Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

CYMANFA'R PLANT.

Bwrdd y Gol.

News
Cite
Share

Bwrdd y Gol. Y tant lleddf a nodweddai'r beirdd yr wythnos hon, pan yn dyfod o gylch y Bwrdd, ac nid yw hynny'n syndod, canys wythnosau'r galar fu y rhain. Er hynny rhaid peidio anobeithio, canys gyda sirioldeb heulwen hafaidd Fehefin daw y nodyn lion eto i sirioli pawb o deulu'r aelwyd 'hon. Un o'r rhai cyntaf i annerch y cynulliad oedd E.H., yr hwn gymerodd at y mesurau caeth i ganu ei hiraeth am y teyrn y bu pawb yn galaru am dano yr wythnosau diweddaf, sef Y BRENIN IORWERTH VII. Mewn heddwch boed llwch ein Ilyw-Oedd Heddychwr dynolryw [iachus, Teyrnasai, e fynnai fyw, I rwystro pob oer ystryw. Nid oedd dig anedwydd don,—Na gwenwyn Yn gwanu ei galon Hyrwyddwr hedd, i'r ddaear hon, Yn wastad ei orchestion. Gwr enwog byw, goronog ben-ddysgodd Osgo'i deyrnwialen Hawliodd i'w ddeiliaid heulwen, Chwalai'r niwl a chliriai nen. Drwy osteg dirfawr dristyd—Ystyriwn Gyfleusterau adfyd Cofiwn mai eto cytyd I Reol fawr yr ail fyd. Willesden Green. E Ond nid yn y cylchoedd Brenhinol yn unig y mae galar, canys ychydig amser yn ol yr oeddem yn rhoddi hanes marwolaeth Cymro ieuanc dysgedig, yr hwn a dorrwyd i lawr pan ar ddechreu gyrfa a edrychai yn addawol iawn. Troion o'r fath hyn yw'r rhai sydd yn peri gwir dristwch ymhlith plant dynion, ac nid yw'n syndod clywed llais lleddf Gwyddfryn yn canu ei odl hiraethlawn :— TEYRNGED I'R DIWEDDAR BARCH. DANIEL JONES, M.A Curad Weston, Salop; mab Daniel a Thursa Jones, Pontrhydfendigaid. Bu farw Ebrill 19eg, 1910, yn 34 mlwydd oed. Mae'r ddyrnod yn arw 'does ond y Tad All ar y fath droion roi eglurhad 'Koedd llwyddiant yn gwasgar pelydrau mwyn Hoenusrwydd ei fywyd yn llawn o swyn. Agorodd fel rhosyn teg yn yr ardd, Ond gwywodd ar ddechreu y Gwanwyn hardd Daeth angau yn gynnar-hen frenin braw, I daro'r hoft Ddaniel a'i farwol law Olrheiniai hen hanes Eglwys ei wlad, Ei chynnydd a chrefydd y Tadau mad Yn hwyr ac yn foreu bu'n casglu nerth, Esgynodd, gorchfygodd y rhiwiau serth. Pan yn yr Athrofa un diwyd fu, Enillodd anrhydedd, graddau o fri Addfwynaf ei ysbryd, heb ynddo ddig, Fel craig oedd ei galon yn erbyn ffug. Pregethau yr Iesu, ac angau'r Groes, Yn Geidwad pechadur trwy'r lawn a roes. Ei symud a gafodd, cyn y prydnawn, Addiedodd yn addas i'r gwynfyd llawn. Difrifwch a llonder oedd ar ei wedd, Mwyneidd-dra a dewrder, ac ysbryd hedd Mae tristwch a hiraeth yn llethu'r fron, Ar ol un diddichell, anwyl a lion. Mewn heddwch yr hunodd-fel y bu byw. Esgynodd yn gynnar i Fynwes Duw. Mae yno mewn mwyniant heb boen na chlwy, Mewn perffaith hapusrwydd anfarwol mwy. Llundain. GWYDDFRYN. A thra yn gwrando fel hyn ar y caneuon lleddf yn cael eu traethu, daeth i'm cof yr awdl-farwnad oreu a welais er's talm. Mewn wyth llinell o fesur Hir a thoddaid y mae Sarnicol wedi canu coffa y llenor enwog y pregethwr craff a'r gweithiwr dihafal-y diweddar Barch. J. Hathren Davies, Cefn-coed- cymer, Merthyr. Dyma ddisgrifiad y bardd o'r gwr a edmygai mor fawr :— Efe, 'r aruthrol lafurwr, Hathren, Darawyd, dorrwyd, i lwch daearen, Y lienor hyddysg, y lion wr addien, Sy' nghudd dan orchudd y las dywarchen Llefarydd hoew, rheolydd trylen,— Ie, cawr ydoedd-uwch meib Ceridwen, Is yr Yw ceisia'r awen-weld ei bryd Hwynt i ing, adfyd, a thrin tynghedfen." Pa fardd allai ganu'n rhagorach, a pha galon allai ffrydio ei hiraeth gyda mwy o ddwyster a hyawdledd ? Ond gadawer y lleddf a'r hiraethlawn am y tro, a deued awen yr haf erbyn y rhifyn nesaf!

Advertising