryw gyfarfodydd o les mawr. Y mae cysgodion nosawl y gauaf yn dechreu eleni eto; ac y mae yn dda genym hysbysu fod y cyfeillion yma eto yn penderfynu dyrchu y lie i sylw trwy eu talent a'u hysgrifau. Y mae un o'r Darlleniadau Ceiniog wedi ei gynnal nos Fawrth cyn y diweddaf, yr hwn a drodel allan yn llwyddiant anrhydeddus,—yr ystafell fawr wedi ei chramio, y canu a r adrodd, &c., yn dda, ac ystyried y fantais y mae y lIe wedi ei gael. Yr oedd braidd pob dyn o nod ag sydd yn caru lleshau y dosparth ieuanc yn bre senol; ac yn ddiau genym na fydd neb yn ol o'r rhai a ddylai fod yn flaenaf gydag achos mor dda. Ieuenetyd anwyl, cofiwch ei bod yn ormod o'r dydd yn awr i ni ddarllen, canu, adrodd, &c., fel y dvddiau gynt. Y mae ein manteision ni yn llawer uwch na'n J Ac os gwneir y goreu o'r manteision, ni xydd. achos i gywilyddio gwynebu unrhvw le yn ein gwd. Caiffeich TYST dystio yn fynych wrth ei ddarllenwyr pa fodd y byddwn yn myned yn mlaen. —Llyfriwy..
CYFARFOD CHWARTEROL MEIRION.
CYFARFOD CHWARTEROL MEIRION. Yn nghyfarfod chwarterol Meirion, yn Penal ddydd Mercher, y 25ain o Fedi, 1867, I-_Gytunwyd fod y cyfarfod chwarterol nesaf yn Sir Feirionydd i fod yn y Ganllwyd, ryw dro yn mis Rhagfyr nesaf, oddieithr i ryw rwystr gym- meryd lie yr amser i'w hyspysu eto. 2. Cynygiwyd gan D. Lloyd, Ysw., Towyn, fod y sir i gael ei rhanu yn dair. Y rhan ddeheuol-yr ochr ddehenol i'r afon Mawddach; y rhan ogleddol -yr holl gapeli i'r gogledd o'r unrhyw afon y rhan ddwyreiniol-yr oil o'r capeli i'r dwyrain i'r Fis- nynt, yr Arening, a'r Aran; ac i'r cyfarfodydd chwarterol a'r gymmanfa fyned ar gylch o un i'r Uall o r eyfryw raniaclau, i un o'r capeli a fyddo yn galw am danynt. Cefiiogwyd gan y Parch. J. Peters, y Bala, a phasiwyd yn unfrydol. 3. Fod achos y oapel newydd yn Aberdyfi i gael ei gymmeradwyo gan y pwyllgor chwarterol hwn i sylw gwahanol eglwysi yr enwad yn y sir, erbyn y bydd y Parch. W. Parkins, gweinidog y lie, yn ym- weled a hwynt ar ei daith gasglyddol. 4- I?dJ diefaJ ^mmer!r i gasglu at Grolegdy newydd Aberhenddu, yn y sir, i gael ei ohirio hyd Gymmanfa y Bala yn Mehefin nesaf. Cae! e! .wneud trwy y Dysgedijdd TYST CYMREIG at ddiaconiaid ac eglwysi y sir am iddynt wneud casgliad, o hyn i'r gymmanfa sirol n|sat, at y Pastor's Retiring Fund, a chasgl at y Widow s Fund o hyn i ddiwedd Mawrth nesaf, a danfon y gasgI ar unwaith mewn post qffice order i'r Parch. Lewis Evans, Newport, Monmouthshire, gornchwyliwr y gymdeithas yn Nghymru. Yn mhellach, fod yr eglwysi sydd heb gasglu at y gym- deithas er cynnorthwyo achosion yn dechreu, i gael eu gwneud erbyn cyfarfod y Ganllwyd yn Rhagfyr nesaf. Mae rhai wedi gwneud yn anrhydeddiis yn barod. 6. Fod y Parchedig John Peteis, y Bala, i gael y swm o 10s. y flwyddyn at ei dreuliau gohebyddol yn achos y gwahanol weithredoedd capeli (trust deeds) yn ei gadwraeth, ac annogwyd ef i ddanfon copi o'r hyspyseb argraffedig i ddiacon pob eglwys yn y sir. Cyflawnwyd y rhan bregethwrol o'r cyfarfod yn y drefn ganlynol:-Am 6 o'r gloch, pregethwyd-gan y Parch. Lewis Humphreys, diweddar o Patagonia, oddiar y Psalm ciii. 1—5, a dilynwyd ef gan y Parch'. J. Peters, Bala, oddiar Efengyl loan i. 9. Am 10, dydd Iau, pragethodd y brodyr J. Williams, Maen- twrog, oddiar Philipiaid i. 10, a W. Roberts, Tany- grfsiau, oddiar Heb. iv. 1. Am 2, pregethodd y Parch. R. T., IVilliams, gynt o Philadelphia. U. D., Amenca, oddiar loan xxi. 21, 22, a'r. Parch. Edward tu j1?8' 5mas' oddiar loan xvi 32. Am 6, pre- gethodd y Parch. J, Williams, Maentwrog, oddiar e|?' T3," 19 y Parch. W. Roberts, Tanygrisiau, oddiar Cor xm. 3, a'r Parch. J. Jones, Abermaw^ oddiar 1 Chron. xxi. 13. Cafwyd cyfeillach gyifred- inol hefyd boreu dydd Ian, Ile y gwnaed llawer o wahanol sylwadau yn benaf ar y pwys i ni fel enwad wiieud mwy o eghi i gael ychwaneg o aelodau ein heglwysi i'.n hysgolion Sabbothol.
