Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

DAL yn wael y mae Mr. Frangcon Da.vies, a mwy fwy anhebyg y daw yn fuan yn ol i gymeryd ei le fel datganwr. Mae amryw o'r ymrwymiadau yn cael eu tynnu yn ol. MAE adfywiad rhyfedd ym mysg y tafarn- wyr y dyddiau hyn, a sonir am ffurfio undeb- au ym mhob ardal er amddiffyn hawliau y Dafarn a'r Eglwys. UN o'r arweinyddion cerddorol mwyaf ,addawol yng Nghymru oedd y diweddar Mr. D. Haydn Richards, R.A.M., arweinydd Cor Meibion Bargoed, a gladdwyd yr wythnos o'r felaen yn ddim ond chwech a'r hugain oed. Yr oedd deng mil o bobl yn ei gladdedig- aeth. Ganed ef yn Rhymni, a danghosodd dalent gerddorol anghyffredin yn ieuanc iawn. Arweiniodd Gor Bargoed mewn pymtheg o eisteddfodau, ac enillodd mewn naw o honynt. HEN Gymro gwych oedd y diweddar Theophilus Rees, ficer Llaneurwg. Yr oedd yn bregethwr da, a'i Gymraeg bob amser yn werth ei chlywed. Nid oedd dim a'i cythruddai gymaint a chlywed Cymraeg sal a llipa. Yr oedd yn wael ei iechyd ers blynyddau, ond yn para yn siriol hyd y diwedd. Ni fynnai alw Llaneurwg yn St. Mellons," ac yr oedd yn elyn penderfynol i'r arfer o droi hen enwau Cymraeg tlysion yn rhyw fath o enwau Saesneg llipa a diflas.

Advertising

Am Gymry Llundain.