Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
-. AGORIAD 'ALBERT HOUSE,'…
AGORIAD 'ALBERT HOUSE,' BIRKENHEAD. Dymunem alw sylw ein cydwladwyr at agoriad y slop ysplenydd hon. Dylai y Cymry fod yn falch o honi. I Cymro, sef Mr Richard Owen, a'i cynlluniodd; a Chymry gan mwyfaf oedd y gwaithwyr a'i cododd Cymro, sef Mr D. Jones, yw y perchenog a Chymrc eto o yspryd gwir anturiaethus sydd yn ei chadw. Brave y Cymry. Er nad agorwyd hi hyd un o'r gloch ddydd Sadwrn bll yno 499 o gwsmeriaid ey-n ei chau y noson hono. Enom drwyddi yn fanwl heddyw. Y mae yn 81 troedfedd o hyd, yn cyrhaedd o un heol i'r llall, ac y mae ei holl drefniadau yn fwy business like na'r un sioij arall yn y dref. Anogem forwynion Cymreig yn neill. duol i fyned yno i brynu. Cafodd llawer o honynt eu twyllo ar eu dyfodiad cyntaf i Loegr, wrth fyned i siopau Seisoneg, trwy eu bod ynanghyfarwydd a'riaith; • ond yma cant eu servio yn siriol a gonest yn Gymraeg. Dymunem longyfarch em eydwladwr Mr Jones, yn ei fawr lwyddiant.
CIPOLWG AR FASNACH.
CIPOLWG AR FASNACH. Cyllid y DeyrnojS;—Yr oedd dydd Llun diweddaf yn ben chwarter. Yr oedd yr holl dderbyniadau am y tri mis diweddaf yn llai o 282,358p. na'r derbyniadau yn y misoedd cyfatebol o'r flwyddyn ddiweddaf. Ond wrth gymmharu y cyfrifon am y chwe mis cyntaf o't "flwyddyn gyllidol, a'r adroddiadau am yflwyddyn 186C Yr ydym yn. cael cynnydd o 35,903p. ac os cymherir j holl flwyddyn ddiweddaf a'r flwyddyn hon, yr ydym y cael cynnydd y flwyddyn hon yn l,010,329p. Hyd y "nod yn y chwarter diweddaf y mae cynnydd yn y petha .-sydd yn dangos bywiogrwydd masnachol. Ymddeng. y cynnydd fel y canlyn-Stamps, 125,000p.; Po, Office, 40,OOOp.; Trethi, 29,000p.; Treth ar eiddo, 15, €00p. Dengys yr adroddiad fod masnach y wlad mewt -cyflwr iachus, er nad yw yn fywiog. cododd pris y ■IGWEXITH ddau swllt yn y chwarter, dynn LIdd diwedd- af, yn marchrad yd Llundain. Bernir y bydd y bara ..■yn lied uchel ei bris trwy y flwyddyn ddyfodol. Bydd hyn yn elw mawr i amaethwyr sydd yn trin llawer o dir gwenith, ond y mae yn llawer gwell i fasnach y wlad yn gyffredinol fod y bara yn rhesymol o rad. Os cyfyd y bara eto, gall amaethwyr ddisgwyl gostyngiad yn -mhrisiau yr ymenyn a'r caws a'r cig, canys os bydd holl ennillion y gweithwyr yn myned i brynu bara, nis gallant fforddio talu am bethau eraill. Parhaodd marchnad y GWLAN yn lied farwaidd yn ystod" y mis diweddaf, ac nid oes arwyddion adfywiad yn fuan—diegyn ychydig y mae y prisiau. Dywedir fod marchnad y meteloedd yn edrych i fyny. Bydd galwad yn fuan am ychwaneg o gledrau, ac ym. ddengys fod y gwaith o adeiladu llongau haiarn yn ym. • adfywio. Anfonwyd llawer ychwaneg o haiarn allan o borthladd Liverpool yn ystod y mis diweddaf, nag yn y -flwyddyn 1866. Mae yr adroddiadau diweddaf yn ga- lonog, o Gymru, a Yorkshire, a Scotland, ond yn ddi- .galon o Staffordshire. Mae marchnad y TIN wedi bod yn fywiog er's cryn ,aymmhor-iiid oes un o'r meteloedd wedi bod mor Tlewyrchus er,s blynyddoedd beilach, a'r Tin. Gwa- lianol iawn ydyw hanes marchnad y copit.-Cyclgyfer- fydd lluawa o bethau yn ddiweddar i effeithio yn an- ffafriol ar y farchnad-mae y French yn ymatal rhag 2>rynu, y galwad o'r Dwyrain yn llai, a'r cyflenwad o -Chili yn fwy nag a ddisgwyliasid.
MANCHESTER.
MANCHESTER. Y Ffeniaid-Dyna sydd yn tynu sylw pawb a phob rpeth yma yn bresenol. ond fel pob peth arall, fel ac y ,.maae yn heneiddio, y mae llai o sylw yn cael ei wneud "■o'r peth. Y Boundary Commissimers.-Fe fu y gwyr hyn yn eistedd yn Parlwr y Maer,' yr hon sydd ystafell gyf- leus yn ein Town Hall, ddydd Sadwqn, i wrando beth oedd gan fawrion ein dinas, dros neu yn erbyn, i estyn terfynan ein dinas. Ac y mae y pwnc wedi ei ohirio, diel y gellir cadw cyfarfodydd yn mhob rhandir, ex ■ ,-inwyn deall meddwl y trigolion yn drwyadl ar y pwnc. Eglwys Annibynol Booth Street. Y mae'r iiglwys iiWeithgar uchod wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch D John, o Landdeurant, Mon, i ddyfod i'w 'bugeilio --yn yr Arglwydd ac y mae yntau wedi ei hatab yn gadarnhaol, ac y mae yn bwriadu, os Duw a'i myn,' i -ddechreu ar ei weinidogaeth y Sabbath cyntaf o'r flwyddyn newydd. Bydded ei ddyfodiad yn fendith i'r -eglwys, a'r ddinas yn gyflredinol, a gobeithio y tyr y wawr ar achos Annibyniaeth yn ein dinas, a bod ..Uwyddiant yn mlaen llaw.—J.E.R.
