Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. GvDA'R SAESON.—Nos lau nesaf cynhelir Eisteddfod fawr ynglyn a chapel yr Ani- bynwyr Seisnig yn Gunneisbury. Mae amryw o gystadleuwyr Cymreig yn bwriadu bodyno. CiNio SYR SAM.—Nos Sadwrn nesaf, Slain, rhoddir y cinio croesaw i Syr S. T. Evans gan wyr Morganwg yn yr Holborn Restau- rant. Addawa amryw o'r aelodau Cymreig fod yn bresennol. CADW'u HupDDAS.—Ni ddaeth end dau aelod Cymreig i gefnogi Mr. W. Llewelyn Williams yng nghinio Gwyl Dewi, er fod niter o honynt o gylch y Ty ar y noson. Wedi iddynt ddeali nad oedd Birrell yn dod, cadwasant draw am nad oedd y cwmni yn ddigon bynheddig iddynt gyd-gymysgu a hwynt! Ar adeg etholiad, er hynny, mae Cymry Llundain yn ddigon da i ofyn eu cynorthwy gan yr un personau PEN TYMOR.—Deallwn mai Syr S. T. Evans fydd un o brif siaradwyr cyfarfod olaf Undeb y Cymdeithasau Llenyddol ar ddiwedd y mis hwn. Mr. John Hinds, Blackheath, yw'r llywydd am y tymor hwn, ac mae wedi gwneud ei waith yn rhagorol, hefyd, a diau y ceir cynulliad mawr etc i dertynu'r tymor. Yn yr un cyfarfod ceir araith gan y Parch. Elvet Lewis. Y CoMisiWN.—O'r diwedd mae aelodau'r Welsh Church Commission" wedi dod i Lundain, ac ar ol dechreu ar eu gwaith yr wythnos hon mae argoel y ceir naill a'i adroddiad neu gweryl cyn bo hir. Ditrio eu gilydd fu gwaith yr aelodau yr wythnoa hon, y naill blaid yn beio y Hall am ohirio'r eisteddiad mor hir. DiM CLOD.—Pa Ie 'roedd aelodau pwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol nos lau cyn y diweddaf ? Ni welwyd dim ond rhyw banner dwsin neu ddwsin o'r pedwar ugain yn cymeryd dyddordeb yn Eisteddfod fawr City Road yn Shoreditch Town Hall. Gallem feddwl, os ydynt y fath eisteddfod- wyr ag yr honant fod, y gwnai gwyl bwysig fel hon apelio atynt am eu cefnogaeth o leiaf. ANRHYDEDD i ViNCENT.—Da gennym weled fod Mr. Vincent Evans wedi cael ei benodi gan Arglwydd Crewe fel un o lywiawdwyr y Urifysgol Gymreig yn lie y diweddar Syr Lewis Morris. Mae Mr. Evans yn bleidiwr selog i'r brifysgol ac addysg uwchraddol ein cenedl, a sicr y gwna aelod benigamp o'r cyngor pwysig hwn. LEWISHAM.—Ynglyn a'r nodyn ymddang- osodd mewn rhifyn diweddar o'r CELT mewn perthynas i'r Faelor sydd i'w chynnal yn Falmouth Road ym mis Hydref, dymunem alw sylw arbennig ein darllenwyr mai er lleihau y ddyled sydd ar y ddiadell fechan yn Lewisham y cynhelir hon. Hyderwn y rhydd Cymry Llundain bob cymorth i'r mudiad hwn oherwydd y mae'r cats yn un teilwng o'n sylw a'n cydweithrediad. ADVERTEISIO O'R SET FAWR.—" Aethum ar ymweliad ag un o'n prif eglwysi un nos Sul yn ddiweddar," ysgrifenna gohebydd atom, "a synwyd fi yn fawr gan niter y cyhoeddiadau cynredinol a wnaed o'r set fawr. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i bron yr oil o'r hyn a hysbysebid yn y CELT yr un wythnos, ag eithrio baco Ringer a'r fasnach ? laeth. Oni fyddai yn well i'r gweinidog a'r cyhoeddwr gymhell y gwrandawyr i sicrhau ] rhifyn o'r CELT na dwyn i fewn y fath fan- < ylion i dorri ar werth y bregeth." ] YR HEN GwYN.—Mae'r gohebydd yn enwi yr eglwys, end gwell gennym adael yr enw allan. Yr hyn sy'n hynod am y lie yw fod y swyddogion yno yn barnu'r CELT yn rhy lydol i gael mynediad i mewn yno ar y Sul. Gadewir i banner dwsin o gyhoeddiadau yr enwad gael pob cyhoeddusrwydd yno, ond rhaid i'r papur hwn arcs o'r tuallan, a hynny, feallai, er mwyn i'r cyhoeddwr gael dangos ei ddawn fel hysbysebwr y man gynulliadau Cymreig. WALHAM GREEN.