Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
it- T T 77" DAIRYMEN supplied H fl III# In any part of London and Suburbs with H/1 M RICH, GOOD KEEPING MILK If I I in DIRECT FROM THE FARMS. I ■ H H H I J| B Over 50,000 Samples tested annually in our Laboratories. -m_ WHOLESALE ONLY. DAIRY SUPPLY CO., LTD,, Chief Oiffce: MUSEUM ST., LOIDOH, W.C.
CYMANFA'R PLANT.
CYMANFA'R PLANT. YSGOLION SUL M.C. LLUNDAIN. Pan y ceir gan dros dri chant o blant i gymeryd rhan mewn cystadleuon, hawdd deall y ceir cyfarfod lliosog. Dyna oedd nodwedd y cynulliad gafwyd yn Jewin nos Iau, Mai 26ain, pryd y cynhaliwyd y Gymanfa flynyddol ynglyn a phlant y Cyfundeb Methodistaidd yn Llundain. Hon ydyw eu gwyl fawr hwy, ac am fisoedd mae paratoi caled ar gyfer y gwahanol arholiadau a'r cystadlu mewn canu ac adrodd, &c. Drwy y gefnogaeth a roddir i'r mudiad, dengys y gwahanol eglwysi eu bod wedi sylweddoli eu dyledswyddau, canys po fwyaf y gofal am y rhai bychain hyn mwyaf oil y llwyddiant yn o blynyddoedd a ddel fydd ar y Cyfundeb ei hun yn y ddinas hon. Llywyddid y cyfarfod eleni gan Mr. John Jones, un o flaenoriaid parchus eglwys Jewin, a gwr sydd ar hyd y blynyddau wedi bod yn gefnogydd ffyddlon i wahanol fud- iadau y Cyfundeb. Y beirniaid oeddent:— Adrodd, Parch. T. Mardy Rees; Cerddor- iaeth, Mr. D. J. De Lloyd, Mus.Bac., Wool- wich Drawing, Mr. J. D. Jones, Wilton Square; Tonic Sol-ffa, Mr. Evan Jones, Falmouth Road Cyfeilydd, Miss J. Lucretia Jones, Jewin. Gwasanaethwyd fel ysgrifen- yddion y Gymanfa gan Mri. Tom Davies a W. Mendus Edwards, a rhaid cydnabod iddynt gael wythnosau diwyd i drefnu y llu man gystadleuon a osodwyd i'r plant. Rhoddwyd bri arbennig i'r Iaith Gym- raeg ynglyn a'r Arholiadau a gynhelir dan nawdd y Gymanfa, a llawen yw deall fod y fath nifer wedi ymgeisio, a sicrhau marciau digonol i gael tystysgrif y Cyfundeb. Oddi- wrth yr adroddiad sydd eisoes wedi ym- ddangos, gwelir fod yr enillwyr yn perthyn i bob eglwys yn Llundain, yr hyn a brawf y fath undeb yn ogystal a chydymgais sydd yn bodoli rhwng y gwahanol Eglwysi. Bu cystadlu caled yn y Gymanfa nos Iau, a rhoddir isod adroddiad lIawn a swyddogol °'r gwahanol gystadleuon a'r enillwyr. Prif ornest yr Wyl hon ydyw yr ymdrech gorawl am y Darian Arian am ganu. Eleni llwyddodd cor plant Falmouth Road i gipio yr anrhydedd, a llongyfarchwyd hwy yn yr Eglwys nos Sul gan y gweinidog-y Parch. S. E. Prytherch-am weithio mor dda yn yr Wyl y nos Iau cynt. Unawd i rai dan 8 oed—1, Gwen Morgan, Jewin 2, Maggie Lewis, Mile End 8, Maggie Olwen Lloyd, Jewin 4, Anne Elen Jenkins, Jewin. Unawd i rai dan lleg oed—1, May Thomas,Walham Green; 2, Maggie Thomas, Walham Green; 3, Maggie Evans, Falmouth Road 4, Myfanwy Evans, Portobello Road. Unawd i rai dan 14eg oed—1, Willie Morgan, Shir]and Road; 2, Mary Morris, Mile End; 3, Idwal