LLUNDAIN.
LLUNDAIN. "Tn y rhifyn diweddaf, o dan y penawd uchod, yr oedd ychydig o hanes cyngerddau mawrion yr Agri- cultural Hall. Y mae hanes yr Hall hon a'i chy- s-ngerddau am yr wythnoeau diweddaf yn ddangosiad -.liynod o ryfedd droelliadau y wheel of fortune, ac nad ydyw bob amser yn troi yr un ffordd, er arfer yr un imoddion er dwyn hyny oddiamgylch. Dyna Julien, er engraifft, (a phwy sydd heb wybod am ei enw ?) fu yn ceisio ennill bywioliaeth trwy gynnal cyngerddau yn Llundain a gwahanol fanau o'r wlad, wedi blynydd- ,au maith o lafur caled a phryder dwys, aeth mewn gofid i fedd yn ddigon gwaelei amgylchiadau. Mellon 'drachefn, enw yr hwn oedd bron yn household word i(gan gantorion beth bynag), gan mor amled ac amlwg ydoedd ar barwydydd y brif ddinas yn ystod tymorau y gauaf, yn hyspysu y shilling concerts yn Covent • Garden a manau eraill,-bu ef y tymor diweddaf cyn ei farwolaeth yn ei golled trwyddynt o dros 4,000p. Daeth Defries (Iuddew) yn mlaen, wedi dyfod o hyd, feddyliwn, i'r secret spring; cymmerodd yr Agricultur- al Hall ar ardreth tua diwedd Gorphenaf diweddaf am iyid maith o amser, a phenderfynodd gynal cy- ngerddau mawroddog. Yr oedd dylifiad pobloedd lawer yno bob nos, ac er maint y lie yr oedd yn llawn. O'r amser a enwyd hyd ddydd Sadwrn diweddaf, dy- wedir ei fod wedi ennill iddo ei hun rywbeth fel 20,000p. Gwynfydnafyddai modd i ni ddod o hyd i'r dirgelwch, onide ? wrth gynnal cyfarfodydd i ddileu <Jyledion ein capelau; ond mae arnaf ofn fod y secret spring yna fe'l y philosophers stone yn anhawdd iawn dod o hyd iddo. Dealler mai yr Hall yma ydyw y man lie y bu y Reform League yn Gynnal eu cyfarfodydd wedi iddynt wastadhau railings Hyde Park, ac yma y bu Spurgeon yn pregethu yn ddiweddar, pryd yr oedd oddeutu 22,000 yn gwrando arno; a dyma'r fan He y cynneliry 1Cattle Show bob blwyddyn,—i hyn yr adeiladwyd y lie yn fwyaf neillduol; ond cofier mai nid yr un diwyg sydd arno yn awr. Penodwyd Defries i addumo y lie erbyn y Qrand Reception Ball hono i'r Belgiaid pan oeddynt yma ar ymweliad a ni, a gwnaeth hyny yn odidog ragorol; a chyn tynu y decorations i lawr pen-1 derfynodd ardrethu y lie, fel ysylwasom o'r blaen., Os jbuost, ddarllenydd, yn y fan a'r lie pan yn ei sefyllfa gyntefig, pan ydoedd y mochyn, y ddafad, a'r eidioi^ yno yn teyrnasu; pe buasit yn myned yno yn awr, heb glywed dim am y trawsnewidiad, 'rwy'n siwr y dechreu- asit ''rwbio dy lygaid, ac y buasai yn anhawdd dy ber- awadio nad rhyw magic delusion trwy ryw sleiglMi of ihand neu gilydd ydoedd y cwbl. Mae y cyfnewidiad yn anhygoel bron; braidd y coeliasid y gallesid wneud ystafell nad oedd amgen na bendy yr anifail mewn mor •jueied o amser yn un o'r lleoedd harddaf yn Llundain. Amser a ballai i mi fyned i son am y central chandelier, yr hwn sydd yn mesur 32 o droedfeddji o nghder a 16 o droedfeddi o drawsfesur; am y degau crystal chande- liers ereill, y banerau crogedig, y festoons amryliw, y idais ardderchog, y canopy ysblenydd, y delwau mar-, mor sydd rhwng dail bytholwyrdd, nac am yr illu/nvi- 'yiated fountain sydd wedi tynu cymaint o sylw; mewn .;ga;ir, mae y cattle shed wedi ei droi yn fairy palace rewn gwirionedd. UN FU YNO.