—Y Gymdeithas Ddiwyll- iadol.—Nos Fercher, 4ydd cynsol, darllen- wyd papyr tra dyddorol o flaen aelodau y Gymdeithas hon gan Mr. John Hughes, ar y testyn, Adgonon am hen Sassiynau Cymru." Daeth cynulliad cymharol dda ynghyd, a chymerwyd y gadair gan y llywydd. Ar y diwedd caed ychydig syl- wadau gan y Parch. Thomas Jones (Cen- hadwr), a'r Mri. J. W. Thomas, ac R. Morgan, ynghyd a'r llywydd. R. MARWOLAETH MRS. MORGAN, BRIXTON.— Gauaf glas mynwent fras," oedd ddywed- iad yr hyna-naid. Felly y 1m y gauaf eleni. Amryw o Gymry ein dinas a hebryngwyd i'w beddau, ac yn eu mysg y foneddiges rinweddol uchod. Ganwyd Annie Morgan Gorphenaf 31, 1864, yn Tymawr, Mallwyd, yn Swydd Feirionydd. Enwau ei rhieni oeddynt William a Jane Jones. Ei mam sydd ferch i John Morgan, Pandy, Taly- bont; ac felly yn un o dylwyth y diweddar Hybarch William Evans, Aberairon. Gan- wyd i William a Jane Jones saith o blant, sei Mary, Annie, Jane, Margaret, John Morgan, Elizabeth, a William. Yn 1870 symudodd y teulu o Tymawr i Cwm-meidrol, Cwmllynau, yn Swydd Drefaldwyn, ac addolent yn eglwys Sammah, dan weinidog- aeth y Parchn. Hugh Morgan a Richard 0. Evans. Bu farw y tad yn Cwm-meidrol, a cbladdwyd ef yn y gladdfa wrth addoldy Sammah. Symudodd Mrs. Jones a'i phlant i dref Machynlleth i gadw masnachdy, ac oddiyno i Lundain ym Mai, 1883, i gario ymlaen fasnach yn 26, Newcomen Street, Boro'. Priododd Annie a Thomas Morgan, mab John a Gwenllian Morgan, Rhiwlas, Cilcenin, Gorphennaf 7, 1885, a buont yn carlo ymlaen fasnach yn Southwark Bridge Road, a Webb's Road, Clapham Common. Bu ei phriod Thomas Morgan farw lonawr, 1888; cludwyd ei gorff adrei i Cilcenin i'w gladdu. Bu Gwenllian, unig blentyn Mr. a Mrs. Morgan, farw yn 1890, a chladdwyd hi yn Nunhead. Bu Mrs. Morgan er hynny hyd ei marwolaeth yn rheoli mas- nachdai bwyd cwmni yr Express Dairies yn Llundain. Cartrefai ei mam a hithau yn 23, Mostyn Road, Brixton. Wyth mlynedd yn ol deallodd ei bod yn dioddef oddiwrth chwydd yng ngwaelod y gwddi, exophthalmic goitre. Gwanhaodd y dolur hwn hi yn fawr ac mewn trefn i gael cwbl wellhad o hono aeth ar gynghor meddyg enwog i Glafdy Saint Thomas, Chwefror 17, mewn trefn i fyned dan driniaeth feddygol yn y gwddf. Dydd lau, Chwefror 20, cyflawnodd Dr. Balance y driniaeth yn llwyddianus, ac yr oedd Mrs. Morgan yn gwella yn araf i bob ymddangosiad. Ond am banner awr wedi pump bore Gwener, Chwefror 28, bu farw yn sydyn ryfeddol o fethiant y galon. Taenodd y newydd don o brudd-der dros holl eglwya y Boro' yn gystal a chylch eang o'i chydnabod a'i chyfeillion lliosog. Der- byniodd ei mam niter liosog o lythyrau cydymdeimladol a'r teulu yn eu colled a'u hiraeth dwin. Ysgrifena pril gyfarwyddwr cwmni yr Express Dairies, George Titus Barham, Ysw. "I had a very high regard for her, and during all the years I had known her had always held her in the highest esteem. We shall, indeed, miss her, and her place will be hard to nil." Yr oedd ei gallu masnachol, ei medr i reoli personau, ei barn addfed, ei chraffder i ganfod pob symudiady ei gofal o fuddiannau y cwmni