: LLANFAIRFECHAK
LLANFAIRFECHAK -Tan.— Nos. Fawrth, Medi 24, cynhaliwyd cy-, nghterdd yn yr Ysgoldy Oenhedlaethol gan g-or yr' Eglwys ar ran tlodion yr enwad. Ar ganol y cwrdd, dychrynwyd liwy gan y gwaeddi—tan—tan—tan a, kobl yn dyiifo allan, gan adael y cor i ganu id ynt eu hunain. Yna aethpwyd i roddi rhybudd ent^efw,yr a chyn pen ychydig, deallvvyd mai! ydlan a r holl dai allan yn flrerm Mr William Roberts, y Wern, oedd ar dan. A phan gyrh aeddodd Sergeant Davies, a lluaws eraill y fan, deallasant fod yr oil yn wrr, ar ffiamaucyrliog yn gweithio eu ffordd yn an- orchfygol Llosgodd yr holl ystablau. a'r ysgubor, pa. nn oedd yn llawn o yd. a'r beudai. eraill yn ulw, a pnedair o deisi o yd oedd yn yr ydlan, a thrafferth lawr a gaed 1 gadw y gwair rhag yr elfen ddinystriol ond Ihvyddwyd gyda hyny, er fod y dwfr yno yn hy- nocl brin." Daeth canoedd yno o Aber a Llanfair- fecha a thrwy ymdrech mawr, achubwyd ychydig o'r yd, llwycldwyd tua hanner nos i ddiffodd y tan yn yr ydlan. Ond llosgodd yr adeiladau yn gyflawn bernir fod y golled tua 200p. trwy y cwbl, o blegid nid oedcr y tai allan o werth mawr. Yt oeddynt yno, ftiafe yn ddiau, er's oesoedd, a gwellt oedd yn do arnynt igyd, a hwnw tua llathea o drweh. Nos Iau diweddaf, bu cwrdd biodeuog a chyn- nyrchiol iawn yn yr ysgoldy gan bobl y tan newydd- ion yma, pa rai sydd yn ymdreehu gwneud pob peth i foddhau y boneddigion, serch tori y Sabbath. Amcan y cyfarfod oedd y gwelliantau angenrheidiol erbyn y dyfodol, megys cael gwell ffordd gyda glan y mor, a chael ffordd gyda y gledrffordd oddi wrth y Wasing Hotel at dir Thomas Mc' Mican, yna o dan y gledrffordd i lan y mor. Diau y byddai hyn yn welliant mawr ond ei gael. Grobeithio y bydd i feddianwyr y tai ffurfio pwyllgor, er dwyn allan welliantau i weithrediad.-illin Menai.
PRAWF Y FFENIAID YN MANCHESTER.