Davies, Holloway; 4, Nancy Davies, Jewin. Unawd i rai dan 16eg oed-Maggie Morgan, St. Mary's Institute; 2, Kate Roberts, Lewisham; 3, Gwen Ashton, Clapham Junction 4, Jennie Davies, Lewisham. Deuawd i rai dan 16eg oed—1, Harold a Doris Williams, Clapham; 2, Marie Williams a Jenny Evans, Falmouth Road 3, Annie Morgan a Myfanwy Joel, Jewin 4, Maggie a Johnny Evans Falmouth Road. Unawd ar y Berdoneg i rai dan 12eg oed—1, Maggie Evans, Barnsbury; 2, Morgan Lloyd Howells, Jewin; 3, Nancy Davies, Jewin 4, Getta Davies, jewin. Unawd ar y Berdoneg i rai dan 16eg oed—1, Maggie Jones, Jewin 2, Bessie Thomas, Walham Green 3, Annie Davies, Portobello Road. Ton Efelychiadol (Action Song)-I, Parti Jewin, o dan arweiniad Mr. David Thomas, Morley Hall; 2, Parti Portobello Road, o dan arweiniad Mr. J. D. Roberts. Cor Plant-Dau gor yn cystadlu. Gwobr, "Tarian yr Undeb a F,2 2s.— 1, Cor Falmouth Road, o dan arweiniad Mr. Evan Jones, F.T.S.C. 2, Cor Jewin, o dan arweiniad Mr. David Thomas, Morley Hall. ADRODDIADAU. Dan 8 oed—1. Goronwy Oliver, Mile End 2, Willie Williams, Mile End 3, Llewelyn Wynne Roberts, Clapham. Dan lleg oed—1, Glenys Thickens, Willesden Green; 2, T. Meirion Lloyd, Walham Green; 3, Getta Davies, Jewin. Dan 14eg oed—1, Enid Thickens, Willesden Green; 2, Mary Morns, Mile End; 3, Oswal Lloyd Owen, Willesden Green. Dan 16eg oed—1, May Phillips, Hammersmith; 2, Eiddwen Thickens, Willesden Green; 3, Kate Roberts, Lewisham. Drwg gan yr ysgrifenyddion ddarfod i restr enwau'r ymgeiswyr yn Safon VI a VII (Iaith Gymraeg) gael eu gadael allan o'r CELT yr wythnos ddiweddaf. A ganlyn yw y rhestr:- Safon VI.—Arholwr, Mr. D. Jones Evans, Wilton Square. Marciau cyflawn, 100. David Thickens Adams, Willesden Green, 92. Ida Oliver, Wood Green, 86. Mattie Oliver, Mile End, 85. David Oliver Richards, Clapham Junction, 84. Jennie Davies, Lewisham, 78. Eiddwen Thickens, Willesden Green, 77. Einon Williams, Jewin Newydd, 74. Oswal Glyn Lloyd Owen. Willesden Mary Morris, Mile End ac Eunice Bebb, Shiriand Road, 71. Hugh Gwilym Hughes, Willesden Green Dorothy James, Jewin Newydd ac Enid Thickens, Willesden Green, 66. Maggie Jones, Jewin Newydd, 62. Lily Pugh, Jewin Newydd, 57. Margretta Morgan, Jewin Newydd; a Dorothy Williams, Falmouth Road, 54. Annie Davies ac Annie Morgan, Jewin Newydd, 50. Safon VII.—Arholwr, Mr. D. Jones Evans, Wilton Square. Marciau cyflawn, 100. Myfanwy Hughes, Shirland Road, 90. Annie Elizabeth Jones, Willesden Green, 80. Katie Davies, Willesden Green, 71. Gwilym M. Lloyd, Portobello Road, 63. John Richards, Willesden Green, 62. Margaret Mary Williams, Mile End Road, 56. William Jones Morris, Mile End Road, 55 John Owen Morris, Mile End Road, 53. Richard Davies, Jewin Newydd, 51. David William Evans, Mile End Road, 50. W. MENDUS EDWARDS, TOM DAVIES, Ysgrifenyddion.