DALIAU TRI 0 FFENJAID HYNOD…
DALIAU TRI 0 FFENJAID HYNOD YN LIVERPOOL. Pan y rhyddhawyd Kelly a Deasy, rhoddwyd ai adeall i'r awdurdodau yn y dref hon, fod amryw o'r Thai a gyunmerasant ran yn eu rhyddhau, wedi gwneuc fFordd, yma. Prydnawn dydd Mawrth diweddaf, -cyrhaeddodd hysbysiaeth i Msijor Greig, a*Mr Keliol, ifod amryw o honynt wedi cael eu gweled yn y gym- mydogaetli lie yr ymgynnullant yn gyffredin. Rbodd- wyd swyddogion i'w gwylio, a chadwasant olwg arnynt. Anfonwyd cynnifer o heddgeidwaid ag a ellid hebgor i'w dal. Pan oedd y Ffeniaid yn yr Old Hay Market, cylcbynwyd hwynt gan yr heddgeidwaid, a cliolerwyd tri o honynt gan detectives. Cymmerodd dau qj honynt eu dal yn hollol dawel, ond gwnaeth y trydydd y mdrech galed i ddianc yn ffodus, yr oedd y swyddog yr. llawer cryfach nag ef. Ymgasglodd llu mawr o ddeuti, ac y mae yn debygol y buasid yn ceisio eu rhyddhau, qui b'ai fod y swyddogion wedi arfer pob gofal i barotoi, erbyn yr amgylchiad. Parodd gynhwrf mawr trwy y dref. Enwau y carcharorion ydynt Daniel Reddin, pla,strwr John 0' Donnell Stanehan, :saer; a Joseph Keeley, paentiwr. Anfonwyd y tri gyda'r tren yn ngofal. digon o swyddogion i Manchester, yr un noson. Bernir mai un o honynt a saethodd geffyl y van.
CYFARFOD MAWR 0 GYDYMDEIMLAD…
CYFARFOD MAWR 0 GYDYMDEIMLAD A GARIBALDI YN LLUNDAIN. Cynnaliwyd cyfarfod o gydymdeimlad a Garibaldi, yn St. James' Hall, nos Fawrth, ac yr oedd y lie yn or- lawn, a'r holl gynnulleidfa yn hynod frwdfrydig. Cym-, merwyd y gadair gan Mr Beales, yr hwn a sylwai fod gan bob gwlad hawl i ddewis y ffurf-lywodraeth a rynai, ac felly bod gan y Rhufeiniaid hawl i ymryddhau oddi- wrth ormes y Babaeth. Yr oedd dal Garibaldi ar yr adeg ac yn y dull y gwnaed, yn weithred hollol an- nghyfreithlon. Y mae yn wir nad oedd sefyllfa Gari- baldi mor bwysig a phan y cymmerwyd y mater i fyny gan y Cyngrair Diwygiadol, trwy ei fod wedi ei rydd- hau o Alessandria, ac wedi dychwelyd i'w gartref yn Caprera. Eto yr oedd y gwarth o'i ddal yn glynu er y cwbl wrth Lywodraeth Itali. (Cymmeradwyaeth uchel.) Ni ddylid annghofio fod yr un a ddaliwyd yn fost, go- goniant, ac anrhydedd Itali, yr hwn sydd wedi gwneud y wlad hono yn anrhydeddus trwy y byd, trwy ei ym- drechion gwrolfrydig ac anhunangar-yr hwn a rydd- haodd Sicily a Naples oddiwrth ormes greulon y Bour- boniaid, ac a adawodcl y gwledydd hyn i Victor Em- manuel i'w llywodraethu, gan ddychwelyd yn ol i Caprera heb prin ddigon o arian i dalu ei dreuliau. Gofynai paham y gwnaed y weithred anfad ac annghyf- reithlon o ddal un o'r fath nodwedd? Un ag oedd yn ddinesydd Rhufeinig mabwysiedig, ac un a fu yn ben- naeth dewisedig y Rhufeiniaid yn 1849, ac oedd yn myned yn awr i'w cynnorthwyo i daflu ymaitli iaa orthryinus y Babaeth, a thrwy hyny i gadarnhau Itali, trwy ennill Rhufain i fod ei phrif ddinas. Os gall y llywodraeth Babaidd barhau yn Rhufain trwy gydsyn- iad ewyllysgar trigolion Rhufain, bydded iddi barhau; ond os nad ellir ei chadw yno heb archiadau llywodr- aethau tramor, ac heb gynnorthwy bidogau tramor, yn groes i ewyllys y bobl eu hunain, yna ymaith a hi— ymaith a hi am byth. (Uchel gymmeradwyaeth.) Cynnygiwyd annerchiad o gydymdeimlad a Garibaldi, a chymmeradwywyd hi yn y modd mwyaf gwresog. Galwodd y cadeirydd ar Ricciotti Garibaldi (mab ieuengaf y gwron) i annerch y cyfarfod. Cafodd ei groesawu drachefn a thrachefn a tharanau o gymmer- adwyaeth. Siaradai Seisoneg yn hynod rwydd. Dy- wedai fod heddyw yn gylchwyl y frwydr hono a sicrha- odd undeb a rhyddid i dywysogaethau deheuol Itali, ac a roddodd i Victor Emmanuel y gem disgleiriaf yn ei goron, sef brwydr Volturno. Ennillwyd y frwydr hono trwy gymhorth y Seison, fel y clywodd ei dad yn dyweyd yn fynych. Ni buasai byth wedi llwyddo yn 1860, ond trwy gymhorth y Seisen. Dywedai fod heno yn un o'r nosweithiau hyfrytaf yn ei oes, trwy eu bod wedi ymddiried yr annerchiad iddo i'w chyflwyno i'w dad. Gwyddai na roddai dim fwy o hyfrydwch i'w dad. Ymadawyd wedi rhoi y diolchgarwch arferol i'r cadeirydd.
WYDDGRUG.