PRAWF Y FFENIAID YN MANCHESTER. ■^yg^jd y carcharorion a gyhuddid yn nglyn a'r ymosodiad ffyrnig er rhyddhau Kelly a Deasey, o flaen yr ynadon yn Manchester boreu dydd Iau di- weddaf. Gwnaed y parotoadau mwyaf effeithiol er eu dwyn o garchar y sir, i'r Ilys sirol. Yr oedd cyf- lawnder o heddgeidwaid a milwyr wedi eu gosoJ i'w gwylio, rhag i neb gynnyg eu rhyddhau. Llywyddid ar y sedd ynadol gan Mr Fowler, ac yr oedd amryw ynadon eraill yn bresenol ar y fainc. Dygwyd yr erlyniad yn mlaen gan Mr Higgin. Gajwyd o ddeutu 28 ger bron ar y cyhuddiad o lof- ruddio Sergeant Brett. Amddiffynid rhai o'r car- charorion gan Mr Earnest Jones, bar-gyfreithiwr; eraill gan Mr Cottingham, bar-gyfreithiwr; a'r lleill gan Meistri Ward Bennett, Bremner, a Roberts, wedi cael eu penodi gan danysgrifwyr i'r drysorfa amddi- ffynol. Galwai Mr Jones sylw y fainc at y ffaitli fod y catcharorion yn cael eu dwyn ger bron y llY8 i wneud ymchwiliad rhagarweiniol i'w hachos a'u dwylaw yn rhwym mewn heiyrn, yr hyn beth na chymmerai le byth mewn brawdlysoedd, ac ni wel- odd erioed y fath beth o'r blaen. Yn 1848, pan oedd materion llawer mwy pwysig na'r rhai hyn i gael ymchwilio iddynt, ni feddyliwyd am y fath beth am foment. Gwnaeth appeliad doniol am i'r heiyrn gael eu tynu oddi arnynt, a gwnaeth cyfreithwyr y lleill ei gefnogi yn hyn. Dadleuai Mr Fowler mai nid eu gwaith hwy fel ynadon oedd ymyraeth, ond mai gwaith yr heddgeidwaid ydoedd; ac os oeddynt hwy yn barnu hyn yn angenrheidiol er eu diogelwch, yr oedd ganddynt i wneud. Yr oedd yn achos anghyffredin. Wedi hyny, aeth Mr Higgin yn mlaen yn fanwl trwy amgylchiadau yr ymosodiad, pa rai a gyhoedd- wyd genym yn y TYST diweddaf, a galwodd amryw dystion yn mlaen i brofi fod y carcharorion yn cym- meryd rhan yn attaliad y cerbyd, llofruddiad Brett, a rhyddhad Kelly a Deasey. Adnabyddid Allen, Larkin, Gould, Wilson, a Boyland, fel blaenoriaid y ,ai; 'V'stiai. amryw yn eglur iawn ddarfod iddynt weled Allen yn saethu at Brett. Ar ol i'r llys gael ei ohirio am hanner awr i gael adloniant, adnewyddodd Mr Jones y cais i gael goll- wng dwylaw y carcharorion yn rhyddion, gan fod dau o honyntyn dioddef yn drwm oddi wrth hyny. Gommeddai Mr. Fowler ganiatau, ac yna rhoddodd Mr J. ei brief i fyny, yn hytrach nag iselu ei hun fel bar-gyfreithiwr, trwy aros mewn llys He yr oedd gan yr heddgeidwaid uwch gallu na'r ynadon. Dywed- odd Mr F. wrth y carcharorion fod yn ddrwg iawn ganddo am hyn, ac ymneillduoddyr ynadon aini 20 munud i ymgynghori a Chadben Palin, a daethant i'r penderfyniad oddi ar y wybodaeth oedd yn medd- iant yr beadgeidwaid, fod yn well gwrthod y cais. Wedi hyny, aed yn mlaen gyda'r tystioJaethau, a gohiriwydyr achos yn fuan ar ol chwech hyd dran- oeth. Cyflwynwyd y carcharorion i ofal y Cadfridog John Garyoch, yr hwn a ymgymnaerodcl alr cyfrifol- deb o'u dwyn ger bron dranoeth- Dygwyd hwynt ger bron am ddeg o'r gloch boreu dydd Gwener, yn gyplau, c wedi en llawgyffio. Ar- holwyd amryw dystion oeddynt wedi gweled y car- charorion yn cymmeryd rhan yn attal y van. Siar- adai amryw yn benderfynol iawn àm., Allen. Goll- yngwyd WWillitm o Liverpool, yn rhydd, am nad oedd tystiolaeth digon cref i'w erbyn. Symmudwyd y 26 a gyhuddid am lofruddiaeth i'Alber Street, Police Station, a dygwyd mintai arall ger. bron. Gollyngwyd 11 o honynt yn rhyddion, gan nad oedd digon i'w herbyn i'w cadw yn rhwym. Aed yn mlaen gyda'r tystiolaethau dydd Sadwrn. Gollyngwyd 4 yn rhydd, ond dygid tystiolaethau peIlach yn erbyn Allen.
--MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. Ysgoldy Bi-ytanaidd.—Diwrnod mawr yn Merthyr oedd dydd Llun, Medi again—diwrnod tea party yr Ysgoldy Brytanaidd. Yr oedd pob peth yn nglyn a'r wyl hon ar scale fawr. Mae yr ysgoldy ei hun yn fawr, digon i gynnwys 1,000 o blant. Y draul yn fawr, 3,500p. Yr haelioni yn fawr-Messrs. Davies, Williams, a Phillips, Penydaren, wedi rhoddi y tir am ddim ac am byth—erw o fesur, a gwerth 600p. Y cydweithrediad yn fawr, dim end rhyw 700p. heb eu haddaw, er nad oes ond ychydig o fisoedd er pan ddechreuwyd casglu. A thyma monster tea party na welwyd erioed ei gyffelyb yn Merthyr, os yn rhywle arall. Anfonwyd allan 10,000 o docynau, swllt yr un. Cyfrifir fod o leiaf 5,000 wedi yfed te yn y Drill Hall prydnawn dydd Llun. Cauodd holl fasnachwyr Merthyr a Dowlais eu siopau am 2 o'r gloch. Cyn- haliwyd chwech o gyngherddau yn y gwahanol gapelau, er mwyn rhoddi cyfleusdra i'r yfwyr te i orphen y dydd yn adeiladol a difyr. Yr oedd y tocyn swllt yn rhoddi trwydded i'r te ac i un o'r cyngherddau. Os dewisai rhywun (ac fe ddewisodd llawer) fyned i ychwaneg o'r cyngherddau, nid oedd ond tair ceiniog i dalu. Ni welwyd y fath gyffro yn Merthyr o'r blaen, ond ar amser yr etholiad. Gall- esid meddwl fod pawb wedi troi allan i dalu gwar- ogaeth i'r ysgoldy newydd. Y Drill Hall yn llawn o ddynion yn yfed te, yr heolydd yn llawnion o gyn- niweirwyr, a'r capelau mawrion yn Ilawnion o wran- dawyr a chantorion. Os nad oedd peth fel hyn yn fawr, bydd yn orchest i un dewin i ddyweyd beth sydd yn fawr yn y byd bach hwn. Hyderwn y bydd y cynnyrch yn swm mawr, er galluogi y Pwyll- gor i agor yr ysgoldy yn rhydd o ddyled. Y mae y dref, ac yn neillduol Ymneillduwyr y dref yn ddy- ledus i'r boneddigion Davies, Williams, a Phillips, am y mudiad hwn, o blegid nid yw yn debyg y gall- esid; am lawer o flynyddoedd, os byth, gael tir cyfleus i adeiIaduysgoldy, oni buasai iddynt hwy brynu yr hen dip o bwrpas, er mwyn ei roddi at yr amean hwn. Pan ddaw yr ysgoldy yn barod, yr ydym yn gobeithio y gwna Ymneillduwyr Merthyr ddaagos en hymneillduaeth, a dangos eu bod yn gallu gwerth- fawrogi haelioni dynion o fath y boneddigion hyn. Credwn y bydd gweled yr ysgoldy wedi ei lanw o blant gweithwyr Merthyr a'r cylchoedd, yn ddigon o dal iddynt am eu haelioni a'u llafur diflin gydag Ymneillduaeth yn y dref.-Gohebydd.
[No title]
Y mae yn gas genyf fi glywed rhai yn siarad yn nghefn un,' meddai yr yspeiliwr pan yr oedd yr heddgeidwaid yn gwaeddi Daliweh y Heidr:
, f3twy44iøu ytttttnuot. *'""'''"'!
f3twy44iøu ytttttnuot. CYFARFOD MELIN-Ylt-HAWD, GER ABERTAWE. Mae yn dda genym hysbyfi fod y cyfarfod uchod wedi m-ued yn mlaen yn llwyddianus. Dydd Iau, Medi 26, cawsom gyfarfod ardderchog dan lywydd- iaeth Mr B. H. Lot, pryd y eawsom anerchiad taraw- iadol ieiwn ganddo, ar Oriau hamddenol y gweith- wyr.' Yn nesaf, cafwyd glee gan y Glee Party, dan arweiruad Mr J. Hawes (Alaw Glan Tawe). Wedi hyny, .cafwyd englynion gan Mr W. N. Stephens i'r llywydd. Yn nesaf. cafwyd anerchiad gan Mr. T. Harris; Mae yn dda genym ddyweyd am Mr. Har- ris, er mai Gwyddel ydyw o un ochr, y mae yn gwoithio o blaid y cyfarfod hwn fel Cymro twymn- gal on a'i arwyddair yw, Gwnawn ddaioni i bawb.' Wedi hyny, eafwyd deuawd gan Mr T. Davies, a Mr J. Bowers. Yn nesaf, cafwyd araeth fer gan Mr P. Lot ar Gydweithrediad.' Wedi hyny, aed yn mlaen a phrif waith y cyfarfod am y dydd hwn, sefanrhegu Mr B. H. Lot ag amryw lyfrau gwerthfawr ar ei yrhadawiad i gymmeryd arolygiaeth y gwaith uchaf ger Treforis. Wedi hyny, darllenwyd englynion o ffarwel i Mr Lot gan R. Allen (Rhydderch Moelwyn). Acymadawodd pawb mewn teimladau hiraethlon.