a'i chws- meriaid,ei nyddlondeb diwyro i'r gwirionedd, a'i sirioldeb gonest yn ei gwneud yn wir werthfwr yn ei holl gylchoedd. Ni wnai hi ddrwg i neb gwnaeth les i ugeiniau a torched dibronad fuont dan ei gofal. Daetb parch dwfn y cyfryw iddi yn amiwg ddydd ei hangladd—wylai llu o honynt uwch eT bedd megis ar ol mam. Bu Mrs. Morgan, megis ei theulu yn Newcomen Street, yn ffyddlon yn eglwys y Boro'; ac y mae gan yr eglwys oil barch dwfn i'w choNadwriaeth. Daeth tort gref i'w hangladd ddydd lau,, Mawrth 5, i Nun head. Gorchuddiwyd ei harch gan ei chyfeillion a'i hedmygwyr a, blodeadyrch heirddion. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parchn. D. C. Jones, Boro', a Goronwy H. Evans, Worthing. Gorph- wysed y ddaear yn ysgafn ar ei harch yn Nunbead, a bydded nodded ddwyfol dros ei hanwyl fam a'r teulu yn nyddiau eu galara'u' colled fawr. Mae ei brawd, Mr. William Jones, newydd lanio yn Wellington, New Zealand, ar ei ffordd i un o ynysoedd Mor y De, lie y bwriada gartrefu am ysbaid er lies i'w iechyd. CHARING CRoss RoAD.—Oynhaliwyd cyf- arfod amrywiaethol cyntaf aelodau Cym- deithas y Llyfrgell nos Wener diweddaf, dan lywyddiaeth y Parch. Peter Hugh Griniths, A. 0. Da vies, Ysw., cadeirydd y Gymdeithas, yn arwain. Oafwyd caneuon, deuawdau, a& adroddiadau amrywiol gan Misses Bessie- Williama, Mabel Pugh, Ethel Jones, a Bessie Jones, yngbyda Mri. H. Morris, A. E. Bennett, Lloyd Jones. D. J. Davies, Herwen Davies, D. Parry, H. Knight, ac R. G. Davies, a pharatowyd danteithion gan Mrs. Williams, Argyle Street, a Miss Roberts, Harley Street. Da oedd gweled cynifer wedi dyfod ynghyd i'w mwynhau, a phronad pawb oedd ein bod wedi arcs yn rhy hir heb ddechreu ar gyfarfodydd o'r fath dan nawdd y Gymdeithas er ychwanegu at ei lliaws manteision. Ymunodd amryw o ael- odau newyddion. R.G.D. EALiNG.—Trwy garedigrwydd Mr. a Mrs. Gray, Clovelly Road, mwynhawyd noson lawen arall yn Swift Assembly Rooms, Ealing, nos Fercher, Chwefror 26ain, pryd y dath lliaws o aelodau Eglwys Ealing a chyfeillion ynghyd i wneud cyfiawnder a'r digonedd o wahanol ddanteithion melus a. ddarparwyd gan y cyfeillion caredig uchod. Cymerwyd y gadair ar yr achlysur hwn gan William Harries, Ysw., Portobello Road, a dangosodd ei gydymdeimlad a'r achos da, sydd wedi ei gychwyn yn y lie trwy gyfranu yn haelionus. Yr oedd gwledd i'r meddwl wedi ei darparu, yn ogystal ag i'r corph fel ycanfyddirynyrhaglen ganlynol. Agorwyd y cyfarfod trwy chwareu y berdoneg gan Mr. Leo Edwards can, Dewch i'r Frwydr/' Mr. Clifford Evans; can, "Why those sad tears," Mrs. Styles; adroddiad, Master Clifford Evans can, Breuddwyd y Morwr Bach," Mr. W. Richards, ac ailganodd Pe cawn i hon can, Farewell," Miss Annie Price, ac ailganodd The Night." Adrodd- wyd Y Crwydryn" gan Mr. Esmond Evans yn ei ddull arferol; can, Cwm Llewelyn," Mr. Gillett. Yn yr ail adran o'r rhaglen chwareuwyd ar y berdoneg gan Mr. Leo Edwards; can, "Yr Hen Gerddor/' Mr. Williams, ac ailganodd "Nirvana"; can, "Promise of Life," Mr. W. Richards; can, Gleaner's Slumber Song," Miss Annie Price. Adroddiad gan Mr. Esmond Evans can, "The Lighterman Tom," Mr. Gillett; can. "The Soul's Awakening," Mrs. Styles. Cyfeiliwyd gan Mr. Gillett. Terfynwyd trwy ganu Duw gadwo'r Brenin ac Hen. Wlad fy Nhadau."