WYDDGRUG. Pregeth Angladdol Mr. W. Rowlands. Gwerth£awr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef,' a gwerthfawr iawn hefyd gan deulu y ddaear yw cofFadwr- iaeth y rhai a hunasant yn yr Iesu. Yr oedd y eyfaill a'r bardd hwn yn un o ragorolion y ddaear, ac yn gwas- garu arogl persawrus yn mhob cylch a ehymdeith- as y byddai yn troi ynddi, ac mewn canlyniad bydd ei goffadwriaeth yn fendigedig, ac yn arosol ar feddyliau lluaws o'i gyfeillion a'i berthynasau hoff ac anwyl, pa rai sydd mewn galar a thristyd dwys ar ei ol. Fel ag y mae yn arferol, a chyda phriodoldeb mawr hefyd, traddodwyd pregeth angladdol iddo nos Sabbath di- weddaf, gan y Parch. J. M. Thomas, oddi ar loan xi. 11, 'Y mae em eyfaill Lazarus yn huno,' &c. Yr oedd y bregeth yn un o'r rhai mwyaf cymhwysiadol a glyw- som erioed ar y cyfryw amgylchiad. ac yn cynnwys sylwadau hollol newydd, gwerth eu cofio, a chnoi ein cil arnynt. Oni b'ai ein bod yn disgwyl cael ychydig o fywgraphiaeth i'n brawd ymadawedig yn y Dysgedydd, yn nghyd a phigion o'r bregeth a draddodwyd, buasem yn rhoddi cais am i'r bregeth ei hun gael ymddangos ynddo, o blegid y mae yn haeddu gwneuthur o honom hyn iddo mewn ffordd o goffadwriaeth, fel y dywed y Sais- i The sweet remembrance of the just, Will ever flow when he is in dust.' Ac yr ydym yn credu hefyd, yn ol yr adnabyddiaeth a gawsom o'n brawd hwn, y bydd yntau yr un modd. Y Farchnad.-Cynhelir y farchnad hon er gwerthiant gwartheg, ceffylau, defaid, geifr, a moch, ddydd Mer- eher nesaf, Hydref 9fed. Gellir dwyn gwartheg gyda, market license i'r farchnad hon o unrhyw le o fevra sir- oedd Trefaldwyn, Fflint, Dinbych. Meirionydd, Caer- narfon, a Mon, yn unig, ac nid o unrhyw le arall. Gellir dwyn ceffylau o unrhyw le. Rhaid cyflwyno y market license hon i Mr Robert Fanning, yr hwn sydd wedi ei awdurdodi fel swyddog gan Gwrt y Chwarter Sessiwn i dderbyn y cyfryw. Nis gellir symmud gwartheg a fyddont ar werth, neu wedi eu gwerthu i unrhyw le o'r farchnad hon, heb law gyda marketpass, pa un a roddir gan Mr Fanning, ac am ba un y codir dwy geiniog am bob anifail a fwriedir ei symmud. Nid oes angem am drwydded i symmud defaid, geifr, neu foch. Pla yr anifeiliaid sydd wedi achosi y cyfnewidiadau hyn yn y ffeiriau, ac fe allai y bydd hyn o sylw yn foddion i roddi ychydig Q eglurhad i amaethwyr ae eraill, rhag iddynt fyned ar gyfeiliorn drwy ganlyn amser yr hen ffeiriau, fel ag y mae wedi digwydd yn fynych. Rhys Meiriou.
CYMMANFA CYNNULLEIDFAOLION…
CYMMANFA CYNNULLEIDFAOLION TAL- AETH NEW YORK. Cynhaliwyd y Gymmanfa hon eleni yn yr eglwys Gynnulleidfaol ar heol Columbia, Utica, sef yr eglwys lIe y gweinydda yr hybarch James Griffiths. Daeth nifer mawr o weinidogion a chynnrychiolwyr yr eglwysi at eu gilydd am ddau o'r gloch y dydd eyn- taf, Mercher, Medi 11, i ymddiddan am wahanol bethau perthynol i achos a theyrnas y Cyfryngwr, a dechreu- odd y moddion cyhoeddus am 7 o'r gloch yn yr hwyr, pan y cyflawnwyd y rhanau arweiniol o'r gwasanaeth gan y Parch. J. R. Griffiths, Floyd, a phregethodd y Parch. John Cadwaladr, Trenton, a'r Parch. D. E. Evans (Trelech), Providence, Pa. Boreu dranoeth am 8, cyfrinach grefyddol. Am 10, dechreuwyd y moddion cyhoeddus trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. E. Davies, Waterville, a phregethodd y Parch. W. Thomas, Freedom, swydd Cattaraugus; a'r Parch. D. Jones, Richville, swydd St. Lawrence. Am 2, deekreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. Morris Roberts, Remsen, a phregethodd y Parch. J. Lewis, Rhesycae, a'r Parch. R. G. Jones, o hen eglwys Gynnulleidfaol Utica. Am 7 yr hwyr olaf, dechreuwyd gan Parch. D. E. Pritchard, Rome, a phregethodd y rirch. B. H. Williams, Nelsoa, swydd Madison, a'r Parch. Shem Phillips, o Steuben. Cafwyd cynnulleidfa luosog iawn o Gymry parchus y ddinas a'r wlad oddiamgylch i wrando yr Efcngyl yn y Gymmanfa eleni, a gobeithio y bydd effeithiau da yn ei dllyn yn yr amser a ddaw. Dangoswyd caredigrwydd mawr tuag at y dyeithriaid, cafwyd hin gysurus i fwyn- hau y moddion, a ffynai y teimladau goreu o'r dechrou i'r