— Zachariali Jenkins. ABE ItTEIFI.-Cynhaliwyd cyngherdd mawreddog vn y lie uchod nos Fercher, Medi 2\ gan Llew Llwyfo, Miss Lewis, a Meistri Ap Madoc a Rees, o Gaerfyrddin. 0 herwydd y rhybudd byr, nid oedd cynnulleidfa luosog, ond bu canu da o'r dechreu i'w ddiwedd. DISRAELI A DERBY.—Un o'r dyddiau nesaf dis- gwylir y bydd i Mr Disraeli dalu ymweliad ag Ar- glwydd Derby yn Know ley Hall. Y mae sibrwd ar led y bydd i'w arglwyddiaeth roddi ei swydd o brif weinidog i fyny yn faan, oblegid afiechyd. Digon tebyg fod rhywbeth a wnelo hyn ag ymweliad Mr Disraeli. CILCENIN, CEREDIGION.—Rhwng unarddeg a deu- ddeg o'r gloch nos Lun, 23ain cynfisol, canfyddwyd fod tas wair, gerllaw y felin, eiddo Mr Jones, Cefn- gaer, ar dan, rhedwyd yno ar frys, a rhoddwyd si allan, fel y daeth ugeiniau o bobl yn nghyd, a phawb o honynt yn cario dwfr ar ei eithaf, er mwyn rhoddi attalfa ar y tan i gymmeryd gafael ar y tai oedd ger- llaw. Gyda'r holl ymdrech llwyddwyd o'r diwedd i'w ddiffodd, yr oedd y llechau ar ben y ty annedd yn gochion gan wres. Oni buasai fod rhyw bersonau yn dygwydd bod heb fyned i'w gwelyau yn hwyrach nag arferol, a'i ganfod, mae yn dra thebyg y buasai holl dai y felin ar dan, ac wyth neu naw o fodau dynol gwedi myned yn ysglyfaeth i'r tan. Nid oes genym un lie i gyfrif am y peth, ond ei fod wedi ei roddi yn fwriadol gan ryw berson neu bersonau cen- figenllyd a maleisus. Gallem feddwl mai Mr a Mrs Jones, Cefngaer, fyddai y rhai olaf i neb eu drygu yn y gymmydogaeth, maent y rhai mwyaf parchus y gellid byth eu hadwaen. —Gohebydd. TREFRIW.—Dydd Sadwrn, Medi 28, mwynhaodd ysgolion Annibynol y lie uchod wledd o de a bara brith wrth lyn Crafnant. Hanner dydd daeth am- ryw o'r plant a'r athrawon a'r athrawesau yn nghyd i'r capel, a chanasant amryw donau i aros eu gilydd i mewn, ac erbyn un o'r gloch yr oeddynt oil wedi ymgasglu. Yr oedd tair milltir i'w cerdded cyn cael y te, ac felly cychwynodd yr orymdaith—y gweini- dog a'r arolygwr yn blaenori, ac yn cael eu dilyn gan yr ysgol bob yn ddau. Mae'r ffordd o Drefriw i'r llyh trwy ddyffryn ar lan y Ceunant, ac yn cael ei amgylchu arbob Haw gan brydferthion tlysaf natur, y ddwy ochr yn codi yn raddol, a'r bedw a'r cyll a'r detfiv yn gwisgo y llechweddau a harddweh, rhwng brigau deiliog y rhai y gwelir ffrydiau gloywon yn chwerthin ar eu gilydd wrth redeg tua'r Ceunant, a defaid a geifr a Iloi yn ymbleseru wrth wrando yr adar yn perori eu solos ar ganghenou. cauadfrig y, coed. Ar ochr y ffordd gwelem luaws o Artists yn gwneud eu goreu i baentio y golygfeydd ardderchog hyn, er mwyn myned a hwy i'w dangos i drigolion Llunaain, Lerpwl, a Manchester. Synem yn fawr weled y plant bach o ddwy flwydd oed a than hyny yn dal mor lew, ar eu taith. Cawsom weled fod gallu mawr mewn ewyllys i wneud rhyfeddodau, canys cyrhaeddasom lan y Ilyn bob un yn ei nerth ei hun. Wedi myned i ben y daith gwelem oddi- wrth y parotoadan rhagorol a sirioldeb y trigolion, mai diwrnod pwysig i Crafnant ydoedd. Yr oedd y bobl a'r anifeiliaid a'r llyn ar eu goreu yn ein croes- awu. Ar fin y llyn yr oedd y byrddau wedi eu trefnu ac ymborth wedi eu Darotoi, dwtr wedi ei ferwi, a phob peth weithian yn barod. Yr, oedd bwrdd hir wedi ei drefnu