Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. EISTEDDFOD Y WESLEYAID.—Fel yr hys- bysir mewn colofn arall, wele'r beirniad- aethau ar y canu, gan Mr. Hugh Hughes, Treherbert:— Chwareu Buttercups and Daisies ar y berdoneg. Ymgeisiodd 16, o ba rai y dewiswyd tair i ymddangos ar y llwyfan. 1. Made several errors in reading. Finger- ing good. Style good on the whole. More light and shade required. 2. Very good. One mistake in A flat movement. Accelerated a little. Better style than No. 1. 3. Very good. Steadier in time. Ex- pression very good. One or two slips in reading. Best, No. 3, Miss Mary Morgan, Jewin. Second, No. 2, Miss Lily Jones, White- cross Street. Third, No. 1, Miss Violet Boyton, Stoke Newington. Cystadleuaeth Soprano, 0 na byddai'n haf." No. 1. A good voice, but hardly full enough in tone. The tone too wide on some vowels. Voice very unsteady in tone in one part. Recit very good. Last part was a repetition, as regards faults, of the first part. No. 2. A steadier noice the tone steadier. Better control over the voice and breath. A very correct rendering throughout. Best, No. 2, Miss Annie Thomas, Hackney. s CORAU PLANT. Yr Udgorn a Gan." Dau gor yn ymgeisio, yn y drefn ganlynol: (1) Cor Mile End, arweinydd, Mr. Evan Morris; (2) C6r Falmouth Road, arweinydd Mr. John Morgan. Wele'r feirniadaeth Mewn datganiad da, y mae yn ofynol cael cyd-symudiad da; i gael y goreu allan o'r llais, i ofalu am beidio forcio y lleisiau. Rhif 1. Lleisiau o ansawdd dda. Yr alto yn rhy gryf bron drwy y darn, ond nid yn ddigon cryf pan ydoedd y sopranos yn canu'r nodau uchel. Nid ydoedd yr asiad yn gwbl dda. Tarawiad da-y peth goreu yn y cor. Yn yr ail symudiad yr oedd y donyddiaeth yn amhur. Nid oedd yn y datganiad ddigon o wahaniaeth cydrhwng y cryf a'r gwan, fel y dynodir ar y copi. Yr oedd y canu yn peri pleser, ond yr oedd yma ychydig gormod o ganu. Rhif 2. Lleisiau o ansawdd dda-mwy cydradd na Rhif 1. Y soprano yn dda, yn uchel ac isel. Yr asiad yn well. Yr oedd y lleisiau yn colli mewn tarawiad, ac nid oeddynt yn cyd-symud yn foddhaol. Y lliwiad yn well. Y donyddiaeth yn well- llai o forcio. Gwobrwyd Rhif 2, sef Cor Falmouth Road. UNAWD TENoR. Baner ein gwlad." Detholwyd dau allan o saith. Y sylwadau Rhif 1 (Gwilym). Dechreuad da, ond wedi hynny yn canu yn rhy esgeulus. Y llais yn cael ei or-wasgu ar brydiau, a'r donyddiaeth yn amhur mewn un man. Rhif 2 (Festin). Y mynegiant yn llawer gwell na chan Gwilym. Gwell ardull. Pe buasai'r llais yn gryfach buasai y datganiad yn well fyth, ond gwnaeth lawer gyda'r lais. Gwell datganiad drwyddo. Dyma'r goreu, sef Mr. W. H. Jones, Charing Cross. UNAWD CONTRALTO. Seekye the Lord." No. 1. This lady had a good voice, but there was too much difference between the top and low registers, the former being undeveloped. Hence the wording suffered. Expression throughout good. No. 2. Better voice, more developed. Did more justice to the song. Taken altogether, this was the best rendering. Name, Miss Barker Danes, Harringay. DARN I BARTI. Blodeuyn bach." Ym- geisiodd pedwar, sef- 1. King's Cross, arweinydd Mr. Stanley Davies. 2. Brixtonians, arweinydd Mr. Joseph Davies. 3. Oralites, arweinydd Mr. C. D. Davies. 4. Cambrian, arweinydd Mr. Tom Jones. Nid oedd amser i roddi'r feirniadaeth ond wele ychydig o sylwadau o'r eiddof. Rhif 1. Lleisiau da, yn ymdoddi yn dda i'w gilydd, a'r cydbwysiad yn dda. Dat- ganiad chwaethus drwyddo. Rhif 2. Yn amlwg nid ydoedd yma gystal lleisiau, fel nad oedd y donyddiaeth mor bur. Rhif 3. Rhai lleisiau amhur ymhlith y sopranos. Ymgais dda at fynegiant, ond nid cystal ymdoddiad yn y lleisiau, na chystal arddull a chan Rhif 1. Canodd Rhif 4 gyda chyf- eiliant, yr hyn ydoedd fantais iddo, ond nid digon i guddio y diffyg mewn cydbwysedd. Gwobrwywyd Rhif 1, ac yr oedd yn wir deilwng. PEDWARAWD. Regular Royal Qiweri." Dim cystadleuaeth. Gresyn i ddarn o'r fath gael ei anwybyddu CAN i FARITONE.