diwedd. Buasai y gweinidogion y dyddiau blaenorol yn Plainfield, Swydd Otsego, a chyfeirient y dydd can- lynol am Floyd, a'r wythnos hon i Remsen a Steuben. Ymddengys i ysgrifenydd hyn o nodiad, y dylasai y canu yn N ghymmanfa Utica fod yn fwy cynnulleidfaol nag ydoedd y tro hwn. Canai y cor perthynol i'r gyn- nulleidfa yn rhagorol, ond arnynt hwy y gorphwysai y baich i gyd, ac eisteddai bron pawb ond hwy mor ddi- gyfEro a phe na buasai y canu yn perthyn i neb oddi- gerth rhyw ddau ddwsin neu dri yn nghanol yr addol- dy. Nis gwyddom a oedd hyn i'w briodoli i ddyeithr- wch y tonau neu beidio, ond yn sicr nid felly y dylai pethau fod. Pob perchen anadl, molianed yr Ar- glwydd.' Hefyd, goddefed y gweinidogion i ni awgrymu nad ydynt i gadw eu 'hamenau' a'u diolchiadau' i gyd i'w cyfeillion mwyaf mynwesol, eithr eu rhoddi i eraill hefyd pan ddywedo eraill bethau yr un mor deilwng o'r amen' a'r diolch,' gan nad beth fyddo eu teimladau personol hwy tuag at eu gilydd. Y mae y gwrandawyr yn gyffredin yn sylwi ar y dull y mae y pregethwyr yn derbyn y gwirionedd fydd yn cael ei draddodi.-Drych. Hi; N" AN LO F BU DO 1 AE T H TN LLOEGU.—Y mae adrodd- iad y Cofrestrydd Cyffredinol yn rhoi rhai ystadegau hynod am gynnydd hunanlofruddiaeth yn y wlad hon. Ymddengys mai y cyfartaledd yw 67 y filiwn. Ymgrogi yw y moddion mwyaf cyffredin; dewisir ef gan 28 o'r 67 o hunanlofruddion. Cymmer boddi ac archolli oddeutu deuddeg bob un yn rhagor; gwenwyno oddeutu 7, arfau tan, 3; a chyfrifir am y lleill yn debygol yn y rhai a daflant eu hunain o dan wageni y rheilffordd, neu oddiar leoedd uchel, &c.
DAMWAIN ERCHYLL MEWN PWLL…
DAMWAIN ERCHYLL MEWN PWLL GLO. DIANGFA GYFYNG 300 0 DDYNION. Bore dydd Mawrth taflwyd cymmydogaeth Barnsley i ddychryn gan y newydd fod prif waith glo Strafford wedi tanio. Rhedodd trigolion Barnsley a'r ardal yno mewn braw, ac wedi cyrhaedd y pwll cawsant fod y dynion oedd yn dechreu gweithio wedi cael diangfa gyfyng iawn. Yr oeddynt yn gweithio yn y jenny gyntaf, tua 400 o latheni oddiwrth waelod y pwll. Syrthiodd darn mawr o'r nen, gan rhyddhau swm I mawr o nwy (gas), yr hwn ni ddarganfyddwyd yn union gan y dynion. Deallwyd am dano gyntaf gan un o'r glowyr, trwy weled ei lusern yn tanio, a chyda llawer o bresenoldeb meddwl diffoddodd amryw lusernau oedd gerllaw. Rhuthrodd y dynion i'r ochr arall i'r gwaelod, ond yr oedd y nwy mor gryf fel ag y gorchfygwyd am- ryw o honynt. bu agos i ddau golli eu bywydau, ond trwyymdrechion hunanymwadol eu cydweithwyr arbed wyd hwynt. Dangosodd y trigolion y cydymdeimlad mwyaf, a gwnaeth pawb eu goreu er achub y rhai oedd mewn perygl.
[No title]
YMGEISYDD NEWYDD ETO DR08 BRIF YSGOL LLUN- DAIK.—Y mae Dr. Wood, Mr Bagehot, a Syr John Lubbock eisoes wedi cael eu dwyn yn mlaen gan bleid- iau eithafol, tra y mae Mr Robert Lowe wedi ei gynnyg a'i gymmeradwyo gan laweroedd o bob plaid. Yn awr, yr ymgeisydd yw Mr Edwin Chadwick, C.B., yr hwn a gymmeradwyir gan lythyrau canmoliaethol i'w gym- meriad a'i allu. BRYNSIENCYN, MON.-Cyiinaliocld y Bedyddwyr yn y lie hwn eu cyfarfod blynyddol eleni ar y 25ain a'r 26ain o'r mis diweddaf. Y brodyr fu yn gwasanaethu ar yr achlysur oeddynt y Parchn. Evans, Liverpool; Jones, Rhydwyn; James, Bethesda; a James, Beau- maris. Cafwyd pob boddlonrwydd yn yr enwogion uchod, a phrofodd y cyfarfod yn un o'r rhai goreu a gynnaliwyd yma er's blynvddau. Dylanwadodd yn dda er dyrchafu enwad y Bedwyddwyr yn yr ardal. Gobeithiwn y bydd i'r had da a hauwyd gael dyfnder daear, fel y gallom ddisgwyl am ffrwyth eyfatebol yn y dyfodol. Dymunem fel eglwys yn y lie dalu diolch- garwch i'r ardalwyr twymgalon yn gyffredinol am eu caredigrwydd yn rhoddi eu presenoldeb yn nghyda'u cyfraniadau er ein cynnorthwyo yn yr achofl.-Rahel o Fori. EBENEZER EGLWYS CYMUN.