i'l plant, fel y gallent eistedd a'u hwynebau tua'r llyn. Eisteddodd triugain wrtho, a'r athrawon a'r athrawesau yn gweini arnynt, ac yn wir yr oedd yr olwg arnynt yn brydferth. Medd- yliem am lesu Grist yn porthi y dyrfa ar lan mor Galilea wrth edrych arnynt. Yr oedd byrddau eraill wedi eu gosod i rai hynach na hwy. Cyfranogodd ogant igant a hanner o'r wledd. Yr oedd ysgol Crafnant wedi cyfarfod ysgol Trefriw wrth y llyn. Wedi canu, a diolch yn wresog i drigolion yr ardal am eu caredigrwydd, dychwelwyd yn ol i'r capel. a daeth tyrfa luosog i wrando yr ysgol yn canu amryw daarnau, yr hyn a wnaethant yn ddyddorol ac effeith- 10 ,oe(i(i Mr W. Thomas, Pentrefoelas, yno yn chwareu yr Harmonium, a cbanodd amryw solos yn ei ddull doniol a thalentog. Diau y bydd y dyn ieuallc h wnyn eawog fel cerddor galluog-llwydd- iant lddo, Credwn y gwna y diwrnod a'i fwyniant les ac adfywiad i'r ysgol. Diolchwyd yn wresog i Miss Rees, Liverpool, a Miss Morris, Porthmadoc am eu caredigrwydd i'r plant. Rhag y bydd eich gofodyn gyfyng, terfynaf gan ddymuno llwyddiant i'r TysT.-Avis. DAMWAIN ANGEUOL YN ABERAMAN.—Nos Sadwrn diweddaf collodd bachgen o'r enw W. Williams, oddeutu 9 mlwydd oed, ei fywyd, yn agos i'r Neuadd Armorial, trwy.i olwyn trol fyned dros ei ben. ^EAD.—-Cyfarfod Undeb Etholiadol Protest- anaia.d. Cynhaliwyd cyfarfod brwdfrydig iawn nos Fawrth diweddaf, yn y Workmen's Hall, i gefnogi y mudiad i gael aelodau seneddol hollol Brotestanaidd. Yr Oedd Lientenant-Colonel Brockman, llywydd yr Undeb,, yn bresenol, a rhoddodd eglurhad o natur a mawredd y gwaith. Ymrestrodd amryw yn aelodau ar y diwedd. DYN WEDI EI WENWYNO WRTH GNOI TYBACCO.— Cynhaliwyd trengholiad yn Stoke-on-Trent ddydd Uun, ar gorph Mr Edward Sneyd, 29ain oed, grocer, yr hwn a fu farw dan yr amgylchiadau canlynol. Yr oedd yn nghwmni dau gyfaill ddydd Iau, a galwas- ant mewn amrai dafarndas, ac oddeutu chwech o'r gloch y prydnawn dechreuodd un o honynt smocio. Yr oedd Sneyd yn arfer cnoi tybacco, a rhoddodd yn ei enau y rhan fwyaf o banner owns. Dywedwyd wrtho am ei dynu allan, ond gommecldodd, ac aeth yn mhen ychydig funudau yn ddideimlad. Syrthiodd i lawr yn ddisymmwth, ac ymddengys iddo lyncu rhan o hono. Anfonwyd am dri o feddygon, yn un- ion pan ei gwelwyd mewn perygl, ond er pob ym- drech i'w achub, bu farw boreu Sabbath. Dychwel- wyd rheithfarn yn ol y ffeithiau uchod. CYNNljLprDFAOLWYE YN MASSACHUSETTS.— Rhif yr eglwysi Cynnulleidfaol yn Massachusetts yw 490, gyda 77,833 o aelodau. Y mae yno 205 o eglwysi gyda g'weinidogion, 114 gyda rhai achlysurol, ac 87 yn weigion. Ychwanegwyd yn ystod y flwyddyn ,IVY 4 644 o aelodau, a cliafwycl 3,575 o ennill cyflawn. MYGIAD DAU o DDYNION.-Bore Mercher, caf- wyd fod dau o Blackburn, enwau y rhai oedd Jansc. Holden ac Adam Sharpies, yn feirw o dan lwyth o wair mewn ysgubor yn Chorley, Buont yn yfed r noson o'r blaen gyda dyn ieuanc oedd yn aros yn y fferm, ond gadawodd ef y dynion a dychwelodd gar- tref. Aeth y lleill i'p ysgubor a chysgasant ar 1 wy th o wair, yr hwn a drodd pan oeddynt yu cysgtr, gan gladdu y trueiniaid dano. CONWY. Darlith.