Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYNYROHION AWENYDDOL YR WYL.

News
Cite
Share

CYNYROHION AWENYDDOL YR WYL. Dyfed, pan yn agor yr Eisteddfod- Eiliwn garol yn gywrain—i'r Wyl fawr Eilw fyd i Lundain; Ac hyd lwybrau'r Celfau cain, Daw henuriaid i'n harwain. Y ddawn a fedd awen fyw-allan dynn Y Llundeiniwr heddyw; Ac hudol fiwsig ydyw Dyrïau gwlad ar ei glyw. Darfu'r stanc a'i dirfawr stwr,—ar y beirdd Ni thyrr barn gorthrymwr Gweledig chwilfa'r gwladwr Fenyr tal heb ofni'r Twr. Er y dolur diheulwen,—a'r gwawdio Ar gedyrn Ceridwen, Lion o dan nawdd Llundain hen, Mae'n fyw Gymanfa Awen. Goleudeg Wyl Gwlad y G an—lie cynnull Cenedl i'r un llwyfan Adgofir aelwyd gyfan Yn nhy gwledd awenau glan. Arlwy Ner i lenorion,—arlwy fawr I lafurus feirddion; A llawnder di-bryderon Yw rheol aur yr Wyl hon. Daw i lonydd delynau-acen uwch, Ac yn ol daw'r llwythau I rwymyn hedd, er mwynhau Aelwyd hudol eu Tadau. Cawraidd arwyr cerddorol-daear fawr Yn dorfeydd aruthrol A dynnai hyd awenol Lwybrau teg i'r Albert Hall. Pedr Hir, yng nghyfarfod y prydnawn- Dyma fan lie mae canu-a llu glas Yr holl gler yn prydu Lion yw chwedl y genedl gu, Yma geir yn ymgaru. Dyma reddf yr Eisteddfod, Dyma'i phur natur a'i nod, Brawdoliaeth, heb roi dolur, Calon wrth galon a gur. Yma esgob a phob rhyw ffydd-yn ddynion Diddanwiw gyferfydd; Yma'r Sais yn Gymro sydd, A brawd yw pawb i brydydd. Yn yr Orsedd- -P_ Hwyliwn dant, mae Gwalia'n dod-yn swyn byd, Dan syn barch a mawrglod. 'Caiff Gorsedd fyw'n Eisteddfod—Baradwys Saif ar y Dafwys i fawrhau 'i defod. -Morleisfab. Mae'r Orsedd mewn hedd yn liau— Drwy gryno ddefodau, [Gwirionedd. Dan faner Gomer y Gau Ostyngir i ust angau. Y Brython ffyddlon i'w rhaid—a'i Orsedd Yngwersyll estroniaid; Pa le y ceir gwyr o'n plaid Yn dynnach na'r Llundeiniaid. -Bethel. Dyma Wyl dwym o Walia-feddianodd Brif ddinas Britannia; A'i naws eirias nis oera Yn neuadd hedd Albert Dda. Beunyddiol, diboen iddi-yw esgyn Dan wasgar goleuni; A'i denol wrid ddw'ed inni, Mai'n nhoraeth haul mae'i nherth hi. -Madryn. I'r bardd coronog- Argraffer y gair Gruffydd-ar fynor Feini yn dragywydd A rhanner trwy'r wybrennydd, Aur dant i arwr y dydd. -J. J. Williams. Tywysog enwog ei ynni-genaist A'i gynnar wrhydri O'r oesoedd hen y brysi, A ruban hardd ein Derby ni. -Bethel. Pryddestwr pen arwron-a gurodd Ein rhagoraf feirddion Yw'r gwr a biau'r goron 0 hawl wir yn yr wyl Lon. —Rhuddwaivr. A'i awen fel, os yw'n fain, Ein harwr a gurodd feirdd milain. -Brynfab.

[No title]

Am Gymry Llundain.

Y BUDDUGWYR YN EISTEDDFOD…