—Medi 26, eynhaliwyd cyfarfod undeb ysgolion Bethlehem a'r cylch, yn Eben- ezer Eglwys Cymun, Am 10, cynnadledd o gynnrych- iolwyr a gweinidogion, derbyniwyd adroddiadau da, manwl, gan 8 o gynnrychiolwyr, o ansawdd yr ysgolion, a chan un gynnrychioles adroddiad manwl o'i hymwel- iad hithau ag ysgol yn y cylch,—campus yn wir,-par- haed a choded llawer tebyg iddi. Fe grea ymweliadau y rhyw deg ddyddordeb newydd yn yr ysgolion; cym- mhellai hi y Blychau cenhadol i sylw a defnyddioldeb yn ein hysgolion. Beth pe byddai y merched a'r gwragedd yn cymmeryd ygenhadaeth at eu sylw-faint y chwyddai y casgliadau yn fuan! Gobeithio y cym- merir sylw o'r cymhelliad yn y cylch, ac yr ennynir y tan cenhadol yn nghyfarfod dyfodol Bethlehem. Am 2, deehreuodd y Parch. W. Thomas, Whitland, a phre- gethodd y Parchn. T. Williams, Llanybri, ac A. Jen- kins, Cana. Am 6, [deehreuodd y Parch. G. Jones, Llacharn, a phregethodd y Parch. W. Thomas, Whit- land, ac E. Jones, Ffynnonbedr. Y cyntaf o bob cyf- arfod yn Saesneg, cafwyd cyfarfod da drwyddo—yn adroddiadau, pregethau, cynnulleidfa, a gwrandawiad. Bydd y eyfafod nesafyn Smyrna. YSTRADGYNLAIS.—Nos Fercher, Medi y 25ain, yn nghapel yr Annibynwyr, traddodwyd darlith ar Amer- ica, gan y Parch. T. Levi. Daeth Iliaws mawr yn nghyd cyn yr amser, ond wedi ei ddyfod yn amser cyfododd Mr Rhys Williams, Ystradgynlais, a chynnygiodd fod i Mr Rees, gweinidog y lie, i gymmeryd y gadair, ac eil- iwyd ef gan Mr John Powell, Ynys; ac wedi ychydig sylwadau gan y llywydd, galwodd ar Mr Levi at ei waith, a gallaf sicrhau i ni gael darlith faith (tair awr o hyd), addysgiadol, a rhagorol, o blegid wedi talu diolchgarwch y cyfarfod i'r darlithydd a'r llywydd, ym- adawodd pawb wedi eu llwyr foddloni. MOELTRYFAN.—Dydd Sadwrn diweddaf, ymgasglodd nifer luosog o drigolion yr ardal uchod ynghyd i wneud gwledd i'r plant, aelodau y Band of Hope,' a'r Ysgol Sul. Cafodd o ddeutu chwech ugain eu llawn ddigoni, rhwng y plant a'r rhai mewn oed. A chaed y gweddill fasgedaid yu Ilawn, yr hwn a ranwyd rhwng y rhai mwyaf anghenus yn yr ardal. Gweinyddwyd wrth y byrddau gan Mri E. Jones, G. G. Humphrey, H. Evans, T. Jones, Miss M. Jones, Tanygaer; Miss C. Hughes, Maenllwyd; Miss J. Williams, Tan'rallt: Miss J. Jones, Hafodriffith; Miss E. Griffith, Miss A. Jones, Miss E. Hughes, a Miss E. Jones. Am chwech yn yr hwyr. caed cyfarfod difyrus gan y Band of Hope,' dan lyw- yddiaeth y talentog a'r medrus Mr Hughes, Pare.-A. DIFRODIADAU Y RHYFEL AmEltICANAIDID. Cawn rhyw ddirnadaeth o nifer y bywydau a gollwyd yn y rhyfel diweddaf yn America oddiwrth y cyfrif canlynol o rhif y beddau yn y claddfeydd gwladol:—Yn Nash. ville mae 18,000 o feddau; yn Vicksburg, 15,000; yn Andersonville, 15,000; yn Memphis, 12,000; yn Chat- t £ mooga, 12,000; yn Marietta, 10,000; yn Corinth, 6,000; yn Stone River, 5,009; yn Pittsburg, 4,000; yn Savannah, 3,000; yn Knoxville, 3,000; yn Nutchez, 2,500; yn Camp Nelson, 1,500; yn Perryville, 1;200; yn Columbia, 1,200; yn Millen, 1,000; yn Lexington, 1,000; yn Mobile, 1,000; yn Lebanon, 750; yn Coring- ton, 600; yn Mill Springs, 500; yn Richmond, 500; yn Montgomery, 500; yn Danville, 400; yn Cumberland Gap, 360; ac yn London, 300. Y cyfanswm yn 108,310 o feddau. CYNNRYCHIOLAETH BRADFop.D.-Nos Lun, cynhal- iwyd cyfarfod yn Bradford, er penderfynu ar ymgeis- ydd yn lie Mr Wickham, yr hwn sydd wedi marw. Cry- bwyllwyd enwau Mr Alderman Godwin, Mr M. W. Thompson, diweddar fafer y dref Mr Ripley, llywydd y Chamber of Commerce, a Mr Edward Miall, golygydd y Nonconformist. Pan godwyd dwylaw, yr oedd y cyf- arfod agos yn unfrydol dros Mr Miall; yn ganlynol, penderfynwyd dwyn Mr Miall yn mlaen fel yr ymgeis- ydd Rhyddfrydig. Cymmer yr etholiad le yr wythnos nesaf. YR EGLWYS WYDDELIG.—BU Mr Crrvell Williams am daith yn ddiweddar trwy yr Iwerddon, ac ar ddy- muniad cyfeillion rhyddid crefyddol yn Bradford, tra- ddododd ddarlith yn y dref hono ar Yr Eglwys Wydd- elig.' Dywedai ddarfod iddo gael cyfleusdra i gym- deithasu ag esgobion ac offeiriaid yr Eglwys Babaidd yn y wlad hono, a'u bod yn lied unol yn eu penderfyn- iad i wrthed gwaddol y llywodraeth, ac yn foddlawn ymddibynu ar yr egwyddor wirfoddol. Nid oeddynt yn erbyn cyssylltu yr Eglwys a'r Llywodraeth yn yr eg- wyddor, ond gwyddent y collai yr offeiriaid Pabaidd yn yr Iwerddon eu dylanwad ar y bobl, pe y cymmerent ea gwaddoli.