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Y tant lleddf a nodweddai'r beirdd yr wythnos hon, pan yn dyfod o gylch y Bwrdd, ac nid yw hynny'n syndod, canys wythnosau'r galar fu y rhain. Er hynny rhaid peidio anobeithio, canys gyda sirioldeb heulwen hafaidd Fehefin daw y nodyn lion eto i sirioli pawb o deulu'r aelwyd 'hon. Un o'r rhai cyntaf i annerch y cynulliad oedd E.H., yr hwn gymerodd at y mesurau caeth i ganu ei hiraeth am y teyrn y bu pawb yn galaru am dano yr wythnosau diweddaf, sef Y BRENIN IORWERTH VII. Mewn heddwch boed llwch ein Ilyw-Oedd Heddychwr dynolryw [iachus, Teyrnasai, e fynnai fyw, I rwystro pob oer ystryw. Nid oedd dig anedwydd don,—Na gwenwyn Yn gwanu ei galon Hyrwyddwr hedd, i'r ddaear hon, Yn wastad ei orchestion. Gwr enwog byw, goronog ben-ddysgodd Osgo'i deyrnwialen Hawliodd i'w ddeiliaid heulwen, Chwalai'r niwl a chliriai nen. Drwy osteg dirfawr dristyd—Ystyriwn Gyfleusterau adfyd Cofiwn mai eto cytyd I Reol fawr yr ail fyd. Willesden Green. E Ond nid yn y cylchoedd Brenhinol yn unig y mae galar, canys ychydig amser yn ol yr oeddem yn rhoddi hanes marwolaeth Cymro ieuanc dysgedig, yr hwn a dorrwyd i lawr pan ar ddechreu gyrfa a edrychai yn addawol iawn. Troion o'r fath hyn yw'r rhai sydd yn peri gwir dristwch ymhlith plant dynion, ac nid yw'n syndod clywed llais lleddf Gwyddfryn yn canu ei odl hiraethlawn :— TEYRNGED I'R DIWEDDAR BARCH. DANIEL JONES, M.A Curad Weston, Salop; mab Daniel a Thursa Jones, Pontrhydfendigaid. Bu farw Ebrill 19eg, 1910, yn 34 mlwydd oed. Mae'r ddyrnod yn arw 'does ond y Tad All ar y fath droion roi eglurhad 'Koedd llwyddiant yn gwasgar pelydrau mwyn Hoenusrwydd ei fywyd yn llawn o swyn. Agorodd fel rhosyn teg yn yr ardd, Ond gwywodd ar ddechreu y Gwanwyn hardd Daeth angau yn gynnar-hen frenin braw, I daro'r hoft Ddaniel a'i farwol law Olrheiniai hen hanes Eglwys ei wlad, Ei chynnydd a chrefydd y Tadau mad Yn hwyr ac yn foreu bu'n casglu nerth, Esgynodd, gorchfygodd y rhiwiau serth. Pan yn yr Athrofa un diwyd fu, Enillodd anrhydedd, graddau o fri Addfwynaf ei ysbryd, heb ynddo ddig, Fel craig oedd ei galon yn erbyn ffug. Pregethau yr Iesu, ac angau'r Groes, Yn Geidwad pechadur trwy'r lawn a roes. Ei symud a gafodd, cyn y prydnawn, Addiedodd yn addas i'r gwynfyd llawn. Difrifwch a llonder oedd ar ei wedd, Mwyneidd-dra a dewrder, ac ysbryd hedd Mae tristwch a hiraeth yn llethu'r fron, Ar ol un diddichell, anwyl a lion. Mewn heddwch yr hunodd-fel y bu byw. Esgynodd yn gynnar i Fynwes Duw. Mae yno mewn mwyniant heb boen na chlwy, Mewn perffaith hapusrwydd anfarwol mwy. Llundain. GWYDDFRYN. A thra yn gwrando fel hyn ar y caneuon lleddf yn cael eu traethu, daeth i'm cof yr awdl-farwnad oreu a welais er's talm. Mewn wyth llinell o fesur Hir a thoddaid y mae Sarnicol wedi canu coffa y llenor enwog y pregethwr craff a'r gweithiwr dihafal-y diweddar Barch. J. Hathren Davies, Cefn-coed- cymer, Merthyr. Dyma ddisgrifiad y bardd o'r gwr a edmygai mor fawr :— Efe, 'r aruthrol lafurwr, Hathren, Darawyd, dorrwyd, i lwch daearen, Y lienor hyddysg, y lion wr addien, Sy' nghudd dan orchudd y las dywarchen Llefarydd hoew, rheolydd trylen,— Ie, cawr ydoedd-uwch meib Ceridwen, Is yr Yw ceisia'r awen-weld ei bryd Hwynt i ing, adfyd, a thrin tynghedfen." Pa fardd allai ganu'n rhagorach, a pha galon allai ffrydio ei hiraeth gyda mwy o ddwyster a hyawdledd ? Ond gadawer y lleddf a'r hiraethlawn am y tro, a deued awen yr haf erbyn y rhifyn nesaf!
Advertising
Francis & Thomas, Dairy and General Transfer Agents, 76 FINSBURY PAVEMENT, CITY (2 minutes walk Liverpool & Moorgate St. Stations). FOR SALE.- The City: 54 barns aU at 4d. qrt, offers. Owner retiring.—11 barns 4d.; shop £ 13 wk. Price 2350. Eiling: 26 barns 4(1.; i-eiit Z33; main road. 2490. Ealing 12 barns 4 i.; shop Z10 wk Price only £ 220. W.: 21 barns shop 215. Price £ 500. Croydon 16 barns 4d; offers. fine position. Surrey 24 barns all at 4d. on cart and pram; rent only jE26 excellent house. Price 2180.