—" Brad Danyrafon." Dewiswyd dau i'r llwyfan. Rhif 1. Meddai hwn lais rhagorol, a rhoddodd ddatganiad ardderchog o'r gan. Yr oedd y Recit gyntaf yn rhagorol, a'r nodau cromataidd yn neullduol dda. Yn yr ail ran nid oedd un nodyn yn foddhaol, yn niwedd y Recit. Nid oedd y symudiad nesaf yn llawn ddigon hamddenol. Yr oedd y rhan ddilynol yn ysblennydd. Da hefyd ydoedd y rhan olaf. Broddegiad da drwyddo. Rhif 2. Llais da, ond llai ystwyth na Rhif 1 yn y rhannau dramataidd. Yr oedd yn colli ychydig, hefyd, mewn mynegiant yn y Recits. Anys- twythter yn y llais ydoedd bai hwn. Goreu, Rhif 1, Mr. John Hughes, City Boy." Dwyawd, "Baner rhyddid."—Dau barti yn ymgeisio. Ni roddwyd beirniadaeth ar y canu, ond gwobrwywyd Mr. W. H. Jones (tenor) a Mr. Bronant Jones (baritone), Stratford. Lleisiau rhagorol, a datganiad campus. Y BRIF GYSTADLEUAETH.—Canodd pedwar cor, sel- 1. Willesden District Choir, arweinydd Mr. Waddell. 2. City Road and Jewin, arweinydd Mr. Tim Evans. 3. Falmouth Road, arweinydd Evan Jones. 4. King's Cross, arweinydd Mr. Stanley Davies. Y darn ydoedd Ein Hior! Ben llywydd," a'r wobr ydoedd pymtheg punt. Y FEIRNIADAETH.—Yn ein sylwadau rhag- arweiniol, sylwodd Mr. Hughes fod yn ofynol, i ddarn fel hwn, i gael cyfangorph o leisiau cryfion. Lleisiau cryf ym mhob rhan, fel ag i osgoijorcio. Dywedai fod yn angen- rheidiol meddu meddylddrych benodol (a fixed idea), a gweithio honno allan yn bri- odol. Fel hyn, yn unig, y ceir ystyr allan o ddarn. Cor Rhif 1. Lleisiau rhagorol ym mhob adran; yn asio yn rhagorol. Cydbwysiad da iawn. Tarawiad (attack) da, oddigerth mewn un neu ddau o fannau gyda'r sopranos, ar y geiriau Arise." Agorwyd yn rhagorol, dim gor-wneud yn y mynegiant. Gallasai rhannau y fugue fod yn well yn y climax gallesid cynnyrchu mwy o effaith. Yr oedd y symudiad olaf yn dda drwyddo, ond collai yr effeithiolrwydd yn y climaxes. Ar y cyfan datganiad rhagorol ydoedd hwn. Rhif 2. Lleisiau da, cryf. Nid ydoedd yr asiad cystal a'r eiddo Rhif 1. Nid ydoedd y datganiad mor Ian. Yr oedd y tenors yn forcio ar y rhannau uchel. Yr oedd gollyngdod y don (tone) yn rhy nerthol (forcible). Nid ydoedd y broddegiad yn ddigon gorphengar. Yr ydoedd y tenors yn gwneud y don (tone) yn aneglur (blurring the tone) yma a thraw. Datganiad grymus drwyddo, ond nid digon urddasol. Rhif 3. Y lleisiau heb fod cystal—llai cyfoethog na'r eiddo Rhif 1 a 2. Yr ydoedd ansawdd lleisiau y sopranos ychydig yn deneu, a phrin yr oeddynt yn ddigon nerthol i ddarn fel hwn. Rhan wan y cor hwn ydoedd y tenor andwyodd y cor! Yr ydoedd y bass ychydig yn rhy gaeth (closed) o ran ton (tone) wrth gychwyn y fugue. Aeth y cor allan o don (tune) ar tudalen y burned. Yr ydoedd yma ormod o frwdfrydedd-y meibion oeddynt i'w beio am hyn. Rhif 4. Lleisiau rhagorol: pob adran yn dda. Agoriad" da iawn. Hysbyswyd y testyn gan y Basses yn neullduol dda, a gweithiwyd y fugue gan y cor i bwynt (climax) effeithiol-gwell nag a wnaed gan yr un o'r corau ereill. Yr oedd y rhan olaf yn wir dda. Yr hyn oedd yn nodweddu y datganiad hwn ydoedd ,mawredd (majesty). Yn sicr dyma'r datganiad goreu. Gwob- rwywyd Mr. Stanley Davies yng nghanol uchel gymeradwyaeth, ac yn wir yr oedd yn gwbl haeddu y clod a'r wobr am waith ysblenydd ei gor. Teimlaf yn falch o'r cor hwn-un allai guro cor mor llwyddiannus a'r un Seisnig o Willesden. Gobeithio y cedwir ef ynghyd, ac y bydd iddo lwyddiant parhaus. Eisteddfod dda ydoedd hon. Yr oedd y darnau cerddorol yn rhai pur chwaethus. Arweiniwyd yn bur ddeheuig gan Mr. Maengwyn Davies. Pe nad felly, buasem yno hyd awr ffasiynol rhai Eisteddfodau, sef hanner nos Y cyfeilwyr oeddynt Mrs. Nellie Jones a Mr. David Richards. MR. STANLEY DAVIES.—Mae'r arweinydd ieuanc hwn i'w longyfarch ar lwyddiant ei gor yn yr Eisteddfod hon. Un o fechgyn Sir Benfro yw Mr. Davies, ac mae'n ganwr o gryn fri ei hun. Gyda'r fath gor ag sydd ganddo tan ei ofal ar hyn o bryd, dylai wneuthur llawer er adenill bri ein canu corawl yn y ddinas hon.

[No title]