m\ntt1xundoedd yr wgtuuoo.
m\ntt1xundoedd yr wgtuuoo. Bu yr hin yr wythnos ddiweddaf yn fanteisiol iawn i gwMhad y casgliad diweddaf. mae'r amser pryderus wedi pasio, ae ych- ydig o niwed wedi ei wneud ar y cnydau yd. Byddai yn dda genym ddyweud yr un modd am y pytatws, ond y mae y rhai hyn yn myned yn gyflym. Gyda golwg ar sefyllfa y march- nadoedd yn Ffrainge, Germany, a Ewssia, maent yn dra sef. ydlog am brisiau llawn ae ychydig o godiad.
MARCHNAD LLUNDAIN.
MARCHNAD LLUNDAIN. Ddydd Llun diweddaf. GWE KITH.—Darfu i'r gwenith godi dau swllt yn y chwarter heddyw. HAIDD.—Ychydig oedd y cyflenwad. Gwerthai pob math am brisiau sefydlog. BRA &.—Yr oedd y fasnach mewn brag yn araf iawn, cedwid at brisiau blaenorol. CEIRCH.—Yr oedd y ceirch braidd yn tueddu i godi, er fod y cyflenwad yn helaeth. PYS A FFA.—Yr oedd ffa yn cadw at eu prisiau blaenorol. Pys yn sefydlog am lawn brisiau. BLA WD.-NI bu un eyfnewidiad yn mbiisiau blawd cartrefol a thramor. HAD. Yr oedd hadau amaethyddol yn gwerthu yn sefydlog er fod y farchnad yn araf.
41 MARCHNAD ANIFEILIAID SMITHFIELD.
41 MARCHNAD ANIFEILIAID SMITHFIELD. Dydd Llun diweddaf. Nifer yr ho11 anifeiliaid tramor a ddaeth i Lmidain yr wyth. nos ddiweddaf oedd 15,004. a'ffirch ynTaS^ ° brynwyr oedd wedi dyfod yn nghyd fasnach yn farwaldd. b4ryn78rYifaSUa0hyafamaidd'a'rJprisiau 20 yn Jrwyth 8 p^>gI'~MarWaidd iawn 0edd y fasnach a» ostyngiad 2e. yr MOCH.—Yn gwerthu yn araf am brisiau diweddar. Y cyf. lenwad yn helaeth. J
MARCHNAD GWLAN.
MARCHNAD GWLAN. Dydd Llun. Er terfyniad yr arwerthiadau cyhoeddus ychydig fu y fasnach mewn gwlan trefedigaethol. Araf y gwerthai gwian cartrefol am biisiau. blaenorol.
|MARCHNAD LIVERPOOL.
MARCHNAD LIVERPOOL. Dydd Mawrth. Y mae masnach fywiog wedi bod ar hyd yr wythnos, ac o herwydd y prmder mawr o wenith bu codiad o 6c y canpwys. Yr oedd y blawd o 2s i 3s y sach yn uwch. F y
MARCHNADOEDD CYMREIG.
MARCHNADOEDD CYMREIG. LLANERCHYMEDD, Medi 25.-Gwenith, o 60s Oc i 61s Oc y chwarter; haidd o 35s Oc i 36s Oc y chwarter; ceireh o 21s Oc i 22s 0c y chwarter; pytatws Os 6c y can pwys • ymenyn fires, 12c i 12c y pwys; cig eidion, o 7c i 8c y pwys • cig dafod, o 7c i 8e y pwys; cig llo o 00 i Oc y pwys cie moch fires, o Oc i 00 y pwys. ° LLANGEFNI, Medi 27.-Gwenith, o 59s Oc i 61s 00 y chwarter; haidd, o 34s 00 i 36s Oc; ceirch newydd, o 21s Oc i 23s Oc; ymenyn fires, o 13c i 13c y pwys; hallt, o tc i Oc y pwys; cig eidion, o 7c i 9c; cig dafad, o 7c i 8c; cig llo o Oc i oc; pytatws, Oc y pwys1 MACHYNLLETH, Medi 25.-Gwenith, o 30s 6d i 32s Oc y pwn; haidd o 6s Oc i 6s 6c y Winchester; ceirch, o 3s 6c i 4s 60; ffa, o 00s Oc i 00s Oc eto; blawd ceirch, o 41s Oc i 43s Oc y 240 pwys; pytatws, Oc y pwys; ymenyn fires, o 11c l 12 y pwys; ymenyn llestri, o 00c i 00c y pwys Clg eidion o 8c i 8|e y pwys; cig dafad, o 7Jc i 8c y pwys • gwer, o 54C I 6c y pwys. EHUIHYB-, Medi 30.-Gwenith, o 21s 00 i 22s Oc yr hob; haidd, o 14s 00 i 14s Oc yr hob; ceirch, o Os Oc i Os 00 yr hob; blawd ceirch, o 2s Oc i 2s Oe y phiolaid; pytatws, Os Oc i Os Oc yr hob; ymenyn fires, o 121-c i 13e y pwys; cig eidion, o 8c i 9c; cig dafad, 8c i 9c y pwys. a WYDDGEUG, Medi 25.-Gwenith, 22s Oe i 22s be yr hob; haidd, 14s 00 i 15s Oc; ceirch, OOs Oc i 00s Oc; pytatws, Os i Os • ymenyn, 13c i 14c y pwys. BAHGOR, Medi 27. Gwenith, o 60s 0c i 62s Oc y chwarter • haidd, o 35s 0c I 36s Oc; ceirch, o 22s Oc i 24s Oc: blawd ceirch' o 39s i 41s y 240 pwys; ymenyn ffres o 14c i 15 y pwys; cie eidion, o 7c 18c y pwys. < & CABBYNABION, Medi 28.—Gwenith o 59s 00 i 62s Oc y chwarter haidd, 35s Oc i 37s Oc y chwarter; ceirch o 22s Oc i 26s Oc y chwarter; blawd ceirch, o 40s i 41s Oc y 240 pwys; ymenyn ffres, 150 i 16c y pwys, LLANDEILO, Medi 28.-Gwenith, o 8s 6c i 9s Oc ybwsel; haidd o 5s Oc i 5s 5c y bwsel; ceirch, o 3s Oc i 3s 6c y bwsel; blawd ceirch, o z.¡e i 3c y pwys; pytatws 6c yr wyth pwys; ymenyn ffres, 0 10c i le y pwys; cig eidion o 7c i 8c y pwys; cig ddfad o 8c i 9c y pwys. -ABKETEIPI, Medi 28. Gwenith o 7s i 8s y bwsel; haidd o 4s 1 5s; ceirch e 2s 3c l 2s 9c. CAEBFXBDDIH-, Medi 28.-Gwenith o 7s 4c i 8s 3c y bwsel o 64 pwys; haidd o 4s 4c i 5s 3c y bwsel o 54 pw-ya; ceirch o 38 2c i 3s 6c-ceirch newydd o 2s 4c i 4s y bwsel o 40 pwys; blawd o 44s i 54s y sach. ABERGELE, Medi 28.—Gwenith o 20s 6c i 21s yr hob; haidd o 128 i 13s 6e yr hob eeirch o 7s 6c i 8s 60 yr hob; blawd ceirch o 38s i 40s y 280 pwys. BALA, Medi 28.-Gwenith newynd o 35s i 35s 6e y pwn; haidd o 12s i 13s yr hob; ceirch o 8s i 9a yr hob; cig eidion o 6!c i 8c y pwys. COKWEN, Medi 27.—Gwenith o 35s i 37s y pwn; haidd o 12s i 13s yr hob; ceirch o 8s i 9s yr hob; blawd ceirch o 42s i 428 y pwn; cig eidion o 6c i 70 Y pwys; cig nafad o 7c i Sle y pwy's; cig llo 0 Oc i Oe y pwys; ymenyn ffres 0 12c y pwys; ymenyn flestri o Oc i Oc y pwys. CBOESOSWAIILT, Medi 95.-Gwenith newydd o 9s Oc i 9s 6e; haidd at fragu o 5s 6e i 6s 2c; eto at falu o 5s Oc i 5s 9c; ceirch o 4s Oc i 4s 6c. DINBYCH, Medi 25.-Gwenith o 20s te i 21s Oc yr hob; haidd o 14s 00 i 15s Oc yr hob; ceirch o 9s 00 i 10s yr hob ffa o Os 00 i Os Oc yr hob; blawd ceirch o Os Oc i Os 00 yr hoh; pytatws o Os 0c i 0s Oc; ymenyn fires o 12c i 14c; ymenyn llestri o 12|c i 12^c y pwys.
Family Notices
tntdigatthau. Medi 28, priod Mr D. Griffiths, Tredegar Street, Caerdydd, ar fab. M di priod Mr John Jones, 2 Fisick Street, Earlestown, ar fab. ftfotea#. Medi 26, yn nghapel yr Annibynwyr, Dinbych, gan y Parch. T. E. Evans, diweddar o Manchester, Mr Edward Lloyd, Man- chester, a Miss Leah Pierce, trydydd ferch Mr Robert Pierce, Park Lane farm, Green, Dinbych. Medi 28, yn nghapel y Trefnyddion Caifinaidd, Grosvenor Square, Manchester, gan y Parch. D. Lloyd Jones, Gartside Street, Mr Cornelius Hughes o Manchester, a Miss Mary Davies, Plymouth Grove, 3. Manchester, merch Mr Robert Davies, Rhyl. atWølattkau. Medi 25 yn 68 oed, Mr Robert Owens, Beaufort Street, Liverpool' Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol yn mynwenfc kaint James, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. X. Stephens a'r Parch. D. Saunders. Yr oedd Mr Owens yn uu o r eelodau hynaf yn Ebenezer, Beaufort Street. Medi 27, yn Lower Norwood, Mrs Jones, anwyl briod y Parch Thomas Jones, Llundain, gynt o Dreforis. Medi 28, William Owen Williams, yn 6 mis oed, maban Mr Thom,es Williams, 5, Samuel Street, Birkenhead. Argraflwyd gan John Morris, yn ei swyddfa, 21, Chapel Walks, South Castle-street, Liverpool, dros "Gwmm y Newyddiadur Cymreig" (Cyfyngedig). > —