—Traddodwyd darlith nos lata, y 19eg cynfisol, yn nghapel y Trefnyddion calfin- aidd yn y lie uchod, gan y Parchedig William Rees, 2 J ar y testyn, Y Pryt yn Dysga Dyn. Yr oedd yn dda dyddorol, ac pn llawn o addysg trwyddi, oil; ond gresyn na buasai yno ychwaneg yn ei- gwrandaw. Pa le yr oedd y diffyg nis gwyddom, os. nad yn y rhai oedd yn blaenori o un tu, a phobl y dref o rtuvarall; sef diffyg rhoddi cyhoeddusrwydii 1 J J ^^ydd yn y rhai blaenaf, a marw- eidd-dra a diffyg chwaeth yn y rhai olaf Yr ydym yn credu fod pawb oedd yn y lie wedi derhyn gwerth* eu hanan, a mwy, os gwnant ddefnydd o'r hyn a, glywsant, ac os byth y ceir y fath gyfleusdra eto yr wyf yn gobeithio y byth y cyfeillion yn fwy awyddug i ohebu, annog, a chyhoeddi, os bydd galw arnynt i hyny. AMWYTHIG.—Nos Fercher, Medi 18. daeth tyrfa luosog a pharchns yn nghyd i'r Tabernacl i wrando y Parch. S. Roberts, gynt o Lanbrynmair yn tra- ddodi araeth Saesneg ar America. Amlyewyd yr astudnvydd a'r brwdfrydedd mwyaf trwy ystod y cyfarfod. Yr oedd y teimlad wedi codi i'r fath radd fel y gwaeddid allan fwy nag unwaith, Go on! go on! go on! pan oedd yr areithiwr ar roddi i fy-ny. Tyst- iai amryw a glywsant Mr Roberts lawer o weithiau o'r blaen, na chlywsant ef erioed mor humorous ac effeithiol. Yr oedd yn bresenol nifer mawr o weini- dogion o bob enwad. Yn niwedd y cyfarfod talwyd y diolchgarwch gwresocaf i Mr Roberts am ei araeth- ragorol a'i ymweliad a'r Amwythig. Prydnawn y dydd canlynol, cynhaliodd eglwys y Tabernacl ei chyfarfod diolchgarweh am y cynhauaf. Yr hwyr yr un dydd cawsom bregeth bwrpaaol gan y Parch. S. Roberts. CASNEWYDD-AR-WYSG.-Y Barracks.—Mae y lie hwn wedi bod yn amddifad o filwyr am yr wyth mlynedd diweddaf, ond mae yn debyg na fydd iddo fod lawer yn hwy. Mae y swn ar hyd y dref a'r cylchoedd fod catrawd o'r 21ain i gymmeryd medd- iant ohoni yn union, ac y mae sail gref i'r chwedJ. Yn gyntaf, o herwydd fod arolygwr yr ysgol sydd yn cael ei chynnal yn y lie yn bresenol wedi cael rhy- budd i symmud oddiyno. Hefyd mae y newydd wedi ein cyrhaedd yn ddiweddar fod nifer o swydd- ogion a darparwyr yr ail gatrawd i ddyfod yma gyda'r tren diweddaf, sef y24ain cynfisol. Y mil- wyr diweddaf a fu yn presenoli eu hunain yn y lle uchod oedd yr 21ain, pa rai a ymadawsant am Alder- shot Awst 19, 1859.-Y Glafdy newydd.—Da genyf hysbysu fod y lie defnyddiol hwn yn myned yn > mhen gyda brys o dan lywyddiaeth Mri Griffiths a- Thomas. Mae yn cael ei adeiladu yn y fath ddull ag i wahanu y cleifion oddiwrth en gilydd, Ymddengys ar ol ei orphen yn un o'r adeiladau prydferthaf yn yr ardal. Llwyddiant i bob gwaith da i fyned yn mlaen. G. G. M. LLANIDLOES.—Nos Fawrth diweddaf, Medi 24ain talodd y Parch. Samuel Roberts, M.A., gynt o Lan- brynmair, ymweliad a'n tref. Yr oedd yma ddys- gwyliad mawr am dano gan bawb. Rhoddodd y gwahanol enwadau yn y dref eu moddion i fyny yn, y gwahanol gapeli fel arwydd o barch i Mr Roberts, ac or cael cyfle i weled a chlywed eu hen gyfaill un- waith yn chwaneg. Am 7 o'r gloch, yr oedd capel* yr Annibynwyr yn orlawn, a dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. J. Edwards, (B). Llywyddwyd gan y Parch. D. Rowlands, M.A., g-weinidog y T.C. Yna; traddododd Mr Roberts ddarlith ragorol ar Ei ad- gofion o'r America ac o Gymru.' Yr oedd y gwran- dawiad yn hynod o astud o'r dechreu i'r diwedd. Cynnygiwyd pleidlais o ddiolehgarwch i Mr Roberts gan y Ptrch. R. Jones, yr hwn a gefnogwyd yn wresog iawn gan T. F. Roberts, Ysw., un o flaenor- iaid y Methodistiaid, ac yr oedd pawb wrth ymadael yn ymddangos wedi eu cyflawn foddloni. Ar ddiwedd y cyfai-fod daeth amryw o'r gwahanol enwadau at y Parch. R. Jones i ofyn a gaent hwy gyfle i gyfranu •. ychydig at dysteb S. R., ac os caent y teimlent yn ddiolchgar.—Gyfaill.
Iftwgddiott Q¡jrtf!f44n1.
ftwgddiott Q¡jrtf!f44n1. WREXHAM.—Dydd Sabbath diweddaf, Medi 29ain, agorwyd addoldy newydd gan y Trefnyddion Calvin- aiddyn y dref hon. Y mae yn adeilad eang ac ys- gafn iawn, ac yn un o'r capeli harddaf yn y dref. Fe gyst dros 4000p., a chynnwysa eisteddleoedd i oddeutu 900 o bersonau. Pregethwyd Sabbath y boreu, am 10, gan y Parch. Lewis Edwards, D.D., Bala; a'r hwyr, am 6, gan y Parchn. David Charles, B.A., a Lewis Edwards. Nos Lun, am 6, gan y Parchn. R. Roberts, Carneddi, ac Owen Thomas, Liverpool. Cynnaliwyd hefyd dair oedfa dydd' Mawrth, pryd y pregethodd amryw weinidogion mewn ychwanegiad at y rhai uchod. Pregethwyd yn yr iaith Seisnig, Sabbath prydnawn, gan y Parch. D. Chailes, a nos Fercher gan y Parch. T. C. Ed- wards. Gofynwyd ewyllys dda y gynnulleidfa ar ddiwedd pob oedfa, er dileu peth o'r ddyled., Gobeithio y dilynir y cyfarfod a llawer o ddaioni, Gellir ysgrifenu ar wyneb-lech yr addoldy hwn,— Nid oes yma ond ty i Dduw, a dyma borth y nef- oedd;' ac hyderwn y bydd pregethiad yr efengyl yn y lie hwn yn foddion i ddwyn pechaduriaid lawer o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw. —Llanerchfab. PENISA'R IVAEN. Yu ddiweddar, traddododd1 Rahel o Fon gyfres o ddarlithiau ar I Anffyddiaeth,' Y Gwaed,' I Rhal-loroldeb y Beibl,' a I Dir-,vest,y tair gyntf yn Bosra, a'r olaf yn y Glasgoed. Deallwn ei bod yn boblogaidd anarferol." PENTIR. Nos Sadwrn a dydd Sul diweddaf, cyn- naliodd yr Annibynwyr eu cyfarfod blynyddol yn y lie uchod. Pregethwyd gan y Parchn. Roberts, Caernarfon; Rowlands, Henryd; Hughes, Gwalch- mai; Griffiths, Amana; a Johns, Ebenezer. YSTALYJFERA.—Yrwythnos ddiweddaf ymwelodcl y bardd enwog Hwfa Mon a ni yma. Darlithiodd ar Lafur i gynnulleidfa luosog yn y Wern nos Fercher, yr hybarch P. Griffiths, Alltwen, yn y gadair. LLANARTH.—Cynhaliwyd ffair Hydref yn y lie uchod ddydd Llun, y 23ain cynfisol. Yr oedd yno dyrfa luosog o brynwyr a gwerthwyr. Yr oedd da, a moch yn gwerthu yn gampus ac am brisiau uchel. -Gohebydd. BRYMBO.—Cynnaliodd yr Annibynwyr eu cyfarfod blynyddol yn y He hwn ar y dyddiau Sul a Llun, yr 22ain a'r 23ain o Medi, pryd y pregethwyd gan y gweinidogion canlynolY Parchn. W. Jenkins Pentre-estyll; E. Evans, Llangollen; J. Jones' Wrexham; ac E. Roberts, Coedpoeth. Cafwyd cyn- nulleidfaoedd Iluosog, gwrandawiad astud, a phre- gethau grymus. Hefyd, yn yr un lie, traddododd Mr Jenkins ei ddarlith ar Rhyfeddodau'r Duwdod.' Afreidiol yw dyweyd dim am y darllthiwr, oblegid mae ei enw yn adnabyddus trwy holl Gymru. Elid i mewn trwy docynau swllt yr uti yr elw i dalu am y tir claddu.—Jabes.
DAMWAIN, ANGEUOL YN BROAD…
ihybir i Mrs Green fyned yn mlaen ar hyd y rodfa (platform), yr hwn sydd yn hynod gul, a thywyll iawn, i fod yn barod i fyned i mewn i gerbyd. Ym- ddengys ei bod yn analluog i weled yr ym-yl, ac iddi syrthio ar y lineU yn union o flaen luggage train cyf- lym oedd yh dod. Gwelodd Mr Green ei wraig yn syrthio a cheisiodd ei chodi yn ol, ond syrthiodd yntau hefyd trosodd, a lladdwyd y ddau. Nid oedd- ynt wedi bod yn briod